Ask Dr Gramadeg: Atgrynhoi ac ymestyn syniadau ynglŷn â Phwyslais / Recapping and extending the Emphatic form

Goddrych brawddeg yw'r person neu'r beth sy'n gwneud rhywbeth yn y frawddeg. Fel arfer, bydd y goddrych yn dod yn ail yn y frawddeg, ar ôl y ferf, fel rydyn ni wedi tanlinellu isod, e.e:
The subject of a sentence is the person or thing that is doing something, i.e. who is doing it. The normal position for the person or subject in a Welsh sentence is second, after the verb, see highlighted below, e.g:

Mae Ffred yn mynd.  Roedd hi’n mynd        Byddi di’n mynd.         Bydden nhw’n mynd.
Fred is going.                She was going.       You will be going.        They would go.

Mewn brawddegau Saesneg, bydd y goddrych yn dod yn gyntaf fel arfer, o flaen y ferf, fel rydyn ni wedi tanlinellu uchod.
In English sentences, the person/subject normally comes first, before the verb, see highlighted above.

Pan fyddwn ni'n pwysleisio'r goddrych yn Saesneg, fydd trefn y geiriau ddim yn newid, ond byddwn ni'n defnyddio tôn llais i bwysleisio pwy neu beth sy'n gwneud yweithred, e.e. You are going, not me!
When the subject is emphasized in English the word order can stay the same and only the voice is used to stress the person/who is doing the action, e.g. You are going, not me!

Pan fyddwn ni'n pwysleisio'r goddrych yn Gymraeg, bydd rhaid i drefn y geiriau newid. Byddwn ni'n symud y goddrych o'r ail le (ar ôl y ferf) i'r lle cyntaf (o flaen y ferf), e.e:
When the subject is emphasised in Welsh, the word order must change. The person is moved from the second position (after the verb) to the first position (before the verb), eg:

Mae Ffred yn mynd.  >          Ffred sy’n mynd.                    (present tense)
Fred is going.                         (It is) Ffred (who) is going.

Roedd hi’n mynd.       >          Hi oedd yn mynd                    (imperfect tense)
She was going.                        (It is) her who was going.

Byddi di’n mynd.         >          Ti fydd yn mynd.                    (future tense)
You will be going.                    (It is) you who will be going.

Bydden nhw’n mynd. >          Nhw fyddai’n mynd                (conditional tense)
They would go.                        (It is) them who would go.

 

Ffurfiau cwmpasog yw'r ffurfiau uchod i gyd - Maen nhw'n defnyddio rhyw ffurf ar Bod ynghyd ag yn traethiadol.
All the above examples are long forms (using some form of bod (to be) + yn.

Pan fyddwn ni wedi symud y goddrych, bydd rhaid i ni newid y ferf i'r trydydd person:
Once the subject has been moved, the verbs always change to the third person:

Yn yr amser presennol, byddwn ni'n defnyddio sy'n i olygu 'who is / who are / which is / which are', e.e:
In the present tense, sy’n is used for ‘who/which is/are’, e.g:
Dw i’n mynd                >          Fi sy’n mynd.
I’m going.                                (It’s) me who is going

Yn yr amser amherffaith, byddwn ni'n defnyddio oedd yn i olygu 'who is / who are / which is / which are', e.e:
In the imperfect tense oedd yn is used for who/which was/were.
Ro’n nhw’n mynd        >          Nhw oedd yn mynd.
They were going                     (It’s) they who were going

Yn yr amser presennol, byddwn ni'n defnyddio fydd yn i olygu 'who is / who are / which is / which are', e.e:
In the future tense fydd yn is used for who/which will be.
Byddwn ni’n mynd      >          Ni fydd yn mynd.
We will be going                     (It’s) us who will be going

Yn yr amodol, byddwn ni'n defnyddio fyddai'n i olygu 'who is / who are / which is / which are', e.e:
In the conditional tense fyddai’n is used for who/which would/would be.
Byddet ti’n mynd         >          Ti fyddai’n mynd
You would go                           (It’s) you who would go

Fel arfer bydd pobl yn defnyddio brawddegau pwysleisiol fel y rhain i gyferbynnu pethau, neu i fynegu eu bod yn synnu ar rywbeth, nad yndyn nhw'n credu rhywbeth, neu eu bod yn anghytuno â rhywbeth.
These types of emphatic sentences are usually used to contrast things, express surprise, disbelief, or disagreement.

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

1. Mae Sandra'n dod
Sandra's coming

2. Sandra sy'n dod
It's Sandra who's coming

3. Ro't ti aros
You were staying

4. Ti oedd yn aros
It's you who was staying

5. Bydd hi'n cyrraedd yn hwyr
She'll arrive late

6. Hi fydd yn cyrraedd yn hwyr
It's her who'll arrive late

7. Bydden ni'n ymweld â mam-gu
We would visit grandma

8. Ni fyddai'n ymweld â mam-gu
It's us who would visit grandma

9. Dych chi wedi llwyddo yn yr arholiad
You've succeeded in the exam

10. Chi sy wedi llwyddo yn yr arholiad
It's you who've succeeded in the exam

11. Ro'n nhw wedi pasio'r prawf
They had passed the test

12. Nhw oedd wedi pasio'r prawf
It's them who had passed the test

13. Bydd Sandra wedi ennill y wobr
Sandra will have won the prize

14. Sandra fydd wedi ennill y wobr
It's Sandra who will have won the prize

15. Byddai Ffred a Sandra wedi gwybod yr ateb
Ffred and Sandra would have know the answer

16. Ffred a Sandra fyddai wedi gwybod yr ateb
It's Ffred and Sandra who would have known the answer