Rhys Padarn- Oriel Odl

Rhys Padarn Jones: Cyflwyno Celf OrielOdl / Introducing OrielOdl Art

Mae Rhys Padarn yn creu lluniau trawiadol wrth ddefnyddio geiriau a themâu Cymraeg.  Sut ddechreuodd e a pha effaith mae ei lwyddiant wedi cael ar ei fywyd? 

Rhys Padarn creates striking images using Welsh words and themes. How did he get started and how has its success impacted his life?

Fy enw yw Rhys Padarn Jones. Dwi’n wreiddiol o Landdarog yng Nghwm Gwendraeth, ond bellach yn byw ym Mhontarddulais gyda fy nheulu ifanc ers tua phymtheg mlynedd. Dwi’n athro yn un o ysgolion cynradd Cymraeg dinas Abertawe ac yn mwynhau’r her o weithio gyda phlant bob dydd.

Dwi wastad wedi ystyried fy hun yn berson creadigol, ac unwaith i mi orffen yn y brifysgol, roeddwn yn awyddus i ddychwelyd at ddiddordebau mwyaf fy mhlentyndod, sef arlunio a pheintio.

Dechreuais fy menter Orielodl.com yn 2013. Trwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo fy ngwaith celf, dwi wedi bod yn ddigon ffodus i werthu peintiadau gwreiddiol ac argraffiadau giclée i bob cwr o Gymru a thu hwnt. Dwi wedi cael y profiad o arddangos mewn ambell oriel a gwerthu trwy siopau bach lleol lel led y wlad.

Gwnes i benderfynu ar enw’r fenter Orielodl am ddau reswm. Yn gyntaf, roeddwn yn hoffi’r ffordd roedd yr enw’n swnio. Yn ail, roeddwn yn chwilio am syniad oedd yn adlewyrchu’r hyn gall y fenter fod yn y pen draw, sef oriel yn llawn o luniau oedd yn cynnwys lyrics caneuon neu farddoniaeth oedd yn odli.

Datblygodd fy steil unigryw o ddefnyddio geiriau i greu lluniau o syniad bach y cefais i wrth ddwdlan ar ochr tudalennau sgrap rai blynyddoedd yn ôl. Defnyddiaf unrhyw eiriau sy’n fy ysbrydoli, boed rheini yn rigymau, lyrics caneuon gwerin neu draddodiadol, barddoniaeth neu ddyfyniadau enwog. Cymraeg yw iaith bron a bod pob darn dwi’n gwneud.

Dwi’n defnyddio paent acrylic ar ganfas ar gyfer pob un o fy narnau celf. Dwi’n dueddol o ddefnyddio’r lliwiau yn gyntaf i beintio pob siâp i mewn. Paent du ydw i’n defnyddio olaf bob tro. Mae amlinellu’r siapau lliw a chreu llinellau du drwyddynt yn gadael y llythrennau ar ôl i bawb eu darllen.

Erbyn hyn, dwi’n gobeithio bo’r steil dwi wedi datblygu dros y blynyddoedd yn adnabyddus yn syth i rywun sy’n gyfarwydd gyda fy ngwaith. Dwi’n cyflawni gwaith comisiwn yn rheolaidd ar gyfer cwsmeriaid. Mae peintio’n ffordd wych o ymlacio ar ôl cyfnodau prysur yn yr ysgol hefyd.

Mae fy ngwaith wedi arwain at sawl cyfle arbennig. Fel cefnogwr rygbi brwd, un o’r uchafbwyntiau hyd yma oedd creu set o argraffiadau arbennig ar gyfer y tîm rygbi cenedlaethol cyn pencampwriaeth Cwpan Rygbi’r Byd diwethaf.

Fel athro, cam naturiol oedd cynnig gweithdai celf mewn ysgolion. Mae’r defnydd cyson o eirfa sy’n fy ngwaith yn cynnig cyfleoedd gwych i ysgolion ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, thematig, creadigol a datrys problemau. Dwi’n teilwra fy ngweithdai ar gyfer anghenion pob ysgol unigol, boed hynny drwy greu darnau unigol o gelf gyda phob disgybl neu weithio ar y cyd dros gyfnod o amser i greu murluniau mawr lliwgar.

Mae cefndir du pob darn y gwaith yn sicrhau caiff lliwiau cryf pob murlun eu gweld yn glir – perffaith ar gyfer addurno waliau coridorau a neuaddau i ysbrydoli gweddill disgyblion yr ysgol.

Yn y dyfodol, disgwyliaf ymlaen i weld pa gyfleoedd eraill ddaw trwy fy ngwaith celf. Wedi dweud hynny, hyd yn oed os na werthaf yr un darn byth eto, dwi’n benderfynol o barhau i beintio am ei fod yn bleser pur (y rhan fwyaf o’r amser!).

Os hoffech weld yr amrywiaeth o waith sydd gennyf ar werth, ewch i orielodl.com. Er mwyn dilyn fy nhaith fel artist ar y cyfryngau cymdeithasol, chwiliwch am dudalen Facebook Orielodl neu dilynwch @rhyspadarn ar Twitter.

Defnyddiaf unrhyw eiriau sy’n fy ysbrydoli, boed rheini yn rigymau, lyrics caneuon pop neu draddodiadol, barddoniaeth neu ddyfyniadau enwog.

Fersiwn Dwyieithog / Bilingual version

Fy enw yw Rhys Padarn Jones. Dwi’n wreiddiol o Landdarog yng Nghwm Gwendraeth, ond bellach yn byw ym Mhontarddulais gyda fy nheulu ifanc ers tua phymtheg mlynedd. Dwi’n athro yn un o ysgolion cynradd Cymraeg dinas Abertawe ac yn mwynhau’r her o weithio gyda phlant bob dydd. My name is Rhys Padarn Jones. I am originally from Llanddarog in the Gwendraeth Valley, but I have lived with my young family in Pontarddulais for about fifteen years. I'm a teacher at a Welsh primary school in Swansea and enjoy the challenge of working with children every day.
Dwi wastad wedi ystyried fy hun yn berson creadigol, ac unwaith i mi orffen yn y brifysgol, roeddwn yn awyddus i ddychwelyd at ddiddordebau mwyaf fy mhlentyndod, sef arlunio a pheintio.I have always considered myself a creative person, and once I finished at university, I was eager to return to my favourite childhood interests, drawing and painting.
Dechreuais fy menter Orielodl.com yn 2013. Trwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo fy ngwaith celf, dwi wedi bod yn ddigon ffodus i werthu peintiadau gwreiddiol ac argraffiadau giclée i bob cwr o Gymru a thu hwnt. Dwi wedi cael y profiad o arddangos mewn ambell oriel a gwerthu trwy siopau bach lleol lel led y wlad. I started Orielodl.com in 2013. By using social media to promote my artwork, I've been lucky enough to sell original paintings and giclée prints all over Wales and beyond. I've exhibited in some galleries and have sold my artwork through small local shops across the country.
Gwnes i benderfynu ar enw’r fenter Orielodl am ddau reswm. Yn gyntaf, roeddwn yn hoffi’r ffordd roedd yr enw’n swnio. Yn ail, roeddwn yn chwilio am syniad oedd yn adlewyrchu'r hyn gall y fenter fod yn y pen draw, sef oriel yn llawn o luniau oedd yn cynnwys lyrics caneuon neu farddoniaeth oedd yn odli.I decided on the name Orielodl (Rhyme Gallery) for two reasons. Firstly, I liked the way the name sounded. Secondly, I was searching for an idea that reflected what the venture could develop to be in the long term - a gallery full of rhyming song lyrics and poetry.
Datblygodd fy steil unigryw o ddefnyddio geiriau i greu lluniau o syniad bach y cefais i wrth ddwdlan ar ochr tudalennau sgrap rai blynyddoedd yn ôl. Defnyddiaf unrhyw eiriau sy’n fy ysbrydoli, boed rheini yn rigymau, lyrics caneuon gwerin neu draddodiadol, barddoniaeth neu ddyfyniadau enwog. Cymraeg yw iaith bron a bod pob darn dwi’n gwneud. My unique style of using words to create pictures developed from an idea that I had while doodling on the side of scrap paper some years ago. I use any words that inspire me. These may include nursery rhymes, folk or traditional song lyrics, poems or quotations. Almost every painting uses the Welsh language.
Dwi’n defnyddio paent acrylic ar ganfas ar gyfer pob un o fy narnau celf. Dwi’n dueddol o ddefnyddio’r lliwiau yn gyntaf i beintio pob siâp i mewn. Paent du ydw i’n defnyddio olaf bob tro. Mae amlinellu’r siapau lliw a chreu llinellau du drwyddynt yn gadael y llythrennau ar ôl i bawb eu darllen.I use acrylic paint on canvas for every one of my pieces. I tend to use the colours to fill in the shapes first of all. The black paint will always be the last to be used. Outlining the colourful shapes and drawing lines through them will ultimately leave the letters behind for everyone to read.
Erbyn hyn, dwi’n gobeithio bo’r steil dwi wedi datblygu dros y blynyddoedd yn adnabyddus yn syth i rywun sy’n gyfarwydd gyda fy ngwaith. Dwi’n cyflawni gwaith comisiwn yn rheolaidd ar gyfer cwsmeriaid. Mae peintio’n ffordd wych o ymlacio ar ôl cyfnodau prysur yn yr ysgol hefyd. By now, I hope that the style I've developed over the years has become easily recognisable to those who are familiar with my work. I regularly carry out commission work for customers. Painting is also a great way to relax after busy periods at school.
Mae fy ngwaith wedi arwain at sawl cyfle arbennig. Fel cefnogwr rygbi brwd, un o’r uchafbwyntiau hyd yma oedd creu set o argraffiadau arbennig ar gyfer y tîm rygbi cenedlaethol cyn pencampwriaeth Cwpan Rygbi’r Byd diwethaf.My work has led to many special opportunities. As a keen rugby fan, one of my highlights to date was to create a set of special prints for the national rugby team before the last Rugby World Cup championship.
Fel athro, cam naturiol oedd cynnig gweithdai celf mewn ysgolion. Mae’r defnydd cyson o eirfa sy’n fy ngwaith yn cynnig cyfleoedd gwych i ysgolion ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, thematig, creadigol a datrys problemau. Dwi’n teilwra fy ngweithdai ar gyfer anghenion pob ysgol unigol, boed hynny drwy greu darnau unigol o gelf gyda phob disgybl neu weithio ar y cyd dros gyfnod o amser i greu murluniau mawr lliwgar. As a teacher, it was a natural step to offer art workshops in schools. The constant use of vocabulary in my work offers excellent opportunities for schools to develop their literacy, thematic, creative and problem-solving skills. I tailor my workshops to the needs of each individual school. This may mean creating individual pieces of art with each pupil or working together over a period of time to create large colorful murals.
Mae cefndir du pob darn y gwaith yn sicrhau caiff lliwiau cryf pob murlun eu gweld yn glir – perffaith ar gyfer addurno waliau coridorau a neuaddau i ysbrydoli gweddill disgyblion yr ysgol.The black background of each piece of work ensures that the strong colors of each mural are clearly visible - perfect for decorating corridor walls and halls to inspire the rest of the school's pupils.
Yn y dyfodol, disgwyliaf ymlaen i weld pa gyfleoedd eraill ddaw trwy fy ngwaith celf. Wedi dweud hynny, hyd yn oed os na werthaf yr un darn byth eto, dwi’n benderfynol o barhau i beintio am ei fod yn bleser pur (y rhan fwyaf o’r amser!).In the future, I look forward to see what other opportunities will come through my artwork. Having said that, even if I don’t sell a single piece of art ever again, I'm determined to continue painting because it brings me so much pleasure (most of the time!).
Os hoffech weld yr amrywiaeth o waith sydd gennyf ar werth, ewch i orielodl.com. Er mwyn dilyn fy nhaith fel artist ar y cyfryngau cymdeithasol, chwiliwch am dudalen Facebook Orielodl neu dilynwch @rhyspadarn ar Twitter.If you would like to see the variety of work that I have on offer, go to orielodl.com. To follow my journey as an artist on social media, search for Orielodl’s Facebook page or follow @rhyspadarn on Twitter.

orielodl.com / rhyspadarn

 

Rhys Padarn Jones Oriel Odl

Oriel Odl Ysgol Bro Ingli

Oriel Odl Gwaith Celf

 

Llwytho i Lawr fel PDF

Y diweddaraf oddi wrth Anffurfiol