Sara Louise Wheeler- A great year for signed languages in film

Sara Louise Wheeler o Brifysgol Bangor: Blwyddyn wych o ran ieithoedd arwyddion mewn ffilm / A great year for signed languages in film

O ystyried y ffilmiau wedi’u rhyddhau yn ystod 2017, a’r rhai wedi’u hanrhydeddu yn y seremoni Oscars, go arbennig yw sylwi mor amlwg mae ieithoedd arwyddion wedi bod. Tair ffilm yn enwedig sy’n amlwg gan eu bod nhw’n portreadu ieithoedd arwyddion fel ieithoedd go iawn, sef: Baby Driver, The Shape of Water a The Silent Child. Mae Sara, darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol, yn esbonio mwy…

Looking back at the films released in 2017, and those honoured at the Oscars, it is quite remarkable to note the prominence of signed languages. Three films in particular stand out for their sensitive portrayals of signed languages as bona fide languages: Baby Driver, The Shape of Water and The Silent Child. Sara, a lecturer in Social Policy, explains more…

Ymddangosodd y fersiwn Saesneg o’r erthygl hon yn wreiddiol yn The Conversation, gyda chyfres o erthyglau sydd yn cynnwys Cymru yma.
The English version of this article originally appeared in The Conversation, with a series of articles that feature Wales here.

Mae dwy o’r tair ffilm hyn, Baby Driver a The Silent Child, hefyd yn cyfrannu’n bwysig – ar y sgrin ac yn y byd go iawn – at gydnabod a pharchu diwylliant, hunaniaeth, a chymuned Fyddar; yn y ddwy ffilm, actorion Byddar sy’n chwarae cymeriadau sydd yn dangos pa mor bwysig yw iaith arwyddion yn eu bywydau pob dydd.

Baby Driver
Derbyniodd y ffilm hon ddau o’i thri enwebiad yn yr Academy Awards ym 2018 o ran golygu a chymysgu sain. Mae’n cynnwys portread hyfryd o iaith arwyddion America (ASL) a sut mae’n cael ei defnyddio mewn bywyd pob dydd. Mae’r prif gymeriad Baby/Miles yn trafod pethau â’i dadmaeth Byddar Joseph megis perthnasau, a chysylltiad Baby â gweithgareddau troseddol, yn ogystal â rhywbeth tipyn yn fwy cyffredin, sut i wneud cinio at ddant Joseph.

Carreg filltir o ffilm yw Baby Driver hefyd, gan mai Byddar yw’r actor CJ Jones sy’n chwarae rhan Joseph, ac ASL yw ei famiaith. Yn aml mae stiwdios yn dewis actorion sy’n gallu clywed mewn rhannau Byddar. Fodd bynnag, fe ddywedodd yr ysgrifennwr a chyfarwyddwr o’r enw Edgar Wright, mai “anodd” oedd gwylio actorion sy’n gallu clywed yn cogio bod yn Fyddar, ar ôl iddo roi clyweliad i Jones. Pwynt diddorol yw hwn o ran adfeddiad diwylliannol o hunaniaeth Fyddar, ac mae ymgyrchu wedi bod amdano, er enghraifft, trwy ddefnyddio’r hash-nod #DeafTalent. Yn y cyfamser, dysgodd Ansel Elgort, oedd yn chwarae rhan Baby/Miles, ASL, er mwyn “gwneud chwarae teg â hi.”

The Shape of Water
Enillodd y ffilm hon bedwar o’r Academy Awards ym 2018, gan gynnwys ffilm orau. Mae’n chwedl dirweddaeth hudol, sy’n dilyn gofalydd mewn labordy llywodraeth tra mae hi’n cwympo mewn cariad ag amffibiad dynolffurf, sy’n cael ei ddal yn gaeth yno. Dyw’r prif gymeriad Elisa Esposito (Sally Hawkins sy’n chwarae’r rhan hon) ddim yn fyddar, ond eto i gyd, dyw hi ddim yn gallu lleisio. Felly mae Elisa’n cyfathrebu, trwy ddefnyddio ASL yn unig, â’i chydweithiwr Zelda Delilah Fuller (Octavia Spencer), â’i chymydog Giles (Richard Jenkins), ac â’i chariad o amffibiad (Doug Jones) nad yw’n gallu lleisio chwaith.

Wrth i’r stori ddatblygu, mae Elisa’n trafod pethau â’i ffrindiau gan ddefnyddio ASL, a dyna sy’n dangos ei bod hi’n iaith go iawn sy’n nerthol ac yn fywiog. Mae Elisa’n dod yn ffrind i’r creadur, ac yn dysgu ASL iddo fe, yn yr un modd y byddai rhywun yn dysgu unrhyw iaith. Mae hi’n crefu ar Giles i’w helpu hi i achub y creadur, ac mae’n ei berswadio fe, gan gyfleu dyfnder ei hymlyniad a’i serch. Ar ôl iddi hi gael cyfathrach â’r creadur, mae Elisa’n cyfaddef wrth Zelda am fanylion preifat y digwyddiad mewn modd cyfoethog a llawn. Ac mae hi’n cyfleu’r cymhlethdod hwn i gyd, trwy gyfrwng ASL.

Mewn cyfweliad, esboniodd Hawkins bethau fel a ganlyn: Roedd iaith arwyddo Elisa yn gymysgedd bwriadol o ASL fel byddai pobl wedi’i siarad yn ôl yn y cyfnod, a “cyfuniad o bethau byddai Elisa wedi eu taflu at ei gilydd, o achos ble y byddai hi wedi bod yn debygol o’i dysgu.” Dyma ddarluniad da o ran realeath defnyddwyr ieithoedd arwyddion bryd hynny ac hefyd yn nes ymlaen. Trwy’r amser, fe gafodd ieithoedd arwyddion <a/ href=”http://old-bda.org.uk/What_We_Do/BSL_History”>eu llethu ledled y byd, wrth ffafrio darllen gwefusau a defnyddio’r llais

The Silent Child
Enillodd y ffilm hon y wobr yn yr Oscars am ffilm fer orau sy’n cynnwys ffilmio byw. Mae’n cyfleu sut mae plentyn hollol fyddar yn cael ei hynysu a’i gwahanu, wrth fyw mewn teulu sy’n gallu clywed, ac sy’n cymryd yn ganiataol ei bod hi’n “dilyn pethau’n dda iawn”. Fodd bynnag, pan ydym ni’n gweld pryd o fwyd gyda’r teulu trwy lygaid Libby, rydym ni’n dechrau casglu nad yw hyn yn gywir o bell ffordd. Mae’r sefyllfa’n gwella pan mae gweithiwr cymdeithasol yn cyrraedd. Mae hi’n dysgu iaith arwyddion Prydain (BSL) i Libby, a dyma sy’n ei galluogi hi i gyfathrebu ac i fynegi ei hunan. Wedi dweud hynny, mae’r ffilm yn dirwyn i ben ar nodyn ansicr ac emosiynol, gan fod rhieni Libby yn penderfynu darfod ei gwersi BSL.

Maisie Sly, actores Fyddar yn chwech oed, sy’n chwarae rhan Libby, prif gymeriad yn y ffilm, ac BSL yw ei mamiaith. Wedi derbyn y wobr, rhoddodd Rachel Shenton, a ysgrifennodd y ffilm ac a oedd yn chwarae rhan Joanne, ei haraith derbyn Oscar mewn BSL.

Mae The Silent Child o blaid BSL. Serch hynny mae’n dangos y tensiynau sydd rhwng diwylliant clywedol, a diwylliant Byddar, gan fod llawer o rieni’n gweld BSL fel bygythiad i gyfathrebiad teuluol.

Felly, mae ffilmiau 2017-18 wedi amlygu ieithoedd arwyddion, ac maen nhw wedi cynhyrchu trafodaeth sylweddol. Ond, tra mae agweddau tuag at ieithoedd arwyddion, ac at ddiwylliant Byddar, yn gwella efallai, mae cryn bellter o’n blaenau cyn i ni ddod yn agos at gydraddoldeb o unrhyw ddisgrifiad. Braf yw dysgu, felly, fod y tîm tu ôl i The Silent Child yn cynllunio ffilm hyd llawn i’w dilyn, a’u bod nhw’n ymgyrchu dros ddysgu BSL i blant mewn ysgolion. Gadewch i ni obeithio y gallwn gynnal y momentwm wedi’i greu yn ystod y flwyddyn hon, er mwyn mynd â’r datblygiadau hyn yn bellach.

Tra mae agweddau tuag at ieithoedd arwyddion, ac at ddiwylliant Byddar, yn gwella efallai, mae cryn bellter o’n blaenau cyn i ni ddod yn agos at gydraddoldeb o unrhyw ddisgrifiad.

Fersiwn Dwyieithog / Bilingual version

Mae dwy o’r tair ffilm hyn, Baby Driver a The Silent Child, hefyd yn cyfrannu’n bwysig – ar y sgrin ac yn y byd go iawn – at gydnabod a pharchu diwylliant, hunaniaeth, a chymuned Fyddar; yn y ddwy ffilm, actorion Byddar sy’n chwarae cymeriadau sydd yn dangos pa mor bwysig yw iaith arwyddion yn eu bywydau pob dydd.Two of these three films, Baby Driver and The Silent Child, also make an important contribution – both onscreen and off – towards recognising and respecting Deaf culture, identity, and community; they both have Deaf actors playing characters that demonstrate the importance of signed languages in their everyday lives.
Baby Driver
Derbyniodd y ffilm hon ddau o’i thri enwebiad yn yr Academy Awards ym 2018 o ran golygu a chymysgu sain. Mae’n cynnwys portread hyfryd o iaith arwyddion America (ASL) a sut mae’n cael ei defnyddio mewn bywyd pob dydd. Mae’r prif gymeriad Baby/Miles yn trafod pethau â’i dadmaeth Byddar Joseph megis perthnasau, a chysylltiad Baby â gweithgareddau troseddol, yn ogystal â rhywbeth tipyn yn fwy cyffredin, sut i wneud cinio at ddant Joseph.
Baby Driver
Baby Driver – which had two of its three 2018 Academy Award nominations for sound editing and mixing – contains a beautiful portrayal of American Sign Language (ASL) and its role in everyday life. Central character Baby/Miles and his Deaf foster father Joseph, discuss relationships, Baby’s involvement in criminal activity, and the slightly more mundane topic of preparing dinner to Joseph’s liking.
Carreg filltir o ffilm yw Baby Driver hefyd, gan mai Byddar yw’r actor CJ Jones sy’n chwarae rhan Joseph, ac ASL yw ei famiaith. Yn aml mae stiwdios yn dewis actorion sy’n gallu clywed mewn rhannau Byddar. Fodd bynnag, fe ddywedodd yr ysgrifennwr a chyfarwyddwr o’r enw Edgar Wright, mai "anodd" oedd gwylio actorion sy’n gallu clywed yn cogio bod yn Fyddar, ar ôl iddo roi clyweliad i Jones. Pwynt diddorol yw hwn o ran adfeddiad diwylliannol o hunaniaeth Fyddar, ac mae ymgyrchu wedi bod amdano, er enghraifft, trwy ddefnyddio’r hash-nod #DeafTalent. Yn y cyfamser, dysgodd Ansel Elgort, oedd yn chwarae rhan Baby/Miles, ASL, er mwyn “gwneud chwarae teg â hi.”Baby Driver is also a landmark film because actor CJ Jones, who plays the role of Joseph, is Deaf and native to ASL. Studios often cast hearing actors in Deaf roles, but writer and director Edgar Wright stated that, having auditioned Jones, he found watching hearing actors pretend to be Deaf “difficult”. This is an interesting point in terms of cultural appropriation of Deaf identity and has been the subject of campaigning, including #DeafTalent. Meanwhile, Ansel Elgort, who played Baby/Miles, undertook lessons in ASL in order to “do it justice”.
The Shape of Water
Enillodd y ffilm hon bedwar o’r Academy Awards ym 2018, gan gynnwys ffilm orau. Mae’n chwedl dirweddaeth hudol, sy’n dilyn gofalydd mewn labordy llywodraeth tra mae hi’n cwympo mewn cariad ag amffibiad dynolffurf, sy’n cael ei ddal yn gaeth yno. Dyw’r prif gymeriad Elisa Esposito (Sally Hawkins sy’n chwarae’r rhan hon) ddim yn fyddar, ond eto i gyd, dyw hi ddim yn gallu lleisio. Felly mae Elisa’n cyfathrebu, trwy ddefnyddio ASL yn unig, â’i chydweithiwr Zelda Delilah Fuller (Octavia Spencer), â’i chymydog Giles (Richard Jenkins), ac â’i chariad o amffibiad (Doug Jones) nad yw’n gallu lleisio chwaith.
The Shape of Water
The Shape of Water, which took four of the 2018 Academy Awards including best picture, is a magical realism tale, which follows a janitor at a government laboratory as she falls in love with a humanoid amphibian creature being held there. While protagonist Elisa Esposito (played by Sally Hawkins) is not deaf, she is unable to verbalise. So Elisa communicates exclusively through ASL with her co-worker Zelda Delilah Fuller (Octavia Spencer), neighbour Giles (Richard Jenkins), and her amphibian lover (Doug Jones) who also cannot verbalise.
Wrth i’r stori ddatblygu, mae Elisa’n trafod pethau â’i ffrindiau gan ddefnyddio ASL, a dyna sy’n dangos ei bod hi’n iaith go iawn sy’n nerthol ac yn fywiog. Mae Elisa’n dod yn ffrind i’r creadur, ac yn dysgu ASL iddo fe, yn yr un modd y byddai rhywun yn dysgu unrhyw iaith. Mae hi’n crefu ar Giles i’w helpu hi i achub y creadur, ac mae’n ei berswadio fe, gan gyfleu dyfnder ei hymlyniad a’i serch. Ar ôl iddi hi gael cyfathrach â’r creadur, mae Elisa’n cyfaddef wrth Zelda am fanylion preifat y digwyddiad mewn modd cyfoethog a llawn. Ac mae hi’n cyfleu’r cymhlethdod hwn i gyd, trwy gyfrwng ASL.Through the unfolding love story, and her conversations about it with her friends, the power of ASL as a full and vibrant language is demonstrated. Elisa befriends the creature and teaches him ASL, as one would any language. She begs and convinces Giles to help her rescue the creature, conveying the depth of her emotional attachment and love. Having copulated with the creature, Elisa confides in Zelda the intimate and explicit details of the encounter. All of this complexity of everyday life is conveyed through ASL.
Mewn cyfweliad, esboniodd Hawkins bethau fel a ganlyn: Roedd iaith arwyddo Elisa yn gymysgedd bwriadol o ASL fel byddai pobl wedi’i siarad yn ôl yn y cyfnod, a “cyfuniad o bethau byddai Elisa wedi eu taflu at ei gilydd, o achos ble y byddai hi wedi bod yn debygol o’i dysgu.” Dyma ddarluniad da o ran realeath defnyddwyr ieithoedd arwyddion bryd hynny ac hefyd yn nes ymlaen. Trwy’r amser, fe gafodd ieithoedd arwyddion eu llethu ledled y byd, wrth ffafrio darllen gwefusau a defnyddio’r llaisIn an interview, Hawkins explained that Elisa’s signed language was a deliberate mixture of period-specific ASL and an “amalgamation of things Elisa would have cobbled together "because of where she’d probably have learnt it”. This is a good representation of the reality of many signers in this period and beyond. Signed languages were historically suppressed worldwide, in favour of lip reading and use of voice.
The Silent Child
Enillodd y ffilm hon y wobr yn yr Oscars am ffilm fer orau sy’n cynnwys ffilmio byw. Mae’n cyfleu sut mae plentyn hollol fyddar yn cael ei hynysu a’i gwahanu, wrth fyw mewn teulu sy’n gallu clywed, ac sy’n cymryd yn ganiataol ei bod hi’n “dilyn pethau’n dda iawn”. Fodd bynnag, pan ydym ni’n gweld pryd o fwyd gyda’r teulu trwy lygaid Libby, rydym ni’n dechrau casglu nad yw hyn yn gywir o bell ffordd. Mae’r sefyllfa’n gwella pan mae gweithiwr cymdeithasol yn cyrraedd. Mae hi’n dysgu iaith arwyddion Prydain (BSL) i Libby, a dyma sy’n ei galluogi hi i gyfathrebu ac i fynegi ei hunan. Wedi dweud hynny, mae’r ffilm yn dirwyn i ben ar nodyn ansicr ac emosiynol, gan fod rhieni Libby yn penderfynu darfod ei gwersi BSL.
The Silent Child
The Silent Child, which was awarded best live action short film at the Oscars, conveys the isolation and dissociation of a profoundly deaf child, Libby, living with her hearing family, who assume she “follows things really well”. However, as we witness a family meal through Libby’s eyes, we can begin to appreciate that this is far from being the case. The situation improves with the arrival of a social worker, Joanne, who teaches Libby British Sign Language (BSL), enabling her to communicate and express herself. However, the film ends on an uncertain and emotional note, as Libby’s parents decide to cease her BSL sessions.
Maisie Sly, actores Fyddar yn chwech oed, sy’n chwarae rhan Libby, prif gymeriad yn y ffilm, ac BSL yw ei mamiaith. Wedi derbyn y wobr, rhoddodd Rachel Shenton, a ysgrifennodd y ffilm ac a oedd yn chwarae rhan Joanne, ei haraith derbyn Oscar mewn BSL.The film’s main character, Libby, is played by six-year-old Deaf actor Maisie Sly, a native to BSL. Rachel Shenton, who wrote and starred in the film as Joanne, made her Oscar acceptance speech in BSL.
Mae The Silent Child o blaid BSL. Serch hynny mae’n dangos y tensiynau sydd rhwng diwylliant clywedol, a diwylliant Byddar, gan fod llawer o rieni’n gweld BSL fel bygythiad i gyfathrebiad teuluol.The Silent Child is pro-BSL, while still illustrating the tensions between hearing and Deaf cultures, as BSL is still seen by many parents as a threat to family communication.
Felly, mae ffilmiau 2017-18 wedi amlygu ieithoedd arwyddion, ac maen nhw wedi cynhyrchu trafodaeth sylweddol. Ond, tra mae agweddau tuag at ieithoedd arwyddion, ac at ddiwylliant Byddar, yn gwella efallai, mae cryn bellter o'n blaenau cyn i ni ddod yn agos at gydraddoldeb o unrhyw ddisgrifiad. Braf yw dysgu, felly, fod y tîm tu ôl i The Silent Child yn cynllunio ffilm hyd llawn i’w dilyn, a'u bod nhw’n ymgyrchu dros ddysgu BSL i blant mewn ysgolion. Gadewch i ni obeithio y gallwn gynnal y momentwm wedi’i greu yn ystod y flwyddyn hon, er mwyn mynd â’r datblygiadau hyn yn bellach.So, the films of 2017-18 have placed signed languages centre stage and generated much debate. But while attitudes towards them and Deaf culture may be improving, there is still a long way to go before anything nearing equality is achieved. It is thus gratifying to learn that the team behind The Silent Child are planning a full-length movie follow up, amid campaigning for children to be taught BSL in schools. Let’s hope that the momentum from this year can be maintained and built upon.

Llwytho i Lawr fel PDF

saralouisewheeler.wordpress.com / serensiwenna

Mae Patrick Jemmer wedi creu’r fersiwn Cymraeg i parallel.cymru / Patrick Jemmer has created the Welsh version for parallel.cymru

Y diweddaraf oddi wrth Anffurfiol