Warning: Parameter 2 to qtranxf_postsFilter() expected to be a reference, value given in /home/parallel/public_html/wp-includes/class-wp-hook.php on line 324

Warning: Parameter 2 to qtranxf_postsFilter() expected to be a reference, value given in /home/parallel/public_html/wp-includes/class-wp-hook.php on line 324

Warning: Parameter 2 to qtranxf_postsFilter() expected to be a reference, value given in /home/parallel/public_html/wp-includes/class-wp-hook.php on line 324

Warning: Parameter 2 to qtranxf_postsFilter() expected to be a reference, value given in /home/parallel/public_html/wp-includes/class-wp-hook.php on line 324

Warning: Parameter 2 to qtranxf_postsFilter() expected to be a reference, value given in /home/parallel/public_html/wp-includes/class-wp-hook.php on line 324

Warning: Cannot modify header information - headers already sent by (output started at /home/parallel/public_html/wp-includes/class-wp-hook.php:324) in /home/parallel/public_html/wp-includes/feed-rss2.php on line 8
E-llyfr ar gael – Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog https://parallel.cymru Mon, 01 Jul 2019 14:51:53 +0000 cy hourly 1 https://wordpress.org/?v=6.8.3 https://parallel.cymru/wp-content/uploads/cropped-Square-URL-512-1-32x32.png E-llyfr ar gael – Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog https://parallel.cymru 32 32 Elliw Gwawr: Blasus- Gyda rysáit ar gyfer crempogau afal a llus / With a recipe for apple and blueberry pancakes https://parallel.cymru/elliw-gwawr-blasus/ Mon, 22 Oct 2018 13:39:17 +0000 https://parallel.cymru/?p=13519

Mae Elliw Gwawr yn gweithio fel gohebydd seneddol i’r BBC yn Llundain, ond yn ei hamser sbâr mae'n mwynhau coginio. Yn dilyn llwyddiant ei blog Paned a Chacen, y blog Cymraeg cyntaf am bobi, mae Elliw wedi chyhoeddi dwy gyfrol poblogaidd- Paned a Chacen & Pobi, llyfrau sy'n llawn o'i hoff gacennau, bisgedi a phwdinau. Nawr mae ganddi drydedd cyfrol - Blasus, llyfr o ryseitiau i fwydo’r teulu cyfan, ac yn y cyflwyniad unigryw hwn mae'n rhannu mwy am y llyfr ac yn cyfrannu dwy rysáit- crempogau afal a llus & tameidiau twrci.

Elliw Gwawr works as a political correspondent for the BBC in London, but in her spare time enjoys cooking. Following the success of her blog Paned a Chacen, the first Welsh baking blog, Elliw has published two popular volumes- Paned a Chacen (Tea and Cakes) & Pobi (Baking), books which are full of her favourite cakes, biscuits and puddings. Now she has a third volume – Blasus (Tasty)- a book of recipes to feed the whole family, and in this exclusive introduction she shares more about the book and contributes two recipes- apple and blueberry pancakes & turkey nuggets.

Wedi llwyddiant y ddau lyfr cyntaf, Paned a Chacen a Pobi, roeddwn i’n awyddus i drydedd gyfrol fod ychydig yn wahanol. Ar ôl cael plentyn, bu raid i mi feddwl o’r newydd am yr hyn yr oeddem yn ei fwyta gartref, ac roedd o’n dipyn o her i mi feddwl am ryseitiau iach a blasus fyddai’n plesio plentyn bach a gweddill y teulu. After the success of the first two books, Paned a Chacen and Pobi, I wanted the third volume to be a little different. After having children, I had to think afresh about what we were eating at home, and it was a bit of a challenge for me to come up with healthy and tasty recipes which would please small children and also the rest of the family.
Felly yn syml llyfr ydi hwn o’r hyn da ni wedi bod yn bwyta fel teulu dros y dair mlynedd ddiwethaf- o’r bwydydd cyntaf i fabis sy’n dechrau ar fwyd solet, i brydau iachus i’r teulu cyfan. So this is simply a book of what we as a family have eaten over the last three years- from the first food for babies beginning on solid food, to healthy meals for the whole family.
Dwi’n ymwybodol iawn mae un o’r heriau mwyaf i reini yw cael plant i fwyta digon o lysiau, felly mae yna ryseitiau blasus sy’n cynnwys llysiau cudd. Ac er bod yna lot mwy o fwydydd sawrus dwi ddim wedi rhoi’r gorau i greu cacennau’n llwyr. I am very conscious that one of the biggest challenges for parents is getting children to eat enough vegetables, so there are tasty recipes that contain hidden vegetables. And although there is a lot of savoury food I have not given up making cakes completely.
Felly, mae yna ddanteithion blasus ar gyfer partïon ac achlysuron arbennig, ac i’r plant lleiaf, mae yna ryseitiau am gacennau a phwdinau llawer llai melys na’r hyn y byddwch yn ei gysylltu â mi. Mae pob un rysáit yn y llyfr hwn wedi cael sêl bendith fy mab. Ac os ydi o’n dweud eu bod nhw’n flasus, yna dwi’n gobeithio y bydd pobol eraill yn cytuno ag o hefyd!So, there are tasty delicacies for parties and special occasions, and for the smallest children there are recipes for cakes and puddings much less sweet than those you will associate me with. Each recipe in the book has received my son's seal of approval. And if he says they are tasty, then I am hoping other people will agree with him too!
Dwi’n gwybod pa mor anodd ydio i feddwl am swper iach a blasus y bydd pawb yn ei fwynhau, felly dwi’n gobeithio bod yna ddigon o syniadau newydd yma i bobl eu trio. Ar y cyfan mae’r ryseitiau yn hawdd a chyflym efo cynhywsion syml y gallwch ffeindio ymhob archafarchnad neu siop leol. I know how difficult it is to think of a healthy and tasty dinners that everyone will enjoy, so I hope that there are enough new ideas here for people to try out. On the whole the recipes are easy and quick, using simple ingredients that you can find in any supermarket or local shop.
Felly dwi’n gobeithio y bydd hwn yn lyfr y bydd pobl yn troi ato yn gyson ac y bydd rhai o’r rysieitau ynddo yn dod yn ffefryn i deuluoedd eraill hefyd. So I hope that this will be a book that people turn to constantly and that some of the recipes in it will become favourites of other families too.

Fy stori fel cogydd / My story as a chef

Fe ddechreuais i goginio adra gyda fy mam a fy nain. Fel plentyn roeddwn i wrth fy modd yn eu gwylio yn pobi, ac yn bachu ar bob cyfle i’w helpu. Ac wrth gwrs roeddwn i wastad yn gwneud yn siwr fy mod i o gwmpas i lyfu’r llwy os oedden nhw’n gwneud cacen! Mae’n ddiddordeb sydd wedi aros gyda mi, fyth ers hynny, a dwi dysgu a datblygu drwy wylio eraill ac arbrofi gyda ryseitiau newydd. I began cooking at home with my mother and my grandmother. As a child I was in my element watching them bake, and jumped at every chance to help them. And of course I always made sure that I was around to lick the spoon if they were making cake!. This is an interest that has stayed with me ever since, and I learn and develop by watching other people and experimenting with new recipes.
Fe ddaeth y cyfle i gyhoeddi fy llyfr cyntaf, Paned a Chacen ar ôl i mi ddechrau blog o’r un enw. Fe benderfynais ddechrau ysgrifennu am fy mhrofiadau yn y gegin, yn cofnodi beth yr oeddwn yn ei goginio, a‘r ryseitiau yr oeddwn yn eu trio. Doedd neb wedi gwneud hynny yn y Gymraeg o’r blaen, ac roedd yr ymateb iddo yn wych- felly mewn ffordd estyniad o’r blog oedd y llyfr cyntaf. The opportunity came to publish my first book, Paned a Chacen, after I started a blog of the same name. I decided to begin writing about my experiences in the kitchen, making a record of what I was cooking and of the recipes I was trying. Nobody had done this in Welsh before, and the response was great- so in a way the first book was a continuation of the blog.
Nawr ar fy nhrydedd llyfr, dwi wedi ceisio cynnig rhwybeth ychydig yn wahanol eto. Mae yna gymaint o lyfrau coginio Saesneg, ond prin yw’r dewis yn y Gymraeg, felly dwi’n gobeithio fy mod yn llenwi bwlch yn y farchnad ac yn creu llyfrau deniadol chyfoes mae pobl eisiau defnyddio dro ar ôl tro. Now on my third book, I have tried to offer something a little different again. There are so many English cooking books, but the choice in Welsh is limited, so I hope I am filling a gap in the market and creating attractive contemporary books which people will want to use time after time.
Erbyn hyn dwi’n ceisio pasio’r diddordeb yna ymlaen i fy mab. Mae o wrth ei fodd yn potsian yn y gegin, ac mae rhoi’r cyfle yna i blant yn holl bwysig yn fy marn i. Currently I am trying to pass this interest on to my son. He is in his element pottering in the kitchen, and in my opinion giving children the opportunity to do this is all important.
Mae gen i atgofion melys iawn o helpu fy mam a fy nain yn y gegin, a dwi wedi ffeindio bod y rhan fwyaf o blant yn mwynhau’r cyfle i ddangos eu creadigrwydd yn y gegin. Be well na chyfle i chwarae, arbrofi a gwneud bach o lanast. I have very fond memories of helping my mother and grandmother in the kitchen, and I have found that most children enjoy the opportunity to show their creativity in the kitchen. What better than the chance to play, experiment and make a little mess.
Ac wrth gwrs ar ddiwedd y broses daw’r boddhad o gael rhywbeth blasus i’w fwyta. Mae coginio hefyd yn ffordd wych o ddysgu. Boed hynny am fwydydd newydd, o ble mae cynhwysion yn dod a sut mae eu cyfuno i wneud rhywbeth hyfryd ac iachus. And of course, at the end of the process comes the satisfaction of getting something tasty to eat. Cooking is also a great way to learn. This may be about new food, about where ingredients come from, and how they combine to make something nice and healthy.
Wrth bwyso a mesur mae yna gyfle i ddysgu am rifau a chyfri. Ac mae pobi yn cynnig dipyn o wers cemeg hefyd, wrth iddyn nhw weld sut y bydd cynhwysion digon syml, o’u cyfuno yn y ffordd iawn yn gallu tyfu ac ehangu i greu rhywbeth hollol wahanol. Through weighing and measuring there is a chance to learn about numbers and counting. And baking offers a bit of a chemistry lesson too, as they see how it is that simple enough ingredients combined in the right way can grow and spread out to make something entirely different.

Crempogau Afal a Llus / Apple and Blueberry Pancakes

Elliw Gwawr- Crempogau afal a llus

Mae crempogau’n fwyd delfrydol ar gyfer plant bach sy’n dechrau bwydo eu hunain. Mae’r rhain yn llawn afal a llus, felly maen nhw’n flasus ac yn faethlon. Bydd y teulu cyfan eisiau’r rhain i frecwast. Mae crempogau bach fel hyn yn rhewi’n dda, felly gwnewch fwy na sydd angen pan fydd gennych amser. Maen nhw’n dadmer yn gyflym, neu os ydych chi ar frys mawr gallwch eu taro yn y meicrodon neu’r tostiwr. Pancakes are an ideal food for small children who are beginning to feed themselves. These are full of apple and blueberries, so they are tasty and nutritious. The whole family will want these for breakfast. Small pancakes like this freeze well, so when you have time make more than you need. They thaw quickly, or if you are in a great hurry you can put them in the microwave or the toaster.
120g o flawd gwenith cyflawn120gm wholewheat flour
1 llwy de o bowdr codi1 spoonful baking powder
½ llwy de o soda pobi ½ spoonful baking soda
100ml o laeth100ml milk
1 wy1 egg
50g o afal wedi’i gratio 50gm grated apple
55g o lus55gm blueberries
Menyn i ffrioButter for frying
Digon i wneud tua 10 crempog fach.This is enough to make about 10 small pancakes.
Cymysgwch y blawd, y powdr codi a’r soda pobi mewn powlen a chymysgu. Mix the flour, the baking powder and the baking soda in a bowl.
Gwnewch bant yn y canol ac ychwanegu’r llaeth a’r wy. Gyda chwisg llaw, cymysgwch bopeth yn ofalus nes eu bod wedi cyfuno’n llwyr. Dylai’r cymysgedd fod yn weddol drwchus. Make a hollow in the middle and add the milk and egg. With a hand whisk, mix everything carefully until it is completely blended. The mixture should be fairly thick.
Ychwanegwch yr afal wedi’i gratio a’r llus a chymysgu eto yn ofalus gyda llwy bren.Add the grated apple and blackberries and mix again carefully with a wooden spoon.
Toddwch ychydig o fenyn mewn padell ffrio dros dymheredd cymedrol a rhoi llond llwy bwdin o’r cymysgedd yn y badell ar gyfer pob crempog. Melt a little of the butter in a frying pan over a moderate temperature and put one spoonful of pudding from the mixture into the pan for each pancake.
Coginiwch am 2 funud ar bob ochr, nes eu bod yn euraidd.Cook for two minutes on each side, until they are golden.
Gwnewch yr un peth â gweddill y cymysgedd. Do the same thing with the rest of the mixture.

Tameidiau Twrci / Turkey Nuggets

Elliw Gwawr- Tameidiau twrci

Os yw eich plant wrth eu boddau â’r tameidiau cyw iâr, neu’r chicken nuggets, sydd ar gael mewn bwytai neu siopau, beth am drio gwneud y tameidiau twrci yma gartref? Heb yr holl halen ac yn llawn llysiau cudd maen nhw’n llawer mwy iach. Ond eto maen nhw’n syml iawn i’w gwneud ac, yn bwysicach oll, yn flasus hefyd. Mae’r rysáit yn cynnwys syniadau am ba lysiau y gallwch eu defnyddio, ond defnyddiwch chi beth bynnag sydd gennych yn y tŷ ar y pryd. If your children are fond of the chicken pieces, or 'chicken nuggets', which you get in restaurants or shops, what about trying to make turkey nuggets here at home? Without all the salt, and full of hidden vegetables, they will be much healthier, and, more importantly, tasty too. The recipe includes ideas about what vegetables you can use, but use whatever you have in the house at the time.
500g o fins twrci500gm minced turkey
20g o gaws parmesan wedi’i gratio’n fân20gm parmesan cheese grated small
Hanner pupur wedi’i dorri’n fân iawn Half a pepper in very small pieces
3–4 blodyn brocoli 3-4 heads of broccoli
3 pelen o sbigoglys wedi’i rhewi (wedi’u dadmer)3 balls of frozen spinach (after thawing)
100g o greision ŷd100gm cornflakes
Digon i wneud rhyw 16.This is enough to make some 16 nuggets.
Cynheswch y popty i 180ºC / Ffan 160ºC / Nwy 4. Heat the oven to 180ºC / 160ºC Fan / Gas mark 4.
Rhowch y cig a’r caws mewn powlen.Put the meat and cheese in a bowl.
Torrwch y llysiau mor fân â phosib, un ai â llaw, neu (yn haws fyth) mewn prosesydd bwyd, a’u hychwanegu at y cig.Shred the vegetables as small as possible, either by hand or (even easier) in a food processor, and add them to the meat.
Defnyddiwch eich dwylo i gyfuno’r cig a’r llysiau a ffurfiwch siapiau neu dameidiau.Use your hands to mix the meat and vegetables and form into shapes or pieces.
Rhowch y creision ŷd mewn bag plastig a’u taro â phin rholio i’w malu’n fân. Put the cornflakes in a plastic bag and roll with a rolling pin to break them up small
Rholiwch y tameidiau cig yn y creision ŷd, gan sicrhau eu bod wedi’u gorchuddio’n llwyr. Roll the meat pieces in the cornflakes, making sure that they are completely covered.
Rhowch nhw ar dun pobi wedi’i leinio â phapur gwrthsaim a choginio am 20–25 munud, a’u troi ar ôl 10 munud. Put them in a baking tin lined with greaseproof paper and cook for 20-25 minutes, turning them after 10 minutes.

Elliw Gwawr Paned a Chacen

Elliw Gwawr Pobi


Erthygl ar gael i lawrlwytho ar Apple Books, PDF & Kindle / Article available to download on Apple Books, PDF & Kindle:

Apple Books logo

PDF logo

Kindle logo

]]>
Joe Mitchell: Creu’r geiriadur Cymraeg-Gwyddeleg cyntaf / Creating the first Welsh-Irish dictionary https://parallel.cymru/joe-mitchell-creur-geiriadur-cymraeg-gwyddeleg-cyntaf/ Sat, 06 Oct 2018 06:46:45 +0000 https://parallel.cymru/?p=12223

Mae Joe Mitchell wedi dysgu Cymraeg a Gwyddeleg, a thrwy ddymuniad i helpu defnyddiwr a dysgwyr o'r ddwy iaith mae e wedi gweithio am dros 20 mlynedd yn paratoi geiriadur unigryw- Cymraeg i Wyddeleg. Yn eang ei olwg ac yn tynnu ar ffynonellau llafar a llenyddol, y mae’r Geiriadur Cymraeg - Gwyddeleg yn cynnwys 12,500 o eiriau Cymraeg wedi eu trin a myrdd o enghreifftiau defnyddiol, ceir ynddo hefyd adran ramadeg i hwyluso gwell dealltwriaeth siaradwyr ac ysgrifenwyr y naill iaith a’r llall. Yma, mewn erthygl tairieithog unigryw, mae'n esbonio mwy...

Joe Mitchell has learned Welsh and Irish, and through a wish to help other users and learners of both languages he has worked for over 20 years preparing a unique dictionary- Welsh to Irish. The Geiriadur Cymraeg - Gwyddeleg presents a wealth of vocabulary, expression and grammar with a broad scope and wide range of sources, both colloquial and literary. Comprised of over 12,500 headwords with thousands of examples of use, it also contains a grammar section to promote better understanding between speakers and writers of the two languages. Here, in a unique trilingual article, he explains more...

D’fhoghlaim Joe Mitchell an Ghaeilge agus an Bhreatnais agus d’oibrigh sé breis le 20 bliain chun an fhoclóir Breatnais – Gaeilge sainiúil seo a chur le chéile. Le réimse fairsing agus foinsí inmadúla, idir chaighdeánach agus chanúnach, pléann sé le níos mó ná 12,500 ceannfhocal Breatnaise, agus lear mór samplaí den úsáid. Faightear rannóg ghramadaí ann a chuireann ar a gcumas do chainteoirí na dá theanga h sé seo an-úsáideach do chainteoirí agus do scríbhneoirí mar a céanna...

An Foclóir
Ba rud thar a bheith dána dom é ná tabhairt faoi dhá theanga a chur i bhfoclóir dátheangach agus gan ceachtar acu mar chéad teanga agam. Ach is é bun agus barr an fhoghlaim é, glacadh agus scrúdú a dhéanamh ar na botúin chun an teanga a shealbhú go cruinn, agus míniú beacht agus bríomhar mar sprioc. Buíochas le Dia faoin slua ceartóirí agus faoi obair eagarthóireachta Diarmuid Johnson, chomh flaithiúil a chomhairle, agus faoin thriadisiúin foclóireachta sa Bhreatnais agus sa Ghaeilge. Bhí siad go léir ann mar chrann taca.
Y Geiriadur
Roedd mynd ati i lunio geiriadur dwyieithog mewn dwy iaith, y naill na’r llall yn famiaith i mi, yn fwriad a oedd yn gofyn am gryn hyfdra. Mae dysgu derbyn a dadansoddi cywiriadau sy’n cael eu cynnig yn rhywbeth creiddiol er mwyn dysgu’n drylwyr ac i anelu at gywirdeb. Diolch byth i’r llu o gywirwyr ac am waith y golygydd Diarmuid Johnson a oedd mor hael ei gyngor, ac am y traddodiad o eiriaduro sydd yn bodoli yn y Gymraeg a’r Wyddeleg. Roedd y rhain i gyd yno i bwyso arnynt.
The Dictionary
Setting out to compile a bilingual dictionary in languages neither of which are my mother tongue took quite some cheek. Learning to accept and to analyse corrections that are offered is essential for thorough learning and aiming for accuracy. Thank goodness for the host of correctors, for the work of the Editor Diarmuid Johnson, so generous in his advice, and for the lexicographic traditions that exist in Welsh and Irish. These were all there was to lean on.
Cibé daol a bhuail mé, tá sé ar intinn agam sult a bhaint as an dá theanga agus aithne a chur ar a bealaí rúnda. Ba é sin a spreag an triocha bliain seo de chóiriú ar théacs an fhoclóra. Ní raibh foclóir Breatnais – Gaeilge le fáil sna nóchadaí agus é ag teastáil uaim an chéaduair. Tá ga le scríobh agus foilsiú fhoclóirí dátheangacha eile i gcónaí, agus tá súil agam nach mbeidh moill triocha bliain eile sara bhfeicfear foclóir Gaeilge – Breatnais ar an seilf leabhar. Cead faoi foclóir Breatnais – Arabais? Tá sé i bhfad Éireann níos éasca teanga a fhoghlaim agus an foclóir scríofa sna teangacha is fearr le haghaidh na hoibre.Mae gen i ysfa i fwynhau’r ddwy iaith ac i ymbalfalu yn eu cuddfannau a dyna wnaeth yrru’r deng mlynedd ar hugain o addasu cynnwys y geiriadur. Doedd dim geiriadur Cymraeg – Gwyddeleg ar gael yn y 1990au pan oeddwn ei angen gyntaf. Ar hyn o bryd mae cynhyrchu a chyhoeddi geiriaduron dwyieithog Cymraeg mewn ieithoedd eraill yn fater pwysig. Gobeithio na fydd rhaid aros deng mlynedd ar hugain arall cyn cael geiriadur Gwyddeleg – Cymraeg. Beth am eiriadur Cymraeg – Arabeg? Mae dysgu iaith gymaint yn haws os ydy’r geiriadur yn yr iaith fwyaf addas.I have a bee in my bonnet for enjoying these languages and searching out their secret places and this is what has driven the score and ten years of selecting and adapting the contents of the dictionary. There was no Welsh – Irish dictionary to be had when I first needed it. At present the production and publication of other bilingual Welsh dictionaries is a pressing issue. I hope it won’t take another 30 years for an Irish – Welsh dictionary to appear. What about a Welsh - Arabic? Learning a language is so much easier if the dictionary is in the most appropriate language.
Tá agusín san fhoclóir agus trácht ann ar na briathra Gaeilge rialta agus neamhrialta, chomh maith le córas a páirteanna rúnda, díochlantaí agus rialacha séimhiú / urú, is ar éigean is fiú iad a lua! Sa réamhrá freisin tá cur síos as Ghaeilge ar séimhiú agus urú na Bhreatnaise. Is áis iontach é teacsleabhar Gaeilge an Dr. Ian Hughes, Dysgu Gwyddeleg, leagan Breatnais ar leabhar Mícheál Ó Siadhail, Learning Irish. Ach san fhoclóir nua, tá cur sios ar 12,500 ceannfhocal Breatnaise ann, agus réimse leathan idir an chaint agus an litríocht. Ceir gramadeg yn atodiad fy ngeiriadur i ddangos y berfau Gwyddeleg rheolaidd ac afreolaidd, ffurfdroadau ei rhannau cudd a’i rheolau treiglo bondigrybwyll! Mae gwerslyfr dysgu Gwyddeleg Ian Hughes, Dysgu Gwyddeleg, cyfieithiad o werslyfr Mícheál Ó Siadhail, Learning Irish yn cynnwys geirfa Cymraeg – Gwyddeleg. Ond mae’r geiriadur newydd yn llawer mwy ac yn fwy eang ei gwmpas gyda 12,500 o eiriau Cymraeg yn cael eu trin.The appendix to my dictionary has a grammar showing the regular and irregular Irish verbs, declensions of its secret parts and the barely mentionable rules of mutation! There is an Irish learners’ textbook by Ian Hughes, Dysgu Gwyddeleg, a translation of Mícheál Ó Siadhail’s Learning Irish which includes a Welsh – Irish vocabulary. The new dictionary though is much bigger and more comprehensive with 12,500 Welsh headwords dealt with.
Abererch, Caerdydd agus Aberystwyth
Sna chéad ranganna Gaeilge a bhí mé páirteach ann i 1989, bhí na Breatnaigh thar a bheith sásta leis an gcaoi ar tharraing ár múinteior Barra Tóibín aird na ranga ar ghnéithe coiteanta idir an dhá theanga: struchtúir na habairte, agus an briathar ag freagairt na cheiste; foclóir gaolmhar idir Chlaiseacach agus Cheilteach; míreanna na hainmbriathra ag freagairt dá chéile, -io as Breatnais agus -áil as an Ghaeilge. Thairis sin bhíodh ciorcal léamh maidin Sathairn á réachtáil aige, cruinnithe ceoil agus comhrá mar a bheifí in ann úsáid a bhaint as an teanga. Níor dhiúltaigh sé éinne, agus bhí na foghlaimeoirí in ann misneach a bhaint as: spreag sé sinn chun pinn, chun astriú agus chun foilsiú agus d’inis sé stair na nGael i Gaerdydd duinn.
Abererch, Caerdydd ac Aberystwyth
Yn y gwersi Gwyddeleg cyntaf i mi fynd iddyn nhw yng Nghaerdydd yn 1989 roedd Cymry’r dosbarth yn gwirioni ar allu’r tiwtor, Barry Tobin i dynnu sylw at y tebygrwydd rhwng y ddwy iaith: strwythur cyfarwydd y frawddeg gyda berf yn ateb cwestiwn; geiriau Clasurol a Cheltaidd cyffredin, ac ôl-ddodiaid y berfenwau -áil a -io yn cyfateb. Ond trefnai Barry foreau darllen, cyfarfodydd sgwrsio a sesiynau canu lle caed cyfle i ddefnyddio’r iaith. Dyna athro a wyddai’r ffordd i gymell dysgu a chyfathrebu: anogodd ni i gyhoeddi ac ymarfer cyfieithu a chododd ymwybyddiaeth o hanes y Gwyddelod yng Nghaerdydd.
Abererch, Cardiff and Aberystwyth
The Welsh contingent in the first Irish classes I attended in Cardiff in 1989 feasted on Barry Tobin’s tutoring as he pointed out the common core between the two languages: familiar sentence structure with verb answering questions; common Classical and Celtic vocabulary, verb noun endings -io and -áil corresponding. But Barry would organise reading mornings, chat sessions and singalongs you could get the opportunity to use the language. He was a tutor who knew how to inspire learning and communication: he encouraged us to publish and translate and he created interest in the history of the Irish in Cardiff.
Agus ba stair í a bhain le chuid dom shinsear féin. Fuair mo athair a chuid teagaisc ó scoil na mBráthar Chríostaí sa chathair sna triochadí, agus tháinig mo shin-seanmháthair ó Chorcaigh i mbád oscailte ina leanbhín óg de shliocht teifieach aimsir na Górta Mór. Bhraitheas go raibh mé in ann an stair a thuiscint agus an teanga a shealbhú de réir mar a bhí na focail agus na frásaí á bhailliú agam taobh le chéile i gcomhair an fhoclóra.A hanes rhai o’m cyndeidiau oedd hyn, gyda fy nhad wedi bod trwy ddwylo’r Brodyr Dysgu yn y ddinas yn yr 1930au a fy hen-nain wedi dod draw o Gorcaigh mewn cwch agored yn fabi bach i ffoaduriaid o’r Newyn Mawr. Teimlais ryw berchnogaeth a pherthyn i’r ieithoedd wrth gasglu geiriau ac ymadroddion ochr yn ochr ar gyfer y geiriadur. And this was the history of some of my ancestors, my father having been through the hands of the Teaching Brothers in the 1930s and my great-grandmother having came across from Cork as a baby in an open boat with refugees from the Great Hunger. I feel an ownership and a belonging in these two languages from having compiled these words and phrases side by side in the dictionary.
Ach ní amháin ar fhoclóir dátheangach nach bhfuil mórán clú air a mhairfidh an duine. Bhí an mhúinteoireacht i ndán dom, agus rinne mé gach iarracht sna scoileanna feabhas a chur ar an Bhreatnais a d’fhoghlaim mé den chéad uair sa naoiscoil in Abererch Pwllheli. Bhuail mé le mo bhean, Breatnach ó Bow Street nuair a bhíomar inár n-ábhar múinteórí sa Sean Choláiste in Aberystwyth i 1990 agus is í mo eagarthóir neamhoifigiúil go fóill. Bhí mo Bhreatnais labhartha beagáinín ró liteartha i dtús na nóchadaí, ach le himeacht aimsire d’éirigh mé cleachtadh uirthi féin agus a ceartú agus a gléasanna!Ond nid ar eiriadur dwyieithog prin ei apêl y bydd dyn byw. Mynd i ddysgu oedd fy ffawd a bachais bob cyfle yn yr ysgolion y bûm i’n gweithio ynddynt i fireinio’r Gymraeg roeddwn wedi’i dysgu gyntaf yn Ysgol Feithrin Abererch Pwllheli. Pan oeddwn yn gyw athro yn 1991 ffeindiais fy mhriod yn yr Hen Goleg. Cymraes o Bow Street ydy hi a’m golygydd answyddogol o hyd. Tamaid bach yn rhy lenyddol oedd fy Nghymraeg i yn ôl yn y 90au, ond o dipyn i beth deuthum yn fwy cyfarwydd â hi a’i chywiriadau a’i chyweiriau! But man cannot live on a niche appeal dictionary alone. Fated to be a teacher I seized every opportunity to perfect the Welsh I had first learned at Infant School in Abererch, Pwllheli. While doing teaching practice in 1991 I found my wife at the Old College. She has Welsh as her first language and she is still my unofficial editor. In the 90s my Welsh was a rather literary but I gradually got familiar with her corrections and registers!
Tá buntáistí ag baint le Aberystwyth mar áit chun an fhoclóir a fhorbairt: leabhair go leor san Ollscoil, múinteóirí ag múineadh cursa MA i nGaeilge, scata de chainteóirí sásta an teanga a úsáid, agus aer úr chun stuaim a choimeáid ar an fhoighid, mar a ritheann an gaineamh san orláiste arís agus arís eile agus an caisleán digiteach ag éirí inár dtimpeall. Faoi seo tá Russel Foley, mac léinn i Roinn na dTeangach in Ollscoil Aberystwyth, ag tabhairt faoin fhoclóir a chur in oiriúint le haghaidh an tIdirlíon.Roedd datblygu’r gwaith yn Aberystwyth yn dod â sawl mantais: llond y brifysgol o lyfrau ac athrawon i ddysgu cwrs MA Gwyddeleg i mi, nifer o siaradwyr parod i ddefnyddio’r ieithoedd, ac awyr iach i borthi’r amynedd sydd eisiau tra bod tywod amser yn llithro drwy’r gwydr drosodd a thro a thra codwyd y castell digidol o’n cwmpas. Developing the work in Aberystwyth had its advantages: a university full of books and teachers to teach me an MA in Irish, lots of speakers willing to use the languages, and the sea air to feed the endless patience needed while sand slipped over and over again through the hourglass and while the digital castle was built around us.
Buntáiste? Cad mar bhuntáiste?
Tá tionachar na foclóirí Geraint Lewis agus Niall Ó Dónaill le feiceáil ar leagan amach na hoibre nua, ach tá samplaí úr nua ann chomh maith. Is é sin an rud atá nua amach is amach san obair seo, go féidir leat bogadh caol díreach idir an Bhreatnais agus an Ghaeilge gan a bheith ceangailte leis an Bhearla a úsáid mar dhroichead.
Mantais? Pa fantais?
Mae’r geiriadur Cymraeg - Gwyddeleg yn dilyn patrymau a welir yng ngeiriaduron D. Geraint Lewis ac Ó Dónaill ac yn ogystal â hynny mae ynddo fyrdd o gyfuniadau gwreiddiol sy’n tynnu ar gasgliadau helaeth y geiriadurwyr Gwyddeleg a Chymraeg proffesiynol ac ar lafar a thestun y siaradwyr ac ysgrifenwyr cyfoes. Beth sydd wir yn dir newydd yn y gwaith hwn yw’r hwylusdod o fedru cyfeirio’n uniogyrchol at eiriadur Cymraeg - Gwyddeleg heb orfod pontio drwy Saesneg.
Advantage? What advantage?
The layout of the Welsh - Irish dictionary borrows from the dictionaries of D. Geraint Lewis and Ó Dónaill and in addition to these there are countless original examples drawn from the extensive collections of Irish and Welsh professional lexicographers and from the speech and texts of contemporary speakers and writers. What is essentially new in the dictionary is the facility of being able to refer directly to a Welsh – Irish dictionary without the need to use English as a bridge.
Is trua nach bhfuil bogearraí aistriúchán agus láithreáin gréasáin is féidir braith orthu go hiomlán, mar geall ar an teanga lochtach nó na botúin a tharlaíonn sna haistriúcháin sin go minic, ach tá an ríomhaistriúchán ag feabhasú agus bíonn frásaí úsáideach le chomhréir le fáil ar líne. Tá áis thar barr, saor in aisce ar fáil ar líne. Is é lexicelt.org é, cúrsa Breatnaise trí mheán na Gailge agus cúrsa an Gaeilge trí mheán na Breatnaise, le ceachtanna agus samplaí fuaime.Yn anffodus ni fedrwn ddibynnu gymaint â liciwn ar y safleoedd cyfieithu a’r gwefannau dysgu iaith gan fod nhw’n cynnig cyfieithiadau anghywir ac anaddas ar brydiau, ond mae cyfieithu digidol yn gwella ac mae ymadroddion defnyddiol mewn cyd-destun i’w cael ar lein. Mae adnodd ar lein rhagorol i ddysgu Gwyddeleg drwy’r Gymraeg a Chymraeg trwy’r Wyddeleg yn lexicelt.org, gwefan sydd yn cynnwys cwrs dysgu â samplau sain.Unfortunately we cannot depend as much as we would like on computer translation and language-learning websites since they offer inaccurate and inappropriate translations at times, though digital translation is improving and there are useful in context phrases to be found on line. There is an excellent web resource for learning Irish through Welsh, and Welsh through Irish in lexicelt.org, a site with a learners’ course which includes audio samples.
Taca
Bhí mo bhean ag dul as a meabhair leis an fhuaim as an chlóscríobhán sna nóchadaí luath. Ansin bhí an t-ádh liom i 1995 gur smaoinigh Dr Willy Mahon ar seift chliste. Thug dáréag tacaí deich bunt an duine síos chun cóip den fhoclóir a fháil saor in aisce tráth a thiocfadh sé amach, agus caitheadh an t-airgead ar ríomhaire chun próiseáil a dhéanamh ar na focail. Chodail an bhean níos fearr fós nuair a thug Cumann na Múinteóirí Breatnaise leath chead punt don togradh. D’íoc Iontaobhas Pantyfedwen as costas mo cursa céim mháistreachta sa Ghaeilge. Míle buíochas do ghach uile cheann acu.
Nawdd
Roedd sŵn clecian fy nheipiadur yn y nawdegau cynnar yn gyrru’r wraig o’i cho’. Yna yn 1995 roeddwn i’n ffodus fod Dr Willy Mahon wedi meddwl am ateb. Rhoddodd dwsin o gefnogwyr ddeg punt yr un i gael copi o’r geiriadur yn rhad ac am ddim ar ôl iddo ddod allan, ac aeth yr arian at brynu cyfrifiadur i brosesu’r geiriau. Cysgodd y wraig hyd yn oed yn well ar ôl i UCAC roi £50 at yr achos. Talodd Ymddiriedolaeth Pantyfedwen ffioedd fy nghwrs MA Gwyddeleg. Can diolch i bob un.
Sponsorship
The sound of my typing in the early nineties was driving my wife up the wall. Then fortunately in 1995 Dr Willy Mahon thought of a solution. A dozen people donated ten pounds each for free copy of the dictionary when it appeared, and the money went towards buying a computer for word processing. The wife slept even better when the teacher’s Union UCAC donated £50 to the cause. Pantyfedwen Trust paid my fees for my MA course in Irish. Thanks a million to all.
Bhí costas ag baint leis an eagarthóireacht, roinnt cácaí milise agus cúpla céad punt. Ach ba í flaithiúlacht, saothair deonach agus staidéir an Dr Diarmuid Johnson ba chionsiocair leis an obair a chur i gcríoch.Roedd y gwaith golygu wedi costio sawl cacen ffrwythau a chant neu ddau o bunnoedd. Ond haelioni, llafur cariad a dyfalbarhad Dr Diarmuid Johnson oedd wedi mynd â’r maen i’r wal. Editing the work cost a number of fruitcakes and a few hundred pounds. But it was the generosity, labour of love and fortitude of Dr Diarmuid Johnson as that secured the success of the work.
Tar éis dom an obair ghrafaidh a dhéanamh agus téacs an fhóclóra a leagan amach le haghaidh Preas Gomer, chuaigh Ystwyth Books">Siopa Leabhair Ystwyth agus mé féin i bhfiontar ar na costais phriontála. Seoladh an leabhar i bhialann Medinas in Aberystwyth, agus rinneadh beart de réir an bhriathair. Tháinig mé amach as an chéiliúradh yn blasu’r melysder yn y gwynt. Ag blaiseadh na milseachta ar an ghaoth.Ar ôl i mi wneud y graffeg a gosod testun y geiriadur ar gyfer y wasg, mentrodd Ystwyth Books">Siop Lyfrau Ystwyth a minnau dalu am agraffu gyda Gomer. Lawnsiwyd y llyfr yn nhŷ bwyta Medinas yn Aberystwyth a gwireddwyd y gair. Deuthum allan o’r dathlu, ag blaiseadh na milseachta ar an ghaoth: Yn blasu’r melysder ar y gwynt. After I’d done the graphics and and prepared the text of the dictionary for Gomer Press, Ystwyth Books shared with me the printing costs. The book was launched in Medinas restaurant in Aberystwyth and the words became a reality. I came out of the party, ag blaiseadh na milseachta ar an aer: Tasting the sweetness in the wind.

Roedd datblygu’r gwaith yn Aberystwyth yn dod â sawl mantais: llond y brifysgol o lyfrau ac athrawon i ddysgu cwrs MA Gwyddeleg i mi, nifer o siaradwyr parod i ddefnyddio’r ieithoedd.

Joe Mitchell- Creu'r geiriadur Cymraeg-Gwyddeleg cyntaf

Joe Mitchell- Creu'r geiriadur Cymraeg-Gwyddeleg cyntaf

Y Geiriadur

Y mae’r drefn hwylus sydd i’r dewis geiriau, y nodiadau a’r ymadroddion yn galluogi’r darllenydd i weld ystyr a chyd-destun yn rhwydd. Dyma’r casgliad mwyaf cynhwysfawr o’i fath mewn print. Caiff groeso cynnes yn y prifysgolion ac ar aelwydydd pob un sydd am agor drysau ar y naill ochr a’r llall o Fôr Iwerddon a thu hwnt. Mynnwch gopi. Mae’r gyfrol yn elwa’n arbennig o olygyddiaeth ymgynghorol Dr. Diarmuid Johnson - Y Gwyddel o Geredigion.

Comprehensive in its recording modern vocabulary and expression, it stands on the shouders of the Irish and Welsh scholars as a unique work of word and phrase in context, compiled clearly and well annotated. It will surely be welcomed by students from both sides of the Irish sea and beyond. Editorial accuracy was provided by the consultative editor Dr. Diarmuid Johnson, Y Gwyddel o Geredigion.

Joe Mitchell

Yn enedigol o Gaerfyrddin, wedi’i fagu yn Abererch a Gogledd Caerdydd, dysgodd Joe Mitchell yr Wyddeleg gyntaf yng Nghaerdydd gyda Barry Tobin. Enillodd radd MA mewn Gwyddeleg yn Aberystwyth gyda’r Athro Patrick Sims-Williams, Dr. Willy Mahon, Dr. Diarmuid Johnson a Dr. Ian Hughes. Y mae ei waith cyfieithu yn cynnwys straeon byrion a thraethodau Martín Ó Cadhain. Y mae’r geiriadur hwn yn ffrwyth llafur dros 30 o flynyddoedd o gasglu a chofnodi. Bydd y gyfrol o ddefnydd mawr i ddysgwyr a defnyddwyr y ddwy iaith.

Born in Carmarthen and raised in Abererch and North Cardiff, Joe Mitchell first learned Irish in Cardiff with Barry Tobin. He graduated with an MA in Irish at Aberystwyth University in 2005 under Prof. Sims-Williams, Dr. Will Mahon, Dr. Diarmuid Johnson and Dr. Ian Hughes. His translations of Irish texts include short stories and essays by Martín Ó Cadhain. This publication represents the fruit of 30 years of learning Irish: a comprehensive Welsh - Irish dictionary which will promote the study and use of both languages.

geiriadurgwyddeleg.com

Geiriadur Cymraeg-Gwyddeleg

Geiriadur Cymraeg-Gwyddeleg tudalen 1


Erthygl ar gael i lawrlwytho ar Apple Books, PDF & Kindle / Article available to download on Apple Books, PDF & Kindle:

Apple Books logo

PDF logo

Kindle logo

]]>
WLPAN: O Israel i Gymru: Hanes cyrsiau Cymraeg i Oedolion / From Israel to Wales: The history of Welsh for Adults courses https://parallel.cymru/hanes-wlpan/ Thu, 23 Aug 2018 05:20:48 +0000 https://parallel.cymru/?p=8175

Mae miloedd o ddysgwyr yn mynychu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ledled y wlad, ond nid pob un ohonom ni sy'n gwybod sut y cychwynnodd y dosbarthau, eu fformat, a'u philosophi. Yn rhyfeddol, yn Israel mae gwreiddiau'r cyrsiau, yn y dulliau wedi'u defnyddio i adfywio'r Hebraeg. Arbenigydd mewn dwyieitheg yw Lynda Pritchard Newcombe, a ysgrifennodd ei hymdriniaeth ar gyfer y radd o Feistr mewn Addysg ar y pwnc o WLPAN. Yma, mae'n esbonio rhagor...

Thousands of learners attend Welsh for Adults courses throughout the country, but not all of us know how the classes, their format and philosophy began. Surprisingly, the courses are rooted in Israel and the methods used to revitalise Hebrew. Lynda Pritchard Newcombe, an expert in bilingualism whose Masters of Education dissertation topic was WLPAN, explains more...

Dyled Cymru i Israel
Un dydd pan oedd Deborah ac Eliezer yn cerdded i lawr un o strydoedd cul Caersalem yn siarad Hebraeg stopiodd dyn nhw. Wrth dynnu ar lewys y newyddiadurwr ifanc, gofynnodd e yn Iddeweg:
Wales’ Debt to Israel
One day when Deborah and Eliezer were walking down one of Jerusalem's narrow streets, talking in Hebrew, a man stopped them. Tugging at the young journalist's sleeve, he asked in Yiddish:
“Esgusodwch fi, syr. Beth yw’r iaith mae’r ddau ohonoch chi’n siarad?”
“Hebraeg,” atebodd Eliezer.
“Hebraeg! Ond dydy pobl ddim yn siarad Hebraeg. Iaith farw yw hi.”
“Dych chi’n anghywir, fy nghyfaill i,” atebodd Eliezer yn frwd. “Rwy’n fyw. Mae fy ngwraig yn fyw. Rydym ni’n siarad Hebraeg. Felly, mae’r iaith Hebraeg yn fyw.”
"Excuse me, sir. That language you two talk. What is it?"
"Hebrew", Eliezer replied.
"Hebrew! But people don't speak Hebrew. It's a dead language!"
"You are wrong, my friend," Eliezer replied with fervour. "I am alive. My wife is alive. We speak Hebrew. Therefore, Hebrew is alive."
Yn ôl Ethnologue, mae’r iaith Hebraeg yn cael ei siarad gan tua 4 miliwn o bobl yn Israel ac iaith bywyd cyhoeddus yw hi bellach. Mae’r ffigur hwn yn cynnwys siaradwyr iaith gyntaf yn ogystal â rhai sy wedi dysgu Hebraeg fel ail iaith i raddau gwahanol o hyfedredd. Roedd y sefyllfa yn hollol wahanol ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, pan roedd bron pawb yn derbyn bod Hebraeg wedi marw fel iaith lafar dros 1,500 o flynyddoedd yn ôl. Gweledigaeth a dyfalbarhad un dyn cychwynnodd y symudiad ac achosodd y trawsffurfiad hwn Eliezer Ben-Yehuda (1858 – 1922), Iddew Pwyleg o Lithwania a ymgartrefodd yng Nghaersalem yn 1881.According to Ethnologue, Hebrew is spoken by about 5 million people in Israel and is now the language of public life. This figure includes native language speakers and those for whom it is a second language learned to varying degrees of proficiency. The situation was completely different at the end of the nineteenth century when it was almost universally accepted that the Hebrew tongue had died as a spoken language over 1,500 years previously. The vision and determination of one man began the movement which effected this transformation- Eliezer Ben-Yehuda (1858-1922), a Polish Jew from Lithuania who settled in Jerusalem in 1881.
Ym 1994 rhoddodd Chris Rees, a ddaeth yn adnabyddus fel Tad yr WLPAN, deyrnged i ddyfalbarhad Ben-Yehuda o ran creu Hebraeg cyfoes ac i’w arwyddocâd i Gymru.In 1994 Chris Rees, who became known as Tad yr WLPAN, paid tribute to Ben-Yehuda's perseverance in creating contemporary Hebrew and his significance to Wales:
O edrych ar hanes yr Hebraeg yn yr ugeinfed ganrif mae dyn yn sylweddoli nad yw geiriau fel 'byw' a 'marw' i'w deall yn llythrennol pan maen nhw'n cyfeirio at ieithoedd. Metafforau ydyn nhw a metafforau digon arwynebol. Nid rhywbeth fel coeden neu aderyn yw iaith. Does dim tranc anochel yn ei haros. Nid iaith farw felly oedd yr Hebraeg oherwydd nid marw y mae ieithoedd. Camp Ben-Yehuda oedd gweld hyn.
"Heddiw rydym yn siarad ieithoedd eraill," meddai. "Fory byddwn yn siarad Hebraeg."
A glance at the history of Hebrew in the twentieth century makes one realise that the words 'living' and 'dead' are not to be taken literally when referring to languages. They are metaphors and indeed quite superficial metaphors. A language is not like a tree or a bird awaiting its inevitable demise. Hebrew was therefore not a dead language, as languages do not die. Recognising this fact was Ben-Yehuda's great feat.
"Today we speak other languages" he said. "Tomorrow we will speak Hebrew."
Ond nid dim ond gweld a wnaeth. Gweithredodd. Profwyd fod modd dod ag unrhyw iaith o'r cysgodion i ganol prif lifeiriant bywyd cyfoes a'i defnyddio'n gyfrwng popeth. Rhaid dysgu peidio â dibynnu ar ieithoedd eraill, dyna'r cyfan. Mater o benderfyniad ac ewyllys yw. Dyna arwyddocâd Ben-Yehuda i Gymru.However, he did not stop at recognition. He took action. He showed that it is possible to rescue any language out of obscurity into the centre of the main stream of contemporary life and use it for everything. It is simply a question of learning not to depend on other languages, that's all. Willpower and resolution are all that are required. That's the significance of Ben-Yehuda for Wales.
Mae cysylltiad petrus rhwng adfywiad yr iaith Hebraeg a Chymru yn bodoli. Pan roedd Ben-Yehuda’n fyfyriwr yn Dűnaburg cafodd Daniel Deronda, nofel olaf George Eliot ei chyhoeddi. Mae’r nofel yn disgrifio Iddew yn ailddarganfod ei wreiddiau, ac yn dysgu iaith ei wlad; daeth y stori hon yn ysbrydoliaeth i Ben-Yehuda pan roedd e’n ifanc. Roedd Lewis Valentine wastad yn awyddus i ddangos y cysylltiad rhwng Ben-Yehuda a Chymru. Sylwodd e ym 1952:A tentative link existed between the revival of the Hebrew language and Wales. When Ben-Yehuda was a student in Dünaburg, George Eliot's last novel, Daniel Deronda, was published. The novel describes a Jew who rediscovers his roots and learns the language of his country; the story became young Ben-Yehuda's inspiration. Lewis Valentine, always eager to show the connection between Ben-Yehuda and Wales commented in 1952:
"Y mae'n ddiddorol cofio mai'r llyfr hwn a ysgrifennodd George Eliot, oedd a'i gwreiddiau yn Llaneurgain, Sir Fflint, a roes nerth i Ben-Iehwda i ymlafnio ac ymlafurio i edfryd yr Hebraeg i Balestina, a llwyddo! Pwy a ddyry y Gymraeg drachefn ar dafod y plant yng Nghwm Rhondda!""It's interesting to note that this book written by George Eliot whose roots were in Llaneurgain, Flintshire, strengthened Ben-Yehuda to strive and toil to restore Hebrew to Palestine and succeed! Who will put Welsh back on to the children's tongues in the Rhondda Valley?"
Ar ôl i Ben-Yehuda a’i wraig ymsefydlu yn y wlad sydd Israel bellach cynyddodd y nifer o siaradwyr Hebraeg yn hynod o gyflym. Ar ôl iddo fe ymchwilio ynganiad Hebraeg yn y Dwyrain Canol daeth Beh-Yehuda o hyd i uchelgais ei fywyd sef adfywio Hebraeg ar lafar a chyflwyno ei defnydd i fywyd bob dydd. Nid dim ond yn ei chyd-destunau diwylliannol a chrefyddol yn unig byddai’n cael ei defnyddio o hyn ymlaen.The increase in Hebrew speakers in what is now Israel was remarkably rapid after Ben-Yehuda and his wife settled there in 1881. After researching Hebrew pronunciation in the Middle East, Ben-Yehuda made it his life's ambition to revive spoken Hebrew and introduce its use into daily life, no longer to be used merely in its traditional cultural and religious contexts.
Ei gartref ei hun oedd targed cyntaf ei ymdrech. Ar ôl i enedigaeth eu plentyn cyntaf ym 1882 penderfynon nhw byddan nhw’n siarad dim ond yr iaith Hebraeg gartref. Felly daeth ei fab y plentyn cyntaf ers dros 1500 o flynyddoedd i siarad Hebraeg fel mamiaith. Er gwaethaf amheuaeth a gwatwar o sawl cwr, gwnaeth teuluoedd eraill yr un peth ac o ganlyniad rhai o’r ysgolion cynradd addysgodd trwy gyfrwng yr Hebraeg ddiwedd y 1880au. Ym 1921 cafodd Hebraeg ei chydnabod fel un o’r tair iaith swyddogol ym Mhalestina, yn ogystal â Saesneg ac Arabeg. Erbyn 1925 roedd Prifysgol Caersalem yn defnyddio Hebraeg fel cyfrwng addysgu a sefydlwyd academi i greu termau yno. Roedd Ben-Yehuda yn gweithio ar y geiriadur Hebraeg modern cyntaf ac roedd Shalom Abrahamovitch yn ysgrifennu barddoniaeth gyfoes yn yr Hebraeg. Erbyn 1950 roedd 90% o addysg Israel drwy gyfrwng yr Hebraeg, cafodd papurau dyddiol eu sefydlu yn yr Hebraeg a chafodd llawer o lyfrau modern eu cyfieithu i’r Hebraeg.His own home was the first target in his campaign. Following the birth of their first child in 1882, they decided that the Hebrew language alone would be spoken in the home. Thus his son became the first child for over 1,500 years with Hebrew as his mother tongue. Despite scepticism and derision from many quarters, other families followed suit so that in the late 1880s some primary schools taught through the medium of Hebrew. By 1906 some secondary schools emerged. In 1921 Hebrew was recognised as one of three official languages in Palestine alongside English and Arabic. By 1925, Hebrew was being used as the teaching medium at the University of Jerusalem, where an academy was established to create modern terms. Ben-Yehuda was working on the first modern Hebrew dictionary and Shalom Abrahamovitch was writing contemporary poetry in Hebrew. By 1950 90% of Israel's education was in Hebrew, daily newspapers were founded in Hebrew and many modern books were translated into the Hebrew tongue.
Cynhaliwyd cyfrifiad ar ôl i Israel gael ei hailffurfio’n wladwriaeth ym 1948. Dangosodd fod 80% o’r boblogaeth yn gallu siarad Hebraeg ac 54% oedd yn ei defnyddio hi yn eu bywydau bob dydd. O gofio bod yn ystod y 1880au dim ond un teulu oedd yn siarad yr Hebraeg roedd hyn yn ddatblygiad syfrdanol.A census taken just after Israel was reconstituted as a state in 1948 revealed that 80% of the population could speak Hebrew and 54% used it in everyday life. Considering that in the 1880s only one family spoke Hebrew this was astounding progress.
Eliezar Ben Yehuda ULPAN
Eliezar Ben-Yehuda
Pan ddechreuodd Ben-Yehuda hybu’r Hebraeg yn Israel yn yr 1880au roedd y dull uniongyrchol yn dechrau ennill credadwyaeth ym myd dysgu ieithoedd. Datblygodd y dull uniongyrchol fel ymateb i’r fethodoleg draddodiadol wedi’i seilio ar ramadeg a chyfieithu. Roedd hon yn parchu astudiaeth fanwl rheolau gramadegol, yn pwysleisio cyfieithu brawddegau’n gywir, ac roedd wastad yn defnyddio mamiaith y myfyriwr fel cyfrwng dysgu. Ymosododd arloeswr cynnar y dull uniongyrchol, o’r enw Viëtor, ar ddulliau traddodiadol gan nad oedden nhw’n werthfawr na boddhaol i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr. Der Sprachunterricht muß umkehren (rhaid i ddysgu iaith newid ei methodoleg) oedd ei gri e. Roedd e’n credu y dylai dysgu ieithoedd fod yn hwyl ac y dylai ddod â synnwyr o lawenydd a chyflawniad yn ei sgil.When Ben-Yehuda began promoting Hebrew in Israel in the 1880s the direct method was beginning to gain credibility in language teaching. Direct methodology evolved as a reaction to the traditional grammar-translation methodology which revered detailed study of grammar rules, emphasised accurate translation of sentences and always maintained the student's native language as a medium of instruction. An early direct methodology pioneer, Viëtor, attacked traditional methods as neither rewarding nor satisfying for most students. Der Sprachunterricht muß umkehren (language instruction must change its ways) was his cry. He believed language learning should be fun and bring some sense of joy and achievement with it.
Ymosodwyd ar y dull traddodiadol hefyd oherwydd ei fod yn gorfodi myfyrwyr i feddwl bod gair neilltuol mewn un iaith allai olygu’r un peth yn union â gair mewn iaith arall. Yn aml, does dim gair sy’n hollol gyfartal, ac mae’r dull hwn yn achosi i’r myfyriwr dybio fod geiriau yn y famiaith yn cyfateb yn uniongyrchol i eiriau yn yr ail iaith. Roedd cefnogwyr y dull uniongyrchol yn pwysleisio’r canlynol: ynganiad cywir, blaenoriaeth yr iaith lafar, dysgu gramadeg yn anwythol, osgoi cyfieithu lle byddai’n bosibl, a defnyddio’r iaith darged yn y sefyllfa ddysgu. Rydych chi’n gallu dod o hyd i fwy o fanylion ynglŷn â’r dull uniongyrchol yn Krashen, Pennod 5 (1982); Richardson, Penodau 2 a 3 (1983), a Richards a Rodgers, Pennod 1 (1986).The traditional method also came under attack for constraining students to think in terms of a word in one language meaning the same as a word in another language. Frequently there is not an exact equivalent and this method leads the student to the implicit assumption that words in the mother tongue have an exact equivalent in the second language. The direct methodologists emphasised correct pronunciation, the primacy of the spoken word, the learning of grammar inductively, avoidance of translation where possible and use of the target language in the learning situation. More details of the history and development of the direct method are found in Krashen, Chapter 5 (1982); Richardson, Chapters 2 & 3 (1983), and Richards and Rodgers, Chapter 1 (1986).
ULPANIM yn Israel
Ar ôl i 1948 aeth dros un filiwn o Iddewon yn ôl i famwlad eu hynafiaid o lawer o wledydd gwahanol ac ro’n nhw’n siarad llawer o ieithoedd gwahanol. Weithiau, roedd rhaid i fyfyrwyr dderbyn cymorth arbenigol i ddefnyddio’r iaith yn y gweithle ac roedd rhaid darparu cyrsiau neilltuol i gyflawni anghenion mewnfudwyr sy’n anllythrennog, neu sy wedi derbyn dim ond yr addysg fwyaf sylfaenol lle roedden nhw’n siarad llawer o ieithoedd. Er mwyn sgwrsio a masnachu roedd rhaid iddyn nhw ddatblygu lingua franca a’r iaith Hebraeg wedi’i dysgu’n ddwys drwy’r dull ULPAN oedd y ffordd ddelfrydol o ddatrys y broblem. Ym 1949 cafodd y cwrs ULPAN cyntaf ei sefydlu yng Nghaersalem. Gair Aramaeg yw Ulpana. Mae’n gallu golygu ‘dysgu,’ ‘hyfforddi,’ neu ‘stiwdio’. Cafodd y gair ei newid i ULPAN fel y byddai’n swnio’n fwy tebyg i air Hebraeg. Lledodd y system ULPAN, wedi’i datblygu o’r dulliau dysgu roedd Ben-Yehuda wedi’u defnyddio yn y 1880au, ledled y wlad yn rhan o gynllun dychweliad yr Iddewon i’w mamwlad. Mae’r dull yn uniongyrchol, sef dysgu’r Hebraeg drwy’r Hebraeg, gyda dim ond ychydig bach o esbonio o ran gramadeg. O bryd i’w gilydd, byddai ambell air newydd yn cael ei gyfieithu i Saesneg neu i iaith arall y mae’r athro a’r disgyblion yn gyfarwydd â hi. Maen nhw’n gwneud defnydd helaeth o ymarferion, gemau, a dramâu.
ULPANIM in Israel
After 1948 over one million Jews returned to their ancestral homeland from many different lands, speaking numerous languages. Sometimes, it was necessary for the immigrants to receive specialist support in using the language in the workplace, and special courses had to be provided to answer the needs of those who were illiterate, or who had received no more than the most basic instruction where they were speaking many languages. In order to converse and conduct business a lingua franca was required and the Hebrew language taught intensively through the ULPAN method proved the ideal solution. In 1949 the first ULPAN course was established in Jerusalem. Ulpana is an Aramaic word which could be translated teaching, training or studio. The word was changed to ULPAN to make it sound more Hebrew. The ULPAN system, developed from the teaching methods Ben-Yehuda used in the 1880s, spread throughout the land as part of the repatriation scheme for the Jews. The method used is direct, Hebrew through Hebrew, with very little grammatical explanation. Occasionally isolated new words are translated into English or another language known to both teacher and pupils. Extensive use is made of drills, games and dramas.
Wrth i’r nifer o gyrsiau ULPAN gynyddu, cafodd adnoddau eu paratoi ar gyfer dysgwyr, sef nofelau wedi’u symleiddio, yn ogystal â chylchgronau wedi’u hysgrifennu’n syml, ynglŷn â phapur newydd dyddiol arbennig ar gyfer dysgwyr a rhaglenni radio. Er bod nifer o ULPANIM yn digwydd, byddai rhaglen nodweddiadol yn dysgu 1140 o eiriau dros 3 i 5 mis. Roedd myfyrwyr yn dysgu geirfa bob dydd am bynciau fel siopa a chludiant, a thermau gwleidyddol er mwyn gallu darllen papurau newydd, a gwrando ar ddarllediadau radio, mewn Hebraeg syml.As ULPAN schemes increased, resources were prepared specifically for learners: simplified novels as well as simply written magazines together with a special daily newspaper for learners and radio programmes. Whilst several ULPANIM were in operation a typical programme taught 1140 words over 3 to 5 months. Students learned words for everyday talk in domains such as shopping and transportation, and political terms for reading newspapers in easy Hebrew and listening to easy Hebrew radio broadcasts.
Roedd y cwrs yn disgwyl y byddai’r myfyrwyr yn defnyddio’r iaith darged i gyfathrebu cyn gynted â phosibl. Yn y cyfnodau cynnar o ddysgu, roedd y cwrs yn pwysleisio cyfathrebu yn hytrach na chywirdeb. Byddai’r dysgwyr yn perfformio caneuon a sioeau ar adegau, a bydden nhw’n mynd ar deithiau i leoedd diddorol, i wneud cysylltiadau rhwng profiad y myfyriwr unigol ac ideoleg a hunaniaeth trigolion Israel.Students were expected to use the target language to communicate as soon as possible. In the early stages of learning communication was stressed rather than accuracy. Songs and shows by learners were performed occasionally and trips arranged to places of interest, to forge links between the individual student's experience and Israeli ideology and identity.

Roedd y cwrs yn disgwyl y byddai’r myfyrwyr yn defnyddio’r iaith darged i gyfathrebu cyn gynted â phosibl. Yn y cyfnodau cynnar o ddysgu, roedd y cwrs yn pwysleisio cyfathrebu yn hytrach na chywirdeb.

Roedd cyrsiau ULPAN yn amrywio o ran pa mor hir a dwys oedden nhw, ond roedd y rhai cyntaf yn parhau am 6 mis, a chawson nhw eu cynnal am 6 awr y dydd. Rhai eraill wedi’u trefnu ar y kibbutz fyddai’n parhau am hanner diwrnod gwaith, tra byddai’r cyfranogion yn gweithio ar y tir am hanner arall y dydd. Roedd pob cwrs yn pwysleisio cyfathrebu ar lafar ,ac roedd dynwared yn chwarae rhan bwysig yn y gwersi, yn enwedig yn y cyfnodau cynnar. Serch hynny roedd y tiwtor yn eitha rhydd i ddefnyddio dulliau gwahanol yn yr ystafell ddosbarth, a chafodd e’i anogi i ddyfeisio gemau, chwarae rôl, a sgyrsiau. Y syniad y tu ôl i’r system yw hyn: cysylltiad cyson â’r iaith dros gyfnod byr yw’r ffordd orau i ddysgwr feistroli iaith, yn hytrach na chysylltiad gwan dros gyfnod hir.ULPAN courses varied in duration and intensity but the first ones lasted 6 months and were held for 6 hours a day. Others held at the kibbutz would be held for half a working day while the other half would be used for working on the land. All stressed oral communication, mimicry playing a large part in the lessons, particularly in the early stages. Nevertheless the tutor was allowed a good deal of freedom in the classroom as regards methods used and encouraged to make use of games, role play and dialogues. The philosophy behind the system is that frequent contact with the language over a short period is the best way for a learner to master a language, rather than weak contact over a long period.
Mae gan ULPAN strwythur syml. Er bod dosbarthiadau’n cael eu dewis weithiau yn ôl gallu’r myfyrwyr, allwn ni ddim cymharu gwahaniaethau rhwng y dosbarthiadau ULPAN â’r rhai mewn ysgol draddodiadol. Tîm o athrawon a chyfarwyddwr sy’n dysgu’r dosbarthiadau, ac nad ydyn nhw’n arbenigo mewn unrhyw bwnc, felly mae’n bosibl cyfnewid pob un gyda’i gilydd. Does braidd dim gwasanaethau ategol, a does dim labordai arbenigol. The ULPAN has a simple structure. Though classes are sometimes divided according to students’ abilities, differences between the classes could not be compared with a traditional school. Classes are taught by a team of teachers and a director, who have no specialization of their own and are interchangeable. Hardly any ancillary services exist and there are no specialised laboratories.
Weithiau, rhaid i fyfyrwyr dderbyn cymorth arbenigol i ddefnyddio’r iaith yn y gweithle a rhaid darparu cyrsiau neilltuol i gyflawni anghenion mewnfudwyr sy’n anllythrennog, neu sy wedi derbyn dim ond addysg sylfaenol iawn.Sometimes students need specialised help to use the language in the workplace and special courses are also required to meet the needs of immigrants who are illiterate or received only the most basic education.
Llawer mwy nag ysgol iaith yw ULPAN. Ymddangosodd slogan yn y dyddiau cynnar, “Nid Berlitz yw ULPAN”, hynny yw, nid dim ond ysgol iaith ydy ynddo’i hun. Mae cysylltiad annatod rhwng bod yn rhugl yn yr iaith ac ailgartrefu’r genedl Iddewig ym Mhalestina, a dadeni gwleidyddol Israel.ULPAN is far more than a language school. A slogan emerged in the early days, “ULPAN is not Berlitz”, i.e. not just a language school per se. Fluency in the language is inextricably entwined with the resettlement of the Jewish people in Palestine and the political rebirth of Israel.
Yn ystod ymweliad diweddar i Israel, roedd ein tywysydd, Olga Smoldyreva, yn sôn am fynychu cwrs ULPAN, ac yn esbonio dydy’r fethodoleg ULPAN ddim wedi newid lawer ers y dyddiau cynnar. Yn anaml mae technoleg fodern yn cael ei defnyddio, ac mae’n well gan y tiwtoriaid ddefnyddio’r dull ‘sialc a siarad’. Gan fod Hebraeg drwy Hebraeg yn cael ei phwysleisio mae’r myfyrwyr yn gwneud cynnydd yn eithaf cyflym. Fodd bynnag, roedd Olga yn pwysleisio bod rhaid i’r myfyrwyr ddefnyddio’r iaith tu allan i’r dosbarth cyn gynted ag y bydd yn bosibl wrth ddysgu i adeiladu hyder ac i ddod yn rhugl.On a recent visit to Israel our tour guide Olga Smoldyreva spoke of her attendance on an ULPAN course and explained that ULPAN methodology has changed little since the early days. Rarely is modern technology used, with ‘chalk and talk’ still the preferred method and the emphasis on Hebrew through Hebrew means that progress is made quite quickly. Olga stressed however that students need to use the language outside class as early as possible when learning to build confidence and gain fluency.
I’r rhai sy eisiau darllen mwy am yr ULPAN Hebraeg yn fwy manwl, byddai llyfr gan Theodore Schuchat yn ddewis da. Mae Schuchat yn rhoi braslun o’r fethodoleg ULPAN, gan bwysleisio ei dull dwys o ddysgu. Dyna’r nodwedd fwyaf arbennig am yr WLPAN. Mae e’n adrodd stori ddifyr am ei brofiad fel dysgwr Hebraeg ar gwrs ULPAN yn Israel ar ôl iddo fe ymddeol. Mae e’n disgrifio’r math o ULPANIM sydd ar gael, yn cynnwys ULPANIM Hebraeg byd-eang, ac mae’n rhoi rhestr o Brifysgolion Alltud sy’n dysgu Hebraeg modern.For those who would like to read about the Hebrew ULPAN in more detail, Theodore Schuchat would be a good choice. Schuchat outlines the ULPAN methodology, stressing that the most distinctive feature is its intensive approach to learning. He provides an entertaining account of his experiences as a learner of Hebrew on ULPAN in Israel after his retirement. He describes the type of ULPANIM available, including Hebrew ULPANIM world-wide and a list of Diaspora Universities that teach modern Hebrew.
Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys crynodeb o ramadeg Hebraeg, ac ychydig o eirfa sylfaenol. Mae e wedi ysgrifennu rhannau o’r llyfr mewn arddull anecdotaidd. Serch hynny, mae e wedi gwneud llawer iawn o ymchwil. Mae’r llyfr yn darparu gwybodaeth fanwl am ddylanwad Ben-Yehuda ar yr iaith Hebraeg; am fanylion ULPAN a damcaniaethau dysgu ail iaith; ac am fanylion ynghylch ULPANIM mewn ieithoedd heblaw Hebraeg dros y byd. Er bod llawer o raglenni dwys yn bodoli dim ond cyrsiau Cymraeg a Basg sy’n dwyn yr enw ULPANIM, a dweud y gwir. Mae’r tudalennau 386 – 389 yn disgrifio dylanwad ULPAN Hebraeg ar Gymru, ac yn cyfeirio at ymweliad yr awdur ag WLPANAU Cymraeg yng Nghaerdydd a Llanbedr Pont Steffan, ac at ei gysylltiad â Chris ReesThe book also includes a summary of Hebrew grammar and some basic vocabulary. Whilst sections of the book are written in an anecdotal style it is nevertheless very well-researched. It provides detailed accounts of Ben-Yehuda's influence on the Hebrew language; the origins of ULPAN and theories of second language learning. and details of ULPANIM in languages other than Hebrew around the world. Whilst many intensive programmes exist it appears that only Basque and Welsh courses are actually referred to as ULPANIM. Pages 386-389 describe the influence of the Hebrew ULPAN on Wales and refer to the author's visit to Welsh WLPANs in Cardiff and Lampeter and his contact with Chris Rees.
Yr WLPAN Cymraeg
Prin oedd nifer yr oedolion yn dysgu’r Gymraeg yn ffurfiol fel ail iaith tan hanner olaf yr ugeinfed ganrif. Yn aml y rhai gyda thueddiad at faterion academaidd neu lenyddol oedd yn gwneud hyn – er enghraifft, yr awduron William Barnes, Gerald Manley Hopkins a J.R.R. Tolkien, a’r gwleidydd, Enoch Powell – ac yn gyffredinol roedden nhw’n ymddiddori mwy mewn darllen yr iaith nag yn ei siarad hi.
The Welsh WLPAN
Hardly any adults learned Welsh as a second language formally until the latter half of the twentieth century. Those who did so were often of an academic or literary bent – such as the writers William Barnes, Gerald Manley Hopkins and J.R.R. Tolkien and the politician, Enoch Powell – who were generally more interested in reading than speaking the language.
Daeth Phyllis Kinney, gwraig i Meredydd Evans (Merêd) y cerddor eiconig oedd yn frwdfrydig dros yr iaith Gymraeg, i Gymru o’r UD yn y 1940au. Pan gyrhaeddodd hi, anaml oedd dosbarthiadau Cymraeg i oedolion. Roedd llawer o bobl yn credu bod yr iaith mor anodd dylai pobl ei dysgu’n blentyn neu beidio â’i dysgu o gwbl. Erbyn iddi hi ddychwelyd yn y 1960au, roedd llawer o ddosbarthiadau Cymraeg i oedolion wedi’u sefydlu, ac roedd y nifer ohonyn nhw ar gynnydd. Mae Phyllis yn sôn am newid sylweddol ar ôl mynychu cwrs dwys dros bythefnos ym 1992:When Phyllis Kinney, wife of the iconic musician and language enthusiast Meredydd Evans (Merêd) arrived in Wales from the USA in the 1940s, classes for adult Welsh learners were very thin on the ground and it was widely held that Welsh was such a difficult language it had to be learnt in childhood or not at all. By the time she returned in the 1960s, many Welsh classes for adults had been set up and were on the increase. Phyllis speaks of a dramatic change after attending a two-week intensive course in 1992:
"Mae’n hollol gywir i mi ddweud: Es i mewn yn siaradwr Saesneg, a des i allan bythefnos yn ddiweddarach yn siarad Cymraeg. Ddim yn berffaith, petrus, a llawn camgymeriadau – ond Cymraeg."
Ar ôl hyn cyflawnodd hi yrfa nodedig mewn darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg.
"It is perfectly true to say that I went in an English speaker and came out two weeks later speaking Welsh. Imperfect, halting and full of mistakes – but Welsh."
A distinguished career in broadcasting through the medium of Welsh followed.
Yn draddodiadol, pan fyddai oedolion a phlant yn astudio Cymraeg fel ail iaith, bydden nhw’n dysgu iaith eithaf llenyddol. Doedd hon ddim yn debyg iawn i’r Gymraeg y byddai dysgwyr yn eu clywed ar lafar yn y gymuned. Dyna oedd y sefyllfa nes i Gymraeg Byw gael ei gyflwyno yn y 1960au. Doedd arholiadau cyhoeddus ddim wedi pwysleisio sgiliau llafar, ac yn aml byddai oedolion wedi ennill cymwysterau yn yr iaith ond ddim yn gallu siarad. Mae Cymraeg Byw yn ceisio diffinio’r prif nodweddion ar Gymraeg lafar safonol, hynny yw, ffurf yr iaith sy’n rhywle rhwng Cymraeg lenyddol draddodiadol ar y naill law, a’r tafodieithoedd rhanbarthol lleol ar y llaw arall.Traditionally Welsh as a second language taught to adults and children was of a literary nature, bearing little resemblance to the Welsh learners would hear spoken in the community, until the introduction of Cymraeg Byw in the 1960s. Public examinations had laid little emphasis on oral skills and it was common for adults to have gained qualifications in the language and yet be unable to speak it. Cymraeg Byw is an attempt to define the main features of standard spoken Welsh i.e. the form of the language which lies somewhere between conservative literary Welsh on the one hand and the local regional dialects on the other.
Felly pan gafodd ULPAN ei gyflwyno i Gymru yn y 1970au roedd e’n dilyn degawd o newid chwyldroadol yn y ffordd roedd Cymraeg yn cael ei dysgu i oedolion. Roedd newidiadau mewn strategaeth ddosbarth yn annog gwaith llafar yn hytrach na gwaith ysgrifenedig, gan alluogi myfyrwyr i gyfathrebu’n haws gyda siaradwyr iaith gyntaf. Roedd y galw am ddosbarthiadau Cymraeg i oedolion yn parhau drwy’r 1970au. Ond roedd rhai myfyrwyr a thiwtoriaid yn anfodlon, ac yn gofyn cymaint oedd yn cael ei gyflawni mewn gwirionedd – oedd siaradwyr newydd yn cael eu cynhyrchu neu oedden nhw’n datblygu dim ond diddordeb adfywiol yn yr iaith, ac ewyllys da tuag ati hi? Roedd pobl oedd yn awyddus i ddod yn rhugl yn teimlo eu bod nhw’n datblygu’n araf ac yn dysgu gyda phobl oedd eisiau dim ond crap ar yr iaith. Roedd Neil Caldwell yn cwyno ym 1992 fod y cyrsiau roedd e’n eu mynychu bob wythnos yn darparu dim ond ar gyfer y rhai ‘â pheth diddordeb’. Daeth e’n rhugl ar ôl iddo fynychu cwrs dwys, ac mae e’n priodoli ei lwyddiant i’r ffaith bod y cwrs yn pwysleisio defnyddio’r iaith lafar. Penderfynodd Prifysgol Cymru archwilio i gyrsiau Cymraeg i oedolion ym 1974 a chyflogon nhw Chris Rees fel swyddog ymchwil a datblygu.Thus when ULPAN was introduced into Wales in the 1970s it followed a decade of revolutionary change in the approach to teaching adults Welsh, as changes in classroom strategy in encouraging oral rather than written work enabled learners to communicate more easily with first-language speakers. The demand for adult classes in Welsh continued through the 1970s. But some students and tutors were dissatisfied and questioned how much was actually being achieved – were new speakers being produced or was there just renewed interest and goodwill towards the language? People who were eager to become fluent felt their progress was slow and that they were learning with people who only wanted a smattering. Neil Caldwell bemoaned in 1992 that the weekly courses he attended catered only for the ‘mildly interested'. He became fluent after he attended an intensive course and attributes his success to the emphasis on the spoken language used on the course. The University of Wales decided to investigate Welsh for Adults courses in 1974 and employed Chris Rees as a research and development officer.
Yn y 1960au a’r 1970au cynnar, roedd cryn ddiddordeb mewn efelychu esiampl Israel o ran cyrsiau dwys. Ym 1969, ysgrifennodd Gwynfor Evans, AS cyntaf Plaid Cymru, am y gwersi gwerthfawr roedd y Cymry’n gallu eu dysgu o Israel. Ym 1972, yng Nghaerdydd, llefarodd Shoshana Eytan o Adran Addysg y Sefydliad Iddewig Rhyngwladol am ei phrofiad hi ynglŷn â’r ULPANIM Hebraeg. Roedd Mrs Eytan wedi ennill cryn brofiad fel mora (tiwtor) cyn iddi hi symud i’r DU. Felly, pan aeth Chris Rees a Gwilym Roberts i Lundain i ymweld â Mrs Eytan yn Adran Addysg y Sefydliad Iddewig Rhyngwladol, yn y dyddiau cynnar o sefydlu’r Gymraeg, roedden nhw’n disgwyl cael gwybod am ddulliau anarferol, a byddai’n esbonio llwyddiant yr ULPANIM Hebraeg. Fodd bynnag, y cyfan roedd hi’n ei dweud wrthyn nhw oedd y byddai'r tiwtoriaid yn defnyddio sialc a siarad fel arfer, ac roedd llawer iawn yn dibynnu ar frwdfrydedd a phersonoliaeth y tiwtoriaid.In the 1960s and early 1970s there was considerable interest in emulating Israel’s example of intensive courses. Gwynfor Evans, the first Plaid Cymru MP, wrote of the valuable lessons the Welsh could learn from Israel in 1969. In 1972 Shoshana Eytan of the Education Department of the International Jewish Institute spoke in Cardiff about her experience of the Hebrew ULPANIM. Mrs Eytan had gained a great deal of experience as a mora (tutor) before moving to the UK. So, when Chris Rees and Gwilym Roberts went to London to visit Mrs Eytan at the Education Department of the International Jewish Institute, in the early days of establishing Welsh, they expected to learn of some unusual teaching methods to account for the success of the Hebrew ULPANIM. However, all she told them was that the ULPAN tutors used mainly chalk and talk and that a great deal depended on the enthusiasm and personality of the tutors.
Chris Rees WLPAN
Chris Rees, pedwerydd o'r chwith, mewn siwt.
Gwilym Roberts WLPAN
The irrepressible Gwilym Roberts.
Cafodd cwrs Cymraeg dwys ar gyfer athrawon ei gynnal yng Ngholeg y Bari ym 1966, ond ym 1973 y cychwynnodd y cyrsiau WLPAN ar gyfer y cyhoedd. Roedd Chris Rees a Gwilym Roberts yn rhedeg y cwrs WLPAN cyntaf yng nghanolfan yr Urdd yng Nghaerdydd. Mae’r ddau ohonyn nhw’n gymeriadau eiconig o ran hybu’r Gymraeg, ac yn arloeswyr mewn dysgu’r iaith Gymraeg.An intensive Welsh course for teachers was held in Barry College in 1966, but it was in 1973 that the WLPAN courses for the general public began. Chris Rees and Gwilym Roberts, both iconic figures in Welsh language promotion and pioneers in Welsh language teaching, ran the first WLPAN course at the Urdd Centre in Cardiff.
Cafodd y cwrs ei ailenwi yn WLPAN i gydymffurfio â sillafu Cymraeg. Roedd y grŵp yn cyfarfod bum noson yr wythnos dros 10 wythnos, a chynhaliwyd penwythnos preswyl yng nghanolfan yr Urdd yn Llangrannog. Brasluniodd Chris Rees faes llafur, ac roedd grŵp brwdfrydig o diwtoriaid gwirfoddol yn dysgu’r sesiynau. Cychwynnodd un myfyriwr ar ddeg ar y cwrs 100 o oriau, a deg ohonyn nhw a gyflawnodd e. Roedd Gwilym Roberts yn un o’r tiwtoriaid, sef y dyn oedd wedi sefydlu’r cyrsiau unwaith yr wythnos yng Nghaerdydd bron yn ddeng mlynedd gynt. Disgrifiodd e’r canlyniadau fel ‘syfrdanol’ oherwydd bod y myfyrwyr wedi dysgu yn ystod deg wythnos cymaint â dysgwyr eraill wedi dysgu yn ystod dwy flynedd o wersi wythnosol.The course was renamed WLPAN to conform to Welsh spelling. The group met five evenings a week over 10 weeks, plus a residential weekend at the Llangrannog Urdd centre. Chris Rees prepared a skeleton syllabus, while an enthusiastic group of volunteer tutors, taught the sessions. Eleven students began the 100 hour course and ten completed. Gwilym, the instigator of the once-weekly Welsh classes in Cardiff nearly ten years previously, was one of the tutors. He described the results as “staggering” as students learnt as much in ten weeks as people would normally learn in two years of weekly lessons.
Roedd dwy brif ffurf o ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr Cymraeg o 1974: cyrsiau dwys a dosbarthiadau wythnosol, a gafodd eu cynnal fel rheol yn yr hwyr. Erbyn 1982, roedd 43 o gyrsiau WLPAN yng Nghymru. Roedd y cyrsiau’n amrywio o ran pa mor ddwys oedden nhw: roedd cyrsiau’n cael eu cynnal naill ai yn y dydd neu yn yr hwyr, dair gwaith yr wythnos o leiaf, ac weithiau bedair gwaith neu bump, dros 100 o oriau o leiaf. Roedd y cynnydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg i blant ifainc yn yr un cyfnod wedi ysbrydoli llawer o oedolion i ddysgu’r Gymraeg. Yn aml, roedd y myfyrwyr oedd yn mynychu WLPANIM yn rhieni i blant oedd yn mynd i feithrinfeydd cyfrwng Cymraeg. Wrth i’r ddarpariaeth ddwys dyfu, tyfodd hefyd gyrsiau uwch i ddilyn yr WLPANIM, yn ddwys ac yn wythnosol. Dros yr un cyfnod, dechreuodd cyrsiau preswyl dros y penwythnos ac weithiau am wythnos gyfan. From 1974 adult provision for Welsh learners took two main forms: intensive courses and classes attended weekly, initially mainly in the evenings. By 1982 there were 43 WLPAN courses in Wales. Courses varied in intensity: classes were held at least three and, in some cases, four or five times per week in the day or evening, for at least 100 hours. The expansion of Welsh-medium education for young children during the same period inspired many adults to learn Welsh and often students attending WLPANIM were parents of young children attending Welsh-medium nursery schools. As the intensive provision grew so did more advanced courses to follow the WLPANIM, both intensive and weekly. Over the same period, weekend and week-long residential courses also took off.
Yn haf 1980, denodd cwrs WLPAN preswyl dros wyth wythnos yn Llanbedr Pont Steffan, Gorllewin Cymru, tua 40 o fyfyrwyr. Pan fyddai myfyrwyr yn cael eu cyflwyno â 3,000 i 3,500 o eitemau o eirfa weithredol, fe fyddan nhw’n gallu cynnal sgwrs am weithgareddau pob dydd ar ddiwedd cwrs 400 o oriau. Mae digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd yn cryfhau’r iaith wedi’i chyflwyno yn yr ystafell ddosbarth; roedd siaradwyr iaith gyntaf yn cael eu gwahodd i siarad â myfyrwyr mewn dosbarthiadau neu dros y penwythnos; ac roedd y tiwtoriaid yn disgwyl i’r myfyrwyr ymarfer yn y gymuned leol. Cafodd y cwrs ei lysenwi’n ‘Cymraeg â dagrau’ oherwydd yr ymdrech roedd rhaid i’r myfyrwyr eu gwneud; cafodd un o’r cyfranogion ar y cwrs yn 2001 ei chlywed yn sylwi bod ei hymennydd yn brifo oherwydd pa mor ddwys oedd e.In summer 1980, an eight-week residential WLPAN course at Lampeter, west Wales, attracted approximately 40 students. Students, presented with 3,000 to 3,500 items of active vocabulary are able to hold a conversation about everyday activities at the end of the 400 hour course. Regular social events reinforce the language presented in the classroom; native speakers are invited to speak to students in class on weekends; and students are expected to practise in the local community. The course was nicknamed ‘Welsh with tears’ because of the effort students need to expend; one of the participants on the 2001 course was heard to comment that her brain was hurting because of the intensity.
Fel yn yr ULPAN Hebraeg, cyfathrebu ar lafar sy’n cael ei bwysleisio, a’r dull uniongyrchol sy’n ennill. Cymraeg drwy gyfrwng Cymraeg. Ar gyfnod cynnar, fel rheol ar ôl tua 15 o oriau o ddysgu, mae’r myfyrwyr yn cael eu hannog yn gryf i beidio â defnyddio Saesneg, ac mae disgwyl i’r myfyrwyr ddefnyddio’r Gymraeg hyd yn oed am eu hamser brêc. Disgrifiodd Chris Rees y fethodoleg WLPAN fel eclectig: mae iaith yn cael ei dysgu mewn llawer o ffyrdd, ac mae tiwtoriaid yn benthyca gan amryw ddulliau fel suggestopedia, ymateb corfforol llwyr, a’r dull cyfathrebu. (Gweler: Newcombe, 2002b, Pennod 3 am fwy o fanylion ynghylch dulliau dysgu iaith.)As in the Hebrew ULPAN oral communication is emphasised and the direct method prevails, Welsh through the medium of Welsh. At an early stage, usually after about 15 hours tuition, use of English is strongly discouraged and students are even expected to use Welsh in break times. Chris Rees described the WLPAN methodology as eclectic: language is taught in a variety of ways and tutors borrow from a variety of methods such as suggestopedia, total physical response and the communicative approach. (See Newcombe, 2002b, Chapter 3 for more details about language learning methodologies.)
Roedd darpariaeth yn dal i gynyddu yn ystod y 1980au a’r 1990au. Fe fyddai raid yn gyffredinol i’r myfyriwr llwyddiannus brofi cwrs dwys neu ryw elfen o drochi yn yr iaith. Gweler, er enghraifft, John Gillibrand 1992, Neil Caldwell, 1992. Daeth Janet Ryder yn dra rhugl ar ôl dysgu Cymraeg ar gwrs WLPAN, ac efallai mai’r sgìl hwn a gyfrannai pan gafodd hi ei hetholi fel maer Rhuthun ym 1998, ac wedyn fel aelod o Lywodraeth Cynulliad Cymru.The 1980s and 1990s were a time of continuing expansion of provision. An intensive course or some immersion element generally figured in the successful Welsh learner’s experience. See for instance John Gillibrand 1992, Neil Caldwell, 1992. Janet Ryder attained a high degree of fluency after learning Welsh on an WLPAN, a skill which may well have contributed to her election as mayor of Ruthin in 1998 and subsequently as a member of the Welsh Assembly Government.
Roedd llwyddiant y mentrau hyn mor fawr bod rhaid i ddarpariaeth ar gyfer myfyrwyr uwch gynyddu hefyd, gan greu cyfleoedd i ddysgwyr rhugl ymuno â siaradwyr iaith gyntaf ar gyrsiau uwch fel Gloywi Iaith yn ogystal â sawl cwrs llenyddiaeth a chyfieithu. Ehangodd darpariaeth Cymraeg yn y gweithle hefyd ac mae cyrsiau ar gael bellach gyda’r lefel o arddwysedd yn amrywio.The success of these initiatives was such that provision for more advanced students also needed to expand, with opportunities for fluent learners to join native speakers on advanced courses such as Gloywi Iaith [polishing language] and various literature and translation courses. Provision for Welsh in the workplace also expanded with varying degrees of intensity available.
Erbyn y 1990au, roedd y rhwystrau seicolegol sy wedi bod yn digalonni oedolion rhag dysgu’r iaith yn chwalu. Nid yn unig roedd Y Gymraeg iaith y gallai oedolion ei dysgu, ond yn ogystal roedd yn bosibl y gallai llwyddiant dysgwyr aeddfed yng Nghymru ysbrydoli dysgwyr yn lleoedd eraill, yn cynnwys y rhai oedd yn dysgu Gaeleg yn yr Alban, ac yn bellach i ffwrdd, dysgwyr yn Corsica, a hyd yn oed oedolion yn dysgu Maori yn Seland Newydd.By the 1990s, the psychological barriers which discouraged adults from learning the language were breaking down. Welsh was not only a language that could be learned in adulthood, but the success of adult learners in Wales had the potential to inspire language learners elsewhere, including Gaelic learners in Scotland, and further afield Corsican and even Maori in New Zealand.
Mae nifer y cofrestriadau ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion wedi tyfu ers y mileniwm newydd. Dechreuodd cyrsiau e-ddysgu, yn ogystal â chyrsiau cyfunol, ac roedd y ddau lwybr hyn ar gael gyda lefelau gwahanol o ddwysedd.The new millennium witnessed a steady growth in the number of enrolments on Welsh classes. E-learning and courses that blended classroom learning with e-learning became available with varying degrees of intensity.
Nid pob darparwr sydd yn rhoi’r enw WLPAN i’w cyrsiau dwys. Mae cyrsiau Cymraeg i Oedolion (CiO) yn cael eu dosbarthu’n Gwrs Blasu, Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch, a Hyfedredd. Mae Mynediad a Sylfaen yn cyfateb i gyrsiau WLPAN cynnar fwy neu lai, ond SuperWLPAN yw rhai ohonyn nhw ac os byddan nhw’n treulio mwy o oriau ar y gwaith, gallen nhw orymylu ar y cyrsiau Canolradd.Not all providers call their intensive courses WLPAN. Welsh for Adults (WfA) classes are divided into Taster Course, Entry, Foundation, Intermediate, Advanced and Proficiency. Entry and Foundation are roughly equivalent to the early WLPAN courses, but with some courses being SuperWLPAN and spending more hours on the work they could overlap into Intermediate.
Dim ond dynwarediad egwan o’r model Hebraeg oedd yr WLPAN Cymraeg. Yn Israel, roedd yn beth arferol i fyfyrwyr ULPAN gael sawl mis i ffwrdd o’r gwaith ar draul y llywodraeth, er mwyn dysgu’r Hebraeg. Mae myfyrwyr yn treulio llawer llai o oriau’n astudio ar gwrs WLPAN Cymraeg na’r rhai yn Israel. Ar ben hynny, yng Nghymru, prin y mae myfyrwyr yn cael eu rhyddhau o’u cyfrifoldeb yn y gweithle, ac maen nhw’n aberthu eu hamser hamdden drudfawr i ddysgu’r Gymraeg. Er hynny, mae llawer o bobl sy’n siaradwyr rhugl bellach, yn olrhain eu hysbrydoliaeth nhw o ran dysgu yn ôl at fynychu cyrsiau WLPAN. Fel rheol bydd y terfynwyr yn y gystadleuaeth o’r enw Dysgwr y Flwyddyn wedi mynychu cwrs dwys rywbryd neu'i gilydd.The Welsh WLPAN was a pale reflection of the Hebrew model. In Israel it was commonplace for ULPAN students to have several months free from work at the government’s expense to learn Hebrew. The hours spent on a Welsh WLPAN are far fewer than those in Israel and students are rarely released from work responsibilities and sacrifice precious leisure time to learn Welsh. Nevertheless, many now fluent Welsh-speakers trace their inspiration in learning back to attending WLPAN courses and the finalists in the Welsh Learner of the Year competition have usually attended an intensive course at some point.
Mae ymchwil ar WLPAN dros y blynyddoedd wedi dangos bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr wedi cael budd o’r method WLPAN. Fodd bynnag, dyw WLPAN ddim yn addas i bawb, ac wrth gwrs, efallai fod y rhai anfodlon yn gadael yn gynnar, neu cyn i’r cyrsiau gael eu gwerthuso ganddyn nhw. Dyw rhai myfyrwyr ddim yn hoff iawn o ddysgu dweud ymadroddion cyn iddyn nhw eu gweld nhw, er bod llawer ohonyn nhw’n dod i arfer â hyn wrth i’r cwrs fynd ymlaen. Byddai rhai eraill yn hoffi mwy o bwyslais ar ramadeg yn hytrach nag ar sgwrsio yn gynnar yn y cwrs. Eto i gyd, byddai’n well gan fyfyrwyr eraill llai o bwyslais ar ramadeg. Mae rhai’n ystyried dyw’r fethodoleg wedi’i defnyddio ddim yn cydnabod bod myfyrwyr yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol. Dych chi’n gallu darllen mwy am hyn yn y llyfr Welsh in a Year! gan Jen Llywelyn. Yn negawd cyntaf yr unfed ganrif ar hugain, daeth darparwyr yn fwy hyblyg, gan adael i fyfyrwyr weld y deunydd WLPAN cyn gwneud yr ymarferion. Mae hyn wedi digwydd o ganlyniad i dystiolaeth ymchwil ddiamau’n dangos bod myfyrwyr yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol ac mae llawer ohonyn nhw yn ddysgwyr gweledol.Research on WLPAN over the years has shown that most students have benefited from the WLPAN method. However, it does not suit everyone and of course the disaffected may have left earlier on before any course evaluation. Some students do not like learning to say phrases before they see them, although many get used to this as the course progresses. Others would like more emphasis on grammar rather than conversation early in the course. Yet others would prefer less stress on grammar. Some people consider the methodology used does not acknowledge that learners learn in different ways. You can read more about this in Jen Llywelyn’s Welsh in a Year! In the noughties, providers became more flexible about allowing students to see the WLPAN material before drilling, following overwhelming research evidence that learners learn in different ways and that many are visual learners.
Mae Hilda Hunter a Caroline Williams yn eu llyfr Dysgu Cymraeg/Venturing in Welsh wedi herio’r ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu yn CiO. Maen nhw’n galw am ddosbarthiadau llai, a byddan nhw’n hoffi llawer mwy o gywiro camgymeriadau. Am ddegawdau mae ysgolheigion wedi bod yn ymryson dros y cwestiwn: beth yw’r pwysicaf, ai bod yn rhugl, neu fod yn fanwl gywir? Ar gyrsiau CiO, fydd myfyrwyr ddim yn cael eu cywiro’n uniongyrchol fel rheol, ond bydd y tiwtor yn pwysleisio’r ffurf gywir, ac yn disgwyl i’r myfyriwr ei hailadrodd. Pan oedd tiwtoriaid yn cael eu hyfforddi yn nyddiau cynnar WLPAN, byddai Chris Rees yn pwysleisio pa mor bwysig oedd peidio â gwneud i fyfyrwyr deimlo’n anesmwyth drwy eu gorgywiro nhw. Gallai hyn rwystro’r datblygiad o ruglder. Y ddadl oedd y byddai’r dysgwr brwd yn dysgu’r ffurfiau cywir maes o law. Ymhellach, gwneud camgymeriadau wrth siarad yw rhan o’r proses dysgu. Os bydd myfyrwyr eisiau cael eu cywiro bob tro y byddan nhw’n gwneud camgymeriad, dylen nhw wneud hyn yn blaen. Wedi dweud hynny, yn y cyfnodau cynnar o ddysgu, byddai sgyrsiau’n eithaf annaturiol os pe bai cywirdeb yn cael ei bwysleisio gormod.Hilda Hunter and Caroline Williams in their book Dysgu Cymraeg/Venturing in Welsh have challenged the way WfA is taught. They call for smaller classes and would like far more error correction. The issue of fluency versus accuracy has been a bone of contention amongst scholars for decades. On WfA courses students are not usually corrected directly but the correct form is emphasised by the tutor and the student is expected to repeat it. When tutors were trained in the early days of WLPAN, Chris Rees stressed the importance of not making the learner feel uncomfortable by over-correcting. This could hinder the development of fluency. The keen learner, it was argued, would eventually learn the correct forms. Moreover, making mistakes when speaking is part of the learning process. If students wish to be corrected every time they make a mistake they should make this plain. However, in the earlier stages of learning, conversations will be rather contrived if too much emphasis is placed on accuracy.
Ffafriol yw’r gyfradd golli ar gyrsiau WLPAN o’i chymharu ag ystadegau ynghylch dosbarthiadau iaith yn Lloegr a Chymru. Argaeledd y cyrsiau dwys hyn yw’r brif elfen sy’n gwahaniaethu rhwng dysgu CiO ar hyn o bryd a dysgu ieithoedd estron i oedolion yng Nghymru. Datblygu’n gyson y mae’r WLPAN, a byddai’r arloeswyr cynnar yn synnu o weld y materion dysgu lliwgar, y llyfrau ymarfer, yr e-ddysgu, a’r cyrsiau cyfunol, ond mae’r egwyddor sylfaenol yn aros: cyfathrebu ar lafar a Chymraeg drwy'r Gymraeg.The drop-out rate for WLPAN compares favourably with statistics for language classes in England and Wales. The availability of these intensive courses is the main factor that differentiates the current teaching of WfA from teaching foreign languages to adults in Wales. The WLPAN is continually evolving and the early pioneers would be stunned to see the colourful teaching material, the practise books and the introduction of e-learning and blended courses but the underlying principle remains: oral communication and Welsh through Welsh.

Datblygu’n gyson y mae’r WLPAN, a byddai’r arloeswyr cynnar yn synnu o weld y materion dysgu lliwgar, y llyfrau ymarfer, yr e-ddysgu, a’r cyrsiau cyfunol, ond mae’r egwyddor sylfaenol yn aros: cyfathrebu ar lafar a Chymraeg drwy'r Gymraeg.


Lynda Pritchard Newcombe: Bywgraffiad / Biography

Ces i fy magu yn y Cymoedd. Ro’n i’n gwybod llawer o Gymraeg o’r teulu, yr ysgol a’r capel ond des i yn siaradwr rhugl ar ôl bod ar gwrs WLPAN a chyrsiau eraill ym Mhrifysgol Caerdydd. Dw i wedi gweithio fel tiwtor ieithoedd am dros ddeg ar hugain o flynyddoedd i’r awdurdod lleol, cwmnïau preifat, y Brifysgol Agored a Phrifysgol Caerdydd.  Dw i wedi gweithio hefyd fel ymchwilydd ar ddwyieithrwydd ar ôl i mi ennill gradd M.Ed. ar ddysgu oedolion gan gynnwys traethawd ar yr WLPAN.  Mae Ph.D yn ieithyddiaeth gymdeithasol gyda fi.  Astudiais i beth sy’n digwydd pan mae dysgwyr yn defnyddio’r Gymraeg tu allan i’r dosbarth.

I grew up in the South Wales valleys with a knowledge of Welsh from family, school and chapel but I did not become a fluent speaker until I attended an WLPAN course and follow on courses at Cardiff University. My main work background is in teaching languages and I have over thirty years’ experience working for the local authority, private companies, the Open University and Cardiff University.  I have also been involved in research on bilingualism after gaining an M.Ed. in adult education which included writing a dissertation on the WLPAN. I have a Ph.D in sociolinguistics. I researched issues that arise when learners use Welsh outside class.


Dw i wedi ysgrifennu tri llyfr am ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned a wedi bod yn gydawdur ar bennodau mewn llyfrau eraill.
I have written three books on using Welsh in the community and co-authored chapters in books on language learning.

Mae'r llyfr Speak Welsh Outside Class ar gael o Y Lolfa / Speak Welsh Outside Class is available from Y Lolfa.

Speak Welsh Outside Class gan Lynda NewcombeLynda Pritchard Newcome Lynda Pritchard Newcome- Think without Limits- You can speak WelshSocial Context and Fluency in L2 Learners – the Case of Wales

Lynda Pritchard Newcombe: Llyfryddiaeth / Bibliography

Black, R., Gillies, W., Ó Maolalaigh, R. (Eds.) (1999) CELTIC CONNECTIONS, proceedings of the tenth international congress of celtic studies. (pp. 425 – 456) East Lothian: Tuckwell Press

Caldwell, N. (1992) In Davies, O. & Bowie, F. (1992) 'Welsh by Proxy' pp. 157 – 162

Crowe, R. (1988) Yr WLPAN yn Israel, Canolfan Ymchwil Cymraeg i Oedolion, Aberystwyth

Crowe, R. & Solomonik, A. (1988) Adfywiad yr Hebraeg. Canolfan Ymchwil Cymraeg i Oedolion, Aberystwyth

Davies, O. & Bowie, F. (Eds.), (1992). Discovering Welshness, Gomer, Llandysul

Dolève-Gandelman, T. (1989) “'Ulpan is not Berlitz;' adult education and the Ethiopian Jews in Israel”. Social Science Information,Vol. 28. No.1. pp. 121 - 143

Ellis P.B. & Mac a' Ghobhainn S. (1971) The Problem of Language Revival, Club Leabhar Ltd. Inverness

Emyr, J. (1988) Sut i Achub Iaith, Cefn, Caernarfon

www.ethnologue.com

Fellman, J. (1973) The Revival of a Classical Tongue, Mouton & Co. The Netherlands

Gillibrand, J. (1992) in Davies, O. & Bowie, F. (1992) ‘A Language   to Live By’ pp.31 – 34

Hunter, H. & Williams, C. (2008) Dysgu Cymraeg/Venturing in Welsh, Y Lolfa, Talybont, Ceredigion

Jones, C. (ed.) (2000) Cyflwyno’r Gymraeg Llandysul: Gomer

Jones, R.O. (1999) The Welsh Language. In Black, R., Gillies, W., Ó Maolalaigh, R. (Eds.) (1999) CELTIC CONNECTIONS, proceedings of the tenth international congress of celtic studies. (pp. 425 – 456) East Lothian: Tuckwell Press

Jones R. O., NEWCOMBE L. P., Morris S. Llyfryddiaeth– Cymraeg i Oedolion 1960 - 2009 (click to download PDF)

Kinney, P. (1992) in Davies, O., & Bowie, F. (1992) ‘A Hidden   Culture’ pp. 1 - 5

Krashen, S. (1982) Principles and Practice in Second Language Acquisition, Pergamon Press, New York

Loveday, L. (1982) The sociolinguistics of learning and using a non-native language. Oxford Pergamon Press

Llywelyn, J. (2004) Welsh in a Year! Y Lolfa, Talybont, Ceredigion

NEWCOMBE, L. (1995) An Evaluation of the WLPAN Method of learning Welsh at the Welsh Language Teaching Centre, University of Wales College of Cardiff, unpublished M.Ed. Thesis, Cardiff University

 NEWCOMBE, L.P. (2002a) “A Tough Hill to Climb Alone” – Welsh Learners Speak Hong Kong Journal of Applied Linguistics, 7 (2), 39-56

NEWCOMBE, L.P. (2002b) The Relevance of Social Context in the Education of Adult Welsh Learners, Unpublished Ph.D thesis, Cardiff University

NEWCOMBE, L.P. (2007) Social Context and Fluency in L2 Learners – the Case of Wales, Multilingual Matters, Clevedon

NEWCOMBE, L.P. (2009) Think without Limits: You can speak Welsh, Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst

NEWCOMBE, L.P. (2016) Speak Welsh outside class: You can do it! Y Lolfa, Talybont Ceredigion

Rees, C. (1994) ‘Adfer iaith i achub cenedl’, SBEC TV Wales. May 1st, 1994. p. 4

Rees, C. (1973) ‘Ysgolion Iaith i Oedolion’, Yr Athro. (24) 1973. pp. 153 -155

Rees, C. (1977) ‘Wedi'r Mudandod’, Barn, 176. pp 302 - 304

Rees, C. (2000) Datblygiad yr WLPAN pp. 27-44 In Jones, C. (ed.) (2000) Cyflwyno’r Gymraeg, Gomer, Llandysul

Richards, J. & Rodgers, T. (1986) Approaches and Methods in Language Teaching, Cambridge University Press

Richardson, G. (1983). Teaching Modern Languages, Croom Helm, London

Schuchat, T. (1990) Ulpan: How to learn Hebrew in a Hurry, Gefen, Jerusalem

Valentine, L. (1952) in Emyr, J. Nodiadau'r Golygydd, Seren Gomer, XLIV.2

WJEC (1992) Welsh for Adults. The Way Forward


Erthygl ar gael i lawrlwytho ar Apple Books, PDF & Kindle / Article available to download on Apple Books, PDF & Kindle:

Apple Books logo

PDF logo

Kindle logo


Lynda Newcombe- Speak Welsh Outside Class

]]>
Bethan Gwanas: Awdures ydw i- ond tiwtor Cymraeg i Oedolion hefyd! / I’m an author- but a Welsh for Adults tutor as well! https://parallel.cymru/bethan-gwanas-awdures-ydw-i/ Sat, 18 Aug 2018 05:31:21 +0000 https://parallel.cymru/?p=11347
Warning: Parameter 2 to qtranxf_postsFilter() expected to be a reference, value given in /home/parallel/public_html/wp-includes/class-wp-hook.php on line 324

Warning: Parameter 2 to qtranxf_postsFilter() expected to be a reference, value given in /home/parallel/public_html/wp-includes/class-wp-hook.php on line 324

Mae Bethan Gwanas yn adnabyddus dros ben am ei llyfrau i oedolion, arddegau a phlant, a'i llyfrau i ddysgwyr sef y gyfres Blodwen Jones. Ers creu Blodwen, mae hi wedi hyfforddi i fod yn diwtor Cymraeg i Oedolion, a nawr ei bod hi wedi sgwennu Yn Ei Gwsg i'r gyfres Amdani, mae hi'n rhannu'r stori hon...

Bethan Gwanas is very well-known for her books for adults, teens and children, and her books for adult learners such as the series Blodwen Jones. Since creating Blodwen, she has trained to be a Welsh for Adults tutor, and now that she has written In His Sleep for the Amdani series, she shares this story...

Awdures ydw i, ond yn ogystal â thrio sgwennu llyfrau, dw i’n diwtor Cymraeg i Oedolion. Mater o raid oedd o a bod yn onest; chwilio am ffordd arall o dalu’r biliau. Mae awduron eraill yn cael swydd sgriptio Pobol y Cwm, ond dw i ddim yn berson sebon yn anffodus. Dw i’n fwy o berson Game of Thrones.I am an author, but in addition to trying to write books I am a Welsh tutor for adults. To be honest this was a matter of necessity: looking for another way to pay the bills. Other authors get a job writing scripts for Pobol Y Cwm (People of the Valley, a Welsh soap opera), but unfortunately I am not a soap sort of person. I am more of a Game of Thrones person.
Mi wnes i sgwennu cyfres Blodwen Jones cyn dechrau tiwtora, ond oherwydd Blodwen, ro’n i’n cael gwahoddiadau i siarad gyda dosbarthiadau dros Gymru, ac ro’n i’n teimlo’n gyfforddus iawn – a chyffrous hefyd yn eu canol nhw. Ro’n i hefyd wedi bod yn ddysgwr fy hun mewn gwersi Sbaeneg gyda’r nos ac yn gwybod pa mor ddigri a difyr a rhwystredig mae dosbarthiadau iaith i oedolion yn gallu bod.I wrote the Blodwen Jones series before beginning to tutor, but on account of Blodwen I received invitations to speak to classes throughout Wales, and I felt very much at home – and also excited in their midst. I had also been a learner myself in a Spanish course of evening classes and I knew how enjoyable, entertaining and frustrating language classes for adults can be.
Mi wnes i gais i fod yn diwtor a chael cyfweliad gan neb llai na Liz Saville Roberts AS (cyn iddi fynd i fyd gwleidydda). Ro’n i’n gorfod rhoi gwers Gymraeg iddi! Mae’n rhaid mod i wedi plesio, achos mi ges y swydd. I applied to become a tutor and got an interview with none other than Liz Saville Roberts AS (before she went on to lead a life in politics). I had to give her a lesson in Welsh! I must have given satisfaction, because I got the job.
Dw i wedi bod yn tiwtora ers 4 blynedd rŵan, a nac ydw, dw i ddim llawer gwell allan yn ariannol. Dydy hi ddim yn swydd sy’n talu’n wych, ond mae ’na fwy i fywyd na phres, a nefi, dw i’n mwynhau. Mae’n braf dod i nabod pobl eraill, pobl sy’n aml yn ddiddorol tu hwnt, a chan mod i’n gweithio cymaint ar fy mhen fy hun bach o flaen cyfrifiadur, mae’r cyfle i gymdeithasu fel hyn yn gwneud byd o les i mi. I have now been tutoring for four years, and no, I am not much better off financially. It is not a job that pays well, but there is more to life than money, and goodness me, but I enjoy it. It is great getting to know other people, people who are often extremely interesting, and since I work so much all on my little ownsome in front of a computer, the opportunity to socialise like this does me a world of good.
Mae eu gweld nhw’n dysgu a gwella o wythnos i wythnos yn rhoi’r mwynhad rhyfedda hefyd – i mi, ac iddyn nhw. Ro’n i wedi anghofio’r teimlad hwnnw, rhywbeth fyddai’n digwydd yn fy ngwersi Ffrangeg ers talwm – efo’r setiau uwch gan amla, rhaid cyfadde. Ond byddai gweld y fflach yn llygaid y disgyblion llai galluog yn rhoi mwy fyth o wefr i mi – y fflach o oleuni ‘Dwi’n dallt hwnna!’ a ‘Dwi’n gwybod yn union sut i ateb hynna...’ oedd yn rhoi hyder a theimlad o hunan-werth i ddisgybl oedd yn aml jest yn teimlo’n dwp. Seeing them learn and improve from week to week also gives the most extraordinary satisfaction – to me, and to them. I had forgotten this feeling, something which used to happen in my French lessons long ago – for the most part, I must confess, with the higher sets. But seeing the eyes of the less able pupils light up would give me even more of thrill – the flash of enlightenment that says 'I understand this!' and 'I know exactly how to answer that' that gave confidence and a feeling of self-worth to pupils who often just felt stupid.
Ond fel athrawes mewn ysgol uwchradd, ro’n i’n gorfod brwydro i gadw diddordeb y rhai oedd ddim yn gweld diben dysgu Ffrangeg. Gydag oedolion sy’n dysgu Cymraeg, mae’n wahanol, maen nhw i gyd isio bod yno, isio dysgu, ac maen nhw i gyd isio cael gwaith cartref!But as a teacher in secondary school, I had to fight to keep the interest of those who did not see the point of learning French. With adults who are learning Welsh, it is different, they all want to be there, want to learn and they all want to be given homework!
Dw i wedi chwerthin yn aml, ond mae’n rhaid bod yn ofalus gyda hynny. Mae pawb mor wahanol: rhai yn berffaith hapus i chwerthin pan fyddan nhw’n gwneud camgymeriadau, ond mae ’na rai eraill sy’n fwy swil, a’u hunan-hyder yn beth bregus. Mae’n goblyn o anodd cael rheiny i yngan ‘rh’ neu ‘u’ yn gywir heb dynnu sylw at y ffaith eu bod nhw’n cael trafferth, a thorri eu calonnau. Ond mae ’na ffyrdd o’i wneud o, a dw i wedi bod yn dysgu hynny ar wahanol gyrsiau, ynghanol llwyth o diwtoriaid eraill, sy’n andros o hwyl ond yn addysg go iawn hefyd. I have often laughed, but one must be careful with this. People are so different: some are perfectly happy to laugh when they make mistakes, but others are more shy, their self-confidence more brittle. It is devilishly difficult to get them to pronounce ‘rhy’ or ‘u’ correctly without drawing attention to the fact that they are having difficulty, and breaking their hearts. But there are ways of doing this, and I have learnt those on various courses, among many other tutors, who are great fun but also teach very well.
Y peth gorau wnes i oedd ‘Y Cymwhyster Cenedlaethol’, oedd yn gwrs dwy flynedd ar y pryd, ac yn golygu treulio penwythnosau ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog a phrifysgolion Bangor ac Aberystwyth gyda chriw o diwtoriaid newydd eraill. Y darn gwaethaf o’r cwrs oedd gorfod rhoi gwers fach 10 munud i’r tiwtoriaid eraill, ac ro’n i’n wirion o nerfus! Es i drwy fy ngwers ar y patrwm ‘mae gen i’ mor hurt o gyflym, ro’n i’n swnio fel reiffl AK47. The best thing I did was ‘Y Cymwhyster Cenedlaethol’ (The National Qualification), which at the time was a two-year course, and involved spending weekends in Plas Tan y Bwlch (the Snowdonia National Park Environmental Studies Centre), Maentwrog and Bangor and Aberystwyth universities with a crew of other new tutors. The worst part of the course was having to give short 10-minute lessons to the other tutors, and I was really nervous! I went through my lesson on the pattern ‘mae gen i’ at such a ridiculous pace I sounded like an AK47 rifle!
Mi gawson ni wers Groeg un tro, oedd yn dangos i ni pa mor ofnadwy o anodd ydi dysgu a chofio dim ond 4 neu 5 ffordd o ddeud ‘helo’, ‘sut dach chi’ a ‘da iawn diolch’ mewn iaith sy’n gwbl estron. Iawn, doedd y ffaith fod yr wyddor Groegaidd mor wahanol ddim yn help, ond egwyddor y peth oedd yn bwysig. Mewn stafell gynnes pan mae’r brêns wedi blino ar ôl diwrnod o waith, mae hi’n anodd iawn, iawn cofio pethau sy’n ymddangos mor syml i ni, y bobl sy’n siarad yr iaith ers y crud. Dwi’n ystyried fy hun yn ieithydd, ond roedd fy mhen i fel gogor yn y diwedd.One time we had a lesson in Greek, which showed us how dreadfully difficult it is to learn and remember nothing more than four or five ways of saying ‘Hello’, ‘How are you’ and ‘Very well, thank you’ in a wholly foreign language. True, the fact that the Greek alphabet is so different was not a help, but the principle was important. In a warm room, when the brains are tired after a day's work, it is very, very difficult to remember things that seem so simple to us, the people who have spoken the language from the cradle. I consider myself to be a linguist, but by the end my head felt as if it were stuffed with straw.
Diolch i’r cyrsiau hynny, a gwylio tiwtoriaid profiadol wrth eu gwaith, dw i wedi dysgu sut i egluro ambell reol iaith sy’n drysu dysgwyr, a minnau erioed wedi gorfod meddwl am y peth tan hynny. Dw i’n dal i orfod deud ‘achos mae o jest yn!’ weithiau, wrth gwrs, neu bydd hanner y wers wedi mynd i geisio egluro’r un rheol hwnnw, a phawb ond y ‘geek’ gramadegol ofynodd y cwestiwn wedi mynd i gysgu.Thanks to those courses, and to watching professional tutors at their work, I have learnt how to explain a good few of the language rules which perplex learners, and me never having had to think about them till then. Of course, I still sometimes have to say 'because that's just the way it is!', or half the lesson would be gone in trying to explain this one rule, with everyone except the grammar geek who asked the question having gone to sleep.
Felly faint o ddosbarthiadau sy gen i? Fydda i ddim yn hollol siŵr tan fis Medi, wedi i bobl gofrestru. Yn wahanol i ardaloedd Bangor, Wrecsam a Chaerdydd, mae mwy o ddefaid na phobl yn yr ardal hon, ac ar y cyfan, pobl o Loegr sydd wedi ymddeol i Gymru sy’n dod i wersi Cymraeg, ac os fyddan nhw wedi cael eu llyncu gan y ghettos Saesneg a seisnig “Oh, you don’t need to waste your time learning Welsh, come to pottery/bridge/The Rotary with us instead”, mae’n anodd iawn iddyn nhw ymarfer eu Cymraeg y tu allan i’r dosbarth, ac maen nhw’n rhoi’r ffidil yn y to.So, how many courses do I run? I will not be entirely sure till September, after people have registered. Unlike Bangor, Wrexham and Cardiff there are more sheep than people in the area, and on the whole it is English people who have retired to Wales who come to Welsh lessons, and if they have been swallowed up by the English and English-speaking ghettos ('Oh, you don’t need to waste your time learning Welsh, come to pottery/bridge/The Rotary with us instead') it is very difficult for them to practise their Welsh outside the class, and they give up.
Ond fel arfer, mae gen i ddau ddosbarth bob dydd Llun yn Nolgellau (lefel Sylfaen/Canolradd) a gan fod un o diwtoriaid eraill Meirionnydd wedi cael efeilliaid (llongyfarchiadau Lowri!) dw i’n cymryd ei dosbarthiadau hi yn ardal Harlech bob dydd Mawrth, un criw wedi bod yn dysgu ers blwyddyn a’r criw arall yn rai uwch, arbennig o dda, sy’n hawdd iawn eu dysgu.But as a rule, I run two courses on a Monday in Dolgellau (Foundation/Intermediate level), and since one of the other tutors in the Meirionnydd area has had twins (congratulations Lowri!) I am taking her classes in the Harlech region on a Tuesday, one set of pupils having been learning for a year and the other set at the higher level, and particularly able, who are very easy to teach.
Ond dw i wedi cael ambell ddosbarth oedd yn anodd iawn, iawn eu dysgu, fel y mamau a’u plant bach yn fy mlwyddyn gyntaf. Ro’n i’n gorfod mynd â llond gwlad o deganau a llyfrau plant (mi wnes i wario ffortiwn yn siop Oxfam) efo fi bob tro, a bisgedi a stwff i wneud paned a diod oren/piws, a cheisio dysgu’r mamau tra roedd Declan yn ceisio crogi Maisie bach druan, ac wedyn ceisio tawelu’r dyfroedd rhwng mamau’r ddau. Ro’n i’n falch iawn, iawn pan ddaeth y gwersi hynny i ben.But I have had some classes who were very, very difficult to teach, like the mothers and their small children in my first year. I had to take a whole load of toys and children's books with me every time (I spent a fortune in the Oxfam shop) and biscuits and stuff for making tea and orange/blackcurrant juice, and try to teach the mothers while Declan was trying to throttle poor little Maisie, and then try to calm the waters between the two mothers. I was very, very glad when those lessons came to an end.
Un broblem sy’n codi ydi bod y tiwtora ’ma’n mynd yn ’chydig o obsesiwn. Alla i ddim gwrando ar ganeuon Cymraeg rŵan heb feddwl ‘W, tybed fyddai hon yn handi ar gyfer dysgu geirfa newydd neu “mi ges i” neu ryw batrwm tebyg?’ Ond yn aml, mae’r ynganu’n rhy niwlog, neu’r iaith yn rhy gymhleth. Ystyriwch hynny tro nesa, da chi, fandiau Cymraeg!One problem that arises is that this tutoring becomes a bit of an obsession. I cannot listen to Welsh songs now without thinking, ‘Ooh, I wonder if that would come in handy for teaching new vocabulary or ‘mi ges i’ or some such pattern? ’ But frequently the singing is too indistinct or the language too complicated. Think about this next time, right, you Welsh bands!
Y broblem fwya sydd gen i ydy mod i’n chwerthin yn hawdd iawn. Er enghraifft, ro’n i’n dysgu rhannau’r corff i’r mamau, ac wedi dysgu ‘pen’, dyma un yn deud ‘Aha! So this must be pedwar pen!’ gan bwyntio at ei thalcen...The biggest problem I have is being too apt to laugh. For example, I was teaching mothers parts of the body, and after learning ‘pen’ (head) one of them says ‘Aha, so this must be pedwar pen (four head)’ pointing to her forehead.
Wedyn roedd y dyn hwnnw oedd yn mynnu ynganu ‘ch’ fel ‘ck’ ac yn gwneud brawddegau anffodus efo’r gair ‘coch.’ Then there was this man who insisted on pronouncing ‘ch’ as ‘ck’ and made some unfortunate sentences with the word ‘coch’ (red).
Ac mae’r gwahaniaeth rhwng ‘rhiw’, ‘rhyw’, ‘rhaw’ a ‘rhew’ yn hwyl bob amser wrth gwrs.And of course, the difference between ‘rhiw’ (slope, hillside), ‘rhyw’ (sex), ‘rhaw’ (shovel, spade) and ‘rhew’ (frost) is good for a laugh every time.
Dw i ddim eisiau gormod o ddosbarthiadau oherwydd dw i ddim yn ddigon trefnus i gadw mwy o ffeiliau a chofrestrau mewn trefn. Mae fy nhŷ i fel tomen ers i mi ddechrau tiwtora, ond o leia dwi wedi cael gwared o’r holl deganau oedd gen i ar y dechrau. Roedd yr holl lygaid tedis yn codi ofn ar y ci, bechod. I do not want to run too many courses because I am not organised enough to keep more files and registers in order. My house is like a tip since I started tutoring, but at least I have got rid of all the toys I had at the beginning. All those teddy bear's eyes were frightening the dog, bless her.
Hefyd, mae gen i straeon a nofelau i’w sgwennu – awdures ydw i weddill yr wythnos. A’r llyfr diweddaraf ydy ‘Yn ei Gwsg’ – nofel ar gyfer dysgwyr cyfnod Sylfaen. Mae cariad fy nith yn blismon, ac mi ges i help gynno fo efo’r stwff plismonaidd. Also, I have stories and novels to write – the rest of the week I am an author. And the latest book is ‘Yn ei Gwsg’ (In his Sleep) – a novel for learners at the Foundation stage. My niece's boyfriend is a policeman, and I got help from him with the police stuff.
Gobeithio y bydd dysgwyr yn ei mwynhau; roedd o’n hwyl i’w sgwennu beth bynnag!I hope that learners will enjoy it; anyway it was fun to write!

Dydy hi ddim yn swydd sy’n talu’n wych, ond mae ’na fwy i fywyd na phres, a nefi, dw i’n mwynhau!

Bethan Gwanas gyda chriw y Cymhwyster Cenedlaethol
Dyma Bethan gyda chriw y Cymhwyster Cenedlaethol

Bethan Gwanas lansiad Atebol
Bethan mewn lansiad Atebol, y cyhoeddwr Yn Ei Gwsg

gwanas.wordpress.com / BethanGwanas

Prynwch / Buy: gwales.com

Bethan Gwanas Yn ei Gwsg


Erthygl ar gael i lawrlwytho ar Apple Books, PDF & Kindle / Article available to download on Apple Books, PDF & Kindle:

Apple Books logo

PDF logo

Kindle logo

]]>
Côr Meibion Pontarddulais: Hanes, straeon & canu ar draws y byd / Pontarddulais Male Voice Choir: History, stories & singing all around the world https://parallel.cymru/cor-meibion-pontarddulais/ Wed, 18 Jul 2018 04:55:21 +0000 https://parallel.cymru/?p=10658
Warning: Parameter 2 to qtranxf_postsFilter() expected to be a reference, value given in /home/parallel/public_html/wp-includes/class-wp-hook.php on line 324

Warning: Parameter 2 to qtranxf_postsFilter() expected to be a reference, value given in /home/parallel/public_html/wp-includes/class-wp-hook.php on line 324
Y côr meibion mwya' llwyddiannus sy'n cystadlu yng Nghymru yw Côr Meibion Pontarddulais, ac maen nhw'n glodfawr ledled y byd. Yma mae Gareth Wyn Jones sy'n aelod o'r côr yn sôn wrthon ni am hanes y côr, am y cystadlaethau, ac am y profiadau o ganu o flaen torf yn Stadiwm y Mileniwm pan fydd yn llawn dop. Wedyn, mae'n cyflwyno un o gyfansoddwr emynau mwya' enwog Cymru: sef, William Williams, Pantycelyn.
Pontarddulais Male Voice Choir are the most successful competitive male voice choir in Wales and are internationally renowned. Here Gareth Wyn Jones who is a member of the choir talks us though the history of the choir, the competitions, and experiences of singing to a capacity Millennium Stadium crowd. He then introduces one of Wales’ most famous hymn writers: William Williams, Pantycelyn.

 

Côr Meibion Pontarddulais / The Pontarddulais Male Choir

Roedd y cynnydd mewn traddodiad corawl yng Nghymru yn adlewyrchu'n rhannol yr hyn oedd yn digwydd mewn sawl rhan o'r Brydain ddiwydiannol. Roedd ymuno â chôr yn rhyddhad i lawer o weithwyr o'r straen corfforol o weithio yn y diwydiannau glo, dur a thunplat. Yng Nghymru yr hyn a wahaniaethodd y tueddiad hwn o ardaloedd eraill o Brydain oedd ei sail, nid yn unig yng ngweithgareddau'r eglwys neu'r capel, ond hefyd yr Eisteddfod. Roedd yr ŵyl ddiwylliannol hon yn cynnig fforwm i unigolion a grwpiau gystadlu ym maes cerddoriaeth, barddoniaeth, rhyddiaith, adrodd a chelf ac mae'n draddodiad unigryw i Gymru. The rise of a choral tradition in Wales reflected in part what was happening in many parts of industrial Britain. Joining a choir was a relief for many workers from the physical stress of working in the coal, steel and tinplate industries. In Wales what differentiated this trend from other parts of Britain was its basis not only in church or chapel activities, but the Eisteddfod. This cultural festival provided a forum for individuals and groups to compete in music, poetry, prose, recitation and art and is a uniquely Welsh tradition.
Mae'r hanesydd diwylliannol yr Athro Gareth Williams yn ei lyfr "Ydych chi'n clywed y bobl yn canu", (Gomer 2015) yn rhoi disgrifiad diddorol a manwl o wreiddiau a thwf y traddodiad corawl yng Nghymru o'r 19eg ganrif hyd heddiw. Mae'n canolbwyntio'n gryf ar dwf corau meibion, gan ddisgrifio sut y cafodd eu henw da am ragoriaeth ei ffurfio gan eu cystadleuaeth ffyrnig ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol lle byddent yn cystadlu o flaen tyrfa o hyd at 20,000.Cultural historian Prof Gareth Williams in his book "Do You Hear the People Sing", (Gomer 2015) provides a fascinating and detailed account of the origins and growth of the choral tradition in Wales from the 19th century to the present day. He focuses strongly on the growth of male voice choirs, describing how their reputation for excellence was forged by their fierce rivalries on the stage of the National Eisteddfod where they would compete in front of crowds of up to 20,000.
"Roedd corau meibion yn wreiddiol yn ddatblygiad o'r corau cymysg mawr a allai fod rhwng 150 a 200," meddai'r Athro Williams."Male choirs were originally offshoots of the large mixed choirs which could number between 150 and 200,” Professor Williams explains.
"Ond wrth i'r anghydbwysedd rhyw gychwyn, daethant yn fwyfwy annibynnol, yn sefydliadau hunan sefydlog a gysylltir yn aml â'r gweithle, y lofa, y chwarel, y rheilffordd, y gweithfeydd, y dociau."“But as the gender imbalance kicked in they became increasingly independent, self-standing organisations often linked to the workplace, the colliery, the quarry, the railway, the works, the docks."
Heddiw, mae ymhell dros 300 o gorau yng Nghymru, ac o'r rhain, mae dros 100 yn gorau meibion. Mae Côr Meibion Pontarddulais, yn un o'r rhain, ac yn ffynhonnell o bleser mawr. Today, there are well over 300 choirs in Wales, and of these, over 100 are male voice choirs. The Pontarddulais Male Choir is one of these, and a source of great pleasure.
Mae Pontarddulais yn dref fawr sydd wedi'i lleoli i'r gogledd-orllewin o Abertawe. Yn ystod y 19eg ganrif arweiniodd y mwyngloddio o lo glo caled yn Nyffryn Aman gerllaw a thwf y diwydiant tunplat yn y dref, at dwf trefol cyflym. Erbyn heddiw mae'r diwydiannau hyn wedi hen wedi gostwng a dirywio a diwydiannau ysgafn diwydianau gwasanaethol yw'r prif gyflogwyr nawr.Pontarddulais is a large town located to the north-west of Swansea. During the 19th century the exploitation of anthracite coal in the nearby Amman valley and growth of the tinplate industry in the town led to rapid urban growth. By today these industries have declined with light and service industries as the main sources of employment.
Sefydlwyd Côr Meibion Pontarddulais yn 1960, ac esblygodd o gôr ieuenctid. Heddiw mae gan y côr dros 100 o aelodau sy'n cwrdd i ymarfer am ddwy awr ddwywaith yr wythnos drwy gydol y flwyddyn ysgol. Pontarddulais Male Choir was established in 1960, and evolved from a youth choir. Today the choir has over 100 members who meet for a two hour rehearsal twice a week throughout the school year.
Mae'r llun isod o ymarfer a gynhaliwyd yn ystod canol y chwedegau yn dangos y diweddar Noel Davies MBE, arweinydd a sylfaenydd y cor a charfan o ddynion ifanc yn bennaf yn eu ugeiniau neu tridegau, a phob un wedi gwisgo'n ffurfiol!The image below of a rehearsal held during the mid 1960s shows the late Noel Davies MBE, the founder conductor, and a cohort of young men mainly in their 20s and 30s, and all formally dressed!

Côr Meibion Pontarddulais 1960au

Erbyn heddiw mae proffil oedran y côr ac arddull y dillad (!!) wedi newid yn sylweddol fel y gwelir o'r llun canlynol a gymerwyd ym Medi 2017. Erbyn hyn mae tua 60% o'r côr o oed ymddeol.By today the age profile of the choir and clothing style (!!) has changed considerably as the following image taken in September 2017 where now approx 60% of the choir are of retirement age.

Côr Meibion Pontarddulais Modern

Mae'r rhan fwyaf o'r aelodau yn byw ym Mhontarddulais a'r ardaloedd cyfagos ond cafwyd aelodau sydd wedi teithio tua 80 o filltiroedd o Aberystwyth, i fynychur ymarfer y cor.Most of the members live in Pontarddulais and its hinterland but there have been members who have travelled from as far as Aberystwyth, some 80 miles away, to attend choir rehearsals.
O gychwyn y cor, ar ddechrau'r chwedegau, un o brif nodweddion allweddol y côr, fel elusen gofrestredig, fu ei ymrwymiad i godi miloedd lawer o bunnau am achosion da ac i gystadlu mewn eisteddfodau. Mae'r pwyslais cryf hwn ar gystadlu wedi arwain at lwyddiannau amlwg gan gynnwys ennill y brif wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol un ar bymtheg o weithiau gyda'r olaf yn Llanelli yn 2014. Mae'r cor hefyd wedi ennill y brif wobr yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen ddwywaith yn 2001 a 2004.From the outset in the early 1960s a key feature of the choir, as a registered charity, has been its commitment to raise many thousands of pounds for good causes and to compete in Eisteddfodau. This strong focus on competing has resulted in an unequalled sixteen first place wins at the Royal National Eisteddfod, the latest of which was at Llanelli in 2014. Also, in 2001 and 2004 the Pontarddulais Male Choir achieved a first at the Llangollen International Eisteddfod.
Mae repertoire amrywiol gan y côr sydd yn cynnwys emynau, caneuon gwerin, corysau opera, motets dadeni a chorysau megis "Cymrodorion yn arfau" a "Nidaros". Gellir clywed y mwyafrif o'r rhain ar y mwy na dau ddeg pedwar o CDs a recordiwyd gan y côr. Cafodd y recordiad diweddaraf "Calonnau a Lleisiau " ei ryddhau yn 2017 a'i ganmol yn eang. Gyda repertoire mor eang. Mae'r côr wedi gallu perfformio mewn llawer o drefi a dinasoedd ar draws Prydain ac wedi cynnal teithiau tramor llwyddiannus i wledydd fel Sweden, yr Almaen, Canada, a'r UDA.The choir repertoire is diverse including hymns, folk songs, opera choruses, renaissance motets and choruses such as "Comrades in Arms" and "Nidaros". Most of these can be heard on the more than 24 CDs recorded by the choir. The most recent recording "Hearts and Voices" was released in 2017 to wide acclaim. With such a broad repertoire the choir has been able to perform in many towns and cities across Britain and undertaken successful overseas tours to countries such as Sweden, Germany, Canada, and the USA.
Mae'r llun canlynol yn dangos yr Arglwydd Hain, un o noddwyr y côr, gyda'r aelodau hynaf a'r ieuengaf mewn cyngerdd a drefnodd i ni yn 2007 yn Efrog Newydd.The following image shows Lord Hain, a patron of the choir, with the oldest and youngest members in a concert he organised in New York for us in 2007.

Côr Meibion Pontarddulais Lord Hain

Roedd yr un daith yn cynnwys ymweliadau â Philadelphia a Washington, isod.The same tour included visits to Philadelphia and Washington, below.

Côr Meibion Pontarddulais Washington DC

Mae'r côr hefyd wedi perfformio gydag unawdwyr o fri rhyngwladol fel Syr Bryn Terfel a Catherine Jenkins. Y llynedd, yn dilyn llwyddiant tîm pêl-droed Cymru yn Euro 2016 dyfarnwyd i'r rheolwr Chris Coleman (a welir yma gyda Clive Phillips ein harweinydd presennol) ryddid Dinas Abertawe. Canodd y côr yn y dathliad yn dilyn ei inaugoriad.The choir has also performed with internationally renowned soloists such as Sir Bryn Terfel and Catherine Jenkins. Last year, following the success of the Welsh football team in Euro 2016 the manager Chris Coleman (seen here with Clive Phillips, our current conductor) was awarded the Freedom of the City of Swansea. The choir sang in the celebration following his inauguration.

Côr Meibion Pontarddulais Chris Coleman

Yn yr un flwyddyn, ymwelodd Paul Merton (gweler isod) ag ymarfer y côr, fel rhan o'i gyfres deledu ar "Secret Stations", pan ymwelodd â Phontarddulais.In the same year, Paul Merton (seen below) visited a choir rehearsal as part of his TV series on "Secret Stations" when he visited Pontarddulais.

Côr Meibion Pontarddulais Paul Merton

I'r rhai sy'n ystyried ymuno â chôr, mae'r manteision yn niferus. Mae'r rhain yn cynnwys gwella'r ymdeimlad o les cymdeithasol, cynyddu disgwyliad oes (gobeithio) drwy wella capasiti'r ysgyfaint, a lleihau lefelau straen ac iselder. Yn fy achos i, mae'r cyfleoedd i deithio, cyfarfod a chymdeithasu â phobl o wledydd gwahanol ddiwylliannau a chefndiroedd wedi bod yn brofiadau bythgofiadwy.For those considering joining a choir the benefits are many. These include improving the feeling of social wellbeing, increasing life expectancy (I hope) through enhanced lung capacity, and reduced stress levels and depression. In my case the opportunities to travel, meet and socialise with people from different countries cultures and backgrounds has been life-enhancing.
Pan ofynnwyd am uchafbwyntiau cerddorol Mae'r rhan fwyaf o gantorion yn cyfeirio at yr adrenalin a'r her wrth gystadlu mewn eisteddfodau. Yn ogystal, yn fy achos i, mae dau brofiad gwahanol iawn yn sefyll allan. Roedd canu Salm 23 gan Max Bruch a theimlo dyfnder dwfn a harddwch esthetig pur ei gyfansoddiad yn syfrdanol, ac yn brofiad hynod o deimladwy. Mewn lleoliad hollol gyferbyniol, roedd canu'r anthem genedlaethol Gymreig ar faes Stadiwm y Principality cyn i dim Cymru chwarae Lloegr yn brofiad annhygoel. Roedd swn emosiynol y dorf yn fyddarol ac yn gwneud i bob gwallt ar eich pen sefyll i fyny. Gallech ddeall pam y byddai unrhyw chwaraewr yn rhedeg drwy wal frics yn llythrennol ar ôl hynny! (gweler isod).When asked for musical highlights most choristers point to the adrenalin kick and challenge when competing in Eisteddfods. In addition, in my case, two very different experiences stand out. Singing Psalm 23 by Max Bruch and feeling the profound depth and pure aesthetic beauty of his composition was breathtaking, and a deeply moving experience. In a completely contrasting setting, singing the Welsh national anthem on the hallowed turf of the Principality Stadium before the Wales v England rugby international takes some beating. The volume of sound, the emotional rendition of the crowd, the reverberating cacophony of noise enhanced by the closed roof was incredible and made every hair on your head stand. You could see why any player would literally run through a brick wall after that! (see below).

Côr Meibion Pontarddulais Gêm Rhyngwladol

Mae adroddiadau yn y wasg ac ar y teledu dros y blynyddoedd diwethaf wedi sôn am argyfwng a dirywiad yn y corau meibion yng Nghymru. Efallai nad yw'r math hwn o ganu mor ffasiynol a phoblogaidd ag yr oedd ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20ain canrif, ac er bod proffil oedran nifer o goriau wedi cynyddu'n sylweddol, mae yna arwyddion cadarnhaol. Mae gan canu corawl y gallu o hyd i ysbrydoli, ennyn brwdfrydedd a diddanu, a hyrwyddo cydlyniant a lles cymunedol. Mae "Cor Y Bont" yn dal i ffynnu ac mae rhaglen lawn o gyngherddau a digwyddiadau dros y flwyddyn i ddod ac mae croeso cynnes i aelodau newydd bob tro.Reports in the press and on TV over recent years have commented on a perceived crisis and decline in male voice choirs in Wales. Whilst this form of singing might not be as fashionable and popular as it was in the late 19th and early 20th centuries, and whilst the age profile of many choristers has increased significantly, there are positive signs. It still has the capacity to inspire, enthuse and entertain, and promote community cohesion and well being. "Cor y Bont" is still thriving and has a full programme of concerts and events over the coming year and readily welcomes new members.
Am wybodaeth bellach am y côr, mae "Brothers Sing On!" gan Eric Jones (Y lolfa 2010) yn rhoi hanes manwl am gôr meibion Pontarddulais. Ceir gwefan a tudalen Facebook hefyd lle gall darllenwyr wrando ar ddetholiad o eitemau gan y côr.For further information on the choir, "Brothers Sing On!" by Eric Jones (Y Lolfa 2010) provides a detailed history of the Pontarddulais Male Choir. There is also a website and Facebook page where readers can listen to a selection of items by the choir.

Roedd canu Salm 23 gan Max Bruch a theimlo dyfnder dwfn a harddwch esthetig pur ei gyfansoddiad yn syfrdanol, ac yn brofiad hynod o deimladwy.

pontarddulaismalechoir.wales      BontChoir


William Williams, Pantycelyn

"Canmolwch yr Arglwydd! Rydym yn genedl gerddorol" taranodd y Parchg Eli Jenkins yn "Dan Y Wenallt" gan Dylan Thomas, ond ymddangosodd y cysyniad hwn o 'genedl gerddorol' yn hir cyn amser Dylan Thomas.

Côr Meibion Pontarddulais William Williams Pantycelyn

"Praise the Lord! We are a musical nation" booms the Rev Eli Jenkins in Dylan Thomas' "Under Milk Wood." but this concept of a 'musical nation' appeared long before the time of Dylan Thomas.
Gwelir peth o'r dystiolaeth gynharaf yn ysgrifau Gerallt Gymro, (Giraldus Cambrensis yn 1189) sydd yn pwyntio at draddodiad Cymreig cynnar o canu pedwar llais.
Some of the earliest evidence is seen in the writing of Gerallt Gymro, (Giraldus Cambrensis in 1189) which seems to point to an early Welsh tradition of part-singing.
"Pan maen nhw'n perfformio cerddoriaeth gyda'i gilydd, maen nhw'n canu eu caneuon nid mewn unsain, fel y gwneir mewn mannau eraill, ond mewn elfennau rhannol ac mewn torf o gantorion ... byddech yn clywed cymaint o ganeuon a gwahanol ysbeidiau ag y gallech weld pennau; ac eto maent i gyd yn cydgordio...". "When they make music together, they sing their songs not in unison, as is done elsewhere, but in parts....so that in a crowd of singers....you would hear as many songs and different intervals as you could see heads; yet they all accord...".
Cafodd dylanwad Gruffydd Jones a'i ysgolion cylchynol ddylanwad mawr ar agwedd pobl Cymru at addysg. Mewn oes pan nad oedd addysg orfodol, erbyn cyfnod ei farwolaeth yn 1761 'roedd bron i 200,000 o bobl wedi cael eu dysgu i ddarllen, ac yn bennaf drwy astudiaeth o'r Beibl. The influence of Gruffydd Jones and his Circulating Schools had a profound influence on the attitude of Welsh people to education. In an age when there was no compulsory education, by the time of his death in 1761 almost 200,000 people had been taught to read mainly through a study of the Bible.
Gwelir ef ymhellach fel rhagflaenydd i'r diwygiad Methodistaidd a fu yn fuan yn dylanwadu ar Gymru a'r holl Deyrnas Unedig. Yr adfywiad Methodistaidd, a'r cynnydd mewn anghydffurfiaeth yn y 18fed ganrif, a ddarparodd y ffordd i ganu corawl dyfu ac i awduron emynau fel William Williams, Pantycelyn, (y pêr ganiedydd) i ffynnu. He is furthermore seen as a forerunner to the Methodist revival that was soon to hit Wales and all of the United Kingdom. It was this Methodist revival and the rise of non-conformity in the 18th century which provided the catalyst for choral singing to grow and for hymn writers such as William Williams, Pantycelyn, (Y pêr ganiedydd /The Sweet Songster) to flourish.
Eleni yw tri chan mlwyddiant ei enedigaeth (11 Chwefror 1717 – 11 Ionawr 1791). Fe'i cydnabyddir yn gyffredinol fel awdur emynau enwocaf Cymru , ac 'roedd yr un mor nodedig fel un o arweinwyr allweddol yr adfywiad Methodistaidd yn y 18egThis year is the 300th anniversary of his birth (11 February 1717 – 11 January 1791). He is generally acknowledged as Wales' most famous hymn writer and was equally distinguished as one of the key leaders of the 18th century Methodist revival. However few might know that as he travelled throughout Wales he is said to have partly supported his ministry by selling tea!
Mae'n bosibl mai ei emyn mwyaf adnabyddus yw "Arglwydd, arwain trwy'r anialwch" Mae hwn wedi cael ei addasu i'r emyn Saesneg: "Guide me, o thou Great Jehovah". Fel arfer mae'n cael ei chanu i'r dôn Cwm Rhondda gan John Hughes a ffefryn o blith llawer o gorau. Mae'n cael ei ddefnyddio yn aml i gynhyrfur cefnogwyr Cymru yn Stadiwm y Mileniwm, yn enwedig pan fydd Cymru yn chwarae tîm rygbi Lloegr!Possibly his best known hymn is "Arglwydd, arwain trwy'r anialwch" . This has been adapted as the English-language hymn: "Guide Me, O Thou Great Jehovah". It is usually sung to the tune Cwm Rhondda, by John Hughes, and is a favourite of many choirs. More familiarly it is used to stir Welsh supporters in the Millennium Stadium, particularly when Wales take on the England rugby team!

 


Erthygl ar gael i lawrlwytho ar Apple Books, PDF & Kindle / Article available to download on Apple Books, PDF & Kindle:

Apple Books logo

PDF logo

Kindle logo

]]>
Rhea Seren Phillips: Ffurf & Mesur Barddonol Cymraeg: Hanes / Welsh Poetic Form & Metre: A History https://parallel.cymru/rhea-seren-phillips-ffurf-a-mesur-barddonol-cymraeg/ Thu, 14 Jun 2018 14:01:05 +0000 https://parallel.cymru/?p=9106

Mae Rhea Seren Phillips yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe sy'n ymchwilio i sut y gellir defnyddio ffurfiau a mesurydd barddonol Cymraeg i ailystyried hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig gyfoes ac i ennyn diddordeb yn hon. Yma, mae’n esbonio cynghanedd a cherdd dafod, safle beirdd yn y gymdeithas ganoloesol, a sut y mae’n dehongli gwaith y beirdd ar gyfer y rheini nad ydynt yn siarad Cymraeg…

Rhea Seren Phillips is a PhD student at Swansea University, who is investigating how the Welsh poetic forms and meter can be used to reconsider and engage with contemporary Welsh cultural identity. Here, she takes us through an explanation of cynghanedd and cerdd dafod, the position of poets in medieval society and how she is interpreting their work for those who don't speak Welsh…

Ymddangosodd y fersiwn Saesneg o’r erthygl hon yn wreiddiol yn The Luxembourg Review.
The English version of this article originally appeared in The Luxembourg Review.

Hanes ac ychydig mwy
Mae’r Gymraeg yn iaith liwgar a bywiog. Ei chlywed hi’n cael ei defnyddio yw gwrando ar gerddoriaeth, a’i deall hi yw bod yn rhan o ddiwylliant sy’n bodoli ers canrifoedd. Mae mwy i Gymru nag ei hiaith (a dydw i ddim yn sôn am fwyd), mae barddoniaeth Gymraeg wedi’i dylanwadu gan, ac wedi’i hysgrifennu gan ddefnyddio, cerdd dafod a chynghanedd er y bumed ganrif o leiaf. Mae’n rhan o’n diwylliant sy wedi datblygu’n uniongyrchol dan ddylanwad yr iaith Cymraeg.
History and a Little Bit More
The language of Wales is vivid and vivacious. To hear it spoken is to listen to music and to understand it is to be part of a culture that has existed for centuries. There is more to Wales than its language (and I’m not talking about food), Welsh poetry has been influenced and written in the cerdd dafod and cynghanedd since at least the fifth century. It is a part of our culture that has evolved directly under the influence of the Welsh language.
Mae cerdd dafod (ffurfiau barddonol Cymraeg) a chynghanedd (mesur Cymraeg) yn dal i gael eu defnyddio ledled Cymru heddiw, yn enwedig yn yr Eisteddfod Genedlaethol flynyddol, er enghraifft. Mae’r gerdd dafod yn cynnwys pedair ffurf farddonol ar hugain sy’n defnyddio odl fewnol a diweddawdl gyda llawer o bennill yn amrywio o ddwy i bedair llinell. Mae i gynghanedd bedwar mesur sy’n defnyddio cyflythreniad, odli, a chytgord rhwng y cytseiniaid i gyfantoli seiniau oddi mewn i linell. Mae’r wyth ffurf farddonol ar hugain hyn, yn ogystal â’r mesur, yn ôl-ddyddio i’r cyfnod pan fu Cymru’n genedl annibynnol, a pan gafodd llysiau Tywysogion Cymru eu hysbrydoli gan leisiau barddol meistri ar eu crefft.The cerdd dafod (Welsh poetic forms) and cynghanedd (Welsh metre) remain in use throughout modern Wales, with the most notably example being the annual Eisteddfod. The cerdd dafod consists of twenty-four poetic forms that involve internal and end rhyme with many stanzas ranging from two to four lines. The cynghanedd is made up of four metres that use alliteration, rhyme and consonantal harmony to balance the sounds within a line. These twenty-eight poetic forms and metre date back to when Wales was an independent nation and the courts of the Princes of Wales were informed by the poetic voices of master craftsmen.
Roedd un o’r esiamplau enwocaf a chynharaf o’r gerdd dafod a chynghanedd mewn barddoniaeth ganoloesol Gymraeg yn ystod y bumed a’r chweched ganrif pan oedd beirdd megis Aneirin a Taliesin, beirdd mawr Cymru, yn ysgrifennu yn y ffurfiau a mesurau hyn. Nid ydym ni’n gwybod pryd y cychwynnodd y gerdd dant a chynghanedd ond mae’n siŵr mai wrth i’r iaith Gymraeg ddatblygu, fe ddatblygodd barddoniaeth Cymraeg ochr yn ochr â hi. Yn ystod y canrifoedd canlynol, trawsnewidiwyd y gerdd dant a chynghanedd yn hanfodol ond nid cyfundrefnwyd hyn yn ffurfiol nes y drydedd ganrif ar ddeg.One of the most famous and earliest examples of the cerdd dafod and cynghanedd in Welsh medieval poetry was during the fifth and sixth century where poets such as Aneirin and Taliesin, the great bards of Wales, wrote in these forms and metre. There is no known beginning of the cerdd dafod and cynghanedd but it is certain that as the Welsh language evolved Welsh poetry matured alongside it. During the following centuries the cerdd dafod and cynghanedd underwent a critical transformation but it wasn’t to be formally codified until the thirteenth century.
Digwyddodd y newid mwyaf trawiadol yn ystod y ddeuddegfed ganrif a’r drydedd ganrif ar ddeg ymhlith y frwydr dros annibyniaeth Gymreig. Cyn i’r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd farw ym 1282, cafodd beirdd y fraint o fod yn aelodau parchedig y llys. ‘Beirdd y Tywysogion’ oedd enw ar y beirdd hyn.The most striking transformation took place during the twelfth and thirteenth century amidst the battle for Welsh independence. Prior to the death of Prince Llywelyn ap Gruffudd in 1282, poets were afforded the privilege of being a respected member of court. These poets were known as the Poets of the Princes (Beirdd y Tywysogion).
Y safle uchaf y gallai bardd ei dal yn y teulu brenhinol oedd Pencerdd, sy’n golygu’n llythrennol ‘meistr yn ei grefft’. Roedd yn anrhydedd mawr i fardd canoloesol, a byddai’r safle wedi dod â llawer o fanteision yn ogystal â llawer o gyfrifoldebau: trwy nawdd ei dywysog, gallai bardd yn ymddiried y derbyniai strwythur talu ffurfiol, cleddyfau ac arfau eraill ond, yn gwrthbwyso’r moethusrwydd mawr hwn, fe ddisgwylid ganddo gymryd rhan mewn brwydrau fel rhyfelwr yn brwydro ar ochr ei dywysog. Nid yw’n rhyfedd iawn bod barddoniaeth ganoloesol yn ystod y canrifoedd hyn yn canolbwyntio gan amlaf ar wirioneddau maes y gad, gan ddisgrifio’n aml sgil y rhyfel yn fanwl arswydus.The highest position that a poet could hold in a royal household was that of the Pencerdd, a literal translation would be ‘master craftsman’. It was a great honour for a medieval poet and the position would have brought with it many benefits as well as responsibilities: through the patronage of his prince, a poet could trust to receive a formal pay structure, swords and other weaponry but, counterbalancing this great luxury, he would have been expected to participate in battles as a warrior fighting by his prince’s side. It is of little surprise that medieval poetry during these centuries focused predominately on the reality of the battlefield, often describing the aftermath with horrific accuracy.
Pan nad oedd e’n rhyfela, eisteddodd y ‘Pencerdd’ yn llythrennol ar gadair arbennig yn y llys. Awdurdodai crefydd ac ofergoel y bardd yn y llys canoloesol: credid eu bod yn gallu rhagddweud y dyfodol (proffwydoliaeth) ac mai ganddynt gysylltiad cryf â Duw. Defnyddiai’r ‘Pencerdd’ ei safle i gynghori’r tywysog: cyn brwydr byddai’n adrodd cerdd i Dduw, ac un arall a fyddai’n anrhydeddu’r tywysog neu’i gyndadau. Ystyrid gwaed brenhinol yng Nghymru ganoloesol yn bwysig iawn. Roedd llawer yn credu bod tywysog yn cael ei ddewis gan awdurdod Dwyfol ac mai trwy gyfansoddi cerdd a ganmolai’i gyndadau, byddai’r bardd yn anrhydeddu’r tywysog byw o hyd. Mae’r ffurf hon o farddoniaeth yn gyffredin yng Nghymru ganoloesol ac roedd ei harfer yn ennyn parch sylweddol. Ni ddylwn gasglu bod ‘Pencerdd’ yn berson llygredig, mewn gwirionedd roedd llawer yn eithriadol o ffyddlon i’w noddwyr, gan ddewis i beryglu’u bywyd ar faes y gad. Defnyddiwyd y ffurf farddonol o’r enw marwnad yn aml yn ystod y cyfnod hwn. Byddai’n dangos galar llwyr am golled noddwr. Ysgrifennwyd yr esiampl harddaf o farwnad gan Gruffydd ab yr Ynad Coch, sef Llywelyn ein Llyw Olaf.When battles were not being waged the Pencerdd held a chair in court. Religion and superstition empowered the medieval court poet: they were believed to be able to predict the future (prophecy) as well have a strong connection with God. The Pencerdd would use his position to advise the prince; before battle he would declaim a poem to God and another that would honour the prince or his ancestors. Royal blood in medieval Wales was cherished. Many held the belief that a prince was chosen by Divine rule and by composing verse that praised his ancestors’, the poet was still honouring the living prince. This form of praise poetry is common in medieval Wales with its practice commanding a great deal of respect. That is not to infer that a Pencerdd was a corrupt figure, indeed, many were fiercely loyal to their patrons choosing to risk their life on the battlefield. The elegy was a widely used poetic form during this time. It depicted absolute grief at the loss of a patron. The most beautiful example of an elegy poem was written by Gruffydd ab yr Ynad Coch entitled, Llywelyn ein Llyw Olaf.
“Poni welwch chwi hynt y gwynt a'r glaw?
Poni welwch chwi'r deri'n ymdaraw?
...
Poni welwch chwi'r haul yn hwyliaw - 'r awyr?
Poni welwch chwi'r sŷr wedi r' syrthiaw?
Poni chredwch chwi i Dduw, ddyniadon ynfyd?
“See you not the way of the wind and the rain?
See you not the oak trees buffet together?
...
See you not the sun hurtling through the sky,
And that the stars are fallen?
Do you not believe God, demented mortals?”
Roedd dwy safle ar gael mewn llys i fardd oedd eto’n dysgu’i grefft. Y Bardd Teulu, y cyfieithiad llythrennol fyddai’n ‘bardd i’r tŷ’, yr un isaf oedd Cerddor, fyddai’r cyfieithiad llythrennol wedi bod yn syml iawn yn ‘rhywun sy’n gwneud cerddoriaeth’. Byddai wedi bod i bob safle yn y teulu ddyletswyddau ffurfiol ac anffurfiol, er nad ydym yn gwybod yn llwyr am rôl Cerddor ond diogel yw derbyn y byddai wedi bod yn rhaid iddynt ganu’r delyn neu’r delyn fach. Roedd y Bardd Teulu yn un o bedwar swyddog ar hugain yn y llys. Disgwylid iddo berfformio’i farddoniaeth cyn brwydrau, a difyrru’r Frenhines. Byddai dyletswyddau beirdd yn y llys canoloesol wedi cynnwys rôl croniclwr, archifydd llafar, a digrifwr, tri chyfrifoldeb hollbwysig i gymdeithas a ddibynnai ar draddodiadau llafar am ei grefydd, ei hanes, a’i adloniant (a fyddai wedi bod yn debycaf yn gymysgedd o foliant, hanes, a moesoldeb).There were two lower positions within a royal court for a poet still learning his craft. The Bardd Teulu- the literal translation would be ‘poet of the household’; the lowest was that of the Cerddor, the literal translation would be quite simple ‘musician’. All positions within the household would have had formal and informal duties, although the role of Cerddor is not completely known but it is safe to assume that they would have required the ability to play the harp or lyre. The ‘Bardd Teulu’ was one of twenty-four officers at court. He was expected to perform his poetry before battles and to entertain the Queen. The duties of medieval court poets would have included the role of chronicler, oral archivist and entertainer, three vital responsibilities to a society that depended on oral traditions for its religion, history and entertainment (which would have most likely been a concoction of praise poetry, history and morality).
Nid oedd bardd llys yn dod o safle breintiedig er y byddent wedi bod yn ddynion bonheddig. Roedd eu hyfforddiant yn hir ac yn llafurus. Petasent yn datblygu agwedd o hunanbwysigrwydd prin y gallent gael eu beio. Cymerai hi naw mlynedd i feistroli’r sgiliau angenrheidiol er mwyn dod yn fardd llys a phan gwblhaodd ei hyfforddiant byddai Pencerdd yn mynnu pedair ceiniog ar hugain, ac yn hawlio cael ‘amobr’ merch y Cerddor. Byddai raid i fardd llys adrodd darnau o’r Beibl ac o gerddi hysbys o’r cof; disgwylid iddo hefyd fod yn feistr mewn cyfansoddi barddoniaeth wedi’i hysgrifennu yn y gerdd dant a chynghanedd o'i ben a'i bastwn ei hun, ar fympwy ei dywysog. Er gwaethaf ei holl ofynion a galwadau, roedd y bardd llys yn dal safle cheinachod mewn cymdeithas Gymreig ganoloesol.A court poet did not originate from a position of privilege although they would have been of noble birth. Their training was long and arduous. If they did develop an attitude of self-importance then they could hardly be blamed. It would take nine years to master the necessary skills to become a court poet and upon completion of training a Pencerdd would demand twenty-four pence and the right to the ‘amobr’ (the virginity of the Cerddor’s daughter). A court poet would be required to recite extracts from the Bible and famous verses from memory; he was also expected to be a master at composing verse written in the cerdd dafod and cynghanedd within his head and at the whim of his prince. For all its requirements and demands, a court poet still held an enviable position within medieval Welsh society.
Ar ôl 1282 pan gollodd Cymru ei hannibyniaeth, byddai Beirdd y Tywysogion yn dioddef sarhad mawr: diwreiddiwyd nhw ac fe’u gwasgarwyd, wedi’u gyrru allan o’u trigleoedd brenhinol ac i oes ‘Beirdd yr Uchelwyr’. Er mwyn goroesi, dechreusant draddodiad o’r enw ‘clera’, oedd yn gofyn iddynt fentro, gan grwydro o faenor i blasty i gael hyd i fwyd, arian a beth bynnag arall a fyddai’n eu helpu i oroesi. Galluogai’r ymdeithiau hyn nhw i barhau i dderbyn nawdd eu tywysogion, erbyn hynny wedi’u diraddio’n foneddigion dan reolaeth Seisnig, gan gadw arfer y gerdd dafod a chynghanedd yn ffynnu mewn diwylliant Cymreig. Os sefydlu arferion y gerdd dant a chynghanedd a wnâi’r ddeuddegfed ganrif, diffinio nhw a wnâi’r drydedd ganrif ar ddeg.After 1282 and the loss of Welsh independence, the Poets of the Princes suffered a great indignation: they became uprooted and dispersed, thrown out of their royal residencies and into the age of the Poets of the Gentry (Beirdd yr Uchelwyr). To survive they began a tradition known as ‘clera’; this demanded that the poet undergo an expedition, wandering from manor to mansion seeking food, coin and anything else that would assist in their survival. These expeditions enabled them to continue receiving the patronage of their princes, now demoted to gentry by English rule, keeping the practise of the cerdd dafod and cynghanedd flourishing within Welsh culture. If the twelfth century established the practises of the cerdd dafod and cynghanedd, then the thirteenth century defined them.
Ychydig Mwy...
Mae traddodiad y gerdd dafod a chynghanedd yn dal yn fywiog ledled Cymru. Mae’n bell o gael ei anghofio, fel y gellir ei weld o boblogrwydd parhaol yr Eisteddfod. Mae f’astudiaeth i, o’r enw Translations: a poetry project, yn ymchwilio sut y gallai ffurfiau barddonol a mesurau Cymraeg gael eu defnyddio i ailystyried, cysylltu â, a chynrychioli’n fanwl, hunaniaeth ddiwylliannol gyfnewidiol Cymru gyfoes. Mae’n gwneud hyn drwy ystyried dau beth, yn gyntaf, dadansoddiad critigol o dair perthynas: tirwedd arfordirol a diwydiannol Cymru; beirdd Cymraeg, Eingl-Gymreig, a Saesneg; a chyhoeddi prif ffrwd a llawr gwlad. Yn ail, mae’r ymateb creadigol yn cyfieithu’r gerdd dafod a chynghanedd i Saesneg ac yn defnyddio’r trawsffurfiant yn ymarferol ar ffurf dau gasgliad o gerddi, y ddau hefyd yn cynnwys cerdd arwrol o hyd sylweddol.
A Little Bit More...
The tradition of the cerdd dafod and cynghanedd remains vibrant throughout Wales. It is far from being forgotten, evidenced by the continued popularity of the Eisteddfod. My study, entitled Translations: a poetry project, researches how Welsh poetic forms and metre could be used to reconsider, engage and accurately represent the changing cultural identity of modern Wales. It does this through two considerations, firstly, a critical analysis of three relationships: the coastal and industrial landscapes of Wales; Welsh, Anglo-Welsh and English speaking poets; and, mainstream and grassroots publishing. Secondly, the creative response translates the cerdd dafod and cynghanedd into the English language and applies that translation practically in the shape of two poetry collections each with an accompanying epic poem of substantial length.
Mae i’r prosiect tri nod:
- Ennyn diddordeb amrywiaeth helaeth o ddarllenwyr trwy hybu defnydd o’r gerdd dafod a chynghanedd gennyf fi fy hunan a beirdd cyfoes;
- Darganfod y lleisiau i gyd sy’n diffinio’r hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig gyfoes;
- Herio cyhoeddi prif ffrwd a llawr gwlad ac o ganlyniad, sefydlu llwyfan genedlaethol lle y caiff lleisiau oll Cymru gyfoes eu cynrychioli’n gyfartal.
The project has three aims:
- To engage with a wide readership by promoting the use of the cerdd dafod and cynghanedd through myself and modern poets;
- To discover all the voices that define the modern Welsh cultural identity;
- To challenge mainstream and grassroots publishing and by doing so establish a national platform where all the voices of modern Wales have an equal representation.
Mae’r astudiaeth yn ei chyfnod cyntaf ac er mwyn dal yn ffyddlon i’w gwerthoedd a’i hegwyddorion, bydd y prosiect yn ymchwilio, ac yn arbrofi ag, ideoleg cyfieithu uniongyrchol. Mae’n defnyddio safbwynt Cymreig i ysbrydoli’r cyfieithiadau hyn trwy gyfweld beirdd Cymraeg sy’n gwybod sut i ysgrifennu yn y ffurfiau hyn ac mewn mesurau Cymraeg a Saesneg. Roedd fy nhraethawd M.A., Grandiloquent Wretches (Hiraeth oedd yr enw ar y pryd), yn cyfieithu’r gerdd dafod i Saesneg. Mae’n gasgliad barddonol sy’n cyfuno hanes, mytholeg, a ffurfiau barddonol Cymraeg i greu ffantasi ddinesig. Nid yw’n canolbwyntio’n unig ar hanes a mytholeg Gymreig; yn hytrach mae’n defnyddio helaethrwydd o hunaniaethau rhyngwladol, pob un ohonynt sy’n byw ac yn cyfrannu at gyfoeth diwylliannol, economaidd, a diwylliannol Cymru gyfoes.The study is in its primary stage and in order to remain loyal to its values and principles, the project researches and experiments with the ideology of direct translation. It uses a Welsh perspective to inform these translations through interviewing Welsh speaking poets who have knowledge of and write in these forms and metre in Welsh and English. My MA thesis, Grandiloquent Wretches (then titled Hiraeth) translated the cerdd dafod into the English language. It is a poetry collection that combines history, mythology and Welsh poetic forms to create an urban fantasy. It doesn’t focus exclusively on Welsh mythology and history; instead, it draws from a wealth of international identities, all of whom live and contribute to the social, economic and culturally wealth of modern Wales.
Mae’r pedair ffurf ar hugain o’r gerdd dant yn cynnwys penillion o ddwy i bedair llinell. Roedd y casgliad yn ailystyried y ffurfiau hyn i ddatblygu amrywiad modern oedd yn debycaf ei wedd i ffurf soned. Roedd hyn yn cefnogi defnyddio dyfeisiau barddonol megis octawd a chwechawd, oedd yn darparu strwythur traethiadol ffurfiol. Llwyddodd Grandiloquent Wretches i wneud hyn trwy arbrofi â gwnïo at ei gilydd ddwy ffurf farddonol sy’n gyflenwol ac, o bryd i’w gilydd, yn anghyson, i greu sain a werthfawrogai cynulleidfa fodern. Er enghraifft:The cerdd dafod’s twenty-four forms are made up of two to four lined stanzas. The collection reconsidered these forms to develop a modern variation that had a more visual relationship to that of a sonnet. This supported the use of poetic devices, such as an octet and sestet, which provided a formal narrative structure. Grandiloquent Wretches achieved this by experimenting with the stitching together of two complementary and, at times, conflicting poetic forms to create a sound that a modern readership would appreciate. For example:
Justice *
Let us just play this arid game,
if we lose then you should not blame them, you got cocky, let bedlam dictate where the pious venom strikes in righteous indignation;
war sought the tired Thracian
lilt, invoked wrath from lethargy
and called it justice. Liturgy transformed from sacred to mundane, fudged fingers gouged out his left brain. He had cold justice on his side;
least the Imp took the time to chide
him with keen doe-eyed promises; justice lobotomises...conscience.
* [Poetic form: Cyhydedd Fer – Welsh sonnet]
The Wolf’s Honey **
The rat snatched the wolf's honey;
sore, he tore its soft, bunny
flesh into a gunny mess, bejewelled
he bugled an umbrae
with sugar-snapped bayonets;
laced with perse, cloud silhouettes
will make the plaster sweat; hope to previse,
incise these mottled webs;
the spider drank flaxen cider,
drunk, the piper used the barrels
to play a sniper's tune, cipher
tasseomancy from pyre ashes;
hope that it was not your fault.
Suck a lolly dipped in salt,
thwart their strikes with rumour, club her cries
to equalise and escort
her moans with guided patience,
mistake twists for gyrations
of pain, stained laces tremble at the scream,
cetirizine harks, chases
the tussles that burst the bubbles
as convulsions spilt drooling
from silver buckles, sand knuckles
with piteous justice mewling.
** Poetic form: two stanzas of Englyn Crwca; two stanzas of Rhupant Hir; two stanzas of Englyn Crwca; two stanzas of Rhupant Hir.
Nid yw’r casgliad yn ymddiheuro am fod yn Faróc ei iaith a’i arddull, gan orfoleddu yn ei hanes trwy ddefnyddio ffurfiau barddonol Cymraeg wrth ymwreiddio’n gadarn yn yr oes sydd ohonom. Mae Translations: a poetry project yn gwerthfawrogi naratif cyson yn fwy ond nid yw’n gwyro’n rhy bell o’i natur rwysgfawr. Gweler y gerdd isod o The Silver in the Water, Pennod 3.The collection is unapologetically baroque in language and style, revelling in its past through the use of Welsh poetic forms whilst firmly set in the present. Translations: a poetry project places a higher value on a cohesive narrative but it does not deviate too far away from its grandiloquent nature. See the poem below taken from The Silver in the Water, Chapter Three.

Swathes of Empyrean Heather***


Wyled**** curdled the stomach;


Cistern snagged the Bittern co…pse.


Scourge dirge steep like Icarus,


periwinkle him; skim milk


to the broth, froth this relief;


temper this heather charnel****


with carrion,

virion******



river


malingers


and infers


sea.


Yn y pen draw, mae Translations: a poetry project yn sicrhau bod y ffurfiau a’r mesur yn parhau i ddatblygu i fodernedd. Wedi’u cadw’n ddiogel, nid fel arteffact mewn amgueddfa, ond fel creadur byw, creadur sy’n agored i fethu yn ogystal ag i lwyddo ac, yn bwysicaf oll, wedi’i ysbrydoli gan ei hanes a’i ddiwylliant, sy’n datblygu’n gyson, gan gydgordio ag anghenion ei ddiwylliant.Ultimately Translations: a poetry project ensures that the forms and metre continue to evolve into modernity. Preserved, not like a museum artefact but as a living organism; an organism that is open to failures as well as successes and, most importantly, informed by its history and culture, constantly evolving, harmonising with the needs of its society.

Swathes of Empyrean Heather



Wyled | curdled | the stomach;


Cistern | snagged the Bittern | co…pse.


Scourge | dirge |steep like Icarus,


periwinkle him; |skim | milk


to the broth, |froth | this relief;


temper | this heather | charnel


with carrion,|

virion |


river


malingers |


and infers |


sea.


Nid ydym ni’n gwybod pryd y cychwynnodd y gerdd dant a chynghanedd ond mae’n siŵr mai wrth i’r iaith Gymraeg ddatblygu, fe ddatblygodd barddoniaeth Cymraeg ochr yn ochr â hi.

Rhea Seren on Patreon

The Lonely Crowd Magazine

Previously In Molly Bloom Magazine

rhea_seren

Mae Patrick Jemmer wedi creu’r fersiwn Cymraeg i parallel.cymru / Patrick Jemmer has created the Welsh version for parallel.cymru


Erthygl ar gael i lawrlwytho ar Apple Books, PDF & Kindle / Article available to download on Apple Books, PDF & Kindle:

Apple Books logo

PDF logo

Kindle logo

]]>
Laura Jones: Hanes y Mwslimiaid yng Nghymru / The History of Muslims in Wales https://parallel.cymru/laura-jones-hanes-y-mwslimiaid/ Thu, 08 Feb 2018 17:58:25 +0000 http://parallel.cymru/?p=5878

Gallech gael eich maddau am feddwl bod y berthynas rhwng Islam a Chymru dim ond yn dechrau yn yr ugeinfed ganrif. Ond, mewn gwirionedd, mae’r berthynas yn ymestyn yn ôl yn bellach na hynny. Yma, mae Laura Jones yn cyflwyno hanes Mwslimiaid yng Nghymru o’r cysylltiadau cynharaf â’r Brenin Offa i’r presennol. Mae Laura  wedi cwblhau MA yn Islam ym Mhrydain Cyfoes (Islam in Contemporary Britain) ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2017. O'r blaen, mae hi wedi hyfforddi a gweithio fel Caplan Mwslimaidd mewn prifysgol, ac wedi gweithio ar gyfer y Cyngor Mwslimaidd Cymru. Hefyd, mae hi'n ysgrifennu am y wefan On Religion.

You could be forgiven for thinking that the relationship between Islam and Wales only starts in the twentieth century. But, in reality, the relationship stretches back much further than that. Here, Laura Jones traces the history of Muslims in Wales from the earliest links with King Offa in the 8th century to the present day. Laura completed an MA in Islam in Contemporary Britain in Cardiff University in 2017. Previously, she has trained and worked as a university Muslim chaplain, and has worked for the Muslim Council of Wales. She also writes for the website On Religion.

Cysylltiadau Cynnar
Mae’r mwyafrif o bobl yng Nghymru wedi clywed am Glawdd Offa sy’n rhedeg rhwng Lloegr a Chymru. Adeiladwyd y clawdd gan y Brenin Offa o Mercia yn yr wythfed ganrif. Ond efallai nad oeddech chi’n gwybod bod y Brenin Offa wedi bathu darn arian aur â’r gosodiad ffydd Islam yn Arabeg arno (sef bod un Duw yn unig a Muhammad yw’r negesydd Duw).
Early Interactions
The majority of people in Wales have heard of Offa’s Dyke which runs between England and Wales. The dyke was built by King Offa of Mercia in the eighth century. But perhaps you didn’t know that King Offa minted a gold coin with the Islamic declaration of faith on it (that there is only one God and Muhammad is His messenger).
Fel arfer am ddarnau arian y Brenin, mae’r enw ‘Offa Rex’ arno hefyd a dydyn ni ddim yn siŵr pam mae’r gosodiad Islamaidd ar y darn. Mae rhai’n dweud bod Offa wedi trosi at Islam (ond dydy hyn ddim yn debygol) ond yn fwy tebygol, roedd Offa yn dynwared darn o wledydd Abasaidd. Y naill ffordd neu’r llall, mae’n dangos bod rhyw fath o gysylltiad rhwng Islam a Chymru hyd yn oed yn yr wythfed ganrif. As usual for the King’s coins, the name Offa Rex was also on it and we are not sure why there is an Islamic inscription on the coin. Some say that Offa had converted to Islam (but this is not likely) but more likely, Offa was imitating a coin from Abbasid lands. Either way, it shows that there was some sort of connection between Islam and Wales even in the eighth century.
Daeth arwydd arall o’r cysylltiad rhwng Cymru ac Islam yn y ddeuddegfed ganrif yn ystod cyfnod y Croesgadau. Adeiladwyd Abaty Nedd ar y pryd a chafodd ei ddisgrifio fel "Yr abaty tecaf yng Nghymru gyfan" gan y bardd John Leland. Ond, yn rhyfedd ddigon, adroddwyd mai pensaer yr abaty oedd Lalys, carcharor o Balestina y daethpwyd ag e i Brydain gan Richard de Granville. Mae’n ddiddorol hefyd bod llawer o gestyll Cymreig yn ymdebygu i hen gestyll yn y Dwyrain Canol, fel Krak des Chevaliers yn Syria. Er gwaethaf cyd-destun dychrynllyd y Croesgadau, roedd cyfnewid diwylliannau rhwng Islam a’r Gorllewin. Another sign of the link between Wales and Islam came in the twelfth century during the period of the Crusades. Neath Abbey was built at the time and was described as "The fairest abbey in all Wales" by poet John Leland. But, surprisingly enough, it is reported that the architect of the abbey was Lalys, a captive from Palestine who was brought back to Britain by Richard de Granville. It is interesting also that many Welsh castles resemble old castles in the Middle East, like Krak des Chevaliers in Syria. Despite the appalling context of the Crusades, there was a clear cultural exchange between Islam and the West.
Hyd yn oed ar ôl y Croesgadau, mae’r berthynas yn parhau. Ym 1671, rydym yn dod o hyd i stori Cymro a elwid yn ‘runagado’ ym Mhapurau Wladwriaeth Mewnol Charles I– ‘runagado’ oedd y term am rywun sy wedi trosi at Islam ar y pryd. Yn anfoddus, cafodd y dyn ei grogi o’i long ar ôl iddo fe golli brwydr lyngesol. Er bod trosi at Islam yn anghyffredin ar y pryd, roedd yn digwydd i raddau wrth i gysylltiadau llyngesol dyfu ar draws y byd. Even after the Crusades, the relationship continues. In 1671, we find a story of a Welshman who is called a ‘runagado’ in the Domestic State Papers of Charles I– ‘runagado’ was a term for someone who converted to Islam at the time. Unfortunately, the man was hanged from his ship after losing a naval battle. Although conversion to Islam was uncommon at the time, it was not unheard of as naval links around the world grew.
Sefydlu Cymunedau
O’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, rydym yn gweld arwyddion pellach o Islam yng Nghymru, yn enwedig yn ei berthnasau â chrefyddau eraill. Efallai eich bod chi’n gyfarwydd ag Eglwys Llanbadrig – eglwys mewn rhan anghysbell yng ngogledd Ynys Môn. Yn ôl y sôn, sefydlwyd yr eglwys gan Sant Padrig yn 440 AD ond ym 1884 roedd adnewyddiad mawr ar yr adeilad. Arweiniwyd y gwaith gan yr Arglwydd Henry Stanley. Roedd Henry Stanley wedi trosi at Islam, ac oherwydd ei serch a’i barch at eglywsi a Christnogaeth ar y cyfan, penderfynodd e ddarparu’r arian am yr atgyweiriadau. I gydnabod ei ffydd fel Mwslim, cynhwyswyd nodweddion Islamaidd ysgafn yn y bensaernïaeth fel patrymau geometrig ar y ffenestri gwydr lliw. Yn dal, mae’r nodweddion hyn yn cydfyw â’r bensaernïaeth fwy traddodiadol Gristnogol Celtaidd yr adeilad heddiw.
Establishing Communities
From the nineteenth century, we see further signs of Islam in Wales, especially in its relationships with other religions. You might be familiar with Llanbadrig Church – a church on a remote, northern part of Anglesey. According to the stories, the church was established by St Patrick (from where it gets its name) in 440 AD, but in 1884 there was a major renovation of the building. The work was led by Lord Henry Stanley. Henry Stanley had converted to Islam, and out of his love and respect of churches and Christianity as a whole he decided to fund the restoration. To acknowledge his Muslim faith, subtle Islamic features were included in the architecture such as geometric patterns on the stained-glass windows. Even today, these features exist alongside the more traditional Celtic Christian architecture of the building.

Llanbadrig church
Eglwys Llanbadrig Church

History of Muslims in Wales Llanbadrig stained glass2
Llanbadrig stained glass

History of Muslims in Wales Llanbadrig stained glass
Llanbadrig stained glass

Gwelwyd, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg hefyd, symudiad nifer fawr o Fwslimiaid i Gymru oherwydd y diwydiant llongau ffyniannus, yn enwedig yng Nghaerdydd ac yn y Barri. Daeth y rhan fwyaf ohonynt o Yemen a Somalia i weithio ar y llongau. Ar y cychwyn, roedden nhw’n aros yng Nghymru am sbelau byr ond yn y pendraw, cyfanheddon nhw yng Nghymru yn creu’r cymunedau amlddiwylliannol rydyn ni’n gweld heddiw, er enghraifft yn Nhrebiwt a Bae Caerdydd. In the nineteenth century also, we see the migration of a large number of Muslims to Wales because of the thriving shipping industry, especially in Cardiff and Barry. Most of these came from Yemen and Somalia to work on the ships. Initially they stayed in Cardiff for short periods but eventually they settled in Wales, which can still be seen today, for example, in the multicultural communities living across Butetown and Cardiff Bay.
Mae’n ddiddorol bod y berthynas rhwng Islam a Chymru yn cael ei chydnabod yn swyddogol hyd yn oed yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif. Ar un ochr i Neuadd Dinas Caerdydd, a adeiladwyd ym 1906, mae seren a chilgant – symbolau Islam adnabyddus – uwchben draig. Does dim esboniad am y symbolau gan y dylunwyr, ond efallai fod e’n awgrymu twf y gymuned Fwslimaidd yn ystod y cyfnod.It is interesting that the relationship between Islam and Wales seems to be recognised officially even in the early twentieth century. On one side of Cardiff's City Hall, which was built in 1906, there is a star and crescent – well-known symbols of Islam – above a dragon. There is no explanation from designers about the symbols, but it perhaps suggests the growth of the Muslim community during this period.
Mae’n anghenrheidiol yma, sôn am unigolyn a oedd yn allweddol am ffurfio’r gymuned Fwslimaidd ar y pryd, sef Sieich Abdullah Ali al-Hakimi. Daethpwyd â fe o Yemen yn y 1930au i helpu adfywio’r ffydd y Mwslimiaid yng Nghaerdydd, ac yn wir, sbardunodd e drawsffurfiad mawr i’r gymuned. Sefydlodd e fosg yn Peel Street, Caerdydd yn y tridegau, o bosib y mosg cyntaf yng Nghymru. Hefyd, sefydlodd e ddosbarthiadau Quran ar gyfer plant ac oedolion, gwasanaethau lles a chydrafododd e sefydlu’r safle claddu Mwslimaidd cyntaf yng Nghymru, sy’n dal yn bodoli yn Nhrelái hyd heddiw. Yn bellach, gwnaeth e berthnasau agos â’r gymuned ehangach, gan gynnwys gwleidyddion lleol, y cyfryngau ac arweinwyr crefyddol. Oherwydd hyn, pan gafodd y mosg yn Peel Street ei ailadeiladu ar ôl iddo fe gael ei bomio yn Y Blitz (1941), mynychodd Maer Caerdydd y seremoni ail-agor. It is essential here to mention an individual who was instrumental in shaping the Muslim community at the time, namely Sheikh Abdullah Ali al-Hakimi. He was brought from Yemen in the 1930s to help revive the faith of Muslims in Cardiff, and indeed he initiated a big transformation in the community. He established a mosque in Peel Street, Cardiff in the thirties, possibly the first mosque in Wales. He also established Quran classes for children and adults, welfare services and he negotiated the establishment of the first Muslim burial site in Wales which still exists in Ely today. Moreover, he built relationships with the wider community including local politicians, media and religious leaders. Because of this, when the mosque in Peel Street was rebuilt after it was bombed in the Blitz (1941), the Mayor of Cardiff attended the re-opening ceremony.
Mwslimiaid Cymreig Heddiw
Mae’r perthnasau sy wedi’u dechrau gan Sieich Abdullah Ali al-Hakimi yn parhau yn y cymunedau Mwslimaidd yng Nghymru heddiw. Erbyn hyn, mae mwy na phum deg mosg dros Gymru a llawer o sefydliadau Mwslimaidd eraill, gan gynnwys gwasanaethau lles, grwpiau ieuenctid a sefydliadau addysgol. Mae Cyngor Mwslimaidd Cymru (sefydliad ymbarél i grwpiau Mwslimaidd) yn chwarae rôl bwysig mewn cynnal perthnasau ag arweinwyr lleol mewn gwleidyddiaeth a chrefydd trwy ddigwyddiadau rhyng-grefyddol blynyddol, ymgyrchoedd, a gweithgareddau eraill
Welsh Muslims Today
The relationships which were started by Sheikh Abdullah Ali al-Hakimi continue in Wales’ Muslim communities today. Currently there are over 50 mosques in Wales and numerous Muslim organisations including welfare services, youth groups and educational organisations. The Muslim Council of Wales (an umbrella body of Muslim groups) plays a big role in maintaining relationships with local leaders in politics and faith through its annual inter-faith events, campaigns, and other activities.
Ond y dyddiau hyn, mae grwpiau llai, lleol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ‘adeiladu-pontydd’ (bridge-building) hefyd. Enghraifft berffaith o hyn yw ‘Diwrnod Ymweld â fy Mosg’ (‘Visit My Mosque Day’) sy’n cael ei gynnal yn 2018 ar y 18fed o Chwefror. Am un diwrnod, bydd mosgiau dros Gymru (11 o addoldai o Fangor i Gasnewydd) ar agor i’r cyhoedd er mwyn eu croesawu ac i esbonio beth sydd yn mynd ymlaen mewn mosgiau dros y wlad. But nowadays smaller, local groups are engaging in bridge-building activities too. A prime example of this is ‘Visit my Mosque Day’ which this year is being held on 18th February 2018. For one day, mosques across Wales (11 places of worship from Bangor to Newport) will be open to the public to welcome them in and explain what goes on in mosques across the country.

Erbyn hyn, mae mwy na phum deg mosg dros Gymru a llawer o sefydliadau Mwslimaidd eraill, gan gynnwys gwasanaethau lles, grwpiau ieuenctid a sefydliadau addysgol.

Offa's Coin

Offa's Coin

Peel Street Mosque

Peel Street Mosque


Erthygl ar gael i lawrlwytho ar Apple Books, PDF & Kindle / Article available to download on Apple Books, PDF & Kindle:

Apple Books logo

PDF logo

Kindle logo

]]>
Cari Powell: Mater Tywyll- Y Bydysawd Cudd / Dark Matter- The Hidden Universe https://parallel.cymru/cari-powell-mater-tywyll/ Fri, 29 Dec 2017 08:25:05 +0000 http://parallel.cymru/?p=2703

Mae Cari Powell yn fyfyriwraig PhD ym Mhrifysgol Abertawe a’i phwnc arbenigol yw Ffiseg a Chosmoleg.  Yn yr erthygl gyntaf o gyfres newydd, Addysgwyr yn Esbonio, mae hi'n cyflwyno beth yw Mater Tywyll a pham mae'n bwysig...

Cari Powell is a PhD student in Swansea University, and her speciality subject is Physics and Cosmology. In the first of a new series, Educators Explain, she introduces what is Dark Matter and why it is important...

Pan fyddwch chi’n meddwl am faint y Bydysawd a’r helaeth o blanedau, sêr a galaethau sydd wedi’u cynnwys ynddi, mae’n annychmygadwy o fawr. Fodd bynnag, mae’r holl wrthrychau yma (sy’n cynnwys ein hunain), mewn gwirionedd dim ond 5% o gynnwys cyfan y Bydysawd! Mae hefyd yn bwysig nodi fod mai dim ond 20% o gyfanswm màs y Bydysawd ydw.

Sut mae hyn yn bosibl? Wel, yr ateb i’r cwestiwn hwn yw rhywbeth o’r enw Mater Tywyll sydd yn ffurfio gweddill màs y Bydysawd a 27% o’i gyfanswm. Popeth sydd yn rhan o’r 5% rydym y gallwm ei weld wedi yn cynnwys protonau a niwtronau ac fe gelwir yn fater cyffredin neu fater ‘baryionig’.

Mae mater tywyll, fodd bynnag, wedi’i wneud o rywbeth hollol wahanol. Yn annhebygol i fater cyffredin nid yw’n allyrru, adlewyrchu nac amsugno unrhyw golau, sy’n esbonio’r enw, ac mae hyn yn ei wneud yn anodd i ddod o hyd iddo. Nawr, gadewch i ni geisio deall pwysigrwydd mater tywyll a dwi’n gobeithio erbyn diwedd yr erthygl hon byddwch chi yr un mor gyffrous ag yr wyf i am y pwnc hwn.

Ar y pwynt hwn efallai eich bod chi’n meddwl “Felly, nid allwn ni ei weld… pam ddylai fod yn fater pwysig i mi?” (no pun intended). Wel, am un peth, os nad oedd mater tywyll yn bodoli ni fyddem yn bodoli! Hefyd, er na allwn ei weld yn uniongyrchol, gallwn deimlo ei effeithiau. Mae mater tywyll ym mhobman, gan gynnwys yr ystafell rydych chi’n eistedd ynddo ar hyn o bryd wrth i chi ddarllen hyn! Y broblem yw nad yw’n rhyngweithio’n â mater cyffredin a dyna pam na chafodd ei ganfod eto.

Felly, sut ydym ni’n gwybod ei fod yn bodoli? Roedd gwyddonwyr yn astudio sut mae galaethau’n cylchdroi ac roeddent yn disgwyl gweld seren yn agos i ganol y galaeth yn symud yn gyflymach na seren ymhellach i ffwrdd o’r canol. Yn hytrach, roedd yr hyn a ganfuwyd yn eithaf gwahanol. Ar ôl cynydd cychwynnol cyflymder troellog y sêr yn rhan ganolog y galaeth, roedd sêr yn ymddangos i symud efo tua’r un cyflymder er gwaethaf y pellter o’r canol yn cynyddu. Os mai dim ond y mater cyffredin a oedd yn bresennol yn y galaeth byddai’n cytuno â'r hyn y mae’r gwyddonwyr yn disgwyl ei weld. Nid yw’r holl fater cyffredin yn cynhyrchu digon o ddisgyrchiant i gyfrif am ba mor gyflym mae’r sêr yn symud.

Felly, mae hyn yn awgrymu bod yna màs ychwanegol ym mhresennol i roi sylw i’r hyn a arsylwyd ganddynt. Mae’r màs ychwanegol hwn yn (yr hyn a elwir) fater tywyll ac hebddo byddai’r galaethau’n rhwygo ar wahân, sy’n golygu na fyddem yn bodoli. Mae mater tywyll yn gweithredu fel sgaffaldiau sy’n caniatáu i strwythurau ar raddau fawr fel galaethau i ffurfio. Ni fyddai’r strwythurau hyn yn gallu ffurfio gyda disgyrchiant o fater cyffredin yn unig.

Gallwn amcangyfrif faint o fater tywyll sydd ar gael o faint yn gyflymach mae’r sêr yn symud nag y dylent fod os mai dim ond mater cyffredin yn bodoli. O’r arsylwadau, amcangyfrif bod yna dros 5 gwaith yn fwy yn bresennol na’r mater cyffredin yn y Bydysawd.

Beth mae’n cael ei wneud o? Wel, fel y dywedais yn flaenorol, nid yw mater tywyll wedi ei ganfod yn uniongyrchol eto, ond mae gwyddonwyr yn parhau i gael syniadau o’r hyn y mae’n cael ei wneud ohonno. Mae llawer o ymgeiswyr ar gyfer mater tywyll yn cael eu gwneud o gronynnau isatomig sy’n hollol wahanol i unrhyw gronyn a ddarganfuwyd erioed o’r blaen. Mae rhai gwyddonwyr hyd yn oed yn credu y gallai mathau penodol o dyllau du fod yn fater tywyll.

Sut mae gwyddonwyr yn ceisio dod o hyd i fater tywyll? Prif nod yr arbrofion hyn yw i gynhyrchu golau o’r gronynnau hyn. O dan amodau penodol, dylai fod yn bosib i wrthdrawiadau rhwng y gronynnau mater tywyll hyn a’r gronynnau mater cyffredin ddigwydd a fyddai’n cynhyrchu ffotonau (gronynnau golau) o egni penodol. Byddai hyn yn rhoi arwydd clir o’u bodolaeth.

Beth yw dyfodol mater tywyll? Y gobaithiad sydd gan gwyddonwyr yw lleihau’r posibiladau o beth gallai y rhan dirgel a phwysig yma o’r Bydysawd bod. Er gwaethaf y broblem bresennol o wyddonwyr yn methu â chanfod mater tywyll, mae’r canlyniadau negyddol o’r profiadau yn helpu i lleihau’r nifer o ymgeiswyr. Drwy wybod beth nid yw rhywbeth mae’n helpu i ganolbwyntio ar yn hyn y mae e. O hyn gobeithir canfod mater tywyll yn uniongyrchol trwy un o’r nifer o arbrofion sy’n astudio i’w bodolaeth ar hyn o bryd. Unwaith y darganfyddwyd tystiolaeth arbrofol clir o fodolaeth mater tywyll (o arsylwadau) yna byddwn yn dechrau cael gwell dealltwriaeth o ddarn arall yn y pos cosmig gwych.

Nawr efallai y byddwch yn meddwl “Beth am y 68% arall o’r Bydysawd?!” Mae’n debyg nad yw’n cael ei wneud o unrhyw fath o fater ac fe’i gelwir yn Egni Tywyll, sy’n hyd yn oed yn fwy dirgel na Mater Tywyll. Fodd bynnag, mae hwnnw’n destun trafodaeth am ddiwrnod arall...

Mae mater tywyll, fodd bynnag, wedi’i wneud o rywbeth hollol wahanol. Yn annhebygol i fater cyffredin nid yw’n allyrru, adlewyrchu nac amsugno unrhyw golau, sy’n esbonio’r enw, ac mae hyn yn ei wneud yn anodd i ddod o hyd iddo.

Fersiwn Dwyieithog / Bilingual version

Pan fyddwch chi’n meddwl am faint y Bydysawd a’r helaeth o blanedau, sêr a galaethau sydd wedi’u cynnwys ynddi, mae’n annychmygadwy o fawr. Fodd bynnag, mae’r holl wrthrychau yma (sy’n cynnwys ein hunain), mewn gwirionedd dim ond 5% o gynnwys cyfan y Bydysawd! Mae hefyd yn bwysig nodi fod mai dim ond 20% o gyfanswm màs y Bydysawd ydw.When you try to think about the size of the Universe and the vast number of planets, stars and galaxies that are contained within it, it is unimaginably large. However, all these objects (which includes ourselves) is, in fact, only 5% of the entire content of the Universe! It is also important to note that it is only 20% of the total mass of the Universe.
Sut mae hyn yn bosibl? Wel, yr ateb i’r cwestiwn hwn yw rhywbeth o’r enw Mater Tywyll sydd yn ffurfio gweddill màs y Bydysawd a 27% o’i gyfanswm. Popeth sydd yn rhan o’r 5% rydym y gallwm ei weld wedi yn cynnwys protonau a niwtronau ac fe gelwir yn fater cyffredin neu fater ‘baryionig’.How is this possible? Well the answer to this question is something called Dark Matter, which makes up the rest of the mass of the Universe and 27% of its total content. Everything that is part of the 5% we can see is made up of protons, neutrons and electrons and is known as ordinary matter or 'baryonic' matter.
Mae mater tywyll, fodd bynnag, wedi’i wneud o rywbeth hollol wahanol. Yn annhebygol i fater cyffredin nid yw’n allyrru, adlewyrchu nac amsugno unrhyw golau, sy’n esbonio’r enw, ac mae hyn yn ei wneud yn anodd i ddod o hyd iddo. Nawr, gadewch i ni geisio deall pwysigrwydd mater tywyll a dwi’n gobeithio erbyn diwedd yr erthygl hon byddwch chi yr un mor gyffrous ag yr wyf i am y pwnc hwn.Dark matter, however, is made of something entirely different. Unlike ordinary matter it doesn’t emit, reflect or absorb any light, hence the name, and this makes it hard to find. Now let’s try and understand the importance of dark matter and hopefully by the end of this article you will be as excited as I am about this topic.
Ar y pwynt hwn efallai eich bod chi’n meddwl “Felly, nid allwn ni ei weld… pam ddylai fod yn fater pwysig i mi?” (no pun intended). Wel, am un peth, os nad oedd mater tywyll yn bodoli ni fyddem yn bodoli! Hefyd, er na allwn ei weld yn uniongyrchol, gallwn deimlo ei effeithiau. Mae mater tywyll ym mhobman, gan gynnwys yr ystafell rydych chi’n eistedd ynddo ar hyn o bryd wrth i chi ddarllen hyn! Y broblem yw nad yw’n rhyngweithio’n â mater cyffredin a dyna pam na chafodd ei ganfod eto.At this point you may be thinking “So, we can’t see it… why should it matter to me?” (no pun intended). Well, for one thing, if dark matter didn’t exist, we wouldn’t exist! Although we can’t see it directly, we are able to feel its effects. Dark matter is everywhere, including the room you’re currently sitting in as you’re reading this! The problem is that it doesn’t interact with ordinary matter and that’s why it hasn’t been directly detected yet.
Felly, sut ydym ni’n gwybod ei fod yn bodoli? Roedd gwyddonwyr yn astudio sut mae galaethau’n cylchdroi ac roeddent yn disgwyl gweld seren yn agos i ganol y galaeth yn symud yn gyflymach na seren ymhellach i ffwrdd o’r canol. Yn hytrach, roedd yr hyn a ganfuwyd yn eithaf gwahanol. Ar ôl cynydd cychwynnol cyflymder troellog y sêr yn rhan ganolog y galaeth, roedd sêr yn ymddangos i symud efo tua’r un cyflymder er gwaethaf y pellter o’r canol yn cynyddu. Os mai dim ond y mater cyffredin a oedd yn bresennol yn y galaeth byddai’n cytuno â'r hyn y mae’r gwyddonwyr yn disgwyl ei weld. Nid yw’r holl fater cyffredin yn cynhyrchu digon o ddisgyrchiant i gyfrif am ba mor gyflym mae’r sêr yn symud.So, how do we know that it exists? Scientists were studying how galaxies rotate and they expected to see that a star that is found near the centre of the galaxy would move faster than a star much further away from the centre. Instead what they found was quite different. After an initial increase in rotational speed of the stars in the central part of the galaxy, the stars seemed to be moving at approximately the same speed despite the distance from the centre increasing. If only the ordinary matter was present in the galaxy then it would agree with scientific predictions. All the ordinary matter doesn’t produce enough gravity to account for how fast the stars are moving.
Felly, mae hyn yn awgrymu bod yna màs ychwanegol ym mhresennol i roi sylw i’r hyn a arsylwyd ganddynt. Mae’r màs ychwanegol hwn yn (yr hyn a elwir) fater tywyll ac hebddo byddai’r galaethau’n rhwygo ar wahân, sy’n golygu na fyddem yn bodoli. Mae mater tywyll yn gweithredu fel sgaffaldiau sy’n caniatáu i strwythurau ar raddau fawr fel galaethau i ffurfio. Ni fyddai’r strwythurau hyn yn gallu ffurfio gyda disgyrchiant o fater cyffredin yn unig.So, this suggests that there is extra mass present to account for the observations. This extra mass is (what is known as) dark matter and without it the galaxies would rip apart, which means we wouldn’t exist. Dark matter acts like a scaffolding which allows large scale structures such as galaxies to form. These structures wouldn’t be able to form with gravity from only ordinary matter.
Gallwn amcangyfrif faint o fater tywyll sydd ar gael o faint yn gyflymach mae’r sêr yn symud nag y dylent fod os mai dim ond mater cyffredin yn bodoli. O’r arsylwadau, amcangyfrif bod yna dros 5 gwaith yn fwy yn bresennol na’r mater cyffredin yn y Bydysawd.We can estimate how much dark matter is present from how much faster the stars are moving than they should be. From observations, it is estimated that there is over 5 times more than ordinary matter present in the Universe.
Beth mae’n cael ei wneud o? Wel, fel y dywedais yn flaenorol, nid yw mater tywyll wedi ei ganfod yn uniongyrchol eto, ond mae gwyddonwyr yn parhau i gael syniadau o’r hyn y mae’n cael ei wneud ohonno. Mae llawer o ymgeiswyr ar gyfer mater tywyll yn cael eu gwneud o gronynnau isatomig sy’n hollol wahanol i unrhyw gronyn a ddarganfuwyd erioed o’r blaen. Mae rhai gwyddonwyr hyd yn oed yn credu y gallai mathau penodol o dyllau du fod yn fater tywyll.What is it made of? Well, as I previously mentioned dark matter hasn’t been detected directly yet, but scientists are continually coming up with ideas of what it could be. Many candidates for dark matter are subatomic particles which are entirely different from any particle that has ever been discovered before. Some scientists even believe that certain types of black holes could be dark matter.
Sut mae gwyddonwyr yn ceisio dod o hyd i fater tywyll? Prif nod yr arbrofion hyn yw i gynhyrchu golau o’r gronynnau hyn. O dan amodau penodol, dylai fod yn bosib i wrthdrawiadau rhwng y gronynnau mater tywyll hyn a’r gronynnau mater cyffredin ddigwydd a fyddai’n cynhyrchu ffotonau (gronynnau golau) o egni penodol. Byddai hyn yn rhoi arwydd clir o’u bodolaeth.How are scientists trying to find dark matter? The main aim of these experiments is to produce light from these particles. Under certain conditions it should be possible for collisions between these dark matter particles and ordinary matter particles to occur which would produce photons (light particles) of specific energies. This would give a clear indication of their existence.
Beth yw dyfodol mater tywyll? Y gobaithiad sydd gan gwyddonwyr yw lleihau’r posibiladau o beth gallai y rhan dirgel a phwysig yma o’r Bydysawd bod. Er gwaethaf y broblem bresennol o wyddonwyr yn methu â chanfod mater tywyll, mae’r canlyniadau negyddol o’r profiadau yn helpu i lleihau’r nifer o ymgeiswyr. Drwy wybod beth nid yw rhywbeth mae’n helpu i ganolbwyntio ar yn hyn y mae e. O hyn gobeithir canfod mater tywyll yn uniongyrchol trwy un o’r nifer o arbrofion sy’n astudio i’w bodolaeth ar hyn o bryd. Unwaith y darganfyddwyd tystiolaeth arbrofol clir o fodolaeth mater tywyll (o arsylwadau) yna byddwn yn dechrau cael gwell dealltwriaeth o ddarn arall yn y pos cosmig gwych. What is the future of dark matter? The hope of scientists is to narrow down the possibilities of what this mysterious and vital part of the Universe is. Despite the current problem of scientists being unable to detect dark matter, negative results from experiments help to narrow down the number of candidates. By knowing what something isn’t it will help to focus on what it is. From this it is hoped to directly detect dark matter by means of one of the many experiments currently investigating its existence. Once clear experimental evidence of dark matter’s existence (from observations) has been found then we will start to have a greater understanding of another piece in the great cosmic puzzle.
Nawr efallai y byddwch yn meddwl “Beth am y 68% arall o’r Bydysawd?!” Mae’n debyg nad yw’n cael ei wneud o unrhyw fath o fater ac fe’i gelwir yn Egni Tywyll, sy’n hyd yn oed yn fwy dirgel na Mater Tywyll. Fodd bynnag, mae hwnnw’n destun trafodaeth am ddiwrnod arall...Now you may be wondering “What about the other 68% of the Universe?!” It seems that it is not made from any type of matter and is called Dark Energy which is an even more mysterious than Dark Matter. That, however, is a topic of discussion for another day…

Mae mwy o wybodaeth am Fater Tywll yma:
https://www.nasa.gov/subject/6891/dark-energy-and-dark-matter
https://www.space.com/20930-dark-matter.html
https://www.space.com/39001-dark-matter-doesnt-exist-study-suggests.html


Erthygl ar gael i lawrlwytho ar Apple Books, PDF & Kindle / Article available to download on Apple Books, PDF & Kindle:

Apple Books logo

PDF logo

Kindle logo

Gerifa Gofod

]]>
Gwyn Griffiths: The Old Red Tongue- Cyflwyno’r gorau o lenyddiaeth Gymraeg mewn un gyfrol / Presenting the finest Welsh literature in one volume https://parallel.cymru/the-old-red-tongue/ Fri, 17 Nov 2017 12:43:02 +0000 http://parallel.cymru/?p=1263 Mae The Old Red Tongue yn flodeugerdd bwysig sy’n cynnwys mwy na 300 o destunau Cymraeg — cerddi, dramâu, cofiannau, traethodau, detholiadau o nofelau a straeon byrion, emynau, molawdau, marwnadau, rhyddiaith ganoloesol, sylwebaeth wleidyddol a diwinyddol — gan tua 200 o ysgrifenwyr sy’n dod o bob cyfnod o’r 6ed ganrif i’r dydd heddiw. Yn ogystal â bod yn antholeg gynhwysfawr, mae’n unigryw am mai i bob eitem y mae cyfieithiad Saesneg ynghyd â chyflwyniad i’r awdur a’r cyd-destun. Mae’n gyflwyniad perffaith i lenyddiaeth Gymraeg ar gyfer darllenwyr parallel.cymru. Yma, mae Gwyn Griffiths, un o’r cyd-olygyddion, yn disgrifio’r prosiect, gan roi arolwg ar ei gwmpas a sut y dygwyd i fywyd.

The Old Red Tongue is a major anthology of over 300 Welsh texts – poems, plays, memoirs, essays, extracts from novels and short stories, hymns, eulogies, elegies, medieval prose, political and theological commentaries – from nearly 200 writers covering every period from the 6th century to the present day. As well as being a comprehensive anthology, it is unique in that every item has an English translation plus an introduction to the author and context. It is a perfect introduction to Welsh literature for parallel.cymru readers. Here, Gwyn Griffiths, one of the co-editors, describes the project, an overview of its scope and how it came to be brought to life.


Yn anffodus mae Gwyn a Meic wedi huno bellach, ond dysgwyr Cymraeg, ac mewn gwirionedd pawb sydd â diddordeb o unrhyw fath mewn llenyddiaeth Gymraeg, a fydd wastad yn ddiolchgar iddynt am y detholiad dwyieithog ardderchog hwn. Roeddem yn sefyll y tu allan, gan dybio, ac fe’n gwahoddasant i mewn a rhoi inni’r allweddi i lawer o ddrysau.

Gwyn and Meic have now sadly passed on, but Welsh learners, and indeed anyone with any kind of interest in Welsh literature, will always be grateful to them for this wonderful dual-language anthology. We stood outside, wondering, and they invited us in and gave us the keys to many doors.

Er cof am Meic Stephens, 1938 – 2018 & Gwyn Griffiths, 1941 – 2018


Roedd yr The Old Red Tongue yn brosiect uchelgeisiol a gymerodd tua phedair blynedd i’w gwblhau. I wlad fach gydag iaith na fu ganddi erioed fwy na miliwn o siaradwyr mae iddi draddodiad llenyddol rhyfeddol gyfoethog. Bûm yn gyd-olygydd cyfrol gyntaf cyfres Francis Boutle o antholegau o ieithoedd lleiafrifol Ewrop – sef y flodeugerdd Lydaweg, The Turn of the Ermine. Hon sefydlodd y patrwm i’r antholegau eraill. Cymerais ddiddordeb yn y cyfrolau ddaeth wedyn – Manaweg, Galego, Malteg, Ocsitaneg ac yn y blaen – a’r un pryd cawn fy atgoffa gan y cyhoeddwr ei bod yn hen bryd i’r Gymraeg gael ei lle yn y gyfres. The Old Red Tongue was an ambitious project that took four years to complete. For a small country with a language that may never have been spoken by more than a million people it has a phenomenally rich literary tradition. I was joint editor of the first volume in the Francis Boutle series of anthologies from Europe’s lesser used languages – the Breton anthology, The Turn of the Ermine. This became a template for the other anthologies. I took an interest in those ensuing volumes – Manx, Galician, Maltese, Occitan and so on – while being reminded from time to time by the publisher that the Welsh language deserved an anthology.
Cytunais, ond roeddwn i’n ymwybodol ei fod yn brosiect brawychus. Roedd y Gymraeg yn wahanol i’r lleill – ag eithrio Ocsitaneg efallai – gan fod iddi gymaint o gyfoeth a byddai’r dewisiadau’n anodd. Ffenest siop fyddai’r Old Red Tongue i’n traddodiad llenyddol, ond gyda’r cynllun o gyflwyniadau Saesneg, testun gwreiddiol a chyfieithiad o’r testun hwnnw, byddai yma olwg o hanes Cymru hefyd. Golwg weithiau’n wahanol i’r hyn yr ydym yn gyfarwydd ag e, a weithiau’n cynnig gwybodaeth anghyfarwydd i’r darllenydd cyffredin.I agreed, but I knew that it was a terrifying project. Welsh was different from the others – with the exception, perhaps, of Occitan – in that it had an embarrassment of riches and difficult choices would have to be made. The Old Red Tongue would be a shop window to our literary tradition, but with its format of English introductions, original text followed by a translation of that text we had the opportunity to present a view of Welsh history, too. A view that is sometimes different from what we may be familiar with, and sometimes offering information unfamiliar to the ordinary reader.
Ased mwyaf y prosiect oedd Meic Stephens. Mae ei wybodaeth o lenyddiaeth Cymru’n rhyfeddod ac y mae ei lyfrgell enfawr, wedi’i threfnu’n ofalus, bron cyn bwysiced. Yn ogystal, roedd gennym Clive Boutle o gwmni cyhoeddi Francis Boutle, gŵr amyneddgar, llawn hiwmor a brwdfrydedd i’n tywys a’n hannog i ben y daith. The greatest asset for the project was Meic Stephens. His knowledge is formidable and his vast, carefully catalogued library equally important. Added to that we had Clive Boutle of Francis Boutle Publishers, whose patience, good humour and enthusiasm saw us through to the end.
Caf fy synnu’n aml fod Cymry, hyd yn oed, yn anwybodus ynglŷn ag oed yr iaith Gymraeg a bod y farddoniaeth gynharaf ynddi wedi’i ysgrifennu yn yr ‘Hen Ogledd’ gan Aneirin a Taliesin oddeutu’r 5ed a’r 6ed ganrif. Dilynwyd hynny gan gorff o farddoniaeth a ysgrifennwyd yn yr hyn sydd bellach yn Orllewin Canolbarth Lloegr, gweithiau a briodolir i Lywarch Hen, a chylch ‘Heledd’ o gerddi. Os, fel yr ydym yn ei amau, yr ysgrifennwyd cerddi ‘Heledd’, sy’n galaru’r golled a dinistr Neuadd Cynddylan, gan ferch, yna yn y Gymraeg y cafwyd y farddoniaeth gynharaf gan ferch mewn unrhyw iaith Ewropeaidd sy’n parhau i gael ei siarad heddiw. I am often surprised that people even within Wales don’t know that the Welsh language is very old and that the earliest Welsh poetry was written in the ‘Old North’ of Scotland and England by Aneirin and Taliesin around the 5th and 6th centuries. That was followed by a body of poetry written in what is today the West Midlands of England, some of it attributed to Llywarch Hen, and the ‘Heledd’ cycle. If, as we suspect, the ‘Heledd’ poems grieving the loss and devastation of the Hall of Cynddylan were written by a woman then the Welsh language has the oldest poetry written by a woman in any living European language.
Roedd i’r bardd le pwysig yn llysoedd brenhinoedd a thywysogion Cymru, fel ag yr oedd gan y Trwbadwriaid yn llysoedd de Ffrainc, y Sgald yn Norwy ac Ynys yr Iâ a beirdd Iwerddon.The poet played an important role in the courts of the Welsh kings and princes, much like that of the Troubadours in the courts of southern France, the Skald poets of Norway and Iceland and the Irish poets.
Nod yr Old Red Tongue yw cyflwyno naws a blas yr hyn sydd orau mewn llenyddiaeth Gymraeg, o’r cyfnod cynnar i ddatblygiadau gwych heddiw. Yn unigryw ymhlith antholegau o lenyddiaeth Gymraeg mewn cyfieithiad, mae’n cynnwys rhyddiaith yn ogystal â barddoniaeth.The Old Red Tongue has aimed to give a taste of all that is best in Welsh language literature, from the very earliest times to the flourishing renaissance of today. Unique among anthologies of Welsh language literature in translation, it includes prose as well as poetry.
Mae Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr yn rhoi cipolwg o fywyd yn y cyfnodau cyffrous a pheryglus hynny. Mae Dafydd ap Gwilym yn cael y sylw haeddiannol un o feirdd mwyaf Ewrop ei gyfnod. Ysgrifennodd Iolo Goch yn ystod cyfnod cynnar Owain Glyndwr, ac mae gennym feirdd yn ysgrifennu tra ar ffo wedi diwedd gwrthryfel Owain Glyndwr. Mae yma feirdd a ganmolodd y Tuduriaid ac a fu’n allweddol i achos y Tuduriaid, a rhai a surodd wrth y Tuduriaid. The Poets of the Princes and the Poets of the Gentry give insight into what life was like in those turbulent times. Dafydd ap Gwilym gets all the attention due to one of Europe’s greatest poets of his time. Iolo Goch wrote in the time of Owain Glyndwr, and we have poets who wrote while in hiding after the Owain Glyndwr uprising had burned itself out. We have poets who wrote in praise of the Tudors and were vital to the Tudor cause, and those who became disillusioned with the Tudors.
Yn gefndir i’r cerddi hyn y mae datblygiad y ffurf ryfeddol hwnnw o ganu caeth – y gynghanedd. Nodwedd o draddodiad barddol gogledd Ewrop yw cyflythreniad ac y mae odl fewnol yn nodwedd bwysig o farddoniaeth trwbadwriaid de Ewrop. Ai cyfuniad o’r ddau draddodiad yna roddodd i ni berffeithrwydd cymhleth a swynol y gynghanedd. Ai dylanwadau allanol roddodd gychwyn i ddatblygiad y gynghanedd? A background to these poems is poetic embellishments such as alliteration – a feature of the northern European poetic tradition – and internal rhyme – a feature of the poetry of the southern troubadours evolving into the intricate and the musical perfection of cynghanedd. Were there external influences on the development of cynghanedd?
Mae rheswm dros gredu i draddodiad llenyddol Cymru greu argraff ar y Normaniaid. Awgrymodd W. J. Gruffydd na fyddai’r Mabinogi wedi goroesi i’n dyddiau ni, oni bai am chwaeth dda’r Normaniaid. Awgrymodd Bobi Jones y gallai ffynonellau’r Tair Rhamant – Peredur / Perceval, Iarlles y Ffynnon / Owein neu The Lady of the Fountain, a Geraint fab Erbin fod wedi dablygu yr un pryd yn y Gymraeg a’r Ffrangeg mewn cymdeithas ddwyieithog.There is reason to believe that the Normans were impressed by the literary tradition of Wales. W. J. Gruffydd suggested that the Mabinogi may not have come down to us today were it not for the good taste of the Normans. Bobi Jones suggested that the sources of the Three Romances – Peredur / Perceval, Iarlles y Ffynnon / Owein or the Lady of the Fountain, and Geraint son of Erbin may have evolved simultaneously in Welsh and French in a bilingual society.
Mentrwyd cynnwys ambell gyfieithiad – ceir dau ddarn byr o gyfieithiadau o’r Beibl sy’n hŷn na William Morgan a cheir darn byr o gyfieithiad gorchestol William Morgan oherwydd ei ddylanwad mawr ar yr iaith lenyddol Gymraeg. Rydyn ni wedi cynnwys Ystorya Trystan ac Esyllt, stori Gymraeg mewn cerdd a rhyddiaith sy’n annhebyg i stori Trystan ac Esyllt fel yr ydym ni’n gyfarwydd â hi. Ceir darnau o gynghorion Meddygon Myddfai, sy’n awgrymu cysylltiadau meddyginiaethol ledled Ewrop. Ceir darn o Historia Gruffudd vab Kenan sy’n disgrifio Brwydr Mynydd Carn. In prose we included translations from other languages – there are two short snippets of translations of the Bible into Welsh pre-dating William Morgan. There is a short extract from William Morgan’s magisterial translation of the Bible, because of its huge influence on literary Welsh. We have included Ystorya Trystan ac Esyllt, a Welsh tale in prose and verse that bears little resemblance to the story of Trystan and Esyllt as we know it. There are extracts from the Physicians of Myddfai, who must have been part of some pan-European medicinal tradition. There is an extract from Historia Gruffudd vab Kenan, about the Battle of Mynydd Carn.
Ni ddylid anghofio rhai o ddisgynyddion y rheini a ddaeth i Gymru yn sgil y Normaniaid. Daethant i ysbeilio, ond daethant o hyd i draddodiad llenyddol y daeth rhai ohonynt i’w fwynhau a daeth rhai o’u disgynyddion yn well Cymry na’r Cymry eu hunain. William Salesbury, er enghraifft, a sylweddolodd bwysigrwydd y wasg argraffu ac onibai amdano ef mae’n debygol na fyddai’r iaith Gymraeg wedi goroesi i’n dyddiau ni. Mae ei ddatganiad yn ei gyflwyniad i’r diarhebion Cymraeg a gasglwyd gan Gruffydd Hiraethog yn faniffesto dros oroesiad yr iaith, yn apêl i’w chyweirio a’i pherffeithio i’w gwneud yn gymwys ar gyfer pob defnydd a phob pwnc. Mae Gruffydd Robert Milan yma, Sion Dafydd Rhys, Cyflwyniad Richard Davies i gyfieithiad William Salesbury o’r Testament Newydd. Syniadau Dyneiddiol cain mewn rhyddiaith ardderchog...Let us not forget some of the descendants of those who came in the wake of the Normans. They came to plunder, but found a literary tradition which some came to enjoy and their descendants became better Welshmen than the Welsh themselves. William Salesbury, for example, who realised the importance of the printing press and without whom the Welsh language may not have survived to this day. His preface to the Welsh proverbs collected by Gruffydd Hiraethog is a manifesto for the survival of the language, an appeal to repair and perfect the language to make it suitable for all uses and all subjects. Gruffydd Robert Milan is here, Sion Dafydd Rhys, Richard Davies’s Introduction to Wiliam Salesbury’s translation of the New Testament. Fine Humanist ideas in splendid prose...
Awn rhagom drwy’r canrifoedd yng nghwmni Morgan Llwyd, Elis Wyn, y Ficer Rhys Prichard at yr emynwyr mawr, Williams Pantycelyn ac Ann Griffiths. Wedyn daeth radicaliaid a heddychwyr 19eg ganrif – Samuel Roberts, Gwilym Hiraethog a Henry Richard. Yn yr 20fed ganrif gwelwyd adfywiad rhyfeddol a adlewyrchir yn y ffaith bod hanner y llyfr wedi’i neilltuo i’r ganrif honno. T. Gwynn Jones, O. M. Edwards, Saunders Lewis, Waldo Williams, Gwenallt, Parry-Williams, Williams Parry – mae’n rhestr ddiddiwedd. And on through the centuries with Morgan Llwyd, Elis Wyn, the Vicar Rhys Prichard to the great hymn writers, Williams Pantycelyn and Ann Griffiths. The hymn writers and the Revivals were followed by the radical writers and pacifists of the 19th century – Samuel Roberts, Gwilym Hiraethog and Henry Richard. The 20th century saw an astonishing renaissance which is reflected in the fact that half the book is devoted to that century. T. Gwynn Jones, O. M. Edwards, Saunders Lewis, Waldo Williams, Gwenallt, Parry-Williams, Williams Parry – it is an endless list.
Lle mae cyfieithiadau da yn bodoli fe’u defnyddiwyd. Y tri meistr mwyaf diwyd o gyfieithwyr o’r Gymraeg i’r Saesneg yn yr 20fed ganrif oedd Gwyn Williams, Tony Conran a Joseph Clancy. Ychwanegaf enw Meic Stephens at y tri nodedig yna am ei gyfraniad enfawr fel cyfieithydd llawer o awduron yr 20fed ganrif, yn eu plith Saunders Lewis, Islwyn Ffowc Elis a Rhydwen Williams. Yr ydym wedi cynnwys cyfieithiadau gan eraill, y cynharaf mae’n debyg oedd Ieuan Brydydd Hir yn y 18fed ganrif. Roeddent yn bwysig er mwyn i’r darllenydd gael blas o gyfieithiadau o ganrifoedd eraill.Where fine translations exist they have been used. The three masters of translations from Welsh into English in the 20th century were Gwyn Williams, Tony Conran and Joseph Clancy. I shall add the name of Meic Stephens to that distinguished trio for his huge contribution as translator of many of our 20th century writers including Saunders Lewis, Islwyn Ffowc Elis and Rhydwen Williams. We have included translations by others, the earliest I think was Ieuan Brydydd Hir in the 18th century. We thought it important that readers should have a taste of translations from other centuries.
Ac eithrio rhai testunau Lladin, yn arbennig er mwyn bwrw golwg ar hanes cynnar yr Eglwys Geltaidd, ac ychydig o ddarnau byr gan Gildas, Nennius, Sieffre o Fynwy a Gerallt Gymro, rydym wedi osgoi cynnwys testunau o unrhyw iaith heblaw’r Gymraeg. With the exception of some Latin texts notably those casting light on the history of the Celtic Church, and a few short extracts from Gildas, Nennius, Geoffrey of Monmouth and Gerald of Wales we have avoided including texts from any other language but Welsh.
Gwyn Griffiths, mis Tachwedd 2017.Gwyn Griffiths, November 2017.

Nod yr Old Red Tongue yw cyflwyno naws a blas yr hyn sydd orau mewn llenyddiaeth Gymraeg, o’r cyfnod cynnar i ddatblygiadau gwych heddiw.

Cyhoeddir The Old Red Tongue (golygyddion: Gwyn Griffiths a Meic Stephens) gan Francis Boutle, Llundain, pris £30
The Old Red Tongue (editors: Gwyn Griffiths and Meic Stephens) is published by Francis Boutle, London, price £30.

Gwyn Griffiths (ar y chwith) a Meic Stephens (ar y dde).

The Old Red Tongue Gwyn Griffiths a Meic Stephens
Llwytho i Lawr fel PDF

Rhestr o gynnwys / List of contents

The Celtic Church and the Age of Saints
Anonymous:
Liber Landavensis/Lyvr Teilo
Rhygyfarch:
Buchedd Dewi/Life of St David

The Chroniclers
Gildas:
De Excidio Britanniae/On the destruction of Britain
Nennius:
Historia Brittonum/History of the Britons

Early poetry
Aneirin:
Y Gododdin/The Gododdin
Taliesin:
I Urien Rheged/In praise of Urien Rheged
Gweith Argoet Llwyfein/The Battle of Argoed Llwyfain
Anonymous:
Claf Abercuawg/The Leper of Aber Cuawg
Anonymous
Galargan Llywarch Hen/The Complaint in Old Age
Anonymous:
Stafell Gynddylan/ The Hall of Cynddylan
Eryr Pengwern/The Eagle of Pengwern
Englynion y Beddau/Stanzas of the Graves
Anonymous:
Armes Prydein/The Prophecy of Britain
Anonymous:
Peis Dinogad/Song for a Small Boy
Anonymous:
Preidau Annwn/The Spoils of Annwn
Anonymous:
Moliant Dinbych Penfro/Praise of Tenby
Anonymous:
Tristwch yn y Gwanwyn/Sadness in Springtime
Anonymous:
Gogoneduac Argluit/Benediction
Anonymous
Boddi Maes Gwyddneu/The Drowning of Maes Gwyddno
Anonymous:
Gwirebau/Gnomic Stanzas

Triads of the Isle of Britain
Anonymous:
Enweu Ynys Prydein/Names for the Isle of Britain
Detholiad o Drioedd/A selection of Triads
Trioedd y Meirch/Triads of Horses
Pedwar Marchog ar Hugain Llys Arthur/The Twenty-four Knights of Arthur’s Court
Variations on the Triads

Medieval Prose
Anonymous:
Pedair Cainc y Mabinogi/The Four Branches of the Mabinogi
Anonymous:
Y Tair Rhamant/The Three Romances
Anonymous:
Trystan ac Esyllt/Trystan and Esyllt
Geoffrey of Monmouth:
Historia Regum Britanniae/A History of the Kings of Britain
Gerald of Wales:
Itinerarium Kambriae/Itinerary through Wales
Descriptio Kambriae/Description of Wales
Anonymous:
The Laws of Hywel Dda
Anonymous:
Early translations of the Bible
Meddygon Myddfai/The Physicians of Myddfai
Brwydr Mynydd Carn/The Battle of Mynydd Carn

Poets of the Princes
The Bardic Order
A note on cynghanedd
Meilyr Brydydd:
Marwysgafyn veilyr brydyt/Deathbed poem
Owain Cyfeiliog:
Hirlas Owain/Owain’s Drinking Horn
Gwalchmai ap Meilyr:
Arwyrain Owain Gwynedd/The Battle of Tâl Moelfre
Hywel ab Owain Gwynedd:
Gorhoffet/Exultation
Cynddelw Brydydd Mawr:
Maruned Madawc fil Maredut/Lament for Madawg ap Maredudd
Peryf ap Cedifor:
Marwnad Hywel ab Owain Gwynedd/Lament for Hywel ab Owain Gwynedd
Einion ap Gwalchmai:
I Nest ferch Hywel/Lament for Nest
Madog ap Gwallter:
I Grist/The Nativity
Gruffudd ab yr Ynad Coch:
Marwnad Llywelyn ap Gruffudd/Lament for Llywelyn ap Gruffudd
Gruffudd ap Dafydd ap Tudur:
I Ferch/To a Girl

Dafydd ap Gwilym
Offeren y Llwyn/The Woodland Mass
Y Deildy/The House of Leaves
Y Bardd a’r Brawd Llwyd/The Poet and the Grey Friar
Merched Llanbadarn/The Girls of Llanbadarn
Y Gwynt/The Wind
Trafferth mewn Tafarn/In a Tavern
Cywydd y Gal/Reproach to his Penis

Poets of the Gentry
Gruffudd Gryg:
Yr Ywen uwchben bedd Dafydd ap Gwilym/The Yew Tree (above Dafydd ap Gwilym’s grave)
Llywelyn Goch ap Meurig Hen:
Marwnad Lleucu Llwyd/Lament for Lleucu Llwyd
Dafydd Bach ap Madog Wladaidd (Sypyn Cyfeiliog):
Croeso mewn llys/Welcome at a great house
Iolo Goch:
I Syr Hywel y Fwyall/To Sir Hywel of the Axe
Cywydd y Llafurwr/The Ploughman
Llys Owain Glyndŵr/Owain Glyndŵr’s Court at Sycharth
Gruffudd Llwyd ap Dafydd ab Einion Llygliw:
I Owain Glyndŵr/To Owain Glyndŵr
Llywelyn ap Moel y Pantri:
I frwydr Waun Gaseg/The Battle of Waun Gaseg
Rhys Goch Eryri:
I’r Llwynog/To the Fox
Ieuan Tew:
Kowydd i’r Herwyr/Cywydd to the Outlaws
Dafydd Nanmor:
Marwnad Merch/Lament for Gwen
Siôn Cent:
I Wagedd ac Oferedd y Byd/The Vanity of the World
Ieuan ap Gruffydd Leiaf:
Dafydd ap Siencyn/To Dafydd ap Siencyn
Tudur Penllyn:
Cywydd Moliant i Ddafydd ap Siencyn/In Praise of Dafydd ap Siencyn
I Saison Flint/The Englishmen of Flint
Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd:
Cywydd i’r Brenin Richard/Cywydd to King Richard
Cywydd i’r Brenin Harri’r Seithfed/Cywydd to King Henry VII
Guto’r Glyn:
Moliant i Fathau Goch o Faelor/In Praise of Matthew Gough of Maelor
Moliant i Syr Rhisiart Gethin/In praise of Sir Richard Gethin
Cywydd Gofyn am Gorn Hela/A Cywydd to request a Hunting Horn
Marwnad i Lywelyn ab y Moel/Lament for Llywelyn ab y Moel
Robert ap Gruffudd Leia:
Cywydd i Galais a’i Milwyr/Cywydd to Calais and its Soldiers
Dafydd ab Edmwnd:
I Wallt Merch/To a Girl’s Hair
Marwnad Siôn Eos/Lament for Siôn Eos
Tudur Aled:
I Ofyn March/To ask for a Stallion
Cywydd cymod/A Plea for Peace
Lewys Glyn Cothi (Llywelyn y Glyn):
Marwnad Siôn y Glyn/Lament for Siôn y Glyn
Dychan i Wŷr Gaer/Satire on the Men of Chester
Gwerful Mechain:
Cywydd y Cedor/The Female Genitals
Llywelyn ap Hywel:
Cwyn yn erbyn Harri VII/Complaint to Henry VII

The 16th and 17th centuries
Anonymous:
Coed Glyn Cynon/The Woods of Cynon
Richard Davies:
Rhagait i Gyfieith/Preface to William Salesbury’s translation of the New Testament
John Prys:
Yn y Llyvyr hwnn…/In this Book…
Lewys Morgannwg:
Cywydd Illtud Sant/Cywydd to St. Illtud
Awdl Foliant i Lleision, Abad Nedd/Ode in praise of Lleision, Abbot of Neath
Moliant Mair o Ben-rhys/In Praise of the Virgin Mary of Pen-rhys
William Salesbury:
Oll Synnwr y Pen Kembero Ygyd/All the Wisdom in a Welshman’s Head
Siôn Tudur:
Cywydd i’r Beirdd/Warning to the Poets
Gruffydd Robert:
Dosbarth byrr…/A Short Petition…
Siôn Dafydd Rhys (John Davies):
Cambrobrytannicae Cymraeccaeve Linguae Institutiones et Rudimenta/The Principles and Essence of the Welsh Language
Edmwnd Prys:
Balet Cymraeg/A Welsh Ballad
William Morgan:
Psalm Dafydd/The Twenty-third Psalm
Rhys Prichard (Yr Hen Ficer):
Dyledswydd Plant i’w Rhieni/The Duty of Children to their Parents
Awn i Fethlem/Let us go to Bethlehem
Wiliam Phylip:
Ffarwel i Hendre Fechan/A Leave-taking
Wiliam Cynwal:
O Blaid y Gwragedd/In Defence of Woman
Morgan Llwyd:
Llyfr y Tri Aderyn/Book of the three birds
Huw Morus (Eos Ceiriog):
I Hyfawl Rian/In Praise of a Girl
Anonymous:
Stanzas for the harp

The 18th century
Ellis Wynne:
Gweledigaetheu y Bardd Cwsc/Vision of the World
Lewis Morris (Llywelyn Ddu o Fôn):
Cywydd y Rhew a’r Eira/Poem of the Frost and Snow
Caniad y Gog i Feirionnydd/The Cuckoo’s Song for Meirionnydd
Dafydd Jones:
Mae plant y byd yn holi/Men of the world are asking
Morgan Rhys :
Beth sydd imi yn y byd?/What have I in all my life?
Pan sycho’r moroedd dyfnion maith/When oceans vast their depths reveal
Pantycelyn (William Williams):
Arglwydd, arwain trwy’r anialwch/Guide Me, O Thou Great Jehovah
Rwy’n edrych dros y bryniau pell/I look across the distant hills
Pererin wyf mewn anial dir/Pilgrim
Mi dafla’ ’maich oddi ar fy ngwar/I’ll throw my burden from my back
Dafydd Wiliam:
Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau/In the waves and mighty waters
Goronwy Owen (Goronwy Ddu o Fôn):
Unig Ferch y Bardd/The Poet’s Only Daughter
Cywydd y Farn Fawr/Domesday
Evan Evans (Ieuan Fardd, Ieuan Brydydd Hir):
Llys Ifor Hael/The Hall of Ifor Hael
Twm o’r Nan (Thomas Edwards):
Cyfoeth a Thlodi/Riches and Poverty
Iolo Morganwg (Edward Williams):
Cywydd i Yrru yr Haf i Annerch Morganwg/To Send the Summer to Address Glamorgan
Cân y Fronfraith/Song of the Thrush
Hugh Jones:
O! tyn y gorchudd yn y mynydd hyn/O pull aside the veil
Thomas William Bethesda’r Fro:
’Rwyf innau’n un o’r lliaws mawr/I also, like so many more
David Charles:
Rhagluniaeth fawr y nef/Great providence of heaven
Mae ffrydiau’n gorfoledd yn tarddu/From life’s dreary desert ascending
Jac Glan-y-gors (John Jones):
Seren tan Gwmwl/The Morning Star of Liberty
Pedr Fardd (Peter Jones):
Cyn llunio’r byd, cyn lledu’r nefoedd wen/Far before time, beyond creation’s dawn
Ann Griffiths:
Er mai gwbwl groes i nattur/Though altogether against nature
Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd/There he stands between the myrtles
O am gael ffydd i edrych/O to have faith to look

The 19th century
Ieuan Glan Geirionydd (Evan Evans):
Ysgoldy Rhad Llanrwst/The Free School-house, Llanrwst
Alun (John Blackwell):
Cathl i’r Eos/Song to the Nightingale
Samuel Roberts (S.R.):
Credo Heddychwr/A Pacifist’s Credo
Eben Fardd (Ebenezer Thomas):
Dinistr Jerusalem/Jerusalem destroyed
Gwilym Hiraethog (William Rees):
Llythyr ’Rhen Ffarmwr/To the Editors of Yr Amserau
Cariad fel y moroedd/Love vast as the ocean
Ieuan ap Iago (Evan James):
Hen Wlad fy Nhadau/Land of my Fathers
Lewis Edwards:
Barddoniaeth y Cymry/The Poetry of the Welsh
Llenyddiaeth a Gwyddiant/Literature and Science
Talhaiarn (John Jones):
Plygeingân/A Morning Song
Henry Richard:
Echryslonrwydd Rhyfel/The Atrocity of War
R. J. Derfel:
Pethau a wnawn pe gallwn/What I would do if I could
Cyhoeddi yn y Gymraeg/Welsh publishing
Glasynys (Owen Wynne Jones):
Noson yn yr Hafod/A Merry Evening at the Hafod
Islwyn (William Thomas):
Y Storm/The Storm
Gwel, uwchlaw cymylau amser/Hymn
John Ceiriog Hughes:
Alun Mabon
Nant y Mynydd/Mountain Brook
Daniel Owen:
Wil Bryan ar y Seiat/Will Bryan on the Fellowship
Dydd o Brofedigaeth/Day of Tribulation
Glanffrwd (William Thomas):
Guto Nythbran/A Champion Runner
Emrys ap Iwan (Robert Ambrose Jones):
Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys/A Catholic’s Dream
Homiliau/Keep Yourselves a Nation
Anonymous:
Tanchwa Arall yng Nglofa y Morfa/Another explosion at Morfa Colliery
Llosgiad corff Dr Price/Cremation of Dr Price

The 20th century and early 21st centuries
O. M. Edwards:
Hen Gapel Llwyd/The Old Chapel
Ysgol y Pentref/The Village School
Enaid Cenedl/The Soul of a Nation
Elfed (Howell Elvet Lewis):
Cofia’n gwlad/Remember our country
John Morris-Jones:
Cwyn y Gwynt/The Wind’s Lament
Eifion Wyn (Eliseus Williams):
Cantref y Gwaelod/The Lowland Hundred
Eluned Morgan:
Arswyd y Môr/Fear of the Sea
T. Gwynn Jones:
Ystrad Fflur
Argoed
Crwys (William Williams):
Dysgub y Dail/Gathering Leaves
T. E. Nicholas:
Hiraeth am Forgannwg/Hiraeth for Glamorgan
Dewi Emrys (David Emrys James)
Pwllderi
W. J. Gruffydd:
Yr Ieuainc wrth yr Hen/The Young to the Old
Ywen Llanddeiniolen/The Yew of Llanddeiniolen
R. Williams Parry:
Y Llwynog/Fox
Eifionydd
D. J. Williams:
Yr Hen Dŷ Fferm/The Old Farm House
Tŷ Lodjin/In Lodgings
Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans):
Rhyfel/War
T. H. Parry-Williams:
Tŷ’r Ysgol/The School House
Yr Esgyrn Hyn/These Bones
Hon/This Country
Dychwelyd/Return
Kate Roberts:
Dim llythyr gan Twm/No Letter from Twm
Te yn y Grug /Tea in the Heather
Saunders Lewis:
Y Dilyw, 1939/The Deluge, 1939
Buchedd Garmon
Siwan
Cynan (Albert Evans-Jones):
Anfon y Nico/A Message Home
B. T. Hopkins:
Rhos Helyg
D. Gwenallt Jones:
Y Meirwon/The Dead
Y Dirwasgiad/The Depression
Sir Forgannwg a Sir Gaerfyrddin/Glamorgan and Carmarthenshire
E. Prosser Rhys:
Atgof/Memory
Iorwerth C. Peate:
Nant-yr-eira
Carol y Crefftwr/The Craftsman’s Carol
J. Kitchener Davies:
Sŵn y Gwynt sy’n Chwythu/The Sound of the Wind that is Blowing
T. Rowland Hughes:
Emyn/Hymn
Bwrw i’r Afon/Thrown in the river
Y nefoedd, dyma le!/Heavens, here’s a place!
Waldo Williams:
Geneth Ifanc/A Young Girl
Mewn Dau Gae/In Two Fields
Preseli
Pa Beth yw Dyn?/What is Man?
Wedi’r Canrifoedd Mudan/After Silent Centuries
Caradog Prichard:
Y Fargen/The Bargain
Un Nos Ola’ Leuad/One Moonlit Night
Thomas Parry:
Llywelyn Fawr/Llywelyn the Great
John Gwilym Jones:
Y Goeden Eirin/The Plum Tree
Euros Bowen:
Danadl ym Mai/Nettles in May
Pŵer y Gerdd/The Power of Song
Hyn sy’n Fawl/This is Praise
T. J. Morgan:
Defaid yn y Rhondda/Sheep in the Rhondda
Aneirin Talfan Davies:
Yr Artist yng Nghymru /The Artist in Wales
J. R. Jones:
Protestio protestio/Protest protest
Pennar Davies:
Cathl i’r Almonwydden/A Song for the Almond Tree
Nicé Adeiniog Samothrace/The Winged Niké of Samothrace
Disgyrchiant/Gravity
J. Gwyn Griffiths:
Yr Hen Iaith/The Old Language
Abw Simbel/Abu Simbel
Selyf Roberts:
Fioledau a Chlychau/Of Violets and Bells
Alun Llywelyn-Williams:
Cofio’r Tridegau/Remembering the Thirties
Y Gwrth-Gyrch/The Counter-Attack
Ar Ymweliad/On a Visit
D. Tecwyn Lloyd:
Bore da, Lloyd/Good morning, Lloyd
J. G. Williams:
Fy niwrnod olaf yn y carchar/A bloody rebel
Rhydwen Williams:
Y Ffynhonnau/Mountain Streams
Dyfnallt Morgan:
Y Llen/The Curtain
Emyr Humphreys:
Poughkeepsie
W. S. Jones:
Preifet Enterpryis/On Private Enterprise
Marion Eames:
Y Stafell Ddirgel/The Inner Light
I Hela Cnau/The Golden Road
Robin Williams:
Cusan Sanctaidd/An Holy Kiss
Islwyn Ffowc Elis:
Harri’n dod adref/A Homecoming
Hen Wraig y Bala/The Old Woman of Bala
Y Rhaid Sydd Arnaf/The Imperative upon Me
T. Glynne Davies:
Yr Hwsmon/The Bailiff
Nwy yn y Ffosydd/Gas in the Trenches
Gareth Alban Davies:
Caer Bwlch-y-Clawdd
Gwerin Chile/The Chilean People
Bobi Jones (R. M. Jones):
Gyrrwr Trên/Engine Driver
Menyw Feichiog/A Pregnant Woman
Yn yr Hwyr/In the Evening
Dafydd Rowlands:
Llifo’i Wraig yn Ddwy/Sawing his Wife in Half
Sgidiau Bach Llandeilo/The Little Llandeilo Boots
Gwenlyn Parry:
Y Saer Doliau/The Doll Doctor
R. Cyril Hughes:
Y Frenhines yn Siarad Cymraeg/The Queen Speaks Welsh
Harri Pritchard Jones:
Y Wyrth/The Miracle
Bryan Martin Davies:
Glas/Blue
Fioled/Violet
R. Gerallt Jones:
Y Gwrandawr/The Listener
Yasnaya Polyana
Dic Jones (Richard Lewis Jones):
Gofyn am Godiad Cyflog/Petition for a Pay-rise
Medi/Reaping
Galarnad/Lamentation
T. James Jones:
Iau/Thursday
Sul/Sunday
T. Arfon Williams:
Y Llechfaen/Quarry
Mis Mai/The Month of May
Gwyn Thomas:
Hen Beth/An Old Thing
Ceffylau/Horses
Wedi Byw/Lived a Life
John Rowlands:
Y tanciau Sofietaidd/The Soviet invasion
Jane Edwards:
Blind Dêt/Only for a walk
Gareth Miles:
Cenhadon Hedd/Keepers of the Peace
Eigra Lewis Roberts:
Gormod o Haul/An Overdose of Sun
Donald Evans:
Diwrnod Lladd Mochyn/Pig Killing Day
Gwerin/The People
Derec Llwyd Morgan:
Helynt Cofrestru’r Fechan/Trouble Registering the Little One
Meirion Pennar:
Ceinciau Mabinogi/Branches of a Mabinogi
Gerallt Lloyd Owen:
Etifeddiaeth/Inheritance
I’r Farwolaeth/To the Death
Fy Ngwlad/My Country
Nesta Wyn Jones:
Cae o Wenith/A Field of Wheat
Heini Gruffudd:
Cymru Sicstinein/Wales Sixty-nine
D. Cyril Jones:
Dolenni/Links
Manon Rhys:
Cwtsho/Cwtshing
Alan Llwyd:
Y Gymraeg/The Welsh Language
Yr Hebog uwch Felindre/The Hawk above Felindre
Dafydd Huws (Goronwy Jones)
Ar y Clwt/Down-and-out
Geraint Jarman:
Dad a minne/Dad and me
Menna Elfyn:
Byw, Benywod, Byw/Live, Sisters, Live
Misglwyf – Mis-y-clwyf/Bleedings
Tony Bianchi:
Eric ’n’ Ernie
Aled Islwyn:
Stori Linda/Linda’s Story
Mihangel Morgan:
Ymddiddan/Conversation
Te gyda’r Frenhines/Tea with the Queen
Christine James:
Disgwyl: Aber-fan, Hydref 2006/in expectation: Aberfan, October 2006
Myrddin ap Dafydd:
Y Cabinet Rhyfel/The War Cabinet
Gwenllian
Iwan Llwyd
Iawn, gei di ofyn cwestiwn personol/Sure, you can ask me a personal question
Far Rockaway
Emyr Lewis:
Molawd Gwleidyddion Ffrainc/In Praise of French Politicians
Taliesin
Robin Llywelyn:
Amser y Gwcw yw Ebrill a Mai/The Cuckoo’s Time is April and May
Angharad Tomos:
Dyddiadur Carchar/A Prison Diary
Gwyneth Lewis:
Cyfweliad â’r Bardd/Interview with the Poet
Y Munudau Olaf/The Final Minutes
Jon Gower:
Breision/Bunting
Wiliam Owen Roberts:
Y Pla/Pestilence
Ifor ap Glyn:
Ciwcymbars Wolverhampton/The Cucumbers of Wolverhampton
Sonia Edwards
Prynhawn Gwyn/A White Afternoon
Aled Lewis Evans:
Cyffes/A Confession
Elin ap Hywel:
Cawl/Soup
Meirion MacIntyre Huws:
Cydwybod/Conscience
Gerwyn Wiliams:
Washington
Grahame Davies:
Coch/Red
Mererid Hopwood:
Tacsi/Taxi
Ceri Wyn Jones:
Galwad Ffôn/A Phone call
Meleri Wyn James:
Stripio/The Stripper

]]>
Arthur Conan Doyle’s Sherlock Holmes: “The Speckled Band / Y Cylch Brith” https://parallel.cymru/sherlock-holmes-y-clych-brith/ Wed, 08 Nov 2017 19:09:59 +0000 http://parallel.cymru/?p=685

By Arthur Conan Doyle, 1892.
Cyhoeddwyd gyntaf yn y Strand Magazine, gyda darluniau gan Sidney Paget.
Codwyd arian ar gyfer cyhoeddi Y Cylch Brith gan The Deerstalkers of Welshpool, ac Eurwyn Pierce Jones sy’n gyfrifol am y cyfieithiad meistrolgar. Rwyf yn ddiolchgar dros ben iddyn nhw am ryddhau'r cyfieithiad i bawb gael ei ddarllen a’i fwynhau, a diolch i David Sutton am brawf ddarllen.

First published in the Strand Magazine, with illustrations by Sidney Paget.
Funds for the publication of Y Cylch Brith were raised by The Deerstalkers of Welshpool, and has been beautifully translated by Eurwyn Pierce Jones. I am very grateful to them for releasing the translation for all to read and enjoy, and thanks to David Sutton for proof reading.

Cyfieithid Cymraeg / Welsh translation © Eurwyn Pierce Jones 2014.


Mae'r eitem hon ar gael i'w lawrlwytho: / This item is available to download:

Apple Books logo

PDF logo

Kindle logo


"Y Cylch Brith"

O fwrw golwg dros fy nodiadau o’r deg a thrigain o achosion y bu i mi eu hastudio dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, sy’n cofnodi dulliau gweithredu fy nghyfaill Sherlock Holmes, canfyddaf fod sawl achos yn eu plith yn sefyllfaoedd trasig, rhai eraill yn ddoniol, a nifer sylweddol ohonynt yn eithriadol o ryfeddol. A’r hyn sy’n nodweddiadol o’r cyfan yw nad ydyw’r un ohonynt yn perthyn i fyd y cyffredin; oherwydd, o weithio fel ag y gwnâi ef, sef yn fwy allan o gariad tuag at ei grefft yn hytrach nag er mwyn ymgasglu a chronni cyfoeth, gwrthodai Sherlock Holmes ei gysylltu ei hun ag unrhyw archwiliad na thueddai at yr anghyffredin, a hyd yn oed yr anhygoel a’r ffantastig. O’r holl achosion amrywiol hynny, fodd bynnag, fedra i ddim meddwl am unrhyw un ag iddo fwy o nodweddion cwbl unigryw na hwnnw oedd yn gysylltiedig â theulu adnabyddus y Roylotts o Stoke Moran yn Swydd Surrey. Mae’r digwyddiadau dan sylw yn perthyn i ddyddiau cynnar fy ymwneud i â Holmes, pan oeddem ni’n rhannu ystafelloedd fel llanciau di-briod yn Heol y Pobydd, sef Baker Street wrth gwrs, yn Llundain. Mae’n bosib fy mod i eisoes wedi cofnodi manylion amdanynt; ond fe wnaed addewid o gyfrinachedd y pryd hwnnw, na’m rhyddhawyd i ohoni hyd at y mis diwethaf, o ganlyniad i farwolaeth gynamserol y fonesig y rhoddwyd iddi’r cyfryw addewid. O hir feddwl yn ofalus, ystyriaf mai llawn cystal erbyn hyn fyddai caniatáu i’r ffeithiau hynny weld golau dydd, gan fod gennyf resymau i gredu bod sibrydion ar led parthed marwolaeth y Dr. Grimesby Roylott, sy’n tueddu i wneud y mater hyd yn oed yn fwy dychrynllyd na’r gwirionedd ei hun.

On glancing over my notes of the seventy odd cases in which I have during the last eight years studied the methods of my friend Sherlock Holmes, I find many tragic, some comic, a large number merely strange, but none commonplace; for, working as he did rather for the love of his art than for the acquirement of wealth, he refused to associate himself with any investigation which did not tend towards the unusual, and even the fantastic. Of all these varied cases, however, I cannot recall any which presented more singular features than that which was associated with the well-known Surrey family of the Roylotts of Stoke Moran. The events in question occurred in the early days of my association with Holmes, when we were sharing rooms as bachelors in Baker Street. It is possible that I might have placed them upon record before, but a promise of secrecy was made at the time, from which I have only been freed during the last month by the untimely death of the lady to whom the pledge was given. It is perhaps as well that the facts should now come to light, for I have reasons to know that there are widespread rumours as to the death of Dr. Grimesby Roylott which tend to make the matter even more terrible than the truth.

Yn gynnar ym mis Ebrill oedd hi, yn y flwyddyn ’83, pan ddeffrois i un bore i ganfod Sherlock Holmes, wedi ei wisgo ei hun yn llawn yn ei ddillad bob dydd, yn sefyll ger erchwyn fy ngwely. Codwr hwyr oedd ef fel arfer, a chan y dangosai’r cloc ar y silff ben tân nad oedd hi eto ond yn chwarter wedi saith, amrantais arno â’m llygaid hanner effro mewn peth syndod a dryswch; yn gymysg efallai ag ychydig bach o wrthwynebiad, o ystyried fy mod i fy hun fel arfer yn greadur rheolaidd fy anianawd a phrydlon fy arferion.

It was early in April in the year ’83 that I woke one morning to find Sherlock Holmes standing, fully dressed, by the side of my bed. He was a late riser, as a rule, and as the clock on the mantelpiece showed me that it was only a quarter-past seven, I blinked up at him in some surprise, and perhaps just a little resentment, for I was myself regular in my habits.

“Mae’n ddrwg gen i’ch dihuno fel hyn, Watson,” meddai, “ond mae un o’r gorchwylion annisgwyl hynny ar ein gwarthaf ni’r bore ’ma. Mae Mrs Hudson wedi cael ei chodi o’i chwsg, ac mae hi wedi ymbilio arna i am gymorth, fel yr wyf innau’n awr yn erfyn arnoch chithau, pe byddech chi gystal.”

“Very sorry to knock you up, Watson,” said he, “but it’s the common lot this morning. Mrs. Hudson has been knocked up, she retorted upon me, and I on you.”

“Beth sy’n bod, felly? Oes yna dân? ”

“What is it, then - a fire?”

“Na, na; cleient. Mae’n ymddangos fod bonesig ifanc wedi cyrraedd yma mewn cyflwr o gryn gyffro, ac mae hi’n mynnu fy ngweld i. Mae hi’n aros y funud yma yn y dderbynfa. Nawr, pan fydd merched ifainc yn crwydro o amgylch y metropolis ar awr mor gynnar â hyn yn y bore, gan guro pobl gysglyd allan o’u gwelyau, rwy’n rhagdybio fod rhyw gŵyn neu gyfrinach o bwys sylweddol y maen nhw’n awyddus i adrodd amdano. A phe byddai’r mater hwnnw’n troi allan i fod yn achos diddorol yna fe fyddech chi, rwy’n eithaf sicr, yn dymuno ei ddilyn o’i ddechreuad. Ro’wn i’n teimlo, felly, mai’r lleiaf y gallwn i ei wneud oedd eich galw chithau hefyd o fyd y breuddwydwyr, a rhoi’r cyfle i chi fod yn rhan o beth bynnag a allai ddeillio o’r arfaeth sydd ger ein bron ni heddiw.”

“No; a client. It seems that a young lady has arrived in a considerable state of excitement, who insists upon seeing me. She is waiting now in the sitting-room. Now, when young ladies wander about the metropolis at this hour of the morning, and knock sleepy people up out of their beds, I presume that it is something very pressing which they have to communicate. Should it prove to be an interesting case, you would, I am sure, wish to follow it from the outset. I thought, at any rate, that I should call you and give you the chance.”

“Fy annwyl gyfaill,” ymatebais innau, “fyddwn i ddim am golli allan ar gyfle felly, am unrhyw beth yn y byd.”

“My dear fellow, I would not miss it for anything.”

Doedd dim yn rhoi mwy o bleser i mi na dilyn Holmes yn ei archwiliadau proffesiynol, ac edmygu ei ddiddwythiadau a’i gasgliadau synhwyrol. Mor chwimwth fyddai ei sythwelediadau greddfol bob amser, ac eto gallech warantu y byddent wastad wedi eu seilio ar resymeg gadarn, allan o’r hyn y byddai’n ymddatod a datrys y problemau a gyflwynid iddo. Prysurais felly i daflu amdanaf fy nillad, ac ymhen ychydig funudau yn unig roeddwn i’n barod i gerdded y grisiau gyda’m cyfaill i lawr i'r parlwr-dderbynfa. Fel yr agorem ni’r drws i fynd i mewn i’r ystafell, cododd merch fonheddig o’i heistedd yng nghilgant y ffenestr fae; roedd hi wedi ei gwisgo o’i chorun i’w sawdl mewn du, gyda’i hwyneb dan orchudd rhwyden o fêl drwchus.

I had no keener pleasure than in following Holmes in his professional investigations, and in admiring the rapid deductions, as swift as intuitions, and yet always founded on a logical basis with which he unravelled the problems which were submitted to him. I rapidly threw on my clothes and was ready in a few minutes to accompany my friend down to the sitting-room. A lady dressed in black and heavily veiled, who had been sitting in the window, rose as we entered.

“Bore da, madam,” cyfarchodd Holmes yn siriol. “Sherlock Holmes yw fy enw i; a dyma fy nghyfaill mynwesol a’m cydweithiwr ffyddlon, Dr. Watson, y gallwch chi siarad yr un mor rhydd ger ei fron ef â gyda fi fy hun. Ha; rwy’n falch o weld fod Mrs Hudson wedi bod yn ddigon call i gynnau’r tân. Dewch, tynnwch at ei wres, ac fe archeba i gwpanaid o goffi poeth i chi, oherwydd rwy’n sylwi eich bod chi’n crynu o oerfel.”

“Good-morning, madam,” said Holmes cheerily. “My name is Sherlock Holmes. This is my intimate friend and associate, Dr. Watson, before whom you can speak as freely as before myself. Ha! I am glad to see that Mrs. Hudson has had the good sense to light the fire. Pray draw up to it, and I shall order you a cup of hot coffee, for I observe that you are shivering.”

“Nid yr oerni sy’n gwneud i mi grynu,” atebodd y wraig yn lled swil a thawel

“Nid yr oerni sy’n gwneud i mi grynu,” atebodd y wraig yn lled swil a thawel, gan gyfnewid ei chadair am un a oedd yn agosach at y lle tân, yn unol â’r gwahoddiad a estynnwyd iddi hi.

“It is not cold which makes me shiver,” said the woman in a low voice, changing her seat as requested.

“Mm; beth, felly?”

“What, then?”

She raised her veil.
She raised her veil.

“Ofn, Mr Holmes. Arswyd a braw.” Fel y siaradai, cododd rwyden ei fêl yn ôl dros ei phen, a gallem weld ei bod hi’n wir mewn stad alaethus o ofid ac aflonyddwch ingol; roedd ei hwyneb yn llaes a llwydaidd yr olwg, a’i llygaid yn llawn dychryn, anesmwythder a gofid; megis llygaid anifail druan yn cael ei ymlid. Yn ôl arweddion ei phryd a’i gwedd, a’i nodweddion corfforol, mae’n rhaid ei bod hi oddeutu deg ar hugain oed; ond roedd ei gwallt yn rhimynnau o lwyd cynamserol, ac edrychai’n flinderus a galarus. Rhedodd Sherlock Holmes ei lygaid craff drosti gydag un o’i drosolygon bras a brysiog, ond hollgynhwysol serch hynny.

“It is fear, Mr. Holmes. It is terror.” She raised her veil as she spoke, and we could see that she was indeed in a pitiable state of agitation, her face all drawn and grey, with restless frightened eyes, like those of some hunted animal. Her features and figure were those of a woman of thirty, but her hair was shot with premature grey, and her expression was weary and haggard. Sherlock Holmes ran her over with one of his quick, all-comprehensive glances.

“Rhaid i chi beidio â phryderu,” meddai ef wrthi hi’n gysurus o esmwyth, gan blygu ymlaen a gosod cledr ei law yn ysgafn ar ei braich isaf. “Mewn byr o dro fe ro’wn ni bethau mewn trefn, fe gewch chi weld; am hynny does gen i ddim amheuaeth. Fe wnaethoch chi deithio i mewn y bore ’ma gyda’r trên, mi welaf.”

“You must not fear,” said he soothingly, bending forward and patting her forearm. “We shall soon set matters right, I have no doubt. You have come in by train this morning, I see.”

“Rydych chi’n fy adnabod i, felly?”

“You know me, then?”

“Na na; ond rwy’n sylwi fod gennych chi ail hanner tocyn dwyffordd yng nghledr maneg eich llaw chwith. Mae’n rhaid eich bod chi wedi cychwyn yn gynnar iawn y bore yma; ac eto, ry’ch chi wedi cael eich cludo am gryn bellter mewn cert ci, mi debygaf, ar hyd ffyrdd trwm a chlegyrog, cyn i chi gyrraedd yr orsaf.”

“No, but I observe the second half of a return ticket in the palm of your left glove. You must have started early, and yet you had a good drive in a dog-cart, along heavy roads, before you reached the station.”

Ymsythodd y fonesig ar ei hunion, fel pe mewn sioc enbyd; a rhythodd mewn dryswch ar fy nghyfaill.

The lady gave a violent start and stared in bewilderment at my companion.

“Does yna ddim dirgelwch, f’annwyl fadam,” brysiodd Holmes i’w chalonogi, gan wenu’n foesgar i’w chyfeiriad. “Mae braich chwith eich siaced wedi ei hysgeintio gyda smotiau o laid neu fwd, mewn saith man o leiaf; ac mae’r marciau hynny’n dal yn ffres. Does yna ddim un cerbyd ar wahân i gert ci a allai daflu mwd i fyny yn y fath fodd, a hynny ychwaith ddim ond pe byddech chi’n digwydd bod yn eistedd ar ochr chwith y gyrrwr.”

“There is no mystery, my dear madam,” said he, smiling. “The left arm of your jacket is spattered with mud in no less than seven places. The marks are perfectly fresh. There is no vehicle save a dog-cart which throws up mud in that way, and then only when you sit on the left-hand side of the driver.”

“Beth bynnag allai eich rhesymau chi fod, rydych chi’n berffaith gywir,” ymatebodd y fonesig o’i gwirfodd. “Mi ddechreuais i o’m cartref cyn chwech y bore yma, gan gyrraedd gorsaf Leatherhead am ugain munud wedi chwech, ac mi ddois i mewn efo’r trên cyntaf i Waterloo. Syr, alla’ i oddef y straen yma ddim rhagor; os parith ymlaen ymhellach mi a’ i’n wallgof. Does gen i neb i droi ato: nag oes, neb ... ar wahân i un dyn ... sydd ag unrhyw ofal amdanaf; ac allith o, fy narpar gymar a’m cyfaill agosaf ... druan ohono ... ddim bod o fawr gymorth i mi. Rydw i wedi clywed amdanoch chi, Mr Holmes; mi glywais i amdanoch gan Mrs Farintosh, y gwnaethoch chi ei helpu yn awr ei chyfyngder a’i hangen trist. Ganddi hi y cefais i eich cyfeiriad chi. O, syr, ydych chi’n tybio y gallech chi fy nghynorthwyo innau hefyd, ac o leiaf daflu ychydig o oleuni drwy’r tywyllwch dudew sy’n fy amgylchynu i? Ar hyn o bryd mae hi y tu allan i’m grym i i’ch gwobrwyo chi am eich gwasanaeth; ond ymhen mis neu ddau mi fydda’ i wedi priodi, a bydd gen i’r pryd hynny reolaeth dros fy incwm fy hun, ac yna o leiaf mi gewch brofi na fûm i’n esgeulus rhag llawn werthfawrogi eich caredigrwydd.”

“Whatever your reasons may be, you are perfectly correct,” said she. “I started from home before six, reached Leatherhead at twenty past, and came in by the first train to Waterloo. Sir, I can stand this strain no longer; I shall go mad if it continues. I have no one to turn to—none, save only one, who cares for me, and he, poor fellow, can be of little aid. I have heard of you, Mr. Holmes; I have heard of you from Mrs. Farintosh, whom you helped in the hour of her sore need. It was from her that I had your address. Oh, sir, do you not think that you could help me, too, and at least throw a little light through the dense darkness which surrounds me? At present it is out of my power to reward you for your services, but in a month or six weeks I shall be married, with the control of my own income, and then at least you shall not find me ungrateful.”

Trodd Holmes tuag at ei ddesg, ac wedi datgloi ei chlawr, tynnodd allan ohoni lyfryn cofnodion bychan, a gynhwysai ei fanylion ysgrifenedig ef ei hun yng nghyswllt achosion blaenorol; a gwyliem ef yn pori drwy ei dudalennau.

Holmes turned to his desk and, unlocking it, drew out a small case-book, which he consulted.

“Hm, Farintosh,” meddai’n fyfyriol, yn y man. “Ah, ie; mae gen i gof eithaf clir, nawr, o amgylchiadau’r wraig y gwnaethoch chi sôn amdani gynnau fach. Roedd a wnelo’r achos hwnnw â choron tiara opal. Rwy’n credu fod hynny cyn eich amser chi, Watson. Wel, alla’ i ond ymdynghedu, madam, y byddwn i’n hapus i ymroi gyda’r un gofal a manylder i’ch achos chi ag y bu i mi ei ymarfer yn achos eich cyfeilles. O safbwynt derbyn tâl am y gorchwyl, i mi fy ngalwedigaeth yw’r wobr; er y byddai rhyddid i chi ddigolledu pa bynnag dreuliau y gallaswn i fod yn debygol o’u hwynebu, ar ba bynnag adeg fyddai fwyaf derbyniol i chi eich hun. Nawr, maddeuwch i mi ofyn i chi gyflwyno ger ein bron ni, os gwelwch yn dda, bopeth oll a allai ein cynorthwyo ni i ffurfio ein barn ar y mater sy’n eich pryderu chi.”

“Farintosh,” said he. “Ah yes, I recall the case; it was concerned with an opal tiara. I think it was before your time, Watson. I can only say, madam, that I shall be happy to devote the same care to your case as I did to that of your friend. As to reward, my profession is its own reward; but you are at liberty to defray whatever expenses I may be put to, at the time which suits you best. And now I beg that you will lay before us everything that may help us in forming an opinion upon the matter.”

“Och; gwae fi!” atebodd ein hymwelydd. “Mae holl erchyllter fy sefyllfa i’n gorffwyso ar y ffaith bod fy ofnau i mor aneglur, a bod fy amheuon i’n dibynnu gymaint ar bwyntiau pitw o ddisylwedd, a allai ymddangos i rywun arall mor ddibwys, fel ei fod o ... yr hwn allan o bawb arall y mae gen i hawl i edrych tuag ato am gymorth a chyngor ... yn ystyried y cyfan a ddyweda’ i wrtho megis rhith ddychymyg benyw or-nerfus. Fydd o ddim yn datgan hynny’n agored fel y cyfryw, ond gallaf ei ddarllen yn atebion ei dafod llithrig ac edrychiad ei lygaid gochelgar. Ond mi rydw i wedi clywed y gallwch chi, Mr Holmes, dreiddio’n ddwfn â’ch llygaid, i mewn i amryfal ddrygioni’r galon ddynol. Hwyrach y medrwch chi gynnig i mi gyngor ar sut i droedio’n ddiogel drwy’r peryglon sy’n fy amgylchynu i.”

“Alas!” replied our visitor, “the very horror of my situation lies in the fact that my fears are so vague, and my suspicions depend so entirely upon small points, which might seem trivial to another, that even he to whom of all others I have a right to look for help and advice looks upon all that I tell him about it as the fancies of a nervous woman. He does not say so, but I can read it from his soothing answers and averted eyes. But I have heard, Mr. Holmes, that you can see deeply into the manifold wickedness of the human heart. You may advise me how to walk amid the dangers which encompass me.”

“Y chi biau fy holl sylw i, madam; does gen i glust i ddim arall ar hyn o bryd.”

“I am all attention, madam.”

“Fy enw i ydy Helen Stoner, ac rydw i’n byw efo’m llystad, ac efo yw goroeswr olaf un o’r teuluoedd Sacsonaidd hynaf yn Lloegr, sef y Roylotts o Stoke Moran, ar ffin orllewinol Surrey.”

“My name is Helen Stoner, and I am living with my stepfather, who is the last survivor of one of the oldest Saxon families in England, the Roylotts of Stoke Moran, on the western border of Surrey.”

Nodiodd Holmes ei ben mewn cydnabyddiaeth. “Y mae’r enw hwnnw yn un cyfarwydd i mi,” oedd ei ymateb.

Holmes nodded his head. “The name is familiar to me,” said he.

“Roedd y teulu ar un adeg ymhlith y cyfoethocaf yn Lloegr, oherwydd roedd yr ystâd yn ymestyn dros y ffiniau i Berkshire yn y gogledd, a Hampshire yn y gorllewin. Yn ystod y ganrif ddiwethaf, fodd bynnag, trodd allan bedwar etifedd yn olynol i ymddwyn efo anianawd afradlon a gwastraffus; a chwblhawyd dinistriad llwyr y teulu yn y pen draw ... yn gyrn, croen a charnau ... gan gamblwr ffôl o ddyn, yn nyddiau’r Rhaglywiaeth. Adawyd dim oll ar ôl, ar wahân i ychydig erwau o dir ynghyd â thŷ dau gan mlwydd oed, sydd ei hun yn parhau i fod dan bwysau morgais llethol o drwm. Yno y dihoenodd y sgweier olaf, yn crafu ei fywoliaeth hyd at ei ddyddiau diwethaf, yn crafangu ar fywyd digalon y tlotyn pendefigaidd. Ond mi lwyddodd ei unig fab, sef fy llystad i ... o ystyried y byddai’n rhaid iddo addasu ei amgylchiadau dan amodau cyllidol newydd ... i fenthyca arian oddi ar berthynas iddo, er mwyn ei alluogi i astudio ac ennill gradd mewn meddygaeth; ac yn dilyn hynny mi ymfudodd i Galcutta lle, yn rhinwedd ei ddoniau proffesiynol ynghyd â’i gymeriad grymus, mi sefydlodd wasanaeth meddygol enfawr. P’run bynnag, mewn ffit o ddicter mympwyol, a achoswyd gan ryw achosion o ladrad a oedd wedi digwydd yn ei gartref, mi ffustiodd ei fwtler brodorol i farwolaeth. O ganlyniad i hynny dihangodd o drwch blewyn rhag y gosb eithaf o gael ei ddienyddio; ond fel y digwyddodd hi, mi ddioddefodd gyfnod hir o garchar, ac wedi hynny dychwelodd i Loegr yn ddyn sarrug wedi ei lwyr ddadrithio.

“The family was at one time among the richest in England, and the estates extended over the borders into Berkshire in the north, and Hampshire in the west. In the last century, however, four successive heirs were of a dissolute and wasteful disposition, and the family ruin was eventually completed by a gambler in the days of the Regency. Nothing was left save a few acres of ground, and the two-hundred-year-old house, which is itself crushed under a heavy mortgage. The last squire dragged out his existence there, living the horrible life of an aristocratic pauper; but his only son, my stepfather, seeing that he must adapt himself to the new conditions, obtained an advance from a relative, which enabled him to take a medical degree and went out to Calcutta, where, by his professional skill and his force of character, he established a large practice. In a fit of anger, however, caused by some robberies which had been perpetrated in the house, he beat his native butler to death and narrowly escaped a capital sentence. As it was, he suffered a long term of imprisonment and afterwards returned to England a morose and disappointed man.

“Pan oedd Dr. Roylott yn yr India mi briododd efo fy mam, Mrs Stoner; gwraig weddw ifanc Major-General Stoner, gynt o gatrawd Magnelwyr Bengal. Roeddwn i a’m chwaer Julia yn efeilliaid, a dim ond dwyflwydd oed oeddem ni pan ail-briododd ein mam. Roedd hi’n berchen ar faint sylweddol o eiddo, ei werth heb fod yn llai na mil o bunnau’r flwyddyn; ac mi gymynroddodd hi’r swm hwnnw yn ei gyfanrwydd i Dr. Roylott, gydag amod ei fod o i weinyddu’r cyfalaf etifeddol tra byddem ni’n parhau i gydfyw efo fo. Yn yr ewyllys honno hefyd roedd darpariaeth ar gyfer rhyddhau swm penodol o gyllid i’w roi i’r naill a’r llall ohonom ni’n dwy pe byddem ni’n priodi. Mewn byr o amser wedi i ni ddychwelyd i Loegr bu farw fy mam; mi gafodd hi ei lladd wyth mlynedd yn ôl mewn damwain reilffordd ger Crewe. Yn dilyn hynny mi roddodd Dr. Roylott y gorau i’w ymdrechion i’w sefydlu ei hun mewn busnes meddygol yn ninas Llundain, ac mi wnaeth o ein cymryd ni i fyw efo fo yng nghartref ei hynafiaid yn Stoke Moran. Roedd y pres a adawodd fy mam yn ddigon ar gyfer ein hanghenion ni i gyd, ac ymddangosai ar y pryd fel pe na allai dim yn y byd fygwth ein hapusrwydd cyflawn ni.

“When Dr. Roylott was in India he married my mother, Mrs. Stoner, the young widow of Major-General Stoner, of the Bengal Artillery. My sister Julia and I were twins, and we were only two years old at the time of my mother’s re-marriage. She had a considerable sum of money—not less than £1000 a year—and this she bequeathed to Dr. Roylott entirely while we resided with him, with a provision that a certain annual sum should be allowed to each of us in the event of our marriage. Shortly after our return to England my mother died—she was killed eight years ago in a railway accident near Crewe. Dr. Roylott then abandoned his attempts to establish himself in practice in London and took us to live with him in the old ancestral house at Stoke Moran. The money which my mother had left was enough for all our wants, and there seemed to be no obstacle to our happiness.

“Ond tua’r un cyfnod, daeth newid difrifol dros ein llystad. Yn hytrach na meithrin cyfeillgarwch a chyfnewid ymweliadau efo’n cymdogion, a oedd ar y dechrau wedi mynegi eu llawenydd anghyffredin o weld disgynnydd o dylwyth Roylott o Stoke Moran yn ôl yn yr hen sedd deuluol, arferai ei gau ei hun i mewn yn ei dŷ; a phrin byth y deuai allan yng ngolau’r dydd, ac eithrio i’w foddio ei hun mewn ymrysonau o ffraeo ffyrnig efo pwy bynnag a ddigwyddai fod wedi croesi ei lwybr. Mae tymer chwyrn, a honno’n ymylu ar orffwylledd, wedi bod yn nodwedd etifeddol o fewn llinach wrywaidd y teulu, ac yn achos fy llystad mi ddwysawyd y dwymyn honno, mi debygaf, o ganlyniad i’w breswyliad hir yn y trofannau. Digwyddodd cyfres o ysgarmesau cywilyddus, a bu i ddau o’r achlysuron hynny arwain at ymddangosiadau mewn llys barn yr heddlu; hyd nes iddo yn y diwedd gael ei adnabod gan y byd a’r betws fel brawychwr gwallgof y pentref, a byddai’r trigolion yn gwasgaru wrth ei weld yn agosáu, gan ei fod o’n ŵr o gryfder aruthrol, ac yn un cwbl afreolus pan yn ei hwyliau drwg.

“But a terrible change came over our stepfather about this time. Instead of making friends and exchanging visits with our neighbours, who had at first been overjoyed to see a Roylott of Stoke Moran back in the old family seat, he shut himself up in his house and seldom came out save to indulge in ferocious quarrels with whoever might cross his path. Violence of temper approaching to mania has been hereditary in the men of the family, and in my stepfather’s case it had, I believe, been intensified by his long residence in the tropics. A series of disgraceful brawls took place, two of which ended in the police-court, until at last he became the terror of the village, and the folks would fly at his approach, for he is a man of immense strength, and absolutely uncontrollable in his anger.

He hurled the blacksmith over a parapet.
He hurled the blacksmith over a parapet.

“Yr wythnos ddiwethaf, â’i freichiau cydnerth ei hun, mi luchiodd o’r gof lleol dros y clawdd i nant fyrlymog; a dim ond o dalu drosodd iddo’r holl arian y gallwn i ei gasglu at ei gilydd y llwyddais i atal dadleniad cyhoeddus arall a fyddai wedi difrïo enw’r teulu. Does ganddo fo ddim cyfeillion gwerth sôn amdanyn nhw ar wahân i’r sipsiwn crwydrol, ac mi fydd o’n rhoi i’r rapsgaliwns hynny rwydd hynt i wersylla ar yr ychydig erwau o dir garw, sydd yn drwch o fieri ond sy’n cynrychioli’r unig ychydig bychan sydd yn weddill o ystâd y teulu; ac yn gyfnewid am hynny mi fydd yntau’n derbyn ganddyn nhwythau eu croeso i letya o bryd i’w gilydd yn eu pebyll, ac i grwydro ymaith efo nhw ar adegau am wythnosau ar y tro. Mae ganddo fo hefyd hoffter a diddordeb anarferol o frwd mewn anifeiliaid o’r India, sy’n cael eu hanfon drosodd iddo gan ohebydd tramor; ac mae ganddo fo ar hyn o bryd lewpard a babŵn, sy’n crwydro’n rhydd dros ei dir, gan beri ofn a dychryn i’r pentrefwyr, yn gymaint bron â’u hofn nhw ohono fo ei hun, eu meistr nhw.

“Last week he hurled the local blacksmith over a parapet into a stream, and it was only by paying over all the money which I could gather together that I was able to avert another public exposure. He had no friends at all save the wandering gipsies, and he would give these vagabonds leave to encamp upon the few acres of bramble-covered land which represent the family estate, and would accept in return the hospitality of their tents, wandering away with them sometimes for weeks on end. He has a passion also for Indian animals, which are sent over to him by a correspondent, and he has at this moment a cheetah and a baboon, which wander freely over his grounds and are feared by the villagers almost as much as their master.

“Gallwch chi ddychmygu hwyrach, o’r hyn rydw i’n ei ddweud wrthych chi rwan, mor brin oedd unrhyw bleser yn ein bywydau ni, fy chwaer Julia druan a minnau. Arhosai’r un gwas na morwyn yn hir efo ni, a thros amser maith nyni ein hunain oedd yn gyfrifol am gyflawni holl waith domestig y tŷ. Dim ond deg ar hugain oed oedd hi pan fu hi farw, ond roedd ei gwallt hi eisoes wedi dechrau gwynnu, yn yr un modd ag y mae fy ngwallt i fy hun hefyd yn prysur golli ei liw.”

“You can imagine from what I say that my poor sister Julia and I had no great pleasure in our lives. No servant would stay with us, and for a long time we did all the work of the house. She was but thirty at the time of her death, and yet her hair had already begun to whiten, even as mine has.”

“Mae eich chwaer, felly, wedi marw?”

“Your sister is dead, then?”

“Mi drengodd hi gwta ddwy flynedd yn ôl, ac am ei marwolaeth hi rydw i’n dymuno siarad efo chi. Mi allwch chi ddeall, o fyw'r bywyd a ddisgrifiais i chi gynnau, mai prin oeddem ni’n debygol o weld na chyfarfod efo neb o’n hoed ni nac o’n safle cymdeithasol ni ein hunain. Fodd bynnag, roedd gennym ni un fodryb, sef chwaer ddi-briod fy mam ... Miss Honoria Westphail, sy’n byw ger Harrow ... a phob hyn a hyn fe ganiateid i ni ymweld â hi am gyfnodau byr iawn yn ei chartref. Ddwy flynedd yn ôl mi aeth Julia yno i aros dros y Nadolig, ac yno y gwnaeth hi gyfarfod efo swyddog milwrol a oedd yn gwasanaethu ar hanner comisiwn cyflogedig fel Uwchgapten gyda’r Morlu Milwrol, y gwnaeth hi ddyweddïo efo fo maes o law. Mi ddaeth fy llystad i wybod am y dyweddïad pan ddychwelodd fy chwaer, a wnaeth o ddim sôn am unrhyw wrthwynebiad i’r uniad; ond o fewn pythefnos i’r diwrnod a benodwyd ar gyfer y briodas, y digwyddodd y trychineb dychrynllyd sydd wedi fy amddifadu i o’m hunig gydymaith annwyl ar wyneb y ddaear gron yma.”

“She died just two years ago, and it is of her death that I wish to speak to you. You can understand that, living the life which I have described, we were little likely to see anyone of our own age and position. We had, however, an aunt, my mother’s maiden sister, Miss Honoria Westphail, who lives near Harrow, and we were occasionally allowed to pay short visits at this lady’s house. Julia went there at Christmas two years ago, and met there a half-pay major of marines, to whom she became engaged. My stepfather learned of the engagement when my sister returned and offered no objection to the marriage; but within a fortnight of the day which had been fixed for the wedding, the terrible event occurred which has deprived me of my only companion.”

Gydol y cyfryw ymadroddi roedd Sherlock Holmes wedi bod yn eistedd gan bwyso ei gefn yn ôl yn ei gadair â’i lygaid ynghau a’i ben wedi ei suddo mewn clustog; ond yn awr dechreuodd hanner agor ei amrannau, i giledrych yn fwriadus ar ei ymwelydd.

Sherlock Holmes had been leaning back in his chair with his eyes closed and his head sunk in a cushion, but he half opened his lids now and glanced across at his visitor.

“Byddwch cystal â bod yn wirioneddol gywir gyda’ch manylion, os gwelwch chi’n dda,” apeliodd ef.

“Byddwch cystal â bod yn wirioneddol gywir gyda’ch manylion, os gwelwch chi’n dda,” apeliodd ef.

“Pray be precise as to details,” said he.

“Mae’n hawdd iawn i mi fod yn groyw glir efo’r holl fanylion, Mr Holmes, gan fod pob digwyddiad lleiaf o’r amser ofnadwy hwnnw wedi ei serio ar fy nghof. Mae’r maenordy, fel y crybwyllais i wrthych chi eisoes, yn hynafol iawn, a dim ond un adain ohono sydd erbyn hyn mewn cyflwr cyfanheddol. Yn yr adain honno y mae’r ystafelloedd gwely ar y llawr gwaelod; ac mae’r ystafelloedd byw a’r ystafelloedd hamddena wedi eu lleoli ym mloc canolog y prif adeilad. O’r ystafelloedd cysgu, yr un gyntaf ydy un Dr. Roylott, yr ail un ydy un fy chwaer, a’r drydedd un ydy fy ystafell i fy hun. Does yna ddim cyfrwng mynediad rhyngddyn nhw a’i gilydd, ond y maen nhw i gyd yn rhannu tramwyfa’r un coridor cyffredin. A ydw i yn fy ngwneud fy hun yn eglur i chi, d’wedwch?”

“It is easy for me to be so, for every event of that dreadful time is seared into my memory. The manor-house is, as I have already said, very old, and only one wing is now inhabited. The bedrooms in this wing are on the ground floor, the sitting-rooms being in the central block of the buildings. Of these bedrooms the first is Dr. Roylott’s, the second my sister’s, and the third my own. There is no communication between them, but they all open out into the same corridor. Do I make myself plain?”

“Yn berffaith felly. Ewch ymlaen, Miss Stoner.”

“Perfectly so.”

“Mae ffenestri’r tair ystafell wely yn agor allan ar y lawnt. Ar y noson angheuol honno roedd Dr. Roylott wedi troi i’w ystafell yn gynnar, er y gwyddem ni nad oedd o wedi ymneilltuo yno i noswylio fel y cyfryw, ddim hyd yn oed i hepian orffwyso heb sôn am gysgu; oherwydd roedd fy chwaer yn cael ei phoeni gan arogl cryf y sigârs o India yr oedd o’n arfer eu hysmygu. Felly, gadawodd hi ei hystafell ei hun, a dod draw i’m hystafell i, lle yr eisteddodd hi am beth amser tra buom ni’n dwy yn sgwrsio am ei phriodas oedd yn dynesu. Am un ar ddeg y nos fe gododd hi o’i chadair i ddychwelyd i’w hystafell ei hun, ond safodd ennyd wrth y drws gan edrych yn ei hôl.

“The windows of the three rooms open out upon the lawn. That fatal night Dr. Roylott had gone to his room early, though we knew that he had not retired to rest, for my sister was troubled by the smell of the strong Indian cigars which it was his custom to smoke. She left her room, therefore, and came into mine, where she sat for some time, chatting about her approaching wedding. At eleven o’clock she rose to leave me, but she paused at the door and looked back.

“ ‘D’wed wrtha i, Helen,’ meddai hi, ‘wyt ti erioed wedi clywed rhywun yn chwibanu ym mherfedd y nos?’

“ ‘Tell me, Helen,’ said she, ‘have you ever heard anyone whistle in the dead of the night?’

“ ‘Bobl annwyl, naddo, erioed,’ atebais i hi.

“ ‘Never,’ said I.

“ ‘Go brin, mae’n debyg, y gallet ti dy hun ... jest o bosib ... fod yn chwibanu yn dy gwsg?’

“ ‘I suppose that you could not possibly whistle, yourself, in your sleep?’

“ ‘Yn sicr ddim. Ond pam rwyt ti’n holi?’

“ ‘Certainly not. But why?’

“ ‘Oherwydd yn ystod yr ychydig nosweithiau diwethaf rydw i’n gyson, tua thri o’r gloch yn y bore, wedi bod yn clywed chwibanu isel a chlir. Gan mai cysgwr ysgafn ydw i, mae’r sŵn wedi fy neffro i. Alla’ i ddim dweud o ble y mae’r chwibanu’n dod; hwyrach mai o’r ystafell y drws nesaf, neu hwyrach o gyfeiriad y lawnt y tu allan. Mi feddyliais y byddwn i jest yn gofyn i ti, tybed a oeddet tithau hefyd wedi ei glywed.’

“ ‘Because during the last few nights I have always, about three in the morning, heard a low, clear whistle. I am a light sleeper, and it has awakened me. I cannot tell where it came from—perhaps from the next room, perhaps from the lawn. I thought that I would just ask you whether you had heard it.’

“ ‘Naddo, ar fy llw; chlywais i ddim o’r fath beth. Mae’n rhaid mai’r crwydrwyr melltigedig yna yn y blanhigfa sy’n gyfrifol.’

“ ‘No, I have not. It must be those wretched gipsies in the plantation.’

“ ‘Mwy na thebyg; ac eto, pe bai’r sŵn wedi dod o gyfeiriad y lawnt, mae’n syndod gen i na fyddet tithau hefyd wedi ei glywed o.’

“ ‘Very likely. And yet if it were on the lawn, I wonder that you did not hear it also.’

“ ‘Ie, ond mi rydw i’n cysgu’n drymach beth na thi, onid ydw i?’

“ ‘Ah, but I sleep more heavily than you.’

“ ‘Wel, dydy o ddim yn fater o bwys mawr, ta beth.' Gwenodd hi'n ôl arna’ i, cyn cau’r drws yn dawel; ac ymhen ychydig eiliadau wedyn mi glywais i hi’n troi ei hallwedd yng nghlo drws ei hystafell hi ei hun.”

“ ‘Well, it is of no great consequence, at any rate.’ She smiled back at me, closed my door, and a few moments later I heard her key turn in the lock.”

“Felly’n wir,” ychwanegodd Holmes, fel pe’n awyddus i roi ar ddeall iddi hi ei fod yn parhau i gadw ei big i mewn yn ei stori. “A oedd hi wastad yn arferiad gennych chi eich dwy, felly, i’ch cloi eich hunain i mewn gyda’r nos?”

“Indeed,” said Holmes. “Was it your custom always to lock yourselves in at night?”

“Wastad.”

“Always.”

“O, yn wir. Pam, felly? ”

“And why?”

“Rydw i’n meddwl i mi nodi wrthych chi gynnau, Mr Holmes, fod y meddyg yn cadw llewpard a babŵn. Doeddem ni ddim yn teimlo’n ddiogel nac yn gartrefol yn y lle, heb fod ein drysau ni bob amser ar glo, yn enwedig gydol y nos.”

“I think that I mentioned to you that the doctor kept a cheetah and a baboon. We had no feeling of security unless our doors were locked.”

“Siŵr iawn, Miss Stoner, ond ... byddwch gystal â pharhau ymlaen â’ch datganiad, os gwelwch yn dda.”

“Quite so. Pray proceed with your statement.”

Her face blanched with terror.
Her face blanched with terror.

“Allwn i ddim cysgu’r noson honno. Roedd rhyw deimlad annelwig o anffodusrwydd affwysol yn gwasgu amdana’ i. Roedd fy chwaer a minnau, mi gofiwch, yn efeilliaid, ac mi wyddoch chi pa mor anniffiniol ydy’r dolennau sy’n clymu dau enaid cytûn sydd mor ymrwymedig â hynny i’w gilydd. Roedd hi’n noson egr o stormus. Roedd y gwynt y tu allan yn rhuo, a’r glaw yn curo a thasgu’n ddidostur yn erbyn gwydrau’r ffenestri. Yn ddisymwth, ynghanol dwndwr y corwynt, torrodd allan ysgrech amrwd ac erchyll, yn amlwg o enau merch mewn braw dychrynllyd. Mi wyddwn i ar fy union mai llais fy chwaer oedd o. Mi lamais i mewn chwinciad o’m gwely, gan daflu siôl dros fy ysgwyddau, a rhuthro i’r coridor. Wrth i mi agor y drws, mi synhwyrwn gyda sicrwydd di-au i mi glywed chwibaniad isel, yn debyg iawn i’r un roedd fy chwaer wedi ei ddisgrifio i mi; ac ymhen ychydig eiliadau’n unig yn dilyn hynny, mi glywn i eto ryw sŵn atseiniol arall, fel pe bai lwmp o fetel wedi cwympo ar y llawr. Wrth i mi frysio’r ychydig gamau ar hyd tramwyfa’r coridor, sylwais fod drws ystafell fy chwaer ... y drws nesaf, os cofiwch ... heb fod ar glo; ond yn hytrach ei fod yn gilagored ac yn siglo’n ysgafn ar ei golfachau. Mi sefais i yno’n stond fel talp o farmor, yn rhythu ar y drws mewn syfrdandod arswydus, heb grebwyll yn y byd o ba fath o ddrychiolaeth a fyddai’n ymddangos yr eiliad nesaf drwy ei fwlch agored. Ymhen chwinciad, yng ngoleuni’r lamp wic-olew yn y coridor, mi welwn fy chwaer yn ymddangos yn yr agoriad, ei hwyneb yn wyn fel y galchen mewn braw, ei dwylo’n ymbalfalu am gynhaliaeth, a holl ffrâm ei chorff yn siglo o un ochr i’r llall fel meddwyn. Mi redais i ati hi gan daflu fy mreichiau amdani, ond y foment honno ildiodd ei phennau gliniau fel pe baen nhw wedi colli eu nerth i’w chynnal, a syrthiodd yn swp i’r llawr. Roedd hi’n gwingo fel enaid mewn poen difrifol, efo’i breichiau a’i choesau yn dirdynnu’n ofnadwy. Ar y dechrau mi feddyliais i nad oedd hi wedi fy adnabod i; ond wrth i mi blygu drosti, mi ysgrechiodd allan yn ddirybudd mewn llais nad anghofia’ i byth mohono, ‘O, Dduw mawr! Helen! Y cylch oedd o! Y cylch brith!’ Roedd hi’n amlwg yn ymdrechu’n daer i ychwanegu rhyw wybodaeth ategol arall, o bwys tyngedfennol efallai, wrth drywanu’r aer efo’i bys i gyfeiriad ystafell y meddyg; ond fe’i meddiannwyd hi gan gonfylsiwn arall drachefn, a dagodd y geiriau yn ei gwddf. Mi ruthrais i allan ar fy union, gan lefain yn uchel am fy llystad, ac mi ddeuthum i wyneb yn wyneb ag o yn prysuro allan o’i ystafell ei hun yn ei ŵn nos. Erbyn iddo benlinio wrth ochr fy chwaer roedd hi’n anymwybodol, ac er iddo fo arllwys brandi i lawr ei gwddf hi, ac anfon am gymorth meddygol o’r pentref, di-fudd fu pob ymdrech i’w hadfer; oherwydd yn araf mi suddodd ei hysbryd a bu hi farw heb ddod ati ei hun. A dyna’r modd truenus y treuliodd fy chwaer annwyl ei heiliadau olaf.”

“I could not sleep that night. A vague feeling of impending misfortune impressed me. My sister and I, you will recollect, were twins, and you know how subtle are the links which bind two souls which are so closely allied. It was a wild night. The wind was howling outside, and the rain was beating and splashing against the windows. Suddenly, amid all the hubbub of the gale, there burst forth the wild scream of a terrified woman. I knew that it was my sister’s voice. I sprang from my bed, wrapped a shawl round me, and rushed into the corridor. As I opened my door I seemed to hear a low whistle, such as my sister described, and a few moments later a clanging sound, as if a mass of metal had fallen. As I ran down the passage, my sister’s door was unlocked, and revolved slowly upon its hinges. I stared at it horror-stricken, not knowing what was about to issue from it. By the light of the corridor-lamp I saw my sister appear at the opening, her face blanched with terror, her hands groping for help, her whole figure swaying to and fro like that of a drunkard. I ran to her and threw my arms round her, but at that moment her knees seemed to give way and she fell to the ground. She writhed as one who is in terrible pain, and her limbs were dreadfully convulsed. At first I thought that she had not recognised me, but as I bent over her she suddenly shrieked out in a voice which I shall never forget, ‘Oh, my God! Helen! It was the band! The speckled band!’ There was something else which she would fain have said, and she stabbed with her finger into the air in the direction of the doctor’s room, but a fresh convulsion seized her and choked her words. I rushed out, calling loudly for my stepfather, and I met him hastening from his room in his dressing-gown. When he reached my sister’s side she was unconscious, and though he poured brandy down her throat and sent for medical aid from the village, all efforts were in vain, for she slowly sank and died without having recovered her consciousness. Such was the dreadful end of my beloved sister.”

“Un foment,” prysurodd Holmes i ymateb, er yn bwyllog a chyda diddordeb didwyll: “A ydych chi’n berffaith sicr ynglŷn â’r chwibaniad a’r sŵn metelaidd yna? Allech dyngu llw i chi glywed y synau hynny yn glir?”

“One moment,” said Holmes, “are you sure about this whistle and metallic sound? Could you swear to it?”

“Dyna’n union yr hyn a ofynnodd crwner y sir i mi, yn yr ymchwiliad. A’m hargraff bendant i, syr, yw i mi eu clywed nhw ... does dim dau am hynny; ac eto, yng nghanol twrw’r corwynt ynghyd â’r gwahanol wichiadau o fewn adeilad mor hynafol, hwyrach fod peth posibilrwydd y gallwn i fod wedi fy nhwyllo yn hynny o beth.”

“That was what the county coroner asked me at the inquiry. It is my strong impression that I heard it, and yet, among the crash of the gale and the creaking of an old house, I may possibly have been deceived.”

“A oedd eich chwaer wedi ei gwisgo yn ei dillad arferol?”

“Was your sister dressed?”

“Nac oedd, roedd hi’n ei choban gysgu. Yn ei llaw dde mi ddarganfuwyd stwmp golosglyd o fatsien, ac yn ei llaw chwith flwch o fatsis.”

“No, she was in her night-dress. In her right hand was found the charred stump of a match, and in her left a match-box.”

“Yn dangos ei bod hi wedi cynnau fflam o oleuni, siŵr iawn, i edrych o’i hamgylch yn y tywyllwch, pan ddigwyddodd y tarfu ar ddistawrwydd y nos. Mae hynny’n bwysig i’w nodi. Ac i ba gasgliadau ddaeth y crwner?”

“Showing that she had struck a light and looked about her when the alarm took place. That is important. And what conclusions did the coroner come to?”

“Mi ymchwiliodd o’r achos efo cryn ofal, oherwydd roedd ymddygiad drwg-enwog Dr. Roylott yn rhemp, ac wedi bod yn destun siarad ledled y sir am gyfnod sylweddol o amser; ond allai’r crwner ddim dod o hyd i unrhyw achos boddhaol am ei marwolaeth. Mi ddangosodd fy nhystiolaeth i fod drws ei hystafell hi wedi ei gloi ar yr ochr fewnol, a bod y ffenestri wedi cael eu blocio gan gaeadau hen ffasiwn efo bariau haearn llydan ar eu traws, yr arferid eu cau’n dynn a diogel bob nos. Pan brofwyd sefydlogrwydd y waliau trwchus yn ofalus, dangoswyd eu bod nhw’n solet o gadarn yr holl ffordd o amgylch yr ystafell; ac mi archwiliwyd y llawr yn drwyadl hefyd, efo’r un canlyniadau. Mae’r simdde’n llydan, ond mae honno wedyn wedi ei gwneud yn ddiogel efo pedair o staplau mawrion ar draws ei hagendor. Does dim dwywaith felly fod fy chwaer ar ei phen ei hun pan gyfarfu hi â’i diwedd. Heblaw am hynny, doedd ychwaith ddim olion ffyrnigrwydd na marc nac arwydd o unrhyw drais yn unman ar ei chorff.”

“He investigated the case with great care, for Dr. Roylott’s conduct had long been notorious in the county, but he was unable to find any satisfactory cause of death. My evidence showed that the door had been fastened upon the inner side, and the windows were blocked by old-fashioned shutters with broad iron bars, which were secured every night. The walls were carefully sounded, and were shown to be quite solid all round, and the flooring was also thoroughly examined, with the same result. The chimney is wide, but is barred up by four large staples. It is certain, therefore, that my sister was quite alone when she met her end. Besides, there were no marks of any violence upon her.”

“Beth am gael ei gwenwyno?”

“How about poison?”

“Fe wnaeth y meddygon ei harchwilio hi’n fwriadol am hynny, ond heb brofi dim yn gadarnhaol.”

“The doctors examined her for it, but without success.”

“O ba ganlyniad ydych chi eich hun yn tybio, felly, y bu i’r fonesig anffodus yma farw?”

“What do you think that this unfortunate lady died of, then?”

“Fy nghred i ydy y bu iddi hi farw o ofn pur a sioc nerfus anhygoel o drawmatig; ond beth ar y ddaear wnaeth ei dychryn hi i’r fath raddau, alla’ i’n fy myw ddim dychmygu.”

“It is my belief that she died of pure fear and nervous shock, though what it was that frightened her I cannot imagine.”

“A oedd yna sipsiwn yn y blanhigfa ar y pryd?”

“Were there gipsies in the plantation at the time?”

“O, oedd; mae yna bron wastad rai ohonyn nhw yno.”

“Yes, there are nearly always some there.”

“O, felly’n wir; a beth ydych chi’n ei gasglu o’r cyfeiriad aneglur hwnnw at gylch - rhyw gylch brith?”

“O, felly’n wir; a beth ydych chi’n ei gasglu o’r cyfeiriad aneglur hwnnw at gylch - rhyw gylch brith?”

“Ah, and what did you gather from this allusion to a band - a speckled band?”

“Weithiau, mi rydw i wedi bod yn meddwl nad oedd o efallai ond rhyw fath o siarad ffwndrus dan effaith gwewyr dirdynnol neu ddeliriwm dwys. Dro arall mi fydda’ i’n tybied fod cyfeiriad yn y gair i ryw grŵp neu gylch o bobl; hwyrach fod bwriad ganddi hi i grybwyll yr union dylwyth o sipsiwn sy’n gwersylla’n rheolaidd yn y blanhigfa. Wn i ddim ai’r hancesi brith y bydd cynifer ohonyn nhw’n eu gwisgo weithiau o amgylch eu pennau, a barodd iddi hi awgrymu’r ansoddair rhyfedd hwnnw y gwnaeth hi ei ynganu. Wn i ddim, ar fy ngwir.”

“Sometimes I have thought that it was merely the wild talk of delirium, sometimes that it may have referred to some band of people, perhaps to these very gipsies in the plantation. I do not know whether the spotted handkerchiefs which so many of them wear over their heads might have suggested the strange adjective which she used.”

Ysgydwodd Holmes ei ben megis dyn yn arddangos ei fod ymhell o fod yn dawel ei feddwl.

Holmes shook his head like a man who is far from being satisfied.

“Dyma ddyfroedd dyfnion iawn,” meddai ef ymhen y rhawg; “ond byddwch gystal â pharhau yn eich blaen gyda’ch adroddiad, Miss Stoner.”

“These are very deep waters,” said he; “pray go on with your narrative.”

“Mae dwy flynedd wedi mynd heibio oddi ar hynny, ac mae fy mywyd i wedi bod hyd yn ddiweddar yn fwy unig nag erioed. Fis yn ôl, fodd bynnag, mae cyfaill annwyl i mi, un rydw i wedi ei adnabod ers nifer o flynyddoedd, wedi fy anrhydeddu drwy ofyn am fy llaw mewn priodas. Ei enw ydy Armitage ... Percy Armitage ... ail fab Mr Armitage o Crane Water ger Reading. Dydy fy llystad ddim wedi mynegi unrhyw wrthwynebiad i’r pariad, ac y mae trefniadau ar y gweill i ni briodi yng nghwrs y gwanwyn nesaf. Ond rwan, i ddod at fy mhryder presennol i. Ddeuddydd yn ôl mi ddechreuwyd ar waith atgyweirio yn adain orllewinol ein maenordy ni, ac mae twll bychan wedi ei wneud drwy un o furiau fy ystafell wely i, fel bod yn rhaid i mi symud i’r siambr lle bu farw fy chwaer, a chysgu yn yr union wely’r oedd hi’n cysgu ynddo, hyd nes y bydd y gwaith atgyweirio wedi ei orffen ar fy siambr i fy hun. Dychmygwch felly fy ias o arswyd neithiwr, wrth i mi orwedd yn effro yng nghanol y nos yn troi a throsi yn fy meddwl ddigwyddiadau posibl ei thynged ofnadwy, pan glywais i’n sydyn allan o’r distawrwydd llethol yr un chwibaniad isel â’r un oedd wedi rhagflaenu ei marwolaeth ddisyfyd hi. Mi neidiais o’m gwely ar fy union, a goleuo’r lamp, ond doedd dim i’w weld yn yr ystafell. Roeddwn i wedi fy nghynhyrfu ormod i fynd yn ôl i’m gwely, p’run bynnag, felly mi wisgais i fy nillad amdanaf; a chyn gynted ag y goleuodd y dydd, mi lithrais i lawr o’r tŷ, ac mi gefais i gert ci ger y Crown Inn sydd gyferbyn â ni, a gyrru i Leatherhead, ac oddi yno wedyn y deuthum i ymlaen yma i Lundain y bore ’ma, efo’r un bwriad i’ch gweld chi, syr, ac i ofyn i chi am eich cyngor.”

“Two years have passed since then, and my life has been until lately lonelier than ever. A month ago, however, a dear friend, whom I have known for many years, has done me the honour to ask my hand in marriage. His name is Armitage — Percy Armitage — the second son of Mr. Armitage, of Crane Water, near Reading. My stepfather has offered no opposition to the match, and we are to be married in the course of the spring. Two days ago some repairs were started in the west wing of the building, and my bedroom wall has been pierced, so that I have had to move into the chamber in which my sister died, and to sleep in the very bed in which she slept. Imagine, then, my thrill of terror when last night, as I lay awake, thinking over her terrible fate, I suddenly heard in the silence of the night the low whistle which had been the herald of her own death. I sprang up and lit the lamp, but nothing was to be seen in the room. I was too shaken to go to bed again, however, so I dressed, and as soon as it was daylight I slipped down, got a dog-cart at the Crown Inn, which is opposite, and drove to Leatherhead, from whence I have come on this morning with the one object of seeing you and asking your advice.”

“Fe wnaethoch chi’n ddoeth,” oedd sylw fy nghyfaill; “ond a ydych chi wedi dweud y cyfan wrthyf fi?”

“You have done wisely,” said my friend. “But have you told me all?”

“Do, am a wn i; y cyfan.”

“Yes, all.”

“Miss Stoner, d’ych chi ddim. R’ych chi’n cysgod-amddiffyn eich llystad.”

“Miss Stoner, you have not. You are screening your stepfather.”

“Pam ... wn i ddim beth ydych chi’n ei olygu ... mae’n ddrwg gen i?”

“Why, what do you mean?”

Yn hytrach na’i hateb yn ddiatreg â’i leferydd, camodd Holmes ymlaen yn fonheddig, a gwthiodd yn ei ôl yn ysgafn y ffrilen o les ddu oedd yn rhimyn o amgylch godre llawes ei gwisg, gan ddadorchuddio arddwrn y llaw a orffwysai ein hymwelydd yn ddiymwybod ar ei glin. Wedi eu hargraffu ar yr arddwrn gwelw-wyn hwnnw a ddaeth i’r golwg roedd cleisiau dulas ar ffurf glir pedwar bys ac un bawd.

For answer Holmes pushed back the frill of black lace which fringed the hand that lay upon our visitor’s knee. Five little livid spots, the marks of four fingers and a thumb, were printed upon the white wrist.

“Rydych chi wedi cael eich defnyddio’n greulon,” mentrodd Holmes ei awgrymu’n dyner.

“You have been cruelly used,” said Holmes.

Newidiodd lliw wyneb y fonesig yn goch dwfn, a phrysurodd i orchuddio ei harddwrn briwedig. “Dyn caled ydy o,” esboniodd hi’n gwta, ac yn amlwg dan deimlad, “ac efallai nad ydy o’n llawn sylweddoli ei nerth ei hun.”

The lady coloured deeply and covered over her injured wrist. “He is a hard man,” she said, “and perhaps he hardly knows his own strength.”

Dilynwyd ei chyfaddefiad swil gan ddistawrwydd hir, pryd y gorffwysai Holmes ei ên ar ei ddwylo gan syllu’n ddwys i fflamau’r tân a gracliai yn y grât.

There was a long silence, during which Holmes leaned his chin upon his hands and stared into the crackling fire.

“Ie, dyma fusnes dwfn iawn,” meddai o’r diwedd.

“Ie, dyma fusnes dwfn iawn,” meddai o’r diwedd. “Mae yna gant a mil o fanylion y dymunwn i ymgyfarwyddo â nhw cyn i mi gynnig penderfyniad i chi ynglŷn â’r hyn y dylech chi ei wneud yn eich sefyllfa. Ond does gennym ni’r un eiliad i’w gwastraffu. Pe byddem ni’n dod draw i Stoke Moran brynhawn heddiw, a fyddai hi’n bosib, ’dych chi’n tybio, i ni gael golwg drwy’r ystafelloedd hyn r’ych chi wedi cyfeirio atyn nhw, heb i hynny fod yn hysbys i’ch llystad?”

“This is a very deep business,” he said at last. “There are a thousand details which I should desire to know before I decide upon our course of action. Yet we have not a moment to lose. If we were to come to Stoke Moran to-day, would it be possible for us to see over these rooms without the knowledge of your stepfather?”

“Fel mae’n digwydd, roedd o’n siarad ddoe am ddod draw i’r ddinas yma heddiw ar ryw fusnes a swniai’n eithriadol o bwysig. Mae’n debygol iawn y bydd o oddi cartref drwy’r dydd, ac na fyddai yn Stoke Moran ddim byd i darfu rhag i chi wneud hynny. Erbyn hyn mae gennym ni feistres tŷ, ond mae hi mewn gwth o oedran a braidd yn ffwndrus ei meddwl, ac mi allwn i drefnu’n hawdd i’w chael hi o’r ffordd am ryw awr neu ddwy, yn ôl eich cyfarwyddyd chi.”

“As it happens, he spoke of coming into town to-day upon some most important business. It is probable that he will be away all day, and that there would be nothing to disturb you. We have a housekeeper now, but she is old and foolish, and I could easily get her out of the way.”

“Ardderchog. Does gennych chi ddim byd yn erbyn ymweliad o’r fath, Watson?”

“Excellent. You are not averse to this trip, Watson?”

“Ddim o gwbl.”

“By no means.”

“Os felly, fe ddeuwn ni’n dau. Beth ydych chi eich hun am ei wneud, rhwng nawr a hynny?”

“Then we shall both come. What are you going to do yourself?”

“Mae gen i un neu ddau o bethau yr hoffwn i eu gwneud, tra fy mod innau rwan yma yn Llundain. Ond mi fydda i’n dychwelyd efo’r trên deuddeg o’r gloch, fel y bydda i yno mewn pryd i ddisgwyl i chi gyrraedd.”

“I have one or two things which I would wish to do now that I am in town. But I shall return by the twelve o’clock train, so as to be there in time for your coming.”

“Ac fe allwch chi ein disgwyl ni’n gynnar yn y prynhawn. Mae gen i fy hun ryw faterion busnes bychain i ddelio gyda nhw, yn y cyfamser. Wnewch chi ddim aros gyda ni am damaid o frecwast?”

“And you may expect us early in the afternoon. I have myself some small business matters to attend to. Will you not wait and breakfast?”

“Na’n wir; mae’n rhaid i mi fynd, diolch yn fawr i chi. Mae fy nghalon i wedi ysgafnhau’n barod ers i mi ymddiried fy nhrafferthion i chi. Mi fydda i’n edrych ymlaen at eich gweld chi eto’r prynhawn yma.” Gostyngodd rwyden ei fêl ddu drwchus dros ei hwyneb, a llithrodd allan o’r ystafell yn gynnil o gwrtais.

“No, I must go. My heart is lightened already since I have confided my trouble to you. I shall look forward to seeing you again this afternoon.” She dropped her thick black veil over her face and glided from the room.

“A beth ydych chi’n ei feddwl o’r cyfan, Watson?” holodd Sherlock Holmes, gan bwyso’i gefn yn ôl yn ei gadair.

“And what do you think of it all, Watson?” asked Sherlock Holmes, leaning back in his chair.

“Mae’n ymddangos i mi fel fod hwn yn hen fusnes tra thywyll a sinistr.”

“Mae’n ymddangos i mi fel fod hwn yn hen fusnes tra thywyll a sinistr.”

“It seems to me to be a most dark and sinister business.”

“Digon tywyll yn wir, a digon sinistr.”

“Dark enough and sinister enough.”

“Ac eto, os yw’r fonesig yn gywir wrth ddweud bod y lloriau a’r muriau yn solet, ac nad oes modd cael mynediad drwy’r drws na’r ffenestr na’r simnai, yna mae’n rhaid bod ei chwaer heb amheuaeth wedi bod ar ei phen ei hun, pan gyfarfu hi â’i diwedd dirgel.”

“Yet if the lady is correct in saying that the flooring and walls are sound, and that the door, window, and chimney are impassable, then her sister must have been undoubtedly alone when she met her mysterious end.”

“Beth felly yw eich esboniad chi o’r chwibanu liw nos yma? A beth am eiriau rhyfeddol eithriadol y wraig ifanc wrth iddi hi farw?”

“What becomes, then, of these nocturnal whistles, and what of the very peculiar words of the dying woman?”

“Alla’ i’n fy myw ddim dychmygu.”

“I cannot think.”

“Pan gyfunwch chi’r syniadau am chwibanu ym mherfedd nos, am bresenoldeb cylch o sipsiwn crwydrol sydd ar delerau cyfeillgar agos iawn gyda’r hen feddyg yma, y ffaith bod gennym ni bob rheswm i gredu bod y meddyg yn awyddus y tu hwnt i rwystro ei lysferch rhag priodi, y crybwylliad astrus o wefusau merch ar drengi at ryw gylch o ryw fath, ac yn olaf un y ffaith fod Miss Helen Stoner wedi clywed clang metelaidd, a allai fod wedi cael ei achosi gan un o’r bariau hynny sydd at sicrhau bod shwteri’r ffenestri ar gau, wedi syrthio’n glap i’w gynnal-fachau, yna fe greda’ i ein bod ni ar dir go ddiogel i feddwl mai ar y llinellau hynny y llwyddwn ni i glirio’r dirgelwch hwn.”

“When you combine the ideas of whistles at night, the presence of a band of gipsies who are on intimate terms with this old doctor, the fact that we have every reason to believe that the doctor has an interest in preventing his stepdaughter’s marriage, the dying allusion to a band, and, finally, the fact that Miss Helen Stoner heard a metallic clang, which might have been caused by one of those metal bars that secured the shutters falling back into its place, I think that there is good ground to think that the mystery may be cleared along those lines.”

“Ond pa ran, felly, a chwaraewyd gan y sipsiwn yn hyn oll?”

“But what, then, did the gipsies do?”

“Duw a ŵyr; alla’ i fy hun, ar fy ngair, ddim meddwl.”

“I cannot imagine.”

“Hm; mi alla’ i weld nifer o wrthwynebiadau i’r fath ddamcaniaeth.”

“I see many objections to any such theory.”

“Felly minnau hefyd; ac am yr union reswm hwnnw rydym ni’n mynd draw i Stoke Moran heddiw. Rwyf i am weld p’run ai yw’r gwrthwynebiadau o bwys angheuol, neu a ellir cynnig esboniad rhesymol iddyn nhw. Ond beth, yn enw’r Diawl!”

“And so do I. It is precisely for that reason that we are going to Stoke Moran this day. I want to see whether the objections are fatal, or if they may be explained away. But what in the name of the devil!”

Yr hyn a enynnodd y fath ebychiad o enau fy nghyfaill oedd y ffaith i’n drws ni gael ei hyrddio’n agored, yn hollol ddirybudd, gan dynnu ein sylw ni’n ddiatal at anferth o ddyn yn sefyll fel pe wedi ei fframio ym mwlch yr agorfa. Roedd wedi ei ddilladu mewn cymysgedd od o wryw-wisg proffesiynol a gweith-wisg amaethyddol, gyda’i het silc-uchel ddu ar ei ben, ffrog-gôt laes, a phâr o goesarnau uchel; ac yn ei law swingiai chwip-wialen hela. Roedd y creadur mor dal fel bod ei het silc mewn gwirionedd yn ysgubo yn erbyn trawst uchaf porth y drws, ac roedd ei gorff mor llydan fel ei fod yn ymestyn o un polyn plwm y porth i’r llall. Nodweddid ef hefyd gan ben anarferol o fawr, a hwnnw fel pe bai wedi ei ysgythru gyda miloedd o grychau; roedd croen ei wyneb wedi ei losgi’n felyn gan yr haul, a’i wedd yn bradychu pob nwyd anfadus, wrth iddo droi ei wep o un i’r llall ohonom ni; tra roedd ei lygaid dirgel-ddwfn, gwaetgoch a llawn bustl, a’i drwyn main gyda’i bont uchel, esgyrnog, yn peri iddo edrych yn debyg iawn i hen fwltur ysglyfaethus a ffyrnig.

The ejaculation had been drawn from my companion by the fact that our door had been suddenly dashed open, and that a huge man had framed himself in the aperture. His costume was a peculiar mixture of the professional and of the agricultural, having a black top-hat, a long frock-coat, and a pair of high gaiters, with a hunting-crop swinging in his hand. So tall was he that his hat actually brushed the cross bar of the doorway, and his breadth seemed to span it across from side to side. A large face, seared with a thousand wrinkles, burned yellow with the sun, and marked with every evil passion, was turned from one to the other of us, while his deep-set, bile-shot eyes, and his high, thin, fleshless nose, gave him somewhat the resemblance to a fierce old bird of prey.

Which one of you is Holmes?
"Which one of you is Holmes?"

“Pa un ohonoch chi ydy Holmes?” rhuodd y ddrychiolaeth yma.

“Which of you is Holmes?” asked this apparition.

“Fy enw i yw hwnnw, syr; ond ... maddeuwch i mi ... mae gennych chi’r fantais arna’ i,” oedd ymateb tawel a bonheddig fy nghydymaith.

“My name, sir; but you have the advantage of me,” said my companion quietly.

“Fi ydy Dr. Grimesby Roylott, o Stoke Moran.”

“I am Dr. Grimesby Roylott, of Stoke Moran.”

“Felly’n wir, Doctor,” atebodd Holmes yn arwynebol groesawgar a chartrefol, mewn ymgais i ddiffiwsio a thyneru’r awyrgylch. “Da chi, syr, cymerwch sedd.”

“Indeed, Doctor,” said Holmes blandly. “Pray take a seat.”

“Wna i ddim o’r fath beth. Mae fy llysferch i wedi bod yma. Rydw i wedi olrhain ei thrywydd hi bob cam i’r lle hwn. Beth mae hi wedi bod yn ei glepian amdano wrthych chi, efo’i thafod ffiaidd a gwenwynllyd?”

“I will do nothing of the kind. My stepdaughter has been here. I have traced her. What has she been saying to you?”

“Mi dybiaf fod y tywydd ychydig yn oer am yr adeg yma o’r flwyddyn,” cynigiodd Holmes fel mater o sylwebaeth ddigyswllt, eto mewn agwedd radlon a chyfeillgar, i’r perwyl o geisio heddychu’r sefyllfa.

“It is a little cold for the time of the year,” said Holmes.

“Beth mae hi wedi ei ddweud wrthych chi?” taranodd yr hen ŵr yn flin gynddeiriog.

“What has she been saying to you?” screamed the old man furiously.

“Ond mi rydw i wedi clywed fod y saffrwn yn argoeli’n dda,” atebodd fy nghyfaill, gan barhau i ymddangos yn gwbl ddigyffro dan ymosodiad mor annymunol.

“But I have heard that the crocuses promise well,” continued my companion imperturbably.

“Hy! Ydych chi’n ceisio fy mwrw i oddi ar fy echel, ydych chi?” meddai ein hymwelydd newydd, gan gymryd cam ymlaen, ac ysgwyd ei fflangell hela’n fygythiol yn wyneb Holmes. “Mi wn i amdanoch chi, y cnaf! Rydw i wedi clywed amdanoch chi o’r blaen. Chi ydy Holmes yr ymyrrwr diegwyddor!”

“Ha! You put me off, do you?” said our new visitor, taking a step forward and shaking his hunting-crop. “I know you, you scoundrel! I have heard of you before. You are Holmes, the meddler.”

Gwenodd fy nghyfaill.

My friend smiled.

“Holmes y busnesgi bondigrybwyll!”

"Holmes, the busybody!"

“Holmes, ‘Siôn Swyddfa’ Scotland Yard.”

“Holmes, the Scotland Yard Jack-in-office!”

Chwarddodd Holmes yn foddhaus. “Mae eich sgwrs yn eithriadol o ddiddanus,” meddai’n hamddenol. “Pan fyddwch chi’n mynd allan, byddwch mor garedig â chau’r drws ar eich ôl, gan fod yna ddrafft diamheuol yn yr ystafell yma.”

Holmes chuckled heartily. “Your conversation is most entertaining,” said he. “When you go out close the door, for there is a decided draught.”

“Mi adawa’ i wedi i mi orffen dweud fy nweud. Peidiwch chi â meiddio medlan efo fy materion i, Mr Holmes. Mi wn i’n iawn fod Miss Stoner wedi bod yma; mi wnes i ddilyn ei chamre hi yr holl ffordd i’r lle hwn! Mi rydw i’n ddyn peryglus i chi hyd yn oed ystyried sathru ar fy nghyrn i! Edrychwch yma ..." Camodd ymlaen yn frysiog, gafaelodd fel gefel yn y pocer tân oddi ar yr aelwyd, a chyda’i balfalau melyngoch enfawr fe’i plygodd yn y fan a’r lle yn hanner-crwn fel cryman.

“I will go when I have said my say. Don’t you dare to meddle with my affairs. I know that Miss Stoner has been here. I traced her! I am a dangerous man to fall foul of! See here.” He stepped swiftly forward, seized the poker, and bent it into a curve with his huge brown hands.

“Jest byddwch chi’n ofalus i’ch cadw eich hun allan o afael fy nghrafangau i,” cyfarthodd; a chan hyrddio’r pocer ystumiedig yn ei ôl i’r lle tân, trodd ar ei sawdl a brasgamodd allan o’r ystafell yn gandryll ei dymer.

“See that you keep yourself out of my grip,” he snarled, and hurling the twisted poker into the fireplace he strode out of the room.

“Onid ydy e’n greadur dymunol,” dychanodd Holmes, gan chwerthin yn isel yn ei wddf. “Fe wn i nad wyf i cweit mor gorffog ag e', ond pe buasai’r dyn wedi aros fymryn yn hirach efallai y byddwn innau wedi dangos iddo fe nad yw fy nerth i ryw lawer iawn yn fwy musgrell na’i gryfder yntau.” Wrth iddo siarad felly, plygodd yn bwyllog i godi’r pocer, a chyda hergwd sydyn â’i ddwy law fe’i sythodd allan yn ei ôl, mor unionsyth ag y disgwylid i bocer tân fod.

“He seems a very amiable person,” said Holmes, laughing. “I am not quite so bulky, but if he had remained I might have shown him that my grip was not much more feeble than his own.” As he spoke he picked up the steel poker and, with a sudden effort, straightened it out again.

“Wel! Dychmygwch y fath haerllugrwydd; i feiddio fy nghamgymryd i am un o dditectifs swyddogol yr heddlu, a’m gosod i’n gyfartal ag un ohonyn nhw! Mae’r digwyddiad hwn, serch hynny, yn symbyliad heriol sydd wedi rhoi inni arddeliad penderfynol i ymroi i’r archwiliad hwn o ddifrif; a ’dwyf i ond yn gobeithio na fydd ein cyfaill annwyl ni’n dioddef mewn unrhyw ffordd o ganlyniad i’w hannoethineb, yn caniatáu i’r cythraul gwallgof hwn ddilyn ôl ei throed hi yma. Felly nawr, Watson, fe archebwn ni frecwast, ac wedyn fe gerddwn ni heb oedi i lawr i Lys y Meddygon, lle rwy’n gobeithio cael gafael ar ddata a all ein cynorthwyo ni’n y mater hwn sydd ger ein bron ni.”

“Fancy his having the insolence to confound me with the official detective force! This incident gives zest to our investigation, however, and I only trust that our little friend will not suffer from her imprudence in allowing this brute to trace her. And now, Watson, we shall order breakfast, and afterwards I shall walk down to Doctors’ Commons, where I hope to get some data which may help us in this matter.”

Roedd hi bron yn un o’r gloch pan ddychwelodd Sherlock Holmes o’i ecsgwrsiwn. Daliai yn ei law daflen o bapur glas yn llawn o nodiadau a ffigurau wedi eu sgriblo drosto.

It was nearly one o’clock when Sherlock Holmes returned from his excursion. He held in his hand a sheet of blue paper, scrawled over with notes and figures.

“Rwyf i wedi gweld ewyllys y wraig a fu farw,” meddai ef; “ac i geisio dod o hyd i’w hunion ystyr fe’m gorfodwyd i weithio allan brisiau cyfredol y buddsoddiadau sydd ynghlwm wrthi. Erbyn hyn ’dyw cyfanswm yr incwm a oedd ar yr adeg y bu farw’r wraig ryw ychydig yn fyr o £1,100, oherwydd y gostyngiad mewn prisiau amaethyddol yn y cyfamser, yn ddim mwy na £750. Gall y ddwy chwaer hawlio incwm o £250 yr un ar achlysur eu priodas, ill dwy ohonyn nhw. Mae’n amlwg felly, petai’r ddwy ferch landeg yma wedi priodi, na fyddai’r dihiryn hwn yn medru denu i’w goffrau ef ei hun ond swm pitw bychan iawn o’r golud. Mewn gwirionedd, pe byddai ond un o’r chwiorydd yn digwydd priodi, byddai hynny’n ddigon i andwyo ei obeithion trachwantus ef ei hun i raddau difrifol iawn. Ond ’dyw fy llafur i’r bore hwn ddim wedi bod yn ofer o bell ffordd, gan fod y Bonheddwr Byrbwyll ei hun wedi profi yn ein gŵydd ni bod ganddo fe’r cymhelliad cryfaf dros sefyll yn y ffordd i rwystro rhag i unrhyw beth fel priodas ddigwydd, tra byddo anadl ynddo fe. A nawr, Watson, mae’r mater hwn yn rhy ddifrifol i ni lusgo ein traed na llaesu ein dwylo yn ei gylch, yn arbennig felly gan fod yr hen ŵr gorffwyll yma’n ymwybodol ein bod ni’n ymddiddori yn ei faterion a’i fusnes; felly os y’ch chi’n barod, fe alwn ni am gerbyd er mwyn gyrru tuag at Waterloo. Fe fyddwn i’n gwerthfawrogi’n fawr iawn pe byddech chi’n llithro llawddryll i’ch llogell. Does dim i guro cetrisen Eley Rhif 2 at setlo dadl gyda bonheddwr sy’n giamstar ar gyfrodeddu poceri dur yn glymau. Hwnnw, a brws dannedd yr un, am a wn i, yw’r cyfan fyddwn ni’n dau eu hangen.”

“I have seen the will of the deceased wife,” said he. “To determine its exact meaning I have been obliged to work out the present prices of the investments with which it is concerned. The total income, which at the time of the wife’s death was little short of £1100, is now, through the fall in agricultural prices, not more than £750. Each daughter can claim an income of £250, in case of marriage. It is evident, therefore, that if both girls had married, this beauty would have had a mere pittance, while even one of them would cripple him to a very serious extent. My morning’s work has not been wasted, since it has proved that he has the very strongest motives for standing in the way of anything of the sort. And now, Watson, this is too serious for dawdling, especially as the old man is aware that we are interesting ourselves in his affairs; so if you are ready, we shall call a cab and drive to Waterloo. I should be very much obliged if you would slip your revolver into your pocket. An Eley’s No. 2 is an excellent argument with gentlemen who can twist steel pokers into knots. That and a tooth-brush are, I think, all that we need.”

Pan gyraeddasom ni Waterloo, fe fuom ni’n ffodus iawn i ddal y trên yn syth i Leatherhead, lle y gwnaethom ni logi trap o dafarn yr orsaf, a gyrru am bedair neu bum milltir ar hyd lonydd hyfryd swydd Surrey. Roedd hi’n ddiwrnod bendigedig o braf, gyda haul disglair ac ychydig o gymylau gwyn-wlanog yn y ffurfafen. Ymwthiai’r coed a’r gwrychoedd ar hyd ymylon y ffordd eu blagur gwyrdd cynharaf, ac roedd yr awyr ei hun yn llawn o sawr pleserus y ddaear laith. Allwn i fy hun o leiaf ddim peidio â synhwyro’r gwrthgyferbyniad anghyfforddus rhwng yr addewid felys a’n hamgylchynai ni am ddyfodiad y gwanwyn pêr, a’r cyrch adwythig a sinistr hwn yr oeddem ni’n dau wedi ymrwymo iddo. Eisteddai fy nghydymaith ym mhen blaen y trap, ei ddwylo ymhleth, ei het fowler ddu wedi ei thynnu ymlaen dros ei lygaid, ei ên wedi ei suddo’n ôl i mewn i’w frest, a’i fyfyrdod ym mherfeddion ei feddyliau dwysaf. Yn sydyn ddigon, fodd bynnag, bywiogodd gydag afiaith, trawodd fi’n ysgafn ar fy ysgwydd, a phwyntiodd â’i fys dros y dolydd.

At Waterloo we were fortunate in catching a train for Leatherhead, where we hired a trap at the station inn and drove for four or five miles through the lovely Surrey lanes. It was a perfect day, with a bright sun and a few fleecy clouds in the heavens. The trees and wayside hedges were just throwing out their first green shoots, and the air was full of the pleasant smell of the moist earth. To me at least there was a strange contrast between the sweet promise of the spring and this sinister quest upon which we were engaged. My companion sat in the front of the trap, his arms folded, his hat pulled down over his eyes, and his chin sunk upon his breast, buried in the deepest thought. Suddenly, however, he started, tapped me on the shoulder, and pointed over the meadows.

“Edrychwch fan draw acw!” meddai, wedi ei sionci drwyddo.

“Look there!” said he.

O’n blaenau ni ymestynnai parc yn drwm dan goed ar lethr llyfn a oleddfai’n raddol ar i fyny oddi wrthym, gyda’r goedwig yn trwcháu o dipyn i beth i ffurfio celli drwchus, dywyll ar gopa uchaf y bryn. O blith y canghennau gwyrdd ymwthiai talcen tŷ llwydaidd yr olwg a chronglwydydd a berthynai i faenordy hynafol iawn.

A heavily timbered park stretched up in a gentle slope, thickening into a grove at the highest point. From amid the branches there jutted out the grey gables and high roof-tree of a very old mansion.

“Stoke Moran?” holodd fy nghydymaith.

“Stoke Moran?” said he.

“O, ie, syr,” atebodd y gyrrwr ifanc; “hwn ’co fan ’co yw cartre’ Dr. Grimesby Roylott.”

“Yes, sir, that be the house of Dr. Grimesby Roylott,” remarked the driver.

“Mae yna waith adeiladu’n mynd ymlaen yno,” sylwodd Holmes, gan ychwanegu: “Dyna’n cyrchfan ni; dyna’r lle rydym ni’n mynd iddo.”

“There is some building going on there,” said Holmes; “that is where we are going.”

“A ’co’r pentre’ fan ’co,” esboniodd y gyrrwr, gan bwyntio at glwstwr o doeau tai beth pellter i ffwrdd ar ein hochr chwith. “Ond os y’ch chi’n mo’yn mynd at y tŷ mawr ’co, fe ffindiwch taw cynted i chi fydd croesi’r sticil fan ’co, a dilyn y droedffordd ’co wedyn drwy’r caeau. ’Co fe’r llwybr, lle mae’r lodes ’co’n rhodio.”

“There’s the village,” said the driver, pointing to a cluster of roofs some distance to the left; “but if you want to get to the house, you’ll find it shorter to get over this stile, and so by the foot-path over the fields. There it is, where the lady is walking.”

“A’r lodes, mi debygaf, yw Miss Stoner,” sylwodd Holmes, gan gysgodi’r heulwen o’i lygaid â’i law. “Ie’n wir; ... efallai mai’r doethaf i ni fyddai dilyn eich awgrym chi, hefyd.”

“And the lady, I fancy, is Miss Stoner,” observed Holmes, shading his eyes. “Yes, I think we had better do as you suggest.”

We got off, paid our fare
We got off, paid our fare.

Arhosodd y march, talasom yr arian oedd yn ddyledus am ein cludiant, ac unwaith yr oedd ein traed ni’n gadarn ar y ddaear, trodd y gyrrwr ei gerbyd i wynebu’r cyfeiriad y teithiasem ohono, a ratlodd y trap ar ei hynt yn ôl tuag at Leatherhead.

We got off, paid our fare, and the trap rattled back on its way to Leatherhead.

“Meddyliais mai cystal peth,” esboniodd Holmes wrth i ni ddringo dros y gamfa, “oedd pe byddai’r llanc yna’n tybied ein bod ni wedi dod yma fel penseiri, neu ar ryw fusnes cyffelyb. O bosib y bydd hynny’n rhoi taw ar ei glebran. Prynhawn da, Miss Stoner. Fe welwch ein bod ni’n dau wedi bod gystal â’n gair.”

“I thought it as well,” said Holmes as we climbed the stile, “that this fellow should think we had come here as architects, or on some definite business. It may stop his gossip. Good-afternoon, Miss Stoner. You see that we have been as good as our word.”

Roedd y cleient y bu i ni ei chwrdd yn gynharach y bore hwnnw wedi prysuro ymlaen i’n cyfarfod ni gydag wyneb a fynegai ei llawenydd. “Rydw i wedi bod yn disgwyl mor eiddgar amdanoch chi,” llefodd yn siriol a hapus, gan ysgwyd ein dwylo ni’n gynnes o groesawgar. “Mae popeth wedi gweithio allan yn ardderchog hyd yma. Mae Dr. Roylott wedi mynd tua thref i Lundain, ac mae hi’n annhebygol y bydd o’n dychwelyd cyn y min nos.”

Our client of the morning had hurried forward to meet us with a face which spoke her joy. “I have been waiting so eagerly for you,” she cried, shaking hands with us warmly. “All has turned out splendidly. Dr. Roylott has gone to town, and it is unlikely that he will be back before evening.”

“Rydym ni eisoes wedi cael y pleser o ddod i adnabod y Meddyg yn lled dda,” meddai Holmes; ac mewn ychydig eiriau amlinellodd yn fyr yr hyn a ddigwyddasai yn ein cartref-swyddfa, yn dilyn ei hymadawiad hi oddi yno yn gynharach y bore hwnnw. Fel yr oedd hi’n gwrando, trodd gwefusau Miss Stoner yn welw wyn.

“We have had the pleasure of making the doctor’s acquaintance,” said Holmes, and in a few words he sketched out what had occurred. Miss Stoner turned white to the lips as she listened.

“Y nefoedd wen!” ebychodd, “mae o wedi fy nilyn i, felly.”

“Y nefoedd wen!” ebychodd, “mae o wedi fy nilyn i, felly.”

“Good heavens!” she cried, “he has followed me, then.”

“Felly y mae hi’n ymddangos.”

“So it appears.”

“Mae o mor llwynogaidd o gyfrwys fel nad ydw i byth yn gwybod pryd rydw i’n ddiogel oddi wrtho. Beth ar y ddaear fawr a ddywedith o pan ddychwelith o’n ei ôl yma?”

“He is so cunning that I never know when I am safe from him. What will he say when he returns?”

“Fe fydd yn rhaid iddo fod ar ei wyliadwriaeth, gan y gallai e’ ddarganfod bod rhywun arall hyd yn oed fwy cynllwyngar nag ef ei hun ar ei drywydd. Mi fydd yn rhaid i chi eich cloi eich hun oddi wrtho fe heno. Os bydd e’n dreisgar, yna fe wnawn ni eich cipio chi i ffwrdd at eich modryb yn Harrow. Nawr ’te, mae’n rhaid i ni wneud y gorau o’n hamser prin, felly byddwch gystal â’n tywys ni ar unwaith i’r ystafelloedd roeddem ni am eu harchwilio, os gwelwch chi’n dda.”

“He must guard himself, for he may find that there is someone more cunning than himself upon his track. You must lock yourself up from him to-night. If he is violent, we shall take you away to your aunt’s at Harrow. Now, we must make the best use of our time, so kindly take us at once to the rooms which we are to examine.”

Roedd adeilad y maenordy o wenithfaen llwyd, wedi ei orchuddio’n drwm â sypiau gwyrdd o gen y cerrig; ac roedd y rhan ganolog ohono’n gymharol uwch na’r gweddill. Roedd iddo ddwy adain grymog yn ymestyn allan o’r ddeutu ac yn troi’n gilgantaidd i gyfeiriad ei gilydd megis crafangau cranc enfawr. O edrych yn frysiog dros yr adain chwith, gwelid fod paneli gwydr y ffenestri wedi eu torri, yn deilchion yma ac acw, a bod rhai o’r bylchau wedi eu cau i mewn â byrddau pren; tra bod y to hefyd yn rhannol wedi cwympo i mewn arno’i hun. Ciplun o ddadfeiliad, os bu un erioed. Tua chanol yr adeilad edrychai’r adeiladwaith fel pe’i fod mewn ychydig gwell cyflwr. Ond roedd arwyddion amlwg fod y bloc ar yr ochr dde yn gymharol fodern; yno roedd y llenni ar y ffenestri, a’r mwg glas a droellai fry allan o’r simneiau, yn arwyddion cadarnhaol mai dyma’r unig ran o’r tŷ y preswyliai’r teulu ynddo bellach. Roedd ychydig o sgaffaldiau wedi eu codi yn erbyn wal talcen yr adeilad, ac roedd bwlch wedi ei dorri yn y gwaith maen, ond doedd dim arwyddion bod gweithwyr o amgylch y safle ar foment neilltuol ein hymweliad ni â’r lle. Cerddodd Holmes yn araf i fyny ac i lawr y lawnt a oedd mewn cyflwr tra anghymen, ar laswellt a edrychai’n debycach o fod wedi ei rwygo na’i dorri, gan roi ei holl sylw dwys i archwilio saernïaeth allanol y ffenestri.

The building was of grey, lichen-blotched stone, with a high central portion and two curving wings, like the claws of a crab, thrown out on each side. In one of these wings the windows were broken and blocked with wooden boards, while the roof was partly caved in, a picture of ruin. The central portion was in little better repair, but the right-hand block was comparatively modern, and the blinds in the windows, with the blue smoke curling up from the chimneys, showed that this was where the family resided. Some scaffolding had been erected against the end wall, and the stone-work had been broken into, but there were no signs of any workmen at the moment of our visit. Holmes walked slowly up and down the ill-trimmed lawn and examined with deep attention the outsides of the windows.

“Dyma, ’dw i’n ei gymryd, y rhan o’r tŷ sy’n cynnwys yr ystafelloedd lle roeddech chi’n arfer cysgu; gyda’ch chwaer yn defnyddio’r ystafell ganol yma, siŵr o fod, sydd bared wrth bared â siambr Dr. Roylott yn y prif adeilad?”

“This, I take it, belongs to the room in which you used to sleep, the centre one to your sister’s, and the one next to the main building to Dr. Roylott’s chamber?”

“Yn gymwys felly; ond ar hyn o bryd rydw i fy hun yn cysgu yn yr ystafell ganol honna.”

“Exactly so. But I am now sleeping in the middle one.”

“Tra bo’r newidiadau a’r ailadeiladu ar y gweill, os deallaf yn gywir. Gyda llaw, ’dyw hi ddim yn ymddangos i mi fod unrhyw alw mawr am atgyweirio fel y cyfryw i’r wal dalcen yna.”

“Pending the alterations, as I understand. By the way, there does not seem to be any very pressing need for repairs at that end wall.”

“Ar ei ben; does dim un rheswm nac un angen yn y byd am unrhyw drwsio yn y fan ’na. Fy marn i ydy mai esgus oedd y cyfan, i’m symud i allan o’m hystafell.”

“There were none. I believe that it was an excuse to move me from my room.”

“Ah! Mi synhwyra’ i ryw awgrym o ddatgeliad bychan yn eich geiriau? Nawr ’te, ar yr ochr arall i’r adain gul yma mae’n rhaid bod y coridor y mae drysau’r ystafelloedd hyn yn agor allan iddo. Mae yna ffenestri ar waliau’r coridor, wrth gwrs?”

“Ah! that is suggestive. Now, on the other side of this narrow wing runs the corridor from which these three rooms open. There are windows in it, of course?”

“Oes, mae yna, ond rhai bychain iawn ydyn nhw; yn rhy gul i unrhyw berson fedru dringo i mewn ac allan drwyddyn nhw.”

“Yes, but very small ones. Too narrow for anyone to pass through.”

“Ond gan i chi eich dwy gloi eich drysau gyda’r nos, doedd dim ffordd y gellid cael mynediad i’r un o’ch ystafelloedd chi o’r ochr honno. Nawr ’te, fyddech chi mor garedig â mynd i mewn i’ch ystafell ac agor eich ffenestr, Miss Stoner; yna caewch y caeadau o’r tu mewn, a gosodwch y bar ar eu traws i’w cloi nhw’n eu lle.”

“As you both locked your doors at night, your rooms were unapproachable from that side. Now, would you have the kindness to go into your room and bar your shutters?”

Wedi i Miss Stoner fynd i mewn i’r tŷ a gwneud yn union yn ôl cyfarwyddiadau fy nghyfaill, archwiliodd Holmes y shwteri drwy’r ffenestr agored, o’r tu allan, gan ymdrechu ymhob modd i wthio’r caeadau ar agor, ond heb unrhyw lwyddiant. Doedd dim un rhigol y gellid gwthio llafn fain cyllell drwyddi er mwyn ceisio codi’r bar oddi ar ei gynnal-fachau. Yna gyda’i chwyddhadur gwydr, profodd y colfachau’n fanwl; ond roeddent hwythau o haearn caled, wedi eu hadeiladu’n gadarn i mewn i saernїaeth y gwaith maen swmpus.

Miss Stoner did so, and Holmes, after a careful examination through the open window, endeavoured in every way to force the shutter open, but without success. There was no slit through which a knife could be passed to raise the bar. Then with his lens he tested the hinges, but they were of solid iron, built firmly into the massive masonry.

“Hm!” anadlodd allan yn y man, gan grafu ei ên mewn peth penbleth; “mae fy namcaniaeth i yn amlwg yn datgelu mwy o feini tramgwydd na’r disgwyl, ac yn codi mwy o anawsterau nag y mae hyd yma yn eu datrys. Allai’r un copa gwalltog wthio drwy’r shwteri hyn, a hwythau wedi eu bolltio oddi mewn i’r tŷ. Wel, mi gawn ni weld os gall y tu fewn i’r ystafell gynnig unrhyw oleuni pellach ar y mater.”

“Hum!” said he, scratching his chin in some perplexity, “my theory certainly presents some difficulties. No one could pass these shutters if they were bolted. Well, we shall see if the inside throws any light upon the matter.”

Arweiniai drws ochr bychan i mewn i dramwyfa’r coridor gwyngalchog, o’r hwn yr agorai drysau i dair ystafell wely ochr yn ochr â’i gilydd. Gwrthododd Holmes archwilio’r drydedd siambr, felly dyma ni’n ei hanelu hi’n syth at yr ail, sef yr un y symudwyd Miss Stoner iddi hi, i’w defnyddio ar hynny o bryd fel ei hystafell wely bersonol, a’r union ystafell lle yr wynebodd ei chwaer ei thynged angheuol. Ystafell fechan ddigon clyd a chartrefol, ag iddi nenfwd isel a lle tân llydan agored yn adlewyrchu steil a ffasiwn hen dai’r pendefigion gwledig ers talwm. Mewn un gongl safai cist ddroriau brown, gyferbyn â gwely cul ac arno garthen wen drwsiadus, mewn congl yr ochr arall; ac ar ochr chwith y ffenestr roedd bwrdd ymbincio destlus. Dyna’r cyfan o eitemau, ynghyd â dwy gadair fechan o blethwaith gwiail, a gyfansoddai’r casgliad o ddodrefn yn yr ystafell, ar wahân i ddarn sgwâr o garped Wilton ar ganol y llawr. Roedd y byrddau a’r paneli ar y muriau amgylchynol o dderw brown, ac yn rhydyllog o dyllau’r pry pren drwyddynt; mor hen a llychwin fel ag i awgrymu eu bod nhw mwy na thebyg yn dyddio’n ôl i gyfnod adeiladu’r tŷ yn wreiddiol. Tynnodd Holmes un o’r cadeiriau plethwaith gwiail i’r gornel wag ac eisteddodd yn araf a thawel ynddi hi, tra teithiai ei lygaid yn bwyllog i fyny ac i waered a sawl gwaith o amgylch y lle, gan gymryd i mewn bob manylyn gweledol o fewn yr ystafell.

A small side door led into the whitewashed corridor from which the three bedrooms opened. Holmes refused to examine the third chamber, so we passed at once to the second, that in which Miss Stoner was now sleeping, and in which her sister had met with her fate. It was a homely little room, with a low ceiling and a gaping fireplace, after the fashion of old country-houses. A brown chest of drawers stood in one corner, a narrow white-counterpaned bed in another, and a dressing-table on the left-hand side of the window. These articles, with two small wicker-work chairs, made up all the furniture in the room save for a square of Wilton carpet in the centre. The boards round and the panelling of the walls were of brown, worm-eaten oak, so old and discoloured that it may have dated from the original building of the house. Holmes drew one of the chairs into a corner and sat silent, while his eyes travelled round and round and up and down, taking in every detail of the apartment.

“Gyda ble y mae’r gloch yna’n cysylltu?” gofynnodd o’r diwedd, gan bwyntio at raff cloch drwchus a hongiai i lawr gydag ochr y gwely, ei phen-gwlwm taslog yn gorffwyso mewn gwirionedd ar y gobennydd.

“Where does that bell communicate with?” he asked at last pointing to a thick bell-rope which hung down beside the bed, the tassel actually lying upon the pillow.

“Mae hi’n cysylltu ag ystafell meistres y tŷ.”

“It goes to the housekeeper’s room.”

“Ydy hi ddim yn edrych yn newyddach, d’wedwch, nag eitemau eraill yr ystafell yma?”

“It looks newer than the other things?”

“Digon posib; gan na ffitiwyd mohoni at ei diben presennol tan ryw flwyddyn neu ddwy yn ôl.”

“Yes, it was only put there a couple of years ago.”

“Eich chwaer chi ofynnodd amdani hi, siŵr o fod?”

“Your sister asked for it, I suppose?”

“Na, go brin; chlywais i mohoni erioed yn sôn am ei defnyddio. Roeddem ni wastad yn arfer ymorol am yr hyn roeddem ni ei angen drosom ni ein hunain.”

“No, I never heard of her using it. We used always to get what we wanted for ourselves.”

“Felly’n wir; os hynny, onid braidd yn ddiangen oedd gosod cloch-raff mor hardd yma o gwbl? Ond ... esgusodwch fi am funud neu ddau, tra bydda i’n fy modloni fy hun ynghylch cyfansoddiad y llawr hwn.” Taflodd ei hun i lawr ar ei ben-gliniau, ei chwyddwydr yn ei law; a chan gropian ar ei bedwar yn frysiog yn ôl a blaen, archwiliodd bob modfedd o bob agen a chrac rhwng y llawr-fyrddau pren. Yna aeth ati yn yr un modd yn union i wirio cyflwr gwaith coed y paneli a orchuddiai’r muriau o amgylch y siambr. Ymhen y rhawg cyfeiriodd ei gamre at y gwely, a threuliodd sbel o amser yn syllu’n fyfyriol arno, gan redeg ei lygaid unwaith eto i fyny ac i lawr y muriau, bob un ohonynt yn eu tro. Yna, fel un weithred derfynol i’w archwiliad, estynnodd allan ei fraich, ymaflodd â’i law yn y gloch-raff, a thynnodd arni hi â phlwc sydyn.

“Indeed, it seemed unnecessary to put so nice a bell-pull there. You will excuse me for a few minutes while I satisfy myself as to this floor.” He threw himself down upon his face with his lens in his hand and crawled swiftly backward and forward, examining minutely the cracks between the boards. Then he did the same with the wood-work with which the chamber was panelled. Finally he walked over to the bed and spent some time in staring at it and in running his eye up and down the wall. Finally he took the bell-rope in his hand and gave it a brisk tug.

“Wel, ar fy enaid i; rhaff ffug ydy hi,” ebychodd rhwng ei ddannedd.

“Why, it’s a dummy,” said he.

“Beth? Wnaiff hi ddim canu cloch yn unman?”

“Won’t it ring?”

“Na wnaiff ... ddim byth bythoedd; dydy hi ddim hyd yn oed wedi ei chysylltu ag unrhyw wifren. Dyma ddiddorol iawn. Fe welwch chi’n awr fod y rhaff wedi ei chlymu wrth fachyn yn union uwchben y man lle y mae agoriad bychan yr awyrydd yna wedi ei dyllu drwy’r pared.”

“No, it is not even attached to a wire. This is very interesting. You can see now that it is fastened to a hook just above where the little opening for the ventilator is.”

“Wel, pa mor hurt yw hynny! Wnes i erioed sylwi ar y peth o’r blaen.”

“How very absurd! I never noticed that before.”

“Rhyfedd iawn, yn wir!” mwmiodd Holmes mewn ymateb iddo’i hun yn fwy na neb arall, efallai; gan ymestyn ei law a thynnu’n ysgafn unwaith eto ar raff y cloch-ganwr ffug. “Mae yna un neu ddwy o nodweddion unigryw ynglŷn â’r ystafell hon. Er enghraifft, pa mor wirion yw adeiladydd sy’n ffitio sianel awyriadur neu wyntyllydd trwy wneud twll mewn gwahanfur mewnol, i’w gysylltu ag ystafell arall gyfagos; tra gallai ef gyda’r un faint o drafferth fod wedi tyllu drwy’r wal allanol acw ac agor cyswllt â’r awyr iach y tu allan i’r adeilad!”

“Very strange!” muttered Holmes, pulling at the rope. “There are one or two very singular points about this room. For example, what a fool a builder must be to open a ventilator into another room, when, with the same trouble, he might have communicated with the outside air!”

“Ac onid dyna hefyd y ffasiwn gyfoes o awyriadu ystafelloedd ym mhlastai’r boneddigion enwocaf?” cytunai’r fonesig.

“That is also quite modern,” said the lady.

“Mi w’ranta’ i y tyllwyd sianel yr awyrydd yna oddeutu’r un amser ag y ffitiwyd y gloch-raff dda-i-ddim yna yn ei lle,” awgrymodd Holmes.

“Done about the same time as the bell-rope?” remarked Holmes.

“Yn gywir felly; do, fe wnaed amryw o fân newidiadau i strwythur y tŷ, i gyd o gwmpas yr un adeg.”

“Yes, there were several little changes carried out about that time.”

“Ac fe ymddengys eu bod nhw at ei gilydd, ai trwy gyd-ddigwyddiad neu ddim, o ryw natur dra anarferol o ddiddorol; cloch-raffau ffug, ac awyryddion nad ydyn nhw’n darparu awyr iach. Gyda’ch caniatâd chi, Miss Stoner, fe awn ni’n awr i ymestyn ein harchwiliadau i gyffiniau’r rhandy mewnol.”

“They seem to have been of a most interesting character—dummy bell-ropes, and ventilators which do not ventilate. With your permission, Miss Stoner, we shall now carry our researches into the inner apartment.”

Er bod siambr Dr. Grimesby Roylott yn fwy o faint nag un ei lysferch, yr oedd wedi ei dodrefnu’r un mor blaen. Gwely cynfas ysgafn, silff fechan yn llawn o lyfrau (y rhan fwyaf ohonynt o natur dechnegol), cadair freichiau wrth erchwyn y gwely, cadair bren blaen yn erbyn y pared, bord gron, a choffr haearn lled fawr; dyna’r prif bethau a dynnai sylw’r llygad ar yr edrychiad cyntaf. Cerddodd Holmes yn araf o amgylch yr ystafell gan archwilio pob un o’r cyfryw eitemau gyda’r diddordeb mwyaf.

Dr. Grimesby Roylott’s chamber was larger than that of his step-daughter, but was as plainly furnished. A camp-bed, a small wooden shelf full of books, mostly of a technical character, an armchair beside the bed, a plain wooden chair against the wall, a round table, and a large iron safe were the principal things which met the eye. Holmes walked slowly round and examined each and all of them with the keenest interest.

“Beth sydd yn hwn?” holodd, gan guro pen haearnaidd y coffr â blaen ei fysedd.

“What’s in here?” he asked, tapping the safe.

“Papurau busnes fy llystad.”

“My stepfather’s business papers.”

“O! Ry’ch chi wedi gweld y tu fewn iddo fe, felly, do?”

“Oh! you have seen inside, then?”

“Dim ond unwaith, rai blynyddoedd yn ôl. Rydw i’n cofio ei fod o’r pryd hynny yn llawn o bapurau.”

“Only once, some years ago. I remember that it was full of papers.”

“Does yna’r un gath ynddo fe, er enghraifft, oes e’?”

“There isn’t a cat in it, for example?”

“Nac oes. Am syniad od!”

“No. What a strange idea!”

Well, look at this
Well, look at this.

“Wel, edrychwch ar hwn!” Cydiodd Holmes â’i law, a chododd soser fechan a safai ar ben y coffr; o’i mewn roedd llaeth ffres.

“Well, look at this!” He took up a small saucer of milk which stood on the top of it.

“Na’n wir; dydyn ni ddim yn cadw cath. Ond ... y mae yma lewpard a babŵn.”

“No; we don’t keep a cat. But there is a cheetah and a baboon.”

“Ah; ie, wrth gwrs! Wel, d’yw llewpard yn ddim amgenach na chath fawr, sbo; ac eto fyddai soser o laeth ddim yn mynd ymhell i dorri syched creadur felly, mi w’ranta’. Ond mae yna un pwynt arall o bwys yr hoffwn i ei ddatrys.” Sgwatiodd i lawr ar ei gwrcwd o flaen y gadair bren, ac archwiliodd ei sedd gyda diddordeb eithriadol.

“Ah, yes, of course! Well, a cheetah is just a big cat, and yet a saucer of milk does not go very far in satisfying its wants, I daresay. There is one point which I should wish to determine.” He squatted down in front of the wooden chair and examined the seat of it with the greatest attention.

“Diolch i chi. Dyna’r mater hwnna wedi ei setlo’n ddiamheuol,” mynegodd yn llawn bodlonrwydd, gan godi ar ei draed a dychwelyd ei chwyddhadur i boced ei wasgod.

“Thank you. That is quite settled,” said he, rising and putting his lens in his pocket.

“Helo! Dyma rywbeth diddorol!” Y gwrthrych a dynasai ei sylw oedd tennyn neu gynllyfan ci bychan, oedd wedi ei hongian dros gornel troed y gwely. Roedd blaen y tennyn fflangellaidd hwn, fodd bynnag, wedi ei droelli arno ei hun a’i glymu i ffurfio dolen lasŵaidd.

“Hullo! Here is something interesting!” The object which had caught his eye was a small dog lash hung on one corner of the bed. The lash, however, was curled upon itself and tied so as to make a loop of whipcord.

“Beth wnewch chi o hwnna, Watson?”

“What do you make of that, Watson?”

“Chwipgord ddigon cyffredin, feddyliwn i; ond wn i ddim pam fod neb wedi clymu ei phen yn ddolen yn y modd yna, ychwaith.”

“It’s a common enough lash. But I don’t know why it should be tied.”

“D’yw’r cwlwm rhedeg yna sydd arni hi ddim cweit mor gyffredin â’r tennyn ei hun, ydy e’? Ah; ar fy enaid i! Onid ydy’r byd yma’n lle drygionus; a phan fo dyn galluog yn cyfeirio ei feddyliau at gyflawni troseddau, yna dyna’r math gwaethaf o ddrygioni ohonyn nhw i gyd. Wel, ’dw i’n credu fy mod i wedi gweld digon erbyn hyn, Miss Stoner; ac felly, gyda’ch caniatâd chi, fe gerddwn ni’n ein holau allan ar y lawnt.”

“That is not quite so common, is it? Ah, me! it’s a wicked world, and when a clever man turns his brains to crime it is the worst of all. I think that I have seen enough now, Miss Stoner, and with your permission we shall walk out upon the lawn.”

Ni welais i erioed wyneb fy nghyfaill mor sarrug a llym, na’i dalcen mor grychedig a thywyll

Ni welais i erioed wyneb fy nghyfaill mor sarrug a llym, na’i dalcen mor grychedig a thywyll, â’r hyn a ganfyddai fy llygaid wrth i ni ei throi hi ac ymadael â mangre anghysurus ei archwiliad. Buom ni’n cerdded sawl gwaith i fyny ac i lawr y lawnt, heb fod yr un ohonom ni’n dau, Miss Stoner na minnau, yn meiddio torri ar draws ei feddyliau difrifddwys, nes iddo o’r diwedd adfywio o’i synfyfyrdod.

I had never seen my friend’s face so grim or his brow so dark as it was when we turned from the scene of this investigation. We had walked several times up and down the lawn, neither Miss Stoner nor myself liking to break in upon his thoughts before he roused himself from his reverie.

“Mae’n hanfodol, Miss Stoner,” meddai yn y man, "eich bod chi’n dilyn i’r llythyren fy nghyngor i ymhob agwedd.”

“It is very essential, Miss Stoner,” said he, “that you should absolutely follow my advice in every respect.”

“Mi ro’ i fy addewid i chi y gwna’ i hynny, yn ddi-os.”

“I shall most certainly do so.”

“Mae’r mater hwn yn rhy ddifrifol o lawer i ni betruso’r mymryn lleiaf yn ei gylch. Fe allai eich bywyd chi ddibynnu’n llwyr ar eich cydsyniad chi, yn hyn o beth.”

“The matter is too serious for any hesitation. Your life may depend upon your compliance.”

“Mi alla’ i eich sicrhau chi fy mod i’n eich dwylo chi yn gyfan a chyflawn, Mr Holmes.”

“I assure you that I am in your hands.”

“Yn y lle cyntaf, bydd yn rhaid i mi a’m cyfaill dreulio’r noson heno yn eich ystafell chi.”

“In the first place, both my friend and I must spend the night in your room.”

Syllodd Miss Stoner a minnau arno â’n llygaid fel lleuadau llawn.

Both Miss Stoner and I gazed at him in astonishment.

“Bydd, felly y bydd yn rhaid iddi hi fod. Gadewch i mi esbonio. Os nad wyf i wedi camgymryd, mi ddywedwn i mai’r adeilad draw’r fan acw yw tafarn y pentref?”

“Yes, it must be so. Let me explain. I believe that that is the village inn over there?”

“Rydych chi’n iawn; ie, dyna’r Crown.”

“Yes, that is the Crown.”

“Da iawn. Fe ellir gweld ffenestri eich ystafell chi oddi yno?”

“Very good. Your windows would be visible from there?”

“Yn bendant.”

“Certainly.”

“Rhaid i chi eich cyfyngu eich hun i’ch ystafell ar unwaith, gan gymryd arnoch fod gennych chi ben tost, neu gur yn eich pen fel y dywedech chi, siwr o fod; fel eich bod chi eisoes yno erbyn pan ddaw eich llystad yn ei ôl o Lundain. Yna, pan glywch chi ef, eich llystad, yn noswylio i’w ystafell heno, bydd yn rhaid i chi agor caeadau eich ffenestr, dadwneud cloigyn y ffenestr ei hun a gosod eich lamp yno o flaen paneli’r gwydr, fel arwydd i ni yn y fan draw. Wedyn, rhaid i chi gilio’n dawel iawn allan o’ch ystafell bresennol i’r ystafell roeddech chi’n arfer cysgu ynddi hi gynt, gan fynd â phopeth y byddwch chi’n debygol o fod ei angen dros nos, gyda chi yno. Dydw i’n amau dim y gallech chi, er gwaethaf holl lanastr yr atgyweirio, lwyddo i ddod drwyddi hi rywsut yno am un noson, yn eich hen ystafell wely chi eich hun.”

“You must confine yourself to your room, on pretence of a headache, when your stepfather comes back. Then when you hear him retire for the night, you must open the shutters of your window, undo the hasp, put your lamp there as a signal to us, and then withdraw quietly with everything which you are likely to want into the room which you used to occupy. I have no doubt that, in spite of the repairs, you could manage there for one night.”

“O, gallaf; yn hawdd.”

“Oh, yes, easily.”

“Ynghylch y gweddill, fe fyddwch chi’n gadael y cyfan i gyd yn ein dwylo ni ein dau.”

“The rest you will leave in our hands.”

“Ond beth fyddwch chi eich hunain yn ei wneud?”

“But what will you do?”

“Fe fyddwn ni’n treulio’r noson yn eich ystafell chi, fel y dywedais; a thra yno fe fyddwn ni’n ymchwilio i achos y sŵn yma sydd wedi bod yn tarfu arnoch chi ynghanol y nos.”

“We shall spend the night in your room, and we shall investigate the cause of this noise which has disturbed you.”

“Rydw i’n rhyw feddwl, Mr Holmes, eich bod chi eisoes wedi gwneud eich meddwl ar y mater,” meddai Miss Stoner yn ffyddiog, gan osod ei llaw ar lawes fy nghydymaith.

“I believe, Mr. Holmes, that you have already made up your mind,” said Miss Stoner, laying her hand upon my companion’s sleeve.

“Efallai fy mod i; fe gawn ni weld.”

“Perhaps I have.”

“Yna, da chi, er mwyn Duw,” erfyniodd yn emosiynol; “d’wedwch wrtha i beth achosodd farwolaeth fy chwaer annwyl.”

“Then, for pity’s sake, tell me what was the cause of my sister’s death.”

“Fe hoffwn i gael tystiolaeth eglurach ynghylch hynny, mae arna’ i ofn, cyn mentro gair ymhellach ar y mater, i chi na neb arall.”

“I should prefer to have clearer proofs before I speak.”

“Mi fedrech chi o leiaf ddweud wrtha i p’un ai ydw i’n amgyffred yn gywir neu ddim; ac a fu hi farw o ryw fraw annisgwyl neu anhygoel o sydyn.”

“You can at least tell me whether my own thought is correct, and if she died from some sudden fright.”

"Good-bye, and be brave"
"Good-bye, and be brave".

“Na’n wir; ’dwy’ i ddim yn credu y galla’ i, ar hyn o bryd. Rwy’n tybied bod o bosib ryw achos mwy diriaethol; rhywbeth mwy pendant o real na hynny. A nawr, Miss Stoner, rydym ni’n cael ein goddiweddyd gan yr amser, ac y mae’n hen bryd i ni orfod eich gadael chi; oherwydd pe byddai Dr. Roylott yn dychwelyd a’n gweld ni, byddai ein siwrnai ni yma yn ofer. Da b’och chi, a byddwch wrol; oherwydd os gwnewch chi fel yr erfyniais i arnoch, yna fe allwch chi orffwys yn hyderus y byddwn ni o fewn dim o amser yn anfon ymaith y peryglon sydd wedi bod yn eich bygwth chi cyhyd.”

“No, I do not think so. I think that there was probably some more tangible cause. And now, Miss Stoner, we must leave you for if Dr. Roylott returned and saw us our journey would be in vain. Good-bye, and be brave, for if you will do what I have told you, you may rest assured that we shall soon drive away the dangers that threaten you.”

Chafodd Sherlock Holmes a minnau ddim trafferth i sicrhau ystafell wely a lolfa gyfun i ni ein dau, ar lawr uchaf tafarn y Crown; ac oddi yno, drwy ein ffenestr, roedd gennym ni olygfa arbennig o glir o lidiart rhodfa’r lôn goed, ac o adain gyfannedd maenordy Stoke Moran. Yn llwyd dywyllwch y cyfnos fe welem ni Dr. Grimesby Roylott yn gyrru heibio ar garlam, ei gorff enfawr yn ymddangos yn enbyd o gydnerth ochr-yn-ochr â ffigur main y llefnyn ifanc a yrrai’r ferlen a thrap. Pan gyrhaeddwyd y llidiart, gwelem fod y llanc yn cael peth trafferth i ddadwneud y bollt ac agor y gatiau haearn trwm. Yna clywem ru crygleisiol y meddyg yn mynegi ei anniddigrwydd, a gwelem ni ei gynddaredd wrth iddo ysgwyd ei ddwrn yn ddwrdiol arno. Yn y man fe yrrodd y trap yn ei flaen, ac ymhen ychydig funudau wedyn gwelem oleuni pŵl yn pelydru’n sydyn ymhlith y coed, wrth i lamp olew gael ei goleuo yn un o lolfeydd y maenordy.

Sherlock Holmes and I had no difficulty in engaging a bedroom and sitting-room at the Crown Inn. They were on the upper floor, and from our window we could command a view of the avenue gate, and of the inhabited wing of Stoke Moran Manor House. At dusk we saw Dr. Grimesby Roylott drive past, his huge form looming up beside the little figure of the lad who drove him. The boy had some slight difficulty in undoing the heavy iron gates, and we heard the hoarse roar of the doctor’s voice and saw the fury with which he shook his clinched fists at him. The trap drove on, and a few minutes later we saw a sudden light spring up among the trees as the lamp was lit in one of the sitting-rooms.

“Wyddoch chi beth, Watson,” meddai Holmes yn bwyllog, tra roeddem ni’n eistedd gyda’n gilydd yn y tywyllwch a ddwysâi’n araf o’n hamgylch, “rydw i’n wirioneddol betruso ynglŷn â mynd â chi gyda mi heno; oherwydd mae yna elfen ddigamsyniol o berygl ynghlwm â’n menter ni.”

“Do you know, Watson,” said Holmes as we sat together in the gathering darkness, “I have really some scruples as to taking you to-night. There is a distinct element of danger.”

“Wel, a alla’ i fod o unrhyw gymorth?”

“Can I be of assistance?”

“Gallai eich presenoldeb chi fod yn anhepgorol, ac amhrisiadwy hefyd.”

“Your presence might be invaluable.”

“Os felly, does dim dwywaith amdani hi; fe fydda i’n dod gyda chi.”

“Then I shall certainly come.”

“Mae eich cynnig chi’n un ystyrgar a charedig y tu hwnt; yn enwedig yng ngoleuni, neu ddiffyg goleuni, yr amgylchiadau.”

“It is very kind of you.”

“Ond rydych chi’n sôn am berygl. Rydych chi’n amlwg wedi canfod mwy yn yr ystafelloedd hyn na’r hyn oedd yn weledig i’m llygaid i fy hun.”

“You speak of danger. You have evidently seen more in these rooms than was visible to me.”

“Na; ond rwy’n tybio efallai fy mod i wedi diddwytho jest ryw ychydig bach yn rhagor. Rwy’n dychmygu eich bod chithau hefyd wedi gweld y cyfan y bu mi fy hun ei ganfod.”

“Na; ond rwy’n tybio efallai fy mod i wedi diddwytho jest ryw ychydig bach yn rhagor. Rwy’n dychmygu eich bod chithau hefyd wedi gweld y cyfan y bu mi fy hun ei ganfod.”

“No, but I fancy that I may have deduced a little more. I imagine that you saw all that I did.”

“Sylwais i ar ddim byd nodedig o anghyffredin, ar wahân i’r cloch-reffyn hwnnw; ond i ba ddiben yr hongiwyd peth diwerth felly yn y fan a’r lle, mae’n rhaid i mi gyfaddef nad oes gen i mo’r dychymyg lleiaf.”

“I saw nothing remarkable save the bell-rope, and what purpose that could answer I confess is more than I can imagine.”

“Fe welsoch chi’r agoriad awyru hefyd?”

“You saw the ventilator, too?”

“Do, ond alla’ i ddim credu bod hynny’n gynllun adeiladol mor anarferol â hynny; i agor twll bychan yn y gwahanfur i ffurfio cyswllt awyrol rhwng y naill ystafell a’r llall. Roedd y twll mor fychan fel mai prin y gallai llygoden ffrengig wthio drwyddo.”

“Yes, but I do not think that it is such a very unusual thing to have a small opening between two rooms. It was so small that a rat could hardly pass through.”

“Ro’wn i wedi rhagdybio y byddem ni’n dod o hyd i dwll gwyntyllu o ryw fath yn un o furiau siambr gysgu’r chwaer anffodus, cyn i ni hyd yn oed fentro gosod troed y tu fewn i Stoke Moran.”

“I knew that we should find a ventilator before ever we came to Stoke Moran.”

“Wel; erioed! ’Dawn ni byth o’r fan, Holmes!”

“My dear Holmes!”

“O, oeddwn; doedd gen i ddim amheuaeth o gwbl. Fe gofiwch chi i Miss Stoner yn ei datganiad grybwyll y gallai ei chwaer arogleuo sigârs Dr. Roylott. Nawr mae hynny, wrth gwrs, yn awgrymu ar ei ben bod yn rhaid fod rhyw fath o gyswllt awyrol drwy’r pared cyd-rhwng y ddwy ystafell; ac mae’n rhaid nad oedd y cyswllt hwnnw ond yn agoriad bychan iawn, neu fe fyddai cyfeiriad ato wedi ei gofnodi yn adroddiad Ymchwiliad y Crwner. Yn yr union fan a’r lle hwnnw y deuthum i i’r casgliad diamheuol am fodolaeth agoriad bychan at ddiben awyru, neu o leiaf dan yr esgus o greu cyswllt awyrol rhwng y ddwy ystafell dan sylw. Roedd yn rhaid bod yno wyntyllydd neu awyrydd o ryw fath neu’i gilydd.”

“Oh, yes, I did. You remember in her statement she said that her sister could smell Dr. Roylott’s cigar. Now, of course that suggested at once that there must be a communication between the two rooms. It could only be a small one, or it would have been remarked upon at the coroner’s inquiry. I deduced a ventilator.”

“Tewch da chi! Ond pa niwed yn y byd allai fod yn hynny?”

“But what harm can there be in that?”

“Wel, o leiaf, cyfrifol o beth fyddai i ni ystyried cronoleg y digwyddiadau rhyfeddol o fewn yr un cyfnod o ddyddiadau. Fe dyllir drwy’r pared i ffurfio agoriad awyriadur, fe grogir rheffyn wrth fachyn uwch ei ben, ac y mae bonesig sydd ynghwsg yn ei gwely yn marw’n ddisymwth. Ydy hynny ddim yn eich taro chi fel cyfres o gyd-ddigwyddiadau eithriadol o amheus, a dweud y lleiaf?”

“Well, there is at least a curious coincidence of dates. A ventilator is made, a cord is hung, and a lady who sleeps in the bed dies. Does not that strike you?”

“Ond alla’ i yn fy myw hyd yma weld unrhyw gyswllt rhwng yr holl bethau hynny i gyd.”

“I cannot as yet see any connection.”

“Wnaethoch chi ddim sylwi ar un nodwedd neilltuol o anghyffredin yng nghyswllt y gwely, Watson?”

“Did you observe anything very peculiar about that bed?”

“Na.”

“No.”

“Roedd ei goesau wedi eu clampio’n dynn i’r llawr. Welsoch chi erioed o’r blaen wely wedi ei glymu’n ddisymud felly i’r llawr?”

“It was clamped to the floor. Did you ever see a bed fastened like that before?”

“Alla’ i ddim dweud fy mod i; naddo, erioed. Wel, myn cebyst i!”

“I cannot say that I have.”

“Byddai wedi bod yn amhosib i’r fonesig symud ei gwely fodfedd o’r union fan lle’r oedd wedi ei osod, i unrhyw gyfeiriad, pe byddai wedi dymuno gwneud hynny. Rhaid oedd i’r gwely sefyll yn yr un lleoliad o safbwynt ei berthynas â’r awyriadur ac â’r rheffyn yna; a dyna beth wnawn ei alw e’ nawr, gan ei bod hi’n glaear amlwg na fwriadwyd ef erioed fel cloch-ganwr."

“The lady could not move her bed. It must always be in the same relative position to the ventilator and to the rope—or so we may call it, since it was clearly never meant for a bell-pull.”

“Holmes,” llefais allan mewn dychryn, “rydw i’n dechrau amgyffred, er eto braidd yn aneglur rhaid i mi gyfaddef, yr hyn rydych chi’n ei ddarogan. Ac os felly, yna rydym ni ein dau ond mewn da bryd i rwystro rhyw ddrwgweithred ddirgelaidd ac echrydus tu hwnt, yn Stoke Moran.”

“Holmes,” I cried, “I seem to see dimly what you are hinting at. We are only just in time to prevent some subtle and horrible crime.”

“Dirgel ddigon, a digon echrydus hefyd. Pan fyddo meddyg yn mynd ar gyfeiliorn, ef yw’r cyntaf o blith camweddwyr. Mae ganddo nerfau gwydn, ac mae ganddo wybodaeth i’w fantais. Roedd Palmer a Pritchard ymhlith pennau blaenaf eu galwedigaeth; a choeliwch neu ddim, mae’r dyn hwn yn taro hyd yn oed yn ddyfnach. P’run bynnag, Watson, fy marn i yw y byddwn ni yn yr achos hwn yn medru taro’n ddyfnach eto fyth. Ond mi fydd yn rhaid i ni wynebu digon o ddychryn ymhellach ymlaen, cyn y bydd heno drosodd: felly, er mwyn y Bod Mawr, gadewch i ni gael ymlacio gydag ysmygyn bach tawel o’n pibellau, a throi ein meddyliau am ychydig o oriau tuag at fyfyrdodau siriolach.”

“Subtle enough and horrible enough. When a doctor does go wrong he is the first of criminals. He has nerve and he has knowledge. Palmer and Pritchard were among the heads of their profession. This man strikes even deeper, but I think, Watson, that we shall be able to strike deeper still. But we shall have horrors enough before the night is over; for goodness’ sake let us have a quiet pipe and turn our minds for a few hours to something more cheerful.”

Oddeutu naw o’r gloch yr hwyr diffoddwyd y golau a belydrai drwy ganghennau’r coed, ac amsugnwyd popeth yng nghyfeiriad y maenordy i mewn i bresenoldeb düwch yr hwyrnos. Yn araf y llithrodd ymaith ddwy awr o’n seibiant disgwylgar ni; ond yna’n ddisyfyd, ar union drawiad cloc y pentan am un ar ddeg, torrwyd ar y tywyllwch dudew y tu allan i ffenestr ein lolfa gan lewyrch un golau disglair yn union o’n blaenau yn y pellter.

About nine o’clock the light among the trees was extinguished, and all was dark in the direction of the Manor House. Two hours passed slowly away, and then, suddenly, just at the stroke of eleven, a single bright light shone out right in front of us.

“Dyna’n signal ni,” meddai Holmes, gan lamu ar ei draed, wedi ei ysbrydoli drwyddo; “mae’r golau’n tarddu’n gymwys o’r ffenestr ganol.”

“That is our signal,” said Holmes, springing to his feet; “it comes from the middle window.”

Wrth ymadael â’n llety, yn yr ychydig eiriau a gyfnewidiwyd â’n landlord, esboniodd Holmes ein bod ni’n mynd i ymweld â hen gydnabod, ac y byddai posibilrwydd y byddem ni’n treulio’r noson yno. Foment yn ddiweddarach roeddem ni’n dau allan ar y ffordd dywyll, gyda gwynt oerllyd yn chwythu i’n hwynebau, ac un golau melynwyn o lamp wic-olew yn pefrio draw o’n blaenau drwy’r mwrllwch anghysurus, i’n tywys ni ar ein perwyl trymaidd.

As we passed out he exchanged a few words with the landlord, explaining that we were going on a late visit to an acquaintance, and that it was possible that we might spend the night there. A moment later we were out on the dark road, a chill wind blowing in our faces, and one yellow light twinkling in front of us through the gloom to guide us on our sombre errand.

Chawsom ni bron ddim trafferth i ganfod llwybr o fynediad i’r tir, drwy fanteisio ar un o’r amryw fylchau mawr agored oedd wedi hir ddisgwyl am gael eu trwsio, yn yr hen wal gerrig gaeraidd a amgylchynai’r parc. O wneud ein ffordd drwy’r goedwig, ymhen yr hir a’r hwyr fe gyraeddasom ni erchwyn y lawnt, yna ei chroesi’n ddiymdroi; ac roeddem ni ar fin dringo’n betrus drwy’r ffenestr agored i mewn i’r tŷ, pan saethodd allan o glwstwr o lwyni llawryf cyfagos yr hyn a debygem ni ar y pryd oedd yn blentyn ysgeler yr olwg â chanddo gorff wedi ei gamystumio’n anarferol o ddrwg. Taflodd ei hun yn frysiog ar y glaswellt, ei goesau a’i freichiau’n chwifio’n yr awyr a chordeddu drwy ei gilydd fel pe mewn braw afresymol; yna, gan ei godi ei hun ar ei sefyll, rhedodd nerth ei draed, hanner y ffordd ar ei bedwar, ar draws y lawnt, ymlaen i berfedd y gwyll o’i flaen.

There was little difficulty in entering the grounds, for unrepaired breaches gaped in the old park wall. Making our way among the trees, we reached the lawn, crossed it, and were about to enter through the window when out from a clump of laurel bushes there darted what seemed to be a hideous and distorted child, who threw itself upon the grass with writhing limbs and then ran swiftly across the lawn into the darkness.

“Brensiach y brain!” sibrydais. “Welsoch chi hwnna?”

“My God!” I whispered; “did you see it?”

Safai Holmes am ennyd wedi ei barlysu’n ddiymadferth, mewn cymaint o ddychryn â minnau. Yn ei gynnwrf ofnus gwasgodd ei law fel feis haearn bwrw am fy arddwrn. Ond ymhen dim roedd yn ymdrechu ei orau glas i atal chwerthin yn dawel dan ei wynt; a chan ymestyn ataf drwy’r tywyllwch, rhoddodd ei wefusau mor agos ag y gallai at fy nghlust.

Holmes was for the moment as startled as I. His hand closed like a vice upon my wrist in his agitation. Then he broke into a low laugh and put his lips to my ear.

“Cofiwch ein bod ni yma’n ymweld â chartref boneddigion,” sibrydodd yn gellweirus, cyn ychwanegu: “Dyna i chi beth yw babŵn.”

"Cofiwch ein bod ni yma’n ymweld â chartref boneddigion,” sibrydodd yn gellweirus, cyn ychwanegu: “Dyna i chi beth yw babŵn.”

“It is a nice household,” he murmured. “That is the baboon.”

Roeddwn i wedi anghofio tan yr eiliad hwnnw i mi glywed am yr anifeiliaid anwes rhyfedd yr ymddiddorai’r meddyg ynddyn nhw. Onid oedd ganddo lewpard hefyd? O bosib y byddem ni unrhyw foment yn teimlo ei bawennau yntau hefyd yn crafangu ar ein hysgwyddau. Cyffesaf i mi deimlo’n esmwythach yn fy meddwl pan, yn dilyn esiampl Holmes drwy lithro fy esgidiau i ffwrdd oddi ar fy nhraed, y’m cefais fy hun y tu mewn i’r ystafell wely. Yn ofalus-dawel, caeodd fy nghydymaith gaeadau’r ffenestri at ei gilydd, symudodd y lamp a’i gosod ar y bwrdd, a sganiodd ei lygaid o amgylch yr ystafell. Roedd popeth yn union fel y gwelsom ni nhw’n gynharach yn y dydd. Yna, gan agosáu ataf ar flaenau ei draed, a gwneud siâp utgorn â’i ddwylo, sibrydodd i mewn i’m clust i unwaith eto, mor ysgafn-lais mai prin y gallwn i wahaniaethu rhwng ei union eiriau: “Gallai unrhyw sŵn neu’r sibrydiad lleiaf oddi wrthym ni brofi’n ergyd farwol i’n cynlluniau ni.”

I had forgotten the strange pets which the doctor affected. There was a cheetah, too; perhaps we might find it upon our shoulders at any moment. I confess that I felt easier in my mind when, after following Holmes’ example and slipping off my shoes, I found myself inside the bedroom. My companion noiselessly closed the shutters, moved the lamp onto the table, and cast his eyes round the room. All was as we had seen it in the daytime. Then creeping up to me and making a trumpet of his hand, he whispered into my ear again so gently that it was all that I could do to distinguish the words: “The least sound would be fatal to our plans.”

Nodiais fy mhen i ddangos iddo fy mod i wedi ei glywed a’i ddeall.

I nodded to show that I had heard.

“Rhaid i ni eistedd i lawr yma heb olau. Byddai e’n ei weld drwy dwll yr awyrydd acw.”

“We must sit without light. He would see it through the ventilator.”

Amneidiais eto drwy nodio fy mhen yn yr un modd, i arwyddo a chadarnhau fy nghytuniad â’i fwriadau ar ein cyfer.

I nodded again.

“Peidiwch â mynd i gysgu; bydd eich bywyd chi’n dibynnu ar fod yn effro gydol yr amser, eiliad wrth eiliad. Byddwch yn barod gyda’ch pistol, rhag ofn y byddwn ni ei angen. Fe eistedda’ i ar erchwyn y gwely hwn, ac eisteddwch chithau yn y gadair honna.” Tynnais fy llawddryll allan o’i wain ym mhoced fy llodrau, a’i osod yn ofalus i orffwyso ar gornel y bwrdd, wrth ochr fy nghadair.

“Do not go asleep; your very life may depend upon it. Have your pistol ready in case we should need it. I will sit on the side of the bed, and you in that chair”. I took out my revolver and laid it on the corner of the table.

Roedd Holmes wedi dod â chansen hirfain gydag ef, a gosododd hi ar y gwely o fewn cyrraedd ei law. Wrth ei hochr gosododd y blwch o fatsis a stwmp o gannwyll a gymerasai oddi ar y bwrdd bach ymbincio ger y ffenestr. Yna trodd fflam y lamp wic-olew i lawr a’i chwythu allan; fel ein bod ni o hynny ymlaen ar ein pennau ein hunain yn nhywyllwch llwyr y fagddu.

Holmes had brought up a long thin cane, and this he placed upon the bed beside him. By it he laid the box of matches and the stump of a candle. Then he turned down the lamp, and we were left in darkness.

Sut yr anghofiaf i byth y wyliadwriaeth arswydus honno? Fedrwn i ddim clywed smic o unrhyw sŵn, ddim hyd yn oed sŵn anadlu’r un ohonom ni ein dau; ac eto gwyddwn fod fy nghydymaith yn eistedd yn llygadrwth, droedfeddi’n unig oddi wrthyf, yn yr un stad o dyndra nerfus ag yr oeddwn i fy hun ynddo. Roedd caeadau’r ffenestri, o fod erbyn hynny wedi eu cau’n dynn y tu ôl i’w bariau haearn, wedi sicrhau na threiddiai’r un pelydryn o oleuni drwyddynt; ac felly, mewn gofod anweledig o dywyllwch absoliwt yr eisteddem, yn endidau corfforedig o ofn. O’r tu allan, o bryd i’w gilydd, fe dreiddiai cri ddolefus un o adar cyffredin y nos; ac unwaith o leiaf fe glywsom ni oernadu estynedig fel pe o enau cath enfawr, a oedd yn arwydd ddi-amau i ni fod y llewpard yn rhydd ar ei libart ei hun y noson honno. Ymhell i ffwrdd fe glywem ni drawiadau trwm clychau cloc y plwyf, a atseiniai ei neges amserol bob chwarter awr. Mor hir yr ymddangosai’r cyfnodau gwag hynny, rhwng y chwarteri! Trawyd deuddeg o’r gloch, ... ac un, ... a dau, ... a thri, ... a pharhau a wnaem ni i eistedd o hyd yn nistawrwydd llethol oriau mân y bore bach, am yr hyn bynnag a allai ddigwydd ... pwy a wyddai? ... unrhyw eiliad.

How shall I ever forget that dreadful vigil? I could not hear a sound, not even the drawing of a breath, and yet I knew that my companion sat open-eyed, within a few feet of me, in the same state of nervous tension in which I was myself. The shutters cut off the least ray of light, and we waited in absolute darkness. From outside came the occasional cry of a night-bird, and once at our very window a long drawn catlike whine, which told us that the cheetah was indeed at liberty. Far away we could hear the deep tones of the parish clock, which boomed out every quarter of an hour. How long they seemed, those quarters! Twelve struck, and one and two and three, and still we sat waiting silently for whatever might befall. From outside came the occasional cry of a night-bird, and once at our very window a long drawn catlike whine, which told us that the cheetah was indeed at liberty. Far away we could hear the deep tones of the parish clock, which boomed out every quarter of an hour. How long they seemed, those quarters! Twelve struck, and one and two and three, and still we sat waiting silently for whatever might befall.

Holmes lashed furiously
Holmes lashed furiously.

Yn sydyn, ymddangosodd fflachiad o oleuni am amrantiad yn unig fry yng nghyfeiriad yr awyrydd, a diflannodd yn syth bin; ond fe’i dilynwyd yn ddiymdroi gan arogl cryf fel pe bai olew yn cael ei losgi a hefyd fel pe bai metel yn cael ei boethi. Yn sicr ddigon, roedd rhywun yn yr ystafell y drws nesaf wedi goleuo lantern. Clywais sŵn isel-dawel symudiadau esmwyth, ac yna distawodd pob dim drachefn, ond araf gynyddai dwyster yr arogl, yn ddiamheuol. Am hanner awr anesmwyth eisteddwn bron mewn perlewyg, a’m clustiau’n awchus i sugno’r seiniau meddalaf o’r gwacter du. Yna’n ddirybudd, brigdorrai sŵn isel arall i fod dim ond prin yn glywadwy; sŵn lleddf, lliniarus, llariaidd, megis sŵn jet bychan o ager yn chwistrellu’n llyfn-gyson allan o big tegell ar y berw. Y foment y’i clywsom, neidiodd Holmes oddi ar y gwely, taniodd fatsien, a dechreuodd fflangellu’n gynddeiriog â’i gansen fain yn erbyn y gloch-raff ffug.

Suddenly there was the momentary gleam of a light up in the direction of the ventilator, which vanished immediately, but was succeeded by a strong smell of burning oil and heated metal. Someone in the next room had lit a dark-lantern. I heard a gentle sound of movement, and then all was silent once more, though the smell grew stronger. For half an hour I sat with straining ears. Then suddenly another sound became audible—a very gentle, soothing sound, like that of a small jet of steam escaping continually from a kettle. The instant that we heard it, Holmes sprang from the bed, struck a match, and lashed furiously with his cane at the bell-pull.

“Welwch chi hi, Watson? ” crochlefodd allan yn uchel. “Welwch chi hi?”

“Welwch chi hi, Watson? ” crochlefodd allan yn uchel. “Welwch chi hi?”

“You see it, Watson?” he yelled. “You see it?”

Ond welwn i ddim byd. Ar y foment y trawodd Holmes ei fatsien roeddwn i wedi clywed chwibaniad a oedd, er yn isel, yn glir serch hynny; ond yr oedd y llacharedd annisgwyl o sydyn a befriai o’r düwch yr oedd fy llygaid blinedig erbyn hynny wedi ymgynefino ag ef, yn ei gwneud hi’n amhosib i mi fedru dirnad yn union beth oedd fy nghyfaill yn ei fflangellu mor ffyrnig. Fodd bynnag, fe allwn i weld fod ei wyneb yn farwol o welw, a bod ei ymarweddiad hunanfeddiannol arferol wedi ei drechu gan arswyd ac atgasedd anghyffredin.

But I saw nothing. At the moment when Holmes struck the light I heard a low, clear whistle, but the sudden glare flashing into my weary eyes made it impossible for me to tell what it was at which my friend lashed so savagely. I could, however, see that his face was deadly pale and filled with horror and loathing.

Roedd Holmes erbyn hyn wedi rhoi’r gorau i’w fflangellu, ac yn rhythu i fyny at agoriad yr awyrydd, pan rwygwyd tawelwch perfedd y nos gan yr ochenaid fwyaf erchyll y bu i mi erioed ei chlywed. Chwyddai’r waedd yn uwch ac uwch, yn gri gryglyd o boen ac ofn a dicter oll yn un grochlefain gymysg aflednais ac ofnadwy. Maen nhw’n dweud fod yr oergri honno wedi codi cysgwyr o’u gwelyau i lawr yn y pentref, a hyd yn oed draw cyn belled â’r ficerdy. Yn wir, fe drawodd hi fel saeth oerllyd i’n calonnau ni ein dau, a sefais i’n stond gan lygadrythu ar Holmes, fel y gwnai yntau yn yr un modd arnaf finnau, gyda’n hanadl yn ein dwrn, hyd nes i adleisiau olaf y waedd farw allan ac ymsuddo’n ôl i’r tawelwch llonydd y codasai allan ohono.

He had ceased to strike and was gazing up at the ventilator when suddenly there broke from the silence of the night the most horrible cry to which I have ever listened. It swelled up louder and louder, a hoarse yell of pain and fear and anger all mingled in the one dreadful shriek. They say that away down in the village, and even in the distant parsonage, that cry raised the sleepers from their beds. It struck cold to our hearts, and I stood gazing at Holmes, and he at me, until the last echoes of it had died away into the silence from which it rose.

“Yr achlod fawr! Beth ar y ddaear all hynny i gyd ei olygu?” ebychais, gan ollwng fy ngafael o’r diwedd ar fy anadl.

“What can it mean?” I gasped.

“Mae’n golygu fod y cyfan drosodd,” atebodd Holmes gyda rhyddhad y gellid ei deimlo ym mêr yr esgyrn. “Ac efallai, wedi’r cyfan, fod hynny er y gorau i bawb. Cymerwch eich pistol, Watson, ac fe awn ni’n dau i mewn i ystafell Dr. Roylott.”

“It means that it is all over,” Holmes answered. “And perhaps, after all, it is for the best. Take your pistol, and we will enter Dr. Roylott’s room.”

Gydag wyneb celain wyn, goleuodd Holmes y lamp olew a’i chymryd hi oddi ar y bwrdd, ac arweiniodd y ffordd i lawr y coridor. Curodd ar ddrws y siambr ddwywaith heb ennyn unrhyw ymateb oddi mewn. Yna, yn betrusgar, trodd handlen y drws a cherddodd yn araf bach i mewn, gyda minnau’r un mor wyliadwrus wrth ei sodlau, fy mhistol yn fy llaw a’i glicied wedi ei ddatgloi yn barod i’w danio, a’m mynegfys o fewn trwch blewyn i’r triger.

With a grave face he lit the lamp and led the way down the corridor. Twice he struck at the chamber door without any reply from within. Then he turned the handle and entered, I at his heels, with the cocked pistol in my hand.

He made neither sound nor motion
He made neither sound nor motion.

Unigryw y tu hwnt oedd yr olygfa y cyfarfu ein llygaid â hi. Ar y bwrdd safai lantern olew gyda’i chaead yn hanner agored, fel ei bod hi’n taflu pefriad o oleuni’n uniongyrchol ar y coffr haearn, oedd â’i ddrws yntau hefyd ar agor. Wrth ochr y bwrdd, ar gadair bren, eisteddai Dr. Grimesby Roylott, wedi ei ddilladu mewn gŵn nos llwyd-liw laes, gyda’i figyrnau noeth yn y golwg dan ei godre, a’i draed wedi eu gwthio i mewn i sliperi Twrcaidd coch di-sawdl. Ar draws ei arffed gorffwysai’r chwip-wialen â’r bôn-stwmp byr hwnnw a welsom ni’n gynharach yn y dydd. Gwyrai gwar y meddyg wysg ei gefn, a gogwyddai ei ên ar i fyny, a rhythai ei lygaid agored yn ddychrynllyd o ddiysgog i gyfeiriad congl o’r nenfwd. O amgylch ei dalcen cordeddai cylch megis o gadach melyn ac arno smotiau brownaidd, a ymddangosi fel ei fod wedi ei glymu’n dynn o amgylch ei ben. Wrth i ni wneud ein ffordd i mewn i’r ystafell ac agosáu ato, wnaeth e’ ddim yngan na siw na miw o’i enau, na symud un cyhyryn o’i gorff y mymryn lleiaf.

It was a singular sight which met our eyes. On the table stood a dark-lantern with the shutter half open, throwing a brilliant beam of light upon the iron safe, the door of which was ajar. Beside this table, on the wooden chair, sat Dr. Grimesby Roylott clad in a long grey dressing-gown, his bare ankles protruding beneath, and his feet thrust into red heelless Turkish slippers. Across his lap lay the short stock with the long lash which we had noticed during the day. His chin was cocked upward and his eyes were fixed in a dreadful, rigid stare at the corner of the ceiling. Round his brow he had a peculiar yellow band, with brownish speckles, which seemed to be bound tightly round his head. As we entered he made neither sound nor motion.

“Y cylch! Y cylch brith!” sibrydodd Holmes gyda chryn syfrdandod, ond yn gymysg hefyd â bodlonrwydd amlwg.

“Y cylch! Y cylch brith!” sibrydodd Holmes gyda chryn syfrdandod, ond yn gymysg hefyd â bodlonrwydd amlwg.

“The band! The speckled band!” whispered Holmes.

Cymerais un cam pwyllog ymlaen; ond fe’m dychrynwyd i drachefn pan ddechreuodd y penwisg rhyfedd symud yn llithrig o flaen fy llygaid, ac o beth i beth ymgodai o ganol gwallt pen y meddyg ffurf ddiemwntaidd a berthynai i ben cwrcwdaidd arall, ond fod hwnnw ynghlwm wrth wddf chwyddwiberol a chorff ysglyfaethus hir un sarff atgas ei golwg.

I took a step forward. In an instant his strange headgear began to move, and there reared itself from among his hair the squat diamond-shaped head and puffed neck of a loathsome serpent.

“Gwiber y gors!” bloeddiodd Holmes. “Y neidr fwyaf marwol yn holl India. Fe’i lladdodd e’ ag un llam, a bu yntau farw o fewn deng eiliad i frathiad ei dannedd miniog hi. Gwir yw’r gair; ei bod yn natur ffyrnigrwydd i adlamu’n ôl yn erbyn y tramgwyddwr, a bod y cynllwyniwr yn y diwedd yn agored i syrthio i mewn i’r union bydew y bu iddo ef ei hun ei gloddio ar gyfer un arall diniwed. Gadewch i ni daflu’r creadur didostur hwn yn ei ôl i’w wâl, ac yna fe allwn ni fynd i symud Miss Stoner i ryw fan diogel, a rhoi gwybod i heddlu’r sir am yr hyn sydd wedi digwydd yma.”

“It is a swamp adder!” cried Holmes; “the deadliest snake in India. He has died within ten seconds of being bitten. Violence does, in truth, recoil upon the violent, and the schemer falls into the pit which he digs for another. Let us thrust this creature back into its den, and we can then remove Miss Stoner to some place of shelter and let the county police know what has happened.”

Fel y siaradai, ymaflodd yn sydyn yn y chwip-wialen oddi ar arffed y gŵr marw, a chan daflu dolen y fagl o amgylch gwddf yr ymlusgiad, a thynnu’n dynn ar y cwlwm rhedeg, fe’i tynnodd oddi ar ei chlwyd erchyll a’i llusgo gerfydd ei phen; ac wedi sicrhau fod ei dannedd angheuol hi hyd braich oddi wrtho, gafaelodd â’i ddwy law am ei bol cynffonaidd a thaflodd hi i mewn yn ddiseremoni i’r coffr haearn; yna, heb wastraffu chwinciad, caeodd ddrws y coffr yn glep arni hi.

As he spoke he drew the dog-whip swiftly from the dead man’s lap, and throwing the noose round the reptile’s neck he drew it from its horrid perch and, carrying it at arm’s length, threw it into the iron safe, which he closed upon it.

Dyna’r ffeithiau moel a chywir yng nghyswllt marwolaeth Dr. Grimesby Roylott, o Stoke Moran. Dianghenraid fyddai i mi ymhelaethu ar y traethiad hwn, sydd eisoes wedi meddiannu mwy o ofod na’r hyn a fwriadwyd, trwy fanylu ar sut yr aethom ni ati hi wedi hynny i hysbysu’r fonesig, a ddychrynwyd y tu hwnt i’r hyn y gallwn i byth ei amgyffred, am y newyddion trist; a sut y gwnaethom ni wedyn ei hebrwng hi gyda’r trên i ofal ei modryb hynaws yn Harrow, a sut y bu i broses araf yr ymchwiliad swyddogol benderfynu fod y meddyg wedi cyfarfod â’i dynged tra roedd e’n chwarae’n annoeth gydag anifail ‘anwes’ gwyllt ac eithriadol o beryglus.

Such are the true facts of the death of Dr. Grimesby Roylott, of Stoke Moran. It is not necessary that I should prolong a narrative which has already run to too great a length by telling how we broke the sad news to the terrified girl, how we conveyed her by the morning train to the care of her good aunt at Harrow, of how the slow process of official inquiry came to the conclusion that the doctor met his fate while indiscreetly playing with a dangerous pet.

Drannoeth, wrth i ni deithio’n ôl gyda’n gilydd, bu esboniadau sythweledol Holmes yn fodd i lenwi’r nifer o fylchau yn fy nirnadaeth brin i hyd at hynny, yng nghyswllt yr achos gofidus hwnnw y buom ni ynghlwm ag ef.

The little which I had yet to learn of the case was told me by Sherlock Holmes as we travelled back next day.

“Yn gynharach,” meddai Holmes, “roeddwn i wedi dod i gasgliad anghywir; sy’n dangos, f’annwyl Watson, pa mor beryglus yw hi bob amser i resymegu heb fod gennych chi ddigon o fanylion yn eich meddiant. Fe fu i bresenoldeb y sipsiwn, a’r gair ‘cylch’ y dewisodd y ferch druan ei ddefnyddio, yn ei braw siŵr o fod, i esbonio’r ddrychiolaeth y cipiodd olwg ffiaidd ohoni yng goleuni’r fatsien a daniodd, fod yn ddigon i’m camarwain i ar drywydd cwbl anghywir. Yr unig beth y galla’ i ei deilyngu fel clod, efallai, yw i mi ailystyried fy marn ar chwap, yr eiliad y daeth hi’n eglur i mi na allai’r perygl oedd yn fygythiad i drigiannydd yr ystafell wely honno, ddod i mewn i’r ystafell naill ai drwy’r ffenestr na thrwy’r drws. Fe dynnwyd fy sylw i’n syth bin, fel y crybwyllais i eisoes wrthych chi, at dwll uchel agoriad yr awyriadur hwnnw ger y nenfwd, ac at raff y cloch-ganwr tybiedig a hongiai i lawr o’r union fan honno at y gwely islaw. Ond dod i sylweddoli mai ffug oedd y ddyfais honno, a bod y gwely wedi ei glampio’n dynn i’r llawr; hynny a barodd i mi ddechrau drwgdybio fod y rheffyn yno i gyflawni rhyw ddiben cwbl wahanol, sef i fod yn fath o rychwant neu bont ar gyfer rhywbeth neu’i gilydd, rhyw anifail byw o bosib, a allai sleifio drwy dwll yr awyrydd a gwneud ei ffordd ysgeler i lawr y rheffyn at y gwely. Yn ddiatreg, fel ergyd o ddryll, Watson, trawodd y syniad yn fy mhen y gallai’r anifail hwnnw fod yn neidr; ac o gysylltu hynny wedyn gyda’r wybodaeth fod gan y meddyg yn ei feddiant amryw o greaduriaid ecsotig o’r India, fe deimlwn i wrth reddf fy mod i ar y trywydd cywir. Wedyn, onid oedd y syniad o ddefnyddio ffurf o wenwyn na ellid fod wedi ei ganfod na’i olrhain drwy gyfrwng unrhyw brofion cemegol cyffredin, yr union fath o gynllwyn a fyddai’n apelio at ddychymyg dyn galluog a didostur, ac yntau hefyd wedi derbyn hyfforddiant meddygol ym mharthau dwyreiniol y byd? At hynny, fe fyddai’r buander gyda’r hwn y byddai’r gwenwyn yn gwneud ei waethaf, o’i safbwynt ef, o fantais ychwanegol iddo. Fe fyddai angen crwner eithriadol o graff ei lygaid yn wir, i hanfod-adnabod y ddau smotyn clais-liw fel y brath-dyllau a adawyd heb os nac onibai gan ddau ddant gwenwynig a chanddynt y gallu i chwistrellu angau mewn chwinciad. Yna fe feddyliais i am y chwiban.

“I had,” said he, “come to an entirely erroneous conclusion which shows, my dear Watson, how dangerous it always is to reason from insufficient data. The presence of the gipsies, and the use of the word ‘band,’ which was used by the poor girl, no doubt, to explain the appearance which she had caught a hurried glimpse of by the light of her match, were sufficient to put me upon an entirely wrong scent. I can only claim the merit that I instantly reconsidered my position when, however, it became clear to me that whatever danger threatened an occupant of the room could not come either from the window or the door. My attention was speedily drawn, as I have already remarked to you, to this ventilator, and to the bell-rope which hung down to the bed. The discovery that this was a dummy, and that the bed was clamped to the floor, instantly gave rise to the suspicion that the rope was there as a bridge for something passing through the hole and coming to the bed. The idea of a snake instantly occurred to me, and when I coupled it with my knowledge that the doctor was furnished with a supply of creatures from India, I felt that I was probably on the right track. The idea of using a form of poison which could not possibly be discovered by any chemical test was just such a one as would occur to a clever and ruthless man who had had an Eastern training. The rapidity with which such a poison would take effect would also, from his point of view, be an advantage. It would be a sharp-eyed coroner, indeed, who could distinguish the two little dark punctures which would show where the poison fangs had done their work. Then I thought of the whistle. Of course he must recall the snake before the morning light revealed it to the victim. He had trained it, probably by the use of the milk which we saw, to return to him when summoned. He would put it through this ventilator at the hour that he thought best, with the certainty that it would crawl down the rope and land on the bed. It might or might not bite the occupant, perhaps she might escape every night for a week, but sooner or later she must fall a victim.

“Roeddwn i wedi dod i’r casgliadau hyn cyn i mi erioed daro troed oddi mewn i ystafell y meddyg. Ond o fewn ychydig eiliadau’n unig wedi cael y cyfle i fwrw golwg dros y lle, a sylwi’n fanwl ar ei gadair, gwelwn ei bod hi wedi bod yn arferiad ganddo i sefyll arni hi; yr hyn fyddai’n rhaid iddo fod wedi ei wneud, wrth gwrs, er mwyn medru cyrraedd twll y gwyntyllydd. Yna roedd canfod y coffr, y soser a’r llaeth, a’r chwip-wialen gyda’i dolen-fagl lasŵaidd, yn ddigon i chwalu unrhyw ansicrwydd oedd gen i hyd at hynny. Mae’n amlwg i’r atsain fetelaidd a glywodd Miss Stoner gael ei hachosi gan ei llystad yn cau drws ei goffr yn frysiog ar ei breswylydd arswydus. Unwaith wedi penderfynu yn fy meddwl am y sefyllfa, fe wyddoch chi wedyn, Watson, y camre a gymerais i i’r perwyl o brofi holl agweddau fy namcaniaeth. A phan glywais i hisian y creadur mileinig ’na, fel rydw i’n sicr y bu i chithau hefyd ei glywed, fe drewais i’r fatsien ar fy union i gael rhywfaint o oleuni, ac yna fe ymosodais i ar y sarff yn ddiymdroi ac yn ddidrugaredd gyda’r gansen roeddwn i’n ffodus wedi gweld yn dda i ddod â hi gyda mi, ar gyfer yr union orchwyl hwnnw.”

“I had come to these conclusions before ever I had entered his room. An inspection of his chair showed me that he had been in the habit of standing on it, which of course would be necessary in order that he should reach the ventilator. The sight of the safe, the saucer of milk, and the loop of whipcord were enough to finally dispel any doubts which may have remained. The metallic clang heard by Miss Stoner was obviously caused by her stepfather hastily closing the door of his safe upon its terrible occupant. Having once made up my mind, you know the steps which I took in order to put the matter to the proof. I heard the creature hiss as I have no doubt that you did also, and I instantly lit the light and attacked it.”

“A chanlyniad hynny oedd gyrru’r ysglyfaeth yn ei hôl drwy’r awyriadur.”

“With the result of driving it through the ventilator.”

“A chyda’r canlyniad hefyd o achosi i’r sarff, wedi ei chyffroi i’w gwylltineb cyntefig, droi ar ei meistr ar yr ochr arall i’r mur. Fe drawodd rhai o guriadau fy ngwialen i adref, a’i chynddeiriogi; gan achosi iddi fwrw ei thymer wallgof a saethu allan ei safnau dieflig i gyfeiriad y person cyntaf o fewn cyrraedd ei llygaid ffyrnig. Yn hynny o beth, does gen i ddim amheuaeth i mi fy hun fod yn anuniongyrchol yn gyfrifol am farwolaeth Dr. Grimesby Roylott; ac alla’ i ddim dweud y bydd y digwyddiad hwnnw yn debygol o bwyso mor drwm â hynny ar fy nghydwybod.”

“And also with the result of causing it to turn upon its master at the other side. Some of the blows of my cane came home and roused its snakish temper, so that it flew upon the first person it saw. In this way I am no doubt indirectly responsible for Dr. Grimesby Roylott’s death, and I cannot say that it is likely to weigh very heavily upon my conscience.”


 

]]>