Patrick Jemmer Advice for starting wrting

Patrick Jemmer: Cyngor ac adnoddau ar ddechrau ysgrifennu yn y Gymraeg / Advice and resources on starting to write in Welsh

Mae Patrick Jemmer wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn ac wedi cyfrannu llawer o straeon a ffuglen wreiddiol i parallel.cymru. Mae e’n rhoi cyngor i gefnogi pobl eraill sy’n dechrau ysgrifennu yn y Gymraeg, ac mae e wedi paratoi rhestr o lyfrau ac adnoddau i gefnogi’r broses ysgrifennu. Darllenwch hon, trïwch ysgrifennu tipyn bach, mwynhewch y broses o wella a datblygu, ac wedyn, pan dych chi’n barod i rannu eich gwaith gyda’r byd cysylltwch â parallel.cymru!

Patrick Jemmer has learnt Welsh as an adult and has contributed lots of stories and original fiction to parallel.cymru. To support other people who are starting to write in Welsh, he gives advice and has prepared a comprehensive list of books and resources to support the writing process. Read this, try writing a little bit, enjoy the process of improving and growing, and when you are ready to share your work with the world then contact parallel.cymru!

Yr wythnos diwetha, nes i dderbyn y neges ganlynol drwy e-bost gan Neil Rowlands sy’n trefnu popeth ar y wefan Parallel.cymru:
“Annwyl Patrick, alla i ddirori di mewn sgwennu erthygl neilltuol? Rhan o’r prosiect Parallel.cymru yw hybu mwy o bobl i wneud pethau yn yr iaith Gymraeg. Oes diddordeb gyda ti mewn sgwennu erthygl sy’n rhoi cyngor oddi wrth rywun sy wedi dysgu’n eitha diweddar ar sut i sgwennu yn y Gymraeg? Er enghraifft, wyt ti’n sgwennu yn Saesneg ac wedyn yn cyfieithu i’r Gymraeg, neu’n sgwennu’n syth yn y Gymraeg? Sut wyt ti’n gwirio dy waith er mwyn cael hyd i wallau? Sut wyt ti’n datrys problemau pan dwyt ti ddim yn ffeindio’r ymadrodd neu ddywediad wyt ti’n moyn? Pa adnoddau rwyt ti’n eu defnyddio i archwilio ffurf gywir berfau? Mewn geiriau eraill, os bydd rhywun wedi gwneud peth o sgwennu fel dysgwr, ac wedyn y byddan nhw eisiau symud ymlaen i wneud rhywbeth mwy sylweddol, elli di roi cyngor ymarferol iddyn nhw a’u hanogi nhw?”
Last week I received the following message by email from Neil Rowlands who organises everything on the website Parallel.cymru:
“Dear Patrick, can I interest you in writing a specific article? Part of the Parallel.cymru project is encouraging more people to do things in the Welsh language. Do you have any interest in writing and article which gives advice from someone who’s learned quite recently on how to write in Welsh? For example, do you write in English and then translate into Welsh, or write directly in Welsh? How do you check your work to find mistakes? How do you solve problems when you don’t find the phrase or expression you want? What resources do you use to find the correct form of verbs? In other words, if anyone has done a bit of writing and then wants to move on to do something more substantial, can you give some practical advice to them and encourage them?"
Wel, rwy wastad yn fodlon helpu lle bo angen, ac os galla i. Ac mae Dydd Calan yn teimlo fel amser da i neud hyn. Tipyn o gefndir yn gynta. Rwy’n dysgu Cymraeg ers 2012, ac rwy wedi neud y cyrsiau i gyd sydd ar gael i oedolion yn Abertawe: Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch 1 a 2, Meistroli, a Graenus 1 a 2. Yn 2017, nes i sefyll yr arholiad o’r enw Tystysgrif Uwch mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio’r Gymraeg a ddarperir gan CBAC, ac ennill rhagoriaeth. Neud gradd yn y Gymraeg yn y Brifysgol fyddai’n bosibl, ac mae’r staff i gyd wedi bod yn groesawgar iawn. Ond eto i gyd, mae cyllid yn broblem ofnadw yn enwedig o feddwl am hyd y cyfnod astudio. Felly dyn sy wedi dysgu’r Gymraeg yn ail-iaith fel oedolyn ydw i – ddim arbenigwr. Yn wir, nes i ddilyn gyrfa hapus a gwerthfawr iawn yn gweithio fel uwch ddarlithydd mewn mathemateg yn Newcastle, cyn dychwelyd i Abertawe.Well, I’m always willing to help where needed, and if I can. And New Year’s Day feels like a good time to do this. A bit of background first. I’ve been learning Welsh since 2012, and I’ve done all the courses that are available to adults in Swansea: Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch 1 a 2, Meistroli, a Graenus 1 a 2. In 2017 I sat the exam called Higher Certificate in Second-language Welsh: Using Welsh which is provided by WJEC, and passed with a distinction. Doing a degree in Welsh in the University would be possible, and all the staff have been very welcoming. But then again, finance is a terrible problem especially thinking about the length of time spent studying. So, I’m a guy who has learnt Welsh as a second language as an adult – not an expert. Indeed, I followed a very happy and worthwhile career as a lecturer in maths in Newcastle, before returning to Swansea.
Rwy’n sgrifennu llawer iawn o hyn o bryd, er mwyn ymarfer, a gan fy mod i’n mwynhau hyn yn fawr. Gobeithio fy mod i’n gallu dal ati a gwella gyda threigl amser drwy gynhyrchu mwy o erthyglau. Rwy’n dwlu ar ieithoedd, ieithyddiaeth, a gramadeg, a breuddwyd fyddai dod yn diwtor cyn rhy hir. Yn un peth, liwcn i’n fawr hybu’r iaith a’r diwylliant rwy wedi bod ati’n dysgu amdanyn nhw mor angerddol ers sawl blynedd bellach. Hefyd, rwy’n hunangyflogedig ar hyn o bryd, yn dysgu gwyddoniaeth, mathemateg a Saesneg (ychydig drwy gyfrwng y Gymraeg), ac mae wastad angen ennill mwy o arian! Felly cadwch y pethau hyn mewn cof wrth ddarllen ymlaen. Dw i ddim eisiau bod yn oen sy’n dysgu i'r ddafad bori. Ddymunwn i ddim dysgu pader i berson, na dysgu gradd i hen farch, chwaith! Cofiwch mai dim ond fy marn i yw hyn: rwy’n siarad o fy safbwynt fy hun.I’m writing a great deal right now, in order to practise, and because I enjoy it very much. I hope I can stick at it and improve over time, by producing more articles. I love languages, linguistics, and grammar, and a dream would be to become a tutor before too long. For one thing, I’d like very much to promote the language and culture I’ve been keenly working to learn about so intensely for several years now. Also, I’m self-employed right now, teaching science, maths, and English (a little though the medium of Welsh), and there’s always a need to earn more money! So, keep these things in mind while reading on. I don’t want to teach my grandmother to suck eggs. Neither do I wish to teach the parson his prayers, nor the old stallion his paces. Remember that this is just my opinion: I’m talking from my own perspective.
Wel, o ystyried sgrifennu, rwy’n credu bod ymarfer ysgrifennu’n ddefnyddiol iawn o’r cychwyn cynta. I fi o leia, mae’r Gymraeg yn iaith sy’n llawn patrymau, a ffordd dda iawn o ymarfer yw sgrifennu pethau, yn ogystal â siarad. Beth am neud stori fach yn cynnwys yr eirfa dych chi wedi bod yn dysgu’n ddiweddar? Peidiwch bod yn rhy uchelgeisiol i ddechrau. Defnyddiwch eich nodiadau o’r dosbarth, ac wedyn bydd popeth yn gywir. Peth pwysig iawn – ysgrifennwch yn y Gymraeg – peidiwch ysgrifennu yn Saesneg ac wedyn cyfieithu. Fydd ddim pechod os byddwch yn ceisio neud hyn, ond gall pethau swnio’n rhyfedd iawn! Gwrandewch ar bobl rugl a defnyddiwch eu ffordd nhw o siarad. Y syniad yw hyn: ceisiwch ddefnyddio patrymau Cymraeg o’r dechrau, gan osgoi rhai Saesneg. Dyma fydd o help gyda phopeth: berfau, treigladau, geirfa.Well, thinking about writing, I think that practising writing is very useful from the very outset. For me at least, Welsh is a language that’s full of patterns, and a good way of practising is writing things, as well as talking. What about making a small story containing the vocabulary you’ve been learning recently? Don’t be too ambitious to start with. Use your notes from the class, and then everything will be correct. A very important thing – write in Welsh – don’t write in English and then translate. There’s no sin if you try to do this, but things can sound very strange! Listen to fluent people and use their ways of speaking. The idea is this: try to use Welsh patterns from the outset, and avoid English ones. This will be of help with everything: verbs, mutations, vocab.
Does dim rhaid bod yn ddifrifol- mae hiwmor yn gallu bod o help wrth geisio cofio pethau. Hefyd, haws ydy cofio pethau mewn cyd-destun brawddegau. Meddyliwch am rywbeth fel “Â’r ferch fach, rugl, lawen i’r gwely’n gynnar bob nos, ond erys ei brawd bach, rhacsiog, llesg yn y lolfa’n frwd nes iddi hi ddod yn ôl,” ac adeiladwch stori ar sail hynny. Efallai bod hyn yn swnio fel rhywbeth o “Sioned a Siôn,” ond beth yw’r ots am hynny os bydd yn helpu? Rydych yn ymarfer ffurf gryno berfau, treigladau priodol, defnydd yr erthygl, adferfau, a chysyllteiriau amser. Wedyn darllenwch y darn yn uchel – recordiwch fe, efallai, fel y gallwch wrando arno drwy’r amser. Rhaid dechrau yn rhywle, on’d oes?There’s no need to be serious- humour can be of help while trying to remember things. Also, it’s easier to remember things within the context of sentences. Think of something like “Â’r ferch fach, rhugl, llawen i’r gwely’n gynnar bob nos, ond erys ei brawd bach, rhacsiog, llesg yn y lolfa’n frwd nes iddi hi ddod yn ôl” [“The happy, fluent, little girl goes to bed early every night, but her weakly, ragged, little brother waits keenly in the lounge until she comes back”], and build a story on the basis of that. Perhaps this sounds like something from “Janet and John,” but what’s the problem with that if it helps? You’re practising the short form of verbs, appropriate mutations, using the article, adverbs, and time-conjunctions. Then read the piece out loud – record it, perhaps, so that you can listen to it all the time. You’ve got to start somewhere, haven’t you?
Erbyn hyn, rwy’n sgrifennu popeth ar y cyfrifiadur gan ddefnyddio’r rhaglen Microsoft Word. Does dim meddalwedd ychwanegol da fi. Rwy’n meddwl bod hyn yn gliriach ac yn fwy effeithiol i’w defnyddio nag ysgrifennu pethau â llaw. Bob tro, bydda i’n mynd i’r fwydlen “File > Options > Proofing > Exceptions for (ar waelod y dudalen)” ac wedyn bydda i’n ticio’r opsiynau “Hide spelling errors in this document only” a “Hide grammar errors in this document only.” Os na fyddwch yn neud hyn, bydd eich gwaith yn fôr o igam-ogamau coch ym mhob man! Does dim rhaid sgrifennu popeth ar un tro, a chofiwch eich bod chi’n gallu neud nodiadau (yn Gymraeg!) unrhyw bryd i’ch help chi i gynllunio – ac ar ddechrau’r proses yn bendant. Cadwch bob darn y byddwch chi’n ei sgrifennu: gallwch chi wastad fynd yn ôl ato fe er mwyn ei ail-ddefnyddio, ei gywiro, neu ei ehangu. Hyd yn oed pan fyddwch yn gwneud newidiadau, cadwch yr hen fersiynau bob tro, er enghraifft “ffeil_00.docx, ffeil_01.docx” ac ati. Byddwch chi byth yn gwybod pan fydd rhaid i chi fynd yn ôl at hen fersiwn y gwaith.By now, I write everything on the computer using the program Microsoft Word. I don’t have any additional software. I think that this is clearer and more effective to use than writing everything by hand. Each time, I go to the menu “File > Options > Proofing > Exceptions for (at the bottom of the page)” and then I tick the options “Hide spelling errors in this document only” and “Hide grammar errors in this document only.” If you don’t do this, you work will be a sea of red zig-zags everywhere! There’s no need to write everything in one go, and remember you can make notes (in Welsh!) any time to help you you plan – and at the start of the process, definitely. Keep every piece you write: you can always go back to it in order to reuse it, to correct it, or to expand on it. Even when you make changes, keep the old versions every time, for example “ffeil_00.docx, ffeil_01.docx” and so on. You never know when you’ll need to go back to an old version of the work.
Byddwn i’n awgrymu cadw at eirfa rydych chi’n gyfarwydd â hi, ac yn ei defnyddio o ddydd i ddydd, i ddechrau. Gan fy mod i’n defnyddio’r cyfrifiadur ar gyfer sgrifennu, cyfleus ydy defnyddio geiriaduron ar-lein ar yr un pryd. Tri ohonyn nhw sy’n hanfodol i fi. Yn gyntaf oll, bydda i’n edrych ar Geiriadur yr Academi sy’n rhoi rhestrau helaeth o gyfystyron. Mae hwn yn cyfieithu o Saesneg i’r Gymraeg yn unig, fodd bynnag. Os bydd rhaid dod o hyd i fwy o wybodaeth, edrycha i ar Geiriadur Prifysgol Cymru. Mae hwn yn cyfieithu o Gymraeg i Saesneg, ac o Saesneg i Gymraeg hefyd. Yn aml, er mwyn cymharu opsiynau unwaith eto, edrycha i ar Geiriadur Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sy’n defnyddio Saesneg a Chymraeg fel ei gilydd.I would suggest keeping to vocabulary you’re familiar with, and use from day to day, to start. Since I use the computer for writing, it’s convenient to use online dictionaries at the same time. There are three which are essential to me. First of all, I look at Geiriadur yr Academi which gives extensive lists of synonyms. This only translates from English to Welsh, however. If more information is needed, I look at Geiriadur Prifysgol Cymru. This translates from Welsh to English, and from English to Welsh as well. Often, in order to compare options once again, I look at Geiriadur Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, which uses English and Welsh together.
Rhaglen fach sydd yn werthfawr iawn i'w defnyddio wrth sgrifennu Cymraeg ar y cyfrifiadur yw To Bach gan Interceptor Solutions Ltd. Mae hi ar gael am ddim, gyda llaw. Dych chi'n gallu defnyddio hon unrhyw bryd, wrth sgrifennu yn Word, Notepad, neu eich hoff raglen e-bost, er enghraifft. Gan ddefnyddio'r rhaglen, y cyfuniad bysell 'Alt-Gr + a' sy'n rhoi 'â' yn syth, ac yr un peth gyda'r llefariaiad a'r acenion i gyd, a dyna rywbeth defnyddiol iawn.A small program that's very worthwhile to use while writing Welsh on the computer is To Bach from Interceptor Solutions Ltd. It's free, by the way. You can use this any time, while writing in Word, Notepad, or your favourite e-mail app, for example. Using the program, the key combination 'Alt-Gr + a' gives â straight away, and the same thing with all the other vowels and accents, and that's something very useful.
Mae Y Termiadur Addysg yn ddefnyddiol iawn wrth archwilio termau technegol. Wrth gwrs, ar gael hefyd y mae The Welsh Learner's Dictionary gan Heini Gruffudd; Y Geiriadur Mawr: Complete Welsh-English, English-Welsh Dictionary; a Geiriadur Cymraeg Gomer. Mae Geiriadur Idiomau: A dictionary of Welsh and English idiomatic phrases o gymorth hefyd.Y Termiadur Addysg is very useful when looking for technical terms. Of course, also available are: The Welsh Learner's Dictionary by Heini Gruffudd; Y Geiriadur Mawr: Complete Welsh-English, English-Welsh Dictionary; and Geiriadur Cymraeg Gomer. The Geiriadur Idiomau: A dictionary of Welsh and English idiomatic phrases is of help as well.
Wrth reswm bydd darllen o bwys pan dych chi’n ysgrifennu, ac mae llawer o lyfrau ar gael ar gyfer dysgwyr. Anodd yw darllen i ddechrau gan na fyddwch yn gwybod digon o eirfa, felly llyfrau sy’n cynnwys hon ar waelod y dudalen neu yng nghefn y llyfr yn ddefnyddiol iawn. O, wrth gwrs, mae Parallel.cymru i’ch helpu chi hefyd! Pan fyddwch wedi symud ymlaen ychydig, byddwn i’n awgrymu y dylech chi ddarllen heb ddefnyddio geiriadur er mwyn mynd gyda’r llif a mwynhau’r stori. Ar ben hynny, defnyddiol yw ceisio dyfalu beth yw ystyr geiriau drwy feddwl am y cyd-destun. Pan fydda i’n darllen, sgrifenna i nodiadau ar eiriau neu ar frawddegau sy’n ddiddorol i fi. Cofiwch – bydd wastad yn bosibl defnyddio syniadau unwaith eto, hynny yw, gallwch 'ail-gylchu' pethau gan eu newid fel y bo'n briodol! Ddim siarad am lên-ladrata ydw i yma, wrth gwrs, ond am ddysgu drwy ddarllen a deall gwaith o safon uchel.Of course reading is important when you’re writing, and there are lots of books available for learners. It’s hard to read to start with because you won’t know enough vocab, so books that contain this at the bottom of the page or at the back of the book are very useful. Oh, of course, there’s Parallel.cymru to help you too! When you’ve moved on a bit, I would suggest you should read without using a dictionary in order to go with the flow and enjoy the story. Moreover, it’s useful to try and guess what the meaning of words is by thinking about the context. When I’m reading, I write notes on words or on sentences which are interesting to me. Remember – it’s always possible to use ideas again, that is, you can 'recycle' things, changing them as appropriate! I’m not talking about plagiarism here, of course, but about learning through reading and understanding work of a high standard.
Wedyn mae yna Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd y gall unrhyw un ei olygu, sy’n cynnwys tua 93,000 o erthyglau Cymraeg o bob math, os byddwch chi eisiau dod o hyd i wybodaeth glir a chyfoes. Rwy’n mwynhau’r amrywiaeth o arddulliau ar gael yn y cylchgrawn Golwg 360. Mae llawer o erthyglau diddorol ar y wefan Radio Cymru, ac rwy wedi dysgu llawer drwy wrando ar Taro’r Post a Hanes yr Iaith mewn Hanner Cant o Eiriau. Ryfed dweud efallai, ond rwy’n dod o hyd i lawer o enghreifftiau defnyddiol o iaith gyfoes ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.Then there’s Wicipedia, the free encyclopaedia that anyone can edit, which contains about 93,000 articles, if you want to find clear and current information. I enjoy the variety of styles available in the magazine Golwg 360. There are lots of interesting articles on the Radio Cymru website, and I have learned a lot through listening to Taro’r Post and Hanes yr Iaith mewn Hanner Cant o Eiriau. It’s strange to say, perhaps, but I’ve found lots of useful examples of contemporary language on the website of the National Assembly for Wales.
Rhaid i ni gofio bod gwahaniaeth rhwng gwahanol 'gyweiriau' o Gymraeg. Er enghraifft, dych chi’n gallu sgrifennu “wi’n sgwrsio / dw i’n siarad / rwy’n siarad / yr wyf yn siarad / siarada i / siaradaf” (ac yn y blaen). Byddwch chi’n dysgu am hyn oll wrth i chi symud ymlaen drwy’r cyrsiau i gyd. Peidiwch â phoeni am fod yn 'ffansi' i ddechrau: cyfathrebu a chyfleu’ch neges sydd o bwys, a gallwch chi’n neud hyn drwy ddefnyddio iaith blaen a seml. Os nad ydych yn gwybod sut i ddweud rhywbeth, ceisiwch 'aileirio,' neu meddyliwch am ffordd symlach o ddweud yr un peth. Cofiwch fod y Gymraeg yn lico defnyddio brawddegau byrrach nag y Saesneg, heb ormod o ffurfiau goddefol (fel “Cafodd datganiad ei ryddhau gan lefarydd”) neu ffurfiau “amhersonol” (fel “Rhyddhawyd datganiad gan lefarydd”). Yn y Gymraeg, byddwn i’n tueddu i ddweud “Rhyddhaodd llefarydd ddatganiad.”We have to remember that there is a difference between different 'registers' of Welsh. For example, you can write “wi’n sgwrsio / dw i’n siarad / rwy’n siarad / yr wyf yn siarad / siarada i / siaradaf” [“I’m chatting / I am speaking / I speak”] (and so on). You’ll learn about all this while you move on through all the courses. Don’t worry about being 'fancy' to start with: communication and getting your message across is important, and you can do this using plain and simple language. It you don’t know how to say something, try to 'reword' it, or think of a simpler way to say the same thing. Remember that Welsh likes to use shorter sentences than English, without too many passive forms (like “Cafodd datganad ei ryddhau gan lefarydd” [“A statement was released by a spokesperson”) or “impersonal” forms (such as “Rhyddhawyd datganiad gan lefarydd” [“A statement was released by a spokesperson”]). In Welsh I would tend to say “Rhyddhaodd llefarydd ddatganiad” [“A spokesperson released a statement”].
Hefyd, cofiwch fod y 'ferfenw' yn gallu cynrychioli sawl peth gwahanol yn Saesneg, er enghraifft, “Mae dysgu pethau’n bwysig” [“Learning things is important; To learn things is important; It’s important to learn things”]. Os nad ydych yn siŵr am ymadrodd, dych chi’n gallu defnyddio’ch hoff beiriant chwilio. Wedyn, wedi teipio'r geiriau priodol rhwng dyfynodau, gwelwch beth fydd yn dod allan. Sawl gwefan sy’n defnyddio’r ymadrodd os gwna unrhyw un o gwbl? Os nad oes yr un wefan, ydy’r peiriant chwilio’n awgrymu unrhyw beth arall? Cofiwch y gallwch chi ddefnyddio 'nodchwilwyr' er mwyn bod yn fwy cyffredinol (Gyda llaw, cefais i hyd i 'peiriant archwilio' ac i 'nodchwilwyr' yn Y Termiadur Addysg). Hefyd, mae cronfa ddata o iaith gyfoes rydych chi’n gallu ei harchwilio er mwyn gweld beth mae pobl yn ei ddweud yn y byd go iawn y tu mewn i gyd-destun realaidd: My Memory Translated.Also, remember that the 'verb-noun' can represent several different things in English, for instance: “Mae dysgu pethau’n bwysig” [“Learning things is important; To learn things is important; It’s important to learn things”]. If you’re not sure about a phrase, you can use your favourite search engine. Then, having typed in the appropriate words between quotation-marks, see what comes out. How many websites use the phrase, if any at all do? If there isn’t a single website, does the search engine suggest anything else? Remember that you can use 'wildcards' in order to be more general (By the way, I found 'peiriant archwilio' and 'nodchwilwyr ['search-engine' and 'wildcards'] in Y Termiadur Addysg). Also, there’s a database of contemporary language you can search in order to see what people say in the real world within a realistic context: My Memory Translated.
Rwy wedi mwynhau defnyddio Iawn Bob Tro: Help bach i’r Ysgrifennwr er mwyn dysgu ac ymarfer. Mae Dechrau Cyfieithu: Llyfr ymarferion i rai sy'n dechrau ymddiddori mewn cyfieithu wedi bod o gymorth sylweddol hefyd. Llawn gwybodaeth hanfodol ar ramadeg yw Ymarfer Ysgrifennu Cymraeg ac Y Golygiadur. Er mwyn chwilio am ffurf berfau, byddwn i’n awgrymu Y Llyfr Berfau: A Check-list of Welsh Verbs, a rywbryd, gall Wiktionary fod yn ddefnyddiol.I’ve enjoyed using Iawn Bob Tro: Help bach i’r Ysgrifennwr in order to learn and practise. Dechrau Cyfieithu: Llyfr ymarferion i rai sy'n dechrau ymddiddori mewn cyfieithu has been of substantial help too. Full of essential information on grammar are Ymarfer Ysgrifennu Cymraeg and Y Golygiadur. In order to look for verb forms, I would suggest Y Llyfr Berfau: A Check-list of Welsh Verbs.
Mae'r llyfr Modern Welsh: A Comprehensive Grammar yn llawlyfr ardderchog o glir sydd o fewn cyrraedd pawb, wedi'i seilio ar Gymraeg llafar, fel y'i siaredir gan bobl heddiw. Mae llawer o lyfrau eraill o'r un fath gan Gareth King. Mae Gramadeg Cymraeg: A Comprehensive Welsh Grammar yn trafod iaith fwy ffurfiol, ac mae Gafael Mewn Gramadeg yn dda iawn o safbwynt ymarfer patrymau. Peidiwch anghofio'r holl lyfrau rhagorol gan Heini Gruffudd, ychwaith, fel Welsh Rules: Welsh Grammar for Learners. Mae’r llyfr Cymraeg o’r enw Gramadeg y Gymraeg yn feistrolgar o ran gramadeg cyfoes, ond eithriadol o fanwl.The Gareth King book Modern Welsh: A Comprehensive Grammar is an excellently clear handbook which is accessible to everyone, based on colloquial Welsh, as it is spoken by people today. There are lots of other books of the same type by Gareth King. Gramadeg Cymraeg: A Comprehensive Welsh Grammar discusses more formal language, and Gafael Mewn Gramadeg is very good from the point of view of practising patterns. Don't forget all the excellent books by Heini Gruffudd, either, such as Welsh Rules: Welsh Grammar for Learners. The Welsh-language book called Gramadeg y Gymraeg is masterful with respect to contemporary grammar, but exceptionally detailed.
Sut mae gwirio eich gwaith pan fyddwch wedi dod i ben ar ysgrifennu? Wel, gorau oll fyddai gofyn i siaradwyr rhugl am help – os nad ydych chi’n cystadlu mewn eisteddfod, wrth gwrs! Ond wedi dweud hynny, gall dod o hyd i rywun (nad yw’n diwtor) sy’n gyfforddus wrth roi adborth ar waith ysgrifenedig fod yn eitha anodd (yn fy mhrofiad i). Hyd yn oed wedyn, gall pobl fod yn brysur brysur y dyddiau ‘ma. Felly, adnodd ardderchog o Brifysgol Bangor yw Cysill Ar-lein: Gwirydd sillafu a gramadeg Cymraeg. Dych chi’n gallu copïo a phastio paragraff o’ch dogfen Word hyd at 180 o eiriau, neu, dych chi’n gallu teipio’n syth i mewn i’r dudalen we. Wedyn, bydd y rhaglen hon yn mynd trwyddo fesul gair, ac yn cynnig awgrymiadau os bydd problemau potensial gyda sillafu, treigladau, ffurf berfau, ac yn y blaen. Mae’n bosibl naill ai 'derbyn' neu ynteu 'anwybyddu' pob awgrymiad, ac wedyn gallwch bastio’r paragraff yn ôl yn y ddogfen wreiddiol.How do you correct your work when you’ve finished writing? Well, best of all would be to ask a fluent speaker to help – if you’re not competing in an eisteddfod, of course! But having said that, finding someone (who’s not a tutor) who’s comfortable in giving feedback on written work can be quite difficult (in my experience). Even then, people can be very busy these days. So, Cysill Ar-lein: Gwirydd sillafu a gramadeg Cymraeg, is an excellent resource from Bangor University. You can copy and paste a paragraph of our Word document up to 180 words, or you can type straight into the webpage. Then, this program goes through it word by word, and offers suggestions if there are potential problems with spelling, mutations, the form of verbs, and so on. It’s possible either to 'accept' or else 'ignore' each suggestion, and then you can paste the paragraph back in the original document.
I gloi, y peth mwya pwysig (yn fy nhyb i) yw cael hwyl. Os nad ydych chi’n mwynhau sgrifennu, beth yw’r pwynt o’i neud? Sgrifennwch am beth sy’n ddiddorol i chi, am beth rydych chi’n gwybod amdano. Mae'n debyg iawn y bydd eich bywyd eich hun, eich hobïau, neu’ch profiadau’n ddifyr, neu’n ddoniol, neu’n ddiddorol i rywun arall, os nad i bawb – pob at y peth y bo, wrth gwrs. Er enghraifft, mae’r wefan ardderchog Gyda’n Gilydd yn cynnwys llawer o straeon difyr i ddysgwyr, ynghyd â geirfa, dan yr adran 'Amrywiaeth.'To close, the most important thing (in my opinion) is to have fun. If you don’t enjoy writing, what’s the point of doing it? Write about what is interesting to you, about what you know about. It’s very likely that your own life, your hobbies, or your experiences will be entertaining, or funny, or interesting to someone else, if not to everyone – each to his own taste, of course. For example, the excellent website Gyda’n Gilydd contains lots of fun stories for learners, together with vocab, under the section 'Amrywiaeth' ['Variety'].
Peidiwch ag ofni am neud camgymeriadau: mae pawb yn ei methu hi o bryd i’w gilydd; efallai y byddwch chi’n derbyn tipyn o adborth cyfeillgar ond deallus fydd yn eich helpu chi i wella. Cofiwch fod drwy ysgrifennu ac wedyn drwy rannu eich syniadau, eich meddyliau, eich teimladau, dych chi’n cadw’r iaith yn fyw, a dyna fydd o bwys mawr i ddyfodol y Gymraeg. Gwell yw defnyddio’r iaith na chadw’n ddistaw os oes gennych chi rywbeth i’w ddweud. Drwy ddefnyddio’r rhyngrwyd, gallwch chi rannu’n eang, heb ormod o drafferth i ddarllenwyr, ac o leia fyddwch chi ddim yn lladd coed! Os na fydd neb yn lico’r gwaith, does dim ots, dim ond clicio ar gyswllt gwahanol a wnânt, a bant â nhw i dudalen arall. Felly mwynhewch sgrifennu, rhannu, a darllen. Diolch am ddarllen fy ngeiriau i – rwy’n edrych ymlaen at weld beth bynnag a grëwch chi o hyn ymlaen! Blwyddyn Newydd dda a chreadigol i chi i gyd!Don’t worry about making mistakes: everyone goes wrong from time to time; perhaps you’ll get a bit of friendly but knowledgeable feedback that’ll help you to improve. Remember that through writing and then sharing your ideas, your thoughts, your feelings, you’re keeping the language alive, and that’s of immense importance to the future of Welsh. It’s better to use the language than keep quiet if you have something to say. Through using the internet you can share widely, without too much trouble to readers, and at least you won’t be killing trees! If no-one likes the work, so what, they’ll just click on a different link and off they’ll go to another page. So enjoy writing, sharing, and reading. Thanks for reading my words – I’m looking forward to seeing whatever you create from now on! A happy and creative New Year to you all!

Cofiwch fod drwy ysgrifennu ac wedyn drwy rannu eich syniadau, eich meddyliau, eich teimladau, dych chi’n cadw’r iaith yn fyw, a dyna fydd o bwys mawr i ddyfodol y Gymraeg.

Dych chi’n gallu ffurfio a phrynu’r llyfrau o’r cyhoeddwyr isod: / You can explore and buy the books from the publishers below:

Dechrau CyfieithuThe Welsh Learners Dictionary gan Heini GruffuddGeiriadur Cymraeg Gomer mawr
Geiriadur IdiomauY GolygiadurGramadeg y Gymraeg
Y Llyfr BerfauY Treigladur - A Check-list Of Welsh MutationsYmarfer Ysgrifennu Cymraeg