Rhiannon Williams Cymraeg yn y Gweithle

Rhiannon Heledd Williams: Cyhoeddi Llyfr i gefnogi Cymraeg yn y Gweithle / Publishing a book to support Welsh in the Workplace

Yn sgil y Mesur Iaith a’r Safonau a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru, mae mwy o alw nag erioed am weithwyr proffesiynol dwyieithog yng Nghymru heddiw.  Mae Rhiannon Heledd Williams yn darlithydd ac arbenigwr Materion Cymreig yn Nhŷ'r Cyffredin, ac yma mae hi'n cyflywno ei llyfr Cymraeg yn y Gweithle i helpu pobl ar draws Gymru datblygu eu sgiliau iaith. Mae'r eitem hon yn cynnwys cyflwyniad awdur unigryw a detholiad o'r llyfr.

Following the Language Bill and the Standards presented by the Welsh Government, there is more demand than ever for bilingual professionals in Wales today. Rhiannon Heledd Williams is a lecturer and Welsh Affairs Specialist in the House of Commons, and here she presents her book Cymraeg yn y Gweithle to help people across Wales develop their language skills. This item includes an exclusive author introduction and an extract from the book.

Pan astudiais i am radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth dros ddegawd yn ôl, doedd dim sôn am ‘Gymraeg Proffesiynol’ na ‘Chymraeg yn y gweithle.’ Mae’r un peth yn wir am brifysgolion eraill yng Nghymru. Yn y blynyddoedd diweddar, wrth i adrannau wynebu argyfwng recriwtio myfyrwyr i astudio’r Gymraeg fel pwnc gradd, enillodd y teitlau hyn eu plwyf wrth i’r trywydd newydd ddod yn rhan annatod o’r ddisgyblaeth.

Defnyddiwyd y term yn wreiddiol gan brifysgol Morgannwg ychydig flynyddoedd yn ôl drwy sefydlu cwrs ‘Cymraeg Proffesiynol’ a oedd yn canolbwyntio ar Gymraeg cyfoes mewn cyd-destun galwedigaethol. Ei fwriad oedd arfogi myfyrwyr â sgiliau cyflogadwyedd o ystyried y galw cynyddol am unigolion dwyieithog a allai ddefnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol.

Dyma’r cwrs a etifeddais gan fy rhagflaenydd pan gefais fy mhenodi fel darlithydd y Gymraeg ym Mhrifysgol Morgannwg, sef Prifysgol De Cymru maes o law. Wrth i Brifysgol Aberystwyth sefydlu cwrs ‘Cymraeg Proffesiynol’ hefyd, penderfynwyd y dylem ddilysu cwrs newydd sbon yn dwyn y teitl 'Cymraeg yn y gweithle.’

Yn yr un modd, ei nod oedd paratoi myfyrwyr at y byd gwaith drwy ddatblygu sgiliau iaith ymarferol. Fodd bynnag, wrth imi ddechrau llunio maes llafur ar gyfer y gwahanol fodiwlau, buan y sylweddolais mai prin iawn oedd yr adnoddau yn y maes hwn. Yn sgil strategaethau iaith Llywodraeth Cymru a’r safonau iaith, credais felly bod angen llawlyfr yn cynnig canllawiau iaith a fyddai’n cyd-fynd â’r twf mewn swyddi sy’n gofyn am sgiliau dwyieithog.

Fy swydd gyntaf oedd Swyddog Datblygu’r Gymraeg fel pwnc gradd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn ystod fy ymchwil gyda disgyblion ysgol, myfyrwyr a graddedigion er mwyn dysgu am eu canfyddiadau o’r pwnc, sylweddolais fod rhai’n gweld yr iaith fel rhywbeth hen-ffasiwn. Er bod modd astudio’r Gymraeg yn y brifysgol ers y 19eg; ganrif, roedd o’r pwys mwyaf erbyn heddiw bod y sawl sy’n astudio’r iaith ar unrhyw lefel yn gweld ei bod yn hyblyg ac yn berthnasol iddynt.

Un o’r ffyrdd y gellid dwyn perswâd arnynt o ddefnyddioldeb yr iaith yn eu bywydau bob dydd oedd dangos ei bod yn hyfyw ac yn addas i’w defnyddio mewn ystod eang o swyddi. Wedi’r cwbl, mae hyd yn oed siaradwyr Cymraeg cynhenid weithiau’n dioddef o ddiffyg hyder gyda Chymraeg ffurfiol. Rwy’n nabod sawl un sy’n dweud pethau fel ‘Mae’n rhaid imi ddarllen y llythyr yma’n Saesneg achos dw i ddim yn ei ddeall yn Gymraeg.’

O’r herwydd, teimlais fod angen cyfrol sy’n dangos y Gymraeg fel endid deinamig y gellir ei defnyddio mewn sefyllfaoedd a sectorau amrywiol. Roedd ymchwil gyda chyflogwyr hefyd yn awgrymu bod graddedigion yn aml yn dechrau eu gyrfa heb y sgiliau priodol. Y gobaith yw y bydd y gyfrol yn cyfrannu at ddatblygu sgiliau sy’n werthfawr gan gyflogwyr fel dadansoddi, cyfathrebu, gweithio’n annibynnol a chydweithio.

Nod y gyfrol felly yw darparu adnodd ac arweiniad ar sut i ddefnyddio’r Gymraeg yn y byd gwaith. Mae’r adran gyntaf yn edrych ar y broses ymgeisio am swydd, gan gynnwys ffurflenni cais a chyfweliad. Yn yr ail adran ceir penodau ar dasgau byd gwaith e.e. cyfarfod busnes, adroddiad, asesiad risg a phrosiectau. Edrycha’r adran olaf ar ymarfer proffesiynol, sef cynllunio gyrfaol, cydymffurfio a gwerthuso perfformiad. Mae’r adran hon hefyd yn cynnwys efelychiadau o sefyllfaoedd byd gwaith, sef amlinelliad o senarios neu broblemau posib y mae’n rhaid ymdrin â nhw yn ystod gyrfa.

Casglwyd y rhain gan ystod eang o gyflogwyr er mwyn adlewyrchu’r gweithle cyfoes yng Nghymru’r 21ain, ganrif. Yn yr atodiad ceir adnoddau ieithyddol fel rhestrau geirfa, patrymau brawddegau a chanllawiau ar gywair. Serch hynny, nid yw’n gyfrol ramadeg ac felly mae’n bosib y bydd angen adnoddau ychwanegol ar gyfer gloywi iaith fel bo’r angen. Caiff y penodau unigol eu rhannu’n is-adrannau sy’n cynnwys cyfarwyddiadau, pwyntiau trafod, tasgau i’w cyflawni ac enghreifftiau neu dempledi. Mae’r tasgau hefyd yn benagored fel y gall unrhyw un sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg eu defnyddio ar gyfer eu trywydd personol.

Nid yw’r gyfrol wedi ei chreu ar gyfer cynulleidfa academaidd yn unig. Yn hytrach, y gobaith yw apelio at unigolion o wahanol gefndiroedd ieithyddol a phynciol gan fod y pwyslais ar sgiliau iaith cyffredinol. Gall fod yn addas ar gyfer disgyblion ysgol, myfyrwyr gradd sy’n dilyn ystod eang o bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg, graddedigion sy’n bwriadu gweithio mewn amgylchfyd dwyieithog, unigolion sydd eisoes yn gweithio mewn sefydliadau dwyieithog neu’n dymuno gwneud hynny, a’r sawl sy’n astudio cymhwyster Cymraeg i Oedolion. Gall hefyd gynorthwyo athrawon, darlithwyr, tiwtoriaid a chyflogwyr sy’n cynnig arweiniad yn y maes hwn.

Erbyn hyn, mae pob adran ac ysgol y Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru wedi cyflwyno elfennau mwy galwedigaethol i’w cwrs gradd. Y pryder sydd gan nifer o ganlyniad yw a fydd hyn yn golygu y bydd elfennau mwy cyfoes yn disodli agweddau mwy traddodiadol y Gymraeg ar lefel prifysgol? Fy marn i yw na ddylai cyflwyno’r agwedd newydd hon weddnewid cwrs gradd yn y Gymraeg yn ei hanfod. Mae gwir angen gweithwyr proffesiynol dwyieithog sy’n gallu trin a thrafod yr iaith mewn cyd-destunau gwahanol yn hyderus ac sydd wedi datblygu sgiliau trosglwyddadwy amrywiol.

Wedi’r cwbl, pan oedd graddedigion y gorffennol yn dechrau ar eu gyrfa ar ôl gadael y brifysgol, faint ohonynt oedd â phrofiad o wneud cais am swydd yn y Gymraeg? Faint o ymarfer cadeirio cyfarfod drwy gyfrwng y Gymraeg a gawsant cyn dechrau yn eu swydd? Fodd bynnag, mae yna le i ymarfer tasgau byd gwaith ochr yn ochr â Chymraeg canoloesol, cynllunio ieithyddol, ysgrifennu creadigol, llenyddiaeth, gloywi iaith a’r ieithoedd Celtaidd. Mae amrywiaeth yn rhan greiddiol o’r hyn sy’n gwneud y Gymraeg fel pwnc gradd yn ddeniadol. Ni ddylid cyflwyno un ar draul y llall gan fod angen dysgu am yr iaith o wahanol safbwyntiau er mwyn cael dealltwriaeth a phrofiad cyflawn o’r Gymraeg.

Y gobaith yw y bydd y gyfrol yn cyfrannu at ddatblygu sgiliau sy’n werthfawr gan gyflogwyr fel dadansoddi, cyfathrebu, gweithio’n annibynnol a chydweithio.

Fersiwn Dwyieithog / Bilingual version

Pan astudiais i am radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth dros ddegawd yn ôl, doedd dim sôn am ‘Gymraeg Proffesiynol’ na ‘Chymraeg yn y gweithle.’ Mae’r un peth yn wir am brifysgolion eraill yng Nghymru. Yn y blynyddoedd diweddar, wrth i adrannau wynebu argyfwng recriwtio myfyrwyr i astudio’r Gymraeg fel pwnc gradd, enillodd y teitlau hyn eu plwyf wrth i’r trywydd newydd ddod yn rhan annatod o’r ddisgyblaeth.When I studied for a degree in Welsh at the University of Aberystwyth over a decade ago, there was no talk of 'Professional Welsh' or 'Welsh in the Workplace'. The same thing was true for other universities in Wales. In later years, with departments facing a crisis in recruiting students to study Welsh as a degree subject, these titles became established with the new subject matter becoming an integral part of the discipline.
Defnyddiwyd y term yn wreiddiol gan brifysgol Morgannwg ychydig flynyddoedd yn ôl drwy sefydlu cwrs ‘Cymraeg Proffesiynol’ a oedd yn canolbwyntio ar Gymraeg cyfoes mewn cyd-destun galwedigaethol. Ei fwriad oedd arfogi myfyrwyr â sgiliau cyflogadwyedd o ystyried y galw cynyddol am unigolion dwyieithog a allai ddefnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol.The term was originally used by the University of Glamorgan a few years ago when establishing a 'Professional Welsh' course which put the emphasis on contemporary Welsh in a vocational context. Its aim was to equip students with employability skills in the light of the increasing demand for bilingual individuals able to use Welsh professionally.
Dyma’r cwrs a etifeddais gan fy rhagflaenydd pan gefais fy mhenodi fel darlithydd y Gymraeg ym Mhrifysgol Morgannwg, sef Prifysgol De Cymru maes o law. Wrth i Brifysgol Aberystwyth sefydlu cwrs ‘Cymraeg Proffesiynol’ hefyd, penderfynwyd y dylem ddilysu cwrs newydd sbon yn dwyn y teitl ‘Cymraeg yn y gweithle.’That is the course which I inherited from my predecessors when I was appointed lecturer in Welsh at the University of Glamorgan, soon to become the University of South Wales. With the University of Aberystwyth also having established a 'Professional Welsh' course, it was decided that we should set up a brand-new course taking the title 'Welsh in the Workplace'.
Yn yr un modd, ei nod oedd paratoi myfyrwyr at y byd gwaith drwy ddatblygu sgiliau iaith ymarferol. Fodd bynnag, wrth imi ddechrau llunio maes llafur ar gyfer y gwahanol fodiwlau, buan y sylweddolais mai prin iawn oedd yr adnoddau yn y maes hwn. Yn sgil strategaethau iaith Llywodraeth Cymru a’r safonau iaith, credais felly bod angen llawlyfr yn cynnig canllawiau iaith a fyddai’n cyd-fynd â’r twf mewn swyddi sy’n gofyn am sgiliau dwyieithog. In the same fashion, its aim was to prepare students for the world of work by developing practical language skills. However, as I began to draw up terms of reference for the various modules, I quickly became aware how scanty were the resources in this area. In the wake of the Welsh Government's language strategies and standards, I believed that there was a need for a handbook offering language guidelines which would accompany the growth in jobs asking for bilingual skills.
Fy swydd gyntaf oedd Swyddog Datblygu’r Gymraeg fel pwnc gradd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yn ystod fy ymchwil gyda disgyblion ysgol, myfyrwyr a graddedigion er mwyn dysgu am eu canfyddiadau o’r pwnc, sylweddolais fod rhai’n gweld yr iaith fel rhywbeth hen-ffasiwn. Er bod modd astudio’r Gymraeg yn y brifysgol ers y 19eg ganrif, roedd o’r pwys mwyaf erbyn heddiw bod y sawl sy’n astudio’r iaith ar unrhyw lefel yn gweld ei bod yn hyblyg ac yn berthnasol iddynt.My first job was Officer for the Development of Welsh as a degree subject in the National College of Wales. In the course of my research among schoolchildren, students and graduates to learn their views of the subject, I noticed that some of them saw the language as something old-fashioned. Although it had been possible to study Welsh at university since the 19th century, there needed to be greater weight today placed on ensuring that those who studied the language at whatever level saw it as apt and relevant to them.
Un o’r ffyrdd y gellid dwyn perswâd arnynt o ddefnyddioldeb yr iaith yn eu bywydau bob dydd oedd dangos ei bod yn hyfyw ac yn addas i’w defnyddio mewn ystod eang o swyddi. Wedi’r cwbl, mae hyd yn oed siaradwyr Cymraeg cynhenid weithiau’n dioddef o ddiffyg hyder gyda Chymraeg ffurfiol. Rwy’n nabod sawl un sy’n dweud pethau fel ‘Mae’n rhaid imi ddarllen y llythyr yma’n Saesneg achos dw i ddim yn ei ddeall yn Gymraeg.’One of the ways of persuading them to make use of the language in their everyday lives was to to show it to be viable and appropriate in a wide range of jobs. After all, even native Welsh speakers sometimes suffer from a lack of confidence when it comes to formal Welsh. I know some who say things like 'I must read this letter in English because I don't understand it in Welsh'.
O’r herwydd, teimlais fod angen cyfrol sy’n dangos y Gymraeg fel endid deinamig y gellir ei defnyddio mewn sefyllfaoedd a sectorau amrywiol. Roedd ymchwil gyda chyflogwyr hefyd yn awgrymu bod graddedigion yn aml yn dechrau eu gyrfa heb y sgiliau priodol. Y gobaith yw y bydd y gyfrol yn cyfrannu at ddatblygu sgiliau sy’n werthfawr gan gyflogwyr fel dadansoddi, cyfathrebu, gweithio’n annibynnol a chydweithio.Consequently, I felt that there was a need for a book showing Welsh as a dynamic entity which could be used in a variety of situations and sectors. Research with employers also suggested that graduates were frequently beginning their career without the appropriate skills. The hope was that the book would contribute to the development of skills valuable to employers, such as analysis, communication, and working both independently and in collaboration.
Nod y gyfrol felly yw darparu adnodd ac arweiniad ar sut i ddefnyddio’r Gymraeg yn y byd gwaith. Mae’r adran gyntaf yn edrych ar y broses ymgeisio am swydd, gan gynnwys ffurflenni cais a chyfweliad. Yn yr ail adran ceir penodau ar dasgau byd gwaith e.e. cyfarfod busnes, adroddiad, asesiad risg a phrosiectau. Edrycha’r adran olaf ar ymarfer proffesiynol, sef cynllunio gyrfaol, cydymffurfio a gwerthuso perfformiad. Mae’r adran hon hefyd yn cynnwys efelychiadau o sefyllfaoedd byd gwaith, sef amlinelliad o senarios neu broblemau posib y mae’n rhaid ymdrin â nhw yn ystod gyrfa.Thus the aim of the book was to provide a resource and guidance on how to use Welsh in the workplace. The first part looks at the process of applying for a job, containing application forms and an interview. In the second part are chapters on tasks in the workplace, e.g. business meetings, reports, risk assessment and projects. The last part looks at professional practice, that is, career planning, conformance and performance evaluation. This part also contains simulations of workplace situations, that is, an outline of scenarios and possible problems that must be dealt with in the course of a career.
Casglwyd y rhain gan ystod eang o gyflogwyr er mwyn adlewyrchu’r gweithle cyfoes yng Nghymru’r 21ain ganrif. Yn yr atodiad ceir adnoddau ieithyddol fel rhestrau geirfa, patrymau brawddegau a chanllawiau ar gywair. Serch hynny, nid yw’n gyfrol ramadeg ac felly mae’n bosib y bydd angen adnoddau ychwanegol ar gyfer gloywi iaith fel bo’r angen. Caiff y penodau unigol eu rhannu’n is-adrannau sy’n cynnwys cyfarwyddiadau, pwyntiau trafod, tasgau i’w cyflawni ac enghreifftiau neu dempledi. Mae’r tasgau hefyd yn benagored fel y gall unrhyw un sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg eu defnyddio ar gyfer eu trywydd personol. These were gathered from a wide range of employers in order to reflect the contemporary workplace in 21st century Wales. In the appendix will be found language resources such as vocabulary lists, sentence patterns and guidelines as to registers. Despite this, it is not a grammar book and so it is possible that there will be a need for additional resources to clarify the language as need arises. The individual chapters are divided into subsections containing instructions, points for discussion, tasks to complete and examples or templates. The tasks are open-ended too, such that anyone working through the medium of Welsh can use them for their personal development.
Nid yw’r gyfrol wedi ei chreu ar gyfer cynulleidfa academaidd yn unig. Yn hytrach, y gobaith yw apelio at unigolion o wahanol gefndiroedd ieithyddol a phynciol gan fod y pwyslais ar sgiliau iaith cyffredinol. Gall fod yn addas ar gyfer disgyblion ysgol, myfyrwyr gradd sy’n dilyn ystod eang o bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg, graddedigion sy’n bwriadu gweithio mewn amgylchfyd dwyieithog, unigolion sydd eisoes yn gweithio mewn sefydliadau dwyieithog neu’n dymuno gwneud hynny, a’r sawl sy’n astudio cymhwyster Cymraeg i Oedolion. Gall hefyd gynorthwyo athrawon, darlithwyr, tiwtoriaid a chyflogwyr sy’n cynnig arweiniad yn y maes hwn. The book has not been created for the use of an academic audience alone. Rather, the hope is to appeal to individuals from different linguistic and subject backgrounds, by placing the emphasis on common language skills. It can be suitable for schoolchildren, degree students who are following a wide range of subjects through the medium of Welsh, graduates who are intending to work in a bilingual environment, individuals who are already working in bilingual situations or who wish to do this, and those who are studying for a Welsh for Adults qualification. It can also be of use to teachers, lecturers, tutors and employers offering guidance in this area.
Erbyn hyn, mae pob adran ac ysgol y Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru wedi cyflwyno elfennau mwy galwedigaethol i’w cwrs gradd. Y pryder sydd gan nifer o ganlyniad yw a fydd hyn yn golygu y bydd elfennau mwy cyfoes yn disodli agweddau mwy traddodiadol y Gymraeg ar lefel prifysgol? Fy marn i yw na ddylai cyflwyno’r agwedd newydd hon weddnewid cwrs gradd yn y Gymraeg yn ei hanfod. Mae gwir angen gweithwyr proffesiynol dwyieithog sy’n gallu trin a thrafod yr iaith mewn cyd-destunau gwahanol yn hyderus ac sydd wedi datblygu sgiliau trosglwyddadwy amrywiol.By now, every department and school of Welsh in Welsh universities has offered more vocational elements in their degree courses. Is there in consequence a worry wth some that this will mean the more contemporary elements supplanting more traditional features of Welsh at university level? My judgment is that introducing this new feature should not mean an essential transformation of the Welsh degree course. There is a real need for professional bilingual workers who can handle the language confidently in a variety of contexts and who have developed a variety of transferable skills.
Wedi’r cwbl, pan oedd graddedigion y gorffennol yn dechrau ar eu gyrfa ar ôl gadael y brifysgol, faint ohonynt oedd â phrofiad o wneud cais am swydd yn y Gymraeg? Faint o ymarfer cadeirio cyfarfod drwy gyfrwng y Gymraeg a gawsant cyn dechrau yn eu swydd? Fodd bynnag, mae yna le i ymarfer tasgau byd gwaith ochr yn ochr â Chymraeg canoloesol, cynllunio ieithyddol, ysgrifennu creadigol, llenyddiaeth, gloywi iaith a’r ieithoedd Celtaidd. Mae amrywiaeth yn rhan greiddiol o’r hyn sy’n gwneud y Gymraeg fel pwnc gradd yn ddeniadol. Ni ddylid cyflwyno un ar draul y llall gan fod angen dysgu am yr iaith o wahanol safbwyntiau er mwyn cael dealltwriaeth a phrofiad cyflawn o’r Gymraeg.After all, when graduates in the past began their careers after leaving university, how many of them had the experience of applying for a job in Welsh? How much practice in chairing meetings via the medium of Welsh did they get before beginning their job? In any case, there is room to practice tasks in the workplace side by side with mediaeval Welsh, linguistic models, creative writing, literature, language refinement and the Celtic languages. There is a variety at the heart of the things that make Welsh attractive as a degree subject. One should not be offered at the expense of the other when there is a need to learn about the language from different standpoints in order to gain a full understanding and experience of Welsh.

Bord cynnwys y llyfr / Table of contents in the book

Adran 1: Y Broses Ymgeisio am Swydd
1 Hysbysebion Swydd
2 Ffurflen Gais/Llythyr Cais
3 CV
4 Cyfweliad
5 Llythyrau
Recriwtio
6 Geirda

Adran 2: Tasgau Byd Gwaith
1 Cyfarfod Busnes
2 Llunio Adroddiad
3 Llythyrau Ffurfiol
4 Datganiad i’r Wasg
5 Asesiad Risg
6 Trefnu Digwyddiad/Cynhadledd
7 Cynllunio a Gwerthuso Prosiect

Adran 3: Ymarfer Proffesiynol
1 Cynllunio Gyrfaol
2 Arfarnu/Gwerthuso Staff
3 Dyddiadur Gwaith
4 Cydymffurfio
5 Sgiliau Cyflwyno
6 Efelychiad o Sefyllfaoedd Byd Gwaith

Darn o'r Llyfr: Bennod 3, CV / Extract of the book: Chapter 3, CV

Mae angen i’ch CV fod yn ddogfen farchnata rymus sy’n anelu at eich marchnata chi i ddarpar gyflogwr. Mae’n bwysig sylweddoli nad diben CV yw i gael swydd, ond i gael cyfweliad.

Er bod rhai rheolau i’w dilyn, mae pob CV yn wahanol am ei fod yn adlewyrchiad o’r unigolyn. Os byddwch yn anfon CV at wahanol gyflogwyr, yna dylid teilwra pob CV i’r sefydliad hwnnw a’r swydd wag rydych yn ymgeisio amdani. Y gyfrinach yw gwneud i’ch CV sefyll allan, felly mae’n hanfodol paratoi yn drylwyr os ydych am i’ch CV fod yn effeithiol. Mae CV yn gyfle i chi ‘werthu’ eich hun i gyflogwr. Mae’n hysbyseb o’ch sgiliau a’ch profiad, felly mae’n bwysig creu argraff dda!

Dylai’r cyflogwr allu darllen y darn yn gyflym. Faint o amser mae cyflogwr yn ei dreulio yn darllen CV ar gyfartaledd? Dangosodd ymchwil gan TheLadders.com mai’r amser mae cyflogwyr yn ei dreulio yn darllen CV ar gyfartaledd yw 6.25 eiliad yn unig! Felly mae’n rhaid ichi geisio rhoi argraff mor gynhwysfawr â phosib ohonoch eich hun mewn cyfnod byr.

Ceir cyfarwyddiadau manwl i ddilyn ar sut i lunio CV, yn ogystal ag enghreifftiau i chi eu dadansoddi. Gellir eu trafod mewn grwpiau, neu ddefnyddio’r pwyntiau i ystyried eich argraff ohonynt yn annibynnol. Bydd y tasgau yn eich galluogi i ymarfer a pharatoi ar gyfer llunio CV personol. Yr yr atodiad, ceir rhestrau o eirfa, ansoddeiriau, berfenwau a sgiliau sy’n addas i’w defnyddio yn y broses ymgeisio am swydd (gw. adran 1, 2, 3 a 7).

Cyfarwyddiadau

Ac eithrio’r llythyr cais, y CV yw’r peth cyntaf y bydd cyflogwr yn ei ddarllen amdanoch, felly sicrhewch ei fod yn denu ei sylw ac yn cymell ynddo’r awydd i gwrdd â chi. Defnyddiwch y gofod i amlygu eich gwybodaeth, sgiliau a’ch profiadau allweddol.

Dylai eich CV fod:
●  Yn glir ac yn gryno
●  Wedi’i osod a’i gyflwyno’n dda
●  Yn uniongyrchol ac yn ffeithiol

Mae ysgrifennu CV yn rhoi rhyddid i chi ddewis pa fformat i’w ddefnyddio a pha wybodaeth i’w chynnwys. Y brif neges y byddwch yn ceisio ei chyfleu yw ‘gallaf wneud y swydd hon’, felly mater i chi yw dewis y darnau o wybodaeth amdanoch eich hun (sgiliau, medrau a nodweddion) i argyhoeddi’r cyflogwr i gynnig cyfweliad. Eich nod fydd sicrhau bod cynnwys eich CV yn cyfateb i anghenion y sefydliad rydych yn anfon cais ato – dylai amlygu eich addysg, hanes academaidd, sgiliau ac unrhyw brofiad gwaith a gawsoch, a defnyddio tystiolaeth i ddangos bod gennych y sgiliau sydd eu hangen ar y cwmni.

Gall fod yn demtasiwn i or-liwio neu ddweud ambell gelwydd golau ar eich CV – ond peidiwch â gwneud hynny ar unrhyw gyfrif! Mae’n debygol iawn y cewch eich dal.

Beth mae cyflogwyr yn chwilio amdano?

Bydd gan gyflogwyr ‘restr siopa’ o feini prawf perthnasol i’r swydd, a byddant yn llunio rhestr fer o ymgeiswyr ar sail y fanyleb person. Mae angen i chi ddeall yr hyn maent yn chwilio amdano a theilwra eich CV i ymateb i’w gofynion. Gwnewch ymchwil i’r cyflogwr ac i’r rôl, gan amlygu eich sgiliau, eich gwybodaeth, eich profiad perthnasol a’ch nodweddion personol. Edrychwch yn ofalus ar y swydd­ddisgrifiad a manyleb y person, os oes un ar gael. Cofiwch – bydd angen i chi addasu’r wybodaeth ar eich CV i bob swydd rydych yn ymgeisio amdani.

Bydd cyflogwyr yn chwilio am bobl sy’n debygol o fod yn weithwyr da. Fel canllaw, mae llawer o gyflogwyr yn dweud eu bod yn gosod gwerth mawr ar y nodweddion canlynol:
●  Sgiliau cyfathrebu da
●  Y gallu i weithio fel rhan o dîm
●  Y gallu i weithio ar eich pen eich hun os oes angen
●  Sgiliau trefnu da
●  Brwdfrydedd
●  Dibynadwyedd
●  Prydlondeb a’r gallu i reoli amser yn dda
●  Y gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
●  Y gallu i weithio’n dda o dan bwysau
●  Cymhelliad

Dylech gefnogi unrhyw sgiliau penodol trwy roi enghreifftiau o sut a phryd rydych wedi eu datblygu neu eu defnyddio nhw. Gall tystiolaeth gynnwys swyddi rhan-amser, gwirfoddoli a gweithgareddau allgyrsiol, yn ogystal â lleoliadau ffurfiol a phrofiad gwaith

Pryd mae CV yn cael ei ddefnyddio?

●  Ceisiadau am swyddi. Bydd llawer o gyflogwyr yn gofyn am gopi o’ch CV pan fyddwch yn gwneud cais am swydd.
Peidiwch ag anfon CV yn unig – cofiwch anfon llythyr eglurhaol hefyd. Os ydych yn anfon eich CV trwy e­bost, cofiwch gynnwys neges yn yr e-bost.
●  Llenwi ffurflen gais. Bydd CV cyfredol yn eich helpu i lenwi ffurflenni cais. Bydd yn cynnwys yr holl fanylion a dyddiadau o’ch hanes addysg a gwaith. Copïwch y manylion yn ofalus ar y ffurflen.
●  Chwilio am swydd. Os ydych yn cysylltu â chyflogwyr i weld a oes ganddynt unrhyw swyddi ar gael, cewch anfon eich CV neu alw heibio gyda chopi.
●  Cofiwch gynnwys llythyr eglurhaol gyda’ch CV.

Cysylltiadau ffôn

Bydd rhai cyflogwyr yn rhoi cyfweliad cychwynnol ar y ffôn. Byddant yn gofyn i chi am eich sgiliau a phrofiadau, a bydd CV wrth law yn darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ateb cwestiynau.
● Cyfweliadau. Gall eich CV eich helpu i baratoi am gyfweliad. Edrychwch ar yr hyn rydych yn ei ddweud yn y CV cyn mynd i’ch cyfweliad.

Fformat CV

Nid oes un fformat penodol i CV, ond mae’n bwysig eich bod yn dewis un sy’n addas i chi. Yn sylfaenol, ceir dau brif fath:
●  Cronolegol – hanes eich gyrfa hyd yma sy’n rhestru gwybodaeth mewn trefn gronolegol (y gweithgaredd diweddaraf yn gyntaf). Mae’n addas ar gyfer y mwyafrif o sefyllfaoedd.
●  Swyddogaethol/seiliedig ar sgiliau – rhoi pwyslais ar eich sgiliau a’ch cryfderau, sy’n dangos sut y gallwch gyflawni gofynion y cyflogwr. Mae’n arbennig o ddefnyddiol os ydych wedi cael profiad o’r byd gwaith ac eisiau newid swydd neu lwybr eich gyrfa.

Pwyntiau i’w hystyried

●  Dylech fformatio eich CV a’ch llythyr yn yr un arddull – dylent edrych fel pecyn.
●  Ni ddylai’r CV fod yn hirach na dwy ochr A4.
●  Defnyddiwch ffont proffesiynol clir fel Arial neu Calibri, mewn maint darllenadwy (pwynt 10, 11 neu 12).
●  Dylai eich CV edrych fel dogfen broffesiynol a safonol, felly defnyddiwch gynllun cyson, rhesymegol a hawdd ei ddarllen.
●  Defnyddiwch y cywair ffurfiol.
●  Cadwch eich brawddegau yn gryno ac yn effeithiol gan osgoi paragraffau hir.
●  Defnyddiwch benawdau ac is-benawdau, gan bwysleisio elfennau pwysig trwy ddefnyddio print trwm neu italig.

Arddull

Gall yr ‘arddull’ y byddwch yn ei defnyddio ddibynnu ar y math o swydd neu sector rydych yn gwneud cais ar ei chyfer, ond yn gyffredinol, dylech ddilyn y canlynol:
●  Defnyddiwch iaith gadarnhaol, gan roi sylw arbennig i sillafu a gramadeg. Dyma’r enghraifft gyntaf o’ch gwaith y bydd cyflogwr yn ei gweld, felly sicrhewch eich bod yn creu argraff dda trwy olygu a phrawfddarllen yn drwyadl.
●  Peidiwch â defnyddio byrfoddau – dylech ysgrifennu’r geiriau’n llawn y tro cyntaf, a nodi’r byrfodd mewn cromfachau. Ar ôl hynny, defnyddiwch yr acronym.
●  Peidiwch â gorddefnyddio’r gair ‘rwyf’.
●  Defnyddiwch eiriau gweithredu/geiriau grym ar ddechrau’r datganiad.
●  Defnyddiwch eiriau allweddol sydd yn y disgrifiad swydd.

Cyffredinol

●  Gwnewch ddatganiadau – pwyntiau bwled sydd fwyaf effeithiol.
●  Peidiwch â phoeni am adael gofod gwyn.
●  Mae’r argraff gyntaf yn bwysig – a yw eich CV yn eglur a chryno ac yn hawdd ei ddarllen? Sut mae’r diwyg a’r gofod yn effeithio’r darlleniad?
●  Peidiwch â rhoi gormod o wybodaeth ar y dudalen. Meddyliwch am y darllenydd!
●  Dewiswch y wybodaeth bwysicaf i’w chynnwys, a defnyddiwch eiriau sy’n rhoi’r argraff eich bod yn flaengar.
●  A yw eich CV yn amlygu eich sgiliau a’ch llwyddiannau?
●  Edrychwch ar yr hyn rydych wedi ei ysgrifennu o safbwynt y cyflogwr.
●  Byddwch yn benodol am eich cyflawniadau, er enghraifft defn­ yddiwch ffeithiau a ffigurau (‘Wedi gwneud ceisiadau am gyllid hyd at £5,000’).
●  Ystyriwch ddiwyg eich CV yn ofalus, yn enwedig gofod a strwythur y paragraffau. Mae’n rhaid iddo edrych yn ddeniadol er mwyn apelio at y cyflogwr, a rhaid iddo fod yn rhwydd i’w ddarllen.
●  Ceisiwch osgoi bylchau ar eich CV trwy esbonio pob cyfnod nad oeddech mewn addysg neu’n ddi-waith – er enghraifft, teithio, gwirfoddoli, cyfnodau mamolaeth.
● Cofiwch ddiweddaru eich CV yn rheolaidd.

Peidiwch â chynnwys...

● Y geiriau ‘curriculum vitae’
● Ffotograffau
● Swydd­ddisgrifiadau
● Gwybodaeth bersonol nad yw’n hanfodol
● Brawddegau hirfaith

Strwythur CV

Fel rheol, dylai eich CV gynnwys y canlynol:
● Eich enw a manylion personol ar frig y dudalen gyntaf (nid oes rhaid i chi roi eich dyddiad geni)
● Proffil personol neu nod o ran gyrfa (dewisol)
● Addysg
● Cyflogaeth a phrofiad gwaith
● Sgiliau a diddordebau
● Gwybodaeth arall os yw’n berthnasol
● Canolwyr

Y diweddaraf oddi wrth Awduron: Sut a Pham Ysgrifennais