Defnyddir blwydd gydag oedran, e.e:
Blwydd oed tair (blwydd) oed pymtheg (mlwydd) oed
A year old/1 year old three years old/of age fifteen years old
Does dim rhaid defnyddio’r gair ‘blwydd’, e.e:
Tair oed pymtheg oed
Blwyddyn = a year/one year
Defnyddir blynedd gyda rhifau, e.e:
Dw i’n byw ’ma ers dwy flynedd. I have been living here for two years.
Mae e’n dysgu ers naw mlynedd. He has been learning for nine years.
b > m ar ôl 5, 7, 8, 9, 10, e.e. pum mlynedd, saith mlynedd, a.y.b.
* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples
1. Ddim ond blynedd roedd e'n gweithio yno!
He was only working there for a year!
2. Dw i’n gwirfoddoli ers dwy flynedd erbyn hyn
I have been volunteering for two years by now
3. Est ti i Ffrainc ar wyliau dair blynedd yn ôl, on'd do fe?
You went to France on holiday three years ago, didn't you?
4. Ro'n ni'n aros am bedair blynedd cyn symud tŷ
We were waiting for four years before moving house
5. Aeth pum mlynedd heibio ond 'naeth y sefyllfa ddim newid
Five years went by, but the situation did not change
6. Be' fyddwn ni'n 'neud chwe blynedd yn y dyfodol?
What will we be doing six years in the future?
7. Yr Ysfa Saith Mlynedd yw ffilm gyda Marilyn Monroe
The Seven Year Itch is a film with Marilyn Monroe
8. Symudon nhw i'r ddinas wyth mlynedd yn ôl
They moved to the city eight years ago
9. Rwyt ti'n byw y bwthyn ers naw mlynedd, on'd wyt?
You've been living in the cottage for nine years, haven't you?
10. Buodd hi yn Rwsia dros ddeng mlynedd yn ôl
She went to Russia over ten years ago
11. Mae deuddeng mlynedd yn amser hir i aros am iawndal!
Twelve years is a long time to wait for compensation!
12. Llwyddais i i roi'r gorau i 'sgymu ar ôl pymtheng mlynedd
I managed to give up smoking after fifteen years
13. Roedd hi'n gwasanaethu'r gymuned leol am ddeunaw mlynedd
She served the local community for eighteen years
14. Be' dych chi 'di bod yn 'neud dros yr ugain mlynedd ddiwetha'?
What have you been doing over the last twenty years?
15. Sa i'n gallu cofio pethau a ddigwyddodd hanner can mlynedd yn ôl!
I can't remember things that happened half a century ago!
16. Codwyd yr eglwys 'na gan mlynedd cyn adeiladwyd yr ysgol
That church was erected a hundred years before the school was built
17. Buodd hi'n astudio ym Mharis am flwyddyn cyn dychwelyd adre'
She studied in Paris for a year before returning home
18. Ro'n nhw'n teithio o gwmpas y byd ers blwyddyn pan gaethon nhw'r ddamwain
They had been travelling around the world for a year when they had the accident
19. So hi wedi bod yn yr ysgol ers blynyddoedd
She hasn't been in the school for years
20. Flynyddoedd maith yn ôl, ro'n i'n fyfyriwr yn Tseina
Many long years ago, I was a student in China
21. Roedd dinosoriaid yn teyrnasu dros y Ddaear am filiynau o flynyddoedd
Dinosaurs ruled the Earth for millions of years
22. Daethon nhw o Ffrainc dair blynedd yn ôl
They came from France three years ago
23. Byddwn ni yno am bedair blynedd, falle
We'll be there for four years, maybe
24. Mae fy nith fach i'n flwydd oed erbyn hyn
My little niece is a year old now
25. Mae'n cath ni'n ddwy flwydd oed
Our cat is two years old
26. Roedd y ci'n dair blwydd oed pan ddihangodd e
The dog was three years old when he escaped
27. Ydy plant yn dechrau yn yr ysgol yn bedair blwydd oed?
Do children start in school at four years of age?
28. Mae'u crwban nhw'n bum mlwydd oed
Their tortoise is five years old
29. Mae mab chwe blwydd oed 'da'n brawd ni
Our brother has a six-year-old son
30. Es i i weld Star Wars yn y sinema pan o'n i'n saith mlwydd oed
I went to see Star Wars in the cinema when I was seven years old
31. Mae'r car 'na'n wyth mlwydd oed
That car is eight years old
32. Roedd y ferch yn naw mlwydd oed pan symudodd hi 'ma
The girl was nine years old when she moved here
33. Deng mlwydd oed o'n i pan fu farw Elvis
I was ten years old when Elvis died
34. Pan o't ti'n ddeuddeng mlwydd oed gest ti dy swydd gynta'
When you were twelve years old you got your first job
35. Ddylech chi ddim dechrau gweithio nes i chi gyrraedd pymtheng mlwydd oed
You shouldn't start working until you reach fifteen years of age
36. Pan gyrhaeddiff dyn ddeunaw mlwydd oed, gaiff e allwedd y drws
When one reaches eighteen years of age, one gets the keys to the door
37. Aeth Sandra i'r brifysgol yn ugain mlwydd oed
Sandra went to university at twenty years of age
38. Byddwn ni'n dathlu'i phen-blwydd hi'n hanner can mlwydd yn fuan
We'll be celebrating her fiftieth birthday soon
39. Eleni bydd y gynulleidfa'n dathlu canmlyddiant yr eglwys
This year the congregation will be celebrating the centenary of the church