Cylchlythyr Ysgol y Cwm 2018-03

Ysgol y Cwm, Y Wladfa: Cylchlythyr Mis Mawrth 2018 / Ysgol y Cwm, Patagonia: Newsletter March 2018

Fel rhan o gyfres newydd o eitemau o’r Wladfa, dyma’r newyddion yr haf o Ysgol y Cwm yn Trevlin, gan gynnwys athrawon a piano newydd…

As part of a new series of items from Patagonia, here is this summer’s news from Ysgol y Cwm in Trevelin, including new teachers and a new piano…

Annwyl Ffrindiau,

Mae hi’n flwyddyn ysgol newydd sbon yma yn Ysgol y Cwm ac, fel arfer, mae llond buarth o newyddion! Daeth 2017 i derfyn gyda seremoni graddio’r ysgol yn Neuadd y Dref, gyda disgyblion yr ysgol feithrin yn symud ymlaen i’r ysgol gynradd yma yn Ysgol y Cwm. Ynghyd a’r wynebau cyfarwydd sydd wedi dod yn ôl eleni wrth iddynt barhau ar eu taith gydag Ysgol y Cwm, mae 30 o ddisgyblion newydd sbon wedi ymuno a ni, sy’n golygu bod 80 o ddisgyblion bellach yn mynychu’r ysgol.
Dear Friends,

It’s a brand-new school year for us here at Ysgol y Cwm and, as usual, there is lots of news to share! We waved farewell to 2017 with a graduation ceremony at Salon Central, the Town Hall, where the kindergarten pupils graduated to the first year of primary school at Ysgol y Cwm. Along with the many familiar faces who’ve returned to continue their journey with Ysgol y Cwm, there are many fresh faces – 30 to be exact, bringing the total of pupils at Ysgol y Cwm to 80. We keep on growing!
Mae yno wynebau newydd i’w gweld ymhlith y staff hefyd, ac rydym eisoes wedi ymestyn croeso cynnes i Emyr Evans o Fancffosfelen, ac i Judith Elis o Drevelin. Bydd Emyr yn gweithio yn Ysgol y Cwm eleni fel rhan o’i swydd gyda’r Cyngor Prydeinig, tra bod Judith yn mynd i fod yn gweithio yn y boreau gyda Blwyddyn 1. Croeso cynnes i’r ddau!There are also new faces to be seen amongst the staff, with the addition of Emyr Evans from Bancffosfelen and Judith Elis, from Trevelin. Emyr will be working with us this year as part of his role working for the British Council. He will also be teaching adults, as well as helping to organise social events. Judith will be working during the mornings with the primary school children. A big welcome to both!
Fel y gwyddoch, bu’r ysgol yn chwilio am athro neu athrawes arall o Gymru i ymuno gyda ni yn 2018, a’r newyddion da ydy bod Nia Jones am aros gyda’r ysgol am drydedd flwyddyn. Bu Nia yn swyddog gyda’r Cyngor Prydeinig yn dysgu Cymraeg yma yn yr Andes am ddwy flynedd, ac mae pawb yn hapus ei bod wedi dod yn ôl i weithio yn Ysgol y Cwm!As you know, Ysgol y Cwm had been hoping to employ a teacher from Wales for 2018 and had been fundraising to this end. The good news is that Nia Jones will be staying on for another year to work at Ysgol y Cwm, having spent the previous two years working for the British Council teaching Welsh in Esquel and Trevelin. We are all very happy that Nia has come back to work at Ysgol y Cwm!
Bu’r adeiladwyr yn gweithio’n galed iawn dros y gwyliau haf i godi’r adeilad newydd sydd y tu ôl i’r ysgol bresennol. Er bod cryn dipyn o waith i’w wneud eto cyn y bydd wedi ei gwblhau, mae’n adeilad sylweddol sydd bron yn dyblu maint yr ysgol. Yn y pendraw, bydd yr adeilad yn gartref i’r ysgol gynradd, gyda dosbarthiadau helaeth a swyddfa newydd i’r brifathrawes. Bydd yno hefyd ddigon o le i’r plant gael chwarae dan do, pan nad yw’r tywydd yn caniatáu mynd allan i chwarae. The builders have been working tirelessly throughout the summer holidays on the new building, which stands behind the current school. Although there is still a considerable amount of work left to do, the structure has begun to take shape and has doubled the size of the school. The new building will eventually house the primary school, with spacious classrooms and an office for the headteacher. There will also be ample room for the children to play on rainy days.
Mae Trevelin ar ei gorau dros y gwanwyn a’r haf, ac fe groesawyd nifer o ymwelwyr o Gymru. Mae’r ysgol yn atyniad difyr i’r Cymry sy’n mentro draw dros yr Iwerydd, ac rydym ni wrth ein boddau’n rhoi croeso a rhannu hanes yr ysgol gyda phwy bynnag sydd am ddod i ymweld – cysylltwch dros e-bost neu ein tudalen Facebook os ydych chi am alw heibio i ddweud helo! Trevelin is at its glorious best in spring and summer, attracting visitors from Wales and elsewhere. The school is an interesting attraction for our friends from Wales, and we love being able to share our amazing story with whoever wants to come along to say hello. If you are planning a visit to Trevelin and would like to pop by to see us here at Ysgol y Cwm, feel free to get in touch through our e-mail address or Facebook page!
Rhoddwyd piano i’r ysgol dros y gwyliau haf yn anrheg gan deulu Lidia a Victor Williams o Drevelin - diolch yn fawr iawn i deulu Williams am eu haelioni! Bydd y piano’n ganolbwynt gwych ar gyfer cyngherddau’r ysgol, a bydd hefyd yn hynod ddefnyddiol o ddydd i ddydd – yn enwedig gan fod Emyr yr athro newydd yn bianydd o fri! Mae’r piano mewn angen o ychydig o waith cynnal a chadw cyn y bydd yn barod i ddiddanu pawb yma yn Ysgol y Cwm, ac felly rydym wedi sefydlu cronfa fach i dalu am y gwaith o’i adfer a’i diwnio, sy’n dod at $ARG18,000 (£630). Os hoffech chi gyfrannu at Gronfa Piano Ysgol y Cwm, ewch at ein gwefan ysgolycwm.com, ble ceir manylion cyfrif banc yr ysgol (gan roi ‘Cronfa Piano’r Ysgol fel cyfeirnod).A piano was generously donated to the school over the summer, courtesy of Lidia and Victor Williams and family – so a huge ‘diolch yn fawr’ to them for their generosity! The piano will provide a fantastic focal point for future school concerts, and it will also be of great use on a day-to-day basis, as Emyr the new teacher loves to strike a tune! The piano will have to undergo some maintenance and tuning before it can make its debut, and so we have set up a small fund to raise ARG$18,000 (£630) to cover the costs. If you would like to contribute to Ysgol y Cwm’s Piano Fund, please visit our website ysgolycwm.com, where you’ll find details of the school’s bank account (please note the reference as ‘School Piano Fund’).
Ynghyd a chronfa ar gyfer y piano, rydym hefyd yn dibynnu ar ein ffrindiau o Gymru am gefnogaeth yn yr hir dymor. Mae’n parhau i fod yn hynod bwysig i ni yma yn Ysgol y Cwm, er mwyn cynnal yr ysgol o ddydd-i-ddydd, a hefyd cynllunio ar gyfer y dyfodol. Fe hoffai’r ysgol ddiolch unwaith eto i bawb sydd yn neu sydd wedi cyfrannu yn barod. Mae ffurflen archeb banc misol ar ein gwefan os hoffech chi gyfrannu fel hyn.Along with our fund for the piano, the school is also dependent on our friends in Wales and the rest of the UK for long-term support. This support continues to be of the utmost importance to us here at Ysgol y Cwm, both as a way of securing the day-to-day running of the school and to help us plan for the future. The school would again like to thank all of those who have contributed and who continue to do so for their support. Diolch yn fawr iawn! If you are interested in supporting the school on a long-term basis, there is a downloadable standing order form on our website.
Ni fu seibiant o’r ymdrechion codi arian yma yn Nhrevelin dros gyfnod y Nadolig, gyda sgons a jam blasus Margarita yn helpu i gyfrannu tuag at gyflogau’r athrawon dros y gwyliau haf. Gwerthwyd sawl Sdormi (masgot swyddogol Ysgol y Cwm) hefyd!Fundraising here in Trevelin continued over the Christmas period, with Margarita’s tasty scones and jam helping to raise a contribution to the teachers’ wages over the holidays. Several cuddly toys of Stormi, the official school mascot, were also sold!
Mae Eisteddfod Trevelin yn prysur agosáu (Ebrill 27 a 28) ac mae Marilyn a Maria'r athrawesau cerdd wedi bod yn brysur yn ymarfer canu ‘Bwrw Glaw yn Sobor Iawn’ ac ‘Y Siani Flewog’ gyda’r plant, tra bod yr athrawon dosbarth wedi bod yn mynd dros ‘Dau Gi Bach’ ac ‘Ar Lan y Môr’ ar gyfer yr adrodd. Bydd y paent a’r pensiliau lliw hefyd yn cael eu cymryd allan o’r cwpwrdd – felly pob lwc i bawb sy’n cystadlu!The Trevelin Eisteddfod is fast approaching (April 27 & 28) and Marilyn and Maria the music teachers have been busy practicing singing ‘Bwrw Glaw yn Sobor Iawn’ and ‘Y Siani Flewog’ with the children, who’ve also been busy learning to recite ‘Dau Gi Bach’ and ‘Ar Lan y Môr’. The coloured pencils and the paint pots have also been taken out of the cupboard – so good luck to everyone who’s taking part!
Cewch holl hanes yr Eisteddfod – a mwy! – yn y rhifyn nesaf, pan fydd gaeaf oer Patagonia wedi ein cyrraedd! Tan bryd hynny felly – hwyl fawr ac hasta luego!You’ll hear all about the Eisteddfod – and more! – in our next newsletter, by which time it’ll be midwinter here in Patagonia. Hasta luego a tan y tro nesaf!
Cofion cynnes oddi wrth bawb yn Ysgol y Cwm.Warm regards from everyone in Ysgol y Cwm.

Graddegion 2017
Graddedigion 2017 - Croeso i'r Ysgol Gynradd!
The Graduates of 2017 -welcome to Primary School!

Athrawes Judith
Judith yr athrawes newydd (cefn, chwith) yn paratoi i wneud ymarfer corff gyda’r plant a Seño Cami.
The children getting ready for a P.E lesson with their new teacher, Judith (back left) and Seño Cami.

Stori- mascot yr ysgol
Stormi, masgot swyddogol Ysgol y Cwm
Stormi, Ysgol y Cwm's Official School Mascot.

Nia ac Emyr
Seño Nia, Emyr a'r piano newydd.
Seño Nia, Emyr and the new piano.

ysgolycwm.com / CwmYsgol

Mae’r erthygl hon wedi cael eu cyfrannu gan Gwion Elis-Williams o’r Ysgol y Cwm.
This article has been contributed by Gwion Elis-Williams of Ysgol y Cwm.

 

Llwytho i Lawr fel PDF

 


Yr Iaith Gymraeg yn y Wladfa

Y diweddaraf oddi wrth Anffurfiol