Top 10 Digwyddiadau Chwaraeon

Digwyddiadau Chwaraeon / Sporting Events: Top 10

Mae nifer o ddigwyddiadau chwaraeon ar draws Gymru y gallwch chi eu gwneud. Maen nhw'n wych i athletwyr a chefnogwyr. Mae'r digwyddiau'n boblogaidd dros ben ac mae llawer o hwyl i'w gael!

There are a number of sporting events across Wales which you can do. They are great for athletes and supporters. The events are extremely popular and there is a lot of fun to be had!

Gan / By Lydia Hobbs

Ultra Aberhonddu i Gaerdydd / Brecon to Cardiff Ultra

Ultra sy’n dilyn Llwybr y Taf yw Ultra Aberhonddu i Gaerdydd. Mae’r digwyddiad yn rhedeg bob mis Chwefror. Mae’n dechrau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am 8yb ac wedyn, mae rhaid i chi redeg yr holl ffordd i Nantgarw, ger Caerdydd. Mae’r ras yn 70km o hyd ac mae rhaid i bawb orffen cyn 8yh, 12 awr ar ôl y dechrau. Mae’r llwybr yn mynd heibio golygfeydd ysblennydd a gwelir nifer o golygfeydd enwog a phoblogaidd tra eich bod yn rhedeg. Mae’n ras un ffordd ac mae wedi’i farcio’n llawn, felly mae’n hawdd gweld ble i fynd!

Ultra

The Brecon to Cardaiff Ultra is an ultra which follows the Taff Trail. The event runs every February. It starts in Brecon Beacons National Park at 8am and then, you must run all the way to Nantgarw, near Cardiff. The race is 70km long and everyone must finish by 8pm, 12 hours after the start. The route goes past stunning views and you see a number of famous and popular sights whilst you are running. It is a one way race and it is fully marked, so it is easy to see where to go!


Hanner Marathon Caerdydd / Cardiff Half Marathon

Ras hanner marathon yn y brifddinas yw Hanner Marathon Caerdydd. Cynhelir Hanner Marathon Caerdydd bob blwyddyn ym mis Hydref. Mae’r ras yn cymryd y rhedwyr o gwmpas Caerydydd am 13.1 milltir (21.1km). Mae’r cwrs yn mynd heibio’r golygfeydd enwog yng Nghaerdydd, gan gynnwys Castell Caerdydd, Parc y Rhath, Canolfan y Mileniwm a llawer mwy. Mae’r digwyddiad wedi tyfu yn sylweddol dros y blynyddoedd ac mae’n boblogaidd iawn gyda thua 20,000 o redwyr bob blwyddyn. Mae’n gwrs eithaf fflat a chyflym sy’n addas ar gyfer pobl o bob gallu. Mae’r cefnogaeth yn fendigedig hefyd – o’r dechrau tan y gorffen.

Cardiff half

Cardiff Half Marathon is a half marathon race in the capital city. Cardiff Half Marathon is held every year in October. The race takes the runners around Cardiff for 13.1 miles (21.1 km). The course goes past the famous scenes in Cardiff, including Cardiff Castle, Roath Park, The Millennium Centre and lots more. The event has grown significantly over the years and it is very popular with approximately 20,000 runners every year. It is quite a flat and fast course which is suitable for people of all abilities. The support is brilliant too – from the start unil the finish.


Carten100

Taith beic o Gaerdydd i Ddinbych y Pysgod yw Carten100. Mae’r daith yn 100 o filltiroedd. Mae’n dechrau y tu fas i Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd ac mae’n gorffen yng nghanol Dinbych y Pysgod. Mae pob seiclwyr yn gwisgo crys seiclo Carten100 ac mae’n ddiwrnod o hwyl i’r seiclwyr. Mae’r digwyddiad yn dod yn fwyfwy poblogaidd bob blwyddyn, gyda 2500 o seiclwyr yn 2017. Mae’r athletwyr yn cael eu hannog i gymryd eu hamser tra seiclo i Ddinbych y Pysgod, nid ras yw e! Nod y ras yw cael pobl ar eu beic tra codi arian at elusennau.

Carten

Carten100 is a bike ride from Cardiff to Tenby. The ride is 100 miles. It starts outside City Hall in Cardiff and it finishes in the centre of Tenby. Every cyclist wears a Carten100 cycling shirt and it is a day of fun for the cyclists. The event is becoming more and more popular each year, with 2500 cyclists in 2017. Athletes are encouraged to take their time whilst cycling to Tenby, it is not a race! The aim of the race is to get people on their bike whilst raising money for charities.


Ironman Cymru / Ironman Wales

Triathlon pellter hir yn Sir Benfro yw Ironman Cymru. Mae’n cynnwys nofio 2.2 milltir (3.6 km), wedyn seiclo 112 milltir (180 km) cyn rhedeg marathon (26.2 milltir/42.2 km). Mae Ironman Cymru yn cael ei gynnal bob mis Medi yn Ninbych y Pysgod, a dechreuodd yn 2011. Mae’r ras yn dechrau ar Draeth y Gogledd am 7yb ar Ddydd Sul. Mae'r cwrs beic wedyn yn cymryd yr athletwyr trwy gefn gwlad hardd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, heibio golygfeydd ysblennydd. Ar ôl y beic, mae marathon o gwmpas strydoedd Dinbych y Pysgod sy’n ddeniadol iawn. Mae Ironman Cymru yn boblogaidd dros ben gyda thua 2,000 o athletwyr bob blwyddyn ac mae miloedd o gefnogwyr a gwirfoddolwyr hefyd. Felly, mae’r awyrgylch yn anhygoel! Nid yw yn ddiwrnod i’w golli!

Ironman

Ironman Wales is a long-distance triathlon in Pembrokeshire. It involves a 2.2 mile (3.6 km) swim, then a 112 mile (180 km) cycle before running a marathon (26.2 miles/42.2 km). Ironman Wales is held every September in Tenby, and it started in 2011. The race starts on North Beach at 7am on a Sunday. The bike course then takes the athletes through the countryside of Penbrokeshire Coastal National Park, past stunning views. After the bike, there is a marathon around the streets of Tenby which is very picturesque. Ironman Wales is extremely popular with approximately 2,000 athletes every year and there are thousands of supporters and volunteers too. Therefore, the atmosphere is incredible. It is a day not to miss!


Long Course Weekend

Cyfres o ddigwyddiadau nofio, seiclo a rhedeg dros un penwythnos yw Long Course Weekend. Mae’n cael ei gynnal bob mis Gorffennaf yn Ninbych y Pysgod ac mae’r digwyddiad yn wych i bobl sy’n hyfforddi ar gyfer Ironman Cymru. Mae nofio 2.4 milltir ar y Nos Wener, wedyn taith beic 112 milltir ar y Dydd Sadwrn cyn y marathon ar y Dydd Sul. Gellir hefyd gwneud pellteroedd byrrach am bob un o’r chwaraeon neu wneud dim ond un neu ddau ohonynt. Mae’n hollol lan i chi! Mae’r pellteroedd byrrach yn cael eu cynnal ar yr un amser â’r pellter llawn. Os ydych yn gorffen y tri phellter llawn, mae medal ychwanegol gyda seremoni arbennig. Mae’r penwythnos yn llawer o hwyl ac mae’n addas i unrhyw oedolion o unrhyw gallu. Mae 1000 o athletwyr yn gwneud y Long Course Weekend llawn, ond mae miloedd yn gwneud y digwyddiadau unigol hefyd.  Byddwch yn cael cefnogaeth am yr holl amser hefyd!

LCW

Long Course Weekend is a series of swimming, cycling and running events over one weekend. It is held every July in Tenby and the event is great for anyone training for Ironman Wales. There is a 2.4 mile swim on the Friday evening, then a 112 mile bike ride on the Saturday before the marathon on the Sunday. You can also do shorter distances for each of the sports or only do one or two of them. It is completely up to you! The shorter distances are held at the same time as the full distance. If you finish the three full distances, there is an additional medal with a special ceremony. The weekend is lots of fun and it is suitable for any adults of any ability. 1000 athletes do the full Long Course Weekend, but thousands do the individual events too. You will also have support for the whole time!


Man v Horse

Ras yn Llanwrtyd Wells bob mis Mehefin yw Man v Horse. Nod y ras yw ceisio gorffen cyn y ceffylau. Rydych yn gallu rhedeg ar eich pen eich hun neu rydych yn gallu rhedeg mewn tîm. Gellir hefyd gwneud y ras fel ceffyl a marchogwr. Mae’r ras yn 22 milltir o hyd, a dechreuodd y digwyddiad ym mis Mehefin 1980. Mae jackpot ar gyfer rhedwr sy’n gorffen cyn y ceffyl cyntaf. Dechreuodd y jackpot ar £500 ac mae’n cynyddu gan £500 y flwyddyn nes i redwr ennill. Mae rhedwr wedi ennill dwywaith ond mae ceffyl yn ennill y rhan fwyaf o amser. Bydd y jackpot yn £3000 ar gyfer 2019. Mae’r cwrs yn eithaf anodd ond mae’n hwyl ac mae’n gwerthu mas bob blwyddyn!

Man v Horse

Man v Horse is a race in Llanwrtyd Wells every June. The aim of the race is to try and finish before the horses. You can run on your own or you can run in a relay team. You can also do the race as a horse and rider. The race is 22 miles long, and the event started in June 1980. There is a jackpot for a runner who finishes before the first horse. The jackpot started at £500 and it increases by £500 each year until a runner wins. A runner has won twice but a horse wins the majority of the time. The jackpot will be £3000 for 2019. The course is quite difficult but it’s fun and it sells out every year.


Marathon Casnewydd Cymru / Newport Wales Marathon

Marathon cenedlaethol i Gymru yw’r Marathon Casnewydd Cymru. Hwn yw’r unig farathon dinas fawr yng Nghymru.  Mae’r llwybr yn gyflym a golygfaol, fe yw un o’r marathonau cyflymaf yn y Deyrnas Unedig. Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf ym mis Ebrill 2018 a bydd yr ail ddigwyddiad yn cael ei gynnal ym mis Mai 2019. Mae'r ras 10K ar yr un diwrnod yn golygu bod rhedwyr o bob gallu yn gallu cymryd rhan heb ymrwymo i'r pellter heriol 26.2 milltir. Mae’n ddiwrnod gwych i bawb, gyda llawer o hwyl a chefnogaeth.

Newport marathon

The Newport Wales Marathon is a national marathon for Wales.This is the only big city marathon in Wales. The course is fast and scenic, it is one of the fastest marathons in the United Kingdom. The first event was held in April 2018 and the second event will be held in May 2019. The 10K race on the same day means that runners of all abilities can take part without committing to the challenging 26.2 mile distance. It is a great day for everyone, with lots of fun and support.

Race the Train

Digwyddiad rhedeg yn Nhywyn, Canol Cymru yw Race the Train. Nod y ras yw ceisio curo’r trên. Mae Race the Train yn digwydd ochr yn ochr â'r llwybr a gymerwyd gan Reilffordd Talyllyn ar ei daith i Abergynolwyn ac yn ôl. Mae'r digwyddiad unigryw yn hanfodol ar gyfer yr holl redwyr aml-dir. Mae’r ras yn 14 milltir o hyd, ond mae opsiynau byrrach hefyd. Mae Race the Train yn cael ei gynnal bob mis Awst a bydd yr 36aindigwyddiad yn cael ei gynnal eleni. Rydych chi hefyd yn gallu prynu tocynnau i gefnogwyr fynd ar y trên rasio sy’n teithio ar yr un amser â’r athletwyr.

Race the train

Race the Train is a running event in Tywyn, Mid Wales. The aim of the race is to try to beat the train. Race the Train takes place alongside the route taken by the Talyllyn Railway on its journey to Abergynolwyn and back. The unique event is essential for all multi-terrain runners. The race is 14 miles long, but there are shorter options too. Race the Train is held every August and the 36th event will be held this year. You can also buy tickets for supporters to go on the racing train which travels at the same time as the athletes.


Marathon Eryri / Snowdonia Marathon

Marathon ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw Marathon Eryri. Mae’n cael ei gynnal bob mis Hydref ac mae’n boblogaidd iawn ymhlith rhedwyr. Mae’n gwerthu mas yn gyflym dros ben gyda dros 2000 o athletwyr yn gwneud y marathon bob blwyddyn.  Mae’r llwybr yn heriol ond mae’r golygfeydd yn ysblennydd. Rydych yn rhedeg o amgylch yr Wyddfa, y copa uchaf yng Nghymru a Lloegr. Mae’r ras yn dechrau ger Llanberis ac yn dilyn llwybr gyda golygfeydd ardderchog o’r dechrau i’r diwedd. Mae’r marathon wedi’i bleidleisio yn un o’r marathonau gorau ym Mhrydain ddwywaith ac mae’n ddigwyddiad pwysig yn y calendr marathon blynyddol.

Snowdonia marathon

The Snowdonia Marathon is a marathon in Snowdonia National Park. It is held every October and it is very popular amongst runners. It sells out extremely quickly with over 2000 athletes doing the marathon every year. The route is challenging but the views are stunning. You run around Snowdon, the highest peak in Wales and England. The race starts near Llanberis and follows a route with incredible views from the start to the end. The marathon has been voted as one of the best marathons in Britian twice and it is an important event in the annual marathon calendar.

cy.wikipedia.org/wiki/Marathon_Eryri

en.wikipedia.org/wiki/Snowdonia_Marathon


Tenfoot Swim

Nofio o Ddinbych y Pysgod i Saundersfoot yw Tenfoot Swim. Mae’n cynnwys 5km o nofio yn y môr ar hyd arfordir Sir Benfro. Bydd y digwyddiad yn digwydd yn 2019 am y trydydd tro. Bydd y nofwyr yn mynd i mewn i’r dŵr ar Draeth y Gogledd, Dinbych y Pysgod. Byddan wedyn yn gadael y môr ar Draeth Monkstone (hanner ffordd) am fwyd, diod a gwiriadau diogelwch. Mae pawb wedyn yn gorffen ar draeth Saundersfoot. Eleni, mae opsiwn i wneud rhedeg yn ogystal â’r nofio, o’r enw Tenfoot Swim/Run, mae’n 4km o nofio a rhedeg 6km. Bydd yn digwydd ar yr un pryd â’r Tenfoot Swim.

Tenfoot

Tenfoot Swim is a swim from Tenby to Saundersfoot. It involves 5km of swimming in the sea along the Pembrokshire coast. The event will occur in 2019 for the third time. The swimmers will enter the water at North Beach, Tenby. They will then leave the sea at Monkstone Beach (half way) for food, drink and safety checks. Everyone then finishes on Saundersfoot beach. This year, there is an option to do a run as well as the swim, called Tenfoot Swim/Run, it’s 4km of swimming and a 6km run. It will happen at the same time as the Tenfoot Swim.

Y diweddaraf oddi wrth Hwyl

About Wales

About Wales

What are some common symbols used to represent Wales, and why are