Cath McGill- Asturias- the Green Coast

Cath McGill: Asturias, Y Costa Verde / The Green Coast / La Costa Verde

Mae Cath wedi setlo yn yr ardal Asturias ar y Gogledd o Sbaen, ac mae hi’n hoffi ysgrifrennu yn y Gymraeg am ei bywyd yna. Yma, mae hi’n cyflwyno yr ardal, ond yn y tair iaith: Cymraeg, Saesneg a Sbaeneg Castellano!
Cath has settled in the Asturias area of the north of Spain, and she likes to write in Welsh about her life there. Here, she introduces the area, but in the three languages: Welsh, English and Spanish Castellano!

Ers wyth mlynedd a mwy rwyf i wedi bod yn cadw blog AsturiasynGymraeg.wordpress.com,
blog sy'n cynnwys tipyn o bopeth: digwyddiadau bob dydd yn yr ardd a'r pentref, ryseitiau, teithiau cerdded, hanes a gwleidyddiaeth.
It's just over eight years since I began my blog AsturiasynGymraeg.wordpress.com.
The blog has a bit of everything, from everyday events in the garden and in the village to recipes, hill walks, history and even politics.
Hace 8 años empecé a escribir este blog
AsturiasynGymraeg.wordpress.com,
un blog con algo para todos, desde lo que pasa a diario en la huerta y el pueblo hasta recetas, rutas de senderismo, artículos sobre la historia o la política.
Penderfynais i ddechrau'r blog am ddau reswm. Roeddwn i eisiau cofnodi beth oedd yn digwydd, a beth oedd yn ddieithr, wrth fyw mewn lle newydd: a hefyd roeddwn yn teimlo bod angen cyfrannu at amrywiaeth testunau Cymraeg, ysgrifennu am bethau tu hwnt i'r ffin.I began writing a blog for two reasons. I wanted to make a record of what was happening, and especially what was different, about living in a new place; but I was also keen to contribute to expanding the range of written material in Welsh by writing about things beyond the borders.Los motivos eran dos: construirme un archivo del cotidiano, y del ajeno, de vivir en un sitio nuevo, y contribuir unos textos a la gama de obras en el idioma galés, añadiendo informes de fuera.
Asturias yw’r unig ran o Sbaen na fu erioed o dan reolaeth y Mwriaid yn ystod yr oesoedd canol. (Well imi ddweud fan hyn nad oedd Gwlad y Basgiaid bryd hynny yn cael ei chyfri’n rhan o Sbaen).Asturias is the only part of Spain that was never conquered by the Moors in the Middle Ages. (I'd better make it clear that at the time the Basque Country was not considered part of Spain).Solo Asturias escapó los conquistadores moros de la época medieval. (Hay que decir que entonces el País Vasco no se consideraba parte de España).
Erbyn heddiw mae'n un o 'gymunedau awtonomig' Sbaen, yn rheoli pethau fel addysg ac iechyd, ond gyda llai o hawliau na'r cymunedau mawr 'cenedlaethol' fel Catalwnia a Gwlad y Basg. Today it's one of the 'autonomous communities'. It has control of things like education and health, but fewer powers than the bigger 'national' communities like the Basque Country and Catalonia.Hoy día es una de las comunidades autónomas de España, con poderes en, por ejemplo, la enseñanza y la salud, pero menos que en otras comunidades más grandes como el Pais Vasco o Catalunya.
Daw’r enw Asturias o lwyth o bobl oedd yn byw yng ngogledd orllewin y penrhyn Iberaidd yn amser y Rhufeiniaid, yr Astures. The name Asturias comes from the Astures, a tribe who occupied the northwest of the Iberian peninsula at the time of the Romans. El nombre Asturias viene de los Astures, un tribu importante en el noroeste de la peninsula Ibérica en el tiempo de los romanos.
Ac mae ieithoedd hen diroedd yr Astures yn dal yn perthyn yn agos: Galiseg, sy’n cael ei chyfri’n iaith swyddogol yn rhanbarth Galisia, a’r hyn mae ieithwyr yn ei alw’n Astur-leones, sy’n cael ei siarad yn Asturias ac yng ngogledd talaith Leon.And the languages spoken today across the lands of the Astures are still closely related: Galician has co-official status in the community of Galicia, and Astur-leones is spoken in Asturias and the north of Leon.Y los idiomas de los terrenos de los Astures siguen pareciendose mucho, el gallego que es idioma co-oficial en Galicia, y el Astur-leonés de Asturias y el norte de León.
Wyddwn i ddim o hyn pan des i yma am y tro cyntaf gyda fy nhipyn Sbaeneg (Castellano), ond erbyn hyn rwy’n siŵr y byddai trigolion gweddill Sbaen yn gwybod yn iawn o ble daeth yr acen.I didn't know any of that when I came here with my few words of Spanish (Castellano), but by now I think anyone from further south would have no doubt about my accent.No sabía nada de todo eso cuando viné aquí con mis pocas palabras de Castellano. Pero ahora creo que los del sur del país sí reconoceran de donde es mi acento.
Y Costa Verde, yr Arfordir Glas, yw'r enw arall ar y lle. Wrth gyfieithu verde yn 'glas', rwy’n golygu lliw dail a phorfa, nid lliw’r awyr a’r môr. Daw'r enw hwn yn sgil y glaw, sydd yn cynhyrchu'r llystyfiant ysblennydd. Mae twristiaid yn dianc o ffwrnes Madrid a chanol y wlad yn yr haf er mwyn teimlo awel niwlog a thymheredd yw Asturias.The other name for the region is the Costa Verde, the Green Coast. The reason is not hard to find: it's the rain, which drives the luxuriant growth of trees and grass. Our tourists come from the furnace of Madrid and central Spain to cool off in the mists and lower temperatures of Asturias.La Costa Verde, la costa de la lluvia, los árboles, la hierba, incluso la selva. Aquí vienen los veraneantes de los fogones de Madrid y de la meseta para disfrutarse de las nieblas asturianas y sus temperaturas suaves.
Saif ein pentref ni ar yr arfordir, rhyw 2km o'r môr a'r un faint o res fwyaf gogleddol y mynyddoedd. Mae mynyddoedd y Cordillera Cantábrica yn rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin, mewn sawl rhes baralel a'i gilydd, yn codi'n uwch wrth fynd tua'r de ac yna'n disgyn i lwyfandir (Meseta) ganol Sbaen sydd rhyw 800m uwchlaw'r môr. Our village is on the coast, about 2km from the sea and the same from the first, most northerly, range of mountains. The Cordillera Cantábrica runs east-west, in several parallel ranges rising in height towards the south before dipping to the meseta plateaus of the centre, which are about 800m above sea level.El pueblo está en el litoral, a 2km del mar y la misma distancia de la montañas mas norteñas. La Cordillera Cantábrica corre este-oeste, en sierras paralelas, más hacia el sur más altas, hasta que la tierra baja otra vez a la meseta con sus 800m de altitud.
Tir gwartheg godro, cig eidion a chig moch yw dwyrain Asturias. Mae'r caeau'n fach ac yn aml yn serth; lle mae tir gwastad bydd ein cymdogion yn plannu perllannau neu'n tyfu india corn i fwydo'r da byw.The east of Asturias is dairy country, with beef cattle and pigs as well. The fields are small and often steep; on the flatter areas our neighbours plant orchards or grow maize for the cattle.Tierra de vacas de leche, tierra de reses de ternera, tierra de cerdos: así es el oriente de Asturias. Las fincas son pequeñas y empinadas. Donde hay llaneras, mis vecinos plantan pumaradas o maíz para los animales.
Afalau seidr yw prif gynnyrch y berllan, a seidr yw prif ddiod feddwol Asturias, yn enwedig yn ystod yr haf. Ac yn y lluarth, yr ardd lysiau? Fabes. Y gair yn ddigon tebyg i'r ffa Cymraeg, ond mae rhain yn enfawr, yn wyn, ac yn cael eu gwerthu wedi'u sychu am €13 y cilo.Most of the orchards produce cider apples; cider is the main alcoholic drink, especially in the summer. And in the vegetable garden? Fabes. Beans. The word is similar to the Welsh ffa, but these are enormous, white beans which sell dried for €13 a kilo.Las pumeradas producen manzanas de sidra: la sidra es la bebida alcohólica del verano asturiano. Y en la huerta? Fabes. Fabes grandes, blancas, que se venden a 13€ el kilo.
Mae trigolion Asturias hefyd yn dwlu ar bysgod a bwyd môr: er bod gyda nhw 200km o arfordir wrth ochr rhai o'r mannau pysgota gorau yn Ewrop, dyw e ddim yn ddigon. Mae llawer yn cael ei fewnforio, yn enwedig o'r Alban ac Iwerddon. The people of Asturias are mad about fish and seafood. Despite having 200km of coastline alongside some of the best fishing grounds in Europe, there's never enough. Lorryloads are imported, mainly from Ireland and Scotland.Los asturianos comen cada vez más pescado y mariscos. Hay aquí 200km de costa, y zonas de pescar entre los mejores de Europa, pero tampoco es suficiente. Los camiones de Irlanda y de Escocia traen toneladas de importación.
Gobeithio'ch bod chi wedi mwynhau'r cyflwyniad cryno hwn i ardal gudd.I hope you've enjoyed this short introduction to Asturias, a secret part of Spain. Espero que os gustó leer esta breve presentación sobre Asturias, una región escondida.

Wrth gyfieithu verde yn ‘glas’, rwy’n golygu lliw dail a phorfa, nid lliw’r awyr a’r môr.

AsturiasynGymraeg.wordpress.com / CathAguamia

Llwytho i Lawr fel PDF

Y diweddaraf oddi wrth Anffurfiol