Ask Dr Gramadeg: Cyflwyno iaith ffurfiol / Introducing formal language

Byddwn ni'n hepgor y rhagenw personol yn y Cymraeg ffurfiol, e.e:
atoch chi > atoch    to you

Byddwn ni'n ychwanegu 'f' at ddiwedd y rhagenw yn y person cyntaf unigol, e.e.
ata i > ata    to me

Byddwn ni'n ychwanegu 't' at ddiwedd y rhagenw yn y trydydd person lluosog, e.e.
atyn nhw > atynt     to them

Yn y Gymraeg ffurfiol ysgrifinnedig, pan fyddwn ni'n hepgor y rhagenw ar ôl y ferf, yr un rheol fydd yn gweithredu'n aml, e.e. yn yr amser dyfodol (isod):

Bod - I will be etc          Gweld - I will see etc

The personal pronoun is omitted from the preposition in formal Welsh, e.g:
atoch chi  > atoch     to you
f’ is added in the 1st person, e.g.

ata i          > ataf       to me
t’ is added in the 3rd person plural, e.g.   atyn nhw > atynt    to them

In formal written Welsh, when the personal pronoun is omitted from the verb, the same rule often applies, e.g. future tense below:

Bod - I will be etc                               Gweld - I will see etc

 

 

Anffurfiol Ffurfiol Anffurfiol Ffurfiol
Bydda i Byddaf Gwela i Gwelaf
Byddi di Byddi Gweli di Gweli
Bydd e/hi Bydd Gweliff e/hi Gweliff
Byddwn ni Byddwn Gwelwn ni Gwelwn
Byddwch chi Byddwch Gwelwch chi Gwelwch
Byddan nhw Byddant Gwelan nhw Gwelant

Yr amserau eraill i gyd, e.e:
Yn amser presennol: Maen nhw > Maent       They are
Yr amodol: Dylen nhw > Dylent     They should

 

 

Also other tenses, e.e:
Present tense:  Maen nhw  >  Maent    They are
Conditional:  Dylen nhw  >  Dylent   They should

 

 

Y negyddol

Byddwn ni'n defnyddio Ni (Nid o flaen llafariaid) yn y Cymraeg ffurfiol, yn lle 'Ddim', e.e:

Anffurfiol                        Ffurfiol

Fydda i ddim yn mynd    Ni fyddaf yn mynd
I won’t be going               I will not be going

A’ i ddim                            Nid af
I won’t go                          I will not go

Bydd 'Ni' yn achosi i berfenwau sy'n dechrau mewn C, P, T dreiglo'n llaes.

Bydd 'Ni' yn achosi i berfenwau sy'n dechrau mewn B, D, G, M, Ll, Rh dreiglo'n feddal.

Negatives

Ni (Nid before vowels) is used in formal Welsh, instead of ‘ddim’, e.g.

Anffurfiol                               Ffurfiol              

Fydda i ddim yn mynd           Ni fyddaf yn mynd
I won’t be going                      I will not be going

A’ i ddim                                 Nid af
I won’t go                                 I will not go              

Ni causes a nasal mutation to verbs beginning with C,P,T.

Ni causes a soft mutation to verbs beginning with B,D,G,M,Ll,Rh.

Cwestiynau

Byddwn ni'n defnyddio'r geiryn 'A' o flaen berfau i ffurfio cwestiwn yn y Cymraeg ffurfiol. Bydd y geiryn 'A' yn achosi treiglad meddal, e.e:

Fyddan nhw gartre? >  A fyddant gartref?
Fydda i’n barod?      >  A fyddaf yn barod?

Fel rheol, byddwn ni'n hepgor y geiryn 'A' ar lafar, ond bydd y treiglad meddal yn aros.

Questions

‘A’ is used before a verb to form a question in formal Welsh. It causes a soft mutation, e.g:

Fyddan nhw gartre?  >  A fyddant gartref?
Fydda i’n barod?       >  A fyddaf yn barod?

‘A’ is not usually used in speech but the soft mutation in causes is retained.

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

1. Anfonwch y manylion ataf!
> Halwch y manylion ata i!
Send the details to me!

2. Rwy'n gobeithio bod eich rhieni'n dda. Cofiwch i atynt, os gwelwch yn dda!
> Gobeithio bod eich rhieni'n dda. Cofiwch i atyn nhw, plis!
I hope your parents are well. Remember me to them, please!

3. Byddaf yn dod yfory
> Bydda i'n dod 'fory
I'll be coming tomorrow

2. Byddi'n canu yn y cyngerdd
> Byddi di'n canu yn y cyngerdd
You'll be singing in the concert

3. Bydd yn dod â'r caws glas
> Bydd hi'n dod â'r caws glas
She'll be bringing the blue cheese

4. Bydd yn bwyta'r cyri malwod
> Bydd e'n bwyta'r cyri malwod
He'll eat the snail curry

5. Byddwn yn gweld y plant yno
> Byddwn ni'n gweld y plant yno
We'll see the children there

6. Byddwch yn gyffyrddus yn y gwesty
> Byddwch chi'n gyffyrddus yn y gwesty
You'll be comfortable in the hotel

7. Byddant yn perfformio yn y sioe
> Byddan nhw'n perfformio yn y sioe
They'll be performing in the show

8. Prynaf y brechdanau
> Pryna i'r brechdanau
I'll buy the sandwiches

9. Perfformi'n dda iawn, rwy'n siŵr
> Perfformi di'n dda iawn, dw i'n siŵr
You'll perform very well, I'm sure

10. Taliff am y tocynnau
> Taliff hi am y tocynnau
She'll pay for the tickets

11. Siaradiff â'r athro
> Siaradiff e â'r athro
He'll speak to the teacher

12. Down â'r ci am dro
> Down ni â'r ci am dro
We'll take the dog for a walk

13. Ewch â'r gwin coch
> Ewch chi â'r gwin coch
You'll bring the red wine

14. Clywant y larwm yn y bore
> Clywan nhw'r larwm yn y bore
They'll hear the alarm in the morning

15. Maent wedi bwyta'r brechdanau i gyd
> Maen nhw 'di bwyta'r brechdanu i gyd
They've eaten all the sandwiches

16. Dylent fynd â'r ci am dro
> Dylen nhw fynd â'r ci am dro
They should take the dog for a walk

17. Ni fyddaf yn dod i'r parti
> Fydda i ddim yn dod i'r parti
I won't be coming to the party

18. Ni fyddwn yn prynu caws glas
> Fyddwn ni ddim yn prynu caws glas
We won't be buying blue cheese

19. Ni fyddant wedi aros yn y gwesty
> Fyddan nhw ddim wedi aros yn y gwesty
They won't have stayed in the hotel

20. Nid af i'r cyngerdd
> A’ i ddim i'r cyngerdd
I won’t go to the concert

21. Nid ânt i weld y sioe
> Ân nhw ddim i weld y sioe
They won't go to see the show

22. Ni chysgi’n dawel yno!
> Chysgi di ddim yn dawel yno!
You won't sleep soundly there!

23. Ni phrynaf gaws glas
> Phryna i ddim caws glas
I won't buy blue cheese

24. Ni thalwn am y bwyd
> Thalwn ni ddim am y bwyd
We won't pay for the food

25. Ni fwytânt gyri malwod
> Fwytân nhw ddim cyri malwod
They won't eat snail curry

26. Ni ddysgiff ddim byd!
> Ddysgiff e ddim byd!
He won't learn anything!

27. Ni orffennwch mewn pryd
> Orffennwch chi ddim mewn pryd
You won't finish in time

28. Ni fedraf glywed
> Fedra i ddim clywed
I won't be able to hear

29. Ni lwyddant i gipio'r wobr
> Lwyddan nhw ddim i gipio'r wobr
They won't succeed in snatching the prize

30. Ni redwn yn rhy gyflym
> Redwn ni ddim yn rhy gyflym
We won't run too quickly

31. A fyddant yn dod i'r cyngerdd?
> Fyddan nhw'n dod i'r cyngerdd?
Will they be coming to the concert?

32. A fyddi'n barod yn fuan?
> Fyddi di’n barod yn fuan?
Will you be ready soon?

33. A fydd y ci'n cysgu yn ei gwt?
> Fydd y ci'n cysgu yn ei gwt?
Will the dog be sleeping in his kennel?

34. A dali am y gwin coch?
> Dali di am y gwin coch?
Will you pay for the red wine?

35. A brynwn y brechdanau?
> Brynwn ni'r brechdanau?
Will we buy the sandwiches?

36. A redwch lan y mynydd?
> Redwch chi lan y mynydd?
Will you run up the hill?

37. A orffennant y gwaith mewn pryd?
> Orffennan nhw'r gwaith mewn pryd?
Will they finish the work in time?