Top 10 Actoresau o Gymru

Actoresau o Gymru / Actresses from Wales: Top 10

Mae nifer o actoresau talentog sy’n dod o Gymru. Maen nhw wedi ymddangos mewn amrywiaeth o raglenni poblogaidd, yn Saesneg ac yn Gymraeg.

There are a number of talented actress who came from Wales. They have appeared in a variety of popular programmes, in English and in Welsh.

Gan / By Lydia Hobbs

Catherine Ayers

Actores Gymraeg yw Catherine Ayers sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n adnabyddus am chwarae’r prif gymeriad, Angharad Wynne, yn y ddrama wleidyddol Byw Celwydd rhwng 2016 a 2018. Cafodd Catherine ei henwebu yn 2016 am wobr actores orau BAFTA Cymru am ei rôl fel Angharad yn Byw Celwydd. Mae hi hefyd yn enwog oherwydd ei bod yn ymddangos yn y ddrama Keeping Faith/Un Bore Mercher fel Lisa Connors. Mae llawer o bobl yn caru’i chymeriad oherwydd ei bod yn ddoniol iawn ac mae hi’n dod â gwin drwy’r amser! Gwelwyd Cath Ayers mewn sawl rhaglen arall hefyd, gan gynnwys Rownd a Rownd a My Petsaurus.

Catherine Ayers is a Welsh speaking actress who lives in Cardiff. She is well-known for playing the main character, Angharad Wynne, in the political drama, Byw Celwydd. Cath was nominated in 2016 for BAFTA Cymru’s best actress award for her role as Angharad in Byw Celwydd.  She is also famous because she appears in the drama Keeping Faith/Un Bore Mercher as Lisa Connors. Many people love her character because she is very funny and she always brings wine! Cath Ayers has also been seen in many other programmes, including Rownd a Rownd a My Petsaurus.


Catherine Zeta-Jones CBE

Actores o Abertawe yw Catherine Zeta-Jones. Mae hi wastad wedi dangos diddordeb mewn actio, hyd yn oed pan oedd hi’n ifanc iawn. Fel plentyn, perfformiodd hi ar y llwyfan yn “Annie”, “Bugsy Malone” a “The Pajama Game.” Daeth hi yn enwog yn dilyn ei hymddangosiad yn y gyfres “The Darling Buds of May” yn y 1990au. Roedd y gyfres hon yn boblogaidd dros ben ac o ganlyniad, Catherine Zeta-Jones yw un o’r actoresau mwyaf poblogaidd ar y teledu yn y Deyrnas Unedig. Yn 2010, cafodd hi CBE gan y Frenhines am ei gwasanaethau i ddrama.

Catherine Zeta-Jones

Catherine Zeta-Jones is an actress from Swansea. She has always shown an interest in acting, even when she was very young. As a child, she performed on the stage in “Annie”, “Bugsy Malone” and “The Pajama Game.” She become famous following her appearance in the series “The Darling Buds of May” in the 1990s. This series was extremely popular and as a result, Catherine Zeta-Jones is one of the most popular actresses on the television in the United Kingdom. In 2010, she received a CBE from the Queen for her services to drama.


Catrin Stewart

Actores Gymraeg yw Catrin Stewart, sy’n enwog am actio mewn Saesneg a Chymraeg. Yn 2016, chwaraeodd hi ddau gymeriad, sef Ana and Nan, yn y ffilm Gymraeg, Y Llyfrgell. Yn 2017, hi oedd y prif gymeriad, Gina, yng nghyfres S4C, Bang. Mae Catrin Stewart hefyd yn enwog iawn am ei fod wedi ymddangos fel Emma Morris yn y gyfres Stella ar Sky o 2012 i 2017. Mae hi hefyd yn ymddangos fel Jenny mewn sawl pennod o Doctor Who.

Catrin Stewart

Catrin Stewart is a Welsh-speaking actress who is famous for acting in the English and Welsh language. In 2016, she played two characters, Ana and Nan, in the Welsh film, Y Llyfrgell. In 2017, she was the main character, Gina, in S4C’s series, Bang. Catrin Stewart is also very famous as she appeared as Emma Morris in the series Stella on Sky from 2012 to 2017. She also appears as Jenny in several episods of Doctor Who.


Eiry Thomas

Actores Gymraeg o Gaerdydd yw Eiry Thomas. Mae hi’n actores dalentog sydd yn gweithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae Eiry yn adnabyddus oherwydd ei bod wedi chwarae’r rôl o Catrin Williams, arweinydd y Democratiaid, mewn tair cyfres o ddrama wleidyddol S4C, Byw Celwydd. Ymddangosodd Eiry yn y ddrama Keeping Faith/Un Bore Mercher, ac roedd hi’n portreadu’r cymeriad DI Williams. Mae hi hefyd wedi ymddangos mewn nifer o raglenni eraill, gan gynnwys Stella, Con Passionate, Hinterland/Y Gwyll a Rillington Place. Mae hi hefyd yn gweithio gyda Theatr Pena ac mae hi ar y llwyfan yn perfformio yn aml. Mae hi wedi’i henwebu am sawl gwobr yn ystod ei gyrfa ac mae hi wedi ennill gwobr actores orau BAFTA Cymru.

Eiry Thomas

Eiry Thomas is a Welsh speaking actress from Cardiff. She is a talented actress who works in both Welsh and English.  Eiry is well-known because she has played the role of Catrin Williams, leader of the Democrats, in three series of S4C’s political drama, Byw Celwydd. Eiry appeared in the drama Keeping Faith/Un Bore Mercher, and she portrayed the character DI Williams. She has also appeared in a number of other programmes, including Stella, Con Passionate, Hinterland/Y Gwyll and Rillington Place. She also works with Theatr Pena and she is often on the stage performing. She has been nominated for several awards during her career and has won BAFTA Cymru’s best actress award.


Eve Myles

Actores o Ystradgynlais yw Eve Myles. Mae hi’n briod â’r actor Bradley Freeguard ac maen nhw’n byw yng Nghaerdydd. Mae hi wedi cael gyrfa ardderchog hyd yn hyn, ac mae hi wedi ymddangos mewn llawer o raglenni poblogaidd. Roedd Eve Myles yn chwarae’r rhan o Gwen Cooper, un o’r prif gymeriadau, yn y gyfres Torchwood, rhwng 2006 a 2011. Yn 2015, ymddangosodd hi yn yr ail gyfres o Broadchurch. Nawr, mae Eve hefyd yn enwog am chwarae’r brif rôl, sef Faith Howells, yn y ddrama boblogaidd dros ben Keeping Faith/Un Bore Mercher.’ Un Bore Mercher yw’r fersiwn Cymraeg, ond ni allai Eve siarad Cymraeg cyn ffilmio’r gyfres hon. Dysgodd hi Gymraeg yn arbennig ar gyfer y gyfres. Yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2018, enillodd Eve y wobr am yr actores orau am ei pherfformiad fel Faith yn Keeping Faith/Un Bore Mercher.

Eve Myles

Eve Myles is an actress from Ystradgynlais. She is married to the actor Bradley Freeguard and they live in Cardiff. She has had an amazing career so far, and she has appeared in lots of popular programmes. Eve Myles played the role of Gwen Cooper, one of the main characters, in the series Torchwood, between 2006 and 2011. In 2015, she appeared in the second series of Broadchurch. Now, Eve is also famous for playing the lead role, Faith Howells, in the popular drama Keeping Faith/Un Bore Mercher. Un Bore Mercher is the Welsh language version, but Eve couldn’t speak Welsh before filming this series. She learnt Welsh especially for the series. At the 2018 BAFTA Cymru awards, Eve won the award for best actress for her performance as Faith in Keeping Faith/Un Bore Mercher.


Ffion Dafis

Actores a chyflwynydd teledu Cymraeg yw Ffion Dafis. Cafodd hi ei geni ym Mangor, ond mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae hi wedi ymddangos fel Rhiannon Roberts ym mhob pennod o’r ddrama wleidyddol ar S4C, Byw Celwydd. Chwaraeodd hi Alwena Parry yn yr opera sebon Rownd a Rownd am wyth mlynedd. Darlledwyd ei phennod olaf ar ddechrau 2017. Gwelir Ffion yn rheolaidd yn cyflwyno rhaglenni ar S4C, gan gynnwys amrywiaeth o raglenni dogfen ac uchafbwyntiau o’r Eisteddfodau Cenedlaethol. Mae hi hefyd yn ymddangos mewn cynyrchiadau theatr yn aml. Ym mis Chwefror 2017, chwaraeodd hi Yr Arglwyddes Macbeth mewn cyfieithiad newydd o’r ddrama Macbeth.

Ffion Dafis

Ffion Dafis is a Welsh speaking actress and television presenter. She was born in Bangor, but she now lives in Cardiff. She has appeared as Rhiannon Roberts in every episode of the political drama on S4C, Byw Celwydd. She played Alwena Parry in the soap opera Rownd a Rownd for eight years. Her last episode was broadcast at the start of 2017. Ffion is also seen regularly presenting programmes on S4C, including a variety of documentaries and highlights from the National Eisteddfods. She also often appears in theatre productions. In February 2017, she played Lady Macbeth in a new translation of the play Macbeth.


Gwyneth Keyworth

Actores Gymraeg o Aberystwyth yw Gwyneth Keyworth. Mae hi’n boblogaidd am ei bod hi chwarae Megan Ruddock yn y gyfres ddwyieithog Hidden/Craith yn 2018. Cafodd hi ei henwebu am wobr yr actores orau yng ngwobrau BAFTA Cymru 2018 am ei pherfformiad yn y gyfres hon. Ymddangosodd hi fel Ela yng nghyfres S4C Bang yn 2017. Mae hi hefyd yn enwog am ei hymddangosiadau yn Misfits a Doctor Thorne. Yn ogystal â hyn, mae hi hefyd wedi ymddangos yn Wasted, Power Monkeys, Game of Thornes a llawer mwy.

Gwyneth Keyworth

Gwyneth Keyworth is a Welsh-speaking actress from Aberystwyth. She is popular because she played Megan Ruddock in the series Hidden/Craith in 2018. She was nominated for the best actess award at the 2018 BAFTA Cymru awards for her performace in this series. She appeared as Ela in S4C’s series Bang in 2017. She is also famous for her appearances in Misfits and Doctor Thorne. In addition to this, she has also appeared in Wasted, Power Monkeys, Game of Thrones and lots more.


Mali Harries

Actores Gymraeg o Gaerdydd yw Mali Harries. Mae hi’n briod â’r actor Matthew Gravelle. Mae hi’n enwog am chwarae DI Mared Rhys yn y ddrama boblogaidd Hinterland/Y Gwyll rhwng 2012 a 2016. Enillodd hi Actores Orau yng ngwobrau BAFTA Cymru 2016 am ei rôl fel DI Mared Rhys yn y rhaglen hon. Mae pobl hefyd yn ei hadnabod hi am ei bod yn chwarae Bethan Price yn y gyfres Keeping Faith/Un Bore Mercher. Mae Mali a Matthew yn chwarae gŵr a gwraig yn y gyfres hon! Mae hi hefyd wedi ymddangos yn The Indian Doctor, Critical, y ffilm Leap Year a llawer mwy.

Mali Harries

Mali Harries is a Welsh speaking actress from Cardiff. She is married to the actor Matthew Gravelle. She is famous for playing DI Mared Rhys in the popular drama Hinterland/Y Gwyll between 2012 and 2016. She won Best Actress at the 2016 BAFTA Cymru awards for her role as DI Mared Rhys in this programme. People also know her because she plays Bethan Price in the series Keeping Faith/Un Bore Mercher. Mali and Matthew play husband and wife in this series! She also appears in The Indian Doctor, Critical, the film Leap Year and lots more!


Ruth Jones MBE

Actores a ganwyd ym Mhen Y Bont yw Ruth Jones. Mae hi’n enwog dros ben am chwarae Nessa yn y comedi poblogaidd iawn, Gavin & Stacey. Ysgrifennodd hi Gavin & Stacey gyda James Corden, sy hefyd yn ymddangos yn y gyfres fel SMithy. Mae llawer o bobl yn dwli ar ei chymeriad hi yn y gyfres hon. Mae Ruth Jones hefyd yn enwog achos ei bod hi wedi chwarae Stella yn y gyfres lwyddiannus Stella ar Sky One. Ysgrifennodd hi’r gyfres hon hefyd.  Mae hi wedi ennill sawl gwobr yn ystod ei gyrfa a derbynniodd hi MBE yn 2014 am ei gwasanaethau i adloniant.

Ruth Jones

Ruth Jones ia an actress who was born in Bridgend. She is very famous for playing Nessa in the very popular comedy, Gavin & Stacey. She co-wrote Gavin & Stacey with James Corden, who appears in the series as Smithy. Lots of pople love her character in this series. Ruth Jones is also famous because she played Stella in the successful series Stella on Sky One. She wrote this series too. She has won several awards during her career and she received an MBE in 2014 for her services to entertainment.


Sian Reese-Williams

Actores Gymraeg o Lanaman yn Sir Gaerfyrddin yw Sian Reese-Williams. Yn ddiweddar, ymddangosodd hi fel un o’r prif gymeriadau, sef DI Cadi John, yn y ddrama ddwyieithog Hidden/Craith. Mae hi’n enwog am chwarae Gennie Walker yn Emmerdale rhwng 2008 a 2013, ac ymddangosodd hi mewn dros chwe chant o benodau. Mae hi wedi bod mewn llawer o raglenni eraill hefyd. Er enghraifft, yn 2018, gwelwyd Sian Reese-Williams yn y gyfres Requiem. Mae hi hefyd wedi bod mewn 35 Diwrnod a Hinterland/Y Gwyll. Yn 2019, bydd hi’n ymddangos fel Jane Cafferty yng nghyfres 5 o’r ddrama Line Of Duty.

Sian Reese-Williams

Sian Reese-Williams is a Welsh speaking actress from Glanamman in Carmarthenshire. Recently, she appeared as one of the main characters, DI Cadi John, in the bilingual drama Hidden/Craith. She is famous for playing Gennie Walker in Emmerdale between 2008 and 2013, and she appeared in over 600 episodes. She has been in many other programmes too. For example, in 2018, Sian Reese-Williams was seen in the series Requiem. She has also been in 35 Diwrnod and Hinterland/Y Gwyll. In 2019, she will appear as Jane Cafferty in series 5 of the drama Line Of Duty.

Y diweddaraf oddi wrth Hwyl

About Wales

About Wales

What are some common symbols used to represent Wales, and why are