When using Welsh, enjoy making mistakes- we all do it

Arweinydd y sector iechyd Gareth Morgan: Defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle / Health sector leader Gareth Morgan: Using Welsh in the workplace

Mae Gareth Morgan yn dysgwr sy’n defnyddio’r iaith pob dydd yn ei waith. Hefyd, mae ‘hobi’ arbennig gyda fe yn ei amser cinio…

Gareth Morgan is a learner who uses the language every day in his work. Additionally, he has a special ‘hobby’ that he does in his lunch hour…

Shw mae Gareth. Ti’n berson sydd wedi dysgu’r Gymraeg ac nawr ti’n defnyddio'r iaith bob dydd yn y gwaith. Sut mae’r Gymraeg wedi newid dy fywyd?

Dw i’n hoff iawn o siarad Cymraeg a dw i’n teimlo’n wahanol pan fydda i’n ei defnyddio. Dw i’n credu bod pobl yn fwy cyfeillgar ac agored pan ti’n siarad â nhw yn y Gymraeg- mae rhwystrau’n cael eu chwalu. Dw i wedi cwrdd â phobl ffantastig hefyd wrth siarad Cymraeg a dw i wedi ennill gwobr fel dysgwr am ddefnyddio’r iaith yn fy ngweithle.
Hello Gareth. You're someone who has learnt Welsh and now you use the language every day in the workplace. How has Welsh changed your life?

I really like to speak Welsh and feel different when doing so.  I think people are more friendly and open when you speak with them in Welsh, barriers seem to drop.  I’ve also met some fantastic people through speaking Welsh and won an award as a learner for using Welsh in my workplace.   
Ti’n gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd. Pa fath o bethau wyt ti’n gwneud drostyn nhw?

Dw i wedi hyfforddi mewn iechyd cyhoeddus ac mae gyda fi rôl yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i ddatblygu partneriaethau gyda’r gwasanaethau cymdeithasol a grwpiau gwirfoddol. Ar hyn o bryd dw i’n arwain prosiectau ar gyfer gofalwyr di-dâl, y lluoedd arfog, pobl sy wedi colli un neu fwy o’u synhwyrau a dw i’n helpu ffoaduriaid i ymgartrefu yng Ngorllewin Cymru. Mae’n swyddogaeth amrywiol iawn a gwerth chweil.
You work for the Health Service. What sort of things do you for for them?

I’m trained in public health and have a role in the NHS which develops partnerships with social services and voluntary groups.  Currently, I’m leading projects for unpaid carers, armed forces, those with sensory loss and helping to settle refugees in West Wales.  It is a highly varied but rewarding role.   
Nawr, yn ystod fy amser cinio dw i’n syrffio’r we, mynd am dro neu ymlacio dros ddysglaid o goffi. Ond pan fyddi di’n cael egwyl, dw i’n deall dy fod ti’n gwneud rhywbeth hollol wahanol. Beth wyt ti’n wneud yn ystod amser cinio?

Mae rôl ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd gyda fi hefyd a dw i’n gwneud ymchwil ar asbirin. Roedd astudiaethau cynnar ar asbirin â thrawiad ar y galon wedi cael eu gwneud yng Nghymru 40 mlynedd yn ôl. Mae tystiolaeth gyda ni nawr bod y feddyginiaeth yn fuddiol i atal cancr, yn enwedig cancr y coluddyn.
Now, in my lunchtime I surf the web, go for a walk or relax over a coffee. But in your break time I understand that you do something completely different. What do you do in your lunchtime?

I also hold a research post at Cardiff University and am involved in research on aspirin.  Early studies of aspirin and heart attack were done in Wales 40 years ago. We now have evidence that the medicine is beneficial in the prevention of cancer, especially against bowel cancer.
Waw, sbesial iawn. Pa fath o effaith mae dy waith wedi cael ar y maes?

Mae’n gwestiwn da achos os byddai mwy o bobl yn cymryd asbirin, efallai byddai’n helpu i leihau’r nifer o bobl sy’n diodde’ o ganser. Ond, mae problem ethigal achos bydden ni’n gweld mwy o waedu- felly rhaid i’r unigolyn bwyso a mesur y ffeithiau. Yn syml, dyn ni eisiau i bobl neud penderfyniad gan ystyried y ffeithiau p’un ai ei gymryd ai peidio.
Wow, very special. What sort of effect does your work have on the field?

That’s a good question because if more people took aspirin, we might help avoid a lot of cancer in the population.  But there is an ethical trade-off as we would see more bleeds- so individual judgement is important.  We simply want people to make informed consent on whether to take it.
Wyt ti wedi ffeindio unrhyw dystiolaeth i ddangos bod siarad Cymraeg yn lleihau y risg o ganser?  

Ha ha. Dw i’n siŵr bod siarad Cymraeg yn dda i chi, wrth ystyried rhwydweithiau cymdeithasol yn ogystal â chadw’r ymennydd yn fywiog gan fod tystiolaeth bod siarad sawl iaith yn fuddiol. Felly pwy a ŵyr, falle bod siarad Cymraeg yn gallu gwneud rhywun yn fwy ymwybodol o’u hiechyd- bydd angen mwy o ymchwil ar hyn!
Have you found any evidence to show that speaking Welsh lessens the risk of cancer?

Ha ha.  I’m sure that speaking Welsh is good for you, both in terms of social networks and keeping the brain active as there is evidence that speaking several languages is beneficial.  So who knows, speaking Welsh may make you more health conscious- a question for more research!
I gloi, pa gyngor fyddet ti’n roi i rywun sydd yn meddwl am ddefnyddio’r Gymraeg maen nhw wedi ei ddysgu?

Byddwn i’n annog pawb i ddysgu Cymraeg- bydd hyd yn oed ambell air yn ychwanegol yn helpu cadw’r iaith yn fyw. Dw i wedi defnyddio’r iaith mewn llawer o sefyllfaoedd, er enghraifft chwarae pêl-droed, a chael sgwrs breifat gyda fy mab bob hyn a hyn. Y cyngor gorau gallwn i roi yw i fwynhau gwneud camgymeriadau - mae pawb yn gwneud hynny - jest ewch amdani!
To close, what advice would you give someone who is thinking about using the Welsh that they have learnt?

I would encourage anyone to learn Welsh, even a few words more helps keep this language alive.  I’ve used Welsh in lots of situations, such as playing football and on occasions to have a private talk with my son.  The biggest tip I would give is to enjoy making mistakes- we all do it- and just get stuck in! 

Tra defnyddio’r iaith, mwynhewch wneud camgymeriadau- mae pob ohonom ni wneud e!
When using Welsh, enjoy making mistakes- we all do it!

Ymwadiad / Disclaimer
Ysgrifennwyd rhai o’r erthyglau ‘Syml’ gan bobl sydd eisoes wrthi’n dysgu Cymraeg. Efallai y dewch ar draws rhai camgymeriadau ieithyddol yn y Gymraeg o bryd i’w gilydd. Yn yr erthygl hon, mae Martin wedi sgwennu fel mae e’n siarad.
Some of the ‘Simple’ articles have been written by those who are still learning Welsh. You may therefore come across some linguistic errors in the Welsh from time to time. In this article, Gareth has written how he speaks.

Llwytho i Lawr fel PDF

Y diweddaraf oddi wrth Dysgwyr