Tiger Bay The Musical poster

Cyfansoddwr Daf James: Creu’r gerddoriaeth ar gyfer Y Sioe Gerdd: Bae Teigr / Composer Daf James: Creating the music for Tiger Bay: The Musical

Mae’r gerddoriaeth Daf James wedi cyfansoddi ar gyfer Y Sioe Gerdd: Bae Teigr wedi dod o dan ddylanwad capeli a chorau Cymraeg traddodiadol yn ogystal â chymuned amlddiwylliannol Bae Teigr. Yma, mae Daf yn ysgrifennu am hwn, ei broses ysgrifennu ac mae e’n rhoi cyngor i bobl eraill am gyfansoddi yn yr iaith.

The music that Daf James has composed for Tiger Bay: The Musical is influenced by both traditional Welsh chapels and choirs and the multicultural Tiger Bay community. Here, Daf writes about this, his writing process and gives advice for others on creating with the language.

Fe dyfais i lan yn caru sioeau cerdd ac yn canu emynau Cymraeg mewn pedwar llais, felly mae hynny wedi cael dylanwad enfawr ar fy ngwaith cyfansoddi i. Fe wnaeth cyfeilio i’r emynau gwych yna yn y gwasanaeth ysgol ddysgu llawer i fi am ddilyniant cordiau. Fe ddysgais i am newid cyweirnod yn ystod oriau lawer o ddarllen cerddoriaeth er mwyn gallu chwarae caneuon pop; ac fe ddysgais i pa mor epig y gallai cerddoriaeth fod drwy chwarae caneuon sioeau, Mahler a Rachmaninov ar y trombôn yng ngherddorfa ieuenctid y sir.

Mae hon yn stori ryngwladol, felly mae yna asiad o sawl diwylliant gwahanol. Pan oedden ni yn Ne Affrica yn gweithio gyda’r perfformwyr yno, roedd modd i fi ymgorffori eu canu digyfeiliant nhw yn y sgôr. Rydyn ni hefyd yn defnyddio’r drwm djembe a drymiau dur yn y sioe. Mae’r cast ei hunan yn amrywiol ac yn rhyngwladol iawn, felly maen nhw’n dod â chyfoeth i’r sioe ac rydyn ni wedi defnyddio hynny hefyd er mwyn creu asiad rhyngwladol. Mae eu lleisiau nhw’n anhygoel pan fyddan nhw’n canu gyda’i gilydd.

Pan oedd Y Sioe Gerdd: Tiger Bay cael ei hysgrifennu, roedd Mam yn sâl iawn ar ôl cael strôc, ac yn anffodus fe fuodd hi farw. Roedd e’n gyfnod anodd iawn- ond fe ges i gysur yn fy ngherddoriaeth. Cerddoriaeth yw’r lle dw i wastad wedi troi ato, a’r piano oedd fy nihangfa i. Mae marwolaeth a galar yn themâu amlwg yn y sioe, ac roedd modd i fi sianelu fy emosiynau i mewn i’r gwaith. Yn ystod y cyfnod yma, o’n i’n ei chael hi’n haws mynegi fy hunan drwy gerddoriaeth yn hytrach na geiriau.

Mae gwybod y bydd y lleisiau anhygoel yma’n canu’r hyn rydych chi wedi’i ysgrifennu yn brofiad cyffrous iawn. Nid dim ond y cytgord, ond yr holl asio a’r haenau- dw i wrth fy modd yn gwneud mashyps o wahanol alawon, ac mae theatr gerdd yn lle gwych i wneud hynny. Yr her yw peidio teimlo pwysau’r dasg sydd o’ch blaen chi; trio peidio meddwl am yr holl waith ysgrifennu ac ailysgrifennu, ac ymateb eiliad wrth eiliad yn lle hynny.

Dw i’n ysgrifennu wrth y piano, ond wedyn bydda i’n defnyddio meddalwedd gyfrifiadurol i sgorio’r darn ar gyfer piano a lleisiau. Mae hyn yn bwyta’ch amser chi. Mae’n gallu cymryd misoedd i drefnu’r sgôr gyfan. Os na fydd rhywbeth yn gweithio, mae’n bosib y bydd y tîm creadigol yn methu gweld llygad yn llygad o ran sut i’w ddatblygu. Ond pan fyddwch chi’n bwrw ati drwy’r anghytuno mwyaf heriol yna, mae’n gallu arwain at rai o’r eiliadau gorau yn y sioe.

Mae gan y Gymraeg gyfoeth enfawr o gyweiriau iaith. Mae’n iaith arbennig o farddonol a llenyddol, mae cymaint o dafodieithoedd hyfryd, gan gynnwys cyweiriau dinesig sydd wedi esblygu’n fwy diweddar. Iaith yw hanfod ein hunaniaeth ni, a dw i’n profi’r byd yn wahanol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dw i wrth fy modd yn neidio i mewn rhwng y gwahanol gyweiriau a lleisiau yna.

Mae yna rai straeon rydw i eisiau eu hadrodd nhw yn Gymraeg, achos dyna lle mae eu calon greadigol nhw i fi, ac wedyn mae yna rai eraill rydw i’n dewis eu hadrodd yn Saesneg. Un peth pwysig, peidiwch byth â bod ofn bod eich iaith chi ddim yn ddigon da. Mae hynny’n un o’r hangyps mawr sydd gan bobl am yr iaith. Sgwennwch be chi ishe yn yr iaith chi ishe. Mae pob llais yn ddilys. Fe allwch chi greu’r gofod ar gyfer eich llais chi.

Mae hefyd yn cymryd amser. Dyw pethau ddim yn digwydd yn syth. Mae’n rhaid i chi greu eich cyfleoedd eich hunan. Peidiwch â disgwyl i bobl ddod atoch chi i roi cyfleoedd i chi. Fy nghyngor i yw darllen a gwylio. Ymgollwch yng ngwaith pobl eraill lle bynnag gallwch chi. Edrychwch ar bethau o wahanol ddiwylliannau. Pwy a ŵyr sut bydd hynny’n eich ysbrydoli chi.

Mae gan y Gymraeg gyfoeth enfawr o gyweiriau iaith. Mae’n iaith arbennig o farddonol a llenyddol, mae cymaint o dafodieithoedd hyfryd.

Fersiwn Dwyieithog / Bilingual version

Fe dyfais i lan yn caru sioeau cerdd ac yn canu emynau Cymraeg mewn pedwar llais, felly mae hynny wedi cael dylanwad enfawr ar fy ngwaith cyfansoddi i. Fe wnaeth cyfeilio i'r emynau gwych yna yn y gwasanaeth ysgol ddysgu llawer i fi am ddilyniant cordiau. Fe ddysgais i am newid cyweirnod yn ystod oriau lawer o ddarllen cerddoriaeth er mwyn gallu chwarae caneuon pop; ac fe ddysgais i pa mor epig y gallai cerddoriaeth fod drwy chwarae caneuon sioeau, Mahler a Rachmaninov ar y trombôn yng ngherddorfa ieuenctid y sir.I grew up loving musicals, singing Welsh hymns and four-part harmony so that has had huge influence on my composition. Accompanying those fantastic hymns in the school assembly taught me a lot about chord progressions. I learned about key changes from hours of playing sheet music for pop songs; and I learned about how epic music could be through playing show tunes, Mahler and Rachmaninov on the trombone in the county youth orchestra.
Mae hon yn stori ryngwladol, felly mae yna asiad o sawl diwylliant gwahanol. Pan oedden ni yn Ne Affrica yn gweithio gyda'r perfformwyr yno, roedd modd i fi ymgorffori eu canu digyfeiliant nhw yn y sgôr. Rydyn ni hefyd yn defnyddio'r drwm djembe a drymiau dur yn y sioe. Mae'r cast ei hunan yn amrywiol ac yn rhyngwladol iawn, felly maen nhw'n dod â chyfoeth i'r sioe ac rydyn ni wedi defnyddio hynny hefyd er mwyn creu asiad rhyngwladol. Mae eu lleisiau nhw'n anhygoel pan fyddan nhw'n canu gyda'i gilydd. This is an international story so there’s a fusion of many different cultures. When we were in South Africa working with the performers there, I was able to incorporate their acapella style of singing into the score. We also use the djembe drum and steel drums in the show. The internationally diverse cast bring a wealth of talent to the show and we have used that to create an international fusion. Their voices are extraordinary when singing together.
Pan oedd Y Sioe Gerdd: Tiger Bay cael ei hysgrifennu, roedd Mam yn sâl iawn ar ôl cael strôc, ac yn anffodus fe fuodd hi farw. Roedd e'n gyfnod anodd iawn- ond fe ges i gysur yn fy ngherddoriaeth. Cerddoriaeth yw'r lle dw i wastad wedi troi ato, a'r piano oedd fy nihangfa i. Mae marwolaeth a galar yn themâu amlwg yn y sioe, ac roedd modd i fi sianelu fy emosiynau i mewn i'r gwaith. Yn ystod y cyfnod yma, o'n i'n ei chael hi'n haws mynegi fy hunan drwy gerddoriaeth yn hytrach na geiriau.At the time of writing Tiger Bay: The Musical my mum was really ill after having a stroke and sadly she died. It was a difficult time- but I found solace in my music. Music has always been the place I turn to and my piano was my escape. Death and grief are very present themes in the show and I was able to channel my emotions into the work. During this time, I found it easier to express myself through music, rather than words.
Mae gwybod y bydd y lleisiau anhygoel yma'n canu'r hyn rydych chi wedi'i ysgrifennu yn brofiad cyffrous iawn. Nid dim ond y cytgord, ond yr holl asio a'r haenau- dw i wrth fy modd yn gwneud mashyps o wahanol alawon, ac mae theatr gerdd yn lle gwych i wneud hynny. Yr her yw peidio teimlo pwysau'r dasg sydd o'ch blaen chi; trio peidio meddwl am yr holl waith ysgrifennu ac ailysgrifennu, ac ymateb eiliad wrth eiliad yn lle hynny.Knowing you have these extraordinary voices to sing what you have written is incredibly exciting. It’s not just the harmonies but the layering and fusion of it all- I love mashing up different melodies and musical theatre is a great place to do that. The challenge is not to feel the weight and pressure of the job ahead; trying not to think of the amount of writing and rewriting but trying to respond moment to moment.
Dw i'n ysgrifennu wrth y piano, ond wedyn bydda i'n defnyddio meddalwedd gyfrifiadurol i sgorio'r darn ar gyfer piano a lleisiau. Mae hyn yn bwyta'ch amser chi. Mae'n gallu cymryd misoedd i drefnu'r sgôr gyfan. Os na fydd rhywbeth yn gweithio, mae'n bosib y bydd y tîm creadigol yn methu gweld llygad yn llygad o ran sut i'w ddatblygu. Ond pan fyddwch chi'n bwrw ati drwy'r anghytuno mwyaf heriol yna, mae'n gallu arwain at rai o'r eiliadau gorau yn y sioe.I write at the piano but then I use computer software to score it for piano and vocals. This can be time-consuming. It can take months to arrange the whole score. When something is not working the creative team might not always see eye to eye on how best to develop it. Often, however, when you forge your way the most challenging of those disagreements it can lead to some of the best moments in the show.
Mae gan y Gymraeg gyfoeth enfawr o gyweiriau iaith. Mae'n iaith arbennig o farddonol a llenyddol, mae cymaint o dafodieithoedd hyfryd, gan gynnwys cyweiriau dinesig sydd wedi esblygu'n fwy diweddar. Iaith yw hanfod ein hunaniaeth ni, a dw i'n profi'r byd yn wahanol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dw i wrth fy modd yn neidio i mewn rhwng y gwahanol gyweiriau a lleisiau yna.Welsh has got such a rich diversity of speech registers. It is an extraordinarily poetic and literary language, and has so many wonderful dialects including urban registers which have evolved. Our identity is created through language and I experience the world differently in Welsh and English. I love jumping in between the different voices and registers.
Mae yna rai straeon rydw i eisiau eu hadrodd nhw yn Gymraeg, achos dyna lle mae eu calon greadigol nhw i fi, ac wedyn mae yna rai eraill rydw i'n dewis eu hadrodd yn Saesneg. Un peth pwysig, peidiwch byth â bod ofn bod eich iaith chi ddim yn ddigon da. Mae hynny'n un o'r hangyps mawr sydd gan bobl am yr iaith. Sgwennwch be chi ishe yn yr iaith chi ishe. Mae pob llais yn ddilys. Fe allwch chi greu'r gofod ar gyfer eich llais chi.There are stories I want to tell in Welsh because that’s where their creative heart lies for me and there are others, which I chose to tell in English. Never be scared that your language isn’t good enough. That’s a big hang-up many have with the Welsh language. Write what you want in the language you want. All voices are valid. You need to carve out a place for your own voice.
Mae hefyd yn cymryd amser. Dyw pethau ddim yn digwydd yn syth. Mae'n rhaid i chi greu eich cyfleoedd eich hunan. Peidiwch â disgwyl i bobl ddod atoch chi i roi cyfleoedd i chi. Fy nghyngor i yw darllen a gwylio. Ymgollwch yng ngwaith pobl eraill lle bynnag gallwch chi. Edrychwch ar bethau o wahanol ddiwylliannau. Pwy a ŵyr sut bydd hynny'n eich ysbrydoli chi.Also it takes time. It won’t happen straight away. You have to create your own opportunities. Don’t expect people to give them to you. My advice is to read and watch. Immerse yourself whenever you can. See things from different cultures. You never know how it’s going to inspire you.

dafydd-james.co.uk / dafydd__james

Composer Dafydd James

Llwytho i Lawr fel PDF

Y diweddaraf oddi wrth Anffurfiol