Er mwyn ffurfio'r amser dyfodol, rydyn ni'n gallu defnyddio amser dyfodol 'bod' (to be), fel 'bydda i, byddi di, bydd e/hi' ac yn y blaen. Gan ein bod ni'n defnyddio 'bod' bydd rhaid defnyddio 'yn traethiadol' i gystlltu dwy ran y frawddeg â'i gilydd fel arfer. Wrth gwrs, os byddwn ni'n defnyddio arddodiad, wedyn bydd rhaid i ni beidio â defnyddio 'yn traethiadol', e.e:
Bydda i’n dechrau am saith.
I will be starting at 7 o'clock
ond
Bydda i ’na am saith
I will be there at 7.
Rhaid peidio â defnyddio 'yn traethiadol' yn yr ail enghraifft, gan eich bod chi'n defnyddio arddodiad ('yna > 'na') i ddweud ble y byddwch chi.
Yr un peth sy'n digwydd gydag 'ymadroddion arddodiadol' ('preositional phrases') fel
’ma, gartre, yn y gwaith, mewn cyfarfod
Maen nhw i gyd yn dweud ble y byddwch chi.
Dyma dabl sy'n cynnwys ffurfiau ar Amser Dyfodol 'bod' (to be):
Bydd is the future tense of ‘bod’ - to be. So an ‘yn’ or ’n is usually needed to ‘glue’ it to the rest of the sentence, unless you are saying where you will be.
e.g. Bydda i’n dechrau am saith.
I will be starting at 7.
but
Bydda i ’na am saith.
I will be there at 7.
No ‘yn’/ ’n is required as you are saying where you will be, i.e. ‘there’ - ’na
This also applies to words/phrases like:
’ma, gartre, yn y gwaith, mewn cyfarfod
here at home in work in a meeting
as they all say where you will be.
Here is a table of the Future Tense (Y Dyfodol) of ‘bod’- to be:
Sosodiad / Statement | Negyddol / Negative | |
Bydda i | I will be | Fydda i ddim |
Byddi di | You will be | Fyddi di ddim |
Bydd e | He will be | Fydd e ddim |
Bydd hi | She will be | Fydd hi ddim |
Byddwn ni | We will be | Fyddwn ni ddim |
Byddwch chi | You will be | Fyddwch chi ddim |
Byddan nhw | They’ll be | Fyddan nhw ddim |
Mae cwestiynau ac atebion yn y bwlch isod: / Questions and answers are in the box below:
Cwestiwn / Question | Ateb / Answer | ||
Fydda i? | Will I be? | Byddi/Byddwch | Yes you will (be) |
Fyddi di? | Will you be? | Bydda | Yes I will (be) |
Fydd e? | Will he be? | Bydd | Yes he/it will (be) |
Fydd hi? | Will she be? | Bydd | Yes she/it will (be) |
Fyddwn ni? | Will we be? | Byddwch/wn | Yes you/We will (be) |
Fyddwch chi? | Will you be? | Bydda/Byddwn | Yes I/We will (be) |
Fyddan nhw? | Will they be? | Byddan | Yes they will (be) |
Er mwyn ffurfio atebion negyddol, byddwn ni'n rhoi na o flaen yr atebion cadarnhaol, a dyna fydd yn achosi i 'b' dreiglo'n 'f', e.e:
Fyddwch chi'n mynd? > Will you be going?
Bydda > Yes (I will)
Na fydda > No (I won’t)
Na is placed in front of the answers above to get a negative answer - ‘no’ and the ‘b’ is soft mutated to ‘f’, e.g:
Bydda > Yes (I will)
Na fydda > No (I won’t) etc
* Rhagor o Enghreifftiau / More Examples
1. Bydda i'n mynd i'r cyngerdd 'fory
I will be going to the concert tomorrow / I'll go to the concert tomorrow
2. Fydda i ddim yn dod i'r sioe
I won't be coming to the show / I won't come to the show
3. Byddi di'n mynd i siopa yn yr archfachnad
You will be going shopping in the supermarket / You'll go shopping in the supermarket
4. Fyddi di ddim yn ymweld â thad-cu yn y bore
You won't be visiting grandad in the morning / You won't visit grandad in the morning
5. Bydd e'n cwyno wrth y brifathrawes am yr athro
He'll be complaining to the headmistress about the teacher / He'll complain to the headmistress about the teacher
6. Fydd e ddim yn coginio twrci i ginio
He won't be cooking turkey for dinner / He won't cook turkey for dimmer
7. Bydd hi'n hedfan i Efrog Newydd yn fuan
She will be flying to New York soon / She'll fly to New York soon
8. Fydd hi ddim yn golchi'r llestri ar ôl swper
She won't be washing the dishes after supper / She won't wash the dishes after supper
9. Byddwn ni'n penderfynu cyn bo hir
We will be deciding before long / We'll decide before long
10. Fyddwn ni ddim yn gallu mynd i Sbaen
We won't be able to go to Spain
11. Byddwch chi'n gweld y plant maes o law
You'll be seeing the children in due course / You'll see the children in due course
12. Fyddwch chi ddim yn clywed y parti
You won't be hearing the party / You won't hear the party
13. Byddan nhw'n edrych ar y teledu heno
They'll be watching the television tonight / They'll watch the television tonight
14. Fyddan nhw ddim yn helpu'r athro i ddatrys y problemau
They won't be helping the teacher to solve the problems / They won't help the teacher to solve the problems
15. Fydda i'n dod i'r cyngerdd?
Bydda / Byddi / Byddwch
Na fydda / Na fyddi / Na fyddwch
Will I be coming to the concert?
Yes I will / Yes you will / Yes you will
No I won't / No you won't / No you won't
16 Fyddi di'n mynd â'r ci am dro?
Bydda / Na fydda
Will you be taking the dog for a walk? / Will you take the dog for a walk?
Yes I will / No you won't
17 Fydd e'n cysylltu â Sandra eto?
Bydd / Na fydd
Will he be contacting Sandra again? / Will he contact Sandra again?
Yes he will / No he won't
18 Fydd hi'n bwrw glaw 'fory?
Bydd / Na fydd
Will it be raining tomorrow?
Yes it will be / No it won't be
19. Fyddwn ni'n mynd ar wyliau i Rwsia eleni?
Byddwn / Byddwch / Na fyddwn / Na fyddwch
Will we be going on holiday to Russia this year? / Will we go on holiday to Russia this year?
Yes we will / Yes you will / No we won't / No you won't
20. Fyddwch chi'n mwynhau'r plant yn canu?
Bydda / Byddwn / Na fydda / Na fyddwn
Will you enjoy the childen singing?
Yes I will / Yes we will / No I won't / No we won't
21. Fyddan nhw'n dod â'r cyri malwod?
Byddan / Na fyddan
Will they be bringing the snail curry? / Will they bring the snail curry?
Yes they will / No they won't