Huw Dylan Owen- Arenig

Gwilym Bowen Rhys- Arenig: Adolygiad gan Huw Dylan Owen

Sut all canwr gwerin ifanc fod yn hen law, dwch?  Mae’n amhosibl, ac eto dyna’n union yw Gwilym Bowen Rhys yn y byd gwerin Cymraeg. Ac yntau newydd dderbyn enwebiad ar gyfer gwobrau gwerin Radio 2 mi ddychmygwn ei fod ar frig ton go wyllt ar hyn o bryd.

Ei albwm ddiweddaraf yw’r casgliad Arenig a ryddhawydd ar label Sbrigyn Ymborth haf eleni (2019).  Mynydd ym Meirionnydd yw’r Arenig a darlun ysgubol o hwnnw sydd yn harddu’r clawr, a’r Arenig sydd hefyd yn ein harwain at dipyn o ddiweddglo ar y record hon.  Mae yma gymysgedd o gyfansoddiadau gwreiddiol ymysg y traddodiadol ar gân ac ar alaw gydag offeryn-waith gwirioneddol wych drwyddi draw.

Ar yr albwm hon ceir rhai o’r traciau gwerin gorau i mi eu clywed ers tro byd, yn gymysg ag ambell un hwyliog sydd yn werth eu clywed, er nad ydynt yn taro’r entrychion.

Rwy’n dueddol o daro’r botwm ‘sgip’ ar Byta Dy Bres a Da Gennyf Air o Ganu, ond dyna’r unig wendidau mewn albwm penigamp.

Daw’r uchelfannau gyda’r caneuon Er Fy Ngwaethaf a Chlychau’r Gog, y ddwy fel ei gilydd yn ysbrydoledig ac yn taro’n hyfryd. Mae’n werth nodi fod geiriau difyr a hwyliog i’r rhain hefyd.  Cawn yn Er Fy Ngwaethaf:

Ambell i enw, ambell i gân
Ambell i ffag sydd yn chwilio am dân!

Ond amhosibl fyddai trin a thrafod y record hon heb sylweddoli fod athrylithder ym mhob modd yn llorio’r gwrandäwr tua’r terfyn.

Saif y ddau drac olaf, Arenig ac O Deuwch Deulu Mwynion yn undod perffaith, ac i’w rhoi yn eu cyd-destun, daw Arenig yn sgil yr alaw hyfryd ar ddiwedd Cardod, sef Toriad y Dydd ac mae’n creu cyfanwaith tridarn hyfryd.  Clywn lais y diweddar gyn-archdderwydd, Geraint Bowen, sef taid Gwilym, yn adrodd ei lenyddiaeth farddonol a gwych yn Arenig i gyfeiliant effeithiol ac ysgytwol.  Alla i ddim gwrando digon ar hon ac mae hi’n ysbrydoli.

Ond daw’r gwir uchafbwynt i’w dilyn yn swynol gyda lleisio geiriau hyfryd yr hen garol O Deuwch Deulu Mwynion a’r alaw odiaeth.  Gwirioneddol fawreddog ac aruthrol.

Gwrandewais ar y record hon yn ddi-stop am bythefnos.  Rwyf yn dal i wrando ar y traciau olaf hyn drosodd a throsodd fisoedd yn ddiweddarach.  Mae nhw’n ogoneddus ac yn enghraifft o’r gorau o’r byd gwerin Cymraeg, fel ag yw Gwilym ei hun, wrth gwrs.

Teimlaf rhyw ystwyrian yn y byd gwerin Cymraeg a Chymreig y dyddiau hyn ac rydym yn ffodus dros ben fod rhywrai fel Gwilym wrth y llyw.

Fersiwn dwyieithog / Bilingual version

Sut all canwr gwerin ifanc fod yn hen law, dwch? Mae’n amhosibl, ac eto dyna’n union yw Gwilym Bowen Rhys yn y byd gwerin Cymraeg. Ac yntau newydd dderbyn enwebiad ar gyfer gwobrau gwerin Radio 2 mi ddychmygwn ei fod ar frig ton go wyllt ar hyn o bryd.How can a young folk singer be an old hand, eh? It’s impossible, and yet that’s exactly what Gwilym Bowen Rhys is in the Welsh folk world. With his recent nomination for the Radio 2 folk awards I’d imagine that he is riding a wild wave at the moment.
Ei albwm ddiweddaraf yw’r casgliad Arenig a ryddhawydd ar label Sbrigyn Ymborth haf eleni (2019). Mynydd ym Meirionnydd yw’r Arenig a darlun ysgubol o hwnnw sydd yn harddu’r clawr, a’r Arenig sydd hefyd yn ein harwain at dipyn o ddiweddglo ar y record hon. Mae yma gymysgedd o gyfansoddiadau gwreiddiol ymysg y traddodiadol ar gân ac ar alaw gydag offeryn-waith gwirioneddol wych drwyddi draw.His latest album is the collection, Arenig, which was released on the Sbrigyn Ymborth label this summer (2019). Arenig is a mountain in Meirionnydd of which a sweeping painting adorns the front cover, and it’s the Arenig also that leads to quite a finale to this record. Here we have a mixture of original compositions among traditional songs and tunes with truly excellent musicianship throughout.
Ar yr albwm hon ceir rhai o’r traciau gwerin gorau i mi eu clywed ers tro byd, yn gymysg ag ambell un hwyliog sydd yn werth eu clywed, er nad ydynt yn taro’r entrychion.On this album are some of the best folk tracks I have heard for a long time, mixed with a few fun songs which are worth a listen, if they don’t quite hit the high-point.
Rwy’n dueddol o daro’r botwm ‘sgip’ ar Byta Dy Bres a Da Gennyf Air o Ganu, ond dyna’r unig wendidau mewn albwm penigamp.I tend to hit the ‘skip’ button on Byta Dy Bres and Da Gennyf Air o Ganu, but those are the only weaknesses in an excellent album.
Daw’r uchelfannau gyda’r caneuon Er Fy Ngwaethaf a Chlychau’r Gog, y ddwy fel ei gilydd yn ysbrydoledig ac yn taro’n hyfryd. Mae’n werth nodi fod geiriau difyr a hwyliog i’r rhain hefyd. Cawn yn Er Fy Ngwaethaf:The high ground is reached with the songs Er Fy Ngwaethaf and Clychau’r Gog, both of which are inspired and strike wonderfully. It’s worth noting the fun and merry words to these too. We have in Er Fy Ngwaethaf:
Ambell i enw, ambell i gân
Ambell i ffag sydd yn chwilio am dân!
Occasional names, an occasional song
An occasional fag seeking a light/fire!
Ond amhosibl fyddai trin a thrafod y record hon heb sylweddoli fod athrylithder ym mhob modd yn llorio’r gwrandäwr tua’r terfyn. But it’s impossible to consider and discuss this record without recognising the genius in every sense that floors the listener towards the ending.
Saif y ddau drac olaf, Arenig ac O Deuwch Deulu Mwynion yn undod perffaith, ac i’w rhoi yn eu cyd-destun, daw Arenig yn sgil yr alaw hyfryd ar ddiwedd Cardod, sef Toriad y Dydd ac mae’n creu cyfanwaith tridarn hyfryd. Clywn lais y diweddar gyn-archdderwydd, Geraint Bowen, sef taid Gwilym, yn adrodd ei lenyddiaeth farddonol a gwych yn Arenig i gyfeiliant effeithiol ac ysgytwol. Alla i ddim gwrando digon ar hon ac mae hi’n ysbrydoli.The final two tracks, Arenig and O Deuwch Deulu Mwynion are perfect unities, and to place them in context, Arenig arrives immediately after the wonderful tune, Toriad y Dydd, which ends a track named Cardod, and it it creates a special tripartite whole. We hear the late ex-arch-druid, Geraint Bowen, Gwilym’s grandfather, reciting his excellent poetic literature in Arenig to an effective and moving accompaniment. I can’t listen enough to this inspiring track.
Ond daw’r gwir uchafbwynt i’w dilyn yn swynol gyda lleisio geiriau hyfryd yr hen garol O Deuwch Deulu Mwynion a’r alaw odiaeth. Gwirioneddol fawreddog ac aruthrol.But the true high-point follows tunefully with the delightful lyrics of the old carol, O Deuwch Deulu Mwynion, voiced exquisitely. Truly majestic and marvellous.
Gwrandewais ar y record hon yn ddi-stop am bythefnos. Rwyf yn dal i wrando ar y traciau olaf hyn drosodd a throsodd fisoedd yn ddiweddarach. Mae nhw’n ogoneddus ac yn enghraifft o’r gorau o’r byd gwerin Cymraeg, fel ag yw Gwilym ei hun, wrth gwrs.I listened to this record without stop for a fortnight. I still listen to the final tracks over and over months later. They are glorious and an example of the best of the Welsh folk world, as is Gwilym himself, of course.
Teimlaf rhyw ystwyrian yn y byd gwerin Cymraeg a Chymreig y dyddiau hyn ac rydym yn ffodus dros ben fod rhywrai fel Gwilym wrth y llyw.There’s something astir in the Welsh folk scene these days, I feel, and we are fortunate that Gwilym is among those at the helm.

gwilymbowenrhys.bandcamp.com/album/arenig / GwilymBowenRhys

Gwilym Bowen Rhys- Arenig


Huw Dylan Owen yw awdur y llyfr Sesiwn yng Nghymru, sydd yn gyfrol o ysgrifau difyr ac unigryw ar fyd sesiynau gwerin yng Nghymru.

Huw Dylan Owen is the author of the book Sesiwn yng Nghymru, which is an entertaining and unique collection of articles dealing with the folk sessions in Wales.

Sesiynau gwerin misol yn Abertawe: Monthly folk sessions in Swansea: cyrfe

 

Y diweddaraf oddi wrth Anffurfiol