Byddwn ni'n rhedeg yr arddodiad Heb (sy'n golygu Without). Byddwn ni'n defnyddio'r un terfyniadau fel y byddwn ni'n ei defnyddio gyda'r arddodiaid eraill.
Heb, when used as 'without', conjugates. The endings are the same as the other prepositions.
Bôn / Root | Terfyniad / Ending | Saesneg |
hebdd- | -o i | without me |
hebdd- | -ot ti | without you |
hebdd- | -o fe | without him/it |
hebdd- | -i hi | without her/it |
hebdd- | -on ni | without us |
hebdd- | -och chi | without you |
hebdd- | -yn nhw | without them |
Byddwn ni'n gallu defnyddio heb yn yr amser perffaith yn lle ddim wedi, e.e:
Sa i wedi cwpla ’to – I haven’t finished yet
Dw i ddim wedi cwpla eto – I have not finished yet
Dw i heb gwpla ’to – I haven’t finished yet (Yn llythrennol – I am without finishing yet)
So fe wedi gwneud y gwaith – He hasn’t done the work
Dyw e ddim wedi gwneud y gwaith – He hasn’t done the work
Mae e heb wneud y gwaith – He hasn’t done the work
Fyddwn ni ddim yn defnyddio yn traethiadol ar ôl wedi. Fyddwn ni ddim yn defnyddio yn traethiadol ar ôl heb chwaith.
Heb sy'n achosi treiglad meddal
heb fynd – hasn’t gone
heb gyrraedd – hasn’t arrived
Ro’n i wedi - 'I had been'
Byddwn ni'n ychwanegu 'Wedi' at amser amherffaith 'Bod' i ffurfio'r Amser Gorberffaith (the 'Pluperfect Tense'), e.e.
Ro’n i’n cwpla (Amherffaith) – I was finishing
Ro’n i wedi cwpla (Gorberffaith) – I had finished
Do’n i ddim yn cwpla (Amherffaith) – I was not finishing
Do’n i ddim wedi cwpla (Gorberffaith) – I had not finished
Ro’n i heb gwpla (Gorberffaith) – I had not finished
Ffaelu - 'To fail / To be unable (to)'
Mae sawl ffordd o ddweud nad ydych chi'n gallu gwneud rhywbeth. Dyma i chi rai enghreifftiau, lle rydyn ni wedi defnyddio 'mynd' -
Sa i’n gallu mynd – I can’t go (ffurf gwmpasog – ‘bod’ + yn +berfenw)
Alla i ddim mynd – I can’t go (ffurf gryno - bôn 'gallu' + terfyniad + berfenw)
Dw i’n ffaelu mynd – I can’t go (yn llythrennol – 'I fail to go')
Yng Ngogledd Cymru bydd pobl yn dweud Methu yn hytrach na Ffaelu.
Heb can also be used instead of the negative ‘wedi’ construction, i.e. instead of ddim wedi, etc. e.g:
Sa i wedi cwpla ’to - I haven’t finished yet.
Dw i ddim wedi cwpla eto - I have not finished yet.
Dw i heb gwpla ’to - I haven’t finished yet. (literally - I am without finishing yet)
So fe wedi gwneud y gwaith - He hasn’t done the work
Dyw e ddim wedi gwneud y gwaith - He hasn’t done the work
Mae e heb wneud y gwaith - He hasn’t done the work
As with wedi no yn / ‘n is required.
Heb causes a soft mutation
heb fynd - hasn’t gone
heb gyrraedd - hasn’t arrived
Ro’n i wedi - 'I had been'
When ‘wedi’ is added to the imperfect tense instead of ‘yn’ a new tense is created, e.g:
Ro’n i’n cwpla. (imperfect) - I was finishing.
Ro’n i wedi cwpla. (pluperfect) - I had finished.
Do’n i ddim yn cwpla. (imperfect) - I was not finishing.
Do’n i ddim wedi cwpla. (pluperfect) - I had not finished.
Ro’n i heb gwpla. (pluperfect) - I had not finished.
Ffaelu - 'To fail / To be unable (to)'
There are several ways of saying that you are unable to do something. Here are some examples using ‘mynd’:
Sa i’n gallu mynd - I can’t go (long way - ‘bod’+yn+verb)
Alla i ddim mynd - I can’t go (short way - root of gallu+ending+verb)
Dw i’n ffaelu mynd - I can’t go (Literally - I fail to go)
In North Wales Methu is used rather than Ffaelu.
* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples
1. Paid â mynd hebddo i!
Don't go without me!
2. Hebddot ti dw i ddim yn gallu byw
Without you I can't live
3. Mae'n bosibl gweithio'n dda iawn hebddo fe
It's possible to work very well without him
4. Hebddi hi, mae pethau wedi bod yn anodd ofnadw'
Without her, things have been awfully difficult
6. Bydd y sefyllfa'n llawer gwaeth hebddon ni yno
The situation will be a lot worse without us there
7. Hebddoch chi, ro'n ni'n teimlo mor drist
Without you, we were feeling so sad
8. Byddai fe'n amhosibl hebddyn nhw
It would be impossible without them
9. Dw i ddim wedi dechrau eto, heb sôn am orffen!
> Sa i wedi dechrau ’to, heb sôn am orffen!
> Dw i heb ddechrau ’to, heb sôn am orffen!
I haven’t started yet, not to mention finishing!
10. Dyn ni ddim wedi coginio brecwast
> So ni wedi coginio brecwast
> Dyn ni heb goginio brecwast
We haven't cooked breakfast
11. Ro’n ni’n perfformio yn y cyngerdd, ac ro’n ni wedi ymarfer mor galed
We were performing in the concert, and we had practised so hard
12. Do’n nhw ddim yn perfformio, ac felly do’n nhw ddim wedi ymarfer
Do’n nhw ddim yn perfformio, ac felly ro’n nhw heb ymarfer
They weren't performing, and so they had not practised
13. Ro’t ti’n grac iawn, ac ro’t ti wedi gweiddi'n uchel
You were were very cross, and you had shouted loudly
14. Do’t ti ddim yn hapus, ac o ganlyniad do’t ti ddim wedi dweud dim byd
Do’t ti ddim yn hapus, ac o ganlyniad ro’t ti heb ddweud dim byd
You weren't happy, and as a result you hadn't said anything
15. Alla i ddim aros yn y tŷ ar fy mhen fy hunan
> Dw i ddim yn gallu aros yn y tŷ ar fy mhen fy hunan
> Sa i’n gallu aros yn y tŷ ar fy mhen fy hunan
> Dw i’n ffaelu aros yn y tŷ ar fy mhen fy hunan
I am not able to stay in the house on my own
I can’t stay in the house on my own
16. Allwch chi ddim ffraeo yn y parc heno
> Dych chi i ddim yn gallu ffraeo yn y parc heno
> So chi’n gallu ffraeo yn y parc heno
> Dych chi'n ffaelu ffraeo yn y parc heno
You are not able to fight in the park tonight
You can’t fight in the park tonight