Huw Stephens with Radio 1 logo

DJ Radio 1 a Radio Cymru, Huw Stephens: 5 o’r cynghorion gorau ar gyfer llwyddo yn y busnes radio / Radio 1 and Radio Cymru DJ Huw Stephens: 5 top tips for making it in the radio business

Ar ôl siarad â ni wythnos diwethaf, rhoddodd Huw 5 top tips i fod yn llwyddiannus yn y busnes radio. Sut bynnag, maen nhw’n addas am unrhyw brosiect neu gol gyrfa- gan gynnwys fi a’r wefan hon! Diolch Huw!

After speaking with us last week, Huw gave 5 top tips to make it in the radio business. However, they are suitable for any project or career goal- including me with this website! Thanks Huw!

Cymerwch ran gymaint â phosib- nawr, heddi. Peidiwch aros i bobl ffeindio chi a dweud “Ydych chi’n moyn y sioe frecwast ar Radio 1” neu “Ydych chi’n moyn y swydd gynhyrchu anhygoel hon”. Cerwch mas yno ac enillwch gymaint o brofiad â phosib.

Meddyliwch am ble rydych chi angen y profiad a dewch i nabod y lle, pun ai i orsaf radio ysbyty, undeb myfyrwyr, cymuned, BBC neu fasnachol yw e. Dewch i nabod y maes yn llwyr felly pan rydych chi’n cwrdd â phobl rydych chi’n gallu ateb unrhyw gwestiynau am y lle rydych chi isie gweithio ynddo.

Gwnewch gymaint o gysylltiadau â phosib. Os ydych chi mewn prifysgol, siaradwch â phawb achos rydych chi siŵr o fod yn mynd i gwrdd â nhw eto; os ydych chi mewn ysgol neu ddim mewn prifysgol wedyn jyst gwnewch gymaint o gysylltiadau â phosib. Byddwch yn neis, achos gobethio y byddwch chi’n cwrdd â nhw yn hwyrach yn eich gyrfa.

Mae’n swnio amlwg, ond byddwch yn hyderus heb fod yn or-hyderus. Byddwch yn uchelgeisiol ond byddwch yn realistig ac yn hyderus yn eich hunan, achos os nad oes hyder gyda chi yn eich hunan, wedyn sut ydych chi’n gallu disgwyl i bobl eraill gael hyder ynddoch chi.

Datblygwch gymaint o brofiad â phosib mewn llawer o bethau gwahanol. Peidiwch jyst gwneud cwrs cyflwynydd radio achos eich bod isie bod yn gyflwynydd radio; mae cynhyrchwyr ar Radio 1 a Radio 1Xtra sydd wedi astudio i fod yn wyddonwyr a meddygon. Byddwch yn hunan-hyderus er mwyn dangos eich bod yn wahanol i’r mwyafrif. Os oes gennych hyder yn eich hunan wedyn mae hanner y frwydr wedi’i hennill.

Fersiwn Dwyieithog / Bilingual version

Cymerwch ran gymaint â phosib- nawr, heddi. Peidiwch aros i bobl ffeindio chi a dweud “Ydych chi’n moyn y sioe frecwast ar Radio 1” neu “Ydych chi’n moyn y swydd gynhyrchu anhygoel hon”. Cerwch mas yno ac enillwch gymaint o brofiad â phosib.
Get involved with as much as you can- now, today. Don’t wait for people to come and find you and say “Do you want the breakfast show on Radio 1” or “Do you want this amazing producer’s job”. Get out there and get as much experience as you possibly can.
Meddyliwch am ble rydych chi angen y profiad a dewch i nabod y lle, pun ai i orsaf radio ysbyty, undeb myfyrwyr, cymuned, BBC neu fasnachol yw e. Dewch i nabod y maes yn llwyr felly pan rydych chi’n cwrdd â phobl rydych chi’n gallu ateb unrhyw gwestiynau am y lle rydych chi isie gweithio ynddo.Figure out where you need the experience and get to know that place, whether that is a hospital, student union, community, BBC or commercial radio station. Know the field inside out so that when you meet people you can answer any questions about the place that you want to work at.
Gwnewch gymaint o gysylltiadau â phosib. Os ydych chi mewn prifysgol, siaradwch â phawb achos rydych chi siŵr o fod yn mynd i gwrdd â nhw eto; os ydych chi mewn ysgol neu ddim mewn prifysgol wedyn jyst gwnewch gymaint o gysylltiadau â phosib. Byddwch yn neis, achos gobethio y byddwch chi’n cwrdd â nhw yn hwyrach yn eich gyrfa.Make as many contacts as you possibly can. If you are at uni, talk to everyone as you will probably meet them later down the line; if you’re at school or not at uni then just make as many contacts as possible. Be nice, because you will hopefully meet them further on in your career.
Mae’n swnio amlwg, ond byddwch yn hyderus heb fod yn or-hyderus. Byddwch yn uchelgeisiol ond byddwch yn realistig ac yn hyderus yn eich hunan, achos os nad oes hyder gyda chi yn eich hunan, wedyn sut ydych chi’n gallu disgwyl i bobl eraill gael hyder ynddoch chi.It sounds obvious, but be confident without being arrogant. Be ambitious but be realistic and confident in yourself, because if you don’t have confidence in yourself then how can you expect others to have it in you.
Datblygwch gymaint o brofiad â phosib mewn llawer o bethau gwahanol. Peidiwch jyst gwneud cwrs cyflwynydd radio achos eich bod isie bod yn gyflwynydd radio; mae cynhyrchwyr ar Radio 1 a Radio 1Xtra sydd wedi astudio i fod yn wyddonwyr a meddygon. Byddwch yn hunan-hyderus er mwyn dangos eich bod yn wahanol i’r mwyafrif. Os oes gennych hyder yn eich hunan wedyn mae hanner y frwydr wedi’i hennill. Develop as much experience in a lot of different things. Don’t just do a radio presenter course if you want to be a radio presenter; there are producers at Radio 1 and Radio 1Xtra who studied to be scientists and doctors. Be confident in yourself and ensure that you stand out from the crowd. If you have confidence in yourself then half the battle is won.

huwstephens

 

Huw Stephens- Hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig ar draws y DU

Y diweddaraf oddi wrth Anffurfiol