Saint Patrick was certainly born in the west of Britain, his first language was almost certainly the ancestor of Welsh, and yet he chose Ireland over the land of his birth. What else do we know about his connections with fifth century Wales?
Ymddangosodd y fersiwn Saesneg o’r erthygl hon yn wreiddiol yn The Conversation, gyda chyfres o erthyglau sydd yn cynnwys Cymru yma.
The English version of this article originally appeared in The Conversation, with a series of articles that feature Wales here.
Roeddwn yn crwydro drwy strydoedd Galway Ŵyl Padrig Sant ym 2002, gan wisgo crys-t ac arno y geiriau, ‘St Patrick: he’s Welsh, you know’. Y cyd-destun oedd fod Iwerddon wedi trechu Cymru yng nghystadleuaeth rygbi’r Chwe Chenedl bythefnos o’r blaen. Cellwair cyfeillgar oedd y slogan i fod, ac fel hyn roedd pobl yn ei gymryd. Ond, ydy e’n gywir?
Dylai’r ateb fod yn weddol syml. Wedi’r cwbl, mae Padrig yn dweud wrthym o ble y deuai’n wreiddiol, mewn un o’r dwy lith Ladin a ysgrifennodd ac sydd wedi goroesi hyd heddiw, sef tref o’r enw Banna Venta Berniae. Yn anffodus, wyddom ddim lle y bu honno, ar wahân i’r ffaith ei bod yn rhywle ym Mhrydain. Gan iddo gael ei ddala yno gan ysbeilwyr o Iwerddon, rhaid bod y lle yn eitha agos at arfordir gorllewin Prydain. Felly mae’n eitha posibl, er nad yw’n hollol sicr, fod y dref yn rhywle yng Nghymru.
Efallai nad yw’r safle union o fawr bwys. Yn ystod bywyd Padrig (rywbryd yn y bumed ganrif OC), doedd Cymru fel yr ydym ni’n ei hadnabod ddim yn bodoli. ‘Brythoniaid’ oedd yr enw a ddefnyddiwyd i sôn amdanynt eu hunain gan y bobl oedd yn byw yn yr amryw deyrnasoedd yn yr ardal rydym ni’n ei galw’n Gymru bellach. Ar ben hynny roedd llawer o bobloedd eraill yn defnyddio’r un enw, hynny yw, y rhai oedd yn byw yn y rhan o Brydain i’r de o Fur Hadrian – sef y dalaith Rufeinig gynt o’r enw Britannia.
Ond y dechreuodd y Brythoniaid a siaradai’r math o Gelteg Ynysol o’r enw Frythoneg (sydd yn iaith hynafiadol i’r Gymraeg, i’r Gernyweg, ac i’r Llydaweg) ddefnyddio enw arall arnynt eu hunain, sef Combrogī ‘cyd-frowyr’. O’r term hwn y terddir yr enw lle Saesneg Cumbria, ac ohono fe y daw’r gair Cymry hefyd, sef yr enw y mae gwerin yng Nghymru’n ei ddefnyddio i ddisgrifio eu hunain heddiw (yn yr Oesoedd Canol cafodd y term hwn ei ddefnyddio i sôn am y wlad hefyd, ac mae wedi troi’n ‘Cymru’ erbyn hyn). Amhosibl yw dweud, fodd bynnag, p’un a gâi’r term hwn ei ddefnyddio yn ystod y pumed ganrif, neu beidio.
Erbyn hynny, roedd pobloedd a siaradai ieithoedd Germaneg yn sefydlu teyrnasoedd yn ne ynys Prydain, ac yn y dwyrain hefyd. Roedd y rhain yn rhagflaenwyr i’r ‘gens Anglorum’ hynny yw ‘y werin Seisnig’ a defnyddio geiriau hanesydd (ac yn hwyrach, sant) Bede oedd yn ysgrifennu yn yr wythfed ganrif. Nid Brythoniaid oedd y bobl hyn, nac o’u rhan eu hunain, nac o ran eu cymdogion i’r gorllewin ychwaith. Y pryd hynny eu henw ar y werin y tu hwnt i Gymru oedd ‘Saeson’, a hyd yn oed heddiw yr un enw sy’n cael ei ddefnyddio (a ‘Sasanaigh’ yn Gaeleg). Yn eu tro, roedd y Saeson yn galw’r Brythoniaid yn ‘Wealas’ a’r term hwn yw tarddiad y gair ‘Welsh’. Felly, o safbwynt Saesneg cyfoes o leiaf, fe fyddai Padrig wedi bod yn Gymro.
Iaith a llenyddiaeth
Mae sawl ysgolhaig (y rhai o’r Oesoedd Canol a’r rhai o’r cyfnod modern fel ei gilydd) wedi honni bod San Padrig yn siarad Brythoneg. Gwyddom ei fod yn gallu ysgrifennu Lladin da, ond yr oedd yn ei galw’n ‘lingua aliena’ (hynny yw, ‘iaith estron’). Nid ei famiaith oedd hon, ond roedd hi’n ddewis amlwg i’w defnyddio pan oedd e’n ysgrifennu, gan ei bod yn iaith uchel ei statws, a chanddi draddodiad llenyddol hynafol, ac yr oedd hi’n ‘lingua franca’ yn yr eglwys. Heb dystiolaeth bellach, gallem gasglu’n eitha hyderus mai Brythoneg fyddai ei famiaith (bryd hynny byddai brodor o orllewin Britannia wedi bod yn llai tebygol o lawer o siarad Gwyddeleg, Saesneg, neu Bicteg). Ond efallai y gallwn fynd yn bellach na hyn.
Yn ystod y seithfed ganrif, ysgrifennodd mynach o Iwerddon o’r enw Muirchú Fywyd San Padrig yn Lladin. Yn y llyfr hwn y mae ambell ffaith hanesyddol ynglŷn â Padrig sy wedi’i chynnwys hefyd yn ei weithiau ei hun. Ond mae’r ffeithiau hyn yn cael eu cuddio bron yn llwyr gan y gwyrthiau niferus oedd agos yn orfodol mewn llenyddiaeth ganoloesol ynglŷn â bywydau’r saint. Ymhellach tywyllir y ffeithiau gan bropaganda digywilydd wedi’i lunio gan yr eglwys uchelgeisiol yn Armagh, a oedd wrthi’n neilltuo Padrig ar ei chyfer ei hun.
Serch hynny, mae Muirchú yn cofnodi dau ddywediad Padrig air am air, sef ‘modebroth’ a ‘gra(t)zacham’. Dyw Muirchú ddim yn dweud wrthym beth yw iaith yr ymadroddion hyn. Fodd bynnag, yn y nawfed ganrif roedd Cormac mac Cúilennáin, geiriadurwr o Iwerddon ac Esgob a Brenin Cashel hefyd, yn dehongli mai Brythoneg oedd iaith y ddau ohonynt.
Roedd yn honni mai ffurf lygredig ar y Gymraeg ‘myn duw brawd’ yw ‘modebroth’. Efallai fod hyn yn gywir, ond tarddiad gwreiddiol y dywediad ‘gra(t)zacham’ yw’r ymadrodd Lladin ‘gratias agam’ (‘gadewch imi fendigo’), neu ‘gratias agamus’ (‘gadewch inni fendigo’).
Mae’n ymddangos bod Cormac yn ei ddehongli fel Brythoneg ar sail y ffaith hynod o resymol mai Brython oedd Padrig. Felly rhaid mai Brythoneg oedd ei ddywediadau, os nad oeddynt yn amlwg yn Wyddeleg na’n Lladin. Ond wedyn, pe bai Cormac yn anghywir am ‘gra(t)zacham’, fe allai fod wedi bod yn anghywir am ‘modebroth’, hefyd. Mewn gwirionedd, gallai ‘modebroth’ fod yn ymadrodd Gwyddeleg sy’n golygu ‘cosb ddwyfol’, wedi’i drawsffurfio yn yr un modd ag y newidir yn aml eiriau mewn llwon crefyddol (er enghraifft, yn Saesneg ceir ‘asu’ neu ‘iesgob’ yn lle ‘God’ a ‘Jesus’). P’un bynnag, nid oes rheswm grymus iawn dros gredu bod Muirchú yn gwir wybod yr union eiriau roedd Padrig wedi eu dweud 200 o flynyddoedd o’r blaen.
Wel, beth yw’r dyfarniad? Mae’n eitha posib y ganwyd Padrig yn yr ardal a elwir yn Gymru heddiw. Heb amheuaeth cafodd ei eni yng ngorllewin Prydain. Efallai ei fod yn meddwl mai Cymro oedd e, ac yn ddi-os byddai’r Saeson wedi ei gyfrif fel un o’r ‘Wealas’. Mae bron yn sicr mai hynafiad y Gymraeg oedd ei famiaith. Ond wedi dweud hyn oll, gwyddom iddo ddewis Iwerddon yn hytrach na gwlad ei enedigaeth. Mae e’n droednodyn yn hanes Cymru, ond yn hollbwysig yn hanes Iwerddon.
Yn y gêm rygbi a ysbrydolai fy nghrys-t yr Ŵyl Padrig Sant honno, un o’r chwaraewyr (ymhlith y lliaws) a sgoriodd geisiadau dros Iwerddon oedd rhyw Ronán O’Gara, a gafodd ei eni yn San Diego, California. Yn y bôn, o ran hunaniaeth, nid popeth yw man geni’
Efallai ei fod yn meddwl mai Cymro oedd e, ac yn ddi-os byddai’r Saeson wedi ei gyfrif fel un o’r ‘Wealas’.
| Roeddwn yn crwydro drwy strydoedd Galway Ŵyl Padrig Sant ym 2002, gan wisgo crys-t ac arno y geiriau, 'St Patrick: he’s Welsh, you know'. Y cyd-destun oedd fod Iwerddon wedi trechu Cymru yng nghystadleuaeth rygbi'r Chwe Chenedl bythefnos o'r blaen. Cellwair cyfeillgar oedd y slogan i fod, ac fel hyn roedd pobl yn ei gymryd. Ond, ydy e'n gywir? | I wandered the streets of Galway, on St Patrick’s Day 2002, wearing a t-shirt which stated “St Patrick: he’s Welsh, you know”. It was intended, and received, as friendly banter, in the context of a resounding Irish victory over Wales in the Six Nations rugby tournament a fortnight previously. But is it true? |
| Dylai'r ateb fod yn weddol syml. Wedi'r cwbl, mae Padrig yn dweud wrthym o ble y deuai'n wreiddiol, mewn un o'r dwy lith Ladin a ysgrifennodd ac sydd wedi goroesi hyd heddiw, sef tref o'r enw Banna Venta Berniae. Yn anffodus, wyddom ddim lle y bu honno, ar wahân i'r ffaith ei bod yn rhywle ym Mhrydain. Gan iddo gael ei ddala yno gan ysbeilwyr o Iwerddon, rhaid bod y lle yn eitha agos at arfordir gorllewin Prydain. Felly mae'n eitha posibl, er nad yw'n hollol sicr, fod y dref yn rhywle yng Nghymru. | The answer should be pretty straightforward. After all, Patrick tells us, in one of the two Latin works of his that have survived, where he was from: a town named Banna Venta Berniae. Unfortunately, we don’t know where that was, except that it was somewhere in Britain. As he was captured there by Irish raiders, it must have been reasonably close to the west coast of Britain. So it is quite possibly, but by no means necessarily, somewhere in Wales. |
| Efallai nad yw'r safle union o fawr bwys. Yn ystod bywyd Padrig (rywbryd yn y bumed ganrif OC), doedd Cymru fel yr ydym ni'n ei hadnabod ddim yn bodoli. 'Brythoniaid' oedd yr enw a ddefnyddiwyd i sôn amdanynt eu hunain gan y bobl oedd yn byw yn yr amryw deyrnasoedd yn yr ardal rydym ni'n ei galw'n Gymru bellach. Ar ben hynny roedd llawer o bobloedd eraill yn defnyddio'r un enw, hynny yw, y rhai oedd yn byw yn y rhan o Brydain i'r de o Fur Hadrian - sef y dalaith Rufeinig gynt o'r enw Britannia. | Perhaps its precise location doesn’t really matter. In Patrick’s lifetime (some time in the fifth century AD), Wales, as we know it, did not exist. The inhabitants of the various kingdoms which made up the geographical area which we now call Wales called themselves “Britons”, as indeed did many other people in the part of Britain south of Hadrian’s Wall – the old Roman province of Britannia. |
| Ond y dechreuodd y Brythoniaid a siaradai'r math o Gelteg Ynysol o'r enw Frythoneg (sydd yn iaith hynafiadol i'r Gymraeg, i'r Gernyweg, ac i'r Llydaweg) ddefnyddio enw arall arnynt eu hunain, sef Combrogī ‘cyd-frowyr’. O'r term hwn y terddir yr enw lle Saesneg Cumbria, ac ohono fe y daw'r gair Cymry hefyd, sef yr enw y mae gwerin yng Nghymru'n ei ddefnyddio i ddisgrifio eu hunain heddiw (yn yr Oesoedd Canol cafodd y term hwn ei ddefnyddio i sôn am y wlad hefyd, ac mae wedi troi'n 'Cymru' erbyn hyn). Amhosibl yw dweud, fodd bynnag, p'un a gâi'r term hwn ei ddefnyddio yn ystod y pumed ganrif, neu beidio. | But those Britons who spoke the British Celtic language known as Brittonic (the ancestor of Welsh, Cornish and Breton) began to use another name for themselves, Combrogī – “fellow countrymen”. This term is the ancestor of the English place name Cumbria, and of the word the Welsh use today to describe themselves: Cymry (in the Middle Ages, this term was also used for the country of Wales, which is now spelled Cymru). Whether or not this term was in use in the fifth century, however, is impossible to say. |
| Erbyn hynny, roedd pobloedd a siaradai ieithoedd Germaneg yn sefydlu teyrnasoedd yn ne ynys Prydain, ac yn y dwyrain hefyd. Roedd y rhain yn rhagflaenwyr i'r 'gens Anglorum' hynny yw 'y werin Seisnig’ a defnyddio geiriau hanesydd (ac yn hwyrach, sant) Bede oedd yn ysgrifennu yn yr wythfed ganrif. Nid Brythoniaid oedd y bobl hyn, nac o'u rhan eu hunain, nac o ran eu cymdogion i'r gorllewin ychwaith. Y pryd hynny eu henw ar y werin y tu hwnt i Gymru oedd 'Saeson', a hyd yn oed heddiw yr un enw sy'n cael ei ddefnyddio (a 'Sasanaigh' yn Gaeleg). Yn eu tro, roedd y Saeson yn galw'r Brythoniaid yn 'Wealas' a'r term hwn yw tarddiad y gair 'Welsh'. Felly, o safbwynt Saesneg cyfoes o leiaf, fe fyddai Padrig wedi bod yn Gymro. | By this time, Germanic-speaking kingdoms were forming in the south and east of the island of Britain. They were the forerunners of what historian, and later saint, Bede, in the eighth century would call the “gens Anglorum”, “the English people”. These people were not Britons, either to themselves, or to their neighbours to the west, who, then and now, called them “Saxons” (Welsh “Saeson”, Gaelic “Sasanaigh”). They, in turn, called the Britons, “Wealas”, the origin of the word “Welsh”. So from a contemporary English point of view at least, Patrick would have been Welsh. |
| Iaith a llenyddiaeth Mae sawl ysgolhaig (y rhai o'r Oesoedd Canol a'r rhai o'r cyfnod modern fel ei gilydd) wedi honni bod San Padrig yn siarad Brythoneg. Gwyddom ei fod yn gallu ysgrifennu Lladin da, ond yr oedd yn ei galw'n 'lingua aliena' (hynny yw, 'iaith estron'). Nid ei famiaith oedd hon, ond roedd hi'n ddewis amlwg i'w defnyddio pan oedd e'n ysgrifennu, gan ei bod yn iaith uchel ei statws, a chanddi draddodiad llenyddol hynafol, ac yr oedd hi'n 'lingua franca' yn yr eglwys. Heb dystiolaeth bellach, gallem gasglu'n eitha hyderus mai Brythoneg fyddai ei famiaith (bryd hynny byddai brodor o orllewin Britannia wedi bod yn llai tebygol o lawer o siarad Gwyddeleg, Saesneg, neu Bicteg). Ond efallai y gallwn fynd yn bellach na hyn. | Language and literature It has been claimed, by scholars both medieval and modern, that St Patrick spoke Brittonic. We know that he could write good Latin, but he called it lingua aliena, “a foreign language”. It was not his native tongue, but, as a high status language with a venerable literary tradition, and the lingua franca of the church, it was the obvious choice for him to write in. Without any further evidence, we could quite confidently deduce that Brittonic would be his native tongue (Irish, English and Pictish are much less likely candidates for a native of western Britannia at this time). But perhaps we can go further than this. |
| Yn ystod y seithfed ganrif, ysgrifennodd mynach o Iwerddon o'r enw Muirchú Fywyd San Padrig yn Lladin. Yn y llyfr hwn y mae ambell ffaith hanesyddol ynglŷn â Padrig sy wedi'i chynnwys hefyd yn ei weithiau ei hun. Ond mae'r ffeithiau hyn yn cael eu cuddio bron yn llwyr gan y gwyrthiau niferus oedd agos yn orfodol mewn llenyddiaeth ganoloesol ynglŷn â bywydau'r saint. Ymhellach tywyllir y ffeithiau gan bropaganda digywilydd wedi'i lunio gan yr eglwys uchelgeisiol yn Armagh, a oedd wrthi'n neilltuo Padrig ar ei chyfer ei hun. | In the seventh century, an Irish monk named Muirchú wrote a Life of St Patrick in Latin. In it, the few historical facts about Patrick recoverable from his own writings are almost completely obscured by the numerous miracles that were de rigueur in medieval writings on the lives of saints, and the blatant propaganda of the ambitious church of Armagh, which was in the process of appropriating Patrick for itself. |
| Serch hynny, mae Muirchú yn cofnodi dau ddywediad Padrig air am air, sef 'modebroth' a 'gra(t)zacham'. Dyw Muirchú ddim yn dweud wrthym beth yw iaith yr ymadroddion hyn. Fodd bynnag, yn y nawfed ganrif roedd Cormac mac Cúilennáin, geiriadurwr o Iwerddon ac Esgob a Brenin Cashel hefyd, yn dehongli mai Brythoneg oedd iaith y ddau ohonynt. | Nonetheless, Muirchú records verbatim two of Patrick’s sayings: “modebroth” and “gra(t)zacham”. Muirchú does not tell us what language these utterances are in, but both were interpreted as being in Brittonic by a ninth-century Irish lexicographer, Cormac mac Cúilennáin, the bishop-king of Cashel. |
| Roedd yn honni mai ffurf lygredig ar y Gymraeg 'myn duw brawd' yw 'modebroth'. Efallai fod hyn yn gywir, ond tarddiad gwreiddiol y dywediad 'gra(t)zacham' yw'r ymadrodd Lladin 'gratias agam' ('gadewch imi fendigo'), neu 'gratias agamus' ('gadewch inni fendigo'). | Modebroth, he claimed, is a corrupt form of the Welsh “myn duw brawd” – “by the god of judgement”. This could be right, but gra(t)zacham derives ultimately from the Latin “gratias agam” (“let me give thanks”), or gratias agamus (“let us give thanks”). |
| Mae'n ymddangos bod Cormac yn ei ddehongli fel Brythoneg ar sail y ffaith hynod o resymol mai Brython oedd Padrig. Felly rhaid mai Brythoneg oedd ei ddywediadau, os nad oeddynt yn amlwg yn Wyddeleg na'n Lladin. Ond wedyn, pe bai Cormac yn anghywir am 'gra(t)zacham', fe allai fod wedi bod yn anghywir am 'modebroth', hefyd. Mewn gwirionedd, gallai 'modebroth' fod yn ymadrodd Gwyddeleg sy'n golygu 'cosb ddwyfol', wedi'i drawsffurfio yn yr un modd ag y newidir yn aml eiriau mewn llwon crefyddol (er enghraifft, yn Saesneg ceir 'asu' neu 'iesgob' yn lle 'God' a 'Jesus'). P'un bynnag, nid oes rheswm grymus iawn dros gredu bod Muirchú yn gwir wybod yr union eiriau roedd Padrig wedi eu dweud 200 o flynyddoedd o'r blaen. | Cormac seems to have interpreted it as Brittonic on the eminently reasonable ground that Patrick was a Briton, and that anything he is reported to have said which was not obviously Irish or Latin must have been Brittonic. So if he was wrong about gra(t)zacham, he may have been wrong about modebroth, too, which may, in fact, have been an Irish phrase meaning “divine judgment”, subjected to the sort of modification common in religious oaths (see, for instance, the English “gosh” and “jeepers” instead of “God” and “Jesus”). At any rate, there is no very compelling reason to believe that Muirchú really did have access to the exact words which Patrick had uttered 200 years previously. |
| Wel, beth yw'r dyfarniad? Mae'n eitha posib y ganwyd Padrig yn yr ardal a elwir yn Gymru heddiw. Heb amheuaeth cafodd ei eni yng ngorllewin Prydain. Efallai ei fod yn meddwl mai Cymro oedd e, ac yn ddi-os byddai'r Saeson wedi ei gyfrif fel un o'r 'Wealas'. Mae bron yn sicr mai hynafiad y Gymraeg oedd ei famiaith. Ond wedi dweud hyn oll, gwyddom iddo ddewis Iwerddon yn hytrach na gwlad ei enedigaeth. Mae e'n droednodyn yn hanes Cymru, ond yn hollbwysig yn hanes Iwerddon. | So what’s the verdict? Patrick may very well have been born in present-day Wales. He was certainly born in the west of Britain. He may have thought of himself as a Cymro, and the English would doubtless have classified him as Welsh. His first language was almost certainly the ancestor of Welsh. And yet, we know that he chose Ireland over the land of his birth. He is a footnote in the history of Wales, but utterly central to that of Ireland. |
| Yn y gêm rygbi a ysbrydolai fy nghrys-t yr Ŵyl Padrig Sant honno, un o'r chwaraewyr (ymhlith y lliaws) a sgoriodd geisiadau dros Iwerddon oedd rhyw Ronán O’Gara, a gafodd ei eni yn San Diego, California. Yn y bôn, o ran hunaniaeth, nid popeth yw man geni’ | In the game of rugby which inspired my St Patrick’s Day t-shirt, one of the (many) try scorers for Ireland was a certain Ronán O’Gara, born San Diego, California. When it comes to identity, place of birth isn’t everything. |
Yn enedigol o Gaeredin, enillodd Simon gradd mewn Astudiaethau Celtaidd a PhD mewn Cymraeg Canol o Aberystwyth. Ar ol cyfnod ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway, daeth yn ol i Aberystwyth i ddarlithio yn 2003.
Simon was born in Edinburgh, studied for a degree in Celtic Studies and then a PhD in Middle Welsh in Aberystwyth. After a period at the National University of Ireland, Galway, he returned to Aberystwyth as a lecturer in 2003.
Mae Patrick Jemmer wedi creu’r fersiwn Cymraeg i parallel.cymru / Patrick Jemmer has created the Welsh version for parallel.cymru
]]>

Yn y map uchod, yr allwedd yw: Glas < 10%; Oren 10-35%; Melyn 35-60%; Red 60-80%; Gwyrdd 80-100% o bobl sydd yn gallu siarad Cymraeg.
In the map above, the key is: Blue < 10%; Orange 10-35%; Yello 35-60%; Red 60-80%; Green 80-100% of people who can speak Welsh.
Southall’s Census Map of Wales, 1891.
Rydw i wastad wedi cael fy nghyfareddu gan fapiau sy’n ceisio darlunio daearyddiaeth yr iaith Gymraeg. Un o’r rhai cyntaf i geisio gwneud hynny oedd y map hwn gan JE Southall, a oedd yn seiliedig ar ganlyniadau’r cyfrifiad o 1891. Er gwaethaf y ffaith fod hwn yn gyfnod pan oedd nifer absoliwt a chanrannau siaradwyr Cymraeg yn llawer uwch na heddiw, mae’n arwyddocaol – ac efallai yn esbonio – y gall dyn adnabod, hyd yn oed yn 1891, ddosbarthiad gwahaniaethol o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, gyda’r canrannau uwch yn yr hyn a elwir yn ‘y Fro Gymraeg’ neu berfeddwlad Cymru, a’r canrannau is yn ymddangos yn ne a dwyrain y wlad. Rhan o arwyddocâd y map hwn – a mapiau tebyg eraill a’u dilynodd – yw ei fod wedi sefydlu cyfres o ddychymyg daearyddol o Gymru, sydd wedi helpu i lunio sut yr ydym yn gweld yr iaith Gymraeg; o ran polisi cyhoeddus a dadl boblogaidd.
O ran dadl gyhoeddus, gall dyn ystyried sut mae amrywiaeth o bleidiau gwleidyddol a grwpiau ymgyrchu wedi defnyddio mapiau fel y rhain, a’r ystadegau sydd y tu ôl iddynt, i ddadlau am yr angen i amddiffyn y Cymry a’r cymunedau sy’n siarad Cymraeg. Gan ddechrau gydag ymgyrch Plaid Cymru yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd i siaradwyr Cymraeg fynd ‘yn ôl i’r wlad’, a pharhau ag ymgyrchoedd iaith ac eiddo amrywiol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, gwnaed sawl ymdrech i ddefnyddio mapiau i ddadlau am arwyddocâd rhannau penodol o Gymru am barhad y Gymraeg ac, yn fwy eang ‘ y ffordd Gymreig o fyw’. Dros y 15 mlynedd ddiwethaf, rhoddwyd pwysau llywodraethol ychwanegol ar yr angen i amddiffyn ‘y Fro Gymraeg’ a’r cymunedau Cymraeg sy’n gorwedd oddi mewn.
Ac eto, er gwaethaf gwerth mapiau o’r fath, mae gennyf rai pryderon ynghylch y ffordd y gallant sianelu ac, yn anfwriadol, gamarwain agweddau o’r ddadl wleidyddol a chyhoeddus sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg. Mae tri prif fater yn haeddu ein hystyriaeth. Yn gyntaf, mae’r ffocws ar fapiau canrannau siaradwyr Cymraeg wedi arwain, bron yn anochel dros yr ugeinfed ganrif, i ffocws gwleidyddol a chyhoeddus ar ddirywiad cyffredinol y canrannau hynny; ac, wrth gwrs, ymosodiad cysylltiedig ‘y Fro Gymraeg’. Er bod angen cydnabod ac ymateb i’r dirywiad hwn, gall hefyd arwain at farwolaeth benodol mewn perthynas â’r iaith Gymraeg. Pam trafferthu ei siarad pan fo pob map, bron, yn dangos ei dirywiad parhaus? Gall hefyd arwain at gyfyngu ar yr ymatebion polisi posibl mewn perthynas â dirywiad iaith. Beth sy’n digwydd i’n polisïau iaith pan nad oes unrhyw rannau o Gymru yn cynnwys mwy na 70% o siaradwyr Cymraeg?
Yn ail, gall mapiau fel yr un yma helpu i atgyfnerthu fersiwn posibl o’r hen ffordd o sut mae pobl yn byw eu bywydau. Gall map o Gymru sydd wedi’i rannu i ardaloedd iaith gwahanol (sydd â ffiniau), a’r ffocws cysylltiedig ar yr angen i amddiffyn cymunedau sy’n siarad Cymraeg a’r Gymraeg fel iaith gymunedol, atgyfnerthu argraff gamarweiniol ar y ffordd y mae siaradwyr Cymraeg yn byw ac yn gweithio mewn fersiynau bywyd go iawn o Cwmderi (y lleoliad ffuglennol ar gyfer yr opera sebon cyfrwng Cymraeg, Pobl y Cwm), lle mae pawb yn adnabod ei gilydd, lle mae pawb ac eithrio ambell un yn siarad Cymraeg a lle nad yw pobl yn mentro i drefi a dinasoedd eraill i weithio, siopa neu gael eu haddysgu. A yw’r mapiau iaith sefydlog hyn yr ydym ni wedi’u defnyddio felly yn helpu i atgyfnerthu syniad ffug bod siaradwyr Cymraeg yn gaeth i’r gymuned? A ydynt yn cuddio ffyrdd o fyw mwy rhwydd, hyblyg a mwy cymhleth y mae mwyafrif y siaradwyr Cymraeg yn byw ynddynt? Wrth wneud hyn i gyd, a ydyn nhw’n helpu i lunio opsiynau polisi mewn ffyrdd amhriodol?
Yn drydydd, gall y mapiau iaith sydd mor gyfarwydd i ni hefyd helpu i ddargyfeirio ein sylw oddi wrth yr heriau sy’n wynebu’r Gymraeg y tu allan i ‘y Fro Gymraeg’. Fe’m magwyd yn nhref Llanelli yn ne Cymru yn ystod y 1970au a’r 1980au. Er bod Llanelli, hyd yn oed bryd hynny, yn gorwedd y tu allan i ‘y Fro Gymraeg’, rwy’n dal i fyw fy mywyd bron yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg (mynychu ysgolion Cymraeg a chapel Cymraeg). Ac felly, mae gennyf ychydig o broblem gyda’r mapiau hyn ar lefel bersonol gan eu bod, bron yn anochel, yn rhoi’r argraff nad yw’r ardaloedd hynny y tu allan i ‘y Fro Gymraeg’ yn hollbwysig i’r iaith. I ba raddau y mae’r mapiau hyn – a’r naratif y maent yn eu cefnogi yn nhermau yr angen i gefnogi’r Gymraeg fel iaith gymunedol yn ‘y Fro Gymraeg’ – unwaith eto yn annog gwneuthurwyr polisi ar cyhoedd fel ei gilydd i ganolbwyntio eu hymdrechion ar hyrwyddo’r Gymraeg mewn rhai ardaloedd, o bosib ar draul eraill?
Yn fras, felly, mae’r drafodaeth hon yn dangos pŵer mapiau iaith i lunio polisi cyhoeddus a dadl wleidyddol ynghylch yr iaith Gymraeg. Y cwestiwn yr wyf wedi ei osod yn y darn byr hwn yw a yw’r pŵer hwn o reidrwydd o gymorth ym mhob achos. A oes arnom angen mapiau gwahanol o’r Gymraeg? A fydd y mapiau gwahanol hyn yn ein helpu i ddatblygu gwahanol ymatebion polisi ac ymatebion chyhoeddus i’r heriau a’r cyfleoedd sy’n ei wynebu?
Y gall dyn adnabod, hyd yn oed yn 1891, ddosbarthiad gwahaniaethol o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, gyda’r canrannau uwch yn yr hyn a elwir yn y Fro Gymraeg.
| Rydw i wastad wedi cael fy nghyfareddu gan fapiau sy’n ceisio darlunio daearyddiaeth yr iaith Gymraeg. Un o’r rhai cyntaf i geisio gwneud hynny oedd y map hwn gan JE Southall, a oedd yn seiliedig ar ganlyniadau’r cyfrifiad o 1891. Er gwaethaf y ffaith fod hwn yn gyfnod pan oedd nifer absoliwt a chanrannau siaradwyr Cymraeg yn llawer uwch na heddiw, mae’n arwyddocaol – ac efallai yn esbonio – y gall dyn adnabod, hyd yn oed yn 1891, ddosbarthiad gwahaniaethol o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, gyda’r canrannau uwch yn yr hyn a elwir yn ‘y Fro Gymraeg’ neu berfeddwlad Cymru, a’r canrannau is yn ymddangos yn ne a dwyrain y wlad. Rhan o arwyddocâd y map hwn – a mapiau tebyg eraill a’u dilynodd – yw ei fod wedi sefydlu cyfres o ddychymyg daearyddol o Gymru, sydd wedi helpu i lunio sut yr ydym yn gweld yr iaith Gymraeg; o ran polisi cyhoeddus a dadl boblogaidd. | I have always been fascinated by maps that try to depict the geography of the Welsh language. One of the first to attempt to do so was this map by JE Southall, which was based on the results of the census of 1891. Despite the fact that this was a period during which the absolute numbers and percentages of Welsh speakers were much higher than today, it is significant – perhaps requires an explanation – that one can recognise, even in 1891, the emergence of a differential distribution of Welsh speakers in Wales, with the higher percentages being located in what has been termed ‘y Fro Gymraeg’ or the Welsh ‘heartland’ and the lower percentages appearing in the south and east of the country. Part of the significance of this map – and other similar maps that have followed it – is that it has set in train a series of geographical imaginings of Wales, which have helped to shape how we think about the Welsh language; both in terms of public policy and popular debate. |
| O ran dadl gyhoeddus, gall dyn ystyried sut mae amrywiaeth o bleidiau gwleidyddol a grwpiau ymgyrchu wedi defnyddio mapiau fel y rhain, a’r ystadegau sydd y tu ôl iddynt, i ddadlau am yr angen i amddiffyn y Cymry a’r cymunedau sy’n siarad Cymraeg. Gan ddechrau gydag ymgyrch Plaid Cymru yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd i siaradwyr Cymraeg fynd ‘yn ôl i’r wlad’, a pharhau ag ymgyrchoedd iaith ac eiddo amrywiol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, gwnaed sawl ymdrech i ddefnyddio mapiau i ddadlau am arwyddocâd rhannau penodol o Gymru am barhad y Gymraeg ac, yn fwy eang ‘ y ffordd Gymreig o fyw’. Dros y 15 mlynedd ddiwethaf, rhoddwyd pwysau llywodraethol ychwanegol ar yr angen i amddiffyn ‘y Fro Gymraeg’ a’r cymunedau Cymraeg sy’n gorwedd oddi mewn. | In terms of popular debate, one can consider how a range of political parties and campaign groups have used maps such as these, and the statistics that lie behind them, to argue for the need to protect the Welsh heartland and the Welsh-speaking communities that comprise it. Starting with Plaid Cymru’s campaign during the interwar period for Welsh speakers to go ‘back to the land’, and continuing with the Welsh Language Society’s various language and property campaigns, various attempts have been made to use maps to argue for the significance of specific parts of Wales for the continuation of the Welsh language and, more broadly, a Welsh way of life. Over the past 15 or so years, additional governmental weight has been given to the need to protect ‘y Fro Gymraeg’ and the Welsh-speaking communities that lie within it. |
| Ac eto, er gwaethaf gwerth mapiau o’r fath, mae gennyf rai pryderon ynghylch y ffordd y gallant sianelu ac, yn anfwriadol, gamarwain agweddau o’r ddadl wleidyddol a chyhoeddus sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg. Mae tri prif fater yn haeddu ein hystyriaeth. Yn gyntaf, mae’r ffocws ar fapiau canrannau siaradwyr Cymraeg wedi arwain, bron yn anochel dros yr ugeinfed ganrif, i ffocws gwleidyddol a chyhoeddus ar ddirywiad cyffredinol y canrannau hynny; ac, wrth gwrs, ymosodiad cysylltiedig ‘y Fro Gymraeg’. Er bod angen cydnabod ac ymateb i’r dirywiad hwn, gall hefyd arwain at farwolaeth benodol mewn perthynas â’r iaith Gymraeg. Pam trafferthu ei siarad pan fo pob map, bron, yn dangos ei dirywiad parhaus? Gall hefyd arwain at gyfyngu ar yr ymatebion polisi posibl mewn perthynas â dirywiad iaith. Beth sy’n digwydd i’n polisïau iaith pan nad oes unrhyw rannau o Gymru yn cynnwys mwy na 70% o siaradwyr Cymraeg? | And yet, despite the value of such maps, I have some concerns about the way in which they can channel and, inadvertently, mislead aspects of the political and public debate concerning the Welsh language. Three main issues deserve our consideration. First, the focus on maps of the percentages of Welsh speakers has led, almost inevitably over the course of the twentieth century, to a political and public focus on the overall decline of those percentages; and, of course, an associated retrenchment of ‘y Fro Gymraeg’. While this decline needs to be recognised and responded to, it can also lead to a certain fatalism in relation to the Welsh language. Why bother to speak it when every map, almost, shows its continual decline? It can also lead to a certain curtailing of the possible policy responses in relation to language decline. What happens to our language policies when no parts of Wales contain 70% or above of Welsh speakers? |
| Yn ail, gall mapiau fel yr un yma helpu i atgyfnerthu fersiwn posibl o’r hen ffordd o sut mae pobl yn byw eu bywydau. Gall map o Gymru sydd wedi’i rannu i ardaloedd iaith gwahanol (sydd â ffiniau), a’r ffocws cysylltiedig ar yr angen i amddiffyn cymunedau sy’n siarad Cymraeg a’r Gymraeg fel iaith gymunedol, atgyfnerthu argraff gamarweiniol ar y ffordd y mae siaradwyr Cymraeg yn byw ac yn gweithio mewn fersiynau bywyd go iawn o Cwmderi (y lleoliad ffuglennol ar gyfer yr opera sebon cyfrwng Cymraeg, Pobl y Cwm), lle mae pawb yn adnabod ei gilydd, lle mae pawb ac eithrio ambell un yn siarad Cymraeg a lle nad yw pobl yn mentro i drefi a dinasoedd eraill i weithio, siopa neu gael eu haddysgu. A yw’r mapiau iaith sefydlog hyn yr ydym ni wedi’u defnyddio felly yn helpu i atgyfnerthu syniad ffug bod siaradwyr Cymraeg yn gaeth i’r gymuned? A ydynt yn cuddio ffyrdd o fyw mwy rhwydd, hyblyg a mwy cymhleth y mae mwyafrif y siaradwyr Cymraeg yn byw ynddynt? Wrth wneud hyn i gyd, a ydyn nhw’n helpu i lunio opsiynau polisi mewn ffyrdd amhriodol? | Second, maps such as this one can help to reinforce a potentially rather outdated version of how people live their lives. A map of Wales that is subdivided into distinct (almost bounded) language areas, and the associated focus on the need to protect Welsh-speaking communities and Welsh as a so-called community language, can reinforce a misleading impression that Welsh-speakers live and work in real-life versions of Cwmderi (the fictional setting for the Welsh-medium soap opera, Pobl y Cwm), where every person knows each other, where everyone bar a few exceptions speaks Welsh and where people rarely venture to other towns and cities to work, shop or be educated. Do these static language maps that we are so used to help to reinforce an erroneous notion that Welsh speakers are tied to the community? Do they mask the more fluid, mobile and more complicated lifestyles that the majority of Welsh speakers actually live? In doing all of this, do they help frame policy options in inappropriate ways? |
| Yn drydydd, gall y mapiau iaith sydd mor gyfarwydd i ni hefyd helpu i ddargyfeirio ein sylw oddi wrth yr heriau sy’n wynebu’r Gymraeg y tu allan i ‘y Fro Gymraeg’. Fe’m magwyd yn nhref Llanelli yn ne Cymru yn ystod y 1970au a’r 1980au. Er bod Llanelli, hyd yn oed bryd hynny, yn gorwedd y tu allan i ‘y Fro Gymraeg’, rwy’n dal i fyw fy mywyd bron yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg (mynychu ysgolion Cymraeg a chapel Cymraeg). Ac felly, mae gennyf ychydig o broblem gyda’r mapiau hyn ar lefel bersonol gan eu bod, bron yn anochel, yn rhoi’r argraff nad yw’r ardaloedd hynny y tu allan i ‘y Fro Gymraeg’ yn hollbwysig i’r iaith. I ba raddau y mae’r mapiau hyn – a’r naratif y maent yn eu cefnogi yn nhermau yr angen i gefnogi’r Gymraeg fel iaith gymunedol yn ‘y Fro Gymraeg’ – unwaith eto yn annog gwneuthurwyr polisi ar cyhoedd fel ei gilydd i ganolbwyntio eu hymdrechion ar hyrwyddo’r Gymraeg mewn rhai ardaloedd, o bosib ar draul eraill? | Third, the language maps that are so familiar to us can also help to draw our attention away from the challenges facing the Welsh language outside ‘y Fro Gymraeg’. I grew up in the town of Llanelli in south Wales during the 1970s and 1980s. While Llanelli, even back then, lay outside ‘y Fro Gymraeg’, I still lived my life almost exclusively through the medium of Welsh (attending Welsh-speaking schools and a Welsh-speaking chapel). And, therefore, I have a slight problem with these maps at a personal level since they, almost inevitably, give the impression that those areas outside of ‘y Fro Gymraeg’ are not really all that important for the language. To what extent do these maps – and the narrative they support concerning the need to support Welsh as a community language in ‘y Fro Gymraeg’ – once again encourage policy-makers and public alike to focus their energies on promoting Welsh in certain areas, possibly to the detriment of others? |
| Yn fras, felly, mae’r drafodaeth hon yn dangos pŵer mapiau iaith i lunio polisi cyhoeddus a dadl wleidyddol ynghylch yr iaith Gymraeg. Y cwestiwn yr wyf wedi ei osod yn y darn byr hwn yw a yw’r pŵer hwn o reidrwydd o gymorth ym mhob achos. A oes arnom angen mapiau gwahanol o’r Gymraeg? A fydd y mapiau gwahanol hyn yn ein helpu i ddatblygu gwahanol ymatebion polisi ac ymatebion chyhoeddus i’r heriau a’r cyfleoedd sy’n ei wynebu? | In broad terms, therefore, this discussion shows the power of language maps to shape the public policy and political debate concerning the Welsh language. The question I have posed in this short piece is whether this power is necessarily helpful in every case. Do we need different maps of the Welsh language? Will these different maps help us to develop different policy and public responses to the challenges and opportunities facing it? |
Cafodd yr erthygl hon ei chyhoeddi yn gyntaf ar flog y Llyfrgell Genedlaethol, ar ran o’r gyfres #CaruMapiau.
This article was published first on the National Library’s blog, part of the series #LoveMaps.
Mae’r staff y Llyfrgell ysgrifennu’r un erthyglau yn y Gymraeg ac yn Saesneg am bob math o bethau diddorol sy’n codi yn eu gwaith a’u casgliadau.
The Library staff write the same articles in Welsh and in English about all sorts of interesting things to do with their work and collections.
]]>