Carl Morris

Carl Morris: Creu Map i Gymru a meddyliau ar ddegawd o greu technoleg yn yr iaith / Creating a Map for Wales and thoughts on a decade of creating technology in Welsh

Mae Carl Morris yn dechnolegwr sydd wedi cyfuno ei sgiliau â’r iaith i greu effaith positif ar y byd Cymraeg.  Mae’n rhoi cyngor i lawer o fusnesau, wedi helpu creu Mapio Cymru, helpu rhedeg y gynhadledd flynyddol Hacio’r Iaith, a rheoli sawl gwefan fel Hedyn, Blogiadur a Morris.cymru.

Carl Morris is a technologist that has joined his skills with the Welsh language to have a postive impact on the Welsh-speaking world. He gives advice to many businesses, has helped to create Mapio Cymru, helps run the annual conference Hacio’r Iaith, and runs several websites such as Hedyn, Blogiadur and Morris.cymru.

Beth yw dy hanes a sut wnes di ddechrau gyrfa fel ymgynghorydd digidol?What is your story and how did you start a career as a digital consultant?
Dw i wedi bod yn hoff iawn o greu pethau ar gyfrifiaduron megis gemau a rhaglenni eraill ar hyd fy oes. Roedd brwdfrydedd y dot coms yn ei anterth pan o'n i yn yr ysgol gyda mynediad i'r we ar un cyfrifiadur yn unig yn y llyfrgell, ac roedd angen archebu lle arno.I've enjoyed making things on computers like games and other programs my whole life. The dot com boom was in full swing when I was in school with access to the web from just one computer in the library, on which time had to be booked.
Fe wnes i ddechrau cwmni bach gyda fy ffrind pan oedden yn Ysgol Uwchradd Cantonian yng Nghaerdydd, ac roedd e'n lwyddiant o ein safbwynt ar y pryd. Ymhlith pethau eraill fe gyhoeddwyd ein meddalwedd ddwywaith ar CD clawr y cylchgrawn PC Review.I started a small company with my friend while we were at Cantonian High School in Cardiff, and it was a success from our perspective at the time. Among other things our software was published twice on the cover CD of the magazine PC Review.
Dw i hefyd yn DJo ers fy arddegau. Fe ges i gyfnod o weithio i gwmni cerddorol tan 2007 ar sawl peth gan gynnwys presenoldeb ein hartistiaid ar-lein. Fe ddatblygais y wefan gelfyddydol Sleeveface ar y pryd gyda chyfeillion.I've also been DJing since my teenage years. I later had a period of working for a music company until 2007 on many areas including the artists' presence online. I developed the artistic project Sleeveface with friends at the same time.
Dyna'r cyfnod sylweddolais fod y Gymraeg yn werthfawr i mi, pan o'n i'n gweithio gyda cherddorion o Gymru. Wedyn fe ges i flynyddoedd o redeg cwmni gyda ffrind arall.That was the period when I realised that the Welsh language was valuable to me, when I was working with musicians from Wales. After that I had some years of running a company with another friend.
Bellach dw i'n canolbwyntio ar y we ac apiau fel datblygydd, ac yn rhoi cyngor i sefydliadau ar hyn. Dw i'n mwynhau creu prosiectau gwahanol megis Mapio Cymru, yn ogystal ag apiau a gwefannau eraill.Now I concentrate on making websites and apps as a developer, and giving advice to organisations. I'm enjoying creating different projects like Mapio Cymru, and other apps and sites.
Beth wyt ti'n ei hoffi am wneud pethau technoleg trwy'r iaith Gymraeg?What do you like about doing technology things through the Welsh language?
Dw i wrth fy modd cael gweld pethau newydd sbon yn y Gymraeg. Mae hi'n reddfol i mi gyfuno dau beth dw i'n caru. Mae iaith ei hun yn dechnoleg, ac does dim byd sydd yn fwy dyfodolaidd na'r iaith Gymraeg.I love seeing brand new things in Welsh. It's instinctive for me to combine two things I love. Language itself is a technology, and there is nothing more futuristic than the Welsh language.
Nid oes modd cael arloesedd heb draddodiad cryf. Mae'r ddau yn cyfrannu at eu gilydd.
Mae'r profiad o ddefnyddio'r Gymraeg wedi agor fy llygaid i gymunedau eraill o gwmpas y byd ac yn llawer agosach at adre - i'r gwrthwyneb o beth mae rhai o bobl yn meddwl. Mae hi hefyd wedi adnewyddu fy nealltwriaeth o fy hunaniaeth Tseiniaidd.
You cannot have innovation without a strong tradition. The two contribute to each other. The experience of using Welsh has opened my eyes to other communities around the world and much closer to home. It's the opposite of what some people think. It's also given me a renewed understanding of my Chinese identity.
Mae'r sgwrs rhwng bobl o ieithoedd gwahanol o gwmpas y byd yn ddiddorol iawn. Dw i'n meddwl bod potensial i gydweithio ar gryfhau ieithoedd o gwmpas y byd, mewn sawl ystyr.The conversation between people of different languages around the world is very interesting. I think there is potential for much more collaborative working on strengthening languages around the world, in every possible sense.
Yn ddiweddar, rwyt ti wedi creu prosiect i greu map digidol o Gymru gydag enwau lleoedd a strydoedd yn y Gymraeg, sef openstreetmap.cymru. Sut es di ati i gasglu, cadw ac ychwanegu'r data i'r map, a sut allwn ni hybu prosiect fel hwn i sicrhau bod y rhan fwya o siaradwyr yn ei ddefnyddio yn lle fersiynau Saesneg?Recently, you have created a project to create a digital map of Wales with names of places and streets in Welsh: openstreetmap.cymru. How did you go about creating, keeping and adding the data into the map, and how do we promote a project like this to ensure that most speakers use it instead of English versions?
Mae hwn wedi bod yn brosiect cyffrous i mi. Mae hi'n anhygoel bod rhai o bobl yn gweld enwau fel Treffynnon ac Abertawe ar fap am y tro cyntaf.This has been an exciting project for me. It's incredible that some people are seeing place names like Treffynnon and Abertawe on a map for the first time.
Mae croeso i unrhyw un fewnosod y map ar ei (g)wefan. Dw i'n credu bydd defnydd yn cynyddu tra bod pobl yn sylweddoli bod nhw yn gallu ei fewnosod hefyd. Dw i'n croesawu unrhyw adborth gan bobl, ac yn gwerthfawrogi bod nhw am ddefnyddio gwasanaethau map eraill am nodweddion sydd ddim ar gael ar ein map eto.Anybody is welcome to embed the map on their website. I think usage will grow as people realise that they can embed it too. I welcome any feedback people have, and appreciate that they will want to use other map services for features not currently supported by our map.
Dw i wedi bod yn gweithio gyda Sefydliad Data Agored Caerdydd. Rydym hefyd yn wneud cyhoeddusrwydd a chyfathrebu â sawl sefydliad. Datblygydd gwe yw fy rôl i ar y prosiect. Dw i wedi adeiladu ar waith datblygwyr eraill o gwmpas y byd, diolch i rannu cod o dan drwyddedau meddalwedd rhydd.I have been working with Open Data Institute Cardiff. We are also doing publicity and communications work with many organisations. My role has been as web developer on the project. I have built on the work of other developers around the world thanks to sharing of code under free software licences. (In Welsh we call this meddalwedd rydd.)
Mae data ar y map yn cael eu dosbarthu a rhannu o dan egwyddor a thrwydded debyg. Rydym hefyd yn annog unrhyw un sydd yn gweld y map neu ddarllen hon i ychwanegu ei milltir sgwâr o enwau yn Gymraeg - gan gynnwys strydoedd, adeiladau, ffermydd ac ati - trwy hafan fyd-eang OpenStreetMap, sef osm.org. Mae fy nghod wedi ei osod i'w diweddaru nhw yn awtomatig bob nos tra bod y rhan fwyaf ohonom yn cysgu!The map data is distributed and shared under a similar principle and licence. We are also encouraging anybody seeing the map or reading this to add their square mile of names in Welsh - including streets, buildings, farms and so on - which is done at the global home of OpenStreetMap at osm.org. My code is set to update them automatically every night when most of us are asleep!
Mae Prifweithredwr Apple, Tim Cook, wedi dweud yn ddiweddar bod sgiliau rhaglennu yn gallu cyrraedd mwy o bobl na sgiliau iaith. Fel codydd yn y Gymraeg, ydy e'n bosib i ddweud bod sgiliau rhaglennu yn gyfartal gyda neu’n fwy pwysig na sgiliau iaith?The CEO of Apple, Tim Cook, recently said that programming skills can reach more people than language skills. As a Welsh language coder, is it possible to say that programming skills are equal or more important than language skills?
Mae hynny yn gwestiwn amhosibl ond diolch am fy mhrofocio! O ran sgiliau yn fy marn i mae dysgu iaith gyfrifiadurol yn haws na dysgu iaith pobl. Ond dydy hyn ddim yn gyfleu dim o fanteision dysgu un neu'r llall. Dw i ddim yn gweld hyn fel dewis rhyngddyn nhw.This is an impossible question but thanks for provoking me! In terms of skills, learning a computer language is easier than learning a human language in my opinion. But this says nothing of the relative merits of learning either one. I don't see it as an either-or choice.
Ar y cyfan mae'r rhaglennydd yn rhoi gorchmynion uniongyrchol i beiriant, sydd wedyn yn eu dilyn - cyn belled bod y rhaglen yn iawn heb wallau wrth gwrs. Mae iaith pobl yn fwy cymhleth, yn fwy cyfoethog ac yn fwy amwys nag ieithoedd cyfrifiadurol - dyna yw rhan o'i brydferthwch. Dydy pobl ddim yn teimlo'r un fath am fodolaeth a dyfodol ieithoedd cyfrifiadurol. Er bod selogion yn eu harddel maen nhw yn cael eu hystyried bron yn llwyr fel teclynnau ymarferol.On the whole the programmer gives direct instructions to the machine, which then follows them - as long as the program is good and lacks errors of course. A human language is more complex, richer and more ambiguous than computer languages - that's part of the beauty of them. People don't feel the same way about the existence and future of computer languages. They have their devotees but are considered almost purely as practical tools.
Gofynnaist am Brif Weithredwr Apple. Fel cwmni nid ydyn nhw ymhlith y gorau am ddarparu ar gyfer y Gymraeg- na channoedd o ieithoedd eraill yn anffodus. Mae polisïau ieithyddol yn adlewyrchu blaenoriaethau'r gorfforaeth. Mae cwmni Apple yn digon cyfoethog a phwerus i fod yn arweinydd yn y maes hwn- a meysydd eraill. Gallai fe hefyd sicrhau bod hawliau digonol i weithwyr yn eu ffatrioedd yn enwedig- ond yn dewis peidio gwneud hyn yn flaenoriaeth.You asked about the Chief Exec of Apple. As a company they are not among the best for Welsh language provision- nor hundreds of other languages unfortunately. The linguistic policies reflect the priorities of the corporation. Apple is wealthy and powerful enough to be a leader in this area- and many other areas. Most notably it could ensure basic rights for its factory workers- but chooses not to make this a priority.
Er ei holl lwyddiannau masnachol nid dyna yw'r model gorau o fentergarwch nag arloesedd o beth ffordd. Darllenwch y llyfr The Master Switch gan Tim Wu sydd yn cynnig enghreifftiau o atal arloesedd gan fonopolïau anferth. Mae cydberthynas rhwng gymdeithas a'i thechnolegau yn gymhleth a diddorol. Dw i'n credu'n gryf bod ffyrdd gwell o ddatblygu technoleg a chymdeithas.Despite its commercial successes this is not the best model of entrepreneurialism and innovation, not by a long way. Read the book The Master Switch by Tim Wu which gives some examples of innovation being stifled by such huge monopolies. The co-relationship between society and its technologies is complex and interesting. I strongly believe there are better ways of developing technology and society.
Yng Nghymru mae modd i ni fanteisio ar y gorau o'n traddodiadau ac hanes, a dysgu sawl gwers. Dw i'n meddwl am bethau fel dod at ein gilydd i greu prifysgolion a sefydliadau cymunedol newydd, a'r holl fudiad cydweithredol sydd gyda gwreiddiau cryf yng Nghymru.In Wales there is potential for us to take advantage of the best of our traditions and history, and learn many lessons. I'm thinking of things like coming together to create new universities and community organisations, and the whole cooperative movement which has strong roots in Wales.
Os oes gan rywun sgiliau yn yr iaith Gymraeg a sgiliau technoleg, pa gyfleoedd gyrfa sydd ar gael iddyn nhw, a sut allan nhw gyfrannu i fyd technoleg yn y Gymraeg?If someone has Welsh language and technology skills, what careers are available, and how can they contribute to the Welsh language technology scene?
Mae hi gobeithio yn haws cael dilyn eich diddordebau a chreu rhywbeth defnyddiol neu ddiddorol. Dw i ddim yn hen ond dw i wedi gweld llwythi o ddeunydd yn ymddangos megis cyrsiau ar-lein, llyfrau am ddim, ayyb. Mae gyrfaoedd wrth gwrs os ydych chi eisiau gweithio i asiantaeth a chreu apiau a gwefannau, gweithio ar gynhyrchu cynnwys, dylunio, profiad y defnyddwyr, profi, ac ato.It is hopefully easier to follow your interests and make something useful or interesting. I'm not old but I have witnessed a wealth of material appear such as online courses, free books, etc. There are of course careers if you want to work for an agency and create apps and websites, work on content production, design, user experience, testing, and so on.
O safbwynt arall does dim prinder o broblemau dyrys mewn meysydd fel yr economi, cartrefi, amaeth cynaliadwy, trafnidiaeth gynaliadwy, ynni adnewyddol, newyddiadura a democratiaeth. Mae gan dechnoleg ei ran fel elfen o ddatrysiadau i broblemau anodd mewn meysydd fel hyn. Mae hi'n oes dywyll yn wleidyddol ac yn economaidd- weithiau mae hi'n teimlo fel bod y problemau yn rhy fawr. Cofiwch nad yw gwir botensial holl bobl Cymru wedi ei wireddi eto.From another standpoint there is no shortage of complicated challenges in areas like the economy, housing, sustainable agriculture, sustainable transport, renewable energy, journalism and democracy. The technology element has its part to play in solving difficult problems in these areas. It's a dark time politically and economically- sometimes it feels as if these problems are too great. Remember that the true potential of all of Wales' people has yet to be fully realised.
Yn ystod ein digwyddiad Hacio'r Iaith yn ddiweddar fe oedd trafodaeth am wella cydbwysedd gender mewn technoleg a arweinwyd gan Leia Fee,, ac yna ysgrifennodd hi ddarn i Cymru Fyw. Os oes diddordeb gennych ym mhotensial Cymru a chryfhau'r Gymraeg dylai hyn fod yn hanfodol i chi.At our recent Hacio'r Iaith event there was a discussion about improving the gender balance in technology which was led by Leia Fee, who later wrote a piece for Cymru Fyw. If you are interested in Wales' potential and the strengthening of the Welsh language then you have to view that as vital.
Ac i bobl fel fi sydd gyda diddordeb mewn technoleg, ond dydyn nhw ddim yn rhugl yn y Gymraeg, sut allan nhw gyfrannu i'r maes?And for people like me with an interest in technology, but aren't fluent in Welsh, how can they contribute to the field?
Mae hyn yn dibynnu yn llwyr ar dy ddiddordebau. Mae hi wastad yn braf cael gweld fideos, podlediadau, blogiau newydd fel parallel.cymru a phrosiectau eraill yn Gymraeg ar ystod eang o bynciau.This completely depends on your personal interests. It's always encouraging to see videos, podcasts and new blogs like parallel.cymru and other projects in Welsh concerning a range of subjects.
Mae sawl cyfrannwr croesawgar ar y Wicipedia Cymraeg. Dylet ti ystyried cyfrannu testun at erthygl sydd o ddiddordeb i ti. Os nad yw dy Gymraeg yn safonol bydd rhywun arall yn debygol o wneud gwelliannau o fewn oriau. Mae hyn yn ffordd wych o gael ymarfer dy Gymraeg a rhannu dealltwriaeth ar yr un pryd.There are many friendly contributors on Wicipedia Cymraeg (the Welsh-language Wikipedia). You should consider contributing text to an article which is of interest to you. If your Welsh language is not to standard somebody else is likely to make changes within hours. This is a superb way to practise your Welsh and share understanding at the same time.
Mae technoleg yn faes anferth. Ar un adeg mewn hanes pobl roedd sgidiau yn cael eu hystyried fel technoleg. Mae diffiniad gan yr Americanwr Danny Hillis sy'n dweud taw 'technoleg yw unrhyw beth sydd ddim yn gweithio'n iawn eto'!Technology is a massive field. At one time in human history shoes were considered to be a technology. There's a definition by the American Danny Hillis that says 'technology is anything that doesn't quite work yet'!
Pa sgiliau ddylai pobl eu dysgu er mwyn helpu i ddatblygu maes technoleg yn y Gymraeg ymhellach?What skills should people develop to help move the Welsh technology scene forward?
Mae sut gymaint o bobl sydd yn cyfrannu at ddatblygu 'technoleg' yn y Gymraeg. Dylen ni gynnwys y grwpiau Wicipedia newydd sydd yn trefnu digwyddiadau golygathon. Man a man i ni gynnwys unrhyw un sydd yn postio stwff ar-lein yn Gymraeg yn y categori hwn. Mae'r categori yn eang iawn. Byddaf i'n canolbwyntio ar fy maes i sef cyfryngau ar-lein sydd yn ei dro yn fawr.There are a great many people who contribute to developing 'technology' in Welsh. We should include the new Wikipedia groups that are organising golygathon events (editathons). We may as well include anybody who posts stuff online in Welsh in this category. This is a very wide category. I will limit my answer to my field which is online media and is itself large.
Yn amlwg rydyn ni'n ddibynnol ar amrywiaeth o bobl yn datblygu eu sgiliau Cymraeg faint bynnag yw'r oedran a beth bynnag yw'r gender neu gefndir sydd gyda nhw. Mae twf addysg cyfrwng Cymraeg yn bwysig yma.Obviously we are dependent on a variety of people developing their Welsh-language skills whatever age they may be and whatever gender or background they may have. The growth of Welsh-medium education has an impact here.
Mae pawb yn elwa pan mae rhywun yn fodlon rhannu dealltwriaeth, cynnwys, a chod. Dyna beth dw i am ysgogi gyda'r wefan Hedyn, lle cyfeillgar ar gyfer canfod a rhannu adnoddau, cyngor a syniadau sydd wastad yn tyfu ac sydd byth yn 'gyflawn'.Everybody benefits whenever anybody is willing to share understanding, content, and code. That is what I encourage with the website Hedyn, a friendly place for anybody to find and share resources, tips and ideas which is always growing and is never 'complete'.
Mae arian yn ystyriaeth yma. Dw i'n credu yn gryf bod angen buddsoddi mewn tyfu mentrau technolegol bychain yng Nghymru ar lawr gwlad, ac yna sgiliau arbenigol. Yn anffodus mae tueddiad i ddefnydd o arian cyhoeddus i denu cwmnïau o'r tu allan sydd yn dod ag agendâu eu hunain. Mae'r uchelgais yn llai nag y dylai fe fod. Fe ddylen ni gymryd mwy o gyfrifoldeb am yr hir dymor.Money is a consideration here. I believe strongly in the need to invest in growing small-scale technological initiatives in Wales, and in turn specialist skills. Unfortunately there is a tendency to use public money to attract companies from outside who come with their own agendas. The aspirations are far smaller than they could be. Let's take some responsibility for the long term.
Mae safonau’r iaith Gymraeg yn rhoi pwysau ar sefydliadau i ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg, gan gynnwys gwefannau. Sut bynnag, mae'n bwysig fod pobl yn gallu defnyddio rhyngwynebau system a phorwyr gwe yn y Gymraeg, ond does dim llawer o adnoddau i gefnogi'r gweithgareddau hyn. Mae'r rhan fwya o’r cynnydd yn digwydd trwy waith gwirfoddolwyr - beth yw dyfodol cefnogi pobl sy’n defnyddio cyfrifiaduron yn y Gymraeg?The Welsh language standards put pressure on organisations to provide services in Welsh, including websites. However, it is important that people can use system interfaces and web browsers in Welsh, but there aren't a lot of resources to support those activities. Most progress happens through volunteers- what is the future of supporting people using computers through Welsh?
Os ydych chi'n ystyried defnyddio meddalwedd neu wasanaeth ar-lein mae hi wastad yn werth gofyn i'r darparydd gefnogi'r Gymraeg. Os ydych chi'n cynrychioli sefydliad mae modd i chi roi mwy o bwysau arnynt. Wedi dweud hynny, mae apiau, pecynnau meddalwedd a gwasanaethau gwe sydd eisoes ar gael yn Gymraeg. Dw i'n credu bod modd gwella ymwybyddiaeth.If you are considering using software or an online service it's always worth asking the provider to support Welsh. If you are representing an organisation then you will be able to apply more pressure. Saying that, there are already many apps, software packages and web services already available in Welsh. I think the awareness of these could be better.
Dw i newydd ddechrau rhestr o apiau a meddalwedd dw i'n nabod: Meddalwedd Cymraeg ar Hedyn ac mae croeso i unrhyw un gyfrannu. Gwelwch chi yna!I've just started a list of apps and other software that I know about: Meddalwedd Cymraeg on Hedyn, to which anybody is welcome to contribute. See you there!

Cofiwch nad yw gwir botensial holl bobl Cymru wedi ei wireddi eto.

Mapio Cymru

Hedyn.net

Blogiadur

morris.cymru

morris.cymru / carlmorris

Mae’r llun o Carl wedi cael eu tynnu gan Gwyn Eiddior / The picture of Carl was taken by Gwyn Eiddior.

Llwytho i Lawr fel PDF

Y diweddaraf oddi wrth Anffurfiol