Mae'r prosiect Cyfres Amdani yn cael ei ariannu gan y Cyngor Llyfrau ac mae pedair gwasg (Atebol, CAA Cymru, Gomer & Y Lolfa) wedi cyhoeddi pump llyfr yr un. Mae cydweithio agos hefyd gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac mae'r llyfrau'n cydymffurfio gyda'r cwricwlwm newydd. Mae lefelau llyfrau'r prosiect yn cydymffurfio â lefelau dysgu ail iaith Ewrop.
The Amdani Series project is funded by the Welsh Books Council and four presses (Atebol, CAA Cymru, Gomer & Y Lolfa) have published five books each. They are also working closely with the National Centre for Learning Welsh, and the books correlate with the new curriculum. The levels of the books align with European levels of second language learning.
Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: Mae’n bwysig bod ein dysgwyr yn cael digon o gyfleoedd i ymarfer defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth, er mwyn datblygu eu sgiliau a magu hyder. Bydd y gyfres fywiog hon o lyfrau deniadol yn adnodd gwerthfawr iawn, yn enwedig gan fod y llyfrau wedi’u teilwra ar gyfer gwahanol lefelau’r sector Dysgu Cymraeg. Mae wedi bod yn bleser cydweithio â’r Cyngor Llyfrau a dy’n ni’n gobeithio bydd y fenter hon yn ffordd o ddenu dysgwyr at ddarllen llyfrau Cymraeg yn gyffredinol, ac ar hyd eu siwrnai i ddysgu’r iaith.
Meinir Wyn Edwards, Golygydd, Y Lolfa: Fel golygydd rhai o’r llyfrau yn y prosiect, mae wedi bod yn brofiad grêt cydweithio gyda gweisg eraill. Gobeithio bydd mwy o lyfrau hamdden i ddysgwyr yn cael eu cyhoeddi ar ôl i’r prosiect cychwynnol o 20 llyfr ddod i ben. Os ydy nifer y siaradwyr Cymraeg yn mynd i gyrraedd y miliwn erbyn 2050 mae angen denu mwy o bobl i ddysgu’r iaith ac mae llyfrau fel hyn yn un cam bach pwysig arall tuag at gyrraedd y nod.
Helen Prosser, Strategic Director, the National Centre for Learning Welsh: It’s important our learners have plenty of opportunities to practise using their Welsh outside the classroom, so they can develop their skills and gain confidence. This new series of entertaining books will be a fantastic resource, especially so as the books reflect the different language patterns taught on our courses. It’s been a pleasure working with the Welsh Books Council and we hope this initiative will help attract learners to reading Welsh books in general, and all along their language journey.
Meinir Wyn Edwards, Editor, Y Lolfa: As an editor for some of the books in the project, it has been a great experience to collaborate with other presses. Hopefully more leisure books for learners will be released after the first project of 20 books comes to an end. If the number of Welsh speakers is going to reach a million by 2050 then there is a need to attract more people to learn the language, and books like this are an important extra step to help reach the goal.
More insight and opinion... Behind the Scenes of Cyfres Amdani.
Neidiwch i safon - Jump to level:
Mynediad - Entry /
Sylfaen - Foundation /
Canolradd - Intermediate /
Uwch - Higher
Author: Margaret Johnson
Welsh adaption of Big Hair Day
Adapted by: Meinir Wyn Edwards
twitter.com/meinir_wyn
Price: £4.99
Language: Very simple Welsh, with vocabulary at the bottom of each page
Level: Mynediad / Entry
Publisher: Y Lolfa
Buy: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781784615567
Darllen mwy: Am y llyfr a chwis / Read more: About the book and quiz
Ymestynnwch eich Cymraeg gyda Jo Knell / Extend your Welsh with Jo Knell
Disgrifiad Gwales: Mae'r nofel yn sôn am ddiwrnod ym mywyd Sophia Reynolds, sydd ar ei ffordd i fod yn ecstra mewn ffilm, ond mae nifer o ddigwyddiadau yn ei rhwystro rhag cyrraedd y set. Mae'n gorfod ymweld â swyddfa'r heddlu sawl gwaith, ond does dim ots ganddi, oherwydd mae'n ffansïo'r plismon yno!
Gwales description: This is a humorous romance about one memorable day in the life of Sophia Reynolds, who is on her way to be a film extra, but a number of incidents prevent her from reaching the set. She has to visit the police office several times, but she doesn't mind, as she fancies the policeman there!
Meinir Wyn Edwards: Roedd hi’n bleser cael addasu nofel Lefel Mynediad hyd at Uned 8. Ond roedd hi’n her a hanner, gan nad o’n i’n gyfarwydd â’r eirfa a’r patrymau iaith sydd yn y cwriwlwm Dysgu Cymraeg newydd. Mae’r ymateb i’r llyfr yn y siopau wedi bod yn dda ac mae cyhoeddi llyfrau ysgafn i ddysgwyr Cymraeg yn hollbwysig.
Stori syml, gyda digon o hiwmor, am Sophia yw Am Ddiwrnod! (What a day!). Mae hi ar ei ffordd i fod yn ecstra mewn ffilm gydag un o’i hoff actorion, Fabio Facelli. Ond mae sawl peth yn digwydd iddi ar ei ffordd yno ac mae’n rhaid iddi alw yng ngorsaf yr heddlu sawl gwaith. Ond does dim ots gan Sophia, oherwydd mae llygaid neis iawn gan y plismon! Mae’n braf cael stori garu i godi calon!
Meinir Wyn Edwards: It was a pleasure to adapt an Entry level novel up to Unit 8. But it was a challenge and a half, since I was not familiar with the language patterns used in the new Learn Welsh curriculum. The response to the book in shops has been good and publishing light books for learners is vital.
Am Ddiwrnod! is a simple story about Sophia, with lots of humour. She is on her way to be an extra in a film with one of her favourite actors, Fabio Facelli. But several things happen to her on her way there and she has to call into the police station several times. But Sophia doesn't mind, because the policeman has very nice eyes! It's nice to have a love story to lift the heart!
Helen Prosser:
Elfen gyffrous bod yr awduron sy wedi ysgrifennu’r llyfrau Mynediad a Sylfaen wedi bod yn dilyn yr un patrymau iaith â’r cyrsiau cenedlaethol newydd. Mae hyn yn meddwl y bydd yn bosib darllen y llyfr cyntaf Am Ddiwrnod! ar ôl wyth uned o’r cwrs Mynediad.
An exciting element is that authors who have written the Entry and Foundation books have followed the same patterns as the new national courses. This means that it is possible to read the first book Am Ddiwrnod! after eight units of the Entry course.
Gangsters yn y Glaw
Author: Pegi Talfryn
Price: £4.99
Language: Simple Welsh, with vocabulary at the bottom of each page
Level: Mynediad / Entry
Publisher: Gomer
Disgrifiad Gwales: Mae Elsa Bowen yn gweithio fel ditectif preifat; fel arfer mae'n ymchwilio i dwyll yswiriant. Ond mae hynny'n newid ar y bore Mercher yma. Mae sylw Elsa ar siop lyfrau Cymraeg yn nhre Caernarfon lle mae pethau annisgwyl yn digwydd. Mae'r stori yn canolbwyntio ar Lilith Lewis, gangster lleol sydd yn achosi trafferth.
Gwales description: Elsa Bowen works as a private detective; usually she deals with insurance fraud. But that all changes on this Wednesday morning. Elsa's attention is drawn to the bookshop in Caernarfon where strange things are happening. The story focuses on Lilith Lewis, a local gangster who causes trouble.
Darllen mwy: Cyfweliad â Pegi Talfryn / Read more: Interview with Pegi Talfryn
Pass Y Sugnydd Llwch Darling
Authors: Lucy Owen, Rhodri Owen & Mari George
Price: £4.99
Language: Simple Welsh, with vocabulary at the bottom of each page
Level: Mynediad / Entry
Publisher: Gomer
Disgrifiad Gwales: Mae Rhodri yn gweithio fel cyflwynydd ar rhaglen i S4C. Mae Lucy yn darllen y Newyddion ar y BBC. Gabs yw eu mab. Mae'n benblwydd ar Gabs. Mae'r teulu yn penderfynu mynd am dro i Ardal Ogwr.
Gwales description: Rhodri works as a presenter on a S4C programme. Lucy reads news for the BBC. Gabs is their son. It's a birthday for Gabs. The family decides to go for a walk to Ogmore.
Stryd y Bont
Author: Manon Steffan Ros
twitter.com/ManonSteffanRos
Price: £4.99
Language: Simple Welsh, with vocabulary at the bottom of each page
Level: Mynediad / Entry
Cyhoeddwr: Atebol
Disgrifiad Gwales: Mae Stryd y Bont yn dilyn hanes pobl sy'n byw ar yr un stryd mewn tref yng Nghymru. Pa gyfrinachau sydd ganddyn nhw? Pwy sy'n adnabod pwy, ac a ydy cymeriadau Stryd y Bont yn adnabod eu cymdogion mewn gwirionedd?
Gwales description: We follow the stories of people living on the same street in a Welsh town. What secrets do they have and do they really know their neighbours?
Wynne Evans - O Gaerfyrddin i Go Compare
Author: Wynne Evans with Elin Meek
twitter.com/wynneevans
Price: £4.99
Language: Simple Welsh, with vocabulary at the bottom of each page
Level: Mynediad / Entry
Publisher: CAA Cymru
Disgrifiad Gwales: Darlun personol a gonest iawn o hanes Wynne a'i deulu, ei brofiadau fel tenor enwog, a'i ymdrech fel oedolyn i ddysgu Cymraeg.
Gwales description: A very personal and honest history of Wynne and his family, his experiences as a famous tenor, and his efforts to learn Welsh as an adult.
Darllen mwy: Blas o'r llyfr / Read more: A taste of the book
Samsara
Awdures: Sonia Edwards
Pris: £4.99
Iaith: Cymraeg syml, with vocabulary at the bottom of each page
Safon: Sylfaen
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Disgrifiad Gwales: Mae Sam yn gaeth yn y corff anghywir ac mae arno awydd i newid rhyw. Wrth ymdrin â'r pwnc sensitif hwn gwelir rhwystredigaeth y cymeriad ac ymateb y bobl sydd agosaf ato.
Gwales description: Sam feels confined in the wrong body and wishes to change sex. The book deals with a sensitive subject as we follow the main character's frustration and the response of those closest to him.
Teithio Drwy Hanes
Awdur: Jon Gower
twitter.com/JonGower1
Pris: £6.99
Iaith: Cymraeg syml, with vocabulary at the bottom of each page
Safon: Sylfaen
Publisher: CAA Cymru
Disgrifiad Gwales: Yn y llyfr hwn mae Jon Gower yn mynd â'r darllenydd i 30 o leoliadau sy'n gysylltiedig â hanes Cymru. Mae'n esbonio pam mae'r lleoliadau yn bwysig yn hanes Cymru, ac mae e'n disgrifio eu harddwch a'u naws yn ei ffordd arbennig ei hun.
Gwales description: In this book, Jon Gower takes the reader to 30 different locations connected to Wales' history. He explains why these places are important to Welsh history and describes their beauty and atmosphere in his own special way.
Darllen mwy: Blas o'r llyfr / Read more: A taste of the book
Y Fawr a'r Fach - Straeon o'r Rhondda
Awdur: Siôn Tomos Owen
twitter.com/sionmun
Pris: £5.99
Iaith: Cymraeg syml, with vocabulary at the bottom of each page
Safon: Sylfaen
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Disgrifiad Gwales: Cyfrol o straeon byrion yn ymwneud â hanesion pentrefi’r Rhondda.
Gwales description: A volume of short stories and anecdotes about villages in the Rhondda valley.
Darllen mwy: Blas o'r llyfr / Read more: A taste of the book
Ymestynnwch eich Cymraeg gyda Jo Knell / Extend your Welsh with Jo Knell
Y Stryd
Awdures: Helen Naylor
Addasiad Cymraeg o One Day
Wedi'i addasu gan Mared Lewis
Pris: £6.99
Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page
Safon: Sylfaen
Cyhoeddwr: Gomer
Prynwch: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781785622397
Exclusive author insight:
Interview with Mared Lewis.
Disgrifiad Gwales: Un noson. Un stryd. Ac mae gan bob person ym mhob tŷ broblem. Sut mae Nina yn mynd i ddweud ei newyddion wrth Dafydd? Pam mae Magi yn gorfod ailfeddwl am Xavier? Beth mae Sam yn mynd i wneud am y broblem fawr? Sut mae bywyd Huw yn mynd i newid am byth? Bydd un nos Wener yn newid popeth.
Gwales description: One Night. One street. And everyone in every house has a problem. How will Nina tell Dafydd the news? Why does Magi have to rethink her relationship with Xavier? What will Sam do about his big problem? How will Huw's life change forever? One Friday night will change everything.
Mared Lewis: Mae'r stori yn galw i mewn ac allan o fywydau'r bobol sy'n byw drws nesa' i'w gilydd ar un stryd arbennig mewn tref yng Ngogledd Cymru. Mae pawb yn byw drws nesa, ond mae ganddyn nhw fywydau diddorol, ac mae gen pawb ei broblem ei hun. Mae'n lyfr difyr, a dyma'r tro cyntaf i mi addasu llyfr gan rhywun arall. Roedd hi'n anodd i ddechrau peidio rhedeg i ffwrdd efo'r stori fy hun, ond fe ddaeth pethau'n haws.
Mared Lewis: The story pops in and out of the lives of people living next door to one another in a particular street in a town in North Wales. Everyone lives next door, but they lead interesting lives, and all of them have their own problems. It is an entertaining book, and that’s the first time I have adapted a book by someone else. At first it was difficult to stop myself running away with the story myself, but then things became easier.
Yn ei Gwsg
Awdures: Bethan Gwanas
twitter.com/BethanGwanas
Gydag arlunwaith y cartwnydd Huw Aaron
With illustrations by cartoonist Huw Aaron
twitter.com/huwaaron
Pris: £4.99
Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page
Safon: Sylfaen
Cyhoeddwr: Atebol
Prynwch: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781912261307
Ymestynnwch eich Cymraeg gyda Jo Knell / Extend your Welsh with Jo Knell
Disgrifiad Atebol: Mae Dafydd yn cerdded yn ei gwsg, ac un bore, mae'n deffro yn waed i gyd. Mae'r llyfr yn dilyn olion traed gwaedlyd allan o'r tŷ a thrwy'r pentref ac yn darganfod Mrs Roberts a'i zimmerframe ar ochr y ffordd wedi'i tharo gan gar. Pwy sydd wedi ei tharo? A fydd yr heddlu yn arestio'r person cywir?
Atebol description: Dafydd walks in his sleep, and one morning he wakes up to see blood everywhere. The book follows the bloody footprints out of the house and through the village and discovers Mrs Roberts and her zimmerframe on the roadside hit by a car. Who hit her? Will the police arrest the right person?
Bethan Gwanas: Mi wnes i wir fwynhau sgwennu ar gyfer dysgwyr eto, a braf oedd gallu sgwennu am rywun gwahanol iawn i Blodwen Jones! Ro’n i’n hoff iawn o gymeriad Dafydd, ac roedd y broses o ddod i’w nabod o wrth sgwennu amdano yn ddiddorol. Dim ond y syniad o rywun yn cerdded yn ei gwsg ac yn deffro i weld bod gwaed dros y lle, oedd yn fy mhen i ar y dechrau. Doedd gen i ddim syniad gwaed pwy oedd o nes i mi ddechrau sgwennu, ac ro’n i’n ‘darganfod’ y stori yn union fel bod yn ddarllenydd. Gobeithio y bydd y dysgwyr yn mwynhau gymaint ag y gwnes i fwynhau!
Bethan Gwanas: I really enjoyed writing for learners again, and it was nice to be able to write about someone different different to Blodwen Jones! I liked Dafydd's character, and the process of getting to know him when writing about him was interesting. The idea of someone was walking in sleep and waking up to see that there was blood over the place was all that was in my head at the beginning. I had no idea who the blood was from before I started writing, and I just discovered the story in the same way as the reader. I hope that the learners will enjoy it as much as I enjoyed!
Exclusive author insight:
Awdures ydw i- ond tiwtor Cymraeg i Oedolion hefyd!
Creu Blodwen Jones.
C'Mon Reff
Awdur: Nigel Owens
Wedi'i addasu gan: Elin Meek
Pris: £6.99
Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page
Safon: Canolradd
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Disgrifiad Gwales: Addasiad o hunangofiant poblogaidd Nigel Owens, Hanner Amser. Mae'r testun wedi ei rannu'n benodau byrion, ac yn sôn am ei blentyndod, ei yrfa fel un o reffaris rygbi gorau'r byd, ei deithiau, ei deulu, ei iselder a'i rywioldeb.
Gwales description: An adaptation of Nigel Owen's autobiography Hanner Amser. The text is arranged into short chapters, mentions his childhood, his career as one of the best referees in the in the world, his travels, his family, his depression and his sexuality.
Croesi'r Bont
Awdur: Zoê Pettinger
Pris: £6.99
Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page
Safon: Canolradd
Publisher: CAA Cymru
Disgrifiad Gwales: Straeon byrion sy’n llawn hiwmor, gan awdures sydd wedi dysgu Cymraeg ei hun.
Gwales description: Short stories with a good pinch of humour, by an author who is a Welsh learner herself.
Zoe Pettinger: Idiomau a diarhebion ydy teitlau’r straeon i gyd. Maen nhw mor bwysig a maen nhw’n cyfoethogi’r iaith. Mae pum stori yn y gyfrol ac mae pob un yn ‘genre’ gwahanol. Ro’n i eisiau apelio at bawb a ro’n i eisiau cynnwys straeon am ddysgwyr eu hunain. Dyn ni i gyd yn rhannu hiwmor am y treigladau a gramadeg, a dyn ni i gyd yn deall yr anawsterau o fod yn ddysgwr Cymraeg!
Zoe Pettinger: All the short stories have titles which are idioms or proverbs. They are so important and they enrich the language. There are five stories in the volume and each one is in a different genre. I wanted to appeal to everyone and I wanted to include stories about learners themselves. We all take part in the humour about mutations and grammar, and we all understand the difficulties of being Welsh learners!

Exclusive author insight: Croesi'r Bont gyda Zoe Pettinger
Gêm Beryglus
Awdur: Richard MacAndrew
Addasiad Cymraeg o Man Hunt
Wedi'i addasu gan: Pegi Talfryn
Pris: £4.99
Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page
Safon: Canolradd
Cyhoeddwr: Atebol
Prynwch: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781912261291
Ymestynnwch eich Cymraeg gyda Jo Knell / Extend your Welsh with Jo Knell
Disgrifiad Gwales: Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn enwog am ei harddwch naturiol ac am y llwybrau cerdded. Ond mae'r lle yn cyrraedd y newyddion am reswm arall; mae pobl yn cael eu lladd yn yr ardal.
Gwales description: The Brecon Beacons National Park is famous for its natural beauty and for its walking trails. However the place reaches the news for another reason; people are being killed in the area.
Adolygiad gan Sue Ward, Dysgwraig o Say Something in Welsh: Stori dditectif gyffrous. Oedd diddordeb gyda fi yn syth o’r frawddeg gyntaf. Doeddwn i ddim eisiau stopio darllen! Mae’r iaith yn addas ar gyfer dysgwyr, ac mae’r geirfa ddefnyddiol hefyd.
Review by Sue Ward, learner from Say Something in Welsh: An exciting detective story. I had an interest straight from the first sentewnce. I didn't want to stop reading! The language is suitable to learners, and the vocabulary is very useful.
Gwers Mewn Cariad
Awdures: Beca Brown
Pris: £6.99
Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page
Safon: Canolradd
Publisher: Gomer
Disgrifiad Gwales: Nofel ysgafn am ddyn sy'n syrthio mewn cariad â'i diwtor. Mae Liam yn newydd i ddosbarth Liz ym mis Medi. Ar yr wyneb mae'n hollol wahanol i'w diwtor Cymraeg. Er gwaetha'r gwahaniaeth oed mae carwriaeth yn datblygu rhwng y ddau, a Liz yn wynebu creisus tipyn mwy cymhleth na sut i gyflwyno treigladau...
Gwales description: A light-hearted novel about a man who falls in love with his tutor. Liam is new to Liz's class in September. On the face of it, he is completely different from his Welsh tutor. Despite the age difference, a love affair develops between the two, and Liz faces a crisis that is a little more complex than how to introduce mutations...
Exclusive author insight:
Ysgrifennu'r nofel i ddysgwyr, Gwers Mewn Cariad
Y Llythyr
Awdures: Helen Naylor
Addasiad Cymraeg o Two Lives
Wedi'i addasu gan: Dwynwen Teifi
Pris: £6.99
Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page
Safon: Canolradd
Cyhoeddwr: CAA Cymru
Disgrifiad Gwales: Ym mhentref bach Treddafydd yng Nghymoedd de Cymru, mae Megan a Huw yn dod yn gariadon. Ond a fydd eu cariad yn ddigon cryf i oroesi'r amgylchiadau? Mae marwolaeth, eu teuluoedd, a'r blynyddoedd ar wahân i gyd yn eu herbyn nhw.
Gwales description: In the small village of Tredafydd in the south Wales valleys, Megan and Huw become lovers. But will their love conquer the circumstances? Death, their families and years apart are all against them.
Cawl a Storïau Eraill
Wedi'i golygu gan Rhiannon Thomas
Pris: £5.99
Iaith: Cymraeg
Safon: Uwch
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Prynwch: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781784616168
Ymestynnwch eich Cymraeg gyda Jo Knell / Extend your Welsh with Jo Knell
Disgridiad Gwales: Casgliad o straeon cyfoes gan rai o awduron gorau Cymru.
Gwales description: Contemporary short stories by some of Wales’ best authors.
Cofio Anghofio
Awdur: Alan Maley
Addasiad Cymraeg o Forget to Remember
Wedi'i addasu gan: Elin Meek
Pris: £8.99
Iaith: Cymraeg
Safon: Uwch
Cyhoeddwr: CAA Cymru
Prynwch: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781845216825
Exclusive author insight:
Elin Meek explains how she translated Roald Dahl's works into Welsh.
Disgrifiad Gwales: Stori deimladwy am ymdrech dwy chwaer i ddod i delerau â dementia eu mam, a'i effaith ar eu bywydau.
Gwales description: The story of two sisters who try to come to terms with their mother's illness, and its effect on their own lives.
Elin Meek: Mae nifer o themâu yn y nofel hon: problem gofalu am bobl sy'n heneiddio; dementia; tensiynau rhwng dwy chwaer; tensiynau rhwng pâr priod; beth sy'n ein gwneud ni'n hapus mewn gwirionedd. Dyna ro'n i'n ei deimlo beth bynnag, wrth ddarllen ac addasu'r nofel. Dw i wedi troi'r teitl yn Gymraeg - fel ei fod yn dangos bod angen i ni gofio anghofio am rai pethau yn y gorffennol, er mwyn symud ymlaen i'r dyfodol. Dyna mae'r prif gymeriad yn ei wneud yn y diwedd, dw i'n meddwl.
Roedd y nofel Saesneg wedi ei lleoli yn Llundain, Marlow a Brighton, felly newidiais i'r rhain i: Llanelli, Y Bont-faen a'r Mwmbwls, ger Abertawe. Mae Sarah, y prif gymeriad yn y nofel Saesneg, yn canu 'All Things Bright and Beautiful', felly yn Gymraeg, mae hi'n canu 'Calon Lân'. Dw i'n mwynhau meddwl am ffyrdd o Gymreigio nofelau fel hyn fel bod y darllenydd yn credu yn y nofel fel un sydd wedi'i lleoli yng Nghymru.
Elin Meek: There are a number of themes in this novel: the problem of caring for older people; dementia; tensions between two sisters; tensions between a married pair; and what makes us truly happy. This is what I was feeling anyway, when reading and adapting the novel. I've swapped the title in Welsh- so that it shows we need to remember to forget about some things in the past, in order to move on to the future. This is what the main character does in the end, I think.
The English novel was set in London, Marlow and Brighton, so I changed these to: Llanelli, Cowbridge and Mumbles, near Swansea. Sarah, the main character in the English novel, sings 'All Things Bright and Beautiful', so in the Welsh, she sings 'Calon Lân'. I enjoy thinking about ways to Welshify novels like this so that the reader believes the novel is one that is set in Wales.
Cyffesion Saesnes yng Nghymru
Awdures: Sarah Reynolds
twitter.com/sarahyngnghymru
Pris: £4.99
Iaith: Cymraeg
Safon: Uwch
Cyhoeddwr: Atebol
Prynwch: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781912261284
Exclusive author insight:
Mae Sarah yn cyflwyno ei llyfr cyntaf, Dysgu Byw.
Disgridiad Gwales: Mae Katie newydd symud i Gymru gyda'i gŵr newydd, Dylan. Yn ôl Dylan roedden nhw am fyw mewn tŷ enfawr, ond mae pethau'n mynd o chwith ac mae'n rhaid i'r ddau symud i fyw gyda'i rieni ef. Sut fydd teulu Dylan yn ymdopi gyda Saesnes hollol ddi-glem yn eu plith?
Gwales description: Katie has just moved to live in Wales with new husband Dylan. She had hope to live in a large house but things don't work out as she had anticipated, and she has to live with Dylan's parents. How will Dylan's family cope with a clumsy English woman?
Sarah Reynolds: Mae pob priodas yn antur, ond mae priodi rhywun ry' chi ddim ond wedi nabod ers mis yn antur a hanner! Mae Cyffesion Saesnes yng Nghymru yn dilyn hynt a helynt Katie, sydd wedi cwrdd â Dylan o dan yr haul ar ynys rhamantus Sbaenaidd… ond mae Katie yn dysgu yn go gyflym, bod ei gŵr newydd yn dod fel bargen pecyn. Os yw’r briodas i fod yn llwyddiannus, fe fydd yn rhaid i Katie hefyd dderbyn ei deulu, ei wlad a’i iaith.
Mae Katie yn glanio yng nghefn gwlad Sir Gâr heb air o Gymraeg, a dim clem am ddiwylliant Cymru. Dyw ei siwrne ddim yn hawdd ac yn y nofel gomedïaidd hon; rydw i wir yn gobeithio fe fydd dysgwyr yn chwerthin a gwingo at rhai o’r camgymeriadau mae Katie yn gwneud ar hyd ei siwrne. Mae hon yn stori gariad nid yn unig rhwng Katie a Dylan ond hefyd rhwng Katie a Chymru.
Sarah Reynolds: Every wedding is an adventure, but marrying someone that you have only known for a month is an adventure and a half! Cyffesion Saesnes yng Nghymru follows the troubles of Katie, who has met Dylan under the sun of a romantic Spanish island... but Katie learns quickly that her new husband comes as a package. If the marriage is to be successful, Katie will have to accept his family, his country and his language.
Katie lands in rural Carmarthenshire without a word of Welsh, and not a clue of Welsh culture. Her journey isn't easy and this is a comic novel; I hope that every learner laughs and winces at some of the mistakes that Katie makes on her journey. This is a love story not only between Katie and Dylan but between Katie and Wales.
Llwybrau Cul
Awdur: Mared Lewis
Pris: £8.99
Iaith: Cymraeg
Safon: Uwch
Gomer
Disgrifiad Gwales: Mae'r nofel yn agor ar olygfa damwain liw nos ar ffordd gul yng nghefn gwlad Cymru. Mae tri char wedi cael eu heffeithio. Ond beth sy'n plethu'r tri gyrrwr, a sut cyrhaeddon nhw'r sefyllfa hon?
Gwales description: There has been a three car crash on the back-roads of rural Wales one dark night. But what joins the driver's of these vehicles, and how did they end up here?
Exclusive author insight: Mared Lewis: Creu Fi a Mr Huws & Y Stryd.
Trwy'r Ffenestri
Awdur: Frank Brennan
Addasiad Cymraeg o Windows of the Mind
Wedi'i addasu gan: Manon Steffan Ros
twitter.com/ManonSteffanRos
Pris: £4.99
Iaith: Cymraeg
Safon: Uwch
Cyhoeddwr: Atebol
Disgrifiad Gwales: Dyma gasgliad o straeon byrion difyr a fydd yn siŵr o wneud i chi feddwl. Dewch i adnabod cymeriadau cymhleth, lleoliadau pell, a straeon fydd yn aros yn eich meddwl am amser maith.
Gwales description: A collection of diverse short stories which will be sure to make you think. Get to know complex characters, remote locations, and stories that will stay in your mind for a long time.
Neidiwch i safon - Jump to level:
Mynediad - Entry /
Sylfaen - Foundation /
Canolradd - Intermediate /
Uwch - Higher
Author: Beca Brown
Level: Canolradd / Intermediate
Price: £5.99
Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page
Publisher: Gomer
| Roedd cael y cyfle i ysgrifennu nofel i ddysgwyr yn hollol annisgwyl – roeddwn i wedi ysgrifennu un nofel yn Gymraeg ac mae gen i golofn fisol yng nghylchgrawn Barn, ond dydw i erioed wedi cyhoeddi unrhywbeth i ddysgwyr. Roeddwn i’n gyffrous iawn ac roedd pawb a oedd yn cyfrannu i gyfres Amdani yn cael sesiwn hyfforddiant yn Aberystwyth er mwyn deall sut i ysgrifennu i’r lefelau gwahanol. Yn anffodus doeddwn i ddim yn teimlo’n rhy dda yn ystod y diwrnod hyfforddi – a’r noson wedyn roeddwn i yn yr ysbyty gyda sepsis! Felly doedd hi ddim yn gychwyn da iawn i fi ac roedd rhaid imi ohirio’r gwaith ar y nofel tra ro’n i’n gwella, ond bellach rydw i’n holliach ac mae Gwers Mewn Cariad wedi ei chyhoeddi! | Getting the opportunity to write a novel for Welsh learners was an unexpected and very pleasant surprise. I’d already written one novel in Welsh and I have a monthly column in Barn magazine, but I had never published anything for learners before. It was very exciting, and everyone who was contributing to the Amdani books series was invited to a training day in Aberystwyth where we were to receive guidance on writing for different language levels. Unfortunately on the day I wasn’t feeling too good, and after returning home and feeling even worse I found myself in hospital the following evening with sepsis! So it wasn’t the best start for me, and I had to postpone work on the novel until I recovered’, but I’m now in rude health and my novel Gwers Mewn Cariad (A Lesson in Love) is published! |
| Roeddwn i eisiau ysgrifennu rhywbeth cyfoes, rhywbeth oedd yn codi diddordeb ac yn hawdd i’w ddarllen o ran y testun a’r mynegiant, ac roedd stori garu eofn yn teimlo fel ffordd dda o wneud hynny! Mae Gwers Mewn Cariad yn dilyn hanes tiwtor Cymraeg i Oedolion, Liz, sydd yn gorfod cwestiynu popeth pan mae gŵr ifanc golygus yn ymuno â’i dosbarth Cymraeg. Ar yr un pryd mae ei hunig ferch yn paratoi i symud allan o’r cartref teuluol i symud mewn gyda'i chariad, felly mae dipyn o newidiadau ar droed i Liz. Wna’i ddim sôn gormod am beth sydd yn digwydd, ond mae’n deg dweud fod y nofel yn edrych ar beth all ddigwydd mewn priodas ac mewn bywyd pan fo rhywun yn mynd i rigol… | I wanted to write something modern that would grab attention and be of interest with a topic and style that was easy to read, and I felt that a cheeky love story was the way forward! Gwers Mewn Cariad follows the ups and downs of a second language Welsh tutor, Liz, who finds herself questioning everything she has ever known and believed when a handsome stranger joins her Welsh class. At the same time her only daughter is preparing to leave the family home to move in with her boyfriend, so there are lots of changes ahead for Liz. I’m not going to give too much away - no spoilers! - but let’s just say that the central theme of the book is what can happen in life and love when things get into a rut... |
| Mi wnes i fwynhau ysgrifennu’r nofel a chael gweithio efo’r Golygydd, Nia Parry, sydd yn enw cyfarwydd i bob dysgwr y Gymraeg, wrth gwrs! Gawsom ni lawer o hwyl yn y broses o greu’r nofel ac mi fyddwn i wrth fy modd yn cyhoeddi un arall… hint hint! | I enjoyed writing the novel and working with my editor, Nia Parry - a very familiar name to any Welsh learner of course! We had a lot of fun during the publishing process, and I would love to write another.... hint hint! |
| Yn ddiddorol iawn, roedd ysgrifennu Gwers Mewn Cariad dim ond yn un cam ar y ffordd i fy ngwaith efo dysgwyr, oherwydd ym mis Medi y llynedd ges i gynnig gwaith gyda chwmni SaySomethinginWelsh, ac rydw i’n dal i weithio efo nhw ac wrth fy modd. Fy ngwaith pennaf gyda’r cwmni ydi creu Cynnwys Estynedig – un sgwrs yr wythnos gyda rhywun diddorol o wahanol rannau o Gymru, ac er mwyn hwyluso’r gwrando rydw i’n darparu trawsgrifiad Cymraeg a chyfieithiad Saesneg. Enw’r sgyrsiau yw ‘Beca a’i Phobl’ – teyrnged i’r anhygoel Beti George a’i rhaglen ‘Beti a’i Phobl'! | Interestingly enough, writing Gwers Mewn Cariad turned out to be just the first step of my journey into the world of Welsh language learning, as I was given the fantastic opportunity of joining the SaySomethinginWelsh team last September. I still work with the company and am loving every minute. The main part of my work is providing advanced content which involves a weekly half hour recorded conversation with interesting people from around Wales, and in order to support the listening I also provide a full transcript, translation and vocab list for each conversation. The chats are called Beca a’i Phobl - a nod to the inspirational Beti George and her radio series Beti a’i Phobl! |
| Mae pob math o bobol ddifyr wedi bod yn ddigon caredig i roi eu hamser i ni, gan gynnwys rhai o actorion Rownd a Rownd, gwleidyddion a haneswyr. Rydw i hefyd yn helpu allan weithiau gyda Hangouts y cwmni, sef y cyfleoedd rydan ni’n eu darparu i’n dysgwyr ni i gael ymarfer eu Cymraeg dros y we gyda staff a thiwtoriaid y cwmni – mae’n llawer o hwyl, a phob math o bethau yn cael eu trafod – a hynny i gyd yn Gymraeg! Does dim ots os mai dim ond un frawddeg o Gymraeg sydd ganddoch chi, mae croeso i chi bob tro yn y sesiynau fideo grŵp. | Many interesting people have been kind enough to give me their time, from Rownd a Rownd actors to politicians and historians. I also help out with our Hangouts - the company’s group video sessions designed to give our learners the chance to chat with our staff and tutors and practice their Welsh - we talk about anything and everything (almost!), as long as it’s in Welsh! It doesn’t matter if you only have one sentence of Welsh - you’re more than welcome to pop into the Hangout and have a go! |
| Bu i SaySomethinginWelsh daro’r penawdau yn ddiweddar pan gafodd Aran Jones wahoddiad i roi gwers Gymraeg yn fyw ar Radio 2 i neb llai na’r darlledwr Jeremy Vine. Byddwch yn cofio i Jeremy Vine wneud rhai sylwadau anffodus am y Gymraeg ar ei raglen ac ar Trydar, a bu Aran yn cyfathrebu efo fo dros Trydar gan ddod yn dipyn o ffrindiau efo fo! Fe aeth y wers yn dda iawn ac roedd Jeremy Vine yn rhyfeddol o sydyn yn dysgu ei frawddeg gyntaf fo – mi fyddai’n dod yn rhugl mewn dim o dro petai o’n dechrau dysgu go iawn! | SaySomethinginWelsh found itself unexpectedly in the headlines recently when Aran Jones was invited to give a Welsh lesson live on Radio 2 to non other than the broadcaster Jeremy Vine! You may remember Jeremy Vine making some unfortunate comments about the Welsh language on his show and on Twitter and getting himself in a bit of hot water, but Aran got in touch over Twitter and the next thing he knew he was on a train to London to conduct the biggest Welsh lesson ever! Jeremy was unnervingly quick at absorbing his sentence - I’m sure he’d be fluent in no time if he ever wanted to learn! |
| Felly mae byd y dysgwyr yn le gwych i weithio, ac rydan ni rŵan yn edrych ymlaen at benblwydd SaySomethinginWelsh yn 10 oed ddechrau Mehefin eleni. Mae llawer i’w ddathlu ac mae brwdfrydedd y rhai sydd yn dysgu Cymraeg ymhob man yn heintus ac yn fy llonni bob dydd. | So, the world of Welsh learners is a fantastic place to be, and we’re now looking forward to the SaySomethinginWelsh 10th birthday celebration this June. There’s so much to celebrate and the enthusiasm of learners everywhere is so infectious and lifts my spirits everyday. |
Mae'r Fawr a'r Fach yn gyfrol o straeon byrion yn ymwneud â hanesion pentrefi’r Rhondda, a dyma un ohonyn nhw fel blas o'r llyfr.
Y Fawr a'r Fach is a volume of short stories and anecdotes about villages in the Rhondda valley, and here is one of them as a taste of the book. Words that are underlined can be clicked or pressed to show an English translation, and the printed book uses the same words at the bottom of pages to support understanding of words that may not be familiar at the Sylfaen level.
Author: Siôn Tomos Owen
twitter.com/sionmun
Price: £5.99
Iaith: Cymraeg syml, with vocabulary at the bottom of each page
Level: Sylfaen / Foundation
Publisher: Y Lolfa
Buy: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781784615826
Mwynheuais ysgrifennu Y Fawr a'r Fach: Straeon o’r Rhondda yn fawr iawn. Mae pob stori yn y llyfr yn wir ac o fy mhlentyndod neu fy mywyd yn y cŵm. Pan roedden i’n ceisio cofio rhai o’r straeon roedd yn ddiddorol achos roedden i’n cofio rhai fel cartŵnau yn fy mhen achos roedden nhw mor ddoniol, felly roedd yn grêt gallu creu cartŵns go iawn i fynd yn y llyfr hefyd. Mae’r stori am 'Y Sgiw' yn fy hen ysgol Ynyswen yn un dwi’n siŵr fod pob disgybl wedi clywed o’r blaen- y gadair ddrwg neu am sefyll tu fas i ystafell y Pennaeth. Ond mae Y Sgiw, sef cadair fawr hir a thwll yn y canol i gadw dillad, yn rhywbeth sydd yn aros mewn cof disgyblion Ynyswen o’r wythdegau a nawdegau. Mae fy merch newydd ddechrau yn yr ysgol ac roedd yn od gweld y sgiw yno nawr yn edrych mor fach achos- fel sydd yn y cartŵn, yn fy mhen i roedd e’n anferth ac yn ofnus iawn! Mae’n ddiddorol hefyd, nawr mae fy rhieni weithiau yn casglu fy merch o’r ysgol, roedd fy nhad yn dysgu Cymraeg gyda fi pan roedden i yna, a nawr mae e'n gallu siarad Cymraeg yn dda iawn gyda fy merch i, sydd yn dangos cymaint mae e wedi dysgu wrth siarad a chlywed yr iaith yn ddyddiol gyda ni fel teulu a’r hyder i siarad gyda mwy o bobol bob dydd.
I enjoyed writing Y Fawr a'r Fach: Straeon o’r Rhondda very much. Every story in the book is true and from my childhood or my life in the valley. When I tried to remember some of the stories it was interesting as I remembered some as cartoons in my head because they were so funny, so it was great to be able to create real cartoons to go in the book as well. The story about 'Y Sgiw' in my old school Ynys Wen is one that I'm sure every pupil has heard before- the naughty chair or having to stand outside the Headteacher's room. But Y Sgiw, a large long chair with a hole in the middle to keep clothes, is something that is in memory of the pupils of Ynys Wen of the 80 and 90s. My daughter has just started school and I was odd to see Y Sgiw now, looking so small- as in the cartoon, in my head it was huge and very scary! It's also interesting, now that my parents sometimes collect my daughter from school, my dad was learning Welsh with me when I was there, and now he can speak Welsh very well with my daughter, which shows how much he has learned in speaking and hearing the language daily with us as a family and has the confidence to talk to more people every day.
Es i i Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen. Mae pump ysgol Gymraeg yn y Rhondda – Ynyswen, Bronllwyn, Bodringallt, Llwyncelyn a Llynyforwyn. Ynyswen oedd yr ysgol Gymraeg gyntaf i agor yn y cwm, yn 1950. Doedd dim llawer o blant yno ar y dechrau ac roedd yn rhaid i bobl weithio’n galed iawn i gael ysgol Gymraeg yma. Hefyd, dim ond plant gyda mam a thad yn siarad Cymraeg oedd yn cael mynd i’r ysgol Gymraeg newydd. Does dim rhaid i’r ddau siarad Cymraeg erbyn heddiw, diolch byth, neu faswn i ddim wedi mynd i Ysgol Ynyswen o gwbl!
Mae Mam yn siarad Cymraeg ond doedd Dad ddim yn siarad Cymraeg cyn cwrdd â Mam yn y 1970au. Roedd Mam-gu, mam Dad, yn siarad Cymraeg ond doedd Tad-cu ddim. Doedd Mam- gu ddim yn hapus bod rhaid i blant bach yr ysgol Gymraeg fynd ar y bws i fyny’r cwm o Bentre i Ynyswen. Roedd Mam-gu yn glanhau Pentre Primary School oedd gyferbyn â’r tŷ, felly aeth Dad i Ysgol Pentre.
Ond dysgodd Dad siarad Cymraeg pan o’n i’n fabi ac roedd e’n ymarfer siarad Cymraeg gyda fi. Roedd e’n dysgu’n dda iawn achos roedd Mam a Mam-gu yn siarad Cymraeg gyda fi trwy’r amser, felly roedd e’n clywed y geiriau ac yn dysgu yr un pryd ag ro’n i’n dysgu. Ond stopiodd e siarad Cymraeg gyda fi pan o’n i tua pump oed, nid achos doedd e ddim eisiau dysgu mwy o Gymraeg ond achos ’mod i’n fachgen bach drwg iawn. Mae trio meddwl pan dych chi’n flin yn anodd, ond mae trio meddwl mewn ail iaith pan dych chi’n flin yn anodd iawn pan mae gremlin bach yn gweiddi dros y lle, yn cicio chi ac yn taflu afalau ar draws y Co-op! Roedd Dad yn trio rhoi stãr i fi ond weithiau roedd e’n dweud y gair anghywir. Roedd hyn yn gwneud Dad yn fwy blin, felly wnaeth e ddechrau rhoi stãr i fi yn Saesneg. Roedd e’n dal i siarad Cymraeg gyda fi bob tro arall, ond roedd rhaid iddo fe siarad mwy a mwy o Saesneg achos ro’n i’n cael mwy a mwy o stãr am fod yn ddrwg!
Mae hyn yn gwneud i fi deimlo’n drist nawr. Taswn i wedi bod yn fachgen bach da efallai basai Dad a fi’n siarad mwy o Gymraeg gyda’n gilydd. Mae Dad yn dweud do’n i ddim yn fachgen drwg iawn, iawn, ond mae PAWB arall yn anghytuno!
Hefyd, dw i wedi gweld fideos o fachgen bach gyda gwallt coch oedd yn edrych ac yn actio yn debyg iawn i Norman Preis yn Sam Tân. Mae Mam a Dad yn edrych yn sâl yn y fideos achos do’n nhw ddim yn cysgu llawer. Do’n i ddim yn dawel nac yn gwrando chwaith. Mewn un fideo dw i’n sefyll gyda phlant eraill i dynnu llun ar gyfer y papur newydd. Dw i’n gweld Dad yn ffilmio gyda’r camera a dw i’n dechrau dawnsio, a rhowlio ar y llawr a gweiddi, a dw i ddim yn edrych ar y dyn oedd yn tynnu’r llun. Ar y fideo gallwch chi glywed Mam-gu yn gofyn i Dad,
‘What is he doing?’
Mae Dad yn ateb, ‘I don’t know, Mam, I don’t know.’
Wedyn mae rhywun yn gofyn, ‘Isn’t that your son?’
Ac mae Dad yn ateb, ‘Oh no, I don’t know who he belongs to…’!
Felly pan ddaeth yr amser i fi ddechrau’r ysgol ro’n nhw’n hapus iawn. Do’n i ddim yn hapus. Fe wnes i grio bob bore a dal ochr drws y tŷ i beidio mynd.
Yn Ysgol Ynyswen, ar bwys drws ystafell y prifathro, roedd cadair fawr hir. Enw’r gadair oedd y Sgiw. Roedd y plant yn cael eu rhoi ar y Sgiw am ddau reswm – os o’n nhw’n sâl neu os o’n nhw’n ddrwg. Roedd yr athrawon yn pasio’r Sgiw wrth gerdded i’r ystafell athrawon ac yn gofyn,
‘Pam wyt ti ar y Sgiw?’
Os o’ch chi’n sâl basech chi’n dweud, ‘O, Miss, dw i’n saaaaaaaaal. Mae bola tost gen i!’
A basai’r athrawon yn dweud, ‘O, poor dab, brysia wella.’
Ond os o’ch chi’n ddrwg basech chi’n dweud, ‘Dw i wedi bod yn ddrwg, Miss…’
Yna, basai’r athrawon yn tyt-tytio ac yn dweud,
‘O, Siôn Tomos Owen! Dw i’n siomedig iawn.’
‘Beth fasai dy fam yn dweud?’
‘Fydd dy dad ddim yn hapus iawn.’
‘Pan wela i dy fam-gu bore dydd Sadwrn yng nghaffi Fred bydd hi’n drist.’
Baswn i’n edrych i fyny ac yn dweud, ‘O, plis peidiwch dweud wrth Mam-gu, Miss! Plis?’
Ond basen nhw’n cerdded i ffwrdd, yn edrych yn drist.
Felly, faswn i byth yn dweud wrth yr athrawon os o’n i’n fachgen drwg. Os o’n nhw’n gofyn, baswn i’n dweud, ‘O, Miss, dw i’n sâl. Mae pen/bola/coes/trwyn/gwallt tost gen i!’

Mae Zoë Pettinger yn deall anghenion dysgwyr Cymraeg yn dda, achos ei bod hi wedi mynd trwy'r proses ei hunan ar ôl symud i Aberystwyth o arfordir de Lloegr. Mae hi'n un o'r nofelwyr newydd yn y gyfres o lyfrau o'r enw Cyfres Amdani, wedi'i graddio ar gyfer dysgwyr, ac yma mae hi'n siarad am ei chasgliad o straeon byrion (Croesi'r Bont; ar gyfer safon Canolradd) a'i siwrnai fel dysgwr a thiwtor.
Zoë Pettinger understands the needs of Welsh for Adults learners well, as she has been through that process herself after moving to Aberyswyth from the south coast of England. She is one of the new novelists in the Cyfres Amdani series of graded books for learners, and her she talks about her collection of short stories (Croesi'r Bont; for the Intermediate level) and her journey as a learner and as a tutor.
Price: £6.99
Language: Welsh, with vocabulary at the bottom of each page.
Prynwch: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781845216863
Level: Canolradd / Intermediate
Publisher: CAA Cymru
| Ro’n i wrth fy modd yn darllen nofelau i ddysgwyr, pan o’n i’n dysgu Cymraeg fel myfyrwraig- ro’n nhw’n help enfawr. Dw i’n cofio dysgu patrymau iaith yn y dosbarth, ac wedyn, baswn i’n eu gweld nhw mewn stori. Oherwydd hynny, ro’n i’n gallu eu cofio, a ro’n nhw’n gwneud mwy o synnwyr. Hefyd, mae’n ffordd wych o ddysgu geirfa newydd! Mae rhestr o eirfa ar bob tudalen, felly does dim angen defnyddio geiriadur. Dych chi’n gallu mwynhau stori gyffrous a datblygu eich sgiliau ieithyddol ar yr un pryd! | I loved reading novels for learners when I was learning Welsh as a student- it was an enormous help. I remember learning language patterns in the classroom and then I would see them in a story. As a result, and I was able to remember them, and they made more sense. Also, it is a great way of learning new vocabulary! There is a list of words on every page, so there is no need to use a dictionary. You can enjoy an exciting story and develop your language skills at the same time! |
| Doedd dim llawer o gyfrolau o straeon byrion ar gael ar gyfer dysgwyr ar lefel Canolradd, a maen nhw mor boblogaidd ym myd y dysgwyr. Mae oedolion yn brysur iawn yn y gweithle a gyda’u teuluoedd, felly mae’n haws i ymrwymo at ddarllen stori fer. Dros y blynyddoedd diwethaf, dw i wedi mwynhau ysgrifennu sawl stori fer gyffrous er mwyn bywiogi’r broses ddysgu yn fy nosbarthiadau, a dw i wedi cael fy ysbrydoli gan hoffterau fy myfyrwyr i greu casgliad newydd o straeon byrion cyffrous yn y gyfrol Croesi'r Bont. | There were not many volumes of short stories available to learners at the Intermediate level, and they are very popular in the world of learners. Adults are very busy at work and with their families, so it is easier to engage with reading a short story. In recent years I have enjoyed writing a number of exciting short stories with the aim of enlivening the learning process in our classes, and I have been inspired by the enjoyment of my students to create a new collection of exciting short stories in the volume Croesi'r Bont. |
| Idiomau a diarhebion ydy teitlau’r straeon i gyd. Maen nhw mor bwysig a maen nhw’n cyfoethogi’r iaith. Mae pum stori yn y gyfrol ac mae pob un yn ‘genre’ gwahanol. | All the short stories have titles which are idioms or proverbs. They are so important and they enrich the language. There are five stories in the volume and each one is in a different genre. |
| Ro’n i eisiau apelio at bawb a ro’n i eisiau cynnwys straeon am ddysgwyr eu hunain. Dyn ni i gyd yn rhannu hiwmor am y treigladau a gramadeg, a dyn ni i gyd yn deall yr anawsterau o fod yn ddysgwr Cymraeg! ‘Dyfal Donc a Dyr y Garreg’ yw enw’r stori am ddysgwr Cymraeg Tom. Mae’n llawn hiwmor! Mae Tom yn gwneud camgymeriadau lletchwith bob amser, ac mae e mor nerfus yn siarad Cymraeg y tu allan i’r dosbarth, ond mae ei ddyfalbarhad yn arwain at rywbeth cyffrous... | I wanted to appeal to everyone and I wanted to include stories about learners themselves. We all take part in the humour about mutations and grammar, and we all understand the difficulties of being Welsh learners! 'Steady tapping wears away the stone' (a famous Welsh proverb) is the name of the story about a Welsh learner called Tom. It is full of humour! Tom makes unfortunate mistakes every time, and he is very nervous about speaking Welsh outside the class, but his perseverance leads to something exciting… |
| Mae stori ysbryd am ddysgwyr Cymraeg yn y gyfrol, hefyd! Mae’r myfyrwyr yn mynd i’r dafarn ar Nos Galan Gaeaf i wrando ar hen chwedl gan eu tiwtor. Maen nhw’n cael sioc ofnadwy wrth gerdded yn ôl trwy’r goedwig ddu ar y ffordd adref... | There is a ghost story about Welsh learners in the volume, too! Students go to the pub on Halloween to listen to an old story by their tutor. They get a terrible shock walking back through a dark wood on the way home... |
| I’r rhai sy’n hoffi geiriau hardd a storiau gweledol, mae stori gariad/ddirgelwch yn y gyfrol. Mae’r stori’n cymryd lle ymysg mynyddoedd, llynnoedd a thirlun hardd Ceredigion. Mae tynged yn dod â’r cariadon at ei gilydd ac mae popeth yn berffaith….. am sbel. Ond ni all Owain redeg i ffwrdd o’i orffennol llygredig am byth. Fydd ei gyfrinach dywyll yn chwalu ei ddyfodol gyda GwenllÏan? | For those who like beautiful words and visually stimulating stories, there is a love story/mystery in the volume. The story takes place in the mountains, lakes and beautiful countryside of Cardiganshire. Fate brings the lovers together and everything is perfect… for a while. But Owain cannot run away from his damaged past forever. Will his dark secret destroy his future with Gwenllian? |
| I’r rhai sy’n hoffi Sci-Fi a StarWars, ‘Cenedl heb iaith, Cenedl heb galon’ ydy’r stori i chi! Mae galaeth ym mhell pell i ffwrdd yn adlewyrchu’r frwydr dros yr iaith Gymraeg yng Nghymru... | For those who like Sci-Fi and Star Wars, 'Nation without a language, nation without a heart' (a Welsh proverb) is the story for you! A galaxy far far away reflects the battle for the Welsh language in Wales... |
| Mae ‘sequel’ doniol i opera sebon boblogaidd, Rhydybont yn y gyfrol hefyd! Mae Llywelyn a Dwynwen yn cwrdd eto deng mlynedd nes ymlaen. Mae tipyn o sgandal a sbeis, a digon o hiwmor, fel arfer! | The volume also contains a comic 'sequel' to the popular soap opera Rhydybont. Llywelyn and Dwynwen meet again ten years on. There is a bit of scandal and spice, and plenty of humour, as usual! |
| Dewisais i’r teitl ‘Croesi’r bont’ oherwydd bod pob dysgwr reit ar y ffordd i groesi’r bont i ruglder ar ôl cyrraedd lefel canolradd! Gobeithio bydd y straeon yn ysbrydoli dysgwyr eraill i ddyfalbarhau â dysgu, a gobeithio byddan nhw’n cael digon o fwynhad wrth ddarllen! | I chose the title 'Crossing The Bridge' because every learner is well on the road to crossing the bridge to fluency once they have reached Intermediate level. I hope that the stories will inspire other learners to persevere with their learning, and hope they will get a lot of enjoyment from reading them! |
Dros y blynyddoedd diwethaf, dw i wedi mwynhau ysgrifennu sawl stori fer gyffrous er mwyn bywiogi’r broses ddysgu yn fy nosbarthiadau, a dw i wedi cael fy ysbrydoli gan hoffterau fy myfyrwyr i greu casgliad newydd o straeon byrion cyffrous yn y gyfrol Croesi'r Bont.





| Cafodd Zoë ei geni a’i magu yn Portsmouth yn Ne Lloegr. Yn y nawdegau, gwnaeth hi radd mewn Drama a Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Er nad oedd gan Zoe air o Gymraeg yn ystod yr adeg hwnnw, gwnaeth y diwylliant a’r iaith Gymraeg, cefnogaeth gan y Cymry, a harddwch y tirlun, argraff barhaol arni hi. Ar ôl gorffen ei gradd, aeth hi yn ôl i dde Lloegr a i wledydd tramor am ddeng mlynedd i ddilyn gyrfa amrywiol mewn drama a dawns. Wrth weithio fel dawnswraig ar long fordaith ym Môr y Canoldir, tarodd trychineb; aeth y llong ar dân, ac roedd Zoe, y criw a’r teithwyr eraill mor lwcus i gael eu hachub rhag y llong losg. Yn dilyn y trychineb, dechreuodd Zoe freuddwydio am ddod yn ôl i Gymru hardd. | Zoë was born and brought up in Portsmouth in the south of England. In the nineties, she took a degree in Drama and English at the University of Aberystwyth. Although Zoe did not have a word of Welsh during that time, Welsh language and culture, the encouragement of the Welsh and the beauty of the landscape made a lasting impression on her. After finishing her degree she went back to the south of England and overseas for ten years pursuing a varied career in drama and dance. While she was working as a dance instructor on a cruise ship in the Mediterranean, disaster struck: the ship caught fire and Zoe, the crew and other voyagers were very lucky to be rescued from the burning ship. Following the disaster, Zoe began to dream of coming back to beautiful Wales. |
| A dyna beth ddigwyddodd ym mis Hydref 2005, pan symudodd hi yn ôl i Aberystwyth gyda’i phartner, Keith. Dechreuodd hi ddysgu Cymraeg yn syth, er mwyn bod yn rhan o’r diwylliant a’r gymuned oedd wedi’i hysbrydoli hi flynyddoedd yn ôl. Ond, ar ôl pum mis o ddysgu ar y cyrsiau Cymraeg i Oedolion, cafodd hi newyddion ofnadwy. Cafodd ei mam ddiagnosis o ganser terfynol. Dros y ddwy flynedd nesaf, roedd Zoë’n byw bob yn ail fis yn ne Lloegr i ofalu am ei mam. Penderfynodd hi barhau â dysgu Cymraeg er mwyn canolbwyntio ar rywbeth positif. Cafodd hi gymaint o ysbrydoliaeth wrth ddysgu’r iaith a chymaint o gefnogaeth oddi wrth ei thiwtoriaid hi, roedd hi eisiau anelu at ddod yn diwtor ei hunan. | And that's what did happen, in October 2005, when she moved back to Aberystwyth with her partner Keith. She began straight away to learn Welsh, so as to be part of the culture and community that had inspired her years before. But, after five months of learning on the Welsh for Adults courses, she received awful news. Her mother was diagnosed with terminal cancer. For the next two years, Zoë spent every second month living in the south of England to look after her mother. She made up her mind to carry on learning Welsh for the sake of something positive to concentrate on. She gained so much inspiration from learning the language and from all the support she received from her tutors that she set her sights on becoming a tutor herself. |
| Ym mis Ionawr 2009, cafodd Zoë ei swydd gyntaf fel Tiwtor Cymraeg i’r Drindod Dewi Sant a’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion, Aberystwyth. Ar yr un pryd, roedd hi’n creu nifer o weithdai drama/dawns ac yn ysgrifennu dramâu bach yn Gymraeg ar gyfer plant yn yr ysgolion. Ym mis Awst 2009, cyrhaeddodd hi’r rownd derfynol yn y gystadleuaeth ‘Dysgwr y Flwyddyn’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Parheuodd Zoë ddysgu nifer o gyrsiau gwahanol, sef, Y Cynllun Sabothol i Athrawon a Chynorthwywyr, Cymraeg i Oedolion, Cymraeg yn y Gweithle, Geiriau Bach i ymarferwyr addysg, Cymraeg i’r Teulu a Chymraeg o’r Crud. Yn 2012, dechreuodd hi ysgrifennu opera sebon Rhydybont ar gyfer cwrslyfrau CBAC Mynediad a Sylfaen. | In January 2009, Zoë got her first job as Welsh Tutor in Trinity Saint David and the Welsh for Adults Centre, Aberystwyth. At the same time, she set up a number of drama/dance workshops and wrote little plays in Welsh for the use of children in the schools. In August 2009 she reached the final round of the 'Learner of the Year' competition at the National Eisteddfod. Zoë continued to teach a number of different courses, that is, the Sabbatical Plan for Teachers and Support Workers, Welsh for Adults, Welsh in the Workplace, Little Words for teaching practitioners, Welsh in the Family and Welsh from Birth. In 2012, she began to write a soap opera Rhydybont for use in CBAC Entry level and Foundation level course books. |
| Hefyd, mwynheuodd hi ysgrifennu deialogau, unedau iaith, canllawiau i’r tiwtoriaid a gemau iaith ar-lein ar gyfer y cwrs ‘1, 2, 3 Hwyl a Sbri’, a nifer o erthyglau ar gyfer gwefannau i ddysgwyr Cymraeg. Yn 2015, enillodd hi ‘Tiwtor y Flwyddyn’, Ceredigion a derbyniodd hi wobr ‘Gymeradwyaeth Uchel’ yn genedlaethol gan NIACE. | Also, she enjoyed writing dialogues, language units, guidelines for tutors and online language games for use in the '1, 2, 3 Hwyl a Sbri' course, and a number of articles for websites for Welsh learners. In 2015, she won Cardiganshire 'Tutor of the Year', and received a national 'Highly Commended' award from NIACE. |
CAA Cymru yw un o gyhoeddwyr addysgol mwyaf blaenllaw a phrofiadol Cymru. Mae’r cwmni yn rhan o Brifysgol Aberystwyth ac wedi bod yn cynhyrchu adnoddau addysgol Cymraeg a Saesneg i blant, pobl ifanc ac athrawon er 1982, gan gyhoeddi dros 2,500 o gyhoeddiadau dros y blynyddoedd.
Mae gennym ni nifer o gyhoeddiadau defnyddiol i unigolion sy’n awyddus i wella eu Cymraeg – yn eu plith, dwy gyfrol gan Non ap Emlyn, sef:Y Chwiliadur Iaith, llyfr A4 sy'n egluro pwyntiau gramadegol ac yn dangos enghreifftiau o batrymau yn gryno ac yn eglur; a Golwg ar Iaith – llyfr A5 gwerthfawr sy'n canolbwyntio ar wella gramadeg Cymraeg ac sy’n cynnwys ymarferion ac atebion, help ymarferol a syniadau am ble i gael mwy o wybodaeth.
Mae mwy o wybodaeth am CAA Cymru ar y dudalen Cyfres Amdani- Llyfrau i Ddysgwyr: Tu ôl y Llen.
CAA Cymru is one of Wales's most prominent and experienced educational publishers. The company is part of Aberystwyth University and has been producing educational material in both English and Welsh, for children, young people and teachers, since 1982. Over the years it has produced more than 2500 publications.
We have a number of useful publications for individuals keen to improve their Welsh – among them, two volumes by Non ap Emlyn, i.e. Chwiliadur Iaith (Language Enquirer), an A4 book that explains grammatical points giving compact and clear examples of patterns; and Golwg ar Iaith (Language Overview) – an A5 book with an emphasis on improving Welsh grammar, containing exercises and answers, practical help and ideas on where to get more information.
There is more information about CAA Cymru on the page Cyfres Amdani: Behind the Scenes.
Un o awduron mwya' poblogaidd Cymru yw Mared. Yn 2017 rhyddhaodd hi nofel ar gyfer dysgwyr hyderus, Fi a Mr Huws. Yn gynnar yn 2018 gwnaeth hi ryddhau addasiad ar gyfer dysgwyr newydd, Y Stryd, ac yn hwyr 2018, nofel newydd i ddysgwyr uwch, Llwybrau Cul. Yma, mae hi'n dweud rhagor am y llyfrau hyn wrthon ni, ac yn trafod ei hun a'i 'sgrifennu hi- cwestiynau gan David Sutton.
Mared is one of Wales' most popular authors, and in 2017 released a novel for confident learners, Fi a Mr Huws. In early 2018 she released an adaption for new learners, Y Stryd, and in late 2018, a new novel for higher learners, Llwybrau Cul. Here she tells us more about these books and herself as a writer- questions by David Sutton.
Y Stryd
Awdures: Helen Naylor
Addasiad Cymraeg o One Day
Wedi'i addasu gan Mared Lewis
Pris: £6.99
Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page
Safon: Sylfaen
Cyhoeddwr: Gomer
Prynwch: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781785622397
Llwybrau Cul
Awdures: Mared Lewis
Pris: £8.99
Iaith: Cymraeg, with vocabulary at the bottom of each page
Safon: Uwch
Cyhoeddwr: Gomer
Prynwch: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781785622380
| Mared, rwyt ti wedi ysgrifennu sawl llyfr o'r blaen, ond Fi a Mr Huws yw dy lyfr cyntaf i ddysgwyr. Pam gwnest ti benderfynu ei ysgrifennu? | Mared, you have written a lot of books before, but Fi a Mr Huws (Me and Mr Huws) was the first book for learners. What made you decide to write it? |
| Wel, rydw i'n diwtor Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Bangor, ac ro'n i'n teimlo bod angen mwy o lyfrau Cymraeg i Ddysgwyr. Mae yna nifer o lyfrau arbennig o dda yn barod, ond mae angen mwy! Yna daeth cais gan wasg Y Lolfa am syniad ar gyfer nofel i Ddysgwyr, a dyna hi wedyn! | Well, I’m a Welsh tutor for adults at Bangor University, and I was feeling the need for more Welsh-language books for learners. There are a number of very good books already, but there is a need for more! Then came a request from the publisher Y Lolfa for an idea for a novel for learners, and there you are! |
| Mae sawl dysgwr wedi dweud wrtha i fod nhw'n hoffi'r nofel 'Fi a Mr Huws' achos mae'n teimlo fel 'llyfr go iawn', nid rhywbeth sydd wedi cael ei greu yn benodol i ddysgwyr. Dweud wrthon ni mwy am sut gwnest ti ysgrifennu fe - rydw i'n deall dy fod wedi ysgrifennu llyfr fel arfer, ac wedyn mynd drwyddo linell wrth linell, i addasu fe i ddysgwyr- ydy hyn yn gywir? | Many learners have told me that they like the novel 'Fi a Mr Huws' because they feel it is ‘proper book’, not something created specifically for learners. Tell us more about how you wrote it – I understand that you wrote the book in the usual way, and then went through it line by line, adapting it for learners – is that true? |
| Mae hyn bron iawn yn gywir. Dwi'n falch iawn o glywed bod pobol yn meddwl fod y nofel yn darllen fel 'llyfr go iawn' achos dyna oedd fy mwriad. Do'n i ddim isio i'r llyfr ddarllen fel ymarferiad iaith, felly es i ati i ddechrau i sgwennu'r llyfr i gyd o'r dechrau i'r diwedd, gan ganolbwyntio ar ysgrifennu stori reit afaelgar efo mwy nag un llinyn plot, a chymeriadau amrywiol yr oedd pobol yn medru uniaethu efo nhw. Wnes i ddim poeni yn ormodol am yr iaith yn y drafft cyntaf. Yn ystod ail ddrafftio wedyn, pan o'n i'n hapus efo'r plot ac ati, dyna fynd drwy'r llyfr yn fwy manwl, a newid unrhyw frawddeg oedd yn or-gymhleth, a newid un gair am y llall os oedd o'n fwy cyfarwydd i'r darllenydd. Ro'n i eisiau cadw'r elfennau tafodieithiol a chadw ysbryd y gwaith os yn bosib, ond heb orfod defnyddio gormod o eiriau newydd. | That’s more or less true. I am very glad to hear that people think the novel reads like a ‘proper book’, because that is what I was aiming at. I did not want the book to read like a language exercise, so I began by writing the book in its entirety from beginning to end, concentrating on making the story really gripping with more than one plotline, and with a variety of characters that people would be able to identify with. I did not worry overmuch about the language in the first draft. It was only in the second draft, when I was happy with plot and so on, that I went through the book in more detail, changing any sentence that was over-complicated, and changing one word for another if that was likely to be more familiar to the reader. I wanted to keep the dialect elements and keep the spirit of the work if that was possible, but without having to use too many new words. |
| Mae hi mor bwysig bod dysgwyr yn cael y cyfle i weld y patrymau a'r geiriau maen nhw'n nabod wrth fynd ati i ddarllen yn eu hamser hamdden, a mwynhau a dysgu mwy wrth wneud. | It is so important for learners to have the opportunity to see the patterns and words that they know as they set about reading in their leisure time, and to enjoy it and learn more as they do so. |
| Dweud wrthon ni tipyn bach mwy am dy hunan- sut wnest ti ddechrau fel awdures? | Tell us a bit about yourself – how did you get started as an author? |
| Tydw i erioed yn cofio amser pan o'n i ddim yn sgwennu deud y gwir. Ro'n i'n un o'r plant bach diflas hynny oedd yn cyffroi pan oedd yr athrawes yn rhoi gwaith sgwennu yn y dosbarth! Ro'n i'n arfer sgwennu stori i'n ffrindiau hefyd ac yn eu holi pa fath o bethau oeddan nhw isio i mi ei gynnwys yn y stori. Roedd y teimlad o ddarllenydd, o gynulleidfa i'r gwaith, yn bwysig o'r dechrau. Roedd o'n wefr ac mae o dal yn wefr o hyd, y rhan fwya' o'r amser ! (Ond ddim pob tro, os oes yna broblem efo'r stori neu'r cymeriadau!) | Actually I never remember a time when I wasn’t writing. I was one of those tiresome small children who got excited when the teacher gave us writing work in class. I used to write stories for friends too and ask them what sort of things they wanted me to put in the story. The feelings of readers, of the audience for the work, were important to me from the start. It was a thrill to write and it is still a thrill now, most of the time! (But not every time, if there is a problem with the story or characters!). |
| Wnes i ddim dychmygu y baswn i'n medru ennill bywoliaeth o sgwennu, ond dyna dwi wedi wneud ers bron i ugain mlynedd, er mod i'n mynd allan i weithio i'r 'byd go iawn' pob hyn a hyn hefyd, i gael awyr iach! Ac i ennill ychydig bach mwy o bres! | I never imagined I would be able to make a living from writing, but there you go, I’ve been doing it for nearly twenty years, despite going out to work in ‘the real world’ too every so often, to get a breath of fresh air! And to earn a bit more money! |
| Fe wnes di ryddhau'r llyfr 'Y Stryd' yn gynharach yn 2018, addasiad ydyw o lyfr Saesneg i ddysgwyr iaith newydd. Wyt ti'n gallu dweud tipyn bach mwy wrthon ni am hwn? | You released the book 'Y Stryd' earlier in 2018, an adaptation of an English-language book for new language learners. Can you tell us a little bit about it? |
| Addasiad o lyfr Saesneg o'r enw One Day gan yr awdures Helen Naylor yw Y Stryd. Mae'r stori yn galw i mewn ac allan o fywydau'r bobol sy'n byw drws nesa' i'w gilydd ar un stryd arbennig mewn tref yng Ngogledd Cymru. Mae pawb yn byw drws nesa, ond mae ganddyn nhw fywydau diddorol, ac mae gen pawb ei broblem ei hun. Mae'n lyfr difyr, a dyma'r tro cyntaf i mi addasu llyfr gan rhywun arall. Roedd hi'n anodd i ddechrau peidio rhedeg i ffwrdd efo'r stori fy hun, ond fe ddaeth pethau'n haws. Mae'n addas ar gyfer lefel Sylfaen. | Y Stryd is an adaptation of an English book called One Day, by Helen Naylor. The story pops in and out of the lives of people living next door to one another in a particular street in a town in North Wales. Everyone lives next door, but they lead interesting lives, and all of them have their own problems. It is an entertaining book, and that’s the first time I have adapted a book by someone else. At first it was difficult to stop myself running away with the story myself, but then things became easier. It is suitable for learners at Foundation level. |
| Pa lyfrau wnes di eu mwynhau pan oeddet yn blentyn? | What books did you enjoy when you were a child? |
| Ro'n i wrth fy modd yn darllen ers talwm, ac yn hoffi ymgolli mewn llyfr da! Roedd yna lawer mwy o ddewis o lyfrau Saesneg na llyfrau Cymraeg yn y 70au, a dwi'n cofio'r wefr o gael llyfrau drwy gynllun y Chip Club yn yr ysgol. Roedd Enid Blyton yn ffefryn mawr, yn enwedig y rhai cyntaf yn y gyfres 'The naughtiest girl in the school'. Wnes i golli diddordeb ynddi hi pan wnaeth hi ddechrau troi yn hogan dda! Mae'r nofel 'When Hitler Stole Pink Rabbit' dal i aros yn fy nghof hefyd, ac mi wnes i synnu gwrando ar yr awdures Judith Kerr yn siarad ar y radio ychydig yn ol. Mae hi yn ei 90au ac yn dal i sgwennu! | I have been in my element reading for a long time now, and love to lose myself in a good book! In the 1970s there was much more choice when it came to English books than Welsh books, and I remember the thrill of getting books through the Chip Club scheme in school. Enid Blyton was a great favourite, especially the first ones in the series 'The naughtiest girl in the school'. I lost interest in her when she began to turn into a good girl! I still remember too the novel 'When Hitler Stole Pink Rabbit', and I was surprised to hear the author Judith Kerr talking on the radio a little while back. She is in her nineties and still writing! |
| Mae gen i dal gof o fwynhau llyfrau T Llew Jones hefyd, wrth gwrs, a Chyfres y Llewod gan Dafydd Parri. Dwi'n falch fod cymaint mwy o ddewis Cymraeg i blant y dyddiau yma! | I also still remember enjoying the books of T Llew Jones, and the Lions Series by Dafydd Parri. I am glad that there is so much more Welsh language choice for children these days! |
| Pa lyfrau wyt ti'n eu darllen a'u mwynhau y dyddiau yma? | What books do you read and enjoy these days? |
| Y peth mwya' rhwystredig ydy bod yna cymaint o lyfrau da! Y llyfrau ola' i mi ddarllen ydy nofel Claire Mackintosh 'Let Me Lie' (mae hi'n byw yn y Bala ac yn dysgu Cymraeg!) Hefyd wnes i ddarllen O Ddawns i Ddawns gan y diweddar gyfaill Gareth F Williams ar ol clywed canmol mawr iddi. Nofel i bobol ifanc ydy hi, ond roedd hi'n torri tir newydd ar y pryd, a mor ffres a doniol. | The most frustrating thing is that there are so many good books! The last book I read was Claire Mackintosh's novel 'Let Me Lie' (she lives in Bala and is learning Welsh!). I also read O Ddawns i Ddawns by my late friend Gareth F Williams, after hearing great things of it. It is a novel for young people, but it broke new ground at the time, so fresh and entertaining. |
| Dwi ar ganol darllen Eira Llwyd gan yr awdur ifanc Gareth Evans Jones. Mae hi'n arbennig o dda, am yr Holocaust, er ei bod yn bod yn drist. | I am in the middle of reading Eira Llwyd by the young writer Gareth Evan Jones. It is exceptionally good, about the Holocaust, although it is sad. |
| Wyt ti'n darllen unrhyw farddoniaeth? | Do you read any poetry? |
| Dwi'n mwynhau darllen gwaith cyfoes. Mae Siôn Aled yn medru sgwennu englyn fachog sy'n dweud be sydd angen ei ddweud am bethau sydd yn y newyddion. Dyna waith pwysig barddoniaeth, yn fy meddwl i. Nid rhywbeth mewn bocs ddylai barddoniaeth fod, ond rhywbeth sy'n ymateb i'n byd ni heddiw. Mae cymaint o feirdd da yng Nghymru ar hyn o bryd (pobl fel Rys Iorwerth, Ifor ap Glyn a Karen Owen, i enwi dim ond tri!) | I enjoy reading contemporary work. Siôn Aled can write pointed englyns that say what needs to be said about things that are in the news. That is an important job of poetry, in my opinion. Poetry should not be something that exists in an ivory tower but something that relates to our lives today. There are so many good poets in Wales at the present time (people like Rhys Iorwerth, Ifor ap Glyn and Karen Owen, to name but three!) |
| Dwi hefyd yn troi yn ol at bobol fel Iwan Llwyd a TH Parry Williams yn aml iawn. Dwi'n edmygu beirdd am fedru mynd at galon y gwir. | I also very often turn back to people like Iwan Llwyd and TH Parry Williams. I admire poets who can go to the real heart of things. |
| Wyt ti'n ystyried dy hun yr un mor rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac a fyddet ti bob amser yn dewis sgwennu yn y Gymraeg? | Do you consider yourself equally fluent in Welsh and English, and would you always choose to write in Welsh? |
| Roedd fy nghefndryd i gyd yn ddi-Gymraeg, felly dwi ddim yn cofio peidio medru siarad y ddwy iaith ers yn ifanc iawn. Do'n i ddim yn gweld problem sgwennu yn Gymraeg ac yn Saesneg ers talwm, ac ella mod i'n sgwennu mwy yn Saesneg pan o'n i'n ifanc, ma'n siwr am fod yna fwy o lyfrau Saesneg ar gael ! (Mae hyn yn profi'r cysylltiad rhwng darlllen a sgwennu, tydy!) Gradd mewn Saesneg wnes i hefyd ym Mhrifysgol Aberyswyth, a mi ges i gyfnod fel athrawes Saesneg hefyd. Dwi'n dal i fwynhau sgwennu yn Saesneg weithiau, ond dwi wrth fy modd sgwennu mwy yn Gymraeg erbyn hyn. | My first cousins were all non-Welsh speaking, so I can't remember a time from a very young age when I couldn't speak both languages. For a long time I have seen no problem writing in Welsh and in English, and perhaps I wrote more in English when I was young, I'm sure that there were more books in English to be had. (This proves the connection between reading and writing, doesn’t it!). Also I took a degree in English at the University of Aberystwyth, and I also had a spell as an English teacher. I still enjoy writing in English sometimes, but I love to write more in Welsh now. |
| Pa ran o'r broses ysgrifennu wyt ti'n ei fwynhau fwyaf? | What part of the writing process do you enjoy the most? |
| Y foment yna pan mae rhywun yn taro ar syniad ac yn rhuthro i sgwennu'r syniad i lawr a gweld lle mae'n gallu datblygu. Yn aml iawn, bydd rhannau o'r syniad yn newid wrth i mi ddechrau'r sgwennu go iawn, ond rydw i'n dal i geisio aros yn ffyddlon i'r syniad wnaeth fy nghyffroi yn y lle cyntaf. | That moment when someone hits on an idea and rushes to write the idea down and sees which way it could develop. Very often, bits of the idea change as I begin to write for real, but I try to stay faithful to the idea that excited me in the first place. |
| Delwedd y ddamwain ar ddechrau'r nofel 'Llwybrau Cul' ddaeth i mi gyntaf, delwedd y ddamwain ar y dudalen gyntaf, ond mi dyfodd y ddau brif gymeriad yn eitha buan o hynny. Mae gen i ddiddordeb yn sut mae rhywun yn medru cyfarfod rhywun ar hap, a bod hynny wedyn yn medru newid cwrs bywyd. | The image of the accident at the beginning of the novel 'Llwybrau Cul' was the first thing that came to me, the image of the accident on the first page, but the two main characters grew out of that quite quickly. I am interested in how one person can meet another by chance, and that this can then change the course of their lives. |
Mae hi mor bwysig bod dysgwyr yn cael y cyfle i weld y patrymau a'r geiriau maen nhw'n nabod wrth fynd ati i ddarllen yn eu hamser hamdden, a mwynhau a dysgu mwy wrth wneud.
Yn y llyfr hwn fel rhan o'r Gyfres Amdani, mae Jon Gower yn mynd â'r darllenydd i 30 o leoliadau sy'n gysylltiedig â hanes Cymru. Mae'n esbonio pam mae'r lleoliadau yn bwysig yn hanes Cymru, ac mae e'n disgrifio eu harddwch a'u naws yn ei ffordd arbennig ei hun. Dyma flas i chi o’r llyfr...
In this book as part of Cyfres Amdani, Jon Gower takes the reader to 30 different locations connected to Wales' history. He explains why these places are important to Welsh history and describes their beauty and atmosphere in his own special way. Here is a taste of the book for you...
Awdur: Jon Gower
twitter.com/JonGower1
Price: £6.99
Language: Simple Welsh, with vocabulary at the bottom of each page.
Level: Sylfaen / Foundation
Publisher: CAA Cymru
Buy: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781845216870
Wnaeth mynachod Sistersaidd sefydlu yr abaty yma ar lan afon Gwy yn 1131. Roedd byw yn agos at natur yn bwysig iawn i’r mynachod. Roedden nhw am ddysgu pethau newydd yn y coed – pethau doedden nhw ddim yn eu dysgu mewn llyfrau. Dyma’r abaty Sistersaidd cynharaf yng Nghymru. Abaty Tyndyrn oedd yr abaty mwyaf cyfoethog yng Nghymru. Roedd un deg tri mynach yn creu incwm o £192 yn 1532.
Yn anffodus, gaeth yr abaty ei ddinistrio yn yr 1540au. Harri VIII oedd wedi dweud bod angen dinistrio’r abaty. Gaeth y plwm ei dynnu o’r to. Dim ond adfail ydy Abaty Tyndyrn heddiw, ond mae’n adfail mawreddog. Ysgrifennodd William Wordsworth gerdd enwog am yr abaty. Ewch i sefyll rhwng y pileri Gothig.
Edrychwch i fyny ar y ffenestri heb wydr. Mae hi’n hawdd dychmygu’r mynachod yn gweddïo ac yn trin gwlân.
Mae’r newyddiadurwr Simon Jenkins yn disgrifio Erddig fel ‘gem fawr yng nghoron tai cefn gwlad Cymru’. Dydy Erddig ddim mor drawiadol â Chastell Powis. Dydy e ddim mor gyffrous â gwylio tân gwyllt yng Nghastell Caerdydd. Beth sydd yn Erddig ydy’r teimlad bod pobl go iawn wedi byw yma. Mae’r hanes yn dod yn fyw i ymwelwyr.
Dyma’r hanes yn gryno: gaeth Joshua Edisbury ei wneud yn Uchel Siryf Sir Ddinbych yn 1682. Fe benderfynodd e wario arian mawr ar dŷ crand. Cyn hir roedd Joshua druan yn dlawd fel llygoden eglwys! Gaeth Erddig ei werthu i un person ar ôl y llall. Cyfreithiwr o’r enw John Mellor wnaeth newid yr adeilad o fod yn gartref cefn gwlad i fod yn gartref crand. Fe wnaeth e hyn cyn i deulu newydd yr Yorkes gyrraedd. Wrth gerdded o amgylch Erddig, gallwch weld sut roedd teulu’r Yorkes a’u staff yn byw – roedd y stad yn cynnal ei hun, gyda stabl a hufenfa, becws, gefail a chegin enfawr. Un o’r pethau hyfryd am deulu’r Yorkes oedd eu bod yn ysgrifennu cerddi byr, ysgafn am eu cartref. Roedden nhw hefyd yn ysgrifennu cerddi byr am y bobl oedd yn gweithio ar y stad. Gallwch chi weld y cerddi hyn wrth gerdded ar hyd y stad. Hefyd, fe welwch chi fod portreadau o’r gweision ar y waliau, sy’n awgrymu bod teulu’r Yorkes yn bobl deg ac arbennig.
Wnaeth yr hanesydd John Davies ddisgrifio Eglwys yr Holl Eneidiau yng Ngresffordd fel yr eglwys blwyf orau yng Nghymru. Mae hi’n eglwys arbennig o’r unfed ganrif ar bymtheg. Mae clychau’r eglwys yn un o Saith Rhyfeddod Cymru. Mae’r ffenestri gwydr lliw yn hardd iawn hefyd. Y tu allan i’r eglwys yn y fynwent mae coed ynn sy’n hen iawn. Ond y peth mwyaf trawiadol efallai ydy’r darn glo sydd yno. Darn glo o bwll glo Gresffordd ydy e. Ar 22 Medi 1934 gaeth 266 glöwr eu lladd yn y pwll glo. Roedd y glöwr ifancaf yn 14 mlwydd oed a’r glöwr hynaf yn 87 oed. Gaeth y darn glo ei roi ger yr eglwys ar ddiwrnod y ddamwain. Roedd pobl o bob rhan o ogledd-ddwyrain Cymru yn gweithio yn y pwll glo yng Ngresffordd. Gaeth y ddamwain effaith ar ardal fawr o ogledd-ddwyrain Cymru.
Er bod Owain Glyndŵr wedi awgrymu creu prifysgol i Gymru yn y bymthegfed ganrif, ddaeth ei freuddwyd ddim yn wir tan yr ugeinfed ganrif. Roedd y dewis o safle yn ddiddorol, sef hen westy ar lan y môr yn Aberystwyth. Gaeth y gwesty ei gynllunio i gystadlu gyda’r gwestai crand yn St Pancras yn Llundain ac yn Scarborough. Y bwriad oedd troi Aberystwyth yn Brighton Cymreig, a denu miloedd o dwristiaid. Ond doedd y gwesty ddim yn llwyddiant ac aeth y perchennog i ddyled ar ôl blwyddyn. Wnaeth pwyllgor o bobl brynu’r gwesty am £10,000. Roedd y pwyllgor eisiau sefydlu prifysgol Cymru yno. Mae’r adeilad o’r tu allan yn edrych fel cymysgedd o gastell Cymreig a château Ffrengig, achos bod ganddo sawl tŵr a ffenestri gwahanol. Yn ôl un stori, daeth y pensaer enwog Nikolaus Pevsner i Aberystwyth. Wnaeth e edrych ar yr adeilad a dweud, ‘Good God!’ Beth bynnag, mae’r Hen Goleg yn symbol o freuddwyd cenedl a pharch pobl Cymru at addysg.

Ogof ar Penrhyn Gŵyr ydy Ogof Pen-y-fai. Enw arall ar yr ogof ydy ‘Twll yr Afr’. Mae’r ogof ger pentref Rhosili. Gaeth dyn ei gladdu yma tua 29,000 o flynyddoedd yn ôl. Dyma’r angladd ‘This triggers the tooltip’ gyntaf yng Nghymru. Roedd y sgerbwd yn gorwedd yma yn dawel, uwchben y môr, tan 1823. Wedyn daeth archeolegydd o’r enw William Buckland yma o Brifysgol Rhydychen. Wnaeth Buckland ffeindio esgyrn dynol.Wnaeth e ffeindio pethau eraill o’r un cyfnod – pethau fel cregyn ac ifori. Mae hyn yn dangos bod anifeiliaid gwyllt fel y rhinoseros, y teigr enfawr a’r mamoth wedi byw yn yr ardal.
Roedd y pethau hyn wedi cael eu defnyddio yn yr angladd. Esgyrn menyw oedden nhw – dyna roedd pobl yn credu i ddechrau. Dyna pam roedd pobl yn siarad am ‘Ddynes Goch Paviland’. Wedyn roedd pobl wedi nabod yr esgyrn oedd yn gorwedd ar y pridd coch yn yr ogof fel esgyrn dyn ifanc, nid esgyrn menyw. Roedd y pridd wedi lliwio’r esgyrn. Heddiw mae’r sgerbwd yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol yn Llundain. Mae’n dawel fel y bedd yn Ogof Pen-y-fai!


Mae Bethan Gwanas yn adnabyddus dros ben am ei llyfrau i oedolion, arddegau a phlant, a'i llyfrau i ddysgwyr sef y gyfres Blodwen Jones. Ers creu Blodwen, mae hi wedi hyfforddi i fod yn diwtor Cymraeg i Oedolion, a nawr ei bod hi wedi sgwennu Yn Ei Gwsg i'r gyfres Amdani, mae hi'n rhannu'r stori hon...
Bethan Gwanas is very well-known for her books for adults, teens and children, and her books for adult learners such as the series Blodwen Jones. Since creating Blodwen, she has trained to be a Welsh for Adults tutor, and now that she has written In His Sleep for the Amdani series, she shares this story...
| Awdures ydw i, ond yn ogystal â thrio sgwennu llyfrau, dw i’n diwtor Cymraeg i Oedolion. Mater o raid oedd o a bod yn onest; chwilio am ffordd arall o dalu’r biliau. Mae awduron eraill yn cael swydd sgriptio Pobol y Cwm, ond dw i ddim yn berson sebon yn anffodus. Dw i’n fwy o berson Game of Thrones. | I am an author, but in addition to trying to write books I am a Welsh tutor for adults. To be honest this was a matter of necessity: looking for another way to pay the bills. Other authors get a job writing scripts for Pobol Y Cwm (People of the Valley, a Welsh soap opera), but unfortunately I am not a soap sort of person. I am more of a Game of Thrones person. |
| Mi wnes i sgwennu cyfres Blodwen Jones cyn dechrau tiwtora, ond oherwydd Blodwen, ro’n i’n cael gwahoddiadau i siarad gyda dosbarthiadau dros Gymru, ac ro’n i’n teimlo’n gyfforddus iawn – a chyffrous hefyd yn eu canol nhw. Ro’n i hefyd wedi bod yn ddysgwr fy hun mewn gwersi Sbaeneg gyda’r nos ac yn gwybod pa mor ddigri a difyr a rhwystredig mae dosbarthiadau iaith i oedolion yn gallu bod. | I wrote the Blodwen Jones series before beginning to tutor, but on account of Blodwen I received invitations to speak to classes throughout Wales, and I felt very much at home – and also excited in their midst. I had also been a learner myself in a Spanish course of evening classes and I knew how enjoyable, entertaining and frustrating language classes for adults can be. |
| Mi wnes i gais i fod yn diwtor a chael cyfweliad gan neb llai na Liz Saville Roberts AS (cyn iddi fynd i fyd gwleidydda). Ro’n i’n gorfod rhoi gwers Gymraeg iddi! Mae’n rhaid mod i wedi plesio, achos mi ges y swydd. | I applied to become a tutor and got an interview with none other than Liz Saville Roberts AS (before she went on to lead a life in politics). I had to give her a lesson in Welsh! I must have given satisfaction, because I got the job. |
| Dw i wedi bod yn tiwtora ers 4 blynedd rŵan, a nac ydw, dw i ddim llawer gwell allan yn ariannol. Dydy hi ddim yn swydd sy’n talu’n wych, ond mae ’na fwy i fywyd na phres, a nefi, dw i’n mwynhau. Mae’n braf dod i nabod pobl eraill, pobl sy’n aml yn ddiddorol tu hwnt, a chan mod i’n gweithio cymaint ar fy mhen fy hun bach o flaen cyfrifiadur, mae’r cyfle i gymdeithasu fel hyn yn gwneud byd o les i mi. | I have now been tutoring for four years, and no, I am not much better off financially. It is not a job that pays well, but there is more to life than money, and goodness me, but I enjoy it. It is great getting to know other people, people who are often extremely interesting, and since I work so much all on my little ownsome in front of a computer, the opportunity to socialise like this does me a world of good. |
| Mae eu gweld nhw’n dysgu a gwella o wythnos i wythnos yn rhoi’r mwynhad rhyfedda hefyd – i mi, ac iddyn nhw. Ro’n i wedi anghofio’r teimlad hwnnw, rhywbeth fyddai’n digwydd yn fy ngwersi Ffrangeg ers talwm – efo’r setiau uwch gan amla, rhaid cyfadde. Ond byddai gweld y fflach yn llygaid y disgyblion llai galluog yn rhoi mwy fyth o wefr i mi – y fflach o oleuni ‘Dwi’n dallt hwnna!’ a ‘Dwi’n gwybod yn union sut i ateb hynna...’ oedd yn rhoi hyder a theimlad o hunan-werth i ddisgybl oedd yn aml jest yn teimlo’n dwp. | Seeing them learn and improve from week to week also gives the most extraordinary satisfaction – to me, and to them. I had forgotten this feeling, something which used to happen in my French lessons long ago – for the most part, I must confess, with the higher sets. But seeing the eyes of the less able pupils light up would give me even more of thrill – the flash of enlightenment that says 'I understand this!' and 'I know exactly how to answer that' that gave confidence and a feeling of self-worth to pupils who often just felt stupid. |
| Ond fel athrawes mewn ysgol uwchradd, ro’n i’n gorfod brwydro i gadw diddordeb y rhai oedd ddim yn gweld diben dysgu Ffrangeg. Gydag oedolion sy’n dysgu Cymraeg, mae’n wahanol, maen nhw i gyd isio bod yno, isio dysgu, ac maen nhw i gyd isio cael gwaith cartref! | But as a teacher in secondary school, I had to fight to keep the interest of those who did not see the point of learning French. With adults who are learning Welsh, it is different, they all want to be there, want to learn and they all want to be given homework! |
| Dw i wedi chwerthin yn aml, ond mae’n rhaid bod yn ofalus gyda hynny. Mae pawb mor wahanol: rhai yn berffaith hapus i chwerthin pan fyddan nhw’n gwneud camgymeriadau, ond mae ’na rai eraill sy’n fwy swil, a’u hunan-hyder yn beth bregus. Mae’n goblyn o anodd cael rheiny i yngan ‘rh’ neu ‘u’ yn gywir heb dynnu sylw at y ffaith eu bod nhw’n cael trafferth, a thorri eu calonnau. Ond mae ’na ffyrdd o’i wneud o, a dw i wedi bod yn dysgu hynny ar wahanol gyrsiau, ynghanol llwyth o diwtoriaid eraill, sy’n andros o hwyl ond yn addysg go iawn hefyd. | I have often laughed, but one must be careful with this. People are so different: some are perfectly happy to laugh when they make mistakes, but others are more shy, their self-confidence more brittle. It is devilishly difficult to get them to pronounce ‘rhy’ or ‘u’ correctly without drawing attention to the fact that they are having difficulty, and breaking their hearts. But there are ways of doing this, and I have learnt those on various courses, among many other tutors, who are great fun but also teach very well. |
| Y peth gorau wnes i oedd ‘Y Cymwhyster Cenedlaethol’, oedd yn gwrs dwy flynedd ar y pryd, ac yn golygu treulio penwythnosau ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog a phrifysgolion Bangor ac Aberystwyth gyda chriw o diwtoriaid newydd eraill. Y darn gwaethaf o’r cwrs oedd gorfod rhoi gwers fach 10 munud i’r tiwtoriaid eraill, ac ro’n i’n wirion o nerfus! Es i drwy fy ngwers ar y patrwm ‘mae gen i’ mor hurt o gyflym, ro’n i’n swnio fel reiffl AK47. | The best thing I did was ‘Y Cymwhyster Cenedlaethol’ (The National Qualification), which at the time was a two-year course, and involved spending weekends in Plas Tan y Bwlch (the Snowdonia National Park Environmental Studies Centre), Maentwrog and Bangor and Aberystwyth universities with a crew of other new tutors. The worst part of the course was having to give short 10-minute lessons to the other tutors, and I was really nervous! I went through my lesson on the pattern ‘mae gen i’ at such a ridiculous pace I sounded like an AK47 rifle! |
| Mi gawson ni wers Groeg un tro, oedd yn dangos i ni pa mor ofnadwy o anodd ydi dysgu a chofio dim ond 4 neu 5 ffordd o ddeud ‘helo’, ‘sut dach chi’ a ‘da iawn diolch’ mewn iaith sy’n gwbl estron. Iawn, doedd y ffaith fod yr wyddor Groegaidd mor wahanol ddim yn help, ond egwyddor y peth oedd yn bwysig. Mewn stafell gynnes pan mae’r brêns wedi blino ar ôl diwrnod o waith, mae hi’n anodd iawn, iawn cofio pethau sy’n ymddangos mor syml i ni, y bobl sy’n siarad yr iaith ers y crud. Dwi’n ystyried fy hun yn ieithydd, ond roedd fy mhen i fel gogor yn y diwedd. | One time we had a lesson in Greek, which showed us how dreadfully difficult it is to learn and remember nothing more than four or five ways of saying ‘Hello’, ‘How are you’ and ‘Very well, thank you’ in a wholly foreign language. True, the fact that the Greek alphabet is so different was not a help, but the principle was important. In a warm room, when the brains are tired after a day's work, it is very, very difficult to remember things that seem so simple to us, the people who have spoken the language from the cradle. I consider myself to be a linguist, but by the end my head felt as if it were stuffed with straw. |
| Diolch i’r cyrsiau hynny, a gwylio tiwtoriaid profiadol wrth eu gwaith, dw i wedi dysgu sut i egluro ambell reol iaith sy’n drysu dysgwyr, a minnau erioed wedi gorfod meddwl am y peth tan hynny. Dw i’n dal i orfod deud ‘achos mae o jest yn!’ weithiau, wrth gwrs, neu bydd hanner y wers wedi mynd i geisio egluro’r un rheol hwnnw, a phawb ond y ‘geek’ gramadegol ofynodd y cwestiwn wedi mynd i gysgu. | Thanks to those courses, and to watching professional tutors at their work, I have learnt how to explain a good few of the language rules which perplex learners, and me never having had to think about them till then. Of course, I still sometimes have to say 'because that's just the way it is!', or half the lesson would be gone in trying to explain this one rule, with everyone except the grammar geek who asked the question having gone to sleep. |
| Felly faint o ddosbarthiadau sy gen i? Fydda i ddim yn hollol siŵr tan fis Medi, wedi i bobl gofrestru. Yn wahanol i ardaloedd Bangor, Wrecsam a Chaerdydd, mae mwy o ddefaid na phobl yn yr ardal hon, ac ar y cyfan, pobl o Loegr sydd wedi ymddeol i Gymru sy’n dod i wersi Cymraeg, ac os fyddan nhw wedi cael eu llyncu gan y ghettos Saesneg a seisnig “Oh, you don’t need to waste your time learning Welsh, come to pottery/bridge/The Rotary with us instead”, mae’n anodd iawn iddyn nhw ymarfer eu Cymraeg y tu allan i’r dosbarth, ac maen nhw’n rhoi’r ffidil yn y to. | So, how many courses do I run? I will not be entirely sure till September, after people have registered. Unlike Bangor, Wrexham and Cardiff there are more sheep than people in the area, and on the whole it is English people who have retired to Wales who come to Welsh lessons, and if they have been swallowed up by the English and English-speaking ghettos ('Oh, you don’t need to waste your time learning Welsh, come to pottery/bridge/The Rotary with us instead') it is very difficult for them to practise their Welsh outside the class, and they give up. |
| Ond fel arfer, mae gen i ddau ddosbarth bob dydd Llun yn Nolgellau (lefel Sylfaen/Canolradd) a gan fod un o diwtoriaid eraill Meirionnydd wedi cael efeilliaid (llongyfarchiadau Lowri!) dw i’n cymryd ei dosbarthiadau hi yn ardal Harlech bob dydd Mawrth, un criw wedi bod yn dysgu ers blwyddyn a’r criw arall yn rai uwch, arbennig o dda, sy’n hawdd iawn eu dysgu. | But as a rule, I run two courses on a Monday in Dolgellau (Foundation/Intermediate level), and since one of the other tutors in the Meirionnydd area has had twins (congratulations Lowri!) I am taking her classes in the Harlech region on a Tuesday, one set of pupils having been learning for a year and the other set at the higher level, and particularly able, who are very easy to teach. |
| Ond dw i wedi cael ambell ddosbarth oedd yn anodd iawn, iawn eu dysgu, fel y mamau a’u plant bach yn fy mlwyddyn gyntaf. Ro’n i’n gorfod mynd â llond gwlad o deganau a llyfrau plant (mi wnes i wario ffortiwn yn siop Oxfam) efo fi bob tro, a bisgedi a stwff i wneud paned a diod oren/piws, a cheisio dysgu’r mamau tra roedd Declan yn ceisio crogi Maisie bach druan, ac wedyn ceisio tawelu’r dyfroedd rhwng mamau’r ddau. Ro’n i’n falch iawn, iawn pan ddaeth y gwersi hynny i ben. | But I have had some classes who were very, very difficult to teach, like the mothers and their small children in my first year. I had to take a whole load of toys and children's books with me every time (I spent a fortune in the Oxfam shop) and biscuits and stuff for making tea and orange/blackcurrant juice, and try to teach the mothers while Declan was trying to throttle poor little Maisie, and then try to calm the waters between the two mothers. I was very, very glad when those lessons came to an end. |
| Un broblem sy’n codi ydi bod y tiwtora ’ma’n mynd yn ’chydig o obsesiwn. Alla i ddim gwrando ar ganeuon Cymraeg rŵan heb feddwl ‘W, tybed fyddai hon yn handi ar gyfer dysgu geirfa newydd neu “mi ges i” neu ryw batrwm tebyg?’ Ond yn aml, mae’r ynganu’n rhy niwlog, neu’r iaith yn rhy gymhleth. Ystyriwch hynny tro nesa, da chi, fandiau Cymraeg! | One problem that arises is that this tutoring becomes a bit of an obsession. I cannot listen to Welsh songs now without thinking, ‘Ooh, I wonder if that would come in handy for teaching new vocabulary or ‘mi ges i’ or some such pattern? ’ But frequently the singing is too indistinct or the language too complicated. Think about this next time, right, you Welsh bands! |
| Y broblem fwya sydd gen i ydy mod i’n chwerthin yn hawdd iawn. Er enghraifft, ro’n i’n dysgu rhannau’r corff i’r mamau, ac wedi dysgu ‘pen’, dyma un yn deud ‘Aha! So this must be pedwar pen!’ gan bwyntio at ei thalcen... | The biggest problem I have is being too apt to laugh. For example, I was teaching mothers parts of the body, and after learning ‘pen’ (head) one of them says ‘Aha, so this must be pedwar pen (four head)’ pointing to her forehead. |
| Wedyn roedd y dyn hwnnw oedd yn mynnu ynganu ‘ch’ fel ‘ck’ ac yn gwneud brawddegau anffodus efo’r gair ‘coch.’ | Then there was this man who insisted on pronouncing ‘ch’ as ‘ck’ and made some unfortunate sentences with the word ‘coch’ (red). |
| Ac mae’r gwahaniaeth rhwng ‘rhiw’, ‘rhyw’, ‘rhaw’ a ‘rhew’ yn hwyl bob amser wrth gwrs. | And of course, the difference between ‘rhiw’ (slope, hillside), ‘rhyw’ (sex), ‘rhaw’ (shovel, spade) and ‘rhew’ (frost) is good for a laugh every time. |
| Dw i ddim eisiau gormod o ddosbarthiadau oherwydd dw i ddim yn ddigon trefnus i gadw mwy o ffeiliau a chofrestrau mewn trefn. Mae fy nhŷ i fel tomen ers i mi ddechrau tiwtora, ond o leia dwi wedi cael gwared o’r holl deganau oedd gen i ar y dechrau. Roedd yr holl lygaid tedis yn codi ofn ar y ci, bechod. | I do not want to run too many courses because I am not organised enough to keep more files and registers in order. My house is like a tip since I started tutoring, but at least I have got rid of all the toys I had at the beginning. All those teddy bear's eyes were frightening the dog, bless her. |
| Hefyd, mae gen i straeon a nofelau i’w sgwennu – awdures ydw i weddill yr wythnos. A’r llyfr diweddaraf ydy ‘Yn ei Gwsg’ – nofel ar gyfer dysgwyr cyfnod Sylfaen. Mae cariad fy nith yn blismon, ac mi ges i help gynno fo efo’r stwff plismonaidd. | Also, I have stories and novels to write – the rest of the week I am an author. And the latest book is ‘Yn ei Gwsg’ (In his Sleep) – a novel for learners at the Foundation stage. My niece's boyfriend is a policeman, and I got help from him with the police stuff. |
| Gobeithio y bydd dysgwyr yn ei mwynhau; roedd o’n hwyl i’w sgwennu beth bynnag! | I hope that learners will enjoy it; anyway it was fun to write! |
Dydy hi ddim yn swydd sy’n talu’n wych, ond mae ’na fwy i fywyd na phres, a nefi, dw i’n mwynhau!
|
|
Mae Wynne Evans yn fyd-enwog am ganu fel tenor a bod yn rhan o hysbysebion Go Compare. Yn ogystal, mae e wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn. Yn ei lyfr cyntaf, fel rhan o'r Gyfres Amdani, mae'n siarad am ei fywyd, ei deulu, yr heriau ar hyd y ffordd a pham mae'r iaith mor bwysig iddo fe nawr. Yma, mae parallel.cymru yn cyflwyno cipolwg o’r llyfr...
Wynne Evans is world-famous for singing as a tenor and being part of Go Compare adverts. In addition, he has learnt Welsh as an adult. In his first book as part of the Amdani series, he speaks about his life, family, the challenges that have come along the way and why the Welsh language is so important to him now. Here, parallel.cymru presents a glance at the book...
Author: Wynne Evans with Elin Meek
twitter.com/wynneevans
Price: £4.99
Language: Simple Welsh, with vocabulary at the bottom of each page.
Level: Mynediad / Entry
Publisher: CAA Cymru
Buy: gwales.com/bibliographic/?isbn=9781845216856
Wynne Evans yn lansio’i fywgraffiad yn Sioe Fawr Llanelwedd
Cafodd digwyddiad hwyliog ei gynnal yng nghwmni’r canwr enwog, Wynne Evans, yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd. Bu Wynne yn sgwrsio ag Alun Williams, cyflwynydd Dal Ati: Bore Da (S4C) am ei lyfr newydd sbon yn y lansiad, sef Wynne Evans – O Gaerfyrddin i Go Compare.
Mae’r llyfr, sef bywgraffiad gonest a difyr y tenor a ddaeth yn adnabyddus drwy’r hysbysebion teledu enwog, yn un o lyfrau Cyfres Amdani. Ysgrifennwyd y llyfr gan Elin Meek, a’i gyhoeddi gan CAA Cymru, ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg ar y cwrs lefel Mynediad neu uwch.
Cafodd y gynulleidfa gyfle i brynu copi o’r llyfr wedi’i arwyddo gan Wynne yn dilyn y digwyddiad – gan gynnwys Steve Hughson, Prif Weithredwr y Sioe. Dysgwr Cymraeg yw Steve hefyd. a phwysleisiodd wrth siarad ar y llwyfan pa mor bwysig yw hi i ‘fynd amdani’ trwy ymarfer a darllen cymaint â phosibl wrth ddysgu’r iaith.
Cyfres wedi ei datblygu’n benodol ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg yw Cyfres Amdani, ac mae’r llyfrau wedi’u graddoli ar bedair lefel – Mynediad, Sylfaen, Canoradd ac Uwch. Ariennir y project gan Gyngor Llyfrau Cymru, ac fe’u cyhoeddir ar y cyd rhwng pedwar cyhoeddwr blaenllaw, gyda chefnogaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Wrth gyhoeddi Wynne Evans – o Gaerfyrddin i Go Compare, meddai Delyth Ifan, Cyfarwyddwr CAA Cymru, "Rydym yn hynod falch o gyflwyno’r llyfrau newydd hyn i oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Yn ogystal â bod yn addas ar gyfer dysgwyr, mae’r llyfrau yn addas ar gyfer pobl sydd yn rhugl ond yn llai hyderus wrth ddarllen. Bydden ni hefyd yn annog unrhyw un sydd am ailgydio yn yr iaith i’w darllen."
Cynhelir digwyddiadau eraill i hyrwyddo Cyfres Amdani yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ym mis Awst, a chyhoeddir gweddill llyfrau’r gyfres erbyn dechrau mis Hydref 2018.
Gan Fflur Davies (Cyfarwyddwr Cynorthwyol, CAA Cymru)
Wynne Evans launches his biography at the Royal Welsh Show
An event to launch the honest and compelling biography of the famous singer, Wynne Evans, was held at the Royal Welsh Show. Wynne Evans chatted on stage with Alun Williams, presenter of Dal Ati: Bore Da (S4C) about his new book, Wynne Evans – O Gaerfyrddin i Go Compare.
The book, written by author Elin Meek and published by CAA Cymru, is aimed at adults who are learning Welsh at the Mynediad (Entry) level or above, and tells the story of the tenor who became famous for his role in the Go Compare television advertisements.
The audience had the opportunity to buy signed copies following the event – including Steve Hughson, RWS Chief Executive. Steve is also a Welsh learner and he emphasized on stage how important it is to ‘have a go’, and to practise and read as much as possible whilst learning the language.
The book is part of the Amdani series, which has been developed specifically for adults learning Welsh, and have been graded at four levels – Entry, Foundation, Intermediate and Advanced. The project is funded by the Welsh Books Council, and will be published jointly by four leading publishers, with the support of the National Centre for Learning Welsh.
On publishing Wynne Evans – o Gaerfyrddin i Go Compare, Delyth Ifan, CAA Cymru Director said: “We're delighted to present these new books for adults learning Welsh. As well as being suitable for learners, these books are suitable for people who may be fluent Welsh speakers but lack confidence in reading the language. I would also encourage anyone wanting to reacquaint themselves with the language to read them."
Other events to promote Cyfres Amdani will be held at the National Eisteddfod in Cardiff in August, and the remaining titles in the series will be published in October 2018.
By Fflur Davies (Assistant Director, CAA Cymru)

Wynne gyda Helen Prosser (Cyfarwyddwr Strategol, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol), Rhiannon Thomas (Golygydd, Cyngor Llyfrau Cymru) & Delyth Ifan (Cyfarwyddwr CAA Cymru)

Wynne yn arwyddo ei lyfr

Wynne ac Alun Williams (sioe teledu Bore Da) ar y llwyfan, gyda chyfweliad isod
On this parallel.cymru page, press or click the highlighted word to show the English equivalent.
Enw: Wynne Evans
Blwyddyn geni: 1972
Dod yn wreiddiol: o Gaerfyrddin
Byw nawr: yng Nghaerdydd
Gwaith: Tenor, cyflwynydd ar Radio Wales, Radio 3 a Classic FM
Enwog iawn am fod yn: Gio Compario ar hysbysebion Go Compare
Beth yw hanes y teulu? Roedd teulu Dad yn dod o Langynog, ar bwys Caerfyrddin. Ffermwyr o'n nhw. Roedd teulu fy nhad yn siarad Cymraeg. Cymraeg oedd iaith gyntaf fy nhad. Mae hanes teulu Mam dipyn bach yn wahanol. Roedd fy mamgu (mam fy mam) yn dod o Gaerfyrddin, ond roedd fy nhad-cu (tad fy mam) yn dod o Frwsel, Gwlad Belg.
Sut cwrddon nhw? Yn yr Ail Ryfel Byd, roedd fy nhad-cu'n swyddog gyda byddin Gwlad Belg. Roedd e'n byw yn Ninbych-y-pysgod. Cwrddodd e â fy mam-gu. Roedd e'n dod ar y trên o Ddinbych-y-pysgod i Gaerfyrddin i weld fy mam-gu.
* * * * * * * * * * * * * * *
Dych chi wedi teimlo'n nerfus? Do'n i ddim yn teimlo'n nerfus. Ond wedyn, ces i amser anodd pan fuodd fy mam farw. Ces i sioc fawr. Yna, yn sydyn, collais i fy hyder. Do'n i ddim yn gallu mynd ar y llwyfan dim ots lle roedd y llwyfan - llwyfan mewn neuadd fach, neu lwyfan mewn tý opera mawr - ro'n i'n nerfus dros ben. Ro'n i'n poeni. Roedd e'n amser anodd iawn i fi. Roedd teulu ifanc gyda ni a doedd dim llawer o arian gyda ni. Diolch byth, daeth pethau 'nôl yn iawn ar ôl ychydig bach o amser.
Dych chi wedi colli eich rhieni erbyn hyn. Ydw, dw i'n gweld eisiau fy rhieni'n fawr. Collon ni fy mam yn sydyn iawn. Roedd fy mam yn gwneud llawer yng Nghaerfyrddin. Roedd hi'n berson penderfynol iawn – os oedd hi eisiau gwneud rhywbeth, doedd dim byd yn stopio fy mam. Doedd hi ddim yn dilyn y rheolau weithiau! Ond roedd hi'n llwyddo i wneud pethau – fel achub y Lyric. Roedd hi'n fam dda, ond roedd hi'n anodd byw gyda hi weithiau. A dweud y gwir, doedd hi ddim yn gofalu amdani ei hunan.
* * * * * * * * * * * * * * *
Hoff gân i'w chanu
Dw i'n hoffi canu 'The Impossible Dream'- hoff gan fy mam. Dw i'n hoffi caneuon Ivor Novello, fel 'Shine Through My Dreams' a 'My Life Belongs To You'. Mae'r caneoun mewn operâu yn grêt hefyd. Yn ddiweddar, daeth operâu comig yn boblogaidd. Ro'n i'n wrth fy modd- ro'n i'n gweithio trwy'r amser.
Hoff gar
Dw i'n dwlu ar geir. Roedd sawl Afla Romeo gyda fi. Ces i brofiad gwael gyda Saab. Pryniais i gar Saab, a bron yn syth, aeth cwmni Saab i'r wal. Collais i warant a phopeth. Dw i'n cael nawdd gyda Mercedes nawr. Mae hynny'n grêt! Mae un car dwy sedd gyda fi, ac un car 4x4.
* * * * * * * * * * * * * * *

Ysgol Pentrepoeth, 1982. Dw i yn y cefn, y 4ydd o'r dde.

Bugsy Malone yn Ysgol Cambria, 1985. Fi oedd Fat Sam.
Adolygiad gan Phyl Brake, cydlynydd Dysgu Cymraeg i Brifysgol Aberystwyth:
Hanes gonest, difyr a chymhellol o’r canwr o dde Cymru sydd wedi dod yn adnabyddus ledled Prydain diolch i hysbysebion teledu poblogaidd gwefan cymharu gwasanaethau ariannol Go Compare. Fe’i hysgrifennwyd gan rywun a chanddi flynyddoedd lawer o brofiad ym maes Dysgu Cymraeg fel tiwtor, ac awdures ac fel ysgrifennwr cyrsiau ei hunan.
Mae’r eirfa a’r patrymau iaith a ddefnyddir yn berthnasol ac yn strwythuredig, ac mae rhestr fer o eirfa newydd ar waelod pob tudalen. Yn ogystal mae’r geiriau hyn i gyd yn ailymddangos mewn geiriadur bach fel atodiad ar ddiwedd y llyfryn. Mae hanes Wynne Evans yn ddigon gafaelgar i gynnal diddordeb y darllenydd drwyddi draw, tra, ar yr un pryd, mae ailadrodd cyson yn sicrhau fod dysgwyr ar bob lefel, yn ymgyfarwyddo’n isymwybodol â geirfa berthnasol a phatrymau iaith sylfaenol.
Mae hyn oll yn golygu fod Wynne Evans – o Gaerfyrddin i Go Compare, ynghyd â’r llyfrau eraill sy’n rhan o’r un gyfres, yn adnawdd dysgu defnyddiol iawn ar gyfer dysgwyr y Gymraeg.
Review by Phyl Brake, Teach Welsh coordinator at Aberystwyth University:
The book is the honest, entertaining and compelling account of the singer from south Wales who has become well known throughout the UK thanks to the popular television adverts for the Go Compare financial comparison services website. The book was co-written by someone who has many years experience in teaching Welsh as a tutor, author and as a course writer herself.
The vocabulary and language patterns used are relevant and structured, and a short list of new vocabulary can be found at the bottom of each page. In addition all these words reappear in a small dictionary as an addendum at the end of the booklet. Wynne Evans’ story is sufficiently gripping to sustain the reader’s interest throughout, while, at the same time, constant repetition ensures that learners at all levels, familiarise themselves subconciously with relevant vocabulary and basic language patterns.
All of this means that Wynne Evans – from Carmarthen to Go Compare, together with the other books that are part of the same series, is a very useful learning resource for Welsh learners.
Mae sawl sefydliad a llawer o pobl wedi dod gyda'n gilydd ar gyfer ddysgwyr i greu'r gyfres Amdani- casgliad o 20 llyfrau sydd yn cael eu cyhoeddi trwy 2018. Yma, mae parallel.cymru yn mynd tu ôl y llen i ffeindio mas mwy.
Many organisations and lots of people have come together on behalf of learners to create the Amdani series- a collection of 20 books that are being published in 2018. Here, parallel.cymru goes behind the scenes to find out more.
| Mae’n hollbwysig bod dysgwyr Cymraeg yn cael digon o gyfleoedd i fwynhau defnyddio’r iaith, ym mhob math o gyd-destunau, ac mae’r gyfres newydd hon o lyfrau hamdden Cymraeg yn enghraifft wych o hynny. | It’s vital that Welsh learners get plenty of opportunities to enjoy using the language in all sorts of contexts, and this new series of Welsh-language leisure books is one such example. |
| Bydd y llyfrau yn cefnogi’r cyrsiau dysgu Cymraeg niferus sydd ar gael mewn cymunedau ledled Cymru, ac yn helpu pobl i ddysgu’r iaith a dod yn rhugl. | The books will support what’s taught on the numerous Welsh-language courses available in communities across Wales and will help people learn the language and become fluent. |
| Rydym yn hynod o falch o gyflwyno’r llyfrau newydd yma i gynulleidfa sy’n hanfodol i’r farchnad lyfrau Cymraeg. Mae’r iaith Gymraeg yn rhan annatod a phwysig iawn o’n diwylliant, ac mae’r llyfrau hyn yn ffordd wych o annog mwy o oedolion i ddysgu neu i wella eu Cymraeg. | We are very pleased to welcome these new books to an audience that’s crucial to the Welsh-language books market. The language is a vitally important part of our culture and these books are a fantastic opportunity to encourage more adults to learn or improve their Welsh. |
| Ro’n i’n gweithio fel athrawes Gymraeg mewn ysgol ond dw i hefyd wedi gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion ers 1992. Rwan mae gen i chwech dosbarth o ddysgwyr yn siroedd Gwynedd a Chonwy a dw i hefyd yn gweithio i Gyngor Llyfrau Cymru fel golygydd ymgynghorol ar gyfres Amdani, cyfres o lyfrau darllen ar gyfer dysgwyr Cymraeg. | I used to work as a Welsh teacher in a school but I have also worked since 1992 as a Welsh tutor for adults. Now I run six classes for learners in Gwynedd and Conwy and I also work for the Welsh Books Council as a consultant editor for the Amdani series, a series of readers aimed at Welsh learners. |
| Bydd 20 o lyfrau yn y gyfres eleni. Mae’r 6 llyfr cyntaf wedi eu cyhoeddi ers mis Ebrill ac mae 4 arall wedi eu cyhoeddi ym mis Mai, felly mae hanner y gyfres ar gael yn y siopau rwan. Bydd 5 arall yn cael eu cyhoeddi ym mis Awst a’r 5 olaf ym mis Hydref. Nid llyfrau i’w defnyddio yn y gwersi ydyn nhw ond llyfrau i ddysgwyr eu darllen gartre, ond maen nhw wedi eu graddioli i fynd efo’r cwrs dysgu Cymraeg cenedlaethol newydd. | This year the series will comprise twenty books. The first six books were published in April and another four have been published in May, so half the series is available in shops now. Another five will be published in August and the final five in October. These are not books for use in lessons but books for learners to read at home, but they have been graded so as to accompany the new national Welsh course for learners. |
| Un o’r pethau arbennig am gyfres Amdani ydy fod pedair gwasg yn cydweithio ar y prosiect, sef Atebol, CAA Cymru, Gomer a’r Lolfa, dan ofal Cyngor Llyfrau Cymru. Mae rhannu gwaith fel hyn yn beth newydd mewn cyhoeddi Cymraeg ac felly mae yna bwyllgor o gynrychiolwyr y gweisg a’r Cyngor Llyfrau a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yn cyfarfod yn eitha aml yn Aberystwyth i drafod y prosiect – ac mae yna hefyd lawer iawn o e-bostio yn mynd ymlaen! | One of the special things about the Amdani series is that four publishing houses are collaborating on the project, that is, Atebol, CAA Cymru, Gomer and Y Lolfa. Sharing the work like this is a new thing in Welsh publishing, and so there are rather frequent meetings to discuss the project. These are held in Aberystwyth and involve a council consisting of representatives of the publishers, the Book Council and the National Learning Centre for Welsh – and there is also a great deal of emailing going on! |
| Er mwyn dechrau cael llyfrau wedi eu cyhoeddi mor fuan â phosib, wnaeth y pwyllgor benderfynu y basai hi’n syniad da addasu llyfrau oedd yn barod yn hytrach na disgwyl i awduron sgwennu 20 llyfr newydd sbon. Felly mae’r 6 llyfr cyntaf, y rhai gaeth eu cyhoeddi ym mis Ebrill, yn addasiadau o lyfrau gaeth eu sgwennu yn wreiddiol ar gyfer oedolion sy’n dysgu Saesneg. Dyma’r 6 llyfr cyntaf ges i i’w golygu. | In order to get the books published as quickly as possible, the council decided it would be a good idea to adapt to adapt already existing books rather than wait for authors to write twenty brand-new books. So the first six books, those that were published in April, are adaptations of books originally written for adults learning English. These are the first six books that I got to edit. |
| Roedd y gwaith yn eitha heriol. Roedd yr awduron Cymraeg oedd yn addasu’r 6 llyfr wedi cael arweiniad ar y math o eirfa a phatrymau Cymraeg oedd yn addas ar gyfer pob lefel o ddysgu Cymraeg a golygyddion yn pedair gwasg hefyd wedi mynd dros y llyfrau i wirio lefel yr iaith cyn i mi edrych ar y gwaith. Ond roedd yna broblemau yn codi. Er enghraifft, mae Am Ddiwrnod! wedi ei anelu at ddysgwyr sydd ond wedi bod yn dysgu Cymraeg am amser byr, felly rhaid i’r iaith fod yn syml iawn. Ac eto, rhaid i’r stori fod yn ddiddorol. | The work was quite challenging. The Welsh authors who were adapting the six books had received guidance as to the kind of Welsh vocabulary and patterns that were suitable at each level of learning Welsh and editors from the four publishers had also gone through the books to check the level of language before I saw the work. But problems arose. For example, Am Ddiwrnod! was aimed at learners who had been learning Welsh only for a short time, so it was necessary for the language to be very simple. And yet, the story had to be interesting. |
| Problem arall wrth geisio addasu llyfr sy’n ddiddorol ond hefyd yn syml yw fod yna bethau sydd yn hawdd iawn i’w dweud yn Saesneg ond yn fwy cymhleth o lawer yn Gymraeg. Yn enwedig “fy” + Treiglad Trwynol. Am ei fod yn anodd i dysgwyr ei ddeall (a’i ynganu!) dydy’r patrwm yma yn Gymraeg ddim yn cael ei ddysgu tan ddiwedd Lefel Mynediad ond roedd stori Am Ddiwrnod! i gyd am rywun yn colli ei bag ac mae’r llyfr Saesneg yn sôn llawer iawn am “my bag”. Doedd dim modd osgoi defnyddio’r patrwm, felly roedd rhaid rhoi “fy mag i – my bag” yn yr eirfa ar waelod y dudalen. Wnaeth yr un broblem godi efo’r llyfr gwreiddiol Wynne Evans – O Gaerfyrddin i Go Compare lle mae Wynne yn sôn llawer am ei deulu ar ddechrau’r llyfr. | Another problem in adapting books that are interesting but also simple is that there are things which are easy to say in English but much more complicated in Welsh. Especially when it comes to fy + nasal mutation. Because it is difficult for learners to understand (and to pronounce!), this pattern is not learnt till the end of the Entry Level, but the Am Ddiwrnod! story was all about someone losing her bag and the English book made frequent mention of ‘my bag’. There was no way of avoiding the use of this pattern, so it was necessary to include ‘fy mag i – my bag’ in the vocabulary at the foot of the page. The same problem arose with the original of the book Wynne Evans – O Gaerfyrddin i Go Compare where Wynne talks a lot about his family at the start of the book. |
| Mae yna eirfa ar waelod pob tudalen o bob llyfr i helpu dysgwyr efo geiriau a dywediadau sydd yn ddieithr iddyn nhw, ac yna mae yna eirfa lawn yn nhrefn y wyddor yng nghefn pob llyfr. Mae Helen Prosser o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol ar ein pwyllgor ac wedi bod yn help mawr i mi wrth i ni benderfynu beth i’w roi yn yr eirfa. | There is a vocabulary at the bottom of every page in every book to help learners with words and expressions that may be strange to them, and there is a full vocabulary in alphabetical order at the back of every book. Helen Prosser from the National Learning Centre for Welsh is on our council and has been a great help to me in deciding what to put in the vocabulary. |
| Mae’r 20 llyfr wedi eu hanelu at ddysgwyr ar bob lefel - erbyn y diwedd bydd yna pump llyfr yr un ar Lefelau Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch. Ac rydym wedi ceisio cael llyfrau yn iaith y De a’r Gogledd. Mae rhai awduron wedi bod yn glyfar iawn a chynnwys iaith y De a’r Gogledd yn eu llyfrau. Mae Manon Steffan Ros wrth addasu pum stori fer dda iawn ar Lefel Uwch yn Trwy’r Ffenestri wedi sgwennu tair stori yn iaith y Gogledd a dwy yn iaith y De. A mae Pegi Talfryn wedi gosod y nofel dditectif Gêm Beryglus ar Lefel Canolradd ym Mannau Brycheiniog efo naratif yn iaith y De ond efo dau o’r prif gymeriadau yn dod o’r Gogledd. | The twenty books have been aimed at learners at every level: by the end there will be five books each at Entry Level, Foundation Level, Intermediate Level and Higher Level. And we have tried to have books in the Welsh of both South and North Wales. Some authors have been very clever and included the language of south and north in their books. In adapting five very good short stories for the Higher Level in Trwy’r Ffenestri, Manon Steffan Ros has written three of the stories in northern Welsh and two in southern Welsh. And Pegi Talfryn has set the detective novel Gêm Beryglus, for Intermediate Level, in the Brecon Beacons with the narrative in the language of the South but with two of the principal characters coming from the North. |
| Mae yna amrywiaeth mawr hefyd yn nhestunau’r llyfrau. Nofelau ydy’r rhan fwya ohonyn nhw, rhai yn nofelau cyffrous ac eraill yn ddoniol iawn. Ac mae rhai o’n nofelwyr Cymraeg mwyaf poblogaidd wedi sgwennu ar gyfer y gyfres, pobl fel Bethan Gwanas, Mared Lewis a Sonia Edwards. Ond mae yna hefyd storïau byrion a llyfrau ffeithiol fel llyfr Jon Gower Teithio drwy Hanes a C’mon Reff, addasiad Elin Meek o hunangofiant Nigel Owens. | There is also a great variety in the books’ subject matter. The majority of them are novels, some novels exciting, others very amusing. And some of the most popular Welsh novelists have written for the series, people like Bethan Gwanas, Mared Lewis and Sonia Edwards. But there are also short stories and non-fiction books like Jon Gower’s book Teithio drwy Hanes, and C’mon Reff, an adaptation by Elin Meek of Nigel Owens’ autobiography. |
| Rhaid i mi gyfadde fy mod i wedi mwynhau’n arbennig y llyfrau sydd wedi eu sgwennu gan ddysgwyr ac sydd felly yn medru mynegi sut beth yw bod yn ddysgwr y Gymraeg yng Nghymru heddiw, llyfrau fel Cyffesion Saesnes yng Nghymru gan Sarah Reynolds, Pass the Sugnydd Llwch, Darling gan Rhodri a Lucy Owen efo Mari George a storïau Zoe Pettinger, Croesi’r Bont. Mae hi wedi bod yn bleser gweithio ar lyfrau mor amrywiol a difyr a fedra i ddim disgwyl nes bydd dysgwyr Cymru wedi cael eu dwylo ar y gyfres gyfan. Dw i’n siwr y byddan nhw’n dod â llawer o bleser iddyn nhw wrth eu darllen – a gwella eu Cymraeg ar yr un pryd! | I must confess that I have particulary enjoyed the books which have been written by learners and so are able to express what it is like to be a Welsh learner in Wales today – books like Cyffesion Saesnes yng Nghymru by Sarah Reynolds, Pass the Sugnydd Llwch, Darling by Rhodri and Lucy Owen with Mari George and Zoe Pettinger’s stories, Croesi’r Bont. It has been a pleasure to work with such diverse and entertaining books and I cannot wait for Welsh learners to get their hands on the whole series. I am sure they will find much pleasure in reading them – and improve their Welsh at the same time! |
Rhaid i mi gyfadde fy mod i wedi mwynhau’n arbennig y llyfrau sydd wedi eu sgwennu gan ddysgwyr ac sydd felly yn medru mynegi sut beth yw bod yn ddysgwr y Gymraeg yng Nghymru heddiw.
| Diolch i gymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru, mae cyhoeddi llyfrau Cyfres Amdani wedi bod yn brosiect cyffrous iawn. Y cam cyntaf oedd cynnal sesiwn yn Aberystwyth i ddangos i’r gweisg beth yw’r lefelau iaith yn y Cwricwlwm Cymraeg i Oedolion a faint o bobl sy’n dysgu Cymraeg ar bob lefel. Yn dilyn hynny, penodwyd pedair gwasg i gyhoeddi pum llyfr yr un. | Thanks to the financial support of the Welsh Books Council, publishing the Amdani series of books has been a very exciting project. The first step was to hold a session in Aberystwyth to show the publishers what the language levels are in the Welsh for Adults curriculum and how many people study at each level. Following that, it was decided that four presses should publish five books each |
| Daethon ni i gytundeb gyda Gwasg Prifysgol Caergrawnt y basai’n bosib addasu chwe llyfr ond y peth cyffrous yw bod pedwar ar ddeg o lyfrau gwreiddiol yn cael eu hysgrifennu a bod rhai o’n hawduron gorau yn yr iaith Gymraeg yn rhan o’r prosiect. | We came to an agreement with Cambridge University Press that it would be possible to adapt six books that have been written for language learners, but the exciting thing is that fourteen original books have been written and some of the best writers in the Welsh language are part of the project. |
| Elfen gyffrous arall bod yr awduron sy wedi ysgrifennu’r llyfrau Mynediad a Sylfaen wedi bod yn dilyn yr un patrymau iaith â’r cyrsiau cenedlaethol newydd. Cawson ni ddau weithdy i edrych ar ffurfiau- un yng Nghaerdydd o dan arweiniad Nick Tims sy’n olygydd profiadol ar gyfresi darllen Saesneg i ddysgwyr ac un arall yn Aberystwyth lle buon ni’n gwneud gwaith ymarferol ar fersiynau cynnar o rai o’r llyfrau. Mae hyn yn meddwl y bydd yn bosib darllen y llyfr cyntaf, Am Ddiwrnod! ar ôl wyth uned o’r cwrs Mynediad. Gobeithio’n fawr bod hyn yn golygu bydd dysgwyr yn dechrau darllen yn gynnar iawn ar eu taith ddysgu ac yn parhau i brynu’r llyfrau. | Another exciting element is that authors who have written the Entry and Foundation books have followed the same patterns as the new national courses. We had two workshops to look at forms- one in Cardiff that was led by Nick Times who is an experienced editor for series of books for those learning English, and one other in Aberystwyth where we did practical work on early versions of the books. This means that it is possible to read the first book Am Ddiwrnod! after eight units of the Entry course. Hopefully this means that learners start reading very early in their learners' journey and continue to buy books. |
| Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn hybu’r gyfres yma trwy weithio’n agos gyda thiwtoriaid a dysgwyr ac mae’r Ganolfan yn ddiolchgar iawn i bawb – Y Cyngor Llyfrau, y gweisg a’r awduron – am eu diddordeb mawr yn y gwaith ac am eu gwaith caled yn sicrhau bod y llyfrau yn dod o’r wasg yn brydlon. | The National Centre for Learning Welsh is promoting the books through working closely with tutors and learners and the Centre is very grateful to all- the Welsh Books Council, the presses and the authors- for their large interest and for their hard work to ensure that the books go to press punctually. |
| Rhaid diolch yn arbennig i’r ddau olygydd sy wedi sicrhau bod y prosiect yn rhedeg yn dda – Mair Rees a Rhiannon Tomos. Ymlaen â’r darllen! | I also have to give a very special thanks for the two editors who have ensured that the projects runs well- Mair Rees and Rhiannon Thomas. On with reading! |
Elfen gyffrous bod yr awduron sy wedi ysgrifennu’r llyfrau Mynediad a Sylfaen wedi bod yn dilyn yr un patrymau iaith â’r cyrsiau cenedlaethol newydd.
Six of the twenty books are adaptions of Cambridge English Readers, which is a series of award-winning fiction, written especially for learners of English. From sci-fi to thriller, romance and adventure, language learners are sure to find a title to suit them! Investigate a murder with Detective Flick Laine in Dead Cold, or experience first love with Ikuko in Staying Together. Dodge an attempt on Dan Combes life in A Tangled Web or experience Chee Seng’s growing pains in The Best of Times?.
All the readers combine the highest quality of writing and storytelling with the greatest sensitivity to the learner’s language level, to ensure an enjoyable and successful learning experience. The expert author team made up of professional teachers and writers have correlated all titles to the Common European Framework (CEFR), to ensure that readers encounter the right language at the right level. Download free resources including audio files, worksheets and lesson plans from cambridge.org/cambridge-english-readers.
Cambridge University Press is one of the world’s leading English Language Teaching publishers, offering courses and supplementary materials for learners in all age groups.
Mewn datbylgiad unigryw yng Nghymru, mae pedair wasg wedi dod gyda'n gilydd i gyhoeddi pump llyfr yr un yn y gyfres. Aeth parallel.cymru i ffeindio mas mwy amdanyn nhw...
In an unique development in Wales, four publishers have come together to publish five books each in the series. Parallel.cymru went to find out more about them...
Darn oddi wrth Elen Jones, Cynorthwydd Marchnata a Dylunydd (Marketing Assistant and Designer)
Yn un o brif gyhoeddwyr addysgol Cymru, mae Atebol yn gwmni sy’n arbenigo mewn cyhoeddi llyfrau ac adnoddau amlgyfrwng Cymraeg a dwyieithog i blant a phobl ifanc. Mae’r cwmni hefyd yn darparu gwasanaeth cyfieithu, golygu a phrawf ddarllen proffesiynol.
Sefydlwyd y cwmni yn 2004 gan Glyn a Gill Saunders-Jones a'u meibion, ac mae’r swyddfa wedi’i lleoli ar y fferm deuluol ger Tal-y-bont, Ceredigion.
Cyhoeddir nifer o deitlau i blant dan saith oed yn ddwyieithog, fel bod rhieni di-Gymraeg yn gallu mwynhau darllen gyda’i plant.
Ynghyd â chyhoeddi addasiadau o glasuron Saesneg fel cyfresi Enid Blyton a llyfrau poblogaidd David Walliams, mae Atebol yn awyddus i greu darpariaeth amlgyfrwng wreiddiol drwy gyd-weithio gyda rhai o awduron ac arlunwyr mwyaf dawnus Cymru.
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Atebol wedi bod yn rhan o ddatblygu Cyfres Amdani, sef cyfres newydd o lyfrau i ddysgwyr Cymraeg, ar y cyd â thri chyhoeddwr blaenllaw arall. Mae’r gyfres wedi derbyn ymateb rhagorol ac mae’r llyfrau’n profi’i fod yn boblogaidd iawn.
As one of Wales’ leading educational publishers, Atebol specialises in publishing Welsh and bilingual books and multimedia resources for children and young adults. The company also provides professional translating, editing, and proofreading services.
Atebol was founded in 2004 by Glyn and Gill Saunders-Jones and their sons, and the office is based on the family farm near Tal-y-Bont, Ceredigion.
Several titles for children under seven years of age are published bilingually, so non-Welsh speaking parents can enjoy reading with their children.
Along with publishing adaptations of classic English titles, including the Enid Blyton series and David Walliams’s popular books, Atebol is keen to create a supply of original multimedia resources by working with well-known Welsh authors and illustrators.
During the last few months, Atebol has been part of developing Cyfres Amdani, a new series of books for adults learning Welsh, with three other leading publishers. The series has received an excellent response and the books are proving very popular.
Mae CAA Cymru wedi bodoli am dros 35 mlynedd nawr. Beth yw ei hanes a beth sydd wedi newid dros y cyfnod?
CAA Cymru yw un o gyhoeddwyr addysgol mwyaf blaenllaw a phrofiadol Cymru. Mae’r cwmni yn rhan o Brifysgol Aberystwyth ac wedi bod yn cynhyrchu adnoddau addysgol Cymraeg a Saesneg i blant, pobl ifanc ac athrawon er 1982, gan gyhoeddi dros 2,500 o gyhoeddiadau dros y blynyddoedd.
Mae cyfran helaeth o’n hadnoddau wedi deillio o gomisiynau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y sector addysg – yn llyfrau darllen, gwerslyfrau, CDau, DVDau, gweithgareddau rhyngweithiol, e-lyfrau a capiau. Rydyn ni hefyd yn cynnig gwasanaeth dylunio, golygu a phrawf-ddarllen proffesiynol.
Canolfan Astudiaethau Addysg oedd enw gwreiddiol y cwmni, cyn troi i fod yn Cyhoeddwr Adnoddau Addysg (neu CAA yn fyr). Erbyn hyn, rydyn ni’n cael ein hadnabod fel CAA Cymru, sydd, gobeithio, yn haws i bawb ei gofio a’i ynganu! Mae’r staff presennol wedi bod yn gweithio i’r cwmni ers cyfanswm o dros 80 o flynyddoedd, felly mae digonedd o brofiad ac arbenigedd yn y maes cyhoeddi yn CAA Cymru!
CAA Cymru has been in existence for over 35 years now. What's its history and what has changed over the period?
CAA Cymru is one of Wales's most prominent and experienced educational publishers. The company is part of Aberystwyth University and has been producing educational material in both English and Welsh, for children, young people and teachers, since 1982. Over the years it has produced more than 2500 publications.
A large proportion of the resources we create result from commissions from the Welsh government for material for use in the educational sector - reading books, lesson books, CDs, DVDs, interactive activities, e-books and apps. We also offer professional illustrating, editing and proofreading services.
The original name of the company was Canolfan Astudiaethau Addysg (Centre for Educational Studies), before it was changed to Cyhoeddwr Adnoddau Addysg (Publisher of Educational Resources), or CAA for short. We are now known as CAA Cymru, which is, one hopes, easier for everybody to remember and pronounce! The present staff have been working for the company for a total of more than 80 years, so CAA Cymru has plenty of experience and specialised expertise in the publishing field!
Cyfres Amdani yw'r llyfrau cyntaf i oedolion sy'n dysgu Cymraeg dych chi wedi cyhoeddi. Pa fath o lyfrau ydych chi wedi creu a chyhoeddi hyd yn hyn?
Cyhoeddiadau ar gyfer plant, ysgolion a cholegau yw ein prif farchnad, ond roedd hi’n braf cydweithio â’r tri cyhoeddwr arall i baratoi a chyhoeddi’r llyfrau hyn ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Mae’r llyfrau wedi bod yn hynod boblogaidd hyd yn hyn, a gobeithio y bydd y dysgwyr Cymraeg sy’n eu prynu yn eu mwynhau ac yn eu gweld yn fuddiol.
Dyma flas o’r adnoddau amrywiol eraill sydd wedi’u cyhoeddi gennyn ni dros y blynyddoedd:
The Amdani series are the first books for adult learners you've published. What sort of books have you created and published so far?
Our main market lies in publications for children, schools and colleges, but it was good to work with three other publishers in preparing and publishing these books for the use of adults learning Welsh. The books have been extremely popular so far, and it is hoped that Welsh learners who buy them will enjoy them and see them as useful.
Here is a sample of various other resources which have been published by us over the years:
Mae eich swyddfa ym Mhrifysgol Aberystwyth. Beth yw'r manteision o gael eich lleoli mewn sefydliad mwy?
Mae bod yn rhan o Brifysgol Aberystwyth yn galluogi CAA Cymru i ddilyn y datblygiadau diweddaraf ym myd addysg ac i fanteisio ar yr arbenigedd pwnc sydd ar gael o fewn y sefydliad. Rydyn ni hefyd yn defnyddio adran argraffu’r Brifysgol wrth baratoi deunydd marchnata fel taflennni a llyfrnodau, ac yn cydweithio ag arbenigwyr hawlfraint, yr adran farchnata, ayb. Er enghraifft, rydyn ni’n trefnu gweithgareddau ar stondin Prifysgol Aberystwyth mewn gwyliau fel Eisteddfod yr Urdd, y Sioe Fawr a’r Eisteddfod Genedlaethol.
Your office is based in Aberystwyth University. What are the advantages of being located in a larger organisation?
Being part of Aberystwyth University enables CAA Cymru to follow the latest developments in the world of education and take advantage of the specialist subject knowledge available within the organisation. We also make use of the University's printing department in the preparation of marketing material such as leaflets and bookmarks, and work together with copyright specialists, the marketing department, and so on. For example, we organise activities on Aberystwyth University's stall at festivals such as the Urdd Eisteddfod, the Sioe Fawr (Royal Welsh Show) and the National Eisteddfod.
Pa lyfrau/adnoddau eraill sydd gyda chi sy’n addas ar gyfer oedolion sydd yn gwella eu Cymraeg?
Mae gennym ni nifer o gyhoeddiadau defnyddiol i unigolion sy’n awyddus i wella eu Cymraeg – yn eu plith, dwy gyfrol gan Non ap Emlyn, sef:Y Chwiliadur Iaith, llyfr A4 sy'n egluro pwyntiau gramadegol ac yn dangos enghreifftiau o batrymau yn gryno ac yn eglur; a Golwg ar Iaith – llyfr A5 gwerthfawr sy'n canolbwyntio ar wella gramadeg Cymraeg ac sy’n cynnwys ymarferion ac atebion, help ymarferol a syniadau am ble i gael mwy o wybodaeth.
Wrth gwrs, mae llyfrau i blant hefyd yn fan cychwyn gwych wrth ddysgu Cymraeg os oes gennych chi deulu ifanc, ac mae gennym ni lyfrau darllen di-ri y gallech chi eu darllen gyda’ch plant neu eich wyrion/wyresau! Mae mwy o fanylion amdanon ni a’n cyhoeddiadau ar ein gwefan: www.aber.ac.uk/cy/caa/
What other books/resources do you have that are suitable for adults wishing to improve their Welsh?
We have a number of useful publications for individuals keen to improve their Welsh – among them, two volumes by Non ap Emlyn, i.e. Chwiliadur Iaith (Language Enquirer), an A4 book that explains grammatical points giving compact and clear examples of patterns; and Golwg ar Iaith (Language Overview) – an A5 book with an emphasis on improving Welsh grammar, containing exercises and answers, practical help and ideas on where to get more information.
Of course, the books for children are also an excellent starting point for learning Welsh if you have a young family, and we have countless books that you can read with your children or grandchildren! There are more details about us and our publications on our website www.aber.ac.uk/en/caa/
Gomer yw'r wasg hynaf yng Nghymru. Beth yw'r stori am sut y cafodd ei chreu?
Sefydlwyd Gwasg Gomer yn ôl ym 1892 fel gwasg argraffu yn Llandysul gan John David Lewis. Roedd wedi cael ei ysbrydoli gan lwyddiant siop ei dad wrth dyfu fyny yn y dref. Argraffwyd y llyfr cyntaf gan y cwmni yn 1894, a hynny oedd Hanes Plwyf Llandysul. Ar ôl i John David Lewis farw, trosglwyddwyd y cwmni i’w feibion a dyma dueddiad sydd wedi goroesi i’r dyddiau hyn. Mae’r cwmni bellach yn cael ei reoli gan bedwaredd cenhedlaeth y teulu Lewis. Hyd at 1945, roedd Gwasg Gomer yn gwmni argraffu yn unig, ond newidiodd pethau pan brynwyd Gwasg Aberystwyth yn ystod y flwyddyn honno, ac mae ochr gyhoeddi’r busnes yn dal i fynd o nerth i nerth hyd heddiw.
Mae argraffdy Gwasg Gomer dal yn Llandysul; ond yn 2004, symudodd y busnes o’i gartref ers 112 o flynyddoedd i safle newydd pwrpasol a adeiladwyd ar gyrion y dref er mwyn parhau i ehangu a datblygu. Mae gan ochr cyhoeddi’r cwmni gartref newydd mewn swyddfa yng Nghaerfyrddin.
Gomer is the oldest press in Wales. What's the story about how it was created?
Gomer Press was founded in 1892 as a printing house in Llandysul by John David Lewis. He was inspired by the success of his father's shop while he grew up in the town. The company printed its first book in 1894, that was the History of Llandysul Parish. After John David Lewis died, the company transferred to his sons and this is a trend that has survived to the present day. The company is now run by the fourth generation of the Lewis family. Until 1945 Gomer Press was a printing company only, but things changed when they bought Aberystwyth Press in that year, and the publishing side of the business is still going from strength to strength today.
The publishing house Gomer Press is still in Llandysul, but in 2004 the business moved from its home of 112 years to a new purpose-built site on the outskirts of the town in order to continue to expand and develop. The publishing side of the company has a new home at an office in Carmarthen.
Mae Gomer yn cyhoeddi dros 36 o lyfrau bob blwyddyn. Sut dych chi'n dewis beth i argraffu?
Mae Gomer yn cyhoeddi o leiaf 12 o lyfrau Saesneg a 24 o lyfrau Cymraeg bob blwyddyn. Mae gennym ni dîm o bedwar golygydd sydd yn derbyn llyfrau dichonol trwy’r amser. Mae’n rhaid iddynt benderfynu pa lyfrau yr ydym am eu cyhoeddi neu beidio ac wedyn mae’r syniad yn mynd o flaen y pennaeth cyhoeddi sydd yn dechrau’r prosiect.
Gomer publishes over 36 books each year. How do you choose what to print?
Gomer prints are least 12 English books and 24 Welsh books each year. We have a team of four editors who receive potential books all the time. We have to decide which books we want to publish or not and then the idea goes in front of the head of publishing who starts the project.
Yn ychwanegol i gomisiynu a golygu llyfrau, mae gwasg argraffu gyda chi - ac mae'n newydd sbon. Pa fath o bethau ydych chi'n gallu eu creu nawr?
Mae Gwasg Gomer yn arbenigwyr argraffu a rhwymo llyfrau. Gallwn ni greu llyfrau lliw-llawn, dau liw a mono gyda chloriau caled a meddal ynghyd â lamineiddio a blocio ffoil i gyd oddi ar yr un safle. Mae ein gwasg newydd yn gallu sychu’r inc yn gyflymach sydd yn ein galluogi i argraffu mwy o lyfrau. Rydym yn derbyn jobiau argraffu o sawl cwsmer allanol ac rydym yn falch iawn o safon y gwaith yr ydym yn ei greu.
In addition to commissioning and editing books you have a physical printing press- and it's brand new. What sort of things can you create now?
Gomer Press are specialists in printing and binding books. We can create full-colour books, two colour and mono, with hard and soft covers along with laminating and foil stamping all on the same site. Our new press can ensure the ink dries quickly and that allows us to print more books. We receive printing jobs from several external customers and we are very pleased with the standard of work that we create.
Cyfweliad â Gwenllian Jones, Pennaeth Marchnata (Head of Marketing)
Mae'r Lolfa yn bodoli am dipyn bach mwy na 50 o flynyddoedd nawr. Beth yw'r stori am sut y cafodd ei chreu? Beth sydd yn gwneud y Lolfa yn unigryw?
Sefydlwyd Y Lolfa yng nghanol y chwedegau, mewn cyfnod cyffrous pan oedd cenhedlaeth o Gymry ifainc yn credu mewn chwyldro ac mewn ymestyn yr iaith i bob ffrwd o fywyd. Pethau go ddiflas oedd llyfrau Cymraeg ar y pryd ac roedd yn rhan o weledigaeth Y Lolfa i greu math newydd o gyhoeddi bywiog a heriol — yn gardiau doniol a phosteri pop yn ogystal â llyfrau.
Yn raddol ehangodd y cwmni mewn maint ac mewn cynnyrch gan arloesi â chyfresi poblogaidd fel Y Llewod, Rwdlan a Chyfres y Beirdd Answyddogol. Dechreuodd hefyd gyhoeddi llyfrau Saesneg i ddysgwyr ac ymwelwyr. Ond blaenoriaeth y cwmni, fel heddiw, oedd sbarduno creadigrwydd Cymreig a Chymraeg.
Mae’r Lolfa, hefyd, wastad wedi cofleidio technoleg newydd. Yn y chwedegau, fe fanteisiodd ar y rhyddid creadigol a gynigai’r dull ffoto-litho o argraffu. Yn y nawdegau, fe groesawodd y chwyldro digidol: hi oedd y wasg gyntaf yng Nghymru i gael ei gwefan ei hun.
Porwch drwy’r wefan hon i weld yr amrywiaeth mawr o lyfrau sy’n llifo o’r peiriannau heddiw. Fel y gwelwch, yr un yw’r weledigaeth o greu deunydd bywiog a gwreiddiol fydd yn herio’r Gymru gorfforaethol sydd ohoni ac yn paratoi’r ffordd ar gyfer gwlad a fydd yn feddyliol a gwleidyddol rydd.
Yr hyn sydd yn gwneud Y Lolfa yn arbennig yw'r ffaith ein bod ni'n cyhoeddi ystod eang o lyfrau, dros 70 mewn blwyddyn: Cymraeg, Saesneg, Ffuglen, Ffeithiol ac i blant. Rydyn ni'n ceisio sicrhau bod yna lyfrau Cymraeg am y pynciau sydd yn cael eu trafod yn y byd ac yn argraffu llyfrau sydd yn fudd i Gymru a'r Gymraeg fel Blodau Cymru gan Goronwy Wynne. Yn ogystal, mae gennym bolisi o beidio â chyhoeddi cyfieithiadau o lyfrau plant. Mae'n holl llyfrau i blant - Y Llewod, Gwlad y Rwla, Alun yr Arth, a Na, Nel! i enwi ond nifer fechan - yn rhai gwreiddiol Cymraeg a Chymreig - mae hyn yn bwysig iawn i ni fel gwasg.
Meddai Garmon Gruffudd, Rheolwr Gyfarwyddwr y wasg: "Y prif reswm dros ein llwyddiant dros yr hanner canrif yw ansawdd ein staff - eu profiad a'u sgiliau a'u brwdfrydedd ar yr ochr gyhoeddi ac argraffu – ac mae'r ddwy ochr o waith y wasg wastad wedi asio'n dda iawn".
O ran cyhoeddi llyfrau oedolion, y nod yw i gyhoeddi llyfrau sydd yn annog meddwl annibynnol a Chymreig: "Yr un hefyd yw nod y wasg heddiw ag o'r blaen. Mae hwn hefyd yn gyfnod o gyffro a newid mae'r angen yn fwy nag erioed i annog agweddau meddwl annibynnol, creadigol, Cymreig" ychwanegodd Robat.
Y Lolfa has been in existence for a little over 50 years now. What's the story about how it was created? What makes Y Lolfa unique?
Y Lolfa was established in the mid-sixties, an exciting period of fun and protest when a young Welsh generation believed in the power of revolution and wanted to extend the language to every part of life. Welsh books were, at the time, fairly dull and it was an integral part of Y Lolfa’s vision to create a new kind of publishing that would be lively and challenging – from cards and posters to books.
The company evolved gradually, producing an ever-widening range of popular books in both Welsh and English – including a range of books for learners. The company acted as unofficial printers to the new, activist Welsh Language Society, while also producing its own irreverent brand of popular and political material, including the satirical magazine Lol (meaning 'fun' or 'nonsense'), from which the company's name was derived. But the company’s priority, as it remains today, was to inspire Welsh creativity.
Y Lolfa has always embraced new technologies. In the sixties it revelled the artistic freedom offered by photo-litho and in the nineties welcomed the digital revolution and was the first Welsh publishing company to have a website. Y Lolfa now has five-colour and perfector presses with half its turnover coming from commercial print work.
Browse our website to see the great range of books that flow from our printers today. In a world dominated by large corporations and bureaucracies, Y Lolfa believes that 'small is beautiful' in publishing as in life. It was Andre Gide who said, "I like small numbers. I like small nations. The world will be saved by the few."
Y Lolfa publishes a wide variety of books, over 70 in a year: Welsh, English, Fiction, Factual and children's books. We try and ensure that there are Welsh books that cover the topics covered in the wider world and publish books that benefit Wales and the Welsh language, such as Blodau Cymru by Goronwy Wynne. We also have a policy of not publishing translations of children's books. All of our children's books - Y Llewod, Gwlad y Rwla, Alun yr Arth and Na, Nel! to name but a few - are original Welsh titles - this is very important to us as a publisher. In regards to publishing books for adults, the aim is to publish books which encourage independent and Welsh thought.
Robat Gruffudd, the company’s founder, said: “The same aim is true today as it was at the start. This is again a period of excitement and change and there is an ever-growing need to encourage independent, creative thought within Wales”.
Garmon Gruffudd, the publisher's managing director says: "The main reason for our success over the past fifty years is the quality of our staff - their experience, skills and enthusiasm on the publishing side as well as the printing side - both sides of the company are cemented together very well”.
Mae rhai o lyfrau Y Lolfa i ddysgwyr wedi gwerthu dros 100,000 o gopiau, ee llyfrau Heini Gruffudd. Beth sydd yn denu dysgwyr i lyfrau Y Lolfa?
Mae nifer o lyfrau'r Lolfa sydd wedi'u hanelu at ddysgwyr wedi bod yn boblogaidd tu hwnt. Mae nifer o'r rhai yma wedi'u hysgrifennu gan Heini Gruffudd. Mae gwerthiant Welsh is Fun! (gan Heini Gruffudd a'r darluniau gan Elwyn Ioan) yn hynod, cyhoeddwyd yn 1971 ac erbyn hyn mae wedi'i ail argraffu degau o weithiau. Yn ogystal â llyfrau gwersi, mae'r Lolfa yn cyhoeddi nifer o lyfrau sydd yn helpu dysgwr bob dydd - The Welsh Learner's Dictionary, Welsh for Parents a Welsh in your Pocket.
Dyma pam rydym mor hapus i fod yn rhan o brosiect Amdani, mae'r cyfrolau sydd yn cael eu cyhoeddi’n wych ac yn siŵr o fod o fudd enfawr i ddysgwyr. Fe brofwyd bod darllen am bleser am yr iaith yr ydych yn ei ddysgu yo gymorth mawr i ddysgu'r iaith yn rhugl.
Some of Y Lolfa's books for learners have sold over 100,000 copies, for example Heini Grufudd's. What attracts learners to Y Lolfa's books?
A number of Y Lolfa's books aimed at Welsh learners have been extremely popular. A large number of these have been written by Heini Gruffudd. Sales of Welsh is Fun! (by Heini Gruffudd and cartoons by Elwyn Ioan) are brilliant; it was published in 1971 and by today it has been reprinted tens of times. Y Lolfa has also published a large selection of books aimed to help Welsh learners on a daily basis - The Welsh Learner's Dictionary, Welsh for Parents and Welsh in your Pocket.
This is why we are very happy to be part of the Amdani project; the books being published are brilliant and are sure to be of great help to learners. It has been proven that reading for pleasure in the language that you're learning is a big help towards being fluent in the language.
Mae'r Lolfa yn gwneud llawer i farchnata eu llyfrau. Beth sydd yn bwysig i helpu pobl i ddarganfod a datblygu diddordeb mewn darllen eich llyfrau?
Mae annog pobl a phlant i ddarllen yn bwysig iawn i'r Lolfa. Ein bywoliaeth ni yw llyfrau wrth gwrs, ond hefyd rydym i gyd yn mwynhau darllen ac am rannu'r profiad a mwynhad yma gydag eraill. Mae'r dewis o lyfrau sydd ar gael mor eang, dylai fod rhywbeth at ddant pawb! Mae’n bwysig meithrin sgwrs am lyfrau, ac mae’n grêt pan mae ‘na ddisgwyl brwdfrydig yn sôn am un o’n llyfrau - mae’n golygu bod Y Lolfa yn gwneud rhywbeth yn iawn!
Mae marchnata llyfrau wedi dod yn fwyfwy pwysig. Mae’r byd modern yn llawn o luniau a geiriau a sŵn pobl a chwmniau yn ceisio gwerthu. Mae’n bwysig torri drwy hyn i gyd a thynnu sylw at ein nwyddau - y llyfrau newydd a’n catalog o lyfrau o’r gorffennol.
Mae nifer o raglenni teledu a radio’n adolygu llyfrau, ynghyd â chylchgronau a phapurau newydd - mae nifer o gylchgronau newydd Cymraeg wedi eu sefydlu yng Nghymru’n ddiweddar ac mae hyn yn galonnog iawn ac yn arwydd o fywiogrwydd. Ffordd fwy uniongyrchol o farchnata erbyn hyn ydy’r cyfryngau cymdeithasol - mae Trydar, Facebook ac Instagram yn ffordd dda o dargedu’r bobl sydd wedi dangos diddordeb yn Y Lolfa, a’u diweddaru gyda newyddion a gwybodaeth am lyfrau newydd.
Y Lolfa does a lot to market their books. What is important to help people discover and develop an interest in reading your books?
Encouraging people and children to read is very important to Y Lolfa. Books are our livelihood of course, but also we all enjoy reading and want to share this experience and enjoyment with others. The choice of books available is wide, there should be something to suit everyone! It's important to encourage discussion about books, and it's great when there's excitement towards the publication of a book, it shows that Y Lolfa is doing something right!
Marketing books has become more important over the years. The modern world is full of pictures, words and noise from people and companies trying to sell. It's important to cut through this and get attention for the books - both new and our catalogue of books from the past.
A number of television and radio programmes review books, as well as magazines and newspapers - there have been a few new Welsh magazines established recently, which is very encouraging and a sign of vibrancy and activeness. A more direct way of marketing by now is social media - Twitter, Facebook and Instagram are good ways of targeting the people who have shown an interest in Y Lolfa, and to update them with news and information regarding our new books.
Gaeth Pegi Talfryn ei geni a'i magu yn yr Unol Daleithiau, symudodd hi i Gymru ac wedyn dysgu Cymraeg, dechrau gyrfa newydd fel tiwtor a bellach mae hi'n awdures! Ei llyfr llawn cyntaf yw Gangsters yn y Glaw, nofel noir wedi'i lleoli yng Nghaernarfon a rhan o'r Gyfres Amdani. Yma, mae hi'n siarad â Sam Brown o Wasg Gomer am y llyfr.
Pegi Talfryn was born and brought up in the United States, has moved to Wales, learnt Welsh, started a new career as a tutor and now she is an author! Her first full book is Gangsters yn y Glaw, a noir novel set in Caernarfon and part of Cyfres Amdani. Here, she speaks with the Sam Brown of Gomer Press about the book.
Awdures: Pegi Talfryn
Publisher: Gomer
Price: £4.99
Language: Simple Welsh, with vocabulary at the bottom of each page.
Level: Mynediad / Entry
| Dim un o Gymru wyt ti yn wreiddiol – DWYT ti ddim hyd yn oed yn dod o Brydain – o le wyt ti’n dod? | You are not someone originally from Wales – in fact you are not even from Britain – where are you from? |
| Dw i’n dod o Seattle, yn yr Unol Daleithiau. | I'm from Seattle, in the United States. |
| Beth wnaeth dy atynnu at Gymru? Roedd rhywbeth arbennig am Gymru roedd yn rhaid i ti ei weld? | What attracted you to Wales? Was there something special about Wales that you had to see? |
| Mi wnes i ddod o hyd i Gymru drwy ddarllen chwedlau o dros y byd a llyfrau ffantasi. Penderfynais i fynd i’r brifysgol (Coleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan) yng Nghymru er mwyn cael profiad hir yn y wlad. | I discovered Wales through reading stories from across the world and books of fantasy. I decided to go to university in Wales (St David's College, Lampeter) in order to gain a deep experience of the country. |
| Beth am yr iaith, wyt ti’n cofio dy brofiad cyntaf efo’r iaith Gymraeg? Beth oeddet ti’n meddwl amdani hi pryd hynny? Oedd amser penodol pan oeddet ti’n gwybod bod yn rhaid i ti ddysgu’r iaith? | What about the language, do you remember your first experience with Welsh? What did you think of it at that time? Was there a particular time when you knew you were going to have to learn the language? |
| Roedd dysgu Cymraeg yn fwriad gen i o’r cychwyn, er don i ddim wedi clywed yr iaith nes i mi ddod i Gymru (yn y dyddiau cyn y we byd-eang!) Roedd dysgu Cymraeg yn rhan o fy nghwrs i, gyda gwersi ddwywaith yr wythnos. | My intention right from the start was to learn Welsh, although I had never heard the language spoken until I came to Wales (in the days before the World Wide Web!). Learning Welsh was part of my course, with lessons twice a week. |
| Sut oedd y profiad o ddysgu Cymraeg? | How was your experience of learning Welsh? |
| Ar ôl gwneud blwyddyn yn y brifysgol es i i un o’r Wlpanau cyntaf, pan oedd rhaid astudio 8 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos am ddau fis. Roedd un person wedi gadael efo ‘nervous breakdown’. Hefyd roedd disgwyl i’r dysgwyr gymdeithasu yn y dafarn bob nos, gan gario taflenni caneuon. Roedd hi’n drwm iawn. | After doing a year at the university I went to one of the first Ulpans, when one had to study eight hours a day, seven days a week for two months. One person had left with a nervous breakdown. In addition, learners were expected to get together in the pub each night, carrying songsheets. It was very hard work. |
| Ti bellach yn diwtor Cymraeg- pam wnest ti benderfynu mynd o fyfyriwr i athro? | You are now a Welsh-language tutor- what made you decide to go from student to teacher? |
| Mi es i’n diwtor yn syth ar ôl bod ar yr Wlpan. Awgrymodd ffrind y baswn i’n gwneud tiwtor da, felly dechreuais i ddysgu dosbarth nos. | I became a tutor straight after being on the Ulpan. A friend suggested that I would make a good tutor, so I began to teach an evening class. |
| Oedd yn wahanol wrth ddechrau o flaen y dosbarth am y tro cyntaf? | Was it different at the start being in front of the class for the first time? |
| Dw i erioed wedi bod yn berson swil, ac ron i’n teimlo’n eithaf hyderus o flaen dosbarth. Wedi dweud hynny, mae’n siŵr mod i’n diwtor ofnadwy yn y dechrau. | I had never been a shy person, and I felt quite confident in front of a class. That said, I'm sure that I was a terrible tutor to begin with. |
| Pa fath o swyddi wyt ti wedi eu gwneud? | What kind of jobs have you done? |
| Cyfieithu/teipio Hyfforddi yn athrawes babanod Cael plant ac ail-gydio yn y dysgu oedolion Creu cwrs Cymraeg i Rieni i’r WEA (CAG) Ysgrifennu cwrs i Gynorthwy-wyr Dosbarth Gweithio i sawl corff yn dysgu, creu cyrsiau ayb. Gweithio ar fy liwt fy hun eto yn ysgrifennu cyrsiau, marchnata, ansawdd, ac wrth gwrs ysgrifennu llyfrau erbyn hyn. | Translation/typing Training as a nursery school teacher Having children and getting back to teach adults Creating a Welsh for Parents course for the WEA (CAG) Writing a course for Teaching Assistants Working for many organisations teaching, creating courses etc Working on my own account writing courses, marketing, quality and of course now writing books. |
| Felly, ac eithrio dysgu ac ysgrifennu yn Gymraeg, beth arall wyt ti’n licio ei wneud yn dy amser sbâr? | So, apart from teaching and writing in Welsh, what else do you like to do in your spare time? |
| Dw i’n byw yn ardal Eryri, felly dw i’n mwynhau mynd am dro hir. Dw i’n darllen. Dw i’n mwynhau canu. Dw i’n aelod o’r côr lleol a hefyd dw i’n cael gwersi canu preifat (wedi pasio Gradd 5). Ar hyn o bryd dw i’n dysgu Iseldireg. Ar ôl astudio gartref am ryw flwyddyn bues i ar gwrs preswyl Iseldireg yr haf diwethaf, a dw i’n paratoi i fynd eto ym mis Gorffennaf. | I live in Snowdonia, so I enjoy going for long walks. I read. I enjoy singing. I am a member of the local choir and I also take private lessons (I have passed Grade 5). At the moment I'm learning Dutch. After studying at home for some years I went on a Dutch residential course last summer, and I am preparing to go again in July. |
| Mae’r llyfr yn cynnwys siop lyfrau yng Nghaernarfon- ydy’n seiliedig ar siop go iawn? | The book features a bookshop in Caernarfon- is it based on a real bookshop? |
| Rôn i yn siop lyfrau Palas Print yn dweud wrth y perchennog Eirian, mod i wedi cael comisiwn ysgrifennu llyfr i ddysgwyr. Buon ni’n sôn am y diffyg llyfrau i ddysgwyr yn iaith y gogledd sy’n digwydd yn y gogledd. Yn sydyn, dywedais wrthi hi efallai y basa siop lyfrau yn lleoliad da ar gyfer stori dditectif. Mi gytunodd ar y pryd, ond dw i ddim yn gwybod a oedd hi’n cofio. Mi es i i’r siop ryw bythefnos yn ôl i ddweud bod y llyfr yn dod allan! | I was in the Palas Print bookshop saying to the owner Eirian that I had had a commission to write a book for learners. We were talking about the lack of books for learners written in the language of the north and taking place in the north. All at once I said to her that perhaps a bookshop would be a good setting for a detective story. I went to the shop some weekends ago to say that the book was coming out! |
| Beth am y cymeriadau? Oes Lilith go iawn? Oes Elsa? | What about the characters? Is Lilith real? Is Elsa? |
| Yn anffodus, does dim Lilith, er fy mod wedi dod yn hoff iawn ohoni hi. Mae Elsa’n gyfuniad o’r holl dditectifs clasurol. Mi faswn i’n hoffi meddwl ei bod hi’n fersiwn fenywaidd o Philip Marlow (Raymond Chandler) a Sam Spade (Dashiell Hammelt) . Mae’n bwysig iawn i mi gael merched cryf sy’n mynd tu hwnt i’r disgwyliadu arferol. | Unfortunately there is no Lilith, although I would have been very fond of her. Elsa is an amalgamation of all the classic detectives. I would like to think of her as a female version of Raymond Chandler's Philip Marlow and Dashiell Hammett's Sam Spade. It is very important to me to have strong women who surpass normal expectations. |
| Pa awduron wnaeth dy ysbrydoli i ysgrifennu’r llyfr? | What authors inspired you in writing the booK? |
| Ar ben Raymond Chandler a Dashiell Hammett dw i’n hoffi Agatha Christie a straeon Sherlock Holmes. Hefyd mae llawer o hen, hen lyfrau ditectif gan y Llyfrgell Brydeinig a dw i wedi darllen bob i bob un ohonyn nhw ar y Kindle! Dw i’n hoffi Patricia Cornwel, sydd wedi gwneud y gyfres fforensig am Kate Scarpetta, sy’n dangos merch gref a deallus yn gwneud gwaith dadansoddi’n effeithiol. | Apart from Raymond Chandler and Dashiell Hammett I like Agatha Christie and the Sherlock Holmes stories. In addition there are many very old detective novels in the British Library and I have read every one of them on Kindle! I like Patricia Cornwell, who has created the forensic detective series featuring Kay Scarpetta, showing a strong intelligent woman doing analytical work effectively. |
| Mae’r nofel yn cymysgu elfennau noir efo’r byd modern a’r Cymry Cymraeg- oedd dyma sialens i ti? | The novel mingles elements of noir with the modern world and Welsh-speaking Wales- was this a challenge for you? |
| Dw i wedi ysgrifennu straeon tebyg i ddysgwyr o’r blaen, achos mod i mor hoff o’r ‘genre’, felly mae’n hwyl i gyfuno’r ddau. | I have written similar stories for learners before, because I am very fond of the genre, so I had fun amalgamating the two. |
| Dydy cymeriad Elsa ddim wastad yn licio tref Caernarfon, ai dyma adlewyrchiad o deimladau dy hun am y dref? | The Elsa character does not always like the town of Caernarfon: is this a reflection of your own feelings about the town? |
| Mae Elsa’n dweud bod hi ddim yn hoffi Caernarfon. Ond mae hynny’n rhan o’r ‘genre’. Mae’r ditectif bob tro’n dweud fod o ddim yn hoffi’r dref a’r cymeriadau, ond mewn gwirionedd mae o – neu hi – yn hoff iawn ohonyn nhw. Dyna pam mae hi’n aros yn y dref, a dyna pam mae hi bob tro’n gwneud ei gorau i helpu pobl. | Elsa says that she doesn't like Caernarfon. But that's part of the genre. The detective says every time that he doesn't like the town and the characters, but in actual fact he – or she – is very fond of them. That is why she stays in the town, and that is why she always does her best to help people. |
| Sut profiad gest ti wrth ysgrifennu ar gyfer dysgwyr? Oedd yn anodd i ti addasu dy iaith ar gyfer lefel penodol? Oedd yn help fod ti wedi dysgu’r iaith dy hun? | What was it like for you writing for learners? Was it hard to adapt your language to a particular level? Did it help you having taught the language yourself? |
| A bod yn onest, doedd hi ddim yn llawer o broblem i mi. Dw i wedi bod yn ysgrifennu straeon i helpu dysgwyr ddefnyddio’r patrymau maen nhw’n eu dysgu yn y gwersi ers blynyddoedd. Mae’n rhaid bod yn ymwybodol iawn o bob gair a chystrawen maen nhw wedi’u dysgu, er mwyn creu stori lwyddiannus. Profiad, yn fwy na bod yn ddysgwr ai peidio, sydd yn helpu ysgrifennu stori lwyddiannus. | To be honest, it wasn't much of a problem for me. I have been writing stories for years to help learners use the patterns that they learn in the lessons. To create a successful story, one has to be very mindful of every word and construction that they have learned. It's experience, rather than having been a teacher or not, that helps one to create a successful story. |
| Dyweda dipyn am y tîm roeddet ti’n gweithio â nhw (Nia Parry, y Cyngor Llyfrau Cymru, ayyb). | Tell us a little about the team that works with you (Nia Parry, the Welsh Books Council, and so on) |
| Dw i wedi gwneud dau lyfr ar gyfer y gyfres, un yn gyfieithiad ar gyfer dysgwyr lefel Canolradd a’r nofel wreiddiol hon. Roedd cyfieithu’n dipyn o her (ond hwyl) , ac ysgrifennu Elsa’n ddigon o hwyl. Dw i ddim wedi gwneud llawer gyda’r Cyngor Llyfrau’n uniongyrchol, ond dw i’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am noddi’r gyfres. Roedd angen rhywbeth tebyg ers talwm iawn. Dw i wedi nabod Nia fel ffrind ers blynyddoedd. Roedd hi’n hawdd iawn gweithio gyda hi fel golygydd ac mae hi wedi rhoi pob cefnogaeth i’r gwaith. | I have done two books for the series, one a translation for learners at the Intermediate level and one an original novel. The translation was a bit of a challenge (but fun), and writing Elsa a lot of fun. I have not done much with the Books Council directly, but I am very grateful to them for sponsoring the series. There has been a need for something of the kind for a very long time. I have known Nia as a friend for years. It was very easy working with her as the editor and she has given the work every support. |
| Mae’r llyfr yn llawn lluniau trawiadol- wyt ti eisiau dweud tipyn i ni am beth sy’n digwydd yn y rheiny? | The book is full of striking illustrations- do you want to tell us a bit about what happened with those? |
| Dw i’n ddiolchgar iawn i Hywel Griffith am greu’r naws ron i eisiau. Mae’r clawr yn adlewyrchu steil yr hen lyfrau ditectif, gyda llawer o gysgodion. | I am very grateful to Hywel Griffith for creating the feel that I wanted. The cover reflects the style of the old detective books, with plenty of shadows. |
| Wyt ti’n licio llyfrau trosedd fel rheol? | Do you like crime books as a rule? |
| Does dim ffordd well i ymlacio na darllen llyfr ditectif – yn enwedig os oes rhywun yn cael ei ladd! | There is no better way of relaxing than with a detective book – especially if someone gets murdered! |
| Mae’r stori yn gorffen efo tipyn o cliff hanger – ydan ni’n gallu disgwyl clywed mwy am Dditectif Elsa B a’r Lilith ddrwg? | The story ends with a bit of a cliff-hanger - can we expect to hear more of the Detective Elsa B and the wicked Lilith? |
| Wrth gwrs mae hynny’n dibynnu ar Wasg Gomer a’r Cyngor Llyfrau. Mi faswn i wrth fy modd yn ysgrifennu mwy o lyfrau Elsa Bowen. Dw i wedi ysgrifennu dwy stori arall yn barod ar gyfer dysgwyr Popeth Cymraeg, ac wedi cyfieithu un i’r Iseldireg! | That depends of course on Gomer Press and the Books Council. I would be delighted to write more Elsa Bowen books. I have written two other stories ready for the use of Popeth Cymraeg learners, and have translated one into Dutch! |
Mi wnes i ddod o hyd i Gymru drwy ddarllen chwedlau o dros y byd a llyfrau ffantasi. Penderfynais i fynd i’r brifysgol (Coleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan) yng Nghymru er mwyn cael profiad hir yn y wlad.
Ar ôl blynyddoedd yn gweithio i wahanol gyrff ym maes Cymraeg i Oedolion, sefydlodd Pegi Talfryn ei chwmni ei hun yn 2016 o’r enw Deialog. Yn ychwanegol i ysgrifennu Gangsters yn y Glaw ac addasu Gêm Beryglus, mae hi wedi ysgrifennu’r cyrsiau Cymraeg ar gyfer Cynorthwy-wyr Dosbarth (Coleg Llandrillo), Cwrs Cenedlaethol Cymraeg i Rieni 1 a 2 (CAG) a Chwrs Cymraeg Llafar 2 a 3 (Popeth Cymraeg).
After years of working for different bodies yn the Welsh for Adults field, Pegi Talfryn has been working independently since 2016 under the name Deialog. In addition to writing Gangters yn y Glaw and adapting Gêm Beryglus, she has written the courses Welsh for Classroom Assistants (Coleg Llandrillo), National Course Welsh for Parents 1 and 2 (WEA) and Year 2 and 3 Coursebook (Popeth Cymraeg).
Gallwch chi gysylltu â Pegi i drafod gwaith at pegi.talfryn@gmail.com / You can contact Pegi to discuss work at pegi.talfryn@gmail.com.
