The novel Esgyrn came second in the Daniel Owen Memorial Prize at the Cardiff Bay National Eisteddfod 2018. The story talks about the relationship between a grandfather and his two grandchildren- Twm who is 16 and Berwyn who is younger and in a wheelchair, and here Heiddwen explains more…
Mae Esgyrn yn nofel am berthyn. Hon yw fy ail nofel ac ar ôl ysgrifennu Dŵr yn yr Afon, a gafodd ei chyhoeddi yn 2017 gan Gomer, roedd rhaid mynd ati i ysgrifennu nofel newydd. Rwyf wrth fy modd yn clustfeinio a darllen pobol. Fel sbardun cychwynnol i’r nofel hon fe ges sgwrs gyda fy Nhad yng nghyfraith. Mae gan bob un ohonom ryw stori ddifyr a chornel o’r stori honno yw sail y nofel hon. (Ond, gwell peidio dweud gormod wrtho am hynny rhag ofn iddo fynnu ‘cut o’r profits…’).
Ysgrifennais y nofel mewn rhyw 3 mis gan ail ymweld â hi am gyfnod wedi hynny. Mae’r teip o gymeriadau sydd ynddi yn rhai rwy’n gyfarwydd iawn â nhw, er wrth gwrs mae modd pesgi ambell un a gwanhau ambell un arall. Rwy’n athrawes ers rhyw ugain mlynedd yn addysgu Drama a Saesneg, ac mae cael bod yng nghanol bwrlwm plant yn ysbrydoliaeth ynddo ei hunan.
Lleolwyd Esgyrn ar fferm, ac fel merch a gwraig i ffermwr mae iaith y tir yn rhan o’m hanian. Mae’r dafodiaith yn allweddol hefyd, gan ei bod yn rhoi llais go iawn i’r cymeriadau. Mae elfennau o’r nofel yn dywyll ac elfennau eraill yn ddoniol. Fel hynny rwy’n gweld bywyd.
Mae dau frawd yn dod i fyw gyda’i Tad cu, ac wrth i’r nofel ddatblygu maent yn dod i adnabod ei gilydd, yn yr un modd y down ninnau i’w hadnabod nhw. Mae’r brawd lleiaf, Berwyn mewn cadair olwyn ac yn methu gwneud dim dros ei hunan. Yn y cyfnod pan ysgrifennais Esgyrn roeddwn ynghlwm wrth ail ddrafftio Milwr yn y Meddwl, ac roedd y prif gymeriad yno mewn cadair olwyn hefyd. Roedd hyn o safbwynt datblygu cymeriad yn newid pob dim. Mae rhyw ddibyniaeth a thristwch imi wrth gymharu’r cymeriad cyn ac ar ôl dyfodiad y gadair olwyn.
Mae brawd fy nhad, Wncwl Handel, hefyd mewn cadair olwyn ac yn cael ei fwydo a’i newid gan eraill ers ei eni. Llynedd, fel teulu fe ddathlon ei ben blwydd yn 60 oed. Mae’n siŵr bod hyn yn yr is ymwybod yn rhywle wedi dylanwadu ar gymeriad Berwyn.
Pam yr enw Esgyrn? Mae esgyrn yn torri, fel rhai Berwyn, mae esgyrn hefyd yn bethau sy’n parhau yn y pridd wedi i’r cnawd bydru. Mae esgyrn yn symbol o farwolaeth a chyfrinachau. Pydri mae’r cnawd ond yn aml mae esgyrn yn aros. Mae elfennau o hynny mewn sawl cymeriad. Mae perthynas ambell un yn pydru, ond mae dal asgwrn y berthynas ar ôl.
Fe ddaeth y nofel hon yn ail am y Gwobr Goffa Daniel Owen 2018. Tri beirniad oedd wrthi yn tafoli; roedd dwy wedi ei mwynhau yn fawr. Rwy’n mawr obeithio bydd y darllenwyr yn feirniaid teg ac yn ei mwynhau hefyd.
Mae gan bob un ohonom ryw stori ddifyr a chornel o’r stori honno yw sail y nofel hon.
Mae Esgyrn yn nofel am berthyn. Hon yw fy ail nofel ac ar ôl ysgrifennu Dŵr yn yr Afon, a gafodd ei chyhoeddi yn 2017 gan Gomer, roedd rhaid mynd ati i ysgrifennu nofel newydd. Rwyf wrth fy modd yn clustfeinio a darllen pobol. Fel sbardun cychwynnol i’r nofel hon fe ges sgwrs gyda fy Nhad yng nghyfraith. Mae gan bob un ohonom ryw stori ddifyr a chornel o’r stori honno yw sail y nofel hon. (Ond, gwell peidio dweud gormod wrtho am hynny rhag ofn iddo fynnu ‘cut o’r profits...’) | Esgyrn (Bones) is a novel about belonging. It is my second novel and after writing Dŵr yn yr Afon (Water in the river), which was published by Gomer in 2017, I set about writing a new novel. I am in my element eavesdropping on people and reading them. The initial stimulus for this novel came from a conversation with my father-in-law. Every one of us has some interesting story to tell, and part of his story is the foundation of this novel. (But, better not say too much about this just in case he wants a cut of the profits.) |
Ysgrifennais y nofel mewn rhyw 3 mis gan ail ymweld â hi am gyfnod wedi hynny. Mae’r teip o gymeriadau sydd ynddi yn rhai rwy’n gyfarwydd iawn â nhw, er wrth gwrs mae modd pesgi ambell un a gwanhau ambell un arall. Rwy’n athrawes ers rhyw ugain mlynedd yn addysgu Drama a Saesneg, ac mae cael bod yng nghanol bwrlwm plant yn ysbrydoliaeth ynddo ei hunan. | I wrote the novel in three months, revisiting it for a time after that. The kind of characters in it are ones that I am very familiar with, although some are fattened up while others are slimmed down. I have been a teacher for some twenty years, teaching Drama and English, and being in the middle of children's hurly-burly is inspiration in itself. |
Lleolwyd Esgyrn ar fferm, ac fel merch a gwraig i ffermwr mae iaith y tir yn rhan o’m hanian. Mae’r dafodiaith yn allweddol hefyd, gan ei bod yn rhoi llais go iawn i’r cymeriadau. Mae elfennau o’r nofel yn dywyll ac elfennau eraill yn ddoniol. Fel hynny rwy’n gweld bywyd. | Esgyrn is set on a farm, and as the daughter and wife of a farmer the language of the soil comes naturally to me. The dialect is a key element too, as it gives a proper voice to the characters. Some elements of the novel are dark and others are humorous. That is how I see life. |
Mae dau frawd yn dod i fyw gyda’i Tad cu, ac wrth i’r nofel ddatblygu maent yn dod i adnabod ei gilydd, yn yr un modd y down ninnau i’w hadnabod nhw. Mae’r brawd lleiaf, Berwyn mewn cadair olwyn ac yn methu gwneud dim dros ei hunan. Yn y cyfnod pan ysgrifennais Esgyrn roeddwn ynghlwm wrth ail ddrafftio Milwr yn y Meddwl, ac roedd y prif gymeriad yno mewn cadair olwyn hefyd. Roedd hyn o safbwynt datblygu cymeriad yn newid pob dim. Mae rhyw ddibyniaeth a thristwch imi wrth gymharu’r cymeriad cyn ac ar ôl dyfodiad y gadair olwyn. | Two brothers come to live with their grandfather, and as the novel un-folds they get to know one another, in the same way we get to know them. The younger brother, Berwyn, is in a wheelchair and can do nothing for himself. At the time when I wrote Esgyrn I was in the middle of redrafting 'Milwr yn y Meddwl', and the main character there was also in a wheelchair. From the point of view of developing a character this changed everything. For me there was some dependency and sadness comparing the character before and after the arrival of the wheelchair. |
Mae brawd fy nhad, Wncwl Handel, hefyd mewn cadair olwyn ac yn cael ei fwydo a’i newid gan eraill ers ei eni. Llynedd, fel teulu fe ddathlon ei ben blwydd yn 60 oed. Mae’n siŵr bod hyn yn yr is ymwybod yn rhywle wedi dylanwadu ar gymeriad Berwyn. | My father's brother, Uncle Handel, is also in a wheelchair and has been dependent on others since birth. Last year as a family we celebrated his 60th birthday. I am sure that this was somewhere in my subconscious influencing the character of Berwyn. |
Pam yr enw Esgyrn? Mae esgyrn yn torri, fel rhai Berwyn, mae esgyrn hefyd yn bethau sy’n parhau yn y pridd wedi i’r cnawd bydru. Mae esgyrn yn symbol o farwolaeth a chyfrinachau. Pydri mae’r cnawd ond yn aml mae esgyrn yn aros. Mae elfennau o hynny mewn sawl cymeriad. Mae perthynas ambell un yn pydru, ond mae dal asgwrn y berthynas ar ôl. | Why the name Esgryn? Bones break, like Berwyn's, bones are also things that survive in the soil after the flesh decays. Bones symbolise death and secrets. The flesh decays but often the bones remain. There are elements of this in many characters. Some relationships may decay, but the bones of the relationship are left behind. |
Fe ddaeth y nofel hon yn ail am y Gwobr Goffa Daniel Owen 2018. Tri beirniad oedd wrthi yn tafoli; roedd dwy wedi ei mwynhau yn fawr. Rwy’n mawr obeithio bydd y darllenwyr yn feirniaid teg ac yn ei mwynhau hefyd. | The novel was runner-up for the Daniel Owen Memorial Prize in 2018. It was judged by three judges; two had enjoyed it greatly. I am very much hoping that the readers will be fair judges and enjoy it too. |
]]>
Amhos!b (Impossible) is the first Welsh language book in the field of Freakonomics- a whole class of popular English books that reveals how scientific discoveries show that many things we have assumed to be taken for granted are false- if the New Scientist and the evidence gathered for this volume, is to be believed. Here Geraint, the Welsh language’s main lexicographer, introduces his book…
Man cychwyn y llyfr hwn yw’r gosodiad: ‘Mae popeth rwyt ti’n ei feddwl – yn anghywir!’. Mae’r sylw yn codi wrth i arbenigwyr ddeall yn well sut mae’r ymennydd dynol yn gweithio. Yn syml gellir ystyried fod yr ymennydd yn gweithio mewn dwy ffordd:
1. Mae un ffordd yn gyfrifol am ein meddyliau, ein teimladau a’n hatgofion.
2. Mae’r ffordd arall yn rheoli ein system nerfol a gweithrediad y corff – curiad y galon, yr ysgyfaint a symudiad ein dwylo a’n traed.
Erbyn hyn mae arbenigwyr yn gwybod cyn lleied o wir reolaeth sydd gennym dros weithgarwch ein hymennydd. Nid ydym yn gallu rheoli ein meddyliau na’n teimladau, na chwaith curiad y galon nag ymatebion greddfol ein cyhyrau.
Y syndod mwyaf i mi oedd deall nad ydym yn ‘gweld’ dim byd. Mae’r llygaid yn derbyn data neu wybodaeth mewn dau ddimensiwn a gyda chymorth y synhwyrau yn eu troi mewn i’r darlun tri dimensiwn yr ydym yn ei ‘weld’. Y ffordd y mae’n gwneud hyn yw trwy adnabod patrymau. Unwaith mae ein hymennydd wedi adnabod patrwm mae’n gallu anwybyddu’r holl ddata eraill sy’n ei gyrraedd drwy’r llygaid a chanolbwyntio ar yr un patrwm mae’n adnabod. Y gallu i adnabod patrymau (neu’r newid sy’n digwydd i batrwm arferol) sy’n gyfrifol am bron y cyfan o’n gwybodaeth feddyliol. Y ‘gwirionedd’ yw’r ffordd yr ydym yn edrych yn ôl at y gorffennol er mwyn adnabod patrymau ac egluro’r patrymau sydd y tu ôl i bob peth.
Mae’r gwyddonydd ar y llaw arall yn defnyddio’i allu i adnabod patrymau newydd sy’n seiliedig ar eu harsylwi a’u mesur. Yr enw ar batrwm newydd gwyddonol yw ‘damcaniaeth’.
Mae ‘gwyddonwyr’ yn gallu bod yn ddilornus o ‘wirioneddau’ nad oes iddyn nhw unrhyw sylfaen mewn mesuriadau a thystiolaeth wrthrychol. Mae credinwyr gwirioneddau traddodiadol (ni!) yn gwrthod derbyn damcaniaethau gwyddonol sy’n groes i’r ‘gwirioneddau’ yr ydym yn eu hadnabod – gwirioneddau fel bod y byd yn grwn ac yn troelli, neu yn fwy diweddar fod mater (gan ein cynnwys ni ein hunain) wedi’i wneud o egni.
Problem sy’n perthyn i’r ddwy ffordd yma o edrych ar y byd yw eu bod ond yn ystyried un patrwm allan o’r holl batrymau sy’n bosibl. Rhaid cydnabod bod rhai o’r patrymau a adnabuwyd yn llawer mwy defnyddiol na’i gilydd ac yn ein cynorthwyo ni ar ein taith drwy fywyd – fel y mae map neu lywiwr lloeren yn ein cynorthwyo i gyrraedd yn ddiogel o A – B, o gofio nad yw na fap na llywiwr lloeren ddim byd yn debyg i’r Ddaear, y belen sy’n troelli 1,000 o filltiroedd yr awr.
Fel gyda ‘map’ y mae gofyn cofnodi’r newidiadau sy’n digwydd i batrymau yn nhirlun ein bywydau, neu y byddwn yn colli’r ffordd. Y patrwm fel yr wyf i’n ei adnabod allan o hyn rwyf wedi’i gasglu, yw ein bod yn ceisio deall y byd a’i bethau drwy ei ddadansoddi, a’u torri’n ddarnau mesuradwy lai a llai. Dyma’r ddameg ar sut i fynd ati i fwyta eliffant pe bai raid (ei dorri’n ddarnau mân a’u bwyta fesul un).
Ond wrth wneud hyn yr ydym yn colli golwg ar sut y mae’r cyfan yn perthyn i’w gilydd. Dameg y gath sydd ei angen arnom yn awr, sef: ‘Os wyt ti’n dyrannu cath er mwyn cael gwybod sut mae cath yn gweithio rwyt ti’n bennu lan gyda chath sydd ddim yn gweithio.’ ‘Cath sydd ddim yn gweithio’ yw ein byd a’n cymdeithas ar hyn o bryd.
Mae’r llyfr yn ymwneud â phob math o feysydd yn dechrau gyda Pa beth yw dyn? ac yn mynd yn ei flaen i ystyried Elyrch duon, Sêr-ddewiniaeth a fi; Effaith blasebo, Cyfrinach ceir Toyota; Sut i droi dŵr yn hufen, Gorsaf Fysiau Helsinki, Dedwyddwch; Amser; Ourobouros, a Duw. Ond dim ond y patrymau yr wyf fi’n eu hadnabod yw’r rhain. Pa batrymau newydd welwch chi tybed?
Mae’r llygaid yn derbyn data neu wybodaeth mewn dau ddimensiwn a gyda chymorth y synhwyrau yn eu troi mewn i’r darlun tri dimensiwn yr ydym yn ei ‘weld’.
Man cychwyn y llyfr hwn yw’r gosodiad: ‘Mae popeth rwyt ti’n ei feddwl – yn anghywir!’ | The starting point of this book is the statement: ‘Everything you think – is wrong!’ |
Mae’r sylw yn codi wrth i arbenigwyr ddeall yn well sut mae’r ymennydd dynol yn gweithio. | This comment has come up as experts try to understand better how the human brain works. |
Yn syml gellir ystyried fod yr ymennydd yn gweithio mewn dwy ffordd: | Simply put, we can consider that the brain works in two ways: |
1. Mae un ffordd yn gyfrifol am ein meddyliau, ein teimladau a’n hatgofion | 1. One way is responsible for our thoughts, our feelings, and our memories |
2. Mae’r ffordd arall yn rheoli ein system nerfol a gweithrediad y corff - curiad y galon, yr ysgyfaint a symudiad ein dwylo a’n traed. | 2. The other way controls our nervous system and the functioning of the body – the heartbeat, the lungs and movements of our hands and feet. |
Erbyn hyn mae arbenigwyr yn gwybod cyn lleied o wir reolaeth sydd gennym dros weithgarwch ein hymennydd. Nid ydym yn gallu rheoli ein meddyliau na’n teimladau, na chwaith curiad y galon nag ymatebion greddfol ein cyhyrau. | By now experts know how little true control we have over the activities of our brains. We can’t control our thoughts or our feelings, nor our heartbeat, nor our involuntary muscular responses. |
Y syndod mwyaf i mi oedd deall nad ydym yn ‘gweld’ dim byd. Mae’r llygaid yn derbyn data neu wybodaeth mewn dau ddimensiwn a gyda chymorth y synhwyrau yn eu troi mewn i’r darlun tri dimensiwn yr ydym yn ei ‘weld’. | The biggest surprise for me was understanding that we don’t ‘see’ anything. The eyes receive data or information in two dimensions and with the help of the senses, turn this into a three-dimensional picture that we ‘see’. |
Y ffordd y mae’n gwneud hyn yw trwy adnabod patrymau. Unwaith mae ein hymennydd wedi adnabod patrwm mae’n gallu anwybyddu’r holl ddata eraill sy’n ei gyrraedd drwy’r llygaid a chanolbwyntio ar yr un patrwm mae’n adnabod. | The way this happens is through pattern-recognition. Once our brain has recognised a pattern it can ignore all the other data which reach it through the eyes and concentrate on the one pattern it recognises. |
Y gallu i adnabod patrymau (neu’r newid sy’n digwydd i batrwm arferol) sy’n gyfrifol am bron y cyfan o’n gwybodaeth feddyliol. Y ‘gwirionedd’ yw’r ffordd yr ydym yn edrych yn ôl at y gorffennol er mwyn adnabod patrymau ac egluro’r patrymau sydd y tu ôl i bob peth. | It is the ability to recognise patterns (or changes in usual patterns) which is responsible for almost all of our mental information. The ‘truth’ is the way we look back at the past in order to recognise patterns and clarify the patterns that underly every thing. |
Mae’r gwyddonydd ar y llaw arall yn defnyddio’i allu i adnabod patrymau newydd sy’n seiliedig ar eu harsylwi a’u mesur. Yr enw ar batrwm newydd gwyddonol yw ‘damcaniaeth’. | Scientists on the other hand use their ability to recognise new patterns based on observing and measuring them. The name for a new scientific pattern is a ‘hypothesis’. |
Mae ‘gwyddonwyr’ yn gallu bod yn ddilornus o ‘wirioneddau’ nad oes iddyn nhw unrhyw sylfaen mewn mesuriadau a thystiolaeth wrthrychol. Mae credinwyr gwirioneddau traddodiadol (ni!) yn gwrthod derbyn damcaniaethau gwyddonol sy’n groes i’r ‘gwirioneddau’ yr ydym yn eu hadnabod - gwirioneddau fel bod y byd yn grwn ac yn troelli, neu yn fwy diweddar fod mater (gan ein cynnwys ni ein hunain) wedi’i wneud o egni. | 'Scientists’ can be scornful about ‘truths’ that don’t have any foundation in measurements and objective evidence. Believers in traditional truths (us!) are forced to accept scientific hypotheses that go against the ‘truths’ we recognise – truths like the fact that the world is round and spinning, or more recently that matter (including us ourselves) is made of energy. |
Problem sy’n perthyn i’r ddwy ffordd yma o edrych ar y byd yw eu bod ond yn ystyried un patrwm allan o’r holl batrymau sy’n bosibl. | A problem that pertains to both these ways of looking at the world is that they only consider one pattern out of all the possible patterns. |
Rhaid cydnabod bod rhai o’r patrymau a adnabuwyd yn llawer mwy defnyddiol na’i gilydd ac yn ein cynorthwyo ni ar ein taith drwy fywyd - fel y mae map neu lywiwr lloeren yn ein cynorthwyo i gyrraedd yn ddiogel o A – B, o gofio nad yw na fap na llywiwr lloeren ddim byd yn debyg i’r Ddaear, y belen sy’n troelli 1,000 o filltiroedd yr awr. | We have to acknowledge that some of the patterns we recognise are much more useful than others and help us on our journey through life – as with a map or sat-nav helps us to get safely from A – B, remembering that neither a map nor a sat-nav is anything like the Earth, the sphere that’s spinning at 1,000 miles an hour. |
Fel gyda ‘map’ y mae gofyn cofnodi’r newidiadau sy’n digwydd i batrymau yn nhirlun ein bywydau, neu y byddwn yn colli’r ffordd. | Like with a ‘map’ it’s important to record the changes that occur to the patterns in the landscape of our lives, or we’ll lose the way. |
Y patrwm fel yr wyf i’n ei adnabod allan o hyn rwyf wedi’i gasglu, yw ein bod yn ceisio deall y byd a’i bethau drwy ei ddadansoddi, a’u torri’n ddarnau mesuradwy lai a llai. Dyma’r ddameg ar sut i fynd ati i fwyta eliffant pe bai raid (ei dorri’n ddarnau mân a’u bwyta fesul un). | The pattern, such as I’ve recognised it out of what I’ve got to grips with, is that we try to understand the world and the things in it by analysing it, and cutting things up into smaller and smaller measurable chunks. Remember the advice about how to go about eating an elephant if you have to (by cutting it into tiny pieces and eating them one by one). |
Ond wrth wneud hyn yr ydym yn colli golwg ar sut y mae’r cyfan yn perthyn i’w gilydd. Dameg y gath sydd ei angen arnom yn awr, sef: | But by doing this we lose sight of how everything connects together. It’s now we need to consider the Tale of the cat, namely: |
‘Os wyt ti’n dyrannu cath er mwyn cael gwybod sut mae cath yn gweithio rwyt ti’n bennu lan gyda chath sydd ddim yn gweithio.’ | ‘If you’re dissecting a cat to find out how a cat works, you’ll end up with a cat that doesn’t work.’ |
‘Cath sydd ddim yn gweithio’ yw ein byd a’n cymdeithas ar hyn o bryd. | ‘A cat that doesn’t work’ is our world and our society at the present time. |
Mae’r llyfr yn ymwneud â phob math o feysydd yn dechrau gyda Pa beth yw dyn? ac yn mynd yn ei flaen i ystyried Elyrch duon, Sêr-ddewiniaeth a fi; Effaith blasebo, Cyfrinach ceir Toyota; Sut i droi dŵr yn hufen, Gorsaf Fysiau Helsinki, Dedwyddwch; Amser; Ourobouros, a Duw. Ond dim ond y patrymau yr wyf fi’n eu hadnabod yw’r rhain. Pa batrymau newydd welwch chi tybed? | The book is concerned with all kinds of topics beginning with What is a human being? and going on to consider Black swans, Astrology and Me; the Placebo effect, the Secret of Toyota cars; How to turn water into cream, Helsinki Bus Station, Happiness; Time; the Ourobouros, and God. But these are only the patterns I recognise. What new patterns will you see, I wonder? |
Honno – the Welsh Women’s Press – are republishing a novel by Elena Puw Morgan that tells the story of Nansi Lovell, a gypsy from the Corwen area of Merionethshire. Here Carol Jenkins explains more about the book and Honno Press…
Sefydlwyd gwasg Honno yn 1986 gan grŵp o fenywod a oedd yn teimlo bod angen rhoi cyfleoedd i awduron benywaidd yn y byd cyhoeddi yng Nghymru. Fe’i rhedir fel menter gydweithredol ac un o’i phrif amcanion yw meithrin llenorion benywaidd Cymru a rhoi cyfle iddynt weld eu gwaith mewn print. Rhydd hyn gyfle i ddatblygu talentau newydd ond hefyd i geisio ail-ddarganfod awduron y mae eu gwaith wedi bod allan o brint ers amser.
I’r perwyl hwn y mae gan Honno dwy gyfres o glasuron – Honno Classics a Chlasuron Honno – a thrwy’r cyfresi hyn cyflwynir gweithiau’r awduron benywaidd hynny i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr. Nansi Lovell: Hunangofiant Hen Sipsi yw’r nawfed gyfrol i’w chyhoeddi yng nghyfres Clasuron Honno.
Ganwyd awdur y nofel – Elena Puw Morgan (1900-1973) – yng Nghorwen, Sir Feirionnydd ac yn yr ardal honno y treuliodd y rhan fwyaf o’i hoes. Yn y rhagymadrodd i’r argraffiad newydd hwn, mae ei hwyresau (Mererid ac Angharad Puw Davies) yn ei disgrifio fel “un â natur addfwyn, diymhongar ac eithriadol swil”.
Yr oedd hi’n gymeriad unigryw; yn wraig briod barchus ond rhywun oedd hefyd yn cymysgu â chymeriadau diddorol a gwahanol, ac roedd ei chartref yn amlwg ym mywyd llenyddol y cylch. Fel y dywed ei hwyresau: “er mai cul mewn rhai ystyron oedd magwraeth Elena Puw Morgan, nid cyfyng o gwbl oedd ei gorwelion na’i chyfeillion a’i chydnabod fel oedolion.”
Roedd ganddi ddiddordeb arbennig yn hanes a diwylliant y sipsiwn Romani ac roedd ardal Corwen yn rhan o gynefin Teulu Abram Wood, tylwyth Romani mwyaf amlwg gogledd Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Yn wir, deellir bod yr awdur yn ymweld ag aelodau o’r tylwyth a dysgu am eu ffordd o fyw.
Rhoddodd y profiadau hynny sylfaen arbennig felly ar gyfer y nofel hon sy’n cynnwys cymeriadau sy’n seiliedig ar sipsiwn go iawn o dylwyth Abram Wood a thylwyth y Lovells. Er nad ydyw mor adnabyddus â’i nofelau eraill – Y Wisg Sidan ac Y Graith – fe enillodd wobr amdani yn Eisteddfod Caergybi (1927) ac arweiniodd hyn at gyhoeddi’r nofel wedyn yn 1933. Roedd hi’n nofel boblogaidd ac fe gafodd ei hail-argraffu yn 1934 ac 1938.
Dywedodd Roseanne Reeves, Golygydd y gyfrol: “Mae’r mewnwelediad unigryw i fywydau dirgel a phersonol y Romani yn bwnc na ŵyr llawer amdano, ac mae’r llyfr felly’n sicr o ennyn chwilfrydedd darllenwyr. Mae’r plot a’r cymeriadau yn chwa o awyr iach. Ym marn un o berchnogion siop lyfrau ym Mlaenau Ffestiniog dyma un o’r nofelau Cymraeg gorau iddi erioed ei darllen!”
Fel y ddwy nofel arall, mae Nansi Lovell yn ymdrin â bywyd merched yng nghefn gwlad Cymru a’r caledi a’r brwydrau yr oedd yn rhaid iddynt eu hwynebu. Yn y nofel hon, mae Nansi yn adrodd, wrth ei hwyres Nansi Wyn, hanes ei magwraeth o dan ofal ei nain hithau, Nans Wood, a’i pherthynas wedi hynny â Phlas Madog, cartref Madog, taid Nansi Wyn. Arferai’r sipsiwn mynd yn flynyddol I Blas Madog i weithio yn ystod y dydd a diddanu gwesteion gyda’r nos â’u talentau cerddorol. Mae’n stori sy’n pontio pum cenhedlaeth.
Wrth ddisgrifio’r nofel yn y rhagymadrodd, dywed Mererid ac Angharad Puw Davies ei bod hi’n bortread o “wraig lwyr annibynnol, sy’n gwrthod priodas a mamolaeth barchus pan fônt yn bygwth ei llethu, ac yn ymgydio yn eiddgar a hollol hyderus â grym a rhyddid – ac â’r ysgrifbin”. Er iddi gael ei hysgrifennu’n agos i ganrif yn ôl, mae ei neges yr un mor berthnasol heddiw, a dyma oedd un o doniau Elena Puw Morgan.
Ei phrif gyfnod llenyddol oedd 1931-43. Dechreuodd drwy ysgrifennu ar gyfer plant ac enillodd amryw wobrau ar gyfer ei nofelau i blant. Yn ogystal â’r wobr am Nansi Lovell, enillodd Elena Puw Morgan wobr y Brif Nofel yn Eisteddfod Abergwaun yn 1936 am Y Wisg Sidan, a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Caerdydd yn 1938 am Y Graith. Hwn oedd yr ail dro i’r fedal gael ei chyflwyno (fe’i cyflwynid ar y pryd bob tair blynedd am waith rhyddiaith gorau’r tair blynedd) ac Elena Puw Morgan oedd y ferch gyntaf i’w hennill. Ystyrir y nofel honno fel cam mawr ymlaen yn natblygiad y nofel Gymraeg. Er y teimla rhai na chafodd Elena Puw Morgan y clod na’r sylw yr oedd yn ei haeddu, mae’r ffaith i’r ddwy nofel hyn gael eu hail-argraffu yn yr 1990au gan Wasg Gomer ac i Y Wisg Sidan gael ei throi’n gyfres deledu ar S4C, yn dyst i’w poblogrwydd.
Ystyrir y nofel honno fel cam mawr ymlaen yn natblygiad y nofel Gymraeg. Er y teimla rhai na chafodd Elena Puw Morgan y clod na’r sylw yr oedd yn ei haeddu, mae’r ffaith i’r ddwy nofel hyn gael eu hail-argraffu yn yr 1990au gan Wasg Gomer ac i Y Wisg Sidan gael ei throi’n gyfres deledu ar S4C, yn dyst i’w poblogrwydd.
Y mae gan Honno dwy gyfres o glasuron – Honno Classics a Chlasuron Honno – a thrwy’r cyfresi hyn cyflwynir gweithiau’r awduron benywaidd hynny i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr.
Sefydlwyd gwasg Honno yn 1986 gan grŵp o fenywod a oedd yn teimlo bod angen rhoi cyfleoedd i awduron benywaidd yn y byd cyhoeddi yng Nghymru. Fe'i rhedir fel menter gydweithredol ac un o'i phrif amcanion yw meithrin llenorion benywaidd Cymru a rhoi cyfle iddynt weld eu gwaith mewn print. Rhydd hyn gyfle i ddatblygu talentau newydd ond hefyd i geisio ail-ddarganfod awduron y mae eu gwaith wedi bod allan o brint ers amser. | The Honno press was founded in 1986 by a group of women who felt there was a need to provide female authors with opportunities in the publishing world in Wales. It is run as a co-operative venture and one of its chief aims is to nurture female writers of Wales and give them an opportunity to see their work in print. This gives an opportunity to develop new talents but also to attempt to rediscover authors whose work has been out of print for a long time. |
I'r perwyl hwn y mae gan Honno dwy gyfres o glasuron – Honno Classics a Chlasuron Honno – a thrwy'r cyfresi hyn cyflwynir gweithiau'r awduron benywaidd hynny i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr. Nansi Lovell: Hunangofiant Hen Sipsi yw'r nawfed gyfrol i’w chyhoeddi yng nghyfres Clasuron Honno. | To this end Honno have two series of classics – Honno Classics and Clasuron Honno – and through these series the works of these female authors are being introduced to a new generation of readers. Nansi Lovell: The Autobiography of an Old Gypsy is the ninth volume to be published in the Clasuron Honno series. |
Ganwyd awdur y nofel – Elena Puw Morgan (1900-1973) – yng Nghorwen, Sir Feirionnydd ac yn yr ardal honno y treuliodd y rhan fwyaf o’i hoes. Yn y rhagymadrodd i’r argraffiad newydd hwn, mae ei hwyresau (Mererid ac Angharad Puw Davies) yn ei disgrifio fel “un â natur addfwyn, diymhongar ac eithriadol swil”. | The author of the novel – Elena Puw Morgan (1900-1973) – was born in Corwen, Merionethshire and in this area spent the greater part of her life. In the introduction to this new edition, her granddaughters (Mererid and Angharad Puw Davies) describe her as 'someone of a pleasant disposition, unassuming and exceptionally modest'. |
Yr oedd hi’n gymeriad unigryw; yn wraig briod barchus ond rhywun oedd hefyd yn cymysgu â chymeriadau diddorol a gwahanol, ac roedd ei chartref yn amlwg ym mywyd llenyddol y cylch. Fel y dywed ei hwyresau: “er mai cul mewn rhai ystyron oedd magwraeth Elena Puw Morgan, nid cyfyng o gwbl oedd ei gorwelion na’i chyfeillion a’i chydnabod fel oedolion.” | She was a unique character; a respectable married woman but also someone who mixed with interesting and diverse characters, and her home played a prominent part in the literary life of the area. As her granddaughters said: "although Elena Puw Morgan's upbringing was narrow in some senses, her horizons were not restricted at all, nor her circle of adult friends and acquaintances". |
Roedd ganddi ddiddordeb arbennig yn hanes a diwylliant y sipsiwn Romani ac roedd ardal Corwen yn rhan o gynefin Teulu Abram Wood, tylwyth Romani mwyaf amlwg gogledd Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Yn wir, deellir bod yr awdur yn ymweld ag aelodau o’r tylwyth a dysgu am eu ffordd o fyw. | She took a particular interest in the history and culture of the Romany gypsies, and the Corwen region formed part of the haunts of the Abram Wood family, the most prominent tribe of Romany gypsies in the nineteenth and twentieth centuries. In fact, it is understood that the author visited members of the tribe and learned about their way of life. |
Rhoddodd y profiadau hynny sylfaen arbennig felly ar gyfer y nofel hon sy’n cynnwys cymeriadau sy'n seiliedig ar sipsiwn go iawn o dylwyth Abram Wood a thylwyth y Lovells. Er nad ydyw mor adnabyddus â’i nofelau eraill – Y Wisg Sidan ac Y Graith – fe enillodd wobr amdani yn Eisteddfod Caergybi (1927) ac arweiniodd hyn at gyhoeddi'r nofel wedyn yn 1933. Roedd hi’n nofel boblogaidd ac fe gafodd ei hail-argraffu yn 1934 ac 1938. | These experiences thus provided her with a particular foundation for this novel, which contains characters based on real characters from the Abram Wood tribe and the Lovell tribe. Although it is not as well known as her other novels – Y Wisg Sidan (The Silk Dress) and Y Graith (The Scar) – she won a prize for it at the Holyhead Eisteddfod (1927) and this then led to the publication of the novel in 1933. It was a popular novel and was reprinted in 1934 and 1938. |
Dywedodd Roseanne Reeves, Golygydd y gyfrol: “Mae’r mewnwelediad unigryw i fywydau dirgel a phersonol y Romani yn bwnc na ŵyr llawer amdano, ac mae'r llyfr felly'n sicr o ennyn chwilfrydedd darllenwyr. Mae’r plot a’r cymeriadau yn chwa o awyr iach. Ym marn un o berchnogion siop lyfrau ym Mlaenau Ffestiniog dyma un o’r nofelau Cymraeg gorau iddi erioed ei darllen!” | Roseanne Reeves, the series editor, said: "The unique insight into the private and personal lives of the Romany is a subject not much is known about, and so the book is sure to excite the curiosity of readers. The plot and characters are a breath of fresh air. In fact, according to a bookshop proprietors in Blaenau Ffestiniog, this is one of the best Welsh novels she has ever read!" |
Fel y ddwy nofel arall, mae Nansi Lovell yn ymdrin â bywyd merched yng nghefn gwlad Cymru a’r caledi a’r brwydrau yr oedd yn rhaid iddynt eu hwynebu. Yn y nofel hon, mae Nansi yn adrodd, wrth ei hwyres Nansi Wyn, hanes ei magwraeth o dan ofal ei nain hithau, Nans Wood, a’i pherthynas wedi hynny â Phlas Madog, cartref Madog, taid Nansi Wyn. Arferai’r sipsiwn mynd yn flynyddol I Blas Madog i weithio yn ystod y dydd a diddanu gwesteion gyda’r nos â’u talentau cerddorol. Mae’n stori sy’n pontio pum cenhedlaeth. | Like the other two novels, Nansi Lovell deals with the life of women in the Welsh countryside and the hardships and battles that they had to face. In this novel, Nansi recounts to her granddaughter Nansi Wyn the story of her upbringing under the care of her own grandmother, Nans Wood, and her subsequent relationship with Plas Madog, the home of Madog, Nansi Wyn's grandfather. The gypsies used to go every year to Plas Madog to work during the day and entertain the guests at night with their musical talents. It is a story that spans five generations. |
Wrth ddisgrifio’r nofel yn y rhagymadrodd, dywed Mererid ac Angharad Puw Davies ei bod hi’n bortread o “wraig lwyr annibynnol, sy’n gwrthod priodas a mamolaeth barchus pan fônt yn bygwth ei llethu, ac yn ymgydio yn eiddgar a hollol hyderus â grym a rhyddid – ac â'r ysgrifbin”. Er iddi gael ei hysgrifennu'n agos i ganrif yn ôl, mae ei neges yr un mor berthnasol heddiw, a dyma oedd un o doniau Elena Puw Morgan. | Describing the novel in the introduction, Mererid and Angharad Puw Davies say it is a portrait of "a fully independent woman, who refuses marriage and respectable motherhood when they threaten to oppress her, and with zeal and total confidence takes a firm hold of power and freedom – and of the pen." Although it was written close on a century ago, the message has the same relevance today, and that is one of Elena Puw Morgan's gifts. |
Ei phrif gyfnod llenyddol oedd 1931-43. Dechreuodd drwy ysgrifennu ar gyfer plant ac enillodd amryw wobrau ar gyfer ei nofelau i blant. Yn ogystal â’r wobr am Nansi Lovell, enillodd Elena Puw Morgan wobr y Brif Nofel yn Eisteddfod Abergwaun yn 1936 am Y Wisg Sidan, a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Caerdydd yn 1938 am Y Graith. Hwn oedd yr ail dro i’r fedal gael ei chyflwyno (fe’i cyflwynid ar y pryd bob tair blynedd am waith rhyddiaith gorau’r tair blynedd) ac Elena Puw Morgan oedd y ferch gyntaf i’w hennill. Ystyrir y nofel honno fel cam mawr ymlaen yn natblygiad y nofel Gymraeg. Er y teimla rhai na chafodd Elena Puw Morgan y clod na’r sylw yr oedd yn ei haeddu, mae'r ffaith i'r ddwy nofel hyn gael eu hail-argraffu yn yr 1990au gan Wasg Gomer ac i Y Wisg Sidan gael ei throi'n gyfres deledu ar S4C, yn dyst i’w poblogrwydd. | Her main literary period was 1931-1943. She began by writing for children and won various prizes for her children's novels. As well as the prize for Nansi Lovell, Elena Puw Morgan won the Best Novel prize at the Fishguard Eisteddfod in 1936 for Y Wisg Sidan (The Silk Dress), and the Prose Medal at the Cardiff Eisteddfod in 1938 for Y Graith (The Scar). This was the second time the medal was awarded (at the time it was only awarded every three years for the best prose work of the past three years) and Elena Puw Morgan was the first woman to win it. |
Ystyrir y nofel honno fel cam mawr ymlaen yn natblygiad y nofel Gymraeg. Er y teimla rhai na chafodd Elena Puw Morgan y clod na’r sylw yr oedd yn ei haeddu, mae'r ffaith i'r ddwy nofel hyn gael eu hail-argraffu yn yr 1990au gan Wasg Gomer ac i Y Wisg Sidan gael ei throi'n gyfres deledu ar S4C, yn dyst i’w poblogrwydd. | This novel was considered a great step forward in the development of the Welsh novel. Although some feel that Elena Puw Morgan did not get the fame and notice that she deserved, the fact that the two novels were reprinted by Gomer Press in the 1990s and Y Wisg Sidan was made into a television series on S4C testify to her popularity. |
Bydd argraffiad newydd Nansi Lovell: Hunangofiant Hen Sipsi yn cael ei lansio ar nos Wener 14eg Medi yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Croeso cynnes i bawb. The new edition of Nansi Lovell: Autobiography of an Old Gypsy is being launched on the evening of Friday 14th September at Hywel Teifi Academy, Swansea University. Everyone is welcome.
]]>
Lledaenaid y Saesneg
Un o gwestiynau mawr hanes Cymru yw pam na ddatblygodd mudiad cenedlaethol Cymreig o’r iawn ryw yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg? Fasa mudiad o’r fath ddim wedi arwain at annibyniaeth – roedd y Deyrnas Gyfunol yn wladwriaeth gref eithriadol – ond gallai fod wedi ennill digon o gonsesiynau i gadw Cymru’n wlad ble mae’r mwyafrif yn siarad Cymraeg.
Yn wir, o edrych ar hynt ieithoedd tebyg i’r Gymraeg mewn rhannau eraill o Ewrop yn yr un cyfnod, dyna y buasai rhywun wedi ei ddisgwyl. Dyma Oes Cenedlaetholdeb, ac ar hyd a lled Ewrop roedd gwledydd bychain yn mynnu hawliau iaith – hawl i addysg yn y famiaith, a’r hawl i’w hiaith gael ei defnyddio gan y wladwriaeth. Eto, doedd fawr o genedlaetholdeb yng Nghymru, ac erbyn diwedd y ganrif roedd gan y Cymry Cymraeg lai o hawliau iaith nag unrhyw genedl debyg.
Y Saeson ddim ar fai
Y diffyg yw’r rheswm am wendid y Gymraeg heddiw. Rydym yn clywed yn reit aml ei bod yn wyrthiol fod y Gymraeg wedi goroesi, ond gallai’r gymdeithas Gymraeg fod wedi dal ei thir yn rhwydd iawn.
A’r syndod yw hyn! Nid gorthrwm y Saeson oedd yn gyfrifol am y methiant. Mae’r Cymry yn eu twyllo eu hunain os ydyn nhw’n meddwl mai’r ‘Welsh Not’ sydd ar fai. Y Cymry eu hunain a oedd o blaid lledaeniad y Saesneg.Pam fod y Cymry wedi chwennych hyn? Roedd Prydain yn unigryw iawn am mai hi oedd y wlad fwyaf rhyddfrydol yn Ewrop, a Chymru oedd y rhan fwyaf rhyddfrydol o Brydain.
A rhyddfrydwyr oedd cewri deallusol yr oes – dynion fel J. S. Mill a Matthew Arnold, ac yng Nghymru Samuel Roberts Llanbrynmair, Gwilym Hiraethog a Henry Richard.
‘Gwaddol cymhleth’
Dymuniad rhyddfrydwyr oedd sicrhau cytgord rhwng Cymru a Lloegr, a ffordd o wireddu hynny oedd rhoi i’r Cymry yr un cyfleoedd â’r Saeson. A pha ffordd haws o wneud hyn na throi Cymry ‘yn Saeson’, trwy ddysgu’r Cymry i siarad Saesneg?
Nid er mwyn darostwng y Cymry y daeth yr awydd i’w Seisnigo, ond er mwyn iddynt gael chwarae teg. Wrth gwrs, mewn gwladwriaeth lai rhyddfrydol, ni fuasai’r un awydd i roi chwarae teg!
Roedd dysgu Saesneg yn rhan annatod o wleidyddiaeth radical y cyfnod am fod hyn yn llesol i’r Cymry – yn llesol iddynt fel unigolion, nid fel cenedl. Gan hynny, mae gwaddol radicaliaeth yng Nghymru’n fwy cymhleth na mae llawer yn ei dybio. Yn wir, gellid dadlau y byddai Cymru yn lle Cymreiciach heddiw pe bai’n wlad fwy ceidwadol.
Trwy eu cefnogaeth i’r Blaid Ryddfrydol, ac yna yn yr ugeinfed ganrif i’r Blaid Lafur, uniaethodd y Cymry â radicaliaeth Brydeinig. Yn ddiweddar, bu Plaid Cymru hefyd yn cefnogi radicaliaid Prydeinig – yn y Blaid Werdd, er enghraifft.
Ond mae hanes Cymru yn awgrymu fod hybu radicaliaeth Brydeinig yn debyg o arafu datblygiad cenedlaetholdeb Cymreig.
A gyda’r Alban yn mynnu mwy a mwy rymoedd iddi’i hun, ymddengys fod Cymru yn cael ei gadael ar ôl unwaith eto – yn union fel yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Lledaenaid y Saesneg Un o gwestiynau mawr hanes Cymru yw pam na ddatblygodd mudiad cenedlaethol Cymreig o'r iawn ryw yng Nghymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg? Fasa mudiad o'r fath ddim wedi arwain at annibyniaeth - roedd y Deyrnas Gyfunol yn wladwriaeth gref eithriadol - ond gallai fod wedi ennill digon o gonsesiynau i gadw Cymru'n wlad ble mae'r mwyafrif yn siarad Cymraeg. | The Spread of English One of the great questions in Welsh history is why the Welsh nationalist movement did not develop properly in nineteenth-century Wales. A movement of that kind would not have led to independence – the United Kingdom was exceptionally strong as a political entity – but it could have won enough concessions to keep Wales as a country in which the majority spoke Welsh. |
Yn wir, o edrych ar hynt ieithoedd tebyg i'r Gymraeg mewn rhannau eraill o Ewrop yn yr un cyfnod, dyna y buasai rhywun wedi ei ddisgwyl. Dyma Oes Cenedlaetholdeb, ac ar hyd a lled Ewrop roedd gwledydd bychain yn mynnu hawliau iaith - hawl i addysg yn y famiaith, a'r hawl i'w hiaith gael ei defnyddio gan y wladwriaeth. Eto, doedd fawr o genedlaetholdeb yng Nghymru, ac erbyn diwedd y ganrif roedd gan y Cymry Cymraeg lai o hawliau iaith nag unrhyw genedl debyg. | Indeed, looking at what happened in the case of languages similar to Welsh in other parts of Europe, that is what anyone might have expected. That was the Age of Nationalism, and all across Europe small countries were insisting on language rights – the right to teach in the mother tongue and the right to have their language used in government. And yet there not much in the way of nationalism in Wales, and by the end of the century Welsh speakers in Wales enjoyed fewer language rights than any similar people. |
Y Saeson ddim ar fai Y diffyg yw'r rheswm am wendid y Gymraeg heddiw. Rydym yn clywed yn reit aml ei bod yn wyrthiol fod y Gymraeg wedi goroesi, ond gallai'r gymdeithas Gymraeg fod wedi dal ei thir yn rhwydd iawn. A'r syndod yw hyn! Nid gorthrwm y Saeson oedd yn gyfrifol am y methiant. Mae'r Cymry yn eu twyllo eu hunain os ydyn nhw'n meddwl mai'r 'Welsh Not' sydd ar fai. Y Cymry eu hunain a oedd o blaid lledaeniad y Saesneg. | The English not to blame This failure is the reason for the weakness of the Welsh language today. We constantly hear how remarkable it is that Wales has survived, but the Welsh community could very easily have held its ground. And the surprising thing is this! It is not oppression by the English that was responsible for the failure. The Welsh deceive themselves if they think that it is the ‘Welsh Not’ that is to blame. It is the Welsh themselves who were in favour of propagating the English tongue. |
Pam fod y Cymry wedi chwennych hyn? Roedd Prydain yn unigryw iawn am mai hi oedd y wlad fwyaf rhyddfrydol yn Ewrop, a Chymru oedd y rhan fwyaf rhyddfrydol o Brydain. A rhyddfrydwyr oedd cewri deallusol yr oes - dynion fel J. S. Mill a Matthew Arnold, ac yng Nghymru Samuel Roberts Llanbrynmair, Gwilym Hiraethog a Henry Richard. | Why should the Welsh have wanted to do this? Britain was quite exceptional in being the most liberal country in Europe, and Wales was the most liberal country in Britain. And the intellectual giants of the age were liberals too – men like J.S.Mill and Matthew in Arnold in England, and in Wales Samuel Roberts Llanbrynmair, Gwilym Hiraethog and Henry Richard. |
'Gwaddol cymhleth' Dymuniad rhyddfrydwyr oedd sicrhau cytgord rhwng Cymru a Lloegr, a ffordd o wireddu hynny oedd rhoi i'r Cymry yr un cyfleoedd â'r Saeson. A pha ffordd haws o wneud hyn na throi Cymry 'yn Saeson', trwy ddysgu'r Cymry i siarad Saesneg? Nid er mwyn darostwng y Cymry y daeth yr awydd i'w Seisnigo, ond er mwyn iddynt gael chwarae teg. Wrth gwrs, mewn gwladwriaeth lai rhyddfrydol, ni fuasai'r un awydd i roi chwarae teg! Roedd dysgu Saesneg yn rhan annatod o wleidyddiaeth radical y cyfnod am fod hyn yn llesol i'r Cymry - yn llesol iddynt fel unigolion, nid fel cenedl. | ‘A complex legacy’ What the liberals wanted was to ensure harmony and mutual understanding between Wales and Engand, and the way to bring this about was to give the Welsh the same opportunities as the English. And what easier way of doing this than to turn Welsh into ‘Englishmen’, by teaching them to speak English? This desire to anglicise the Welsh was not for the sake of subjugating them, but to give them fair play. Of course, in a less liberal government there would not have been the same desire to give fair play! The teaching of English was integral to the politics of the period because it was a good thing for the Welsh – a good thing for them as individuals, that is, not as a people. |
Gan hynny, mae gwaddol radicaliaeth yng Nghymru'n fwy cymhleth na mae llawer yn ei dybio. Yn wir, gellid dadlau y byddai Cymru yn lle Cymreiciach heddiw pe bai'n wlad fwy ceidwadol. Trwy eu cefnogaeth i'r Blaid Ryddfrydol, ac yna yn yr ugeinfed ganrif i'r Blaid Lafur, uniaethodd y Cymry â radicaliaeth Brydeinig. Yn ddiweddar, bu Plaid Cymru hefyd yn cefnogi radicaliaid Prydeinig - yn y Blaid Werdd, er enghraifft. Ond mae hanes Cymru yn awgrymu fod hybu radicaliaeth Brydeinig yn debyg o arafu datblygiad cenedlaetholdeb Cymreig. A gyda'r Alban yn mynnu mwy a mwy rymoedd iddi'i hun, ymddengys fod Cymru yn cael ei gadael ar ôl unwaith eto - yn union fel yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg | So, the legacy of radicalism in Wales is more complex than many imagine. Indeed, it could be argued that Wales would have been a far more Welsh place today if the country had been more conservative. Through its support for the Liberal Party, and then in the twentieth century for the Labour Party, the Welsh identified themselves with British radicalism. Recently, Plaid Cymru has also been a supporter of British radicalism – in the case of the Green Party, for example. But the history of Wales suggests that espousing British radicalism is likely to have retarded the development of Welsh nationalism. And with Scotland demanding more and more powers for itself, it is evident that Wales is being left behind once again – just as in the nineteenth century. |
Mae'r llyfrau ar gael o Gwasg Prifysgol Cymru: | The books are available from University of Wales Press: |
![]() | ![]() |
Mae David Sutton wedi creu’r addasiad Saesneg o’r testun / English adaption of the text by David Sutton.
M. Wynn Thomas is Professor of English and holder of the Emyr Humphreys Chair of Welsh Writing in English at Swansea University, and a Fellow of the British Academy. He has published twenty books on American poetry and the two literatures of Wales. His new book, Cyfan-dir Cymru, is a collection of essays that explore some of the complex and rich links between Welsh language literature and English literature in Wales over a century and more. Here is a preface to the book, with an English version adapted by David Sutton.
“Ynof mae Cymru’n un,” (1) meddai Waldo Williams, ond gan ychwanegu’n onest ac yn awgrymog “y modd nis gwn.” “Deufyd digymod yn ymryson sydd yn fy mhreswylfa gyfrin,” (2) meddai Alun Llywelyn-Williams, gan gyfeirio’n benodol at y ddau ddiwylliant – diwylliant y Gymraeg a diwylliant Saesneg Cymru – a fu’n feithrinfeydd i’w bersonoliath ac i’w ddawn. Dau ddatganiad, felly, sy’n llwyr wrthwyneb i’w gilydd – neu fel yna ymddengys ar y darlleniad brysiog cyntaf. Ac eto… fe fedraf fi fy hun dystio y gall y ddau argyhoeddiad gyd-orwedd oddi fewn i brofiad amlochrog, amwys, un person. Oherwydd, o ystyried ychydig ymhellach, nid yw’r naill ddatganiad o reidrwdd yn gwrth-ddweud, neu’n nacáu, y llall. Yn wir, fe fedrir dadlau mai undod cyfansawdd yw undod y Gymru fodern. E pluribus unum yw’r arwyddair a geir ar sêl fawreddog y Taleithiau ‘Unedig,’ ac mae’n ddisgrifiad teg o Gymru fitw yn ogystal. Ni olyga hynny, wrth gwrs, fod yr elfennau gwahanol sy’n nodweddu’r genedl gyfoes yn cydblethu’n dwt ac yn daclus. Mae’n amlwg ddigon fod y rhan fwyaf o’r priodoleddau hynny’n cydfyw’n hynod anfodlon ac anesmwyth, a’u bod nhw hefyd yn gwrthdaro’n barhaus, gan gystadlu’n ffyrnig o ddinistriol â’i gilydd.
Ac, o fyfyrio ymhellach, fe geir fod modd mentro cam neu ddau arall i’r dyfnderoedd. Oherwydd os taw ffrwyth cyd-berthyn a thynnu croes gwahanol elfennau yw undod cenedl ar un olwg, yna ar olwg arall, yr undod sy’n cynhyrchu’r profiadau amrywiol hyn o gydberthyn a chroesdynnu. Eto fyth, nid elfennau gosod mo’r cynhwysion gwahanol hyn, oblegid gwelir hwy’n trawsnewid yn barhaus o gyfnod i gyfnod ac o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae’r cyfan oll yn symudol; yn fythol adnewyddol a thrawsffurfiannol. A phan y byddwn ni’n synied am ‘Hanes Diwylliant,’ at hyn y byddwn ni mewn gwirionedd yn cyfeirio, er mai prin iawn, iawn, ysywaeth yw’r haneswyr – boed nhw’n haneswyr diwylliannol neu’n haneswyr cymdeithasol – sy wedi sylwi ar hynny.
Y broses hon – ac yn bennaf y berthynas gymhleth, gymysg rhwng y ddau ddiwylliant — sy’n nodweddu bywyd diwylliannol y Gymru gyfoes. Hyhi sy’n creu ac yn cynnal ‘undod’ y mae ei gyfansoddiad yn unigryw i’r genedl. Ni all yr union batrymwaith hwn fodoli oddi fewn i unrhyw gyfanwaith arall. Er da, a hefyd ysywaeth er drwg, y cymhleth tensiynau hyn yw’n cwlwm perthyn arbennig ni fel pobl, ac mae’r ysgrifau a gesglir yn fy nghyfrol ddiweddaraf Cyfan-dir Cymru – cynnyrch ugain mlynedd – yn ymdrech i ymgydnabod â hynny, nid drwy drafod y testun yn benodol ond drwy gyd-osod dwy lenyddiaeth Cymru a’u trafod ar y cyd. Oherwydd, fel y pwysleisir yn nheitl y gyfrol hon, nid rhyw undod gosod, digyfnewid, mo undod cenedl, eithr ffrwyth proses anodd, barhaus, o gyfannu. Felly, mae’r ysgrifau a gesglir yn fy nghyfrol ddiweddaraf (Cyfan-dir Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, 2017) yn enghraifft o’r weithred allweddol, bythol ansicr, honno.
Ac yn gynsail i’r gyfrol gyfan y mae’r argyhoeddiad a fynegais gyntaf yn y gyfrol ‘Corresponding Cultures’ (3). Mynnu yr oeddwn bod mawr angen meddwl yn ‘cross-cultural terms, to think, for instance, of writers in the two languages of twentieth-century Wales as deriving from a common cultural source and as sharing social experiences. To think in these terms may be beneficial to our apprehension and appreciation of particular writers, and it should sharpen our sense of the magnitude and hospitable capaciousness of modern Welsh literary culture. But, above all else, to think in these terms is to begin the process of making connections, finding associations, across the cultural divide that has been both the making and undoing of modern Wales, so as to begin the delicate work of stitching Wales together again, and producing an image not of a simple monolithic entity but of a remarkable profusion of significant differences, creative hostilities, silent interconnections and hidden attachments.’
Mae hi’n ugain mlynedd bellach ers i’r anogaeth hon gael ei chyhoeddi, ond trist gorfod adrodd ein bod ni’n dal i aros yn ein hunfan, gan ddisgwyl yn ofer o hyd am ymateb priodol. Pa ymdrech a wnaed yn y cyfamser, er enghraifft, i olrhain hanes dyrys cydberthynas gymhleth a chyson gyfnewidiol dau ddiwylliant Cymru, gan gychwyn gyda cyfnod y gwrthdaro (o ymddangosiad My People, casgliad dadleugar Caradoc Evans yn 1915, dyweder, hyd at yr Ail Ryfel Byd) a gorffen gyda dadansoddiad o’n cyfnod amwys ac amlweddog ni o gydnabod a chydberthyn, cyfnod yr esgorodd degawd chwyldroadol y chwedegau a chyfraniad gweddnewidiol Cyngor Celfyddydau Cymru arno a datblygiad sy bellach yn cael ei gefnogi’n swyddogol drwy nawdd Llywodraeth Cymru? Ac, o ganolbwyntio ar lenyddiaeth Gymraeg yn unig am y tro, pwy sy wedi mentro ystyried y posibilrwydd cryf fod dadeni disglair llenyddiaeth yn y Gymraeg ar ddechrau’r ugeinfed ganrif yn bur ddyledus i ddatblygiad bygythiol diwylliant Saesneg y Gymru ddiwydiannol newydd? Does neb, chwaith, wedi trafod yn ystyrlon effaith presenoldeb y Gymraeg ar driniaeth yr iaith Saesneg gan lenorion Cymreig. Ac fe fydde’n hawdd amlhau enghreifftiau eraill o’r diffygion sylfaenol amlwg yn ein dealltwriaeth ni o Gymru ddeu-ddiwylliannol yr ugeinfed ganrif.
Nid ymdrech gyson i ymateb i’r her nac i lenwi’r bylchau a geir yn y gyfrol. Ymdrech yn unig ydyw i sicrhau fod y ddwy lenyddiaeth yn cydorwerdd yn y meddwl ar hyd yr adeg a thrwy hynny fod y sgwrs ddiwylliannol sy’n cyfoethogi’n hadnabyddiaeth ohonon ni’n hunain fel pobl yn cael ei chydnabod. Digon amrwd yw’r rhaniadau oddi fewn i’r gyfrol a phenawdau breision a osodwyd arnynt. Arwyddbyst ydynt yn dynodi rhediad y meddwl, ac fe geir awgrym hefyd o ddilyniant amser, gan mai trafod Cymru’r canrifoedd a fu y mae’r penodau am ‘Y genedl grefyddol’ ac felly hefyd y penodau dilynol a grynhoir dan bennawd bras ‘Dadeni Cymru Fydd’. Ym mhob achos ceisir arddangos yn dawel fod angen symud yn gyson yn ôl ac ymlaen rhwng dwy iaith a dau ddiwylliant Cymru os am lawn amgyffred datblygiadau allweddol yn hanes y genedl. Eithr ni fynegir yr argyhoeddiad hwnnw’n ymosodol o groch ar ffurf dadl; islais yn unig ydyw.
Wrth fynd heibio, crybwyllir dyled arwyddocaol T. Gwynn Jones i’r awduron Saesneg a fu’n trafod y testun Arthuraidd, ac yn sgil hynny nodir y gallai T. Gwynn Jones ei hun yn hawdd fod wedi dewis barddoni yn y Saesneg yn hytrach na’r Gymraeg, nid yn unig am ei fod wedi ymserchu’n ifanc yng ngherddi’r iaith fain ond am ei fod yn ymwybodol iawn y gallai’r Saesneg lwyr ddisodli’r Gymraeg yng Nghymru. Y mae’r adran nesaf yn y gyfrol yn trafod gwaith tri bardd arall y bu’n rhaid iddynt ddewis yn fwriadol ym mha iaith y dymunent sgrifennu, am mai’r Saesneg oedd eu mamiaith ond eu bod wedi dysgu’r Gymraeg ac wedi ymdrwytho yn ei llenyddiaeth hi. Y mae achosion Alun Llywelyn-Williams a Pennar Davies eisoes yn adnabyddus ddigon, ond nid felly achos Waldo Williams. Anghofir fel arfer ei fod wedi ei eni a’i fagu ar aelwyd Saesneg, ac na ddysgodd y Gymraeg tan i’r teulu symud i Fynachlog-ddu pan oedd eisoes yn saith mlwydd oed. Mae’r ffaith mai prin iawn y bu’r trafod ar y wedd allweddol honno ar ei hanes yn enghraifft drawiadol o’n hamharodrwydd ni o hyd i gyfannu’n gweledigaeth o Gymru drwy ddwyn deupen y llinyn diwylliannol Cymreig ynghyd.
A siarad yn fras iawn, fe fu’n duedd gan y Cymry Cymraeg tan yn ddiweddar uniaethu ag Ewrop ac i ffieiddio’r Unol Daleithiau tra bo’r Cymry Saesneg yn troi eu golygon yn groesawgar i gyfeiriad y Taleithiau Unedig ond yn anwybyddu gwledydd Ewrop bron yn gyfan gwbl. Dyna fan cychwyn ail adran y gyfrol, sy’n cynnig gorolwg i ni o ymateb llenyddol y ddwy garfan i’r ddau gyfandir. Yn y broses amlygir yn glir rhai o’r gwahaniaethau dyfnaf rhwng dau ddiwylliant Cymru. Ond os mai perthynas groes fydd y berthynas rhyngddynt yn aml, o bryd i’w gilydd ceir enghreifftiau ffrwythlon hefyd o gyd-gyswllt creadigol, ac ar hynny y canolbwyntir yn adran olaf y gyfrol, dan y pennawd gobeithiol ‘dolennau cyswllt.’
Fe gyhoeddwyd ambell un o’r ysgrifau yn Cyfan-dir Cymru yn y Saesneg yn wreiddiol, ac wrth eu cymhwyso at y gyfrol hon fe’m hatgoffwyd unwaith yn rhagor am y gwahaniaethau sylfaenol rhwng sgrifennu ar gyfer darllenwyr Cymraeg a darllenwyr Saesneg eu hiaith. Yn anorfod, y mae angen darparu cyferiadaeth newydd a gwybodaeth gyd-destunol wahanol. Hawdd nodi hynny, ond anoddach, cynilach a mwy cymhleth yw’r gwahaniaeth cywair rhwng sgrifennu yn y naill iaith a’r llall. Fe all yr arddull anffurfiol, agos-atoch sy’n arferol hyd at fod yn ofynnol mewn triniaethau yn y Gymraeg hyd yn oed pan y bônt yn academaidd ymddangos yn gwbl amhriodol yn y Saesneg. Hynny yw, rhaid cadw mewn cof ddisgwyliadau ‘darllenydd dychmygol’ yn y Saesneg nad yw mor barod i gael ei drin fel petai’n rhannu’r un gwerthoedd ac yn aelod o’r un gymuned â’r awdur. Nid awgrymu yr wyf bod y naill ddull o sgrifennu yn well na’r llall. Mae i’r ddau nodweddion da a drwg – er enghraifft, fe geir yn y Gymraeg amharodrwydd weithiau i ddefnyddio’r cysyniadau anghyfarwydd a’r ymadroddion cymhleth a all fod yn ofynnol os am ddatblygu trafodaeth flaengar, gymhleth, ddysgedig, soffistigedig. Y gofid yw y byddai gwneud hynny’n debyg o elynieithu’ch cynulleidfa ac yn arwain at y cyhuddiad o fod yn ymhonnus. Y canlyniad anffodus yw y gall trafodaeth Gymraeg weithiau gael ei chyfynyngu oddi fewn terfynau cyfforddus y cyfarwydd, yr arwynebol a’r ystrydebol. Ac mae’r gwrthwyneb yn wir am drafodaeth yn y Saesneg ar brydiau, sef y gall fod tuedd i geisio gwarantu deallusrwydd mentrus ac i arddangos eich soffistigedigrwydd drwy amlhau theorïau ac arfer ieithweddau academaidd astrus cwbl ddiffrwyth a diangen.
"Ynof mae Cymru’n un," (1) meddai Waldo Williams, ond gan ychwanegu’n onest ac yn awgrymog "y modd nis gwn." "Deufyd digymod yn ymryson sydd yn fy mhreswylfa gyfrin," (2) meddai Alun Llywelyn-Williams, gan gyfeirio’n benodol at y ddau ddiwylliant – diwylliant y Gymraeg a diwylliant Saesneg Cymru – a fu’n feithrinfeydd i’w bersonoliath ac i’w ddawn. Dau ddatganiad, felly, sy’n llwyr wrthwyneb i’w gilydd – neu fel yna ymddengys ar y darlleniad brysiog cyntaf. Ac eto... fe fedraf fi fy hun dystio y gall y ddau argyhoeddiad gyd-orwedd oddi fewn i brofiad amlochrog, amwys, un person. Oherwydd, o ystyried ychydig ymhellach, nid yw’r naill ddatganiad o reidrwdd yn gwrth-ddweud, neu’n nacáu, y llall. Yn wir, fe fedrir dadlau mai undod cyfansawdd yw undod y Gymru fodern. E pluribus unum yw’r arwyddair a geir ar sêl fawreddog y Taleithiau ‘Unedig,’ ac mae’n ddisgrifiad teg o Gymru fitw yn ogystal. Ni olyga hynny, wrth gwrs, fod yr elfennau gwahanol sy’n nodweddu’r genedl gyfoes yn cydblethu’n dwt ac yn daclus. Mae’n amlwg ddigon fod y rhan fwyaf o’r priodoleddau hynny’n cydfyw’n hynod anfodlon ac anesmwyth, a’u bod nhw hefyd yn gwrthdaro’n barhaus, gan gystadlu’n ffyrnig o ddinistriol â’i gilydd. | “In me Wales is one”, said Waldo Williams, but then went on to say with thought-provoking honesty "how that can be I do not know". "Two worlds that cannot be as one/war in my secret dwelling-place", said Alun Llywelyn-Williams, referring in particular to the two cultures – Welsh and English – which fostered his personality and his talent. So, two completely opposing manifestoes – or so it appears on the first cursory reading. And yet… I could myself bear witness to the ability of the two convictions to co-exist in the multifaceted and equivocal experience of the same person. Because, to consider the matter a little further, the one declaration does not necessarily contradict, nor refute, the other. Indeed, it could be argued that the unity of modern Wales is a composite unity. E pluribus unum (‘out of the many, one’) is the motto to be found on the great seal of the ‘United’ States, and it is a fair description of little Wales as well. That does not mean, of course, that the various disparate elements which characterise our nation today are woven together in a neat and tidy way. It is obvious enough that the greater part of those attributes co-exist in a notably discontented and uneasy state, and also that they are in a state of constant contention, fiercely and destructively competing the one with the other. |
Ac, o fyfyrio ymhellach, fe geir fod modd mentro cam neu ddau arall i’r dyfnderoedd. Oherwydd os taw ffrwyth cyd-berthyn a thynnu croes gwahanol elfennau yw undod cenedl ar un olwg, yna ar olwg arall, yr undod sy’n cynhyrchu’r profiadau amrywiol hyn o gydberthyn a chroesdynnu. Eto fyth, nid elfennau gosod mo’r cynhwysion gwahanol hyn, oblegid gwelir hwy’n trawsnewid yn barhaus o gyfnod i gyfnod ac o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae’r cyfan oll yn symudol; yn fythol adnewyddol a thrawsffurfiannol. A phan y byddwn ni’n synied am ‘Hanes Diwylliant,’ at hyn y byddwn ni mewn gwirionedd yn cyfeirio, er mai prin iawn, iawn, ysywaeth yw’r haneswyr – boed nhw’n haneswyr diwylliannol neu’n haneswyr cymdeithasol - sy wedi sylwi ar hynny. | And, to consider the matter further, one may wish to venture another step or two into these deep matters. Because if the fruit of this coexistence, this drawing together of disparate elements, can be seen from one point of view as a national unity, seen in another light it is that same unity which produces the different experiences of coexistence and creates disharmony. Then again, the elements that go to make up these different contents are not fixed, because they can be seen to be constantly changing from epoch to epoch and generation to generation. The whole thing is in a state of motion, of perpetual adaptation and transformation. And when we consider ‘Cultural History’, it is to this that we are in fact alluding, although, more’s the pity, those historians, be they cultural historians or social historians, who have paid attention to this are thin on the ground indeed. |
Y broses hon – ac yn bennaf y berthynas gymhleth, gymysg rhwng y ddau ddiwylliant -- sy’n nodweddu bywyd diwylliannol y Gymru gyfoes. Hyhi sy’n creu ac yn cynnal ‘undod’ y mae ei gyfansoddiad yn unigryw i’r genedl. Ni all yr union batrymwaith hwn fodoli oddi fewn i unrhyw gyfanwaith arall. Er da, a hefyd ysywaeth er drwg, y cymhleth tensiynau hyn yw’n cwlwm perthyn arbennig ni fel pobl, ac mae’r ysgrifau a gesglir yn fy nghyfrol ddiweddaraf Cyfan-dir Cymru – cynnyrch ugain mlynedd – yn ymdrech i ymgydnabod â hynny, nid drwy drafod y testun yn benodol ond drwy gyd-osod dwy lenyddiaeth Cymru a’u trafod ar y cyd. Oherwydd, fel y pwysleisir yn nheitl y gyfrol hon, nid rhyw undod gosod, digyfnewid, mo undod cenedl, eithr ffrwyth proses anodd, barhaus, o gyfannu. Felly, mae’r ysgrifau a gesglir yn fy nghyfrol ddiweddaraf (Cyfan-dir Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, 2017) yn enghraifft o’r weithred allweddol, bythol ansicr, honno. | It is this process – and above all the complex, mixed relationship between the two cultures – that characterises the cultural life of Wales today. It is this that creates and maintains the ‘unity’ which is a unique feature of the modern Welsh nation. This pattern cannot be found in any other such melding. For better, and also, alas, for worse, it is these complex tensions that form the special relationship binding us together as a people, and the writings below – the product of twenty years – are an attempt to acknowledge this, not by a conventional treatment of the subject but by juxtaposing two Welsh literatures and discussing them together. Because, as is emphasised in the punning title of my most recent volume, Cyfan-dir Cymru, the unity of our race is not a fixed, immutable unity, but rather the product of an intricate and continuous process of consolidation. So, the writings collected together in (Cyfan-dir Cymru, University of Wales Press, 2017) are an example of this crucial, perpetually uncertain work. |
Ac yn gynsail i’r gyfrol gyfan y mae’r argyhoeddiad a fynegais gyntaf yn y gyfrol ‘Corresponding Cultures’ (3). Mynnu yr oeddwn bod mawr angen meddwl yn ‘cross-cultural terms, to think, for instance, of writers in the two languages of twentieth-century Wales as deriving from a common cultural source and as sharing social experiences. To think in these terms may be beneficial to our apprehension and appreciation of particular writers, and it should sharpen our sense of the magnitude and hospitable capaciousness of modern Welsh literary culture. But, above all else, to think in these terms is to begin the process of making connections, finding associations, across the cultural divide that has been both the making and undoing of modern Wales, so as to begin the delicate work of stitching Wales together again, and producing an image not of a simple monolithic entity but of a remarkable profusion of significant differences, creative hostilities, silent interconnections and hidden attachments.’ | And fundamental to the whole volume is the conviction that I first set out in the work ‘Corresponding Cultures’. That is, the insistence that there is a great need to think in ‘cross-cultural terms, to think, for instance, of writers in the two languages of twentieth-century Wales as deriving from a common cultural source and as sharing social experiences. To think in these terms may be beneficial to our apprehension and appreciation of particular writers, and it should sharpen our sense of the magnitude and hospitable capaciousness of modern Welsh literary culture. But, above all else, to think in these terms is to begin the process of making connections, finding associations, across the cultural divide that has been both the making and undoing of modern Wales, so as to begin the delicate work of stitching Wales together again, and producing an image not of a simple monolithic entity but of a remarkable profusion of significant differences, creative hostilities, silent interconnections and hidden attachments.’ |
Mae hi’n ugain mlynedd bellach ers i’r anogaeth hon gael ei chyhoeddi, ond trist gorfod adrodd ein bod ni’n dal i aros yn ein hunfan, gan ddisgwyl yn ofer o hyd am ymateb priodol. Pa ymdrech a wnaed yn y cyfamser, er enghraifft, i olrhain hanes dyrys cydberthynas gymhleth a chyson gyfnewidiol dau ddiwylliant Cymru, gan gychwyn gyda cyfnod y gwrthdaro (o ymddangosiad My People, casgliad dadleugar Caradoc Evans yn 1915, dyweder, hyd at yr Ail Ryfel Byd) a gorffen gyda dadansoddiad o’n cyfnod amwys ac amlweddog ni o gydnabod a chydberthyn, cyfnod yr esgorodd degawd chwyldroadol y chwedegau a chyfraniad gweddnewidiol Cyngor Celfyddydau Cymru arno a datblygiad sy bellach yn cael ei gefnogi’n swyddogol drwy nawdd Llywodraeth Cymru? Ac, o ganolbwyntio ar lenyddiaeth Gymraeg yn unig am y tro, pwy sy wedi mentro ystyried y posibilrwydd cryf fod dadeni disglair llenyddiaeth yn y Gymraeg ar ddechrau’r ugeinfed ganrif yn bur ddyledus i ddatblygiad bygythiol diwylliant Saesneg y Gymru ddiwydiannol newydd? Does neb, chwaith, wedi trafod yn ystyrlon effaith presenoldeb y Gymraeg ar driniaeth yr iaith Saesneg gan lenorion Cymreig. Ac fe fydde’n hawdd amlhau enghreifftiau eraill o’r diffygion sylfaenol amlwg yn ein dealltwriaeth ni o Gymru ddeu-ddiwylliannol yr ugeinfed ganrif. | It is now twenty years since this exhortation was published, and it is sad to have to admit that we are still in the same place, still living in the vain expectation of a satisfactory answer. For example, what effort has been made in the meantime to trace the tangled history of the complex, constantly changing interrelationship of the two Welsh cultures, beginning with the period of conflict (from the appearance of ‘My People, Caradoc Evans’ notoriously controversial collection of short stories in 1915, let us say, up to the Second World War), and ending with an analysis of our own ambiguous and multifaceted era of inter-cultural interaction and interrelationship, an era to which the revolutionary decade of the sixties and the transformative contribution of the Welsh Arts Council gave birth, a development which has gone on to receive official support from the Welsh government? And, to concentrate for the time being on Welsh literaure alone, who has ventured to consider the strong possibility that the brilliant renaissance of literature in Welsh at the beginning of the twentieth was wholly indebted to the development of an English culture threatening the newly industrialised Wales? Nor has anyone seriously discussed the effect of the Welsh presence on the handling of the English language by Welsh writers. And it would be easy to multiply other examples of the fundamental gaps evident in our understanding of bi-cultural Wales in the twentieth century. |
Nid ymdrech gyson i ymateb i’r her nac i lenwi’r bylchau a geir yn y gyfrol. Ymdrech yn unig ydyw i sicrhau fod y ddwy lenyddiaeth yn cydorwerdd yn y meddwl ar hyd yr adeg a thrwy hynny fod y sgwrs ddiwylliannol sy’n cyfoethogi’n hadnabyddiaeth ohonon ni’n hunain fel pobl yn cael ei chydnabod. Digon amrwd yw’r rhaniadau oddi fewn i’r gyfrol a phenawdau breision a osodwyd arnynt. Arwyddbyst ydynt yn dynodi rhediad y meddwl, ac fe geir awgrym hefyd o ddilyniant amser, gan mai trafod Cymru’r canrifoedd a fu y mae’r penodau am ‘Y genedl grefyddol’ ac felly hefyd y penodau dilynol a grynhoir dan bennawd bras ‘Dadeni Cymru Fydd’. Ym mhob achos ceisir arddangos yn dawel fod angen symud yn gyson yn ôl ac ymlaen rhwng dwy iaith a dau ddiwylliant Cymru os am lawn amgyffred datblygiadau allweddol yn hanes y genedl. Eithr ni fynegir yr argyhoeddiad hwnnw’n ymosodol o groch ar ffurf dadl; islais yn unig ydyw. | Cyfan-dir Cymru is not a sustained and extended attempt to answer the above challenge nor to fill in the gaps. It is merely an attempt to ensure that the two literatures are considered in conjunction with each other, and that the cultural discourse enriching our self-recognition as a people should thereby be recognised. The divisions within the book are approximate, and the chapters imposed upon it somewhat rough and ready. They are signposts that denote a course of thought, and they also serve to suggest a sequence in time, since the chapters on ‘A Religious Nation’ deal with the past centuries of a chapel-going Wales and likewise the chapters that follow on the Wales of the Cymru Fydd/ Young Wales movement/ moment of the turn of the nineteenth into the twentieth century can be summed up under the general heading ‘Rebirth of a Wales To Be’. In every case an attempt is made in the essays in Cyfan-dir Cymru to show, in a quiet way, that it is necessary to move back and forth between the two languages and two cultures of Wales if one wishes fully to understand the key developments in the history of the nation. But let it not be thought that this publication is intended as a loud, aggressive polemic: mine is a quiet voice only |
Wrth fynd heibio, crybwyllir dyled arwyddocaol T. Gwynn Jones i’r awduron Saesneg a fu’n trafod y testun Arthuraidd, ac yn sgil hynny nodir y gallai T. Gwynn Jones ei hun yn hawdd fod wedi dewis barddoni yn y Saesneg yn hytrach na’r Gymraeg, nid yn unig am ei fod wedi ymserchu’n ifanc yng ngherddi’r iaith fain ond am ei fod yn ymwybodol iawn y gallai’r Saesneg lwyr ddisodli’r Gymraeg yng Nghymru. Y mae’r adran nesaf yn y gyfrol yn trafod gwaith tri bardd arall y bu’n rhaid iddynt ddewis yn fwriadol ym mha iaith y dymunent sgrifennu, am mai’r Saesneg oedd eu mamiaith ond eu bod wedi dysgu’r Gymraeg ac wedi ymdrwytho yn ei llenyddiaeth hi. Y mae achosion Alun Llywelyn-Williams a Pennar Davies eisoes yn adnabyddus ddigon, ond nid felly achos Waldo Williams. Anghofir fel arfer ei fod wedi ei eni a’i fagu ar aelwyd Saesneg, ac na ddysgodd y Gymraeg tan i’r teulu symud i Fynachlog-ddu pan oedd eisoes yn saith mlwydd oed. Mae’r ffaith mai prin iawn y bu’r trafod ar y wedd allweddol honno ar ei hanes yn enghraifft drawiadol o’n hamharodrwydd ni o hyd i gyfannu’n gweledigaeth o Gymru drwy ddwyn deupen y llinyn diwylliannol Cymreig ynghyd. | In passing, mention is made of the significant debt of the great Welsh-language poet T. Gwynn Jones in his masterpiece ‘Ymadawiad Arthur’ (1902) to the English authors who had dealt with the matter of Arthur, and along with this it is noted that T. Gwynn Jones himself could easily have chosen to compose verse in English rather than Welsh, not only because he had fallen in love as a young man with the poems of the ‘thin language’ of English but because he was very conscious that English might come during the twentieth century completely to supplant Welsh in Wales. The next part of the book discusses the work of three other poets who had to make a conscious decision as to what language they were to write in, given that English was their mother tongue but that they had learned Welsh and had steeped themselves in its literature. The cases of Alun Llywelyn-Williams and Pennar Davies are already sufficiently well known, but this is not the case with Waldo Williams. It is usually forgotten that he was born and brought up in an English-speaking home, and did not learn Welsh until his family moved to Mynachlog-ddu when he was already seven years old. The fact that there has been very little discussion of this crucial aspect of his story is a striking example of our continuing reluctance to consolidate our vision of Wales by bringing together the two strands of Welsh culture. |
A siarad yn fras iawn, fe fu’n duedd gan y Cymry Cymraeg tan yn ddiweddar uniaethu ag Ewrop ac i ffieiddio’r Unol Daleithiau tra bo’r Cymry Saesneg yn troi eu golygon yn groesawgar i gyfeiriad y Taleithiau Unedig ond yn anwybyddu gwledydd Ewrop bron yn gyfan gwbl. Dyna fan cychwyn ail adran y gyfrol, sy’n cynnig gorolwg i ni o ymateb llenyddol y ddwy garfan i’r ddau gyfandir. Yn y broses amlygir yn glir rhai o’r gwahaniaethau dyfnaf rhwng dau ddiwylliant Cymru. Ond os mai perthynas groes fydd y berthynas rhyngddynt yn aml, o bryd i’w gilydd ceir enghreifftiau ffrwythlon hefyd o gyd-gyswllt creadigol, ac ar hynny y canolbwyntir yn adran olaf y gyfrol, dan y pennawd gobeithiol ‘dolennau cyswllt.’ | To speak very roughly, there was a tendency in Welsh-speaking Wales until lately to self-identify with Europe and strongly reject the United States while English-speaking Wales was turning a welcoming gaze in the direction of the States but ignoring the countries of Europe almost entirely. Accordingly the second section of Cyfan-dir Cymru begins by offering us an overview of the literary response of the two cultures to the two continents. In the process, attention is drawn to some of the most fundamental differences between the two Welsh cultures. But if the relationship between them is often a cross-grained one, from time to time we also find fruitful examples of a creative juncture, and this forms the central point of the last part of the book, in the chapter hopefully entitled ‘connective links’. |
Fe gyhoeddwyd ambell un o’r ysgrifau yn Cyfan-dir Cymru yn y Saesneg yn wreiddiol, ac wrth eu cymhwyso at y gyfrol hon fe’m hatgoffwyd unwaith yn rhagor am y gwahaniaethau sylfaenol rhwng sgrifennu ar gyfer darllenwyr Cymraeg a darllenwyr Saesneg eu hiaith. Yn anorfod, y mae angen darparu cyferiadaeth newydd a gwybodaeth gyd-destunol wahanol. Hawdd nodi hynny, ond anoddach, cynilach a mwy cymhleth yw’r gwahaniaeth cywair rhwng sgrifennu yn y naill iaith a’r llall. Fe all yr arddull anffurfiol, agos-atoch sy’n arferol hyd at fod yn ofynnol mewn triniaethau yn y Gymraeg hyd yn oed pan y bônt yn academaidd ymddangos yn gwbl amhriodol yn y Saesneg. Hynny yw, rhaid cadw mewn cof ddisgwyliadau ‘darllenydd dychmygol’ yn y Saesneg nad yw mor barod i gael ei drin fel petai’n rhannu’r un gwerthoedd ac yn aelod o’r un gymuned â’r awdur. Nid awgrymu yr wyf bod y naill ddull o sgrifennu yn well na’r llall. Mae i’r ddau nodweddion da a drwg – er enghraifft, fe geir yn y Gymraeg amharodrwydd weithiau i ddefnyddio’r cysyniadau anghyfarwydd a’r ymadroddion cymhleth a all fod yn ofynnol os am ddatblygu trafodaeth flaengar, gymhleth, ddysgedig, soffistigedig. Y gofid yw y byddai gwneud hynny’n debyg o elynieithu’ch cynulleidfa ac yn arwain at y cyhuddiad o fod yn ymhonnus. Y canlyniad anffodus yw y gall trafodaeth Gymraeg weithiau gael ei chyfynyngu oddi fewn terfynau cyfforddus y cyfarwydd, yr arwynebol a’r ystrydebol. Ac mae’r gwrthwyneb yn wir am drafodaeth yn y Saesneg ar brydiau, sef y gall fod tuedd i geisio gwarantu deallusrwydd mentrus ac i arddangos eich soffistigedigrwydd drwy amlhau theorïau ac arfer ieithweddau academaidd astrus cwbl ddiffrwyth a diangen. | A few of the essays in Cyfan-dir Cymru were originally written in English, and adapting them for this book has reminded me once again of the fundamental differences between writing for Welsh readers and readers whose language is English. Inevitably, there is a need to make provision for a different frame of reference, and a different contextual knowledge. As for the difference in tone and register between the two languages when constructing an acceptable academic discourse, that is a fundamental issue easy to note but extremely difficult to address because of the nuances and complex features involved. The informal, intimate style which is customary when treating a subject in Welsh even in an academic context can appear wholly inappropriate in English. That is, one must keep in mind the expectations of the ‘imaginary reader’ in English, who may be less prepared to be treated as if s/he shared the same values and was a member of the same community as the author. I am not suggesting that the one style of writing is better than the other. There are good and bad features to both – for example, one sometimes finds in the Welsh a reluctance to use the kind of unfamiliar constructs and complicated neologies which can be required if one wishes to develop an advanced, complex, learned and sophisticated argument. The problem is that this would be likely to arouse antipathy in one’s readership and lead to an accusation of being pretentious. The unfortunate consequence is that the discussion in Welsh can sometimes be limited to the use of comfortingly familiar terms, and so be superficial and platitudinous. But the contrary is true at times when treating a subject in English: that is to say, there can be a tendency to attempt to flaunt one’s daring intellectual credentials and show one’s sophistication by a proliferation of theories and the use of an abstruse academic diction that is wholly unproductive and uncalled for. |
M. Wynn Thomas Athro’r Saesneg a deilydd Cadair Emyr Humphreys yn llèn Saesneg Cymru, Prifysgol Abertawe Professor of English and Emyr Humphreys Professor of Welsh Writing in English, Swansea University (1) ‘Cymru’n Un,’ Waldo Williams, Dail Pren (Llandysul: Gomer, 2010), p78. (2) Alun Llywelyn-Williams, Cerddi (1934-1952) (Llundain: Gwasg Gymraeg Foyle, 1942), p35. (3) M. Wynn Thomas, Corresponding Cultures: the two literatures of Wales (Cardiff: University of Wales Press, 1999), p74. |