Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru

Heddiw, mae gyda tua 50,000 o bobl ym Mhatagonia wreiddiau Cymreig ac mae tua 5,000 yn siarad Cymraeg. Mae’r iaith Gymraeg ar gynnydd ar bob lefel ar draws y dalaith ac mae dros fil o bobl Y Wladfa yn mynd i ddosbarthiadau dysgu Cymraeg bob blwyddyn. Ond, stori hollol wahanol oedd hi ar ddechrau’r 20fed ganrif.
Erbyn dechrau’r 1900au, roedd y Cymry yn y lleiafrif yn y wladfa roedden nhw wedi ei sefydlu. Dechreuodd llywodraeth Yr Ariannin gymryd rheolaeth ar weinyddiaeth yr ardal gan gynnwys y system addysg. Doedd hyn ddim yn newyddion da, yn enwedig i’r iaith Gymraeg. Ers sefydlu’r Wladfa, roedd popeth yn digwydd trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Dros nos felly, trodd y system addysg o fod yn uniaith Gymraeg i uniaith Sbaeneg.
Er gwaethaf hyn, parhaodd yr iaith yn gryf ar yr aelwyd, yn y capeli ac ar lefel gymdeithasol am genhedlaeth neu ddwy. Gwyliwch y clip yma o raglen BBC o 1962 ‘The Desert and the Dream’. Yn y clip, gallwch chi glywed ‘gauchos’ Cymraeg yn siarad yr iaith yn gwbl naturiol: https://www.bbc.co.uk/programmes/p00krkrj
Ond, wrth gwrs, o dan system addysg gwbl Sbaeneg, heb statws swyddogol a rhyngbriodi rhwng y Cymry a phobl o ddiwylliannau eraill, dechreuodd sefyllfa’r iaith ddirywio’n eithaf cyflym. Yr ateb synhwyrol oedd cryfhau’r cysylltiadau rhwng Y Wladfa newydd a’r hen wlad.

Yn 1939, sefydlwyd Cymdeithas Cymru – Ariannin. Dros y blynyddoedd, mae’r gymdeithas wedi gwneud gwaith gwych fel dolen gyswllt rhwng y ddwy wlad.

Dyma rai o gyflawniadau’r gymdeithas:


Cyhoeddwyd llyfryn yn 1989 ‘Cymdeithas Cymry Ariannin 1939-1989’ yn rhoi hanes y Gymdeithas ers ei sefydlu. Hefyd cyhoeddwyd llyfr yn 2014 gan Elvey MacDonald i ddathlu pen blwydd y Gymdeithas yn 75 oed.
Darllenwch ‘Cymdeithas Cymry Ariannin 1939-1989’ yma. Mae’n ddiddorol dros ben: http://www.cymru-ariannin.com/uploads/cymdeithas_cymry_ariannin_19391989.pdf
Daeth yr hwb mawr nesaf i’r iaith yn Y Wladfa yn y 1960au a hynny am ddau reswm yn bennaf – canmlwyddiant y glanio yn 1965 a theithiau awyrennau rhatach. O ganlyniad i’r ddau beth yma, dechreuodd llawer mwy o Gymry ymweld â’r Wladfa. Sylweddolodd yr ymwelwyr bod yr iaith Gymraeg yn yr ardal angen cymorth yn ei hunig gadarnle y tu allan i Gymru.
Teithiodd 73 o Gymry i’r Wladfa yn 1965 i gofio hanes anhygoel yr arloeswyr. Roedd tair wythnos o ddathlu yn Nhalaith Chubut ac ym mhrifddinas Yr Ariannin, Buenos Aires. Dyma ychydig o luniau o’r dathliadau: https://www.casgliadywerin.cymru/items/476421
Fel rhan o’r dathlu, aeth criw o bobl ifainc Y Wladfa i Gymru am dri mis yn yr haf y flwyddyn honno. Dyma ddechrau ail gynnau diddordeb pobl Y Wladfa yn eu gwreiddiau Cymreig a’r Cymry yn hanes eu cyn tadau.
Yn 1996, dechreuodd y Swyddfa Gymreig raglen lle mae athrawon yn treulio cyfnod yn Y Wladfa yn dysgu’r iaith yn yr ysgolion ac i oedolion. Diolch i’r cynllun yma, mae llawer mwy o siaradwyr Cymraeg, nid yn unig ymysg y bobl o dras Gymreig ond hefyd gydag Archentwyr pur a phobl o dras gwledydd eraill.
Heddiw, mae’r prosiect yn cael ei redeg ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Y Cyngor Prydeinig, Prifysgol Caerdydd, Cymdeithas Cymru – Ariannin a Menter Iaith Patagonia.
Oes diddordeb gyda chi ymuno â’r cynllun? Os oes, dilynwch y linc yma i ddarganfod mwy am y cyfleoedd i weithio fel athro neu athrawes Gymraeg yn Y Wladfa: https://wales.britishcouncil.org/en/programmes/education/welsh-language-project
Dilynwch y linc yma hefyd – ‘Angen athrawon Cymraeg i ateb galw ysgolion Patagonia’. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/49722299
Gwyliwch y clip yma o blant ysgolion Cymraeg Y Wladfa yn galw am athrawon i’w dysgu nhw: https://www.facebook.com/watch/?v=936913273325617
Heddiw, mae cannoedd o oedolion a phobl ifanc yn dysgu Cymraeg yn y colegau, yr ysgolion ac mewn dosbarthiadau nos.
Oeddech chi’n gwybod bod Menter Iaith ym Mhatagonia? Cafodd y fenter ei sefydlu yn 2008 gyda help Yr Urdd, Y Cyngor Prydeinig ac ychydig o fusnesau lleol. Mae’r athrawon sy’n gweithio o dan gynllun yr iaith Gymraeg yn treulio tua chwarter o’u hamser gyda’r fenter iaith.
Dyma ychydig o bosteri yn hysbysebu digwyddiadau Menter Iaith Patagonia. Gallwch chi ddilyn hynt a helynt y fenter ar Drydar: https://twitter.com/menterpatagonia
Mae dau bapur bro Cymraeg yn gwasanaethu’r Wladfa – Llais yr Andes a Clecs Camwy. Mae’n bosibl darllen y ddau bapur ar lein.



Fel y dywedwyd eisoes, ar ddechrau’r 20fed ganrif, Sbaeneg oedd unig iaith swyddogol Patagonia. Iaith y cartref a’r capel yn unig oedd Cymraeg. Erbyn heddiw wrth gwrs, mae’r llanw wedi troi ac mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu ar bob lefel dros yr holl dalaith.
Yr ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf oedd Ysgol yr Hendre, Trelew a agorodd ei drysau yn 2006. Cafodd llawer o arian ei godi gan bobl Y Wladfa a Chymru er mwyn agor yr ysgol. Oherwydd y galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, mae dwy ysgol arall wedi agor ers hynny – Ysgol y Gaiman yn 2013 ac Ysgol Trevelin yn 2016.
Mae’r tair ysgol yn llwyddiannus dros ben yn addysgu dros 100 o ddisgyblion yr un un o oedran meithrin hyd at11 oed. Ar ben hyn, mae Cymraeg nawr yn cael ei haddysgu yn yr ysgolion uwchradd cyfrwng Sbaeneg ac mae Coleg Camwy yn cynnig Cymraeg fel pwnc ac fel cyfrwng addysgu i bawb. At ei gilydd, mae dros fil a hanner o bobl Y Wladfa erbyn hyn naill ai’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n mynychu dosbarthiadau Cymraeg.
Mae dyfodiad y we fyd eang hefyd wedi helpu cadw cysylltiadau rhwng Cymru a’r Wladfa’n gryf. Os hoffech chi ddarllen mwy am lwyddiant y Gymraeg yn Y Wladfa dros yr ugain mlynedd diwethaf, ewch i: https://wales.britishcouncil.org/sites/default/files/welsh_language_report_2017_18_english.pdf

Ym mis Gorffennaf 2015, i ddathlu 150 mlynedd ers i’r Mimosa adael dociau Lerpwl, cafodd cofeb ei dadorchuddio yn y ddinas.



Mwy am Batagonia, ei phobl a’i ffordd o fyw y tro nesaf.
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982-3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015-16 a CBAC 2017-18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982-3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015-16 and WJEC 2017-18.
]]>Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru
Tir ar y Gorwel

Ddydd Gwener, 28ain o Orffennaf 1865, glaniodd yr ymfudwyr mewn bae o’r enw Porth Madryn a cherddon nhw ar dir eu cartref newydd am y tro cyntaf.
Roedd dau Gymro – Edwin Cynrig Roberts a Lewis Jones yno yn barod i gwrdd â nhw ar y tir mawr. Daethon nhw ar long arall ym mis Mehefin er mwyn cludo anifeiliaid a stoc o goed i ddechrau ar y gwaith o adeiladau cabanau pren. Cynhaliodd yr ymfudwyr wasanaeth byr ar y traeth er mwyn diolch am gyrraedd yn ddiogel.
Puerto (Porth) Madryn
Yn 1862, dair blynedd yn gynharach, teithiodd dau o drefnwyr y prosiect i Batagonia er mwyn penderfynu a oedd yr ardal yn addas i’r Cymry. Y ddau oedd Lewis Jones (oedd ar ei ail ymweliad – gweler uchod) a Syr Love Jones Parry. Teithion nhw mewn llong fach o’r enw ‘Candelaria’. Cawson nhw eu gyrru gan storm annisgwyl i fae bach. Penderfynon nhw enwi’r bae yn Borth Madryn, ar ôl Castell Madryn, cartref Syr Love Jones-Parry ym Mhenryn Llŷn.
Wel, wel… Yr enw cyfoes ar y dref a dyfodd o gwmpas y bae yw Puerto Madryn. Mae tua 58.000 o bobl yn byw ym Mhuerto Madryn heddiw. Mae’r dref wedi’i gefeillio â phentref Nefyn, Penrhyn Llŷn.


Yr Wythnosau Cyntaf
Roedd llywodraeth Yr Ariannin wedi cynnig can milltir sgwâr o dir ar hyd yr Afon Camwy (Chubut) i’r ymfudwyr o Gymru ond roedd sawl anhawster i’w oresgyn ar y dechrau. Doedd dim llawer o gysgod yn y bae, felly am yr ychydig wythnosau cyntaf, penderfynodd y menywod gysgu ar y llong. Roedd lle i rai gysgu yn y cabanau pren a adeiladwyd ac aeth rhai eraill i fyw mewn ogofâu ar glogwyni traeth Porth Madryn.
Chymerodd e ddim llawer o amser i’r ymfudwyr ddarganfod nad oedd cyflwr y tir yn debyg o gwbl i iseldiroedd Cymru. Yn wir, roedd y tir yn fwy tebyg i anialwch na chaeau gwyrddion Cymru – dim dŵr, prinder ffynonellau bwyd a dim coedwigoedd i ddarparu deunyddiau adeiladau neu gysgod!!
Doedd dim dewis gan yr ymfudwyr felly ond i gerdded ar draws y paith sych tuag at y dŵr agosaf, yn gwthio eu heiddo a’u bwyd mewn whilberi. Buodd rhai farw ar y siwrne ond cafodd merch fach, Mary Humphreys, ei geni ar y daith. Unwaith iddyn nhw gyrraedd dyffryn yr Afon Camwy, sefydlon nhw anheddiad bach a ddatblygodd yn ddiweddarach yn dref o’r enw Rawson.

Yn y llun, mae aelodau o’r grŵp cyntaf o ymfudwyr yn Rawson, Dyffryn Camwy – y dref gyntaf i gael ei sefydlu gan y Cymry, Medi 1865. Aeth y Cymry ymlaen i sefydlu trefi yn Y Gaiman a Threlew.
Oeddech chi’n gwybod? Pan aeth Syr Love Jones Parry a Lewis Jones i Batagonia yn 1862, cynhalion nhw drafodaethau gyda Gweinidog Gwladol yr Ariannin, Guillermo Rawson. Cafodd tref Rawson ei henwi ar ôl y Gweinidog yma.
Wel wel… Yr Addewid a’r Realiti Addawodd Michael D Jones y byddai bywyd gwell i’r ymfudwyr yn Y Wladfa.

Dyma’r poster a ysgrifennwyd gan Michael D. Jones er mwyn denu ymfudwyr i’r Wladfa. Addawodd e ‘Gwlad doreithiog nad yw’n feddiannol gan neb ond ychydig Indiaid. Rhoddir i bob teulu 100 erw o dir, ceffylau, ychain, defaid, gwenith a chelfi. Rhed yr afon drwy y doldir a heidia yr anifeiliaid yn y porfeydd gwelltog‘.
Ond roedd realiti’r sefyllfa’n hollol wahanol. Roedd bywyd yn galed iawn ar y dechrau. Roedd y tywydd yn wahanol iawn i Gymru gyda thymheredd uchel iawn yn ystod y dydd yn yr haf, ac eira a glaw trwm yn ystod y gaeaf. Roedd problemau gyda thir diffaith, diffyg dŵr yfed ac ychydig o gysgod. Ar ben hyn, cafodd y tai cyntaf a’r cnydau o datws ac ŷd eu distrywio gan lifogydd. Adegau eraill, cafwyd llai o law na’r disgwyl a methodd y cnydau. Cofiwch, doedd ond ychydig o ffermwyr profiadol ymhlith yr ymfudwyr cyntaf.
Brodorion y Wlad yn Cynorthwyo
Cafodd y Cymry help mawr gan ffynhonnell annisgwyl – llwythi brodorol y wlad. Daeth y Cymry i gysylltiad â’r llwythi brodorol tua blwyddyn ar ôl cyrraedd. Roedd un llwyth, sef Y Tehuelche’n ffrindiau da i’r Cymry, yn eu dysgu sut i drin y tir sych, marchogaeth, hela anifeiliaid a physgota. Yn wir, roedden nhw’n edrych ar y Cymry fel eu brodyr.

Llun o 1867 – Lewis Jones (1836-1904) gyda chwech o lwyth Y Tehuelche. Edrychwch pa mor dal maen nhw.
Roedd y Cymry yn eu tro yn garedig iawn tuag atyn nhw. Dechreuodd y Cymry fasnachu gyda llwythi’r Mapuches a’r Pampas yn ogystal â’r Tehuelcha. Gwerthodd y Cymry fara a menyn i’r llwythi a rhoddodd y llwythi gig a dillad i’r Cymry. Yn ôl rhai, roedd y llwythi yma yn defnyddio geiriau Cymraeg am nwyddau fel bara!
Os oes copi gyda chi o’r ffilm ‘Patagonia’ (2010), edrychwch eto ar ddechrau’r ffilm er mwyn gweld pa mor bwysig oedd llwyth y Tehuelche i’r Cymry.
Oeddech chi’n gwybod … ?
Roedden y Tehuelche’n hela gyda chŵn ac ar gefn ceffylau. Roedden nhw’n defnyddio bwa a saeth fel arfau hela ac yn byw ar gig gwanaco. Roedden nhw hefyd yn bwyta peth bwyd llysieuol. Cyn y Goncwest Sbaenaidd, roedd tua phedair mil o’r Tehuelche yn byw ym Mhatagonia. Ond erbyn canol ganrif ddiwethaf roedd llai na chant. Heddiw, dim ond ychydig sy’n dal i gynnal eu hen ffordd o fyw.
Trin y Tir
Doedd dim dewis gyda’r Cymry cyntaf felly – dysgu trin y tir neu adael i’r prosiect fethu. Ar ôl symud tuag at Ddyffryn Camwy (Chubut), penderfynodd y Cymry gynllunio system ddyfrhau. Adeiladon nhw gyfres o gamlesi dyfrhau, dair neu bedair milltir bob ochr i’r afon Camwy. Dyma’r system ddyfrhau gyntaf erioed yn yr Ariannin. Roedd y system ddyfrhau mor effeithiol fel bod y Cymry’n cynhyrchu 6 mil o dunelli o wenith y flwyddyn erbyn 1885.

Mae’r cerdyn post hwn yn dangos y drol gyntaf a gafodd ei hadeiladu yn y Wladfa, tua 1866, Defnyddiodd y saer Hugh Hughes bren o longddrylliad yn Afon Camwy.
Erbyn 1874, roedd tua 270 o bobl yn byw yn ardal Dyffryn Camwy (Chubut), a dechreuodd rhwydwaith o ffermydd dyfu. Yn 1875, cafodd y Cymry berchnogaeth swyddogol ar y tir gan lywodraeth Yr Ariannin ac o ganlyniad, daeth llawer mwy o ymfudwyr o’r hen wlad i’r Wladfa newydd rhwng 1880–87 a rhwng 1904-12.
Gwyliwch y clip gwych yma o gyfweliad gyda Nain Maggie am ei phrofiadau yn croesi’r paith gydag ymfudwyr 1891:
https://www.facebook.com/jeremy.wood.5836711/videos/3919161861465/

Y Rheilffordd Gyntaf
Problem arall oedd y ffyrdd garw. Roedd rhaid sefydlu system deithio effeithlon. Hefyd, erbyn canol yr 1880au, roedd llawer o’r tir ffrwythlon yn rhan isaf Dyffryn Camwy wedi’i hawlio. Penderfynodd y Cymry felly ofyn am ganiatâd i archwilio rhan uchaf y dyffryn.
Roedd aber yr Afon Camwy yn fas ac yn anodd ei llywio. Yn 1884 felly, dechreuwyd ar y gwaith o adeiladau Rheilffordd Canolbarth Camwy. Erbyn 1885, cyrhaeddodd y Cymry ardal ffrwythlon a enwyd ganddyn nhw yn Gwm Hyfryd. Wrth i’r boblogaeth dyfu, sefydlwyd dwy dref arall sef Esquel a Threvelin.


Wel wel… Lewis Jones oedd y grym tu ôl i adeiladu’r rheilffordd a chafodd y dref a adeiladwyd ar derfyn y rheilffordd, Trelew, ei henwi ar ei ôl e.
Ond, doedd bywyd ddim yn fêl i gyd. Cafwyd llifogydd mawr yn yr 1890au a’r 1900au a wnaeth difrod mawr i Rawson a Gaiman. Roedd anghytundebau hefyd rhwng llywodraeth Yr Ariannin oherwydd consgripsiwn i fyddin y wlad honno. Gadawodd llawer o’r Cymry am Ganada ac Awstralia, yn ogystal â dychwelyd i Gymru.
Mae clip gwych ar y linc yma o raglen ddogfen o 1961 sy’n portreadu bywyd y Gauchos Cymraeg yn yr 1950au.
Cadw’r Hen Ffordd Gymreig O Fyw
Bwriad y Cymry oedd gwneud Y Wladfa mor debyg â phosibl i’r hen wlad. Y cam cyntaf yn y broses hon oedd adeiladau capeli. Roedd y capeli yn bwysig iawn – fel canolfannau crefyddol ac fel canolfannau cymdeithasol, man cynnal eisteddfodau, ysgolion a hyd yn oed llysoedd barn. Mae capeli’r Wladfa yn ddiddorol dros ben. Mae rhai ond yn gytiau bach pren neu haearn rhychiog a rhai eraill yn fwy tebyg i gapeli Cymru heddiw.

Dyma lun o Gapel Moriah, Dyffryn Camwy. Mae nifer o’r Cymry cyntaf aeth i’r Wladfa yn 1865 wedi’u claddu ym mynwent y capel hwn.

Dyma un ychydig yn llai crand – Capel Glan Alaw, Bethesda
Gallwch chi weld y capeli i gyd heddiw trwy ddilyn llwybr ar ddwy ochr yr afon Chubut. Mae tudalen ddiddorol ar weplyfr o’r enw Capeli Cymraeg y Wladfa fydd yn eich arwain ar hyd llwybr y capeli. https://www.facebook.com/AndesCeltig/photos/a.267731564239.143199.165471514239/267740379239/?type=1. Hefyd, gwyliwch hanes Rhys a Gwen yn y ffilm Patagonia wrth iddyn nhw ddilyn llwybr capeli Cymraeg Y Wladfa.
Yr Eisteddfod
Roedd yr ymfudwyr cyntaf yn ymwybodol iawn o draddodiadau eisteddfodol Cymru. Doedd hi ddim yn syndod felly iddyn nhw benderfynu dathlu’r Eisteddfod yn gynnar iawn yn hanes Y Wladfa. Digwyddodd yr Eisteddfod gyntaf yn Chubut rhwng 1865 ac 1875. Mae’r traddodiad eisteddfodol yn parhau hyd heddiw, ond mwy am hynny yn nes ymlaen yn y gyfres. Beth am ddod yn ffrindiau gydag Eisteddfod Trevelin ar weplyfr? https://www.facebook.com/photo.php?fbid=380227178779911&set=a.380225858780043.1073741826.174948579307773
Ysgolion cynnar y Wladfa
Roedd arweinwyr y prosiect yn credu’n gryf mewn sefydlu ysgolion Cymraeg yn Y Wladfa er mwyn cadw’r iaith yn fyw am genedlaethau i ddod. Ysgol Rawson oedd yr ysgol gyntaf. Roedd yr ysgol mewn adeilad pren. Yr unig werslyfr ar y dechrau oedd y Beibl Cymraeg.

Richard (Berwyn) Jones oedd pennaeth cyntaf yr ysgol. Gwelodd e fod angen deunyddiau darllen gwell ac ysgrifennodd e werslyfr yn arbennig ar gyfer plant Y Wladfa. Yn y llyfr mae geirfa, gwersi, penillion, diarhebion, storïau a rhestr o enwau Cymraeg i blant.

Wel wel… Roedd Richard Berwyn Jones yn mynnu bod plant yr ysgol yn brawddegu‘n gywir ac yn safonol. Roedd rhaid iddyn nhw ddefnyddio geiriau Cymraeg yn unig fel “Bonwr” yn hytrach na “Mr”!
Y Wasg
Roedd cyhoeddi papurau newydd yn hollbwysig er mwyn i’r Cymry fedru darllen newyddion yn eu hiaith eu hunain ac er mwyn cadw cymunedau Cymraeg Y Wladfa mewn cysylltiad â’i gilydd. Fis Ionawr 1865, cyhoeddwyd papur newydd cyntaf y Wladfa sef Y Brut. Dechreuwyd papur arall Ein Breiniad yn 1878.

Y cyhoeddiad mwyaf llwyddiannus beth bynnag oedd Y Dravod, a ddechreuwyd yn 1891.
WEL WEL…. parhaodd Y Dravod mewn cylchrediad tan 1961!


Os hoffech chi ddarllen mwy am hanes y wasg yn Y Wladfa, ewch i: https://docplayer.net/56643841-Welsh-print-culture-in-y-wladfa-the-role-of-ethnic-newspapers-in-welsh-patagonia.html
Cymraeg- Iaith Swyddogol
Am gyfnod hir, Cymraeg oedd iaith swyddogol Y Wladfa – iaith addysg, y gyfraith, crefydd, y wasg a digwyddiadau cymdeithasol. Cafodd yr iaith ei defnyddio mewn llywodraeth ac ysgrifennwyd cofnodion cyfarfodydd yn Gymraeg yn unig. Yn wahanol i’r sefyllfa yng Nghymru, roedd rhyddid i’r iaith Gymraeg ehangu a dylanwadu yn Y Wladfa. Er enghraifft, datblygwyd y system newydd o gyfrif er mwyn hwyluso dysgu mathemateg yn Gymraeg i blant yn Y Wladfa.
Wrth i ymfudwyr o rannau eraill o’r wlad a gwledydd gwahanol ymsefydlu yn Y Wladfa, gwanychodd yr iaith. Yn wir, ar ddechrau’r 20fed ganrif, Sbaeneg oedd unig iaith swyddogol Patagonia. Iaith y cartref a’r capel yn unig oedd Cymraeg.
Erbyn heddiw wrth gwrs, mae’r llanw wedi troi ychydig ac mae Ysgolion Cynradd Cymraeg yn Y Wladfa.
Diwedd y 19eg Ganrif
Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd tua 4 mil o Gymry’n byw yn Y Wladfa gan gynnwys tua mil a gyrhaeddodd rhwng 1886 a 1901. Cyrhaeddodd y grŵp olaf o ymfudwyr ychydig cyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl 1914, o’r Eidal a gwledydd eraill yn ne Ewrop daeth y rhan fwyaf o’r ymfudwyr. Yn 1915, roedd tua 20,000 o bobl yn byw yn Nyffryn Camwy gyda hanner ohonyn nhw’n dod o wledydd heblaw am Gymru.
Oeddech chi’n gwybod…?
Yn 1875, cafodd fersiwn arbennig o Hen Wlad fy Nhadau ei ysgrifennu gan Lewis Evans, un o’r Cymry cyntaf i ymfudo i Batagonia. Y bwriad oedd defnyddio’r fersiwn yma yn lle Anthem Cymru. Roedd y fersiwn yma ar goll am tua 150 o flynyddoedd. Cafodd y fersiwn ei ddarganfod yn y Llyfrgell Genedlaethol mewn taflen o’r enw Adroddiad y Parch. D S Davies am Sefyllfa y Wladfa Gymreig.
Dyma’r geiriau:

Erbyn heddiw, mae Cymry Patagonia yn canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ i ddathlu digwyddiadau arbennig.
Colli cysylltiad â Cymru
Ar ôl 1914, roedd ond ychydig o gysylltiad rhwng Cymru a’r Wladfa. Newidiodd hynny ddim tan 1965 pan ddechreuodd niferoedd mawr o Gymry ymweld â’r Wladfa er mwyn dathlu canmlwyddiant y glanio.
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982-3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015-16 a CBAC 2017-18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982-3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015-16 and WJEC 2017-18.
]]>Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru
Ydych chi’n mynd ar wyliau i wlad dramor eleni? Os ydych chi, sut byddwch chi’n teithio? Hedfan? Llong efallai? Pa mor hir fydd y daith? Pedair neu pum awr ar y mwyaf siŵr o fod.
Sut fasech chi’n teimlo pe basai rhaid i chi dreulio dros bedair wythnos yn aros am long, wedyn, hwylio tua 8,000 o filltiroedd am dros ddau fis ar y môr cyn cyrraedd pen eich taith? Ddim yn hapus o gwbl baswn i’n meddwl.
Wel, dyna oedd hanes dros gant a hanner o Gymry yn y flwyddyn 1865.
Ddiwedd mis Mai 1865, gadawodd tua 160 o Gymry ddociau Lerpwl ar long Y Mimosa ar daith i dde America. Doedden nhw ddim yn mynd ar eu gwyliau. Eu bwriad oedd sefydlu Gwladfa (darn bach o Gymru) dramor a cheisio cadw’r hen ffordd Gymreig o fyw. Talodd y teithwyr £12.00 yr un am y siwrne (tua £1,500 yn arian heddiw), gyda phlant yn talu hanner pris.

Cyrhaeddodd y teithwyr ddinas Lerpwl fis Ebrill 1865 yn barod i adael am Batagonia. Roedden nhw i fod i deithio ar long o’r enw Halton Castle. Yn anffodus, doedd honno ddim yn barod ac roedd rhaid i’r teithwyr aros am un arall. Y Mimosa oedd yr unig long ar gael. Llong gludo nwyddau oedd Y Mimosa. Doedd hi ddim yn addas i gludo pobl.
Ar y 24ain o Fai 1865, ar ôl gwario £2,500 i addasu’r Mimosa, cafodd y teithwyr ganiatâd i fynd ar fwrdd y llong. Am 4.00 o’r gloch ar y 28ain o Fai, pan roedd y gwynt yn ffafriol, cododd y capten yr angor a gadawodd y Mimosa y dociau.
Daeth cannoedd o bobl i ffarwelio â’r ymfudwyr gan gynnwys trefnydd y prosiect, Michael D. Jones a’i wraig Anne. Roedd baner y Ddraig Goch yn hedfan yn uchel a chanodd y dorf anthem arbennig.

Capten y llong oedd dyn ifanc 25 oed o’r enw George Pepperell. Roedd criw o 18 gyda fe gan gynnwys llawfeddyg – Thomas Greene, Gwyddel o Kildare.
Roedd y rhan fwyaf o’r criw yn Saeson o Lerpwl. Pan sylweddolodd Pepperell fod y teithwyr i gyd yn Gymry uniaith, cyflogodd e un o’r teithwyr, Richard Jones (Berwyn), fel pyrser. Gallwch chi ddarllen mwy am y dyn arbennig yma yn nes ymlaen yn y gyfres hon o erthyglau.

Roedd y teithwyr yn dod o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Does neb yn hollol siŵr faint o deithwyr ddechreuodd ar y daith, ond roedd tua:
Roedd y gweddill (52) yn blant neu’n bobl ifanc.

Roedd bron hanner y teithwyr dod o ardaloedd diwydiannol Aberdâr, Aberpennar, Rhosllannerchrugog a Ffestiniog. Roedd y rhan fwyaf o’r dynion felly yn lowyr neu’n chwarelwyr. Roedd crydd, pregethwr, adeiladwr a theiliwr ar y llong hefyd ond dim llawer o bobl o gefndir ffermio.
Dilynwch y linc yma i weld manylion y teithwyr:
http://www.clwydfhs.org.uk/miscellanea/themimosa.htm

Roedd y Cymry ar Y Mimosa am 65 diwrnod. Roedd llawer o broblemau ar fwrdd y llong:
Roedd y tywydd yn ofnadwy ar ôl gadael Afon Merswy gyda gwyntoedd cryf a thonnau anferth yn taro’r llong. Wrth lwc, roedd gweddill y daith ar draws Môr Iwerydd yn eitha tawel.
Roedd y bwyd a’r llety‘n wael. Roedd rhaid i bawb yfed sudd lemwn a leim bob dydd er mwyn osgoi scyrfi!
Roedd llawer o’r teithwyr yn sâl iawn ar y llong. Cornwydydd a chegau’n gwaedu oedd y problemau mwyaf.
Roedd rhaid i’r merched olchi ac eillio‘u gwallt er mwyn rhwystro salwch.
Doedd dim llawer o le ar y dec ac felly doedd dim cyfle i weld llawer ar y siwrne. Roedd rhaid treulio llawer o amser yng nghrombil y llong. Roedd yr arogl yn ofnadwy weithiau, yn enwedig yng ngwres yr haul pan oedd y llong yn croesi’r trofannau.
Yn drist, erbyn i’r llong cyrraedd Patagonia, roedd pump o blant ifanc wedi marw.
Hwyl ar Y Mimosa
Ond doedd y daith ddim yn gwbl ddiflas.
Cafodd y teithwyr dipyn o hwyl weithiau yn adrodd straeon a chanu.
Mae’n bosibl mai ar fwrdd y Mimosa roedd y sialens bwced iâ cyntaf! I ddathlu croesi’r cyhydedd ar 28 Mehefin, 1865, arllwysodd y criw lond bwcedi o ddŵr oer ar bennau ei gilydd a’r teithwyr!
Ar yr 11eg o Fehefin, cafodd mab o’r enw John ei eni i Mary Jones, gwraig John Jones o Aberpennar.
Ar y 15fed o Fehefin, ychydig ddyddiau ar ôl marwolaeth eu mab dwy oed James, cafodd merch o’r enw Rachel ei geni i Aaron a Rachel Jenkins.
Priododd William ac Anne Lewis o Abergynolwyn ar fwrdd y Mimosa gyda’r gweinidog y Parch. Lewis Humphreys yn cynnal y gwasanaeth.
Yn yr erthygl nesaf, cewch chi ddarllen am y glanio a dyddiau cynnar Y Wladfa.
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982-3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015-16 a CBAC 2017-18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982-3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015-16 and WJEC 2017-18.
]]>A series of ten worksheets for Canolradd and Uwch learners adapted from the novels by Gareth Thomas.
Myfi, Iolo: Ail-adroddiad stori Iolo Morganwg
Diweddglo’r 18fed ganrif – Iolo yn ddyn ifanc gyda doniau aruthrol ac egni di-ben-draw sy’n feddwol ar eiriau, llawn dicter dros anghyfiawnder ac yn ymrwymedig i’r achos rhyddid oedd yn trawsnewid Ewrop. Oedd gan Iolo cymaint o agweddau: saer maen, ysgolhaig hunan-dysglyedig, bard, emynydd, gwleidydd, gwladgarwr, chwildrowr, derwydd, dyn busnes aflwyddiannus, ymgyrchydd dros hawliau dynol, caethwas cyffuriau, arloeswr a chyflawnwr y ffugiad llenyddol fwyaf hanes Ewrop. Mae’r llwyfan yn symud o’r Bontfaen i’r ystafelloedd gyfarch bonheddig Mayfair, o’r seremonïau Gorseddol ar ledrau anghysbell i’r bordellos moethus Covent Garden, o fwthyn yn Nhrefflemin i wrandawiad o flaen y Cyfrin Gyngor yn stryd Downing. Y wir stori o un o’n cymeriadau mwyaf lliwgar ein hanes – dyn sydd yn cael ei edmygu gan lawer fel arwr ond yn cael ei ddifrïo gan eraill fel twyllwr a chastiwr.
I, Iolo: A retelling of the story of Iolo Morganwg
The closing years of the 18th century – Iolo, a young man of prodigious talent and boundless energy is drunk with words, outraged by injustice and in thrall to the spirit of liberty sweeping across Europe. Iolo Morganwg had many faces: stone-mason, self-taught scholar, poet, politician, revolutionary, druid, failed businessman, drug addict, genius, and perpetrator of the greatest act of literary forgery in European history. The action moves from Cowbridge to the society drawing rooms of Mayfair, from druidic ceremonies on wild hillsides to the bordellos of Covent Garden, from a cottage in Flemingston to a hearing before the Privy Council in Downing Street. The true story of one of the most admired and reviled figures of Welsh history.
Mae'r llyfr Myfi, Iolo (fersiwn Cymraeg) ar gael o Y Lolfa: | I, Iolo (English version) is available from Y Lolfa: |
]]>
11th July 2018 marks the 23rd anniversary of the Srebrenica massacre, the most violent act of the Bosnian genocide in the 1990s. In October 2014, Laura Jones, a Welsh learner from Cardiff, visited the country with Welsh faith leaders to learn about the genocide. Here, she discusses the trip and what lessons we can learn from the atrocity.
| Pan oedd siawns i fi ymweld â Bosnia-Herzegovina yn 2014, cymerais i’r cyfle gyda brwdfrydedd, heb fod yn hollol ymwybodol o bwysau’r hil-laddiad a ddigwyddodd yna yng nghanol y nawdegau. Arweiniwyd y daith gan yr elusen Remembering Srebrenica gyda’r nod o ddysgu teithwyr am yr erchyllterau er mwyn iddyn nhw allu gweithredu yn y DU i atal unrhyw beth tebyg rhag digwydd eto. Roedd y garfan ar y daith yn cynnwys arweinwyr ffydd a phobl eraill sy’n gweithio mewn cymunedau crefyddol gwahanol ar draws Cymru. | When I was given a chance to visit Bosnia-Herzegovina in 2014, I took up the opportunity with enthusiasm, not fully aware of the weight of the genocide that happened there in the mid-nineties. The trip, led by the charity Remembering Srebrenica, was designed to teach delegates about the atrocities that took place so that they could take action in the UK to prevent things like this happening again. My cohort consisted of faith leaders and those active in different religious communities across Wales. |
| Byddwn i wedi bod tua 8 mlwydd oed ar uchafbwynt y trais yn Bosnia-Herzergovina ym 1995 ac felly dydw i ddim yn cofio llawer amdano o’m plentyndod. Ac mae’n ymddangos i fi fod hil-laddiad Bosnia yn rhywbeth sy wedi’i anghofio yn y DU gan mwyaf. Fydda i byth yn anghofio‘r pedwar diwrnod a dreuliais yn Bosnia ym mis Hydref 2014 ac rydyn ni’n gallu dysgu gwersi o beth ddigwyddodd yno yma yng Nghymru o hyd yn fy nhyb i. | I would have been about eight years old at the height of the violence in Bosnia-Herzegovina in 1995 and I remember little about it from my childhood. And it seems to me that more widely, in the UK at least, the Bosnian genocide is something that has largely been forgotten. The four days I spent in Bosnia in October 2014, will certainly be something I will never forget and something I think we can learn lessons from here in Wales. |
| Trwy gydol ei hanes, mae Bosnia wedi bod yn genedl aml-grefyddol ac aml-ddiwylliannol gyda phobl o gefndiroedd gwahanol yn byw gyda’i gilydd. Mae Sarajevo, ei brifddinas, yn ddinas hardd sy wedi’i llysenwi fel ‘Jerusalem Ewrop’ oherwydd ei gymunedau ffydd amrywiol ac oherwydd bod mosg, eglwys a synagog yn bodoli mor agos at ei gilydd. Roeddwn i wedi fy syfrdanu gan harddwch y wlad sy’n llawn gwyrddni, a chan y bryniau tonnog, y bensaernïaeth fanwl a’r safleodd hanesyddol. | Throughout its history, Bosnia has been a multi-religious and multicultural nation, with people of different backgrounds living together. Sarajevo, its capital, is a picturesque city nicknamed the ‘Jerusalem of Europe’ because of its diverse faith communities and because it hosts a mosque, church and synagogue within a stone’s throw of each other. I was stunned by the beauty of the country which is full of greenery, rolling hills, elaborate architecture and historic sites. |
| Ond yn y nawdegau cynnar, dioddefodd y wlad ergyd wrth i luoedd Serbaidd ymdrechu i greu Serbia Fwyaf gan geisio puro’r boblogaeth o’r rhai nad oedd yn Serbaidd gan gynnwys y boblogaeth fawr Bosniak Fwslimaidd a’r Croatiaid Catholig hefyd. Trodd cymydog yn erbyn cymydog a daeth ffrindiau’n elynion wrth i luoedd Serbaidd geisio cael gwared ar bawb nad oeddynt yn Serbaidd. Er gwaethaf ei harddwch, roedden ni’n gallu gweld arwyddion yr ymosodiadau wrth deithio o gwmpas Sarajevo – nodau sielio (neu ‘rhosynnau Sarajevo’) sy wedi’u peintio’n goch er mwyn coffáu’r ymosodiadau, a thyllau bwledi sy wedi britho blociau tŵr y ddinas. | But in the early nineties, the nation suffered a blow as Serb forces strived to create a ‘Greater Serbia’ which involved the ethnic cleansing of any non-Serbs including the large Muslim Bosniak population as well as Catholic Croats. Neighbour turned on neighbour and friends became enemies as Serbs forces tried to rid the country of any non-Serbs. Despite its beauty, the signs of the attacks could be seen as we travelled around Sarajevo – marks from shelling (or ‘Sarajevo roses’) which had been painted red so that the attacks are not forgotten, and bullet holes that speckled the city’s tower blocks. |
| Srebrenica oedd y digwyddiad mwyaf treisgar ac arswydus yn hil-laddiad Bosnia ac wrth i fi ddysgu amdano, sylweddolais i faint o waith rydyn ni angen ei wneud yn Ewrop heddiw i atal ymosodiadau fel y rhain. Datganwyd Srebrenica yn ‘parth diogel’ gan y Cenhedloedd Unedig yn ystod rhyfel Bosnia. Pan gyrhaeddodd lluoedd Serbaidd yr ardal, aeth y Bosniaks lleol i ganolfan Cenhedloedd Unedig agos i gael lloches ond cawsant eu troi i ffwrdd. | Srebrenica was the most violent and horrific incident of the Bosnian genocide, and learning about it made me realise how much work still needs to be done in Europe today to prevent such attacks. Srebrenica was declared a ‘safe zone’ by the UN during the war in Bosnia. When Serb forces arrived in the area, the local Bosniaks sought refuge at a nearby UN base but were turned away. |
| Wedyn gwahanodd y lluoedd Serbaidd y dynion a’r bechgyn o’r menywod gan ddweud y bydden nhw’n ddiogel. Ond, yn lle hynny, o fewn tri diwrnod cafodd dros 8,000 o bobl eu lladd. Doedd dim gwahaniaethau amlwg rhwng cymunedau’r ardal ar y pryd, felly lladdwyd llawer ohonynt dim ond oherwydd sŵn eu henwau. Adroddodd un o’r goroeswyr, sef Hasan Hasanovic, ei hanes torcalonnus o ddianc rhag y lluoedd, ond doedd ei dad a’i efell ddim mor ffodus gan gael eu lladd yn y broses. Wrth iddo fe siarad, roeddwn ni’n edrych ar draws mynwent goffa Srebrenica lle mae miloedd o feddfeini gwyn, plaen yn estyn dros y mynyddoedd fel arwydd amlwg o’r lladdfa a ddigwyddodd yno. | The Serb forces then separated the men and boys from the women telling them they would be kept safe, but instead, in just three days, over 8000 people were killed. There were no obvious differences between communities in the region at the time and many were killed simply because they had a Muslim-sounding name. One of the survivors, Hasan Hasanovic, recounted his harrowing story of escaping the forces, but his father and twin brother were less fortunate and were killed in the process. As he did, we looked across the Srebrenica memorial cemetery where thousands upon thousands of plain white stones stretch onto the mountains as a stark reminder of the deaths that occurred. |
| Mae Srebrenica yn ein hatgoffa bod hil-laddiad yn rhan o hanes diweddaraf Ewrop ac mae llawer o waith i’w wneud o hyd. Yn bendant, agweddau gwahaniaehol tebyg i’r rhai a gaed yn ystod rhyfel Bosnia sy’n bodoli yn y DU heddiw - mae Islamoffobia yn gwaethygu, mae agweddau gwrth-Semitig yn parhau ac mae trafodaeth negyddol ynglŷn â ffoaduriaid a mewnfudiad. Mae rhai’n credu bod hyn yn ddiniwed ond mae’r ffaith bod ymosodiadau treisgar yn erbyn Mwslimiaid a mosgiau ym Mhrydain yn cynyddu, yn dweud stori wahanol. | Srebrenica reminds us that genocide is indeed a part of Europe’s recent history and there is still much work to be done. There are certainly parallels in the UK today with discriminatory attitudes held during the Bosnian war – Islamophobia is on the rise, anti-Semitic attitudes persist and there is negative rhetoric around refugees and migration. Some may believe this is harmless, but increasing violent attacks on Muslims and mosques in Britain tell a different story. |
| Hyd yn oed yng Nhgymru, dydyn ni ddim heb feirniadaeth – dim ond flwyddyn yn ôl, teithiodd dyn o Gaerdydd, Darren Osborne, i Lundain er mwyn ymosod ar addolwyr tu allan i mosg mewn ymosodiad cerbyd wedi’i sbarduno gan, yn ôl barnwr, ei “ideoleg atgas tuag at Fwslimiaid”. | Even in Wales, we are not free from criticism - just one year ago, a man from Cardiff, Darren Osborne, travelled to London and attacked worshippers outside a mosque in a van attack driven by what a judge called his “ideology of hate towards Muslims”. |
Mae’n anodd gwybod beth yw’r datrysiadau i’r problemau hyn yn ein cymdeithas ond mae Remembering Srebrenica yn ceisio brwydro yn erbyn agweddau cas ac anoddefgar trwy atgoffa pobl am orffenol Ewrop a thrwy hyrwyddo ysbryd o gydfyw yng nghymunedau amrywiol y DU. Os hoffwch chi ddangos eich cydlyniad yn erbyn casineb ac anoddefgarwch ac os byddwch chi eisiau dysgu mwy am hil-laddiad Bosnia, mae Remembering Srebrenica Cymru yn cynnal digwyddiad coffa cenedlaethol yng Nghaerdydd ddydd Gwener 13eg o Orffenaf. Er mwyn cofrestru am y digwyddiad, ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/e/wales-national-remembering-srebrenica-commemoration-tickets-46404100915. Bydd goroeswyr yr hil-laddiad a’r rhai sy wedi gweithio yn Bosnia, neu wedi ymweld â hi, yn rhannu eu profiadau.
It is difficult to know what the solutions are to these problems in our society but Remembering Srebrenica is trying to combat attitudes of hatred and intolerance by reminding people of Europe’s past and promoting a spirit of coexistence in the UK’s diverse communities. If you would like to show your solidarity against hatred and intolerance and learn more about the Bosnian genocide Remembering Srebrenica Wales is holding a national memorial event in Cardiff on Friday 13th July. You can register for the event here: https://www.eventbrite.co.uk/e/wales-national-remembering-srebrenica-commemoration-tickets-46404100915. Survivors of the genocide and those who have worked in or visited the region will be sharing their stories and experiences.
Wales is particularly blessed with saints; any part of the map of Wales will yield an abundance of place-names brimming with sanctity. And the saints have had a major literary impact as well, both in the medieval period and in more modern times, where saints’ traditions were an important influence on writers like Saunders Lewis. Here David Callander, a researcher at Cambridge University, attempts to trace one of them…
| Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Caergrawnt a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth yn creu golygiadau newydd o fucheddau Lladin canoloesol seintiau Cymru. Mae hyn yn dilyn prosiect arall i olygu’r bucheddau Cymraeg Canol. Rwy’n gweithio ar y prosiect Lladin fel ymchwiliwr ôl-ddoethurol. | Currently, the University of Cambridge and the Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies at Aberystwyth are re-editing the medieval Latin lives of the Welsh saints, following a project to edit the Lives written in Medieval Welsh. I am a post-doctoral researcher on the Latin project. |
| Roedd bucheddau’r seintiau (mae buchedd yn air arbennig am hanes bywyd sant) yn genre hynod boblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Yn aml, cawsant eu cyfansoddi er mwyn cryfhau hawliau a breintiau eglwysi penodol. | Saints’ lives were a very popular genre of literature in the Middle Ages, often being composed to support the claims of churches to particular lands or privileges. |
| Un o’r pethau gorau am weithio i brosiect Vitae Sanctorum Cambriae yw cael y cyfle i olygu bucheddau Lladin Gwenffrewi. Dyma santes sy’n croesi ffiniau, fel mae ei henw Saesneg, Winefride, yn tystio. | One of the best things about working for the Vitae Sanctorum Cambriae has been having the chance to edit the Latin lives of the border-crossing saint Winefride/Gwenffrewi. |
| Pwy oedd Gwenffrewi? | Who was Winefride? |
| Cyflwynir Gwenffrewi fel santes o’r seithfed ganrif a oedd yn byw yn ardal Treffynnon, bellach yn Sir y Fflint. Serch hynny, mae’r dystiolaeth am seintiau Cymru fel arfer yn llawer diweddarach na chyfnod eu bywydau, ac felly nid yw’r hanes a roir yn ddibynadwy. Yn wir, does dim llawer o dystiolaeth o gwbl am gwlt Gwenffrewi cyn y 12fed ganrif. | Winefride is presented as a seventh-century saint, living in what is now Flintshire in the area of Holywell. However, as with most Welsh saints, the sources for her are much later than the time when she was alive, and so are not reliable evidence for the period of her life. Indeed, there is very little evidence for the cult of Winefride before the twelfth century. |
| Yn hanner cyntaf y ganrif honno, cyfansoddwyd dwy fuchedd Ladin Gwenffrewi. Mae un ohonynt yn fer a dienw, ac yn cynnwys rhestr hirfaith o wyrthiau a gyflawnwyd o gwmpas Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon. Mae’r llall yn llawer hwy ac yn gynnyrch Robert, brior amleiriog abaty Amwythig. Cyfansoddodd ef y fuchedd rhwng 1138 a 1142. Gwenffrewi yw’r unig un o santesau Cymru sydd â dwy fuchedd ganoloesol. | In the first half of that century, two Latin lives of Winefride were composed. One is short, anonymous, and contains a long list of miracles at Winefride’s Well at Holywell. The other is far longer, and was composed by the verbose Robert, prior of Shrewsbury, between 1138 and 1142. Winefride is the only Welsh female saint to have two medieval Lives. |
| Mae’r fuchedd gan Robert Amwythig yn arbennig o ddiddorol, gan ei bod yn cynnwys disgrifiad o fel yr aeth Robert ac eraill i fedd Gwenffrewi yng Ngwytherin (bellach yn Sir Conwy) tua’r flwyddyn 1137. Wedi datgladdu eu hesgyrn, aethant yn ôl i Amwythig gyda nhw, er gwaethaf cryn wrthwynebiad gan bobl leol. Mae’r nofel A Morbid Taste for Bones gan Ellis Peters (gyda’r Brawd Cadfael yn serennu) yn addasiad modern enwog o’r digwyddiadau hyn. | Robert’s Life is especially interesting, as it contains an account of how Robert and others went to Winefride’s burial place at Gwytherin (in Conwy) in around 1137 and dug her bones up and took them back with them to Shrewsbury, despite considerable local opposition. A prominent modern adaptation of this is the Brother Cadfael novel A Morbid Taste for Bones by Ellis Peters. |
| Cyfieithwyd buchedd Robert i Gymraeg Canol a Saesneg Canol, a’i haddasu ar gyfer y gwahanol gynulleidfaoedd, erbyn y 15fed ganrif fan pellaf. Mae nifer o fanylion yn wahanol yn y ddwy fuchedd, ond maen nhw’n adrodd yr un stori yn y bôn. Mae’n debyg i’r ddwy fuchedd dynnu ar fuchedd Ladin goll sant Beuno (mae ei fuchedd Cymraeg Canol ar glawr), a oedd yn cynnwys Gwenffrewi fel cymeriad. | Robert of Shrewsbury’s Life was also translated and adapted into Medieval Welsh and Medieval English, and adapted to suit various audiences, by the fifteenth century at the latest. The Lives differ in many details but tell the same basic story, and probably both drew upon a lost Latin Life of Beuno, in which Winefride featured as a character. |
| Stori Gwenffrewi | Winefride’s Story |
| A hithau’n blentyn, mae Gwenffrewi’n cael ei dysgu gan Feuno (sant pwysig yng ngogledd Cymru), ac yn penderfynu dilyn y bywyd crefyddol. Un diwrnod, tra bo’i rhieni hi’n gwrando ar yr offeren, dyma Garadog, fab i frenin, yn dod i dŷ Gwenffrewi ac yn mynnu ei phriodi. Mae Gwenffrewi’n llwyddo i ddianc ac yn rhedeg i’r eglwys sy’n agos i’w thŷ. Ond, ar ôl sylweddoli bod Gwenffrewi wedi rhedeg i ffwrdd, mae Caradog yn rhuthro ar ei hôl ar gefn ceffyl. Wrth iddi bron â chyrraed trothwy’r eglwys, mae Caradog yn dal lan gyda hi ac yn torri ei phen. | As a child, Winefride is taught by St Beuno (a major saint in North Wales), and decides to follow the holy life. One day, while her parents are at Mass, Caradog, the son of a king, comes to Winefride’s house and demands to marry her. Winefride manages to escape and runs to the church by her house, but Caradog realises she has run away, and charges after her on horseback. Just as she is about to reach the church, Caradog cuts off her head. |
| Ar yr un pryd â hyn roedd sant Beuno yn yr eglwys yn dweud yr offeren. Daeth tu allan a thoddi Caradog yn y man a’r lle. Gan godi pen a chorff Gwenffrewi, mae’n erfyn ar i Dduw ei hatgyfodi, ac mae Duw yn cyflawni hyn. | St Beuno is saying Mass at the church at the same time. He comes outside and melts Caradog into the ground. Picking up Winefride’s body and head, he prays for God to resurrect her, which God does. |
| Wedi hyn, mae Gwenffrewi’n byw bywyd sanctaidd fel lleian. Yn y fuchedd ddienw, mae hi’n mynd i Rufain ar bererindod. Ym muchedd Robert, mae hi’n mynd ymhellach i mewn i Gymru, gan fynd heibio i Fodfari a Henllan cyn ei marw ar ôl cyfnod hwy yng Ngwytherin. Mae’r ddwy fuchedd yn cytuno iddi farw yng Ngwytherin. | After this, Winefride leads a holy life as a nun. In the anonymous Life, she goes on pilgrimage to Rome. In Robert’s Life, she heads deeper into Wales, going through Bodfari and Henllan before dying at Gwytherin, where she also dies in the anonymous Life. |
|
|
| Map o leoedd pwysig ym mucheddau Gwenffrewi. | Map of significant places in Winefride’s lives. |
| Barnais ei fod yn hen bryd imi fynd fy hunan a chymryd cipolwg ar y safleoedd a gysylltir gyda Gwenffrewi. (Yn anffodus, doedd dim modd i mi gyrraedd Rhufain, ond euthum heibio’r Rhyl ar y ffordd nôl.) | I decided it was high time for me to take a look at the sites associated with Winefride for myself. (Sadly I didn’t manage to make it to Rome, but I did pop by Rhyl on the way back). |
| Dilyn Ôl-Traed Gwenffrewi | In Winefride’s Footsteps |
| Treffynnon | Holywell |
Rhedodd o’r ddaear hoywdeg, |
|
| Cywydd dienw i ffynnon Gwenffrewi | Anonymous cywydd to Winefride’s well |
|
|
| Dyma’r brif safle yng nghwlt Gwenffrewi, yn awr ac yn yr Oesoedd Canol. Llwyddodd i oroesi’r diwygiad Protestannaidd ac yn wir ffynnu hyd y dydd heddiw. | This is the main site of devotion to Winefride, both now and in the Middle Ages. It survived the Reformation and somehow managed to thrive up to the modern day. |
| Roedd cyflenwad anferth o ddŵr yn arfer dod i mewn i’r ffynnon o ffynhonnell naturiol, ond cafodd hyn ei symud gan waith diwydiannol yn y cyfnod modern, ac mae’r dŵr bellach yn dod o ffynhonnell gyhoeddus. Lleolir y gysegr ar lethr y bryn. Ym muchedd Robert Amwythig, mae pen Gwenffrewi’n rholio lawr y bryn i mewn i’r eglwys, gan beri cryn arswyd i’r plwyfolion. | The well used to be supplied with a huge amount of water from a natural source, but this was disturbed by industrial work in modern times, and the water now comes from a public source. The shrine is situated on a slope. In Robert’s Life, Winefride’s head actually rolls down the hill into the church, to the horror of the parishoners. |
|
|
| Yn syth uwchben y ffynnon mae’r capel canoloesol a gysegrir i Wenffrewi yn goroesi. | Immediately above the well survives the medieval chapel dedicated to Winefride. |
|
|
| Capel Gwenffrewi | Winefride’s Chapel |
| Cyflawnwyd llawer o waith adeiladu ar y safle hon tua diwedd yr Oesoedd Canol gan Thomas Pennant, abad abaty Dinas Basing gerllaw (sy’n werth ei weld hefyd!). Dathlwyd hyn gan y beirdd, gan gynnwys Tudur Aled, a ganodd gywydd i Wenffrewi a’i ffynnon. | There was much work undertaken at this site at the close of the Middle Ages by Thomas Pennant, abbot of the nearby Basingwerk Abbey (also worth a visit!) This was celebrated by a number of Welsh poets of the time, including Tudur Aled, who composed a cywydd to Gwenfrewy and her well. |
| Bodfari | Bodfari |
| Dyma oedd arhosfan gyntaf Gwenffrewi ar ei thaith, yn ôl buchedd Robert. | This is Winefride’s first stop on the journey, according to Robert’s Life. |
|
|
| Mae Gwenffrewi’n cael ei chyfarwyddo gan neges o’r nefoedd i gwrdd â Sant Diheufyr ym Mhodfari. Yn fuan wedyn, mae yntau’n cael gorchymyn gan Dduw i anfon Gwenffrewi ymlaen i Henllan. Arhosiad byr oedd Bodfari, felly. | Winefride is told by a divine message to meet St Diheufyr at Bodfari. He is soon urged by a divine message to send Winefride to Henllan, so Bodfari was only a quick stop. |
| Henllan | Henllan |
| Mae eglwys Henllan yn ddiddorol am fod ei thŵr (sydd bellach, ymddengys, yn stordy i ysgubau) ar wahân i gorff yr eglwys. | The church at Henllan is interesting in that the tower (now seemingly used as an elaborate broom-cupboard) is separated from the body of the church. |
|
|
| Yn Henllan, yn ôl Robert Amwythig, mae Gwenffrewi’n cwrdd â sant Sadwrn. Mae e’n ei derbyn hi’n garedig, ac eto nid yw’n gwastraffu dim amser cyn ei hanfon ymlaen i Wytherin. | At Henllan, so Robert of Shrewsbury tells us, Winefride meets St Sadwrn, who apparently receives her in a kindly manner, although he wastes no time in sending her on to Gwytherin. |
| Gwytherin | Gwytherin |
| Yng Ngwytherin, mae Gwenffrewi’n cwrdd â sant Eleri, ac yn hwyrach ymlaen yn gofalu am gwfaint o leianod. Fan hyn mae Gwenffrewi’n marw, am yr ail dro a’r tro olaf. | At Gwytherin, Winefride meets St Eleri, and later leads a community of nuns. It is here that Winefride dies for the second and final time. |
|
|
| Cerrig arysgrifenedig yng Ngwytherin (ceir arysgrif o’r chweched ganrif ar un ohonynt!) | Inscribed Stones at Gwytherin (one contains a sixth-century inscription!) |
| Mae Robert yn cynnig rhagor o fanylion am Wytherin sy’n ymwneud â’i daith yno i gymryd esgyrn Gwenffrewi i ffwrdd. Mae’n nodi bod dwy fynwent yno: un ar gyfer y seintiau, ac un ar gyfer y rhai sy’n marw yn awr. | Robert provides more details about Gwytherin from his travels there to take Winefride’s bones away. He notes that there were two cemeteries: one for saints, and one for those who die now. |
| Cae gwag yw un o’r rhain (mynwent y seintiau) bellach, ond tybir ei bod unwaith wedi cynnwys capel Gwenffrewi (a ddymchwelwyd yn y 18fed ganrif). | One of these (the saints’ graveyard) is now an empty field, but is thought to have contained Winefride’s chapel (demolished in the eighteenth century). |
|
|
| Gwytherin, heb os, oedd y lleoliad tawelaf ar y daith. Caewyd yr eglwys yn 2005. Wedi hyn, symudwyd ei thrysorau pwysicaf i Dreffynnon. Yn ôl y nodiadau Saesneg ar bwys y drws, mae hi bellach yn stiwdio ar gyfer priodasau. Efallai y dylwn fod wedi bennu’r daith yn Amwythig, ond ni allwn wneud hynny. | Gwytherin was certainly the quietest of all the locations on the journey. The church itself closed in 2005. After this, its most important remaining artefacts were moved to Holywell. It is now a wedding studio. Perhaps I should have ended the pilgrimage by travelling to Shrewsbury but I could not bring myself to it. |
Roedd bucheddau’r seintiau (mae buchedd yn air arbennig am hanes bywyd sant) yn genre hynod boblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Yn aml, cawsant eu cyfansoddi er mwyn cryfhau hawliau a breintiau eglwysi penodol.
]]>
Saint Patrick was certainly born in the west of Britain, his first language was almost certainly the ancestor of Welsh, and yet he chose Ireland over the land of his birth. What else do we know about his connections with fifth century Wales?
Ymddangosodd y fersiwn Saesneg o’r erthygl hon yn wreiddiol yn The Conversation, gyda chyfres o erthyglau sydd yn cynnwys Cymru yma.
The English version of this article originally appeared in The Conversation, with a series of articles that feature Wales here.
Roeddwn yn crwydro drwy strydoedd Galway Ŵyl Padrig Sant ym 2002, gan wisgo crys-t ac arno y geiriau, ‘St Patrick: he’s Welsh, you know’. Y cyd-destun oedd fod Iwerddon wedi trechu Cymru yng nghystadleuaeth rygbi’r Chwe Chenedl bythefnos o’r blaen. Cellwair cyfeillgar oedd y slogan i fod, ac fel hyn roedd pobl yn ei gymryd. Ond, ydy e’n gywir?
Dylai’r ateb fod yn weddol syml. Wedi’r cwbl, mae Padrig yn dweud wrthym o ble y deuai’n wreiddiol, mewn un o’r dwy lith Ladin a ysgrifennodd ac sydd wedi goroesi hyd heddiw, sef tref o’r enw Banna Venta Berniae. Yn anffodus, wyddom ddim lle y bu honno, ar wahân i’r ffaith ei bod yn rhywle ym Mhrydain. Gan iddo gael ei ddala yno gan ysbeilwyr o Iwerddon, rhaid bod y lle yn eitha agos at arfordir gorllewin Prydain. Felly mae’n eitha posibl, er nad yw’n hollol sicr, fod y dref yn rhywle yng Nghymru.
Efallai nad yw’r safle union o fawr bwys. Yn ystod bywyd Padrig (rywbryd yn y bumed ganrif OC), doedd Cymru fel yr ydym ni’n ei hadnabod ddim yn bodoli. ‘Brythoniaid’ oedd yr enw a ddefnyddiwyd i sôn amdanynt eu hunain gan y bobl oedd yn byw yn yr amryw deyrnasoedd yn yr ardal rydym ni’n ei galw’n Gymru bellach. Ar ben hynny roedd llawer o bobloedd eraill yn defnyddio’r un enw, hynny yw, y rhai oedd yn byw yn y rhan o Brydain i’r de o Fur Hadrian – sef y dalaith Rufeinig gynt o’r enw Britannia.
Ond y dechreuodd y Brythoniaid a siaradai’r math o Gelteg Ynysol o’r enw Frythoneg (sydd yn iaith hynafiadol i’r Gymraeg, i’r Gernyweg, ac i’r Llydaweg) ddefnyddio enw arall arnynt eu hunain, sef Combrogī ‘cyd-frowyr’. O’r term hwn y terddir yr enw lle Saesneg Cumbria, ac ohono fe y daw’r gair Cymry hefyd, sef yr enw y mae gwerin yng Nghymru’n ei ddefnyddio i ddisgrifio eu hunain heddiw (yn yr Oesoedd Canol cafodd y term hwn ei ddefnyddio i sôn am y wlad hefyd, ac mae wedi troi’n ‘Cymru’ erbyn hyn). Amhosibl yw dweud, fodd bynnag, p’un a gâi’r term hwn ei ddefnyddio yn ystod y pumed ganrif, neu beidio.
Erbyn hynny, roedd pobloedd a siaradai ieithoedd Germaneg yn sefydlu teyrnasoedd yn ne ynys Prydain, ac yn y dwyrain hefyd. Roedd y rhain yn rhagflaenwyr i’r ‘gens Anglorum’ hynny yw ‘y werin Seisnig’ a defnyddio geiriau hanesydd (ac yn hwyrach, sant) Bede oedd yn ysgrifennu yn yr wythfed ganrif. Nid Brythoniaid oedd y bobl hyn, nac o’u rhan eu hunain, nac o ran eu cymdogion i’r gorllewin ychwaith. Y pryd hynny eu henw ar y werin y tu hwnt i Gymru oedd ‘Saeson’, a hyd yn oed heddiw yr un enw sy’n cael ei ddefnyddio (a ‘Sasanaigh’ yn Gaeleg). Yn eu tro, roedd y Saeson yn galw’r Brythoniaid yn ‘Wealas’ a’r term hwn yw tarddiad y gair ‘Welsh’. Felly, o safbwynt Saesneg cyfoes o leiaf, fe fyddai Padrig wedi bod yn Gymro.
Iaith a llenyddiaeth
Mae sawl ysgolhaig (y rhai o’r Oesoedd Canol a’r rhai o’r cyfnod modern fel ei gilydd) wedi honni bod San Padrig yn siarad Brythoneg. Gwyddom ei fod yn gallu ysgrifennu Lladin da, ond yr oedd yn ei galw’n ‘lingua aliena’ (hynny yw, ‘iaith estron’). Nid ei famiaith oedd hon, ond roedd hi’n ddewis amlwg i’w defnyddio pan oedd e’n ysgrifennu, gan ei bod yn iaith uchel ei statws, a chanddi draddodiad llenyddol hynafol, ac yr oedd hi’n ‘lingua franca’ yn yr eglwys. Heb dystiolaeth bellach, gallem gasglu’n eitha hyderus mai Brythoneg fyddai ei famiaith (bryd hynny byddai brodor o orllewin Britannia wedi bod yn llai tebygol o lawer o siarad Gwyddeleg, Saesneg, neu Bicteg). Ond efallai y gallwn fynd yn bellach na hyn.
Yn ystod y seithfed ganrif, ysgrifennodd mynach o Iwerddon o’r enw Muirchú Fywyd San Padrig yn Lladin. Yn y llyfr hwn y mae ambell ffaith hanesyddol ynglŷn â Padrig sy wedi’i chynnwys hefyd yn ei weithiau ei hun. Ond mae’r ffeithiau hyn yn cael eu cuddio bron yn llwyr gan y gwyrthiau niferus oedd agos yn orfodol mewn llenyddiaeth ganoloesol ynglŷn â bywydau’r saint. Ymhellach tywyllir y ffeithiau gan bropaganda digywilydd wedi’i lunio gan yr eglwys uchelgeisiol yn Armagh, a oedd wrthi’n neilltuo Padrig ar ei chyfer ei hun.
Serch hynny, mae Muirchú yn cofnodi dau ddywediad Padrig air am air, sef ‘modebroth’ a ‘gra(t)zacham’. Dyw Muirchú ddim yn dweud wrthym beth yw iaith yr ymadroddion hyn. Fodd bynnag, yn y nawfed ganrif roedd Cormac mac Cúilennáin, geiriadurwr o Iwerddon ac Esgob a Brenin Cashel hefyd, yn dehongli mai Brythoneg oedd iaith y ddau ohonynt.
Roedd yn honni mai ffurf lygredig ar y Gymraeg ‘myn duw brawd’ yw ‘modebroth’. Efallai fod hyn yn gywir, ond tarddiad gwreiddiol y dywediad ‘gra(t)zacham’ yw’r ymadrodd Lladin ‘gratias agam’ (‘gadewch imi fendigo’), neu ‘gratias agamus’ (‘gadewch inni fendigo’).
Mae’n ymddangos bod Cormac yn ei ddehongli fel Brythoneg ar sail y ffaith hynod o resymol mai Brython oedd Padrig. Felly rhaid mai Brythoneg oedd ei ddywediadau, os nad oeddynt yn amlwg yn Wyddeleg na’n Lladin. Ond wedyn, pe bai Cormac yn anghywir am ‘gra(t)zacham’, fe allai fod wedi bod yn anghywir am ‘modebroth’, hefyd. Mewn gwirionedd, gallai ‘modebroth’ fod yn ymadrodd Gwyddeleg sy’n golygu ‘cosb ddwyfol’, wedi’i drawsffurfio yn yr un modd ag y newidir yn aml eiriau mewn llwon crefyddol (er enghraifft, yn Saesneg ceir ‘asu’ neu ‘iesgob’ yn lle ‘God’ a ‘Jesus’). P’un bynnag, nid oes rheswm grymus iawn dros gredu bod Muirchú yn gwir wybod yr union eiriau roedd Padrig wedi eu dweud 200 o flynyddoedd o’r blaen.
Wel, beth yw’r dyfarniad? Mae’n eitha posib y ganwyd Padrig yn yr ardal a elwir yn Gymru heddiw. Heb amheuaeth cafodd ei eni yng ngorllewin Prydain. Efallai ei fod yn meddwl mai Cymro oedd e, ac yn ddi-os byddai’r Saeson wedi ei gyfrif fel un o’r ‘Wealas’. Mae bron yn sicr mai hynafiad y Gymraeg oedd ei famiaith. Ond wedi dweud hyn oll, gwyddom iddo ddewis Iwerddon yn hytrach na gwlad ei enedigaeth. Mae e’n droednodyn yn hanes Cymru, ond yn hollbwysig yn hanes Iwerddon.
Yn y gêm rygbi a ysbrydolai fy nghrys-t yr Ŵyl Padrig Sant honno, un o’r chwaraewyr (ymhlith y lliaws) a sgoriodd geisiadau dros Iwerddon oedd rhyw Ronán O’Gara, a gafodd ei eni yn San Diego, California. Yn y bôn, o ran hunaniaeth, nid popeth yw man geni’
Efallai ei fod yn meddwl mai Cymro oedd e, ac yn ddi-os byddai’r Saeson wedi ei gyfrif fel un o’r ‘Wealas’.
| Roeddwn yn crwydro drwy strydoedd Galway Ŵyl Padrig Sant ym 2002, gan wisgo crys-t ac arno y geiriau, 'St Patrick: he’s Welsh, you know'. Y cyd-destun oedd fod Iwerddon wedi trechu Cymru yng nghystadleuaeth rygbi'r Chwe Chenedl bythefnos o'r blaen. Cellwair cyfeillgar oedd y slogan i fod, ac fel hyn roedd pobl yn ei gymryd. Ond, ydy e'n gywir? | I wandered the streets of Galway, on St Patrick’s Day 2002, wearing a t-shirt which stated “St Patrick: he’s Welsh, you know”. It was intended, and received, as friendly banter, in the context of a resounding Irish victory over Wales in the Six Nations rugby tournament a fortnight previously. But is it true? |
| Dylai'r ateb fod yn weddol syml. Wedi'r cwbl, mae Padrig yn dweud wrthym o ble y deuai'n wreiddiol, mewn un o'r dwy lith Ladin a ysgrifennodd ac sydd wedi goroesi hyd heddiw, sef tref o'r enw Banna Venta Berniae. Yn anffodus, wyddom ddim lle y bu honno, ar wahân i'r ffaith ei bod yn rhywle ym Mhrydain. Gan iddo gael ei ddala yno gan ysbeilwyr o Iwerddon, rhaid bod y lle yn eitha agos at arfordir gorllewin Prydain. Felly mae'n eitha posibl, er nad yw'n hollol sicr, fod y dref yn rhywle yng Nghymru. | The answer should be pretty straightforward. After all, Patrick tells us, in one of the two Latin works of his that have survived, where he was from: a town named Banna Venta Berniae. Unfortunately, we don’t know where that was, except that it was somewhere in Britain. As he was captured there by Irish raiders, it must have been reasonably close to the west coast of Britain. So it is quite possibly, but by no means necessarily, somewhere in Wales. |
| Efallai nad yw'r safle union o fawr bwys. Yn ystod bywyd Padrig (rywbryd yn y bumed ganrif OC), doedd Cymru fel yr ydym ni'n ei hadnabod ddim yn bodoli. 'Brythoniaid' oedd yr enw a ddefnyddiwyd i sôn amdanynt eu hunain gan y bobl oedd yn byw yn yr amryw deyrnasoedd yn yr ardal rydym ni'n ei galw'n Gymru bellach. Ar ben hynny roedd llawer o bobloedd eraill yn defnyddio'r un enw, hynny yw, y rhai oedd yn byw yn y rhan o Brydain i'r de o Fur Hadrian - sef y dalaith Rufeinig gynt o'r enw Britannia. | Perhaps its precise location doesn’t really matter. In Patrick’s lifetime (some time in the fifth century AD), Wales, as we know it, did not exist. The inhabitants of the various kingdoms which made up the geographical area which we now call Wales called themselves “Britons”, as indeed did many other people in the part of Britain south of Hadrian’s Wall – the old Roman province of Britannia. |
| Ond y dechreuodd y Brythoniaid a siaradai'r math o Gelteg Ynysol o'r enw Frythoneg (sydd yn iaith hynafiadol i'r Gymraeg, i'r Gernyweg, ac i'r Llydaweg) ddefnyddio enw arall arnynt eu hunain, sef Combrogī ‘cyd-frowyr’. O'r term hwn y terddir yr enw lle Saesneg Cumbria, ac ohono fe y daw'r gair Cymry hefyd, sef yr enw y mae gwerin yng Nghymru'n ei ddefnyddio i ddisgrifio eu hunain heddiw (yn yr Oesoedd Canol cafodd y term hwn ei ddefnyddio i sôn am y wlad hefyd, ac mae wedi troi'n 'Cymru' erbyn hyn). Amhosibl yw dweud, fodd bynnag, p'un a gâi'r term hwn ei ddefnyddio yn ystod y pumed ganrif, neu beidio. | But those Britons who spoke the British Celtic language known as Brittonic (the ancestor of Welsh, Cornish and Breton) began to use another name for themselves, Combrogī – “fellow countrymen”. This term is the ancestor of the English place name Cumbria, and of the word the Welsh use today to describe themselves: Cymry (in the Middle Ages, this term was also used for the country of Wales, which is now spelled Cymru). Whether or not this term was in use in the fifth century, however, is impossible to say. |
| Erbyn hynny, roedd pobloedd a siaradai ieithoedd Germaneg yn sefydlu teyrnasoedd yn ne ynys Prydain, ac yn y dwyrain hefyd. Roedd y rhain yn rhagflaenwyr i'r 'gens Anglorum' hynny yw 'y werin Seisnig’ a defnyddio geiriau hanesydd (ac yn hwyrach, sant) Bede oedd yn ysgrifennu yn yr wythfed ganrif. Nid Brythoniaid oedd y bobl hyn, nac o'u rhan eu hunain, nac o ran eu cymdogion i'r gorllewin ychwaith. Y pryd hynny eu henw ar y werin y tu hwnt i Gymru oedd 'Saeson', a hyd yn oed heddiw yr un enw sy'n cael ei ddefnyddio (a 'Sasanaigh' yn Gaeleg). Yn eu tro, roedd y Saeson yn galw'r Brythoniaid yn 'Wealas' a'r term hwn yw tarddiad y gair 'Welsh'. Felly, o safbwynt Saesneg cyfoes o leiaf, fe fyddai Padrig wedi bod yn Gymro. | By this time, Germanic-speaking kingdoms were forming in the south and east of the island of Britain. They were the forerunners of what historian, and later saint, Bede, in the eighth century would call the “gens Anglorum”, “the English people”. These people were not Britons, either to themselves, or to their neighbours to the west, who, then and now, called them “Saxons” (Welsh “Saeson”, Gaelic “Sasanaigh”). They, in turn, called the Britons, “Wealas”, the origin of the word “Welsh”. So from a contemporary English point of view at least, Patrick would have been Welsh. |
| Iaith a llenyddiaeth Mae sawl ysgolhaig (y rhai o'r Oesoedd Canol a'r rhai o'r cyfnod modern fel ei gilydd) wedi honni bod San Padrig yn siarad Brythoneg. Gwyddom ei fod yn gallu ysgrifennu Lladin da, ond yr oedd yn ei galw'n 'lingua aliena' (hynny yw, 'iaith estron'). Nid ei famiaith oedd hon, ond roedd hi'n ddewis amlwg i'w defnyddio pan oedd e'n ysgrifennu, gan ei bod yn iaith uchel ei statws, a chanddi draddodiad llenyddol hynafol, ac yr oedd hi'n 'lingua franca' yn yr eglwys. Heb dystiolaeth bellach, gallem gasglu'n eitha hyderus mai Brythoneg fyddai ei famiaith (bryd hynny byddai brodor o orllewin Britannia wedi bod yn llai tebygol o lawer o siarad Gwyddeleg, Saesneg, neu Bicteg). Ond efallai y gallwn fynd yn bellach na hyn. | Language and literature It has been claimed, by scholars both medieval and modern, that St Patrick spoke Brittonic. We know that he could write good Latin, but he called it lingua aliena, “a foreign language”. It was not his native tongue, but, as a high status language with a venerable literary tradition, and the lingua franca of the church, it was the obvious choice for him to write in. Without any further evidence, we could quite confidently deduce that Brittonic would be his native tongue (Irish, English and Pictish are much less likely candidates for a native of western Britannia at this time). But perhaps we can go further than this. |
| Yn ystod y seithfed ganrif, ysgrifennodd mynach o Iwerddon o'r enw Muirchú Fywyd San Padrig yn Lladin. Yn y llyfr hwn y mae ambell ffaith hanesyddol ynglŷn â Padrig sy wedi'i chynnwys hefyd yn ei weithiau ei hun. Ond mae'r ffeithiau hyn yn cael eu cuddio bron yn llwyr gan y gwyrthiau niferus oedd agos yn orfodol mewn llenyddiaeth ganoloesol ynglŷn â bywydau'r saint. Ymhellach tywyllir y ffeithiau gan bropaganda digywilydd wedi'i lunio gan yr eglwys uchelgeisiol yn Armagh, a oedd wrthi'n neilltuo Padrig ar ei chyfer ei hun. | In the seventh century, an Irish monk named Muirchú wrote a Life of St Patrick in Latin. In it, the few historical facts about Patrick recoverable from his own writings are almost completely obscured by the numerous miracles that were de rigueur in medieval writings on the lives of saints, and the blatant propaganda of the ambitious church of Armagh, which was in the process of appropriating Patrick for itself. |
| Serch hynny, mae Muirchú yn cofnodi dau ddywediad Padrig air am air, sef 'modebroth' a 'gra(t)zacham'. Dyw Muirchú ddim yn dweud wrthym beth yw iaith yr ymadroddion hyn. Fodd bynnag, yn y nawfed ganrif roedd Cormac mac Cúilennáin, geiriadurwr o Iwerddon ac Esgob a Brenin Cashel hefyd, yn dehongli mai Brythoneg oedd iaith y ddau ohonynt. | Nonetheless, Muirchú records verbatim two of Patrick’s sayings: “modebroth” and “gra(t)zacham”. Muirchú does not tell us what language these utterances are in, but both were interpreted as being in Brittonic by a ninth-century Irish lexicographer, Cormac mac Cúilennáin, the bishop-king of Cashel. |
| Roedd yn honni mai ffurf lygredig ar y Gymraeg 'myn duw brawd' yw 'modebroth'. Efallai fod hyn yn gywir, ond tarddiad gwreiddiol y dywediad 'gra(t)zacham' yw'r ymadrodd Lladin 'gratias agam' ('gadewch imi fendigo'), neu 'gratias agamus' ('gadewch inni fendigo'). | Modebroth, he claimed, is a corrupt form of the Welsh “myn duw brawd” – “by the god of judgement”. This could be right, but gra(t)zacham derives ultimately from the Latin “gratias agam” (“let me give thanks”), or gratias agamus (“let us give thanks”). |
| Mae'n ymddangos bod Cormac yn ei ddehongli fel Brythoneg ar sail y ffaith hynod o resymol mai Brython oedd Padrig. Felly rhaid mai Brythoneg oedd ei ddywediadau, os nad oeddynt yn amlwg yn Wyddeleg na'n Lladin. Ond wedyn, pe bai Cormac yn anghywir am 'gra(t)zacham', fe allai fod wedi bod yn anghywir am 'modebroth', hefyd. Mewn gwirionedd, gallai 'modebroth' fod yn ymadrodd Gwyddeleg sy'n golygu 'cosb ddwyfol', wedi'i drawsffurfio yn yr un modd ag y newidir yn aml eiriau mewn llwon crefyddol (er enghraifft, yn Saesneg ceir 'asu' neu 'iesgob' yn lle 'God' a 'Jesus'). P'un bynnag, nid oes rheswm grymus iawn dros gredu bod Muirchú yn gwir wybod yr union eiriau roedd Padrig wedi eu dweud 200 o flynyddoedd o'r blaen. | Cormac seems to have interpreted it as Brittonic on the eminently reasonable ground that Patrick was a Briton, and that anything he is reported to have said which was not obviously Irish or Latin must have been Brittonic. So if he was wrong about gra(t)zacham, he may have been wrong about modebroth, too, which may, in fact, have been an Irish phrase meaning “divine judgment”, subjected to the sort of modification common in religious oaths (see, for instance, the English “gosh” and “jeepers” instead of “God” and “Jesus”). At any rate, there is no very compelling reason to believe that Muirchú really did have access to the exact words which Patrick had uttered 200 years previously. |
| Wel, beth yw'r dyfarniad? Mae'n eitha posib y ganwyd Padrig yn yr ardal a elwir yn Gymru heddiw. Heb amheuaeth cafodd ei eni yng ngorllewin Prydain. Efallai ei fod yn meddwl mai Cymro oedd e, ac yn ddi-os byddai'r Saeson wedi ei gyfrif fel un o'r 'Wealas'. Mae bron yn sicr mai hynafiad y Gymraeg oedd ei famiaith. Ond wedi dweud hyn oll, gwyddom iddo ddewis Iwerddon yn hytrach na gwlad ei enedigaeth. Mae e'n droednodyn yn hanes Cymru, ond yn hollbwysig yn hanes Iwerddon. | So what’s the verdict? Patrick may very well have been born in present-day Wales. He was certainly born in the west of Britain. He may have thought of himself as a Cymro, and the English would doubtless have classified him as Welsh. His first language was almost certainly the ancestor of Welsh. And yet, we know that he chose Ireland over the land of his birth. He is a footnote in the history of Wales, but utterly central to that of Ireland. |
| Yn y gêm rygbi a ysbrydolai fy nghrys-t yr Ŵyl Padrig Sant honno, un o'r chwaraewyr (ymhlith y lliaws) a sgoriodd geisiadau dros Iwerddon oedd rhyw Ronán O’Gara, a gafodd ei eni yn San Diego, California. Yn y bôn, o ran hunaniaeth, nid popeth yw man geni’ | In the game of rugby which inspired my St Patrick’s Day t-shirt, one of the (many) try scorers for Ireland was a certain Ronán O’Gara, born San Diego, California. When it comes to identity, place of birth isn’t everything. |
Yn enedigol o Gaeredin, enillodd Simon gradd mewn Astudiaethau Celtaidd a PhD mewn Cymraeg Canol o Aberystwyth. Ar ol cyfnod ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway, daeth yn ol i Aberystwyth i ddarlithio yn 2003.
Simon was born in Edinburgh, studied for a degree in Celtic Studies and then a PhD in Middle Welsh in Aberystwyth. After a period at the National University of Ireland, Galway, he returned to Aberystwyth as a lecturer in 2003.
Mae Patrick Jemmer wedi creu’r fersiwn Cymraeg i parallel.cymru / Patrick Jemmer has created the Welsh version for parallel.cymru
]]>