Ask Dr Gramadeg: Cymalau yn yr Amser Dyfodol / Clauses with the Future Tense

Rydyn ni eisoes wedi dysgu am gymalau gyda'r amser presennol, a'r amser amherffaith. Pan fyddwn ni'n uno dwy frawddeg, wedyn, yn yr ail frawddeg, bydd rhaid newid 'dw i, wyt ti, mae e/hi, rydyn ni, rydych chi, maen nhw' (neu, 'ro'n i, ro't ti, roedd e/hi, ro'n ni, ro'ch chi, ro'n nhw') i ffurf ar 'bod', sef '(fy) mod i, (dy) fod di, (ei) fod e, (ei) bod hi, (ein) bod ni, (eich) bod chi, (eu) bod nhw'. Yr ymadroddion '(fy) mod i' (ac ati) sy'n golygu 'that + is' (neu 'that + are') yn Saesneg.

Ond, yn yr amser dyfodol, byddwn ni'n defnyddio'r geiryn 'y(r) i gyfleu 'that' yn Saesneg. Ar y naill law, bydd rhaid i ni ddefnyddio '(fy) mod i' (ac ati) gyda'r presennol a'r amherffaith. Ar y llaw arall, gyda'r dyfodol, byddwn ni'n hepgor y geiryn 'y(r)' fel rheol ar lafar, e.e.

Wrth gwrs (y) bydd hi’n braf    -    Of course (that) it will be fine
Falle (y) bydd hi’n braf              -    Perhaps (that) it will be fine   

As we have seen with the present and imperfect tenses - when a phrase or word is placed in front of the verb it has to be changed to ‘bod’.  The ‘bod’ not only means ‘that’, but also ‘is’ or ‘were’.  But with the future tense, the ‘that’ is ‘y’.  Unlike the ‘bod’ in the other tenses, it can (and usually is) left out in speech, e.g:

Wrth gwrs (y) bydd hi’n braf        Of course (that) it will be fine
Falle (y) bydd hi’n braf                Perhaps (that) it will be fine   

 

Amser / Tense Brawddeg / Sentence Ymadroddion / Phrases Cymalau / Clauses
present Mae hi’n braf Gobeithio bod hi’n braf
(it is fine) Falle (that it is) fine
imperfect Roedd hi’n braf Dw i’n siŵr bod hi’n braf
(it was fine) Sa i’n credu (that it was) fine
future Bydd hi’n braf Wrth gwrs y bydd hi’n braf
(it will be fine) (that) it will be fine)

 

Os / Os na - If / If not

'If' yw ystyr Saesneg ar 'Os'. Yn Saesneg, byddwn ni'n tueddu i defnyddio'r amser dyfodol gyda 'if', hyd yn oed os byddwn ni'n cyfeirio at rywbeth na fydd wedi digwydd eto, e.e:

Saesneg: 'I’ll be going if it is fine'

Yn Gymraeg, byddwn ni'n defnyddio'r amser dyfodol pan fyddwn ni'n cyfeirio at rywbeth na fydd wedi digwydd eto, felly byddwn ni'n dweud:

Cymraeg: Bydda i’n mynd os bydd hi’n braf
(Yn llythfennol: 'I’ll be going if it WILL BE fine')

Os / Os na - If / If not

Os = If.  In English the tendency is to use the present tense with ‘if’ even when referring to something that hasn’t happened yet.

e.g. I’ll be going if it is fine.  In Welsh, the future tense is used if referring to something that hasn’t happened yet,

e.g.  Bydda i’n mynd os bydd hi’n braf   (Lit. I’ll be going if it will be fine)

Negyddol (Rheolaidd)

Bydda i’n ('I will be') > Fydda i ddim yn ('I won’t be')

Negative  (Normally)

Bydda i’n (I will be)      >    Fydda i ddim yn…(I won’t be…)

Negyddol (Gydag 'Os')

Er mwyn defnyddio 'Os' o flaen brawddeg negyddol, fel arfer, byddwn ni'n defnyddio 'Na(d)' ac yn hepgor 'Ddim', e.e.

Fydda i ddim yn hwyr > Os na fydda i’n hwyr
(I won’t be late) > (If I won’t be late > If I’m not late)

Negative- With ‘os’ (if)

na’ is usually used rather than ‘ddim’ e.g.

Fydda i ddim yn hwyr      >   Os na fydda i’n hwyr

(I won’t be late)                       (If I won’t be late/If I’m not late)

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

1. Wrth gwrs (y) bydd hi’n bwrw glaw
Of course (that) it will be raining

2. Falle (y) bydd hi’n stormus
Perhaps (that) it will be stormy

3. Dw i'n siŵr (y) bydd hi'n oer
I'm sure (that) it will be cold

5. Sa i'n credu (y) bydd hi'n boeth
I don't think (that) it will be hot

6. Gobeithio (y) bydd hi'n bwrw eira
I hope (that) it will be snowing

7. Wrth gwrs (y) bydda i'n dod
Of course (that) I’ll be coming

8. Falle (y) byddi di'n gallu
Perhaps (that) you will be able to

9. Dw i'n siŵr (y) bydd hi'n ymweld
I'm sure (that) she'll be visiting

10. Sa i'n credu (y) bydd e'n mynd i'r cyngerdd
I don't think (that) he'll be going to the concert

11. Gobeithio (y) byddwn ni'n mwynhau'r canu
I hope (that) we'll enjoy the singing

12. Mae'n dweud (y) byddwch chi'n dod â'r gwin coch
He says (that) you'll be bringing the red wine

13. Mae Sandra wedi clywed (y) byddan nhw'n mynd ar wyliau
Sandra's heard (that) they'll be going on holiday

14. Roedd Ffred yn gweiddi (y) bydd Sandra'n cyrraedd yn fuan
Ffred was shouting that Sandra will be arriving soon

15. Bydda i’n dod os byddwn ni'n gadael yn gynnar
I'll come if we leave early

16. Byddi di'n gallu talu os bydd digon o arian 'da ti
You can pay if you have enough money

17. Bydd hi'n dweud y drefn wrth y plant os byddan nhw'n rhedeg bant eto
She'll tell off the children is they run off again

18. Byddwch chi'n cwrdd â fi os na fydda i’n gadael yn rhy gynnar
You'll meet me if I don't leave too early

19. Bydd rhaid i chi aros os na fyddwch chi'n gorffen y gwaith mewn pryd
You'll have to stay if you don't finish the work on time

20. Bydd yn ofalus os na fyddi di'n teithio yn ystod y dydd
Be careful if you're not travelling during the day