Ask Dr Gramadeg: Sut, Pa Mor & Pa

Yn y De, mae pobl yn ynganu'r gair 'Sut' yn debyg i 'Should' yn Saesneg.

Mae'r gair 'Sut' yn gallu golygu 'How?’ - fel mewn:

Sut wyt ti? [Dim treiglad gyda berf]
How are you?

Sut (said as ‘should’) can mean ‘How?’        -   as in -

Sut wyt ti?’                    No mutation with a verb
How are you?

Hefyd, gydag enw, mae 'Sut' yn gallu golygu 'Pa fath o' (‘What sort of? / What kind of?’). Wedyn, bydd rhaid treiglo'r enw'n feddal os bydd yn bosibl, e.e:

Sut dŷ yw e?
What kind of house is it?

Sut ddyn yw e?
What sort of man is he?

* Efallai y byddwch chi'n clywed ‘Pa fath o dŷ ydy / Pa fath o ddyn yw e?’ o bryd i'w gilydd.

It can also mean ‘What sort / kind of..?’ with a noun and soft mutation, e.g:

Sut dŷ yw e?
What kind of house is it?

Sut ddyn yw e?
What sort of man is he?

 *You may also hear  ‘Pa fath o dŷ/ddyn yw e?’

 

Pa mor sy'n golygu ‘how’ gydag ansoddair, e.e.

Pa mor fawr yw e?
How big is it?

Pa mor drwchus yw e?
How thick is it?

Mae'r gair ‘mor’ yn achosi i'r seiniau 'P / T / C / B / D / G / M' dreiglo'n feddal, ond nid yw'n peri i'r seiniau 'Ll, Rh' dreiglo, e.e.

Pa mor llydan yw e?
(How wide is it?)

Pa mor means ‘how’ with an adjective, e.g:

Pa mor fawr yw e?
How big is it?

Pa mor drwchus yw e?
How thick is it?

The ‘mor’ causes a soft mutation but NOT to ‘ll’ and ‘rh’, e.g:

Pa mor llydan yw e?
How wide is it?

Mae'r gair Pa ('which / what') yn achosi treiglad meddal hefyd - ond y tro hwn, bydd pob sain yn treiglo, e..e

Pa liw yw e?
What colour is it?

Pa dŷ?
Which / What house?

Pa - which/what also causes a soft mutation, e.g. lliw.

Pa liw yw e?
What colour is it?

Pa dŷ?
Which / What house?

Cofiwch mai ansoddeiriau sy'n treiglo ar ôl yn traethiadol
Mae'r car yn las - The car is blue

Fodd bynnag, dyw berfenwau ddim yn treiglo ar ôl yn traethiadol
Mae'r car yn dod - The car is coming

Adjectives mutate after ‘yn / ’n (but not verbs - mae e’n mynd - he is going). Adjectives mutate softly, eg:

mawr (big) (adj.)                    Mae e’n fawr.
crwn (round) (adj.)                Mae e’n grwn.

*As with ‘mor’ - ‘ll’ and ‘rh’ do NOT mutate after ‘yn / ’n.  e.g:
Mae e’n llydan.

 


 

* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples

1. Sut dych chi heddi', Ffred? Dw i'n dda iawn, diolch!
How are you today, Ffred? I'm very well thank you!

2. Sut gi yw e? Mae'n gi bach, du.
What kind of dog is it? It's a little, black dog.

3. Sut wraig yw hi? Mae hi'n wraig hen, hyfryd.
What sort of woman is she? She's a lovely, old woman.

4. Pa mor farus yw'r gath? Mae hi'n farus iawn, ac enfawr, hefyd!
How greedy is the cat? It's very greedy, and enormous, too!

5. Pa mor ddrud yw'r car? Mae e'n eithriadol o ddrud.
How expensive is the car? It's exceptionally expensive.

6. Pa mor swnllyd yw'r plant? Maen nhw'n swnllyd ofnadw'!
How noisy are the children? They're awfully noisy!

7. Pa liw yw'r tŷ? Mae e'n las.
What colour is the house? It's blue.

8. Dw i ddim yn lico'r athro 'na! Pa athro? Yr un sy'n trefnu'r cyngherddau.
I don't like that teacher! Which teacher? The one who organizes the concerts.

9. Mae'r gath fach yn ddu, ond dyn ni'n mynd â'r un dew at y milfeddyg
The little cat is black, but we're taking the fat one to the vet

10. Roedd y peiriant golchi llestri'n ddrud, ond dyw e ddim yn gweithio'n dda!
The dish-washer was expensive, but it doesn't work well!