Ask Dr Gramadeg: Enwau ag Ansoddeiriau a Rhifau / Nouns with Adjectives and Numbers

Gair sy'n cynrychioli person, lle, anifail, peth, neu syniad yw enw - yn Saesneg ac yn Gymraeg, rydych chi'n gallu rhoi'r fannod ('the') o flaen enw. Yn Sesneg, rydych chi'n rhoi'r fannod amhendant ('a/an') o flaen enw hefyd, er nad yw hon yn bodoli yn Gymraeg, e.e.

gwlad (b) country - y wlad (the country)
merch (b) daughter - y ferch (the daughter)
brawd (g) brother - y brawd (the brother)

Yn Gymraeg, fel mewn llawer o ieithoedd Ewropeaidd eraill (ond nid Saesneg), mae enwau naill ai yn 'gwrywaidd (g)' ('masculine') neu ynteu yn 'benywaidd (b)' ('feminine').

A noun is a word for a person, place, animal, thing or idea - or a word that ‘the’ can be placed in front of, e.g.

gwlad (b) country - y wlad the country
merch (b) daughter - y ferch the daughter
brawd brother - y brawd the brother

In Welsh, as in many other European languages (not English), these words are either feminine, marked (b) or masculine.

Gair sy'n golleddfu neu'n disgrifio enw yw ansoddair, e.e. 'brawd' sy'n golygu 'brother' (enw). Pa fath o frawd?

a big brother: brawd mawr
a little brother: brawd bach
a tall brother: brawd tal

Ansoddeiriau yw'r geiriau 'mawr, bach, tal'. Maen nhw i gyd yn disgrifio pa fath o frawd yw e.

An adjective is a word that describes a noun, e.g. brawd - brother (a noun). What sort of brother?

a big brother: brawd mawr
a little brother: brawd bach
a tall brother: brawd tal

Mawr, bach and tal are all adjectives. They all describe what sort of brother he is.

Brawd bach/Chwaer fawr - Mae enwau yn Gymraeg naill ai yn 'gwrywaidd (g)' ('masculine') neu ynteu yn 'benywaidd (b)' ('feminine'). Os byddwch chi'n disgrifio gair unigol benywaidd gan ddefnyddio ansoddair, a sain gyntaf yr ansoddair yw 'p, t, c, b, d, g, m, rh, ll', wedyn bydd treiglad meddal ('soft mutation') yn digwydd yn y sain hon, e.e:
chwaer fawr - a big sister
merch fach - a little girl
gwlad fach - a small country

Brawd bach/Chwaer fawr- Nouns in Welsh are either masculine or feminine. If you describe a feminine singular noun with an adjective starting with - p, t, c, b, d, g, m, rh or ll - it will take a treiglad meddal - soft mutation, e.g. chwaer fawr- a big sister, merch fach - a little girl, or gwlad fach - a small country.

Dylech chi sylwi ar y ffaith mai'r ansoddair sy'n dod ar ôl yr enw yn Gymraeg:

gwlad fach - a country small
merch fach - a girl little
brawd mawr - a brother big

Dyw'r treiglad meddal ddim yn digwydd gyda lluosogion, hyd yn oed os ydyn nhw'n dod o eiriau benywaidd, e.e:

merch fach - a little girl
merched bach - little girls

Notice, the adjective usually comes after the noun in Welsh:

gwlad fach: a country small
merch fach: a girl little
brawd mawr: a brother big

The soft mutation does not occur with plurals, even if they are from feminine words, e.g.

merch fach: a little girl
merched bach: little girls

Y Fannod ('The')

Os byddwch chi'n rhoi'r fannod (y 'the') o flaen enw unigol benywaidd, bydd yn achosi treiglad meddal i'r enw hwnnw, e.e:

gwlad (b): country - y wlad: the country
tre (b): town - y dre: the town
gardd (b): garden - yr ardd: the garden

Dylech chi sylwi ar y ffaith mai pan fydd treiglad meddal yn digwydd, bydd 't' yn newid i 'd', a bydd 'g' yn diflannu.

The

If you place ‘the’ - ‘y’ in front of a feminine singular noun it will take a soft mutation, e.g.

gwlad (b): country - y wlad: the country
tre (b): town - y dre the town
gardd (b): garden - yr ardd the garden

Notice - with a soft mutation, t>d and g disappears

Dau/dwy

Mae ffurfiau benywaidd ar y rhifolion 2, 3, a 4 yn Gymraeg, sef 'dwy, tair, pedair'. Rhaid defnyddio'r ffurfiau cywir gydag enwau benywaidd, yn hytrach na'r ffurfiau gwrywaidd 'dau, tri, pedwar'.

Mae'r geiriau 'dau' a 'dwy' fel ei gilydd yn achosi i'r gair sy'n dilyn yn syth ar eu hôl dreiglo'n feddal, e.e:

dau gi - two dogs)
dwy gath - two cats)

Dylech chi sylwi ar y ffaith mai enwau unigol sy'n cael eu defnyddio gyda rhifolion - 'dau gi' a 'dwy gath' ('two dog' and 'two cat') ac yn y blaen yn Gymraeg, nid 'two dogs' neu 'two cats' fel yn Saesneg.

Os byddwch yn ansicr beth yw cenedl ('gender') enw, byddwch chi'n gallu defnyddio 'dau/tri/pedwar' ar lafar.

Dau/dwy (Two)

There are feminine forms of 2, 3 and 4 in Welsh. These must be used instead of dau, tri, pedwar with feminine words.

Both dau and dwy cause a soft mutation to any words that follow them, e.g:

dau gi (two dogs)
dwy gath (two cats)

Notice - singular nouns are used with numbers - two dog, two cat etc. in Welsh, not two dogs / cats as in English.
If you’re unsure of the gender of a word use dau/tri/pedwar in speech.

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

1. Mae'r tad tal yn yr ardd fach
The tall father is in the small garden

2. Mae tad tal mewn gardd fach
There is a tall father in a small garden

3. Mae'r fam garedig yn y tŷ pinc
The kind mother is in the pink house

4. Mae mam garedig mewn tŷ pinc
There is a kind mother in a pink house

5. Mae'r ddau fachgen mawr yn y siop fach
The two big boys are in the little shop

6. Mae dau fachgen byr mewn castell mawr
There are two short boys in a big castle

7. Mae'r ddwy ferch fach yn y tŷ glas
The two small girls are in the blue house

8. Mae ddwy ferch garedig mewn ystafell dywyll
There are two kind girls in a dark room