Meddal.com- Enjoy your technology in Welsh

Meddal.com: Mwynhau eich technoleg yn y Gymraeg / Enjoy your technology in Welsh

Mae technoleg yn cyrraedd i bob man ac yn effeithio ar ein bywydau i gyd, felly mae’n bwysig cael a defnyddio technoleg yn Gymraeg. Yma, Rhoslyn Prys o Meddal.com yn rhoi rhai esiamplau poblogaidd:

Technology reaches everywhere and affects all our lives, so it is important to have and make use of technology in Welsh. Here, Rhoslyn Prys of Meddal.com gives some popular examples:

Neidiwch i: / Jump to: Firefox ~ Windows 10 ~ Microsoft Office ~ Cysgliad ~ WordPress.

Facebook

meddal.com: Facebook yn y Gymraeg

Beth bynnag yw eich barn am Facebook, mae’n boblogaidd iawn ac mae llawer yn ei ddefnyddio bob dydd. Siŵr o fod dyma yw’r wefan fwyaf poblogaidd yn y Gymraeg. Cafodd ei rhyngwyneb ei gyfieithu gan wirfoddol ac mae’r gwaith yn mynd ymlaen arno’n gyson. Er mwyn defnyddio’r rhyngwyneb Cymraeg ewch i Settings > Language a dewis Cymraeg. Hawdd!

Whatever your views on Facebook are, it's very popular and many people use it everyday. It’s surely the most popular website in Welsh. It's interface was transmitted by volunteers and work on it is ongoing. To use the Welsh interface go to Settings> Language and choose Welsh. Easy!


Firefox

meddal.com Firefox yn y Gymraeg

Mae’r Firefox Quantum newydd yn gyflym iawn ac yn gwneud ei orau i’ch cadw chi’n ddiogel ar y we. Gallwch gael gwirydd sillafu hefyd fel Ychwanegu ac mae yna wybodaeth ddefnyddiol ar y wefan yn mozilla.org/cy am gadw’n ddiogel ar y we.
Os ydych yn defnyddio ffôn symudol/tabled Apple/Android mae ap ar gael hefyd: mozilla.org/cy/firefox/mobile

The new Firefox Quantum is very fast and does its best to keep you safe on the web. There is also a spell checker as Add-on and useful information on the website at mozilla.org/cy for keeping safe on the web.
If you are using an Apple/Android mobile/tablet there’s an app available as well. mozilla.org/cy/firefox/mobile.


Microsoft Windows 10 & Office

meddal.com Windows 10 yn y Gymraeg

Mae Microsoft wedi cefnogi’r Gymraeg ers nifer o flynyddoedd nawr ac mae modd defnyddio Windows fel system weithredu yn Gymraeg. Hefyd, mae pecyn swyddfa boblogaidd Microsoft Office ar gael yn Gymraeg ac mae’n cynwys gwirydd sillafu Cymraeg. Dyma beth sydd angen ei wneud i gael y rhyngwynebau yn Gymraeg:

Windows 10

Cliciwch ar y botwm Start > Settings >Time and Language, yna Area and Language. Ar y dudalen honno bydd yn dweud Languages ac Add Language. Yna, cliciwch ar Add Language a bydd ffenestr â rhyw 100 o ieithoedd yn ymddangos. Mae Welsh ar ddiwedd y rhestr, cliciwch arno ac aros tra'r pecyn iaith yn llwytho i lawr. Gwnewch yn siŵr mai’r pecyn iaith arddangos sy’n cael ei osod. Ar ôl ei osod ail-gychwynnwch Windows a bydd y rhyngwyneb Cymraeg ar gael.

Microsoft has supported the Welsh language for a number of years now and Windows can be used as an operating system in Welsh. The popular Microsoft Office office pack is also available in Welsh and includes a Welsh spellchecker. Here's how to get the interfaces in Welsh:

Windows 10

Click on the Start> Settings> Time and Language button, then Area and Language. On that page you will see Languages ​​and Add Language. Then, click Add Language and a window with around 100 languages ​​will appear. Welsh is at the end of the list; click on it and wait while the language pack is downloaded. Make sure the display language package is installed. After installing, re-start Windows and the Welsh interface will be available.

meddal.com Microsoft Office yn y Gymraeg

Microsoft Office

Ewch i Options > Language a dewis Welsh. Mae offer gwirio sillafu hefyd ar gael- dilynnwch y dolenni a gosod y pecyn.

Mae Microsoft Office 365 hefyd ar gael yn Gymraeg: products.office.com/en-gb/home.

Microsoft Office

Go to Options> Language and choose Welsh. Spelling check tools are also available- follow the links and install the package.

Microsoft Office 365 is also available in Welsh: products.office.com/en-gb/home.

Pecyn o wirydd sillafu, gramadeg, geiriadur a thesawrws. Mae'n ddefnyddiol iawn i wella eich Cymraeg ysgrifenedig: cysgliad.com. Mae fersiwn ar-lein ar gael hefyd yn cysgliad.com/cysill/arlein ond cofiwch ddarllen y Telerau yn gyntaf.

Mae’r uned hefyd yn darparu Ap Geiriaduron ar gyfer Android, Apple ac Amazon

The package includes a spellchecker, grammar, dictionary and thesaurus. They are very useful tools to improve your written Welsh: cysgliad.com. An online version is also available at cysgliad.com/cysill/arlein but remember to read the Terms first.

The unit also provides Ap Geiriaduron for Android, Apple and Amazon

Eisiau creu gwefan neu flog? WordPress yw un o’r systemau gwefan mwyaf poblogaidd a’r un mwyaf poblogaidd ar gyfer y Gymraeg. Ar y cyfrif diwethaf roedd 900 o becynnau Cymraeg wedi eu llwytho i lawr ar gyfer WordPress 4.8! Mae WordPress yn cael ei rannu fel WordPress.org, sy’n darparu’r feddalwedd i chi osod a chreu eich gwefan eich hun (e.e. Meddal.com) a WordPress.com, y fersiwn masnachol lle fedrwch chi gofrestru i gael gwefan am ddim neu dalu am nodweddion ychwanegol (e.e. gwanas.wordpress.com).

Do you want to create a website or blog? WordPress is one of the most popular and the most popular website systems for the Welsh language. At the last count, 900 Welsh packages were downloaded for WordPress 4.8! WordPress is availabel as two versions: WordPress.org, which provides the software for you to install and create your own website (eg Meddal.com) and the WordPress.com commercial version, where you can sign up for a free website and/or pay for additional features (eg gwanas.wordpress.com).

Gwefannau gwybodaeth

Meddal.com

Mae Meddal.com yn cynnwys gwybodaeth am dipyn o’r feddalwedd sydd ar gael yn Gymraeg, fi sy’n cynal y wefan felly dewch draw am dro!

Cymraeg y Llywodraeth

cymraeg.gov.wales/services/Technology/?lang=cy

Gwefan sy’n cynnal rhestr hir o bobmath o apiau Apple ac Android ar gyfer ffonau symudol a thabledi. Geiriaduron a rhaglenni defnyddiol, Adran ar Greu Cynnwys yn Digidol yn Gymraeg ac adran ar Sut i ddefnyddio technoleg Cymraeg.

Cofiwch ddilyn @MeddalCom a’r Awr Gymraeg @yagym ar Drydar!

Information websites

Meddal.com

Meddal.com contains information about much of the software available in Welsh. I run the site so please come and visit!

Welsh Government

cymraeg.gov.wales/services/Technology/?lang=cy

A website that hosts a large collection of Apple and Android apps for mobile phones and tablets. Useful dictionaries and programs, a section on creating digital content in Welsh and a section on how to use Welsh language technology

Remember to follow @MeddalCom and the Welsh Hour @yagym on Twitter!

I ddod ... bydd Rhos esbonio am gefnder Meddal.com a rhoi mwy cyd-destun i dechnoleg Cymraeg ...
To come ... Rhos will explain about the background to Meddal.com and give more context to Welsh-language technology ...

Y diweddaraf oddi wrth Adnoddau