Dyma rai enghreifftiau sy'n dangos y gwahaniaeth rhwng Cymraeg y De a Chymraeg y Gogledd. Efallai eich bod wedi sylwi ar rai ohonyn nhw?
Here are some of the south/north differences that you may notice:
Term | De | Gogledd |
E & Fe / O & Fo | Mae e/arno fe | Mae o/arno fo |
Gyda / Gen | Mae car (gy)da fi/ti/fe/hi | Mae gen i/gen ti/gynno fo/gynni hi gar. |
Yw / Ydy | Cymro yw e/Beth yw e? | Cymro ydy o/Beth ydy o? |
So & Dydw / Dydy | So fe/Dyw e ddim… | Dydy o/hi ddim |
Byddwn / Mi Faswn | Byddwn i/Byddet ti/Byddai fe/hi… | Mi faswn i/Baset ti/Basai fo/hi… I/You/He/She would |
Gyda / Efo | (gy)da e.g. gyda’r plant | efo (without personal pronoun) e.g. efo’r plant |
Na | Mae digon ’ma | Mae ’na ddigon yma. There’s plenty here |
* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples
1. Mae e'n dod i'r parti heno [De]
Mae o'n dŵad i'r parti heno [Gogledd]
He's coming to the party tonight
2. Mae annwyd ofnadw' arno fe [De]
Mae annwyd ofnadw' arno fo [Gogledd]
He has an awful cold
3. Mae ci 'da fe [De]
Mae gynno fo gi [Gogledd]
He has a dog
4. Mae cath 'da'r dyn [De]
Mae gan y dyn gath [Gogledd]
The man has a cat
5. Sut fenyw yw hi? Menyw hyfryw yw hi. [De]
Sut ddynes ydy hi? Dynes hyfryd ydy hi. [Gogledd]
What kind of woman is she? She's a lovely woman.
6. So fe'n deg ein bod ni'n sâl [De]
Dyw e ddim yn deg ein bod ni'n sâl [De]
Dydy o ddim yn deg ein bod ni'n sâl [Gogledd]
It's not fair that we're ill
7. Byddet ti'n mynd i ymarfer bob wythnos [De]
Baset ti'n mynd i ymarfer bob wythnos [Gogledd]
You would go to practise every week
8. Ro'n ni'n chwarae yn yr ardd gyda’r plant [De]
Ro'n ni'n chwarae yn yr ardd efo’r plant [Gogledd]
We were playing in the garden with the children
9. Mae digon o arian ’ma i brynu hufen iâ [De]
Mae ’na ddigon o arian yma i brynu hufen iâ [Gogledd]
There's enough money here to buy ice-cream