Nid wy’n gofyn
Mae llawer o ffurviau gwahanol i berson cyntaf unigol y ferf 'bod' yn yr amser presennol yn Saesneg, e.e., 'I am/I am not/don’t'. Yr un peth sy'n wir yn Gymraeg hefyd. Mewn iaith lyneddol, bydd tuedd i hepgor y rhagenwau personol, sef ‘i,/fi, ti, e/fe, hi', ac ati. Dyma enghriafft o'r gân:
Nid wy’n gofyn < Nid wyf i’n gofyn. Mae'r rhannau sy wedi'u tanllinellu, wedi'u dileu. Sylwch y bydd y sain 'f' ar ddiwedd geiriau yn cael ei hepgor yn aml. Ar lafar bob dydd, bydden ni'n dweud:
Dw i ddim yn gofyn or Sa i’n gofyn… I am not asking…
Yma rydyn ni wedi defnyddio ‘ddim’ yn lle'r ffurf lenyddol ‘nid’.
gofyn wyf 'asking I am…'
wyf < yr wyf yn < rwy’n < wy’n
Dyma ffurf arall ar y person cyntaf unigol yn yr amser presennol 'bod', sef, 'I am', yn llawn – '(Yr) wyf (i)'.
Dyma restr lawn o'r ffurfiau i gyd sydd ar gael i olygu'r person cyntaf unigol yn amser presennol y ferf 'bod' - sef, 'I am'. Rydyn ni'n dangos y ffurf hiraf yn gyntaf (hynny yw, y ffurf fwyaf llenyddol, sy'n cael ei hysgrifennu gan amlaf), ac wedyn y ffurfiau byrraf (y rhai y bydd pobl yn eu defnyddio ar lafar gan amlaf). Rydyn ni wedi defnyddio'r ffurfiau hyn ar 'bod' gyda'r berfenw 'gofyn ('to ask'). Sylwch fod sillaf neu sain yn cael ei hepgor bob tro. Pob un o'r ffurfiau hyn sy'n golygu 'I ask / I am asking':
yr ydwyf (i)
Ffurfiau llythennol:
Yr ydwyf (i) yn gofyn yr wyf (i) yn gofyn
Rydwyf (i) yn gofyn rwyf yn gofyn
Rydw i’n gofyn rwy’n gofyn
Ffurfiau ar lafar:
Dw i’n gofyn (North Wales)
W i’n gofyn (South Wales) wy’n gofyn (South Wales)
Ynganiad:
(ween govin) (oo-een govin)