Rebecca Thomas- How the people of Wales became Welsh

Rebecca Thomas o Brigysgol Caergrawnt / Cambridge University: Sut ddaeth pobl Cymru’n Gymry / How the people of Wales became Welsh

Heddiw mae llawer o drigolion Prydain yn ystyried eu hunain yn Albanwyr, Saeson neu Gymry. Ond nid yw hynny wastad wedi bod yn wir. Yng Nghymru, er enghraifft, does dim un adeg ddiffiniol pan allwn ni ddweud y daeth y bobl yn ‘Gymry’. Mae Rebecca Thomas, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Caergrawnt ac arbenigwraig ar Gymru’r oesoedd canol cynnar, yn esbonio teyrnasoedd cynnar Gwynedd, Dyfed a Cheredigion, siarad Brythoneg, y defnydd cyntaf o ‘Kymry’, y Brenin Alfred Fawr, Offa- brenin Mercia a llawer mwy…

Today, many of the inhabitants of Britain identify primarily as Scottish, English or Welsh. But this was not always the case. In Wales, for example, there is no single defining moment when one can say the people became “Welsh”. Rebecca Thomas, a PhD researcher at Cambridge University and expert on early medieval Wales, takes us through the early kingdoms of Gwynedd, Dyfed and Ceredigion, speaking Brittonic, the first use of ‘Kymry’, Alfred the Great, Offa of Mercia and much more…

Ymddangosodd y fersiwn Saesneg o’r erthygl hon yn wreiddiol yn The Conversation, gyda chyfres o erthyglau sydd yn cynnwys Cymru yma.
The English version of this article originally appeared in The Conversation, with a series of articles that feature Wales here.

Roedd Prydain y Canol Oesoedd yn wahanol iawn i’r Prydain yr ydym yn gyfarwydd â hi heddiw. Yn hytrach na Lloegr, yr Alban a Chymru, roedd yr ynys wedi ei rhannu’n deyrnasoedd llai. Roedd tynged y teyrnasoedd hyn yn amrywio wrth i rai brenhinoedd ennill goruchafiaeth dros eraill, wrth i rai teyrnasoedd llai gael eu llyncu gan eu cymdogion mwy, ac wrth i eraill syrthio i oresgynnwyr o dramor, gan gynnwys y Llychlynwyr yn y nawfed a’r ddegfed ganrif.Britain in the early Middle Ages was very different to the country it is now. Rather than England, Scotland and Wales, the island consisted of numerous kingdoms, the fate and fortune of which fluctuated, as some kings gained lordship over others, some smaller kingdoms were swallowed by their larger neighbours and others fell to foreign invaders – including Vikings, in the ninth and tenth centuries.
Heddiw mae llawer o drigolion Prydain yn ystyried eu hunain yn Albanwyr, Saeson neu Gymry. Ond nid yw hynny wastad wedi bod yn wir. Yng Nghymru, er enghraifft, does dim un adeg ddiffiniol pan allwn ni ddweud y daeth y bobl yn ‘Gymry’. Today, many of the inhabitants of Britain identify primarily as Scottish, English or Welsh. But this was not always the case. In Wales, for example, there is no single defining moment when one can say the people became “Welsh”.
Yn y Canol Oesoedd cynnar roedd Cymru wedi ei rhannu’n deyrnasoedd – Gwynedd, Dyfed a Cheredigion, er enghraifft. Roedd y cysylltiadau rhwng y gwahanol deyrnasoedd hyn yn allweddol i wleidyddiaeth frodorol. In the early middle ages, Wales was divided into different kingdoms – Gwynedd, Dyfed and Ceredigion, for example – whose relations with each other formed a central plank of native politics.
Yn y nawfed a’r ddegfed ganrif fe wnaeth y Merfynion, llinach a alwyd ar ôl ei sylfaenydd, Merfyn Frych, ennill pwer mewn llawer o’r ardaloedd hyn, gyda’i awdurdod yn lledu dros ogledd a de Cymru. In the ninth and tenth centuries the Merfynion, a dynasty named after its founder Merfyn Frych, gained power in many of these areas, their authority spreading over both north and south Wales.
Er ein bod ni nawr yn labelu’r wlad ganoloesol yn ‘Gymru’, nôl yn y cyfnod hwnnw doedd hi ddim yn bodoli fel uned wleidyddol. Mae hyn yn codi’r cwestiwn – a oedd trigolion Cymru yn gweld eu hunain yn ‘Gymry’?Even though we now label the medieval country as Wales, back then it didn’t exist as a politically united entity. This raises the question – did the inhabitants of Wales view themselves as “Welsh”?
A yw’r enw yn bwysig?
Mae’r geiriau ‘Wales’ a ‘Welsh’ yn dod o ddefnydd yr Eingl-Sacsoniaid o’r term ‘wealas’ i ddisgrifio (ynghyd a phethau eraill) y bobl ym Mhrydain oedd yn siarad Brythoneg – iaith Geltaidd a oedd yn cael ei defnyddio trwy Brydain gyfan, a ddatblygodd yn hwyrach i’r Gymraeg, Cernyweg, Llydaweg, ac ieithoedd eraill. Roedd awduron Saesneg yn ystyried trigolion Cymru yn wahanol iddyn nhw eu hunain, ond nid oeddent, er hynny, yn defnyddio ‘wealas’ i gyfeirio at drigolion Cymru yn unig. Roedd yr un derminoleg yn cael ei defnyddio weithiau i ddisgrifio pobl Cernyw, er enghraifft. Yn wir, mae dylanwad ‘wealas’ i’w weld ar yr enw Cornwall, gyda’r elfen olaf ‘wall’.
What’s in a name?
The words “Wales” and “Welsh” come from the Anglo-Saxon use of the term “wealas” to describe (among other things) the people of Britain who spoke Brittonic – a Celtic language used throughout Britain which later developed into Welsh, Cornish, Breton and other languages. English writers viewed the inhabitants of Wales as different to themselves, but at the same time “wealas” wasn’t exclusively used to refer to the people of Wales. The same terminology was sometimes applied to the Cornish, for example, with “wealas” reflected in the last part of Cornwall, as “wall”.
Rydym yn gweld sefyllfa debyg wrth i ni droi i edrych ar enwau yn yr iaith Gymraeg. Yn y ddegfed ganrif defnyddiwyd ‘Kymry’ am y tro cyntaf yn Armes Prydein Vawr (Proffwydoliaeth Fawr Prydain), cerdd Gymraeg yn galw ar y Kymry i godi yn erbyn y Saeson a’u gyrru o Brydain unwaith ac am byth.We see a similar situation when we look at Welsh language words. In the tenth century, “Kymry” was used for the first time in Armes Prydein Vawr (The Great Prophecy of Britain), a Welsh poem calling upon the Kymry to rise up against the English and evict them from Britain once and for all.
Mewn Cymraeg modern, mae Kymry wedi datblygu i’r geiriau Cymru a Chymry, y cyntaf yn cyfeirio at dir Cymru a’r ail yn cyfeirio at y bobl. Yn Armes Prydein Vawr, fodd bynnag, nid yw Kymry yn cyfeirio at drigolion Cymru yn unig, ond i bobloedd gwahanol sy’n siarad Brythoneg. Felly, pan mae bardd Armes Prydein Vawr yn cyfeirio at y Kymry, yn ogystal â thrigolion Cymru, mae’r bardd hefyd yn galw ar bobl Cernyw, y Llydäwyr, a thrigolion teyrnasoedd Brythoneg gogledd Lloegr a de’r Alban ( yr ‘Hen Ogledd’). In modern Welsh, Kymry has become Cymru and Cymry, the former referring to the territory of Wales, the latter to its inhabitants. In Armes Prydein Vawr, however, Kymry doesn’t just refer to the inhabitants of Wales, but to multiple Brittonic-speaking peoples. So when Armes Prydein Vawr refers to the Kymry, as well as the inhabitants of Wales, the poet is also calling upon the Cornish, the Bretons, and the inhabitants of the Brittonic-speaking kingdoms of northern England and southern Scotland, commonly referred to then as the “Old North”.
Hunaniaeth Haenog
Er mwyn egluro’r cysylltiad rhwng y pobloedd gwahanol oedd yn siarad Brythoneg, roedd awduron y Canol Oesoedd cynnar yn troi at hanes. Mae’r Historia Brittonum, hanes y Brythoniaid a gyfansoddwyd yng ngogledd Cymru yn 829-30, yn honni bod y Brythoniaid yn dod o Droea yn wreiddiol, ac wedi teithio i Brydain fel y bobl gyntaf i fyw ar yr ynys. Mae’r testun hefyd yn dweud i grŵp o Frythoniaid adael yr ynys a sefydlu eu hunain ar y Cyfandir yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid - dyma Frythoniaid Armorica, neu’r Llydäwyr.
Layers of identity
To explain the connection between the Brittonic-speaking peoples at the time, early medieval writers turned to history. The Historia Brittonum, a history of the Britons composed in north Wales in 829–30, claims that the Britons were originally Trojans who travelled to Britain and became the first people to settle the island. The text also asserts that during the Roman period a group of Britons left the island and settled on the continent, becoming the Armorican Britons or Bretons of Brittany, northern France.
Mae pobl Cymru, fel pobl Cernyw a’r Hen Ogledd, yn cael eu portreadu fel disgynyddion y Brythoniaid gwreiddiol a arhosodd ym Mhrydain. Ond roedd ymosodiadau cyson gan y Pictiaid, y Gwyddelod, a’r Saeson yn enwedig, wedi lleihau eu tir. Nid oeddent bellach yn rheoli Prydain yn ei chyfanrwydd, dim ond corneli bach ohoni. Mae’r hunaniaeth wedi ei selio ar y naratif hon yn cyflwyno trigolion Cymru fel Brythoniaid, sydd â chysylltiadau agos gyda thrigolion Cernyw, yr Hen Ogledd a Llydaw. The inhabitants of Wales, like those of Cornwall and the Old North, are depicted as the descendants of the original Britons who remained in Britain. But successive attacks by the Picts, Irish and – especially – the Saxons had encroached upon their territory. They no longer ruled the entirety of Britain, just small corners of it. The identity based on this narrative presents the inhabitants of Wales as Britons, closely connected to the inhabitants of Cornwall, the Old North, and Brittany.
Roedd syniadau am hunaniaeth – bryd hynny, fel heddiw – yn gymhleth ac yn haenog. Er bod y bardd a gyfansoddodd Armes Prydein Vawr yn ystyried yr holl bobloedd oedd yn siarad Brythoneg fel Kymry, roedd trigolion Cernyw yn dal i gael eu disgrifio yn ‘Cornyw’, a thrigolion Strathclyde yn ‘Cludwys’. Roedd yna wahaniaeth rhwng trigolion Cernyw a Strathclyde, er eu bod nhw yn cael eu grwpio fel Kymry. Ideas of identity were – and still are – complex and layered. The poet who wrote Armes Prydein Vawr may have viewed all the Brittonic-speaking peoples as Kymry, but the Cornishmen are also referred to as “Cornyw” and the inhabitants of Strathclyde as “Cludwys”. There was a distinction between the inhabitants of Cornwall and of Strathclyde, even though they were grouped as Kymry.
Mae yna ymdeimlad tebyg ym Muchedd Alfred, bywgraffiad o’r Brenin Alfred Fawr a gyfansoddwyd gan Gymro yn 893. Mae’r awdur, Asser, yn cyfeirio at Offa, brenin Mercia, yn adeiladu clawdd rhwng ei deyrnas ef a ‘Britannia’. Yma mae Britannia yn amlwg yn cyfeirio at Gymru, ac mae’n ei gyflwyno yn wahanol i’r ardaloedd Brythoneg eraill. Ar yr un trywydd, mae Cernyw yn cael ei alw’n ‘Cornubia’ yn hytrach nag yn rhan o Britannia unedig. There is a similar sentiment in the Life of King Alfred, a biography of Alfred the Great composed in 893. The writer, Asser, refers to Offa of Mercia building a dyke – an earthwork denoting the border – between his kingdom and Britannia. Here Britannia clearly refers to Wales and presents it as distinct from other Brittonic-speaking areas. Likewise, Cornwall is called “Cornubia” rather than as part of one unified Britannia.
Mae natur cymhleth hunaniaeth i’w weld yn amlwg yng Nghymru’r Canol Oesoedd cynnar. Mae ffynonellau o du fewn a thu allan i’r uned fyddem ni heddiw yn ei alw’n Gymru yn disgrifio’r Cymry fel Brythoniaid, pobl oedd wedi rheoli Prydain yn ei chyfanrwydd unwaith, a phobl fyddai – yn ôl Armes Prydein Vawr - yn gwneud hynny eto yn y dyfodol. Ond, mae yna awgrym bod hunaniaeth wahanol yn cael ei greu. Pan mae Asser yn edrych i Britannia mae ei olwg wedi troi i’r gorllewin, dros Glawdd Offa. Mae’n bosib bod uned ddaearyddol Cymru yn dechrau chwarae rôl yn y cysyniad o hunaniaeth. Nowhere is the complex nature of identity more evident than in early medieval Wales. Sources both from and outside what we would now view as Wales see the Welsh as Britons, who once ruled the entirety of Britain, and – according to Armes Prydein Vawr – would do so again in the future. But there are hints of an alternative identity being constructed. When Asser looks to Britannia, his gaze is turned to the west, across Offa’s Dyke. It is possible that the geographical unit of Wales, is beginning to play a role in ideas of identity.
Ni allwn ddweud yn union pryd y daeth trigolion Cymru yn Gymry, ond mae gwaith awduron a haneswyr canoloesol yn cynnig cipolwg pryfoclyd ar hunaniaethau wrth iddynt symud a datblygu yn y Canol Oesoedd cynnar. We can’t point to exactly when the inhabitants of Wales became Welsh, but the works of writers and historians of the time provide tantalising glimpses of shifting and developing identities in the early medieval period.

Mae natur cymhleth hunaniaeth i’w weld yn amlwg yng Nghymru’r Canol Oesoedd cynnar.

Bywgraffiad academaidd Rebecca / Rebecca’s academic biography

Llwytho i Lawr fel PDF

 

Y diweddaraf oddi wrth Understanding Our Language