Y geiriau dydd a diwrnod fel ei glydd sy'n golygu 'day', ond byddwn ni'n defnyddio'r ddau ohonyn nhw mewn cud-destunau gwahanol.
Both dydd and diwrnod can be translated as ‘day’, but they are used in different ways in Welsh.
Diwrnod
Defnyddiwn y gair hwn gyda rhifolion Used with numbers: tri diwrnod (3 days), pedwar diwrnod (4 days)
Defnyddiwn y gair hwn ar ôl ‘o’ Used after ‘o’, e.g. diwrnod o wyliau, diwrnod o waith
Defnyddiwn y gair hwn gydag ansoddeiriau Used with adjectives, e.g. diwrnod da (a good day), diwrnod gwlyb (a wet day)
*diwrnod i’r brenin A day off (Lit. a day for the king)
Dydd
Byddwn ni defnyddio'r gair hwn ym mhob man arall
Used with everything else:
Diwrnoda'r wythnos Days of the week, e.g: dydd Llun, dydd Iau, etc.
Mewn ymadroddion neilltuol Used with phrases, e.g: bob dydd, drwy’r dydd, y dyddiau ’ma
* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples
1. Ro'n i'n gweithio ym Mhorthcawl am ddau ddiwrnod
I was working in Porthcawl for two days
2. Byddwn ni ar wyliau ym Mharis am ddeng niwrnod
We'll be on holiday in Paris for ten days
3. Dylai pawb yng Nghymru gael diwrnod o wyliau ar y cyntaf o Fawrth
Everyone in Wales should get a day's holiday on the first of March
4. Os 'newch chi ddiwrnod da o waith, cewch chi'ch talu'n llawn
If you do a good day's work, you'll be paid in full
5. Roedd e'n ddydd oer, golau yn Ebrill, ac roedd y clociau'n canu un deg tri
It was a bright, cold day in April, and the clocks were striking thirteen
6. Ar ôl gorffen yr holl waith yn gynnar, rhaid i ni gael diwrnod i’r brenin
After finishing all the work early, we must have a day off
7. Mae hi'n mynd i siopa ddydd Mercher, ond bydd hi'n 'neud y negeseuon eraill ar ddydd Sadwrn fel arfer
She's going shopping on Wednesday, but she usually does the other errands on Saturdays
8. Bydda i'n mynd â'r ci am dro bob dydd
I take the dog for a walk every day
9. Drwy’r dydd gwyn, bydden ni'n gweithio fel lladd nadredd yn y ffatri
All day long, we would work like crazy in the factory
10. Sa i'n gallu credu pobl ifanc y dyddiau ’ma!
I can't believe young people these days!