Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru
Parc Cenedlaethol Eryri (‘tir yr [simple_tooltip content=’eagle’]eryr[/simple_tooltip]’) yw’r [simple_tooltip content=’third’]trydydd[/simple_tooltip] parc cenedlaethol mwya ym Mhrydain. Mae’n [simple_tooltip content=’extend’]ymestyn[/simple_tooltip] o Fae Ceredigion yn y Gorllewin i Ddyffryn Conwy yn y Dwyrain ac o’r Afon Dyfi yn y De hyd at dref Conwy yn y Gogledd. Mae llawer o drefi a phentrefi adnabyddus yn y Parc – Beddgelert, Aberdyfi, Tywyn, Cricieth, Y Bala, Betws y Coed, Llanberis, Bethesda, Rhyd Ddu a Blaenau Ffestiniog i enwi ond rhai.
Mae’r Parc yn [simple_tooltip content='(to) attract’]denu[/simple_tooltip] ymwelwyr o bob cwr o’r byd trwy gydol y flwyddyn – ond pam?
Y Mynyddoedd
Mae’r Parc yn enwog am ei fynyddoedd – [simple_tooltip content=’Snowdon’]Yr Wyddfa[/simple_tooltip] (mynydd uchaf Cymru a Lloegr), Cadair Idris, Crib y Ddysgl, Carnedd Dafydd a’r Glyder Fawr i enwi ond rhai. Yn wir, mae mwy na 90 copa dros 2,000 o droedfeddi a 15 [simple_tooltip content=’summit’]copa[/simple_tooltip] dros 3,000 [simple_tooltip content=’feet (measurement)’]o droedfeddi[/simple_tooltip]! Mae’r ffosiliau [simple_tooltip content=’shells’]cregyn[/simple_tooltip] ar ben Yr Wyddfa yn [simple_tooltip content='(to) prove’]profi[/simple_tooltip] i’r mynyddoedd yma fod o dan y môr [simple_tooltip content=’a long time ago’]amser maith yn ôl[/simple_tooltip]! Ond os dydych chi ddim yn mwynhau mynydda, beth am ddal trên bach ‘Yr Wyddfa’, sy’n mynd i fyny ac i lawr y mynydd bob dydd. Mae canolfan groeso newydd sbon ar y copa.

Y Llynnoedd
Mae dros gant o lynnoedd yn y Parc, o Lyn Ogwen yn y gogledd i Dal-y-llyn yn y de. Llyn Tegid ger tref y Bala yw’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru. Dyna leoliad Gwersyll yr Urdd Glan-llyn. Mae’r llynnoedd yn boblogaidd [simple_tooltip content=’extremely’]dros ben[/simple_tooltip] gyda’r rhai sy’n hoff o chwaraeon dŵr.
Bywyd Gwyllt
Mae [simple_tooltip content=’variety’]amrywiaeth[/simple_tooltip] o [simple_tooltip content=’planhigion = plants’]blanhigion[/simple_tooltip] ac anifeiliaid pwysig yn y Parc. Mae’r blodyn Lili’r Wyddfa sy’n tyfu ar ben y mynyddoedd yn [simple_tooltip content=’unique’]unigryw[/simple_tooltip] i’r Parc. Hefyd, Llyn Tegid ydy’r unig le yn y byd ble mae’r gwyniad (pysgodyn o’r [simple_tooltip content=’Ice Age’]Oes Iâ[/simple_tooltip] diwetha tua 10,000 mil o flynyddoedd yn ôl) yn byw. [simple_tooltip content=’Warning’]Rhybudd[/simple_tooltip] – os daliwch chi un, peidiwch â’i fwyta. Dyw e ddim yn flasus o gwbl!!
Atyniadau
Mae’r trenau bach yn y Parc yn [simple_tooltip content='(to) date’]dyddio[/simple_tooltip] o’r [simple_tooltip content=’industrial age’]oes diwydiannol[/simple_tooltip]. Roedden nhw’n cludo [simple_tooltip content=’slate’]llechi[/simple_tooltip] o’r [simple_tooltip content=’chwarel = quarry; chwareli = quarries’]chwareli[/simple_tooltip] i’r [simple_tooltip content=’porthladd = a dock, porthladdoedd = docks’]porthladdoedd[/simple_tooltip]. Heddiw, maen nhw’n cludo twristiaid. Gallwch chi ddal trenau bach o Gaernarfon, Ffestiniog, Llanuwchllyn, Y Friog, Tywyn a Llanberis.

Os ydych chi’n teimlo’n [simple_tooltip content=’adventurous’]anturus[/simple_tooltip], mae’n bosibl [simple_tooltip content='(to) venture’]mentro[/simple_tooltip] o dan y ddaear i weld sut roedd y chwareli llechi yn gweithio dros ganrif yn ôl. Y chwarel fwya enwog yw chwarel Y Llechwedd, Blaenau Ffestiniog. Os ydych chi’n glawstroffobig, gallwch chi fynd i [simple_tooltip content=’museum’]amgueddfa[/simple_tooltip]’r diwydiant llechi yn Llanberis.
Ydych chi’n hoffi hanes Cymru? Wel, mae llawer o gestyll yn y Parc – cestyll Cymreig fel Castell y Bere ger Abergynolwyn, Castell Criccieth a Chastell Dolbadarn ger Llanberis. Hefyd, mae cestyll y Brenin Edward 1af fel y rhai yn Harlech, Conwy a Chaernarfon.
Oeddech chi’n Gwybod?
- Roedd Syr Edmund Hillary (y dyn cyntaf i gyrraedd copa Everest) yn [simple_tooltip content='(to) practice’]ymarfer[/simple_tooltip] ym mynyddoedd Eryri.
- Pob mis Hydref, mae ras o gwmpas troed Yr Wyddfa. Enw’r ras yw Marathon Yr Wyddfa.
- Mae’n bosibl cerdded i mewn i un mynydd – mynydd Elidir, ble mae gorsaf [simple_tooltip content=’trydan = electric’]drydan[/simple_tooltip] enfawr – Gorsaf Dinorwig. ‘Y Mynydd Trydan’ neu’r ‘Mynydd [simple_tooltip content='(to) charge’]Gwefru[/simple_tooltip]’ yw [simple_tooltip content=’nickname’]llysenw[/simple_tooltip]’r mynydd.
- Mae sawl ffilm enwog wedi’i lleoli yn yr ardal yma er enghraifft ‘Dragonslayer’, ‘Tomb Raider’ a ‘The Black Cauldron’.
- Cafodd y rhaglen deledu eiconig ‘The Prisoner’ ei ffilmio ym mhentref Eidalaidd Portmeirion ger Porthmadog yn y 60au.
- Cafodd y ffilm gyntaf yn yr iaith Gymraeg, ‘Y Chwarelwr’ ei gwneud yn ardal Blaenau Ffestiniog (https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-y-chwarelwr-1935-online)
Parc Cenedlaethol Eryri – Digon i’w weld ac i’w wneud.
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.
