Anorac Film

Ffilm ddogfen Anorac: Hanner canrif o chwyldro roc, pop a cherddoriaeth Gymraeg / Documentary film Anorac: 50 years of rock, pop and the Welsh music revolution

“Yn y flwyddyn rhyddhaodd y Beatles Sgt. Pepper, dyna’r flwyddyn gwelwyd y grŵp roc cyntaf yn y Gymraeg.”

“The year in which the Beatles released Sgt Pepper, was the same year we saw the first ever Welsh rock band.”

Roedd hi’n 1967, a gyda cherddoriaeth roc yn ffynnu dros y ffin yn Lloegr a ledled y byd, roedd newid ar droed yma yng Nghymru. Daeth y band roc, Y Blew, ar y sin fel chwyldro, gan weddnewid tirwedd gerddorol Cymru fel y grŵp cyntaf oedd yn canu cerddoriaeth roc yn y Gymraeg. Denodd y band sylw cenedlaethol, gan ddechrau’r chwyldro sydd hyd heddiw yn cael ei alw yn y Sin Roc Gymraeg.

A ninnau nawr yn 2019, dros 50 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r sin yn byrlymu o’n cwmpas o hyd. Yn sin amrywiol, cyffrous, mae hi’n draddodiad sy’n mynnu sylw arbennig un o enwau cerddorol amlycaf Cymru, Prydain a thu hwnt.

Yn Gymro o Gaerdydd, yn gyflwynydd, DJ a cherddor, Huw Stephens aeth ar bererindod gerddorol o Gymru i nodi hanner can mlynedd ers i glustiau’r byd glywed cerddoriaeth roc Gymraeg am y tro cyntaf.

Cynhyrchiad ei bererindod ydi Anorac, ffilm sy’n peintio darlun o sin cerddorol Gymraeg ddoe a heddiw Cymru. Gyda’r ffilm, sydd wedi ei chynhyrchu gan Boom Cymru, eisoes wedi ei darlledu mewn sinemâu ledled Cymru, bydd cyfle i wylwyr S4C brofi’r gampwaith gyda darllediad arbennig o Anorac ar y sianel nos Iau, 4 Ebrill am 9.30.

Yn enw adnabyddus yn genedlaethol fel cyflwynydd ar Radio 1, mae Huw wedi cyfrannu’n ddiflino i gefnogi cerddoriaeth o Gymru. Ymhlith rhai o’i gyfraniadau i’r diwylliant cerddorol mae sefydlu Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd a’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, heb sôn am y gefnogaeth mae wedi rhoi i gerddorion o Gymru ar donfeddi ar ei raglenni ar Radio 1, Radio 6 Music a Radio Cymru.

“Weithiau mae rhaid cymryd cam yn ôl ag edrych ar bethau amlwg ac arbennig o’n cwmpas,” meddai Huw Stephens, sydd newydd lanio nôl ym Mhrydain wedi pererindod gerddorol o fath gwahanol yn Nhecsas, UDA, yng ngŵyl gerddorol South by Southwest ar ran Radio 1. “Mae Anorac yn nodi cyfnod cyffrous sin gerddoriaeth mewn iaith leiafrifol, sydd yn dal i greu cerddoriaeth o safon ers 50 mlynedd.”

Gyda dim ond anorac felen ar ei gefn, dogfennwyd crwydr Huw o Gaerdydd i Geredigion ac o Glwyd i Gaernarfon wrth iddo adrodd chwedl gerddorol yr iaith drwy seiniau ein cerddorion amrywiol o bob cornel o’r wlad.

Gan ddechrau ei bererindod yng Nghaerdydd cyn anelu am y gogledd, mae Huw am gwrdd ag enwau megis Gwenno, Dave Datblygu, Georgia Ruth, Gruff Rhys a’r chwedlonol, Meic Stevens. Cerddorion sydd oll yn cyfrannu’n wahanol iawn i’r gyfoeth sy’n ffurfio’r traddodiad cerddorol Gymraeg.

“Roedd hi’n bleser ac yn hynod ddiddorol i wrando ar y cerddorion yn perfformio a siarad am eu crefft,” ychwanegodd Huw. “Ffilm ‘ar y lôn’ yw Anorac, shwrnai o amgylch ein gwlad brydferth, yn cwrdd â cherddorion sy’n creu heddiw. Mae’r ymateb i’r ffilm o’r dangosiadau sinema wedi bod yn bositif iawn, gyda rhai yn clywed a dysgu pethau newydd ar yr un pryd!”

O deithiau trên, i fys, neu hyd yn oed fodio lifft oddi ar ochrau lonydd troellog Cymru, bydd Huw yn teithio’r wlad yn profi perfformiadau cerddorol, gan rannu gyda’r cerddorion eu syniadaeth a’u gweledigaeth am y diwylliant cerddorol Gymraeg, o’r roc i’r pop, ac o’r rap i’r gwerin.

Nid yn unig y mae’r ffilm yn taflu golau ar gerddoriaeth Cymru, mae Anorac yn adlewyrchiad o brydferthwch ac amrywiaeth ddaearyddol arbennig y wlad. O ardaloedd dinesig y de, i arfordiroedd godidog bae Ceredigion ac i diroedd agored, gwledig Llŷn, mae Huw yn stopio mewn lleoliadau nodweddiadol, llawn cymeriad y wlad.

Mae Anorac yn nodi cyfnod cyffrous sin gerddoriaeth mewn iaith leiafrifol, sydd yn dal i greu cerddoriaeth o safon ers 50 mlynedd.

Fersiwn dwyieithog / Bilingual version

Roedd hi’n 1967, a gyda cherddoriaeth roc yn ffynnu dros y ffin yn Lloegr a ledled y byd, roedd newid ar droed yma yng Nghymru. Daeth y band roc, Y Blew, ar y sin fel chwyldro, gan weddnewid tirwedd gerddorol Cymru fel y grŵp cyntaf oedd yn canu cerddoriaeth roc yn y Gymraeg. Denodd y band sylw cenedlaethol, gan ddechrau’r chwyldro sydd hyd heddiw yn cael ei alw yn y Sin Roc Gymraeg. It was 1967, the rock music scene was thriving worldwide, and a change was on the horizon in Wales. The rock band, Y Blew, revolutionised the scene as the first ever rock band to sing in Welsh. The band transformed the Welsh language music landscape and attracted national attention, marking the start of the revolution that is known to this day as the ‘Welsh language rock scene’.
A ninnau nawr yn 2019, dros 50 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r sin yn byrlymu o’n cwmpas o hyd. Yn sin amrywiol, cyffrous, mae hi’n draddodiad sy’n mynnu sylw arbennig un o enwau cerddorol amlycaf Cymru, Prydain a thu hwnt.Today, in the year 2019, over 50 years later, the scene is still flourishing around us, and the diverse and exciting tradition is gaining the attention of one of the World’s most renowned musical names.
Yn Gymro o Gaerdydd, yn gyflwynydd, DJ a cherddor, Huw Stephens aeth ar bererindod gerddorol o Gymru i nodi hanner can mlynedd ers i glustiau’r byd glywed cerddoriaeth roc Gymraeg am y tro cyntaf. A Welshman from Cardiff, presenter, DJ and musician, Huw Stephens went on a musical pilgrimage around Wales to note 50 years since the world first heard Welsh language rock music.
Cynhyrchiad ei bererindod ydi Anorac, ffilm sy’n peintio darlun o sin cerddorol Gymraeg ddoe a heddiw Cymru. Gyda’r ffilm, sydd wedi ei chynhyrchu gan Boom Cymru, eisoes wedi ei darlledu mewn sinemâu ledled Cymru, bydd cyfle i wylwyr S4C brofi’r gampwaith gyda darllediad arbennig o Anorac ar y sianel nos Iau, 4 Ebrill am 9.30.The product of his pilgrimage is Anorac, a film which paints a portrait of the Welsh music scene past and present. With the film already having been shown in cinemas across Wales, here’s a chance for S4C viewers to watch the masterpiece, with a special broadcast on Thursday, 4 April at 9.30.
Yn enw adnabyddus yn genedlaethol fel cyflwynydd ar Radio 1, mae Huw wedi cyfrannu’n ddiflino i gefnogi cerddoriaeth o Gymru. Ymhlith rhai o’i gyfraniadau i’r diwylliant cerddorol mae sefydlu Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd a’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, heb sôn am y gefnogaeth mae wedi rhoi i gerddorion o Gymru ar donfeddi ar ei raglenni ar Radio 1, Radio 6 Music a Radio Cymru. Huw Stephens is well-known nationally as a Radio 1 presenter and has continuously contributed to championing music from Wales. Among some of his contributions to the music scene are establishing Sŵn Festival in Cardiff and also the Welsh Music Prize, and he’s also given support to musicians from Wales on his programmes on Radio 1, Radio 6 Music and Radio Cymru.
“Weithiau mae rhaid cymryd cam yn ôl ag edrych ar bethau amlwg ac arbennig o’n cwmpas,” meddai Huw Stephens, sydd newydd lanio nôl ym Mhrydain wedi pererindod gerddorol o fath gwahanol yn Nhecsas, UDA, yng ngŵyl gerddorol South by Southwest ar ran Radio 1. “Mae Anorac yn nodi cyfnod cyffrous sin gerddoriaeth mewn iaith leiafrifol, sydd yn dal i greu cerddoriaeth o safon ers 50 mlynedd.”“Sometimes, we need to take a step back and look at the obvious, but special things around us,” says Huw Stephens, who has just arrived back in Britain having been on a different kind of musical pilgrimage in Texas, USA, at the South by Southwest festival on behalf of Radio 1, “Anorac marks an exciting period in a minority language music scene, which has been producing a music of standard for 50 years.”
Gyda dim ond anorac felen ar ei gefn, dogfennwyd crwydr Huw o Gaerdydd i Geredigion ac o Glwyd i Gaernarfon wrth iddo adrodd chwedl gerddorol yr iaith drwy seiniau ein cerddorion amrywiol o bob cornel o’r wlad.With a yellow anorak, Huw’s travels from Cardiff to Ceredigion and from Clwyd to Caernarfon have been documented, as he narrates the musical tale of the language through the sounds of our various musicians from all corners of the country.
Gan ddechrau ei bererindod yng Nghaerdydd cyn anelu am y gogledd, mae Huw am gwrdd ag enwau megis Gwenno, Dave Datblygu, Georgia Ruth, Gruff Rhys a’r chwedlonol, Meic Stevens. Cerddorion sydd oll yn cyfrannu’n wahanol iawn i’r gyfoeth sy’n ffurfio’r traddodiad cerddorol Gymraeg.Beginning his pilgrimage in Cardiff and heading north, Huw meets people such as Gwenno, Dave Datblygu, Georgia Ruth, Gruff Rhys and the legendary Meic Stevens, all musicians who have contributed in very different ways to the rich diversity which has formed the Welsh music tradition.
“Roedd hi’n bleser ac yn hynod ddiddorol i wrando ar y cerddorion yn perfformio a siarad am eu crefft,” ychwanegodd Huw. “Ffilm ‘ar y lôn’ yw Anorac, shwrnai o amgylch ein gwlad brydferth, yn cwrdd â cherddorion sy’n creu heddiw. Mae’r ymateb i’r ffilm o’r dangosiadau sinema wedi bod yn bositif iawn, gyda rhai yn clywed a dysgu pethau newydd ar yr un pryd!”“It was very interesting and a great pleasure to listen to musicians performing and discussing their skills,” Huw adds. “Anorac is a ‘road-trip’ film, a journey around our beautiful country, meeting musicians who are creative today. The response to the cinema showings has been very positive, with some people hearing and learning new things in the process!”
O deithiau trên, i fys, neu hyd yn oed fodio lifft oddi ar ochrau lonydd troellog Cymru, bydd Huw yn teithio’r wlad yn profi perfformiadau cerddorol, gan rannu gyda’r cerddorion eu syniadaeth a’u gweledigaeth am y diwylliant cerddorol Gymraeg, o’r roc i’r pop, ac o’r rap i’r gwerin.By means of train, bus and even thumbing lifts on the winding lanes of Wales, Huw travels the country to see musical performances and to discuss musicians’ ideas and visions concerning the Welsh music culture, from rock to pop, and from rap to folk.
Nid yn unig y mae’r ffilm yn taflu golau ar gerddoriaeth Cymru, mae Anorac yn adlewyrchiad o brydferthwch ac amrywiaeth ddaearyddol arbennig y wlad. O ardaloedd dinesig y de, i arfordiroedd godidog bae Ceredigion ac i diroedd agored, gwledig Llŷn, mae Huw yn stopio mewn lleoliadau nodweddiadol, llawn cymeriad y wlad. Not only does the film throw light upon Welsh music, but Anorac also reflects the beauty and geographical diversity of the country. From the urban areas of the south to the magnificent coast of Cardigan Bay and to the open, rural countryside of Llŷn, Huw pauses in characteristic locations, which convey the spirit of the country.

Anorac Film

Diddordeb mewn cerddoriaeth, diddordeb yn y Gymraeg neu ddiddordeb yng Nghymru – mae Anorac yn ffilm hanesyddol ond eto’n gyfoes, sydd am roi blas i wylwyr o bob math o ddiwylliant gyfoethog Cymru, Gwlad y Gân. Bydd Anorac ar gael i’w gwylio yn rhyngwladol ar S4C Clic, BBC iPlayer a llwyfannau eraill am 150 diwrnod wedi’r darllediad ar 4 Ebrill 2019.

Whether you’re interested in music, in the Welsh language or in Wales, Anorac is an historical, but also contemporary film, which will give viewers a taste of all aspects of the rich culture which belongs to Wales, the Land of Song.  Anorac will be available to view internationally on demand S4C Clic, BBC iPlayer and other platforms for 150 days following the broadcast on 4 April 2019.

Y diweddaraf oddi wrth Anffurfiol