Er mwyn dweud wrth un person rydych chi'n cyfarwydd â fe am wneud rhywbeth, byddwch chi'n ychwanegu'r terfyniadau '-a' at bôn y ferf. Yn aml iawn, byddwn ni hepgor yr '-a' ar lafar! Dyma rai enghreifftiau:
Berfenw Gorchymyn (Ti) Ffurf Dalfyredig Ystyr
gwisgo gwisg(a) gwisg wear!
dal dal(a) dal hold!
tynnu tynn(a) tynn pull!
edrych edrych(a) edrych look!
dod â der(e) â der â bring!
sychu sych(a) sych dry!
rhedeg rhed(a) rhed run!
dringo dring(a) dring climb!
In order to tell someone that you are familiar with to do something, you add the ending a to the root of the verb. Often this is omitted in speech, e.g:
gwisgo gwisg(a) gwisg wear!
dal dal(a) dal hold!
tynnu tynn(a) tynn pull!
edrych edrych(a) edrych look!
dod â der(e) â der â bring!
sychu sych(a) sych dry!
rhedeg rhed(a) rhed run!
dringo dring(a) dring climb!
Paid (â)! -- Don't! / Stop it!
Mae'n gallu golygu ‘Don’t’ neu ‘Stop it’. Byddwn ni'n hepgor yr â yn aml ar lafar.
Paid (â)!
Can mean ‘don’t’ or ‘stop it’. The â in paid â is often omitted in speech.
Sa’ lan / Stand up!
Mae'n golygu 'Stand up!'. Bôn y ferf 'sefyll' yw saf-. Os bydd rhaid bod yn boleit, neu os byddwch yn siarad â mwy nag un person, byddwch chi'n dweud 'Sefwch lan'.
Sa’ lan
Means ‘stand up’. Sa(f) from the verb ‘sefyll’. ‘Chi’ command - sefwch.
Caea dy got
Yn llythrennol mae hyn yn golygu 'Close your coat' - hynny yw, 'Do your coat up'. Bôn y ferf 'cau' yw 'cae-'
Caea dy got
Literally ‘close’ your coat, i.e. do your coat up. (cau - root - cae-)
Tynn dy got
Yn llythrennol mae hyn yn golygu ‘Pull your coat' - hynny yw, 'Take your coat off'. Mae'r gair 'tynn' yn cael ei ynganu fel y gair Saesneg 'tin'.
Tynn dy got
Literally ‘pull’ your coat, i.e. take your coat off. Pronounced - tin.
Sych dy drwyn
Yn llythrennol mae hyn yn golygu ‘Dry your nose' - hynny yw, 'Wipe your nose'. Mae'r gair 'sych' yn cael ei ynganu fel petai'n ('as if it were') air Saesneg 'seech'.
Sych dy drwyn
Literally ‘dry’ your nose, i.e. wipe your nose. Pronounced – seech.
Dere â
Yn llythrennol mae hyn yn golygu 'To bring', ond hefyd mae'n golygu ‘Give’. Er enghraifft, byddwch chi'n gallu dweud, 'Der(e) â chusan i fi' ('Give me a kiss').
Dere â
To bring, but also ‘give’, e.g. Der(e) â chusan i fi - Give me a kiss.
Gad i fi
Yn llythrennol mae hyn yn golygu 'Leave me', and hefyn mae'n golygu 'Let me'. Mae'n dod o'r berfenw ‘gadael’ ('to leave'). Er enghraifft, byddwch chi'n gallu dweud, 'Gad i fi lonydd' ('Leave me alone'), a 'Gad i fi fynd' ('Ket me go').
Gad i fi
Let me. From the verb ‘gadael’ - to leave.
Tro rownd
Yn llythrennol mae hyn yn golygu 'Turn around'. Bôn y ferf 'troi' yw 'tro-'. Os bydd rhaid bod yn boleit, neu os byddwch yn siarad â mwy nag un person, byddwch chi'n dweud 'Trowch rownd'.
Tro rownd
Turn around. From the verb ‘troi’ ‘Chi’ command - trowch.
* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples
1. Gwisg(a) dy 'sgidiau, Ffred, cyn mynd mas!
Put on your shoes, Ffred, before going out!
2. Dal(a) fy mraich, Sandra, rhag ofn i ti gwympo!
Hold my hand, Sandra, in case you fall!
3. Tynn(a) arian allan o'r banc, Twm, dw i eisiau prynu diod!
Take some money out of the bank, Twm, I want to buy a drink!
4. Edrych(a) ar y teledu, Glenys, mae Cymru'n ennill!
Look at the television, Glenys, Wales is winning!
5. Der(e) â'r gwin coch, Brenda, dw i'n sychedig iawn!
Bring the red wine, Brenda, I'm very thirsty!
6. Sych(a)'r llestri heno, Bob, a bydda i'n 'neud brecwast 'fory!
Dry the dishes tonight, Bob, and I'll make breakfast tomorrow!
7. Rhed(a) lan a lawr, Spot, mae'n ymarfer da!
Run up and down, Spot, it's good exercize!
8. Dring(a)'r mynydd, Siôn, os wyt ti eisiau cyrraedd y brig!
Climb the mountain, Siôn, if you want to get to the top!
9. Paid â mynd i'r ysgol i gwyno!
Don't go to the school to complain!
10. Sa' lan, Dic, dyn nhw ddim yn gallu dy weld di!
Stand up, Dic, they can't see you!
11. Caea'r llenni, Siân, mae'n oer ofnadw' heddi'!
Close the curtains, Siân, it's awfully cold today!
12. Tynn dy 'sanau, cariad, maen nhw'n wlyb!
Take off your socks, love, they're wet!
13. Sych dy drwyn, Adam, dyma hances i ti!
Wipe your nose, Adam, here's a hankerchief for you!
14. Dere â'r cyri malwod, dw i eisiau blasu tipyn bach!
Bring the snail curry, I want to taste a little bit!
15. Gad i fi fynd, a bydda i'n mwynhau'r canu!
Let me go, and I'll enjoy the singing!
16. Tro rownd a cherdda'n araf tuag at y drws!
Turn round and walk slowly towards the door!