Ask Dr Gramadeg: Cymharu Ansoddeiriau- Y Radd Eithaf / Comparing two Adjectives- The Superlative

Yn yr iaith lenyddol, bron pob ansoddair sy'n terfynnu mewn 'f' yn y radd eithaf ('the superlative degree') - e.e. 'y mwyaf' ('the biggest'), 'y gwaethaf' ('the worst'), 'y talaf' ('the tallest').

Ar lafar, fyddwn ni ddim yn ynganu'r sain 'f', ac yn gyffredinol, fydd ddim rhaid ei hysgrifennu chwaith. Mae'r sain 'f' ar ddiwedd gair Cymraeg yn wan, a bydd y sain hon yn cael ei hepgor mewn geiriau eraill hefyd, e.e. 'cartre(f)', 'adre(f)'. Rywbryd byddwn ni'n defnyddio collnod ('apostyrophe') i ddangos fod y sain 'f' wedi'i cholli, e.e.

y mwya’, y gwaetha’, y tala’, y gwlypa’ (ac ati)

In literary Welsh nearly all the superlatives end in ‘f’, e.g. y mwyaf (the biggest), y gwaethaf (the worst), y talaf (the tallest).  They are not used in speech and you don’t need to write them.

‘F’ at the end of a word is weak in Welsh and is dropped in other words in speech as well, e.g. cartre(f), adre(f).  An apostrophe (collnod) is sometimes used to show that the ‘f’ has been left out, e.g:

y mwya’, y gwaetha’, y tala’, y gwlypa’, etc. 

Trefn Geiriau

Yn y radd eithaf, bydd y goddrych ('the subject' - hynny, yw, y person neu'r peth sy'n gwneud y gweithred) wastad yn dod yn gyntaf yn y frawddeg. Cofiwch yma y bydd y goddrych yn dod yn ail yn y frawddeg fel arfer e.e., 'Dw i’n dda' – 'Am I good', heb fod y frawddeg yn gwestiwn, e.e.

Fi yw ’r gorau       Ffred yw ’r tewa’
I am the best        Ffred is the fattest

O ganlyniad i hyn, byddwn ni defnyddio'r geiriau 'Ie' a 'Nage' yn y cud-destun hwn i ateb cwestiynau, gan fod trefn reolaidd y geiriau wedi'i newid, e.e.

Bryn yw’r gorau?         Ie / Nage

Word order

The subject (the person or thing doing the action) always comes first in the superlative. (Normally, the subject comes second in Welsh, e.g. Dw i’n dda - Am I good ).  This means that the word order ends up the same as in English, e.g.

 Fi  yw   ’r    gorau.            Ffred   yw  ’r    tewa’.
I  am  the  best.                Ffred    is  the fattest.

For this reason ‘Ie’ and ‘Nage’(the emphatic answers) are used, as the normal word order has been changed. e.g:
Bryn yw’r gorau?         Ie/Nage.
Bryn is the best?         Yes / No

Byddwn ni'n defnyddio tôn llais i ofyn cwestiwn yn y fath frawddegau pwyslesiol. Byddwn ni'n defnyddio 'Ddim' i wneud brawddegau negyddol. Wrth gwrs yr un peth sy'n digwydd mewn bob brawddeg pwysleisiol, e.e.

Ddim Bryn yw’r gorau

As with all emphatic sentences, questions are formed by using a question tone in the voice and negatives are formed by putting ‘ddim’ before the subject.  e.g:

Ddim Bryn yw’r gorau.
Bryn isn't the best

* Efallai y byddwch chi'n clywed 'Nace / Nage' yn lle 'Ddim' ar lafar mewn rai ardaloedd. Mewn iaith ffurfiol byddwch chi'n gweld 'Nid' hefyd.

Pan fyddwn ni'n defnyddio gradd eithaf ansoddair i gyfeirio at rywun neu i rywbath, a'i genedl yn fenywaidd, bydd yr ansoddair yn treiglo'n feddal, e.e:

Siân yw’r orau / waetha’ / dala’ / berta’ (ac ati)

Dylech chi edrych ar y dabl isod i weld arolwg ar gymharu ansoddeiriau

e.e. Sa i mor dwp â ti (I'm not as stupid as you)
yn lle Sa i mor dwp â thi

*You may also hear ‘nace/nage’ instead of ‘ddim’ in some areas and there is also a ‘posh’ written form ‘nid’.

When superlatives are used to refer to something/someone feminine they take a soft mutation, e.g:
Siân yw’r orau / waetha’ / dala’ / berta’,  etc.
Siân is the best / worst / talest / prettiest (and so on)

See comparison of adjectives table below for an overview:

 

Ansoddair (Adjective)
Y radd gymharol (Comparative degree)
Y radd eithaf (Superlative degree)
Rheolaidd (regular)  
tal talach (na) (y) tala’
e.g. tall taller (than) (the) tallest
+ b,d,g hardened  
gwlyb gwlypach gwlypa’
drud drutach druta’
rhad rhatach rhata’
teg tecach teca’
Doubled r/n  
byr byrrach byrra’
gwyn gwynnach gwynna’
Newid bach (small change)
trwm trymach tryma’
hawdd haws hawsa’
Geiriau hir (long words)
deallus mwy deallus mwya’ deallus
diddorol mwy diddorol mwya’ diddorol
Afreolaidd (irregular)  
da gwell gorau
drwg gwaeth gwaetha’
mawr mwy mwya’
bach llai lleia’
uchel uwch ucha’
isel is isa’

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

1. Ti yw ’r gwaetha'!
You are the worst!

2. Sandra yw’r dala'
Sandra is the tallest

3. Ffred yw dwpa'? Ie / Nage.
Ffred's the silliest? Yes / No.

4. Ddim mhw yw’r mwya'
They aren't the biggest

5. Siân yw’r fwya' caredig
Siân is the kindest

6. Nid ydy ef mor gyfoethog â thi
> Dyw e ddim mor gyfoethog â ti
> So fe mor gyfoethog â ti
He's not as wealthy as you

7. Mae fy mrawd i'n dal, mae'n dalach na fi, ond ti yw'r tala’
My brother is tall, he's taller than me, but you're the tallest

8. Mae Abertawe'n wlyb, mae Caerdydd yn wlypach, ond Dulyn yw'r wlypa’
Swansea is wet, Cardiff is wetter, but Dublin is the wettest

9. Mae Harrod's yn ddrud, mae'n ddrutach na Selfridge's, ond Fortnum and Mason yw'r siop ddruta'
Harrod's is expensive, it's more expensive that Selfridge's, but Fortnum and Mason is the most expensive shop

10. Mae'r Empire State Building yn dal, mae'n dalach na'r Twr Eiffel, ond Burj Khalifa yw'r adeilad tala’ yn y byd
The Empire State Building is tall, it's taller than the Eiffel Tower, but Burj Khalifa is the tallest building in the world

11. Mae brechdanau'n rhad, maen nhw'n rhatach na physgod a sglods, ond tost yw'r rhata’
Sandwiches are cheap, they're cheaper than fish and chips, but toast is the cheapest

12. Roedd Hera'n deg, roedd hi'n decach nag Athena, ond Aphrodite oedd y deca’
Hera was fair, she was fairer than Athena, but Aphrodite was the fairest

13. Mae Rumpelstiltskin yn fyr, mae'n fyrrach na Pinocchio, ond Tom Thumb yw'r byrra’
Rumpelstiltskin is short, he's shorter than Pinocchio, but Tomb Thumb is the shortest

14. Mae llaeth yn wyn, mae'n wynnach na halen, ond sialc yw'r gwynna’
Milk is white, it's whiter than salt, but chalk is whiter

15. Mae fy nhad i'n drwm, mae e'n drymach na thad-cu, ond fy ewythr yw'r tryma’
My dad is heavy, he's heavier than grandad, but my uncle is the heaviest

16. Mae canu'n hawdd, mae'n haws na dawnsio, ond actio yw'r hawsa’
Singing is easy, it's easier than dancing, but acting is the easiest

17. Mae Janet yn ddeallus, mae hi'n fwy deallus na Brad, ond Dr Scott yw'r mwya’ deallus
Janet is intelligent, she's more intelligent than Brad, but Dr Scott is the most intelligent

18. Mae'r Rocky Horror yn ddiddorol, mae'n fwy diddorol na Legend, ond Wicked yw'r stori fwya’ diddorol
The Rocky Horror is interesting, it's more interesting than Legend, but Wicked is the most interesting story

19. Roedd yr ysgol yn dda, roedd hi'n well na'r brifysgol, ond gwaith yw'r peth gorau
School was good, it was better than university, but work is the best thing

20. Mae Dracula'n ddrwg, mae'n waeth na Nosferatu ond Voldemort yw'r gwaetha’
Dracula is bad, he's worse than Nosferatu, but Voldemort is the worst

21. Mae Finn MacCool yn fawr, mae'n fwy na Goliath, ond Oni o Siapan yw'r mwya’
Finn MacCool is big, he's bigger than Goliath, but Oni from Japan is the biggest

22. Mae corrach yn fach, mae'n llai na choblyn ond pwca yw'r lleia’
A dwarf is small, it's smaller than a goblin, but an imp is the smallest

23. Mae Amdo'n uchel, mae'n uwch na La Paz, ond La Rinconada yw'r ucha’
Amdo is high, it's higher than La Paz, but La Rinconada is the highest

24. Mae Baku'n isel, mae'n is na Kristianstad, ond Jericho yw'r isa’
Baku is low, it's lower than Kristianstad, but Jericho is the lowest

Ask Dr Gramadeg Comparison of Adjectives

Ask Dr Gramadeg Comparison of Adjectives