Ask Dr Gramadeg: Cymharu dau beth / Comparing two things

Mewn geiriau unsill, byddwn ni'n ychwanegu'r terfyniad -ach, e.e:

tal – talach      twp – twpach           tew – tewach
tall taller          stupid ‘stupider’       fat fatter

Os bydd y sain o flaen y terfyniad -ach yn fyr, wedyn bydd rhaid newid y sillafiad, gan roi rr yn lle r (neu nn yn lle n), e.e:

byr - byrrach     gwyn - gwynnach

Bydd 'calediad' ('hardening') ar ol -ach, mewn geiriau sy'n terfynnu mewn b d g. Bydd y seiniau hyn yn caledu gan roi p t c, e.e:

gwlyb    > gwlypach
drud      > drutach
rhad       > rhatach
teg          > tecach

Gyda geiriau o ddwy sillaf neu fwy, fel arfer byddwn ni'n defnyddio mwy ('more') o flaen yr ansoddair, e.e:

cyfoethog       mwy cyfoethog
rich                 richer (more rich)

salw                  mwy salw
ugly                  uglier (more ugly)

Mae yna eithriadau:

ifanc                   ifancach
young                younger

hapus               hapusach
happy              happier

Bydd 'mwy' yn teriglo'n feddal ar ôl yn traethiadol, e.e:

Mae e’n fwy salw na fi          He’s uglier than me

* Cofiwch: Dyw mwy ddim yn achosi treiglad

Y gair na sy'n golygu 'than' o flaen cytseiniaid; byddwn ni'n defnyddio nag o flaen llafariaid

Mae'r gair na yn achosi i'r gair sy'n dilyn dreiglo'n llaes (p > ph / t > th / c > ch), e.e.

talach na phawb            taller than everyone

For one syllable words - ach is added e.g:

tal  - talach        twp    -  twpach              tew   -  tewach
tall     taller       stupid     ‘stupider’         fat        fatter

 r and n may be doubled if the sound before -ach is short, e.g:
byr - byrrach,   gwyn-gwynnach.

Words that end in or b d g change to p t c. (like a reverse of a soft mutation) when -ach is added, e.g:
gwlyb              >          gwlypach
drud                 >          drutach
rhad                 >          rhatach
teg                   >          tecach

Words of two or more syllables  - mwy (more) is usually used (as in English), e.g:
cyfoethog        -     mwy cyfoethog
rich                         richer (more rich)
salw              -         mwy salw
ugly                        uglier (more ugly)

There are exceptions, e.g:
ifanc           -   ifancach
young            younger
hapus         -   hapusach
happy             happier

Mwy mutates after yn, e.g:
Mae e’n fwy salw na fi.
He’s uglier than me.

* mwy does not cause a mutation.

Than - na before consonants, nag before vowels.

Na causes an aspirate mutation to words that follow:

p > ph,    t > th,   c > ch

e.g: talach na phawb

 

Cysefin / Radical/Original
Radical/Original English
 Cymharol / Comparative
Comparative English
mawr big mwy bigger
bach small llai smaller
da good gwell better
drwg bad gwaeth worse
isel low is lower
uchel high/loud uwch higher/louder
agos close/near agosach/nes closer/nearer
hawdd easy haws easier
drud expensive drutach more expensive
rhad cheap rhatach cheaper

 

 


* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

1. Dw i'n dal ond rwyt ti'n dalach
I am tall but you are taller

2. Rwyt ti'n dwp ond mae hi'n dwpach
You're silly but she's sillier

3. Mae e'n dew ond dyn ni'n dewach
He's fat but we're fatter

4. Dych chi'n fyr ond maen nhw'n fyrrach
You're short but they're shorter

5. Mae'r papur yn wyn ond mae'r sialc yn wynnach
The paper is white but the chalk is whiter

6. Ro'n nhw'n wlyb ond ro'ch chi'n wlypach
We were wet but you were wetter

7. Mae'r rhain yn ddrud ond mae'r rheina'n ddrutach
These are expensive but those are more expensive

8. Rwt ti wedi prynu rhai rhad ond dw i eisiau rhai rhatach byth!
You've bought cheap ones but I want even cheaper ones!

9. Chi sy'n deg, O frenhines, ond mae 'na un sy'n decach na chi!
You are fair, O queen, but there is one who is fairer than you!

10. Mae fy nhad i'n gyfoethog ond mae dy dad di'n fwy cyfoethog
My dad is rich but your dad is richer

11. Roedd y bwgan brain yn salw ond mae'r cerflun newydd yn fwy salw
The scarecrow was ugly but the new statue is uglier

12. Mae'n chwaer ni'n ifanc ond mae'ch brawd chi'n ifancach
Our sister is young but your brother is younger

13. Dw i'n hapus ond mae'r ci'n hapusach
I'm happy but the dog is happier

14. Rwyt ti'n fwy twp na fi
You're sillier than me

15. Dw i'n gyflymach na fe
I'm faster than him

16. Mae e'n arafach na hi
He's slower than her

17. Dyn ni'n fwy caredig na chi
We're kinder than you

18. Dych chi'n hwyrach na nhw
You're later than them

19. Mae hi'n fwy deallus na phawb arall
She's more intelligent than everyone else

20. Mae'r ci'n fawr ond mae'r gath yn fwy na fe
The dog is big but the cat is bigger than him

21. Mae'r byji'n fach ond ma'r pysgod aur yn llai na fe
The budgie is small but the goldfish is smaller than him

22. Roedd yn cyngerdd yn dda ond bydd yn sioe'n well
The concert was good but the show will be better

23. Mae'r canu yn ddrwg ond roedd yr actio'n waeth
The singing is bad but the acting was worse

24. Mae Ffred yn siarad yn isel ond mae Sandra'n siarad yn is na fe
Ffred talks quietly but Sandra talks more quietly than him

25. Mae'r tŷ'n uchel ond mae'r bwthyn yn uwch
The house is high but the cottage is higher

26. Mae Abertawe'n agos ond mae Caerdydd yn nes
Swansea is close but Cardiff is closer

27. Mae dysgu Ffrangeg yn hawdd ond mae siarad Cymraeg yn haws
Learning French is easy but speaking Welsh is easier