Madi yw nofel gyntaf y dramodydd Dewi Wyn Williams, am ferch sy’n dioddef o anorecsia: ‘Roeddwn i’n wyth oed. Ac ar ddeiet.’ Perffeithrwydd, hunaniaeth, rheolaeth- sut gall Madi ddod o hyd i’r rhain mewn byd amherffaith, cystadleuol ac afreolus, a dim ond unigrwydd iddi’n gwmni? Yma mae Dewi yn cyfrannu mwy am pam mae e wedi sgwennu am y pwnc hwn...
Madi is the first novel by the playwright Dewi Wyn Williams, about a girl who is suffering from anorexia: ‘I was eight years old. And on a diet.' Perfection, identity, control- how can Madi find these in an imperfect, competitive and unruly world, and only loneliness for her company? Here Dewi contributes more about why he has written about this subject...
Pam wnes i ysgrifennu’r nofel Madi? Ugain mlynedd yn ól sgrifennais sgript ffilm o’r enw Lois am ferch yn dioddef o anorecsia. Ni ddefnyddiais llawer o’r gwaith ymchwil manwl ac felly penderfynais bod gen i ddigon o ddeunydd i adrodd stori newydd wrth ddefnyddio gweddill y nodiadau. Mae cyfrwng y nofel yn rhoi mwy o amser i awdur ddweud y stori a dod i adnabod y cymeriadau - dyna’r fantais fawr. Ond er bo’r ffilm a’r nofel yn pori’n yr un pwnc, nid oes cysylltiad rhwng y stori na’r cymeriadu yn Lois a Madi.
Mae cefndir trist i’r ffilm a’r nofel. Bu farw fy nghariad cyntaf - Lis- yn 1981 o ganlyniad anorecsia/bwlimia. Roedd hi’n 22 mlwydd oed. Ond rwy’n pwysleisio nad oes unrhyw gysylltiad o gwbl rhwng Lis a’i theulu a’r nofel. Teulu dychmygol sydd yn y nofel (a’r ffilm) ond cafodd y syniad ei sbarduno gan ddigwyddiad go iawn.
Mae’r cyflwr anorecsia/bwlimia ar gynnydd trwy’r byd gyda’n cymdeithas fodern yn edrych fwyfwy i’r drych gan chwilio am berffeithrwydd mewn byd amherffaith. Mae pobl ifanc- yn enwedig merched yn eu harddegau- yn cael eu dylanwadu’n ddrwg gan wefanau cymdeithasol, cylchgronau, teledu/ffilm , ac yn y blaen sydd yn eu gwneud iddynt deimlo’n ‘hyll’, yn ddiwerth ac yn eilradd.
Maen nhw’n credu eu bod y colli rheolaeth ar eu bywydau ac yn mynd ati i geisio adennill rheolaeth trwy reoli eu cyrff. Nid am fwyd mae anorecsia, ond yn hytrach am reolaeth ac hunaniaeth. Roeddwn yn dymuno codi ymwybyddiaeth am y cyflwr erchyll a dinistriol hwn; mae’n debyg mai hwn yw’r llyfr cyntaf yn y Gymraeg i ddelio á’r pwnc yn fanwl, onest a chignoeth.
Rwyf yn aml yn sgrifennu o brofiad personol neu o brofiad rhywun yr wyf yn ei adnabod neu’n gyfarwydd ag ef, neu hi. Gan mai bywyd go iawn yw sail y dramáu a’r nofel, mae’r profiadau a bortreadir ynddynt yn teimlo’n real, er mai ffuglen a chelwydd noeth yw’r cwbl!
Dysgais llawer wrth greu’r nofel, un peth yn arbennig- mae ysgrifennu drama hir yn farathon, ond mae ysgrifennu nofel yn driathlon!
Roeddwn yn dymuno codi ymwybyddiaeth am y cyflwr erchyll a dinistriol hwn; mae’n debyg mai hwn yw’r llyfr cyntaf yn y Gymraeg i ddelio á’r pwnc yn fanwl, onest a chignoeth.
Fersiwn dwyieithog / Bilingual version
Pam wnes i ysgrifennu’r nofel Madi? Ugain mlynedd yn ól sgrifennais sgript ffilm o’r enw Lois am ferch yn dioddef o anorecsia. Ni ddefnyddiais llawer o’r gwaith ymchwil manwl ac felly penderfynais bod gen i ddigon o ddeunydd i adrodd stori newydd wrth ddefnyddio gweddill y nodiadau. Mae cyfrwng y nofel yn rhoi mwy o amser i awdur ddweud y stori a dod i adnabod y cymeriadau - dyna’r fantais fawr. Ond er bo’r ffilm a’r nofel yn pori’n yr un pwnc, nid oes cysylltiad rhwng y stori na’r cymeriadu yn Lois a Madi. | Why did I write the novel Madi? Twenty years ago I wrote a script for a film called Lois about a girl suffering from anorexia. I did not use much of the detailed research work and so I decided that I had enough material to tell a new story using the rest of the notes. The medium of the novel gives the author more time to tell the story and get to know the characters – that is a great advantage. But although the film and novel feed off the same subject, there is no connection between the story or characters in Lois and Madi. |
Mae cefndir trist i’r ffilm a’r nofel. Bu farw fy nghariad cyntaf - Lis- yn 1981 o ganlyniad anorecsia/bwlimia. Roedd hi’n 22 mlwydd oed. Ond rwy’n pwysleisio nad oes unrhyw gysylltiad o gwbl rhwng Lis a’i theulu a’r nofel. Teulu dychmygol sydd yn y nofel (a’r ffilm) ond cafodd y syniad ei sbarduno gan ddigwyddiad go iawn. | There is a sad background to the film and the novel. My first love – Lis – died in 1981 as a consequence of anorexia/bulimia. She was 22 years old. But I must emphasise that there is no connection at all between Lis and her family and the novel. The family in the novel is imaginary, but was inspired by real events. |
Mae’r cyflwr anorecsia/bwlimia ar gynnydd trwy’r byd gyda’n cymdeithas fodern yn edrych fwyfwy i’r drych gan chwilio am berffeithrwydd mewn byd amherffaith. Mae pobl ifanc- yn enwedig merched yn eu harddegau- yn cael eu dylanwadu’n ddrwg gan wefanau cymdeithasol, cylchgronau, teledu/ffilm , ac yn y blaen sydd yn eu gwneud iddynt deimlo’n ‘hyll’, yn ddiwerth ac yn eilradd. Maen nhw’n credu eu bod y colli rheolaeth ar eu bywydau ac yn mynd ati i geisio adennill rheolaeth trwy reoli eu cyrff. | The condition anorexia/bulimia is on the increase throughout the world as modern society looks more and more into the mirror seeking perfection in an imperfect world. Young people (especially girls in their teens) come under the malign influence of social websites, magazines, film and television etc, which make them feel ‘ugly’, worthless and second-rate. They believe that they are losing control of their lives and set about trying to win back control by regulating their bodies. |
Nid am fwyd mae anorecsia, ond yn hytrach am reolaeth ac hunaniaeth. Roeddwn yn dymuno codi ymwybyddiaeth am y cyflwr erchyll a dinistriol hwn; mae’n debyg mai hwn yw’r llyfr cyntaf yn y Gymraeg i ddelio á’r pwnc yn fanwl, onest a chignoeth. | Anorexia is not about food, but rather about control and identity. I wanted to raise awareness of this terrible and destructive condition; this is probably the first book in Welsh to deal with the subject in a detailed, honest and explicit way. |
Rwyf yn aml yn sgrifennu o brofiad personol neu o brofiad rhywun yr wyf yn ei adnabod neu’n gyfarwydd ag ef, neu hi. Gan mai bywyd go iawn yw sail y dramáu a’r nofel, mae’r profiadau a bortreadir ynddynt yn teimlo’n real, er mai ffuglen a chelwydd noeth yw’r cwbl! | I often write from personal experience or from the experience of someone I know or am acquainted with. Since real life is the basis for the dramas and the novel, the experiences which are portrayed in them feel real, although the whole thing is fiction and a barefaced lie! |
Dysgais llawer wrth greu’r nofel, un peth yn arbennig- mae ysgrifennu drama hir yn farathon, ond mae ysgrifennu nofel yn driathlon! | I learned a lot in creating the novel, especially one thing- writing a drama is a marathon, but writing a novel is a triathlon! |
Englyn 'Madi' gan Huw Dylan Jones
O ddydd i ddydd fe ddaw un – yn y drych
A’i gwedd drist yn wawdlun,
Llun sy’n warth, llun sy’n wrthun,
Ond y hi yw fi fy hun.
atebol-siop.com/madi.html / Atebol
Lansiad y llyfr yng Nghaernarfon, mis Mehefin 2019 / Book launch in Caernarfon, June 2019
Addasiadau David Walliams Adaptions
Mwynheais addasu llyfrau David Walliams. Wrth addasu, mae rhywun yn dod yn gyfarwydd á’r triciau mae’r awdur yn eu defnyddio, ac yn eu dwyn o bryd i’w gilydd! Os dwyn, dwyn o le da- dyna fydda i’n ei ddweud!
I enjoyed adapting the books of David Walliams. Through adapting, one gets to know the tricks that the author uses, and to be of one mind with him. If you must steal, steal fom a good place- that’s what I say!
Cafodd Dewi Wyn Williams ei eni ym Mhenysarn, Sir Fôn. Roedd yn gweithio yn Adran Sgriptiau’r BBC gan weithio’n bennaf ar Pobol y Cwm am gyfnod. Daeth yn bennaeth ar yr adran cyn ymuno ag S4C fel Golygydd ac Ymgynghorydd Sgriptiau. Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yn 2014. Mae Dewi wedi cyhoeddi tair drama lwyfan a hefyd wedi addasu rhai o lyfrau David Walliams i’r Gymraeg, ac mae bellach yn awdur llawn amser.
Dewi Wyn Williams was born in Penysarn, Anglesey. He worked in the BBC Script Department, mainly on Pobol y Cwm for a period. He became head of the department before joining S4C as Editor and Script Consultant. He won the Drama Medal at the Carmarthenshire National Eisteddfod in 2014. Dewi has published three stage plays and also adapted some of David Walliams's books into Welsh, and he is now a full time writer.