Mae Cymru’n gwlad y gân, cennin pedr, defaid, mynyddoedd, Gareth Bale, a llawer, llawer mwy! Mae llyfr newydd, Cymru ar y Map, yn cyflwyno hyfrydwch ein gwlad mewn modd ffres, i genhedlaeth newydd o blant Cymraeg a di-Gymraeg. Yma, mae’r awdures, Elin Meek, yn esbonio mwy…
Wales is country of song, daffodils, sheep, mountains, Gareth Bale, and much, much more! A new book, Wales on the Map, presents the joy of our country in a fresh way, to a new generation of Welsh and non-Welsh speaking children. Here, the author, Elin Meek, explains more…
Yn haf 2017, ces i e-bost oddi wrth Lynda o wasg Rily. Roedd hi’n gofyn a fasai diddordeb gyda fi mewn ysgrifennu llyfr ffeithiol i blant am Gymru. Atebais i ar unwaith a dweud fy mod i’n awyddus iawn. Gofynnodd Lynda am enghraifft o dudalen ar un sir yng Nghymru, a dewisais i sir Benfro. | In the summer of 2017, I had an email from Lynda from Rily Publications. She was asking whether I would be interested in writing a factual book about Wales for children. I answered immediately and said I was very keen. Lynda asked for an example of a page on one county in Wales, and I chose Pembrokeshire. |
Ar y pryd, do’n i ddim yn adnabod yr arlunydd a’r dylunydd. Ond cyn hir, daeth lluniau sir Benfro yn ôl, ac ro’n i wrth fy modd! Roedd Valériane Leblond wedi tynnu lluniau hyfryd dros ben, a Tanwen Haf wedi gwneud gwaith gwych yn gosod y testun a’r lluniau ar fap o’r sir. | At the time, I didn’t know the artist and the designer. But before long, the Pembrokeshire illustrations came back, and I was delighted. Valériane Leblond had drawn really lovely pictures, and Tanwen Haf had done excellent work placing the text and the illustrations on a map of the county. |
Ychydig yn ddiweddarach, gaethon ni wybod bod Cyngor Llyfrau Cymru yn barod i roi grant i wasg Rily i ddatblygu’r llyfr. Felly, gaethon ni gyfarfod yn Aberystwyth gyda’r golygydd, Catrin Wyn Lewis, i drafod beth fasai’n mynd ar bob tudalen yn y llyfr. Penderfynon ni fod angen dwy dudalen i bob sir, a hefyd tudalennau am ffeithiau cyffredinol am Gymru ar y dechrau, a thudalennau am themâu arbennig fel Bwyd, Byd Natur, y Celfyddydau, Chwedlau a Chwaraeon ar y diwedd. Yn ddiweddarach, penderfynon ni ychwanegu tudalennau am Gymru fel gwlad werdd, gyda’r teitl ‘Gofalu am ein Gwlad’. | A little later, we got to know that the Welsh Books Council were prepared to give Rily Publications a grant to develop the book. So, we had a meeting in Aberystwyth with the editor, Catrin Wyn Lewis, to discuss what would go on each page in the book. We decided that two pages were needed for each county, and also pages on general facts about Wales at the beginning, and specific themes such as Food, Nature, the Arts, Legends and Sport at the end. Later on, we decided to add pages about Wales as a green country, entitled ‘Taking Care of Our Country’. |
Roedd y broses ysgrifennu’n ddiddorol iawn. Roedd rhaid cynnwys y wybodaeth fwyaf amlwg am y siroedd – hanes, daearyddiaeth, enwogion ac ati. Roedd cymaint o wybodaeth am Wynedd a Phowys, roedd rhaid iddyn nhw gael pedair tudalen yr un yn y diwedd! Wrth weithio drwy’r siroedd, ro’n i’n casglu gwybodaeth hefyd i’r tudalennau ‘arbenigol’ ar y diwedd. | The writing process was very interesting. The most obvious information had to be included about the counties – history, geography, famous people and so on. There was so much information about Gwynedd and Powys, they had to have four pages each in the end. As I worked through the counties, I also collected information for the ‘specific’ pages at the end. |
Dw i’n dod o dde-orllewin Cymru, felly daeth tudalennau sir Gaerfyrddin, sir Benfro a Cheredigion yn weddol hawdd. Ond roedd angen i mi wneud llawer mwy o ymchwil i rai siroedd eraill, er enghraifft sir y Fflint, Blaenau Gwent a sir Fynwy. Dysgais i lawer o ffeithiau newydd a diddorol, rhaid dweud. Wedyn, roedd Valériane yn dewis tua 13 i 15 o eitemau o bob sir ac yn tynnu eu lluniau. Mae hi’n gallu tynnu llun popeth – adeiladau, pobl, anifeiliaid – mae hi mor ddawnus. Pan o’n ni i gyd yn hapus gyda’r testun a’r darluniau, roedd Tanwen Haf yn gosod popeth ‘ar y map’ yn llythrennol, ac yn ychwanegu’r afonydd a’r mynyddoedd ac ati. | I come from south-west Wales, so the Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire pages came fairly easily. But I had to do much more research into some other counties, for example Flintshire, Blaenau Gwent and Monmouthshire. I learnt so many new and interesting facts, I must say. Afterwards, Valériane would choose around 13 to 15 items from each county and would prepare the illustrations. She can illustrate everything – buildings, people, animals – she’s so talented. When we were all happy with the text and the illustrations, Tanwen Haf placed everything literally ‘on the map’, adding the rivers and the mountains and so on. |
Gan fod fersiynau Cymraeg a Saesneg, roedd angen cynnwys pethau fasai o ddiddordeb i Gymry Cymraeg, i Gymry di-Gymraeg, a hefyd efallai, i ymwelwyr â Chymru. Roedd y broses ddewis a dethol yn ddiddorol iawn. Gwnaeth y broses i mi ystyried pa ddarnau o wybodaeth am Gymru ’dyn ni eisiau rhoi gwybod i blant amdanyn nhw. | As there are Welsh and English versions, one needed to include things which would be of interest to Welsh speakers, non-Welsh speakers, and also perhaps, those visiting Wales. The selection process was very interesting. The process made me consider what pieces of information about Wales we want to let children know about. |
Ro’n i’n meddwl am y llyfr drwy’r amser am fisoedd, ac yn poeni y baswn i’n gadael gwybodaeth bwysig allan. Pan o’n i yng Nghaerdydd un tro, roedd ychydig o amser sbâr gyda fi, ac es i am dro i’r Amgueddfa Genedlaethol i weld yr orielau sy’n dangos llestri o Gymru. Sylweddolais i’n sydyn, er fy mod i wedi cynnwys llestri Nantgarw, nad o’n i wedi cynnwys gwybodaeth am lestri Abertawe a llestri Llanelli. Felly roedd rhaid anfon neges ar frys at Catrin, y golygydd, ar ôl cyrraedd adre. | I was thinking about the book all the time for months, and worrying that I would omit important information. When I was in Cardiff once, I had a little spare time, so I went to the National Museum to see the galleries showing pottery. I suddenly realised, although I had included Nantgarw pottery, that I hadn’t included information on Swansea and Llanelli pottery. So I had to send an urgent message to Catrin, the editor, after I got home. |
Hyd yn oed pan oedd y llyfr wedi mynd i’r wasg, digwyddodd rhywbeth pwysig iawn ro’n i eisiau ei gynnwys yn y llyfr – enillodd Geraint Thomas ras Tour de France! Drwy lwc, roedd pawb arall yn y tîm yn cytuno bod rhaid cynnwys hyn yn y llyfr. Os edrychwch chi ar dudalen 55, gwelwch chi sticer bach gaeth ei ychwanegu. | Even when the book had gone to print, something very important happened that I wanted to include in the book – Geraint Thomas won the Tour de France! Luckily, everyone else in the team agreed that this had to be included in the book. If you look at page 55, you’ll see a small sticker which was added. |
Felly, dw i’n gobeithio fy mod i wedi cofio popeth pwysig ac y byddwch chi’n mwynhau darllen y llyfr yn Gymraeg, yn Saesneg, neu yn y ddwy iaith! | So, I hope I’ve remembered everything important and that you will enjoy reading the book – in Welsh, in English or in both languages! |
Mae dau lyfr arall yn y ddwy iaith i’w mwynhau hefyd. Mae Tanwen Haf wedi paratoi Llyfr Gweithgareddau Cymru ar y Map i blant iau. Hefyd, mae cannoedd o gwestiynau yn Llyfr Cwis Cymru ar y Map (Sioned Lleinau yw’r golygydd) i weld beth dych chi’n ei gofio ar ôl darllen Cymru ar y Map! | There are two other books in both languages to enjoy. Tanwen Haf has prepared Wales on the Map Activity Book. The Wales on the Map Quiz Book (edited by Sioned Lleinau) includes hundreds of questions to see what you remember after reading Wales on the Map! |
Gan fod fersiynau Cymraeg a Saesneg, roedd angen cynnwys pethau fasai o ddiddordeb i Gymry Cymraeg, i Gymry di-Gymraeg, a hefyd efallai, i ymwelwyr â Chymru.
2018 oedd blwyddyn waethaf fy mywyd. Bu farw fy Mam arbennig o ganser y stumog. Fe aeth hi mor sydyn - cafodd wybod ei bod hi'n sâl un mis ac roedd hi wedi mynd y nesaf! | 2018 was the worst year of my life. My wonderful Mam died of stomach cancer. It was so sudden – she found out she was ill one month and was gone the next! |
Fe wnaeth sioc ei cholled wneud i mi sylweddoli pa mor hanfodol yw rôl mam gref, ysbrydoledig yng Nghymru ac mae ei habsenoldeb wedi achosi galar torcalonnus o fewn fy holl deulu. | The shock of her loss made me realise how vital the role of a strong, inspiring Welsh mam is and her absence has caused a gulf of heartbreak in my whole family. |
Penderfynais gyflwyno ein llyfrau ‘Cymru ar y Map’ a ‘Wales on the Map’ i fy mam ac mae'r deyrnged yn darllen: | I decided to dedicate our books ‘Wales on the Map’ and ‘Cymru ar y Map’ to my mam and the tribute reads: |
“Cymru oedd ‘Gwlad fy Mam’, ac mae’r llyfr hwn yn gyflwynedig i’r anhygoel, y galonogol a’r eithriadol Mairwen Thomas, ac i bob un o’n mamau rhyfeddol.” | “Wales was the ‘Land of my Mother’ and this book is dedicated to the exquisite, encouraging and exceptional Mairwen Thomas, and to all of our wonderful mothers.” |
Roeddwn i'n ddigon ffodus i rannu'r llyfr hwn gyda hi yn ei ddrafftiau cynnar ac roedd hi wrth ei bodd yn ei weld yn datblygu proflen wrth broflen. Roedd ganddi syched am wybodaeth ac roedd yn chwilfrydig am bobl a'r gorffennol. Dyma nodweddion a rannwyd rhwng y ddwy ohonom a gwn y byddai'n hynod falch o weld y llyfrau gorffenedig ar werth. | I was lucky enough to share this book with her in its early drafts and she thrived on seeing it develop spread by spread. She had a thirst for information and was curious about people and the past. These are traits that we shared and I know that she would be incredibly proud to see the finished books on sale. |
Yn ystod fy mhlentyndod hyfryd, buom yn teithio Cymru mewn carafán. Doedden ni ddim yn gyfoethog yn yr ystyr ariannol, ond roedd gennym fywyd teuluol sefydlog, cariadus a llawn hwyl. Pwy allai fod eisiau mwy? | During my idyllic childhood, we explored Wales in a tourer caravan. We were not wealthy in the financial sense, but had a stable, loving and fun-filled family life. Who could want for more? |
Rhai o'm hatgofion mwyaf hoffus yw'r swper sglodion pysgod ym Mhorthcawl; mynd ar goll ar y ffordd i Aberystwyth a hyd yn oed y car yn torri i lawr ger Abermaw ar ein ffordd i'r Rhyl! Roedd y rhain cyn diwrnodau sat nav, ffonau symudol a hyd yn oed y rhyngrwyd! Allwch chi ddychmygu hynny! | Some of my most cherished memories are the fish n chip suppers in Porthcawl; getting lost on the way to Aberystwyth and even the car breaking down near Barmouth on our way to Rhyl! These were the days before sat nav, mobile phones and even the Internet! Can you imagine that!!! |
Roedd pob gwyliau fel arfer yn ein cynnwys ni’n gwlychu o’n corun i’n sawdl - mae tywydd Cymru, hyd yn oed yn yr haf, yn ddieithriad yn anrhagweladwy. Eto i gyd, ni fyddwn yn newid yr un eiliad o fy mhlentyndod. Roedd y gwyliau carafan di-ri yn gyfle i ni anturio o amgylch Cymru ac fe ddatgelodd i mi harddwch naturiol a thrysorau cudd ein gwlad anhygoel; yr hyn y mae rhai pobl yn eu cymryd yn ganiataol. | Every holiday usually featured a time when we got absolutely soaked to our skins – the Welsh weather, even in the summer, is invariably unpredictable. Yet, I wouldn’t change a single moment of my childhood. The countless caravan holidays provided us with the opportunity to ‘adventure around Wales’ and it revealed to me the natural beauty and hidden treasures of our amazing country; that some people just take for granted. |
Fy mam, Mair, fydd y person mwyaf ysbrydoledig am byth yn fy mywyd. Roedd yn weithgar, yn ofalgar ac yn angerddol am ei theulu a'i chymuned leol. Doedd hi byth yn ofni cymryd rhan ac fe fuodd hi’n ymgyrchu dros ffordd osgoi i'n pentref i leihau llygredd ger yr ysgol gynradd leol a hyd yn oed drefnu carnifalau haf bob blwyddyn gyda fflotiau lliwgar yn gorymdeithio drwy'r strydoedd. | My mam, Mair, will always be the most inspirational person in my life. She was hardworking, caring and passionate about her family and her local community. She was never afraid to be involved and she campaigned for a bypass for our village to reduce pollution near the local primary school and even organised summer carnivals every year with colourful floats parading through the streets. |
Ganed mam yn Dowlais, Merthyr Tudful yn 1945, roedd yn ‘rhoi er mwyn eraill’ ac rwy'n ymdrechu i ddilyn ei hesiampl ddisglair bob dydd. Roedd ei thad yn siaradwr Cymraeg cynhenid ond cafodd cenhedlaeth fy mam ei chosbi yn greulon yn yr ysgol os oeddent yn siarad Cymraeg ac felly, dros amser, daeth yn rhan o'r genhedlaeth erledigaeth a ‘anghofiodd’ eu hiaith eu hunain. Mae ein llyfrau hudolus wedi'u cyflwyno’n frwdfrydig er cof amdani ac i bob un o'r mamau gwych ledled Cymru. | Born in Dowlais, Merthyr Tydfil in 1945, mam was a person who ‘gave to others’ and I strive to follow her shining example every day. Her father was a native Welsh speaker but my mam’s generation was cruelly punished in school if they spoke Welsh and so, over time, she became part of the persecuted generation who ‘forgot’ their own language. Our enchanting books are lovingly dedicated to her memory and to all of the wonderful mams throughout Wales. |
Byddai fy mam hefyd wedi bod yn falch bod y llyfrau hyn wedi cael eu creu gan dîm o fenywod. Yn wir, mae pob un ohonom ar y tîm hefyd yn famau ein hunain hefyd. Dyma'r gofrestr anrhydedd: | My mam would have also been proud that these books were created by an all-woman team. In fact, all of us on the team are also mothers in our own right too. Here is the roll of honour: |
• Awdur - Elin Meek • Golygydd - Catrin Wyn Lewis • Darlunydd - Valériane Leblond • Dylunydd - Tanwen Haf • Golygyddion copi - Anwen Pierce, Sioned Lleinau ac Eleri Huws | • Author – Elin Meek • Editor – Catrin Wyn Lewis • Illustrator – Valériane Leblond • Designer – Tanwen Haf • Copy editors – Anwen Pierce, Sioned Lleinau and Eleri Huws |
Hoffwn estyn “diolch” enfawr i dîm fy mreuddwydion o famau gwych! Chi yw'r gorau yn y diwydiant ac mae wedi bod yn fraint gweithio gyda chi ar y llyfrau hyn. Diolch o galon! | I wish to extend a huge “thanks” to my dream team of super mams! You are the best in the industry and it has been a privilege to work with you on these books. Diolch o galon! |
Rwy'n credu, yn y gorffennol, ein bod wedi bod yn betrusgar i weiddi'n uchel a dathlu popeth sy'n wych am Gymru. Rydym hefyd yn swil o ran cydnabod a dathlu modelau rôl gadarnhaol ac, yn benodol, menywod Cymreig ysbrydoledig. Felly, roeddwn i eisiau sicrhau bod nifer o'r menywod anhygoel hyn (rhai'n fyw a rhai o'r gorffennol) wedi'u cynnwys yn y llyfrau, fel: | I believe, in the past, we have been hesitant to shout out loud and celebrate all that is fantastic about Wales. We are also a bit shy in recognising and celebrating positive role models and, in particular, inspirational Welsh women. So, I wanted to ensure that a number of these extraordinary women (some living and some from the past) were featured in the books, such as: |
• Laura Ashley - dylunydd ffasiwn a menyw fusnes • Yr Arglwyddes Charlotte Guest - fe gyfieithodd hanesion y Mabinogi o'r Gymraeg i'r Saesneg • Jade Jones - person chwaraeon sy'n gwneud taekwon, enillodd aur yn y Gemau Olympaidd, ddwywaith! • Mererid Hopwood - y fenyw gyntaf i ennill y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol • Tywysoges Gwenllian - arweiniodd fyddin ei gŵr (Gruffudd ap Rhys) yn erbyn y Normaniaid • Kathleen Thomas - y person cyntaf i nofio ar draws Môr Hafren o Benarth i Wester-super-Mare yn 1927 • Elizabeth Andrews - ymgyrchydd cymdeithasol, llwyddodd i gyflwyno baddonau pwll glo i lowyr ac agorodd yr ysgol feithrin gyntaf yn y Rhondda. | • Laura Ashley - fashion designer and business woman • Lady Charlotte Guest - she translated the tales of the Mabinogi from Welsh into English • Jade Jones - taekwon-do sport person, won gold in the Olympic Games, twice! • Mererid Hopwood - first woman to win the chair at the National Eisteddfod • Princess Gwenllian - led her husband’s (Gruffudd ap Rhys) army against the Normans • Kathleen Thomas - first person to swim across the Bristol Channel from Penarth to Wester-super-Mare in 1927 • Elizabeth Andrews - social campaigner, she managed to introduce pit-head baths for miners and opened the first nursery school in the Rhondda |
Gadewch i ni lawenhau ym mhrydferthwch Cymru a gadewch i ni gydnabod a bod yn ddiolchgar i bob un o fenywod rhyfeddol Cymru sydd wedi helpu i lywio ein cenedl wych. Rydym yn sefyll ar eu hysgwyddau, rydym yn eu cydnabod a byddwn yn eu caru a'u coleddu am byth. Bydd hanes yn sicrhau na fydd y merched cryf, dewr a deallus hyn yn cael eu hanghofio. | Let us rejoice in the beauty of Wales and let us recognise and be thankful to all of the remarkable Welsh women who have helped to shape our great nation. We stand on their shoulders, we acknowledge them and we will love and cherish them, forever. History will ensure that these strong, brave and intelligent women will never be forgotten. |
Nos da, Mam, cariad xxx |
Set in Anglesey, the new novel by Siôn Hughes creates a story about the First World War. In this skilful combination of mystery novels and novels, we will be guided to share the lives of the middle class family of one of Anglesey’s mansions between 1915 and 1938. Here, he speaks about his inspiration- his family…
Pan roeddwn yn fachgen dwi’n cofio fy nhaid yn dweud ei fod o’n ddyn lwcus iawn. Roedd o’n rhy ifanc i ymladd yn y rhyfel Byd Cyntaf ac yn rhy hen i ymladd yn yr Ail Ryfel Byd. Dyna oedd sefyllfa ffodus pob bachgen a aned rhwng 1899 a 1910. Roedd Taid yn mwynhau adrodd hanes ei blentyndod ond mi arhosodd un stori yn fy mhen yn fwy na’r lleill.
Roedd hi’n 1915, mi oedd fy Nhaid yn sefyll yn sgwâr Llangefni ar ddiwrnod marchnad ac yn cofio John Williams Brynsiencyn, y pregethwr enwog, yn sefyll mewn car open top. Roedd o’n smocio sigâr a phregethu am y rhyfel a cheisio perswadio’r bechgyn lleol i ymuno a’r fyddin. Mi oedd Taid yn cofio sawl bachgen yn ysgrifennu eu henwau yn y llyfr enlistio. Yn 1919, roedd enwau’r union fechgyn hynny a welodd y diwrnod hwnnw yn ôl yn y sgwâr – ond y tro hwn, enwau ar y cof golofn oeddynt.
Gwnaeth y stori yma gryn argraff arnaf a gyda’r olygfa hon mae fy nofel yn cychwyn.
Nofel hanesyddol gyda dirgelwch yn ei chanol yw Y Milwr Coll – mae hi wedi ei gosod yn Sir Fôn ond mae hi’n gwibio i sawl lle arall. Mae’r arddull yn syml a’r stori yn gyrru mynd o’r cychwyn. Mae hi’n nofel ar gyfer darllenydd sydd yn mwynhau dirgelwch a sawl tro annisgwyl. Mae fy arddull yn hynod weledol – dwi’n dychmygu fy mod yno gyda’r cymeriadau ac yna dwi’n disgrifio’r hyn dwi’n weld.
Yng nghanol y nofel rydym yn neidio ugain mlynedd ac yn ail afael yn y stori ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd. Braf oedd clywed John Ogwen yn ei galw hi’n nofel ‘hynod ddarllenadwy a gafaelgar’.
Dwi’n mwynhau ysgrifennu nofelau sydd wedi eu gosod yn yr ugeinfed ganrif achos fy mod yn teimlo’n agos at y ganrif honno. Mae hi’n ganrif sydd hefyd yn cynnwys y ddau beth mwyaf erchyll yn hanes dynoliaeth sef dau Ryfel Byd.
Pan oedd fy Mam yn fyw roedd hi’n arfer cynnal bore goffi i ddysgwyr yn ei chartref yn Llanfairpwll. Yn ôl Mam roedd ei dosbarth o ddysgwyr wedi mwynhau fy nofelau achos doedd dim angen geiriadur arnynt wrth eu darllen. Roeddwn yn falch fod fy nofelau wedi apelio at ddysgwyr.
Gobeithio y caiff Y Milwr Coll yr un derbyniad.
Nofel hanesyddol gyda dirgelwch yn ei chanol yw Y Milwr Coll – mae hi wedi ei gosod yn Sir Fôn ond mae hi’n gwibio i sawl lle arall.
Pan roeddwn yn fachgen dwi’n cofio fy nhaid yn dweud ei fod o’n ddyn lwcus iawn. Roedd o’n rhy ifanc i ymladd yn y rhyfel Byd Cyntaf ac yn rhy hen i ymladd yn yr Ail Ryfel Byd. Dyna oedd sefyllfa ffodus pob bachgen a aned rhwng 1899 a 1910. Roedd Taid yn mwynhau adrodd hanes ei blentyndod ond mi arhosodd un stori yn fy mhen yn fwy na’r lleill. | When I was a boy I remember my grandfather saying that he was a very lucky man. He was too young to fight in the First World War and too old to fight in the Second World War. That was the fortunate situation of every boy born between 1899 and 1910. Grandfather enjoyed telling stories of his childhood, but one story stayed in my mind more than the others. |
Roedd hi’n 1915, mi oedd fy Nhaid yn sefyll yn sgwâr Llangefni ar ddiwrnod marchnad ac yn cofio John Williams Brynsiencyn, y pregethwr enwog, yn sefyll mewn car open top. Roedd o'n smocio sigâr a phregethu am y rhyfel a cheisio perswadio’r bechgyn lleol i ymuno a’r fyddin. Mi oedd Taid yn cofio sawl bachgen yn ysgrifennu eu henwau yn y llyfr enlistio. Yn 1919, roedd enwau'r union fechgyn hynny a welodd y diwrnod hwnnw yn ôl yn y sgwâr – ond y tro hwn, enwau ar y cof golofn oeddynt. | It was in 1915, my grandfather was standing in the square at Llangefni on market day and remembers John Williams Brynsiencyn, the famous preacher, standing in an open top car. He was smoking a cigar and preaching about the war and trying to persuade the local boys to join the army. Grandfather remembers many boys writing their names in the enlistment book. In 1919, the names of those same boys that he saw that day were back in the square again – but this time, they were names on the war memorial. |
Gwnaeth y stori yma gryn argraff arnaf a gyda’r olygfa hon mae fy nofel yn cychwyn. | This story made a great impression on me and it is with this scene that my novel begins. |
Nofel hanesyddol gyda dirgelwch yn ei chanol yw Y Milwr Coll – mae hi wedi ei gosod yn Sir Fôn ond mae hi’n gwibio i sawl lle arall. Mae’r arddull yn syml a’r stori yn gyrru mynd o’r cychwyn. Mae hi’n nofel ar gyfer darllenydd sydd yn mwynhau dirgelwch a sawl tro annisgwyl. Mae fy arddull yn hynod weledol – dwi’n dychmygu fy mod yno gyda’r cymeriadau ac yna dwi’n disgrifio’r hyn dwi’n weld. | Y Milwr Coll (The Lost Soldier) is a historical novel with a mystery at its heart – it is set in Anglesey but travels around to many other places. The style is simple and the story moves rapidly from the start. It is a novel for readers who enjoy a mystery and some unexpected turns. My style is highly visual – I imagine myself there with the characters and then I write down what I see. |
Yng nghanol y nofel rydym yn neidio ugain mlynedd ac yn ail afael yn y stori ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd. Braf oedd clywed John Ogwen yn ei galw hi’n nofel 'hynod ddarllenadwy a gafaelgar'. | In the middle of the novel we jump twenty years and take up the story again at the onset of the Second World War. It was great to hear John Ogwen call it 'an outstandingly readable and gripping novel'. |
Dwi’n mwynhau ysgrifennu nofelau sydd wedi eu gosod yn yr ugeinfed ganrif achos fy mod yn teimlo’n agos at y ganrif honno. Mae hi’n ganrif sydd hefyd yn cynnwys y ddau beth mwyaf erchyll yn hanes dynoliaeth sef dau Ryfel Byd. | I enjoy writing novels set in the twentieth century because I feel close to that century. It is also a century that contains the two most terrible things in human history, that is, two World Wars. |
Pan oedd fy Mam yn fyw roedd hi’n arfer cynnal bore goffi i ddysgwyr yn ei chartref yn Llanfairpwll. Yn ôl Mam roedd ei dosbarth o ddysgwyr wedi mwynhau fy nofelau achos doedd dim angen geiriadur arnynt wrth eu darllen. Roeddwn yn falch fod fy nofelau wedi apelio at ddysgwyr. | When my mother was alive she used to hold a coffee morning for learners in her home in Llanfairpwll. According to Mum her class enjoyed my novels because there was no need for a dictionary when reading them. I was very pleased that my novels had appealed to learners. |
Gobeithio y caiff Y Milwr Coll yr un derbyniad. | I hope Y Milwr Coll will get the same reception. |
]]>
The publisher CAA Cymru have just released three books about dementia- the first books about the condition in Welsh. Here Delyth Ifan, director of CAA Cymru, shares her experience of dealing with dementia and why the books mean so much to her.
Doeddwn i ddim wedi meddwl rhyw lawer am dementia tan ryw ddwy flynedd yn ôl. Wrth gwrs, roeddwn i wedi clywed yr adroddiadau yn y cyfryngau am y nifer gynyddol o bobl oedd yn dioddef o’r cyflwr, ond doeddwn i ddim wedi ei ystyried o ddifrif. Newidiodd hynny’n llwyr yn 2016. Roedd y teulu agos i gyd yn ymwybodol cyn i fy nhad farw bod fy mam wedi dechrau mynd ychydig bach yn anghofus dros y flwyddyn flaenorol. Dim byd mawr, dim ond tueddi i holi’r un cwestiwn fwy nag unwaith, anghofio enwau ac ambell ddyddiad.
Ond wedyn, pan fu farw Dad ym mis Rhagfyr 2015, bu’n rhaid i Mam ddechrau dygymod â byw ar ei phen ei hun am y tro cyntaf erioed – roedd fy rhieni wedi priodi’n ifanc iawn ac wedi bod yn briod am 54 o flynyddoedd. Bryd hynny ddechreuon ni weld yr arwyddion cynnar o ddementia. Fwy na thebyg roedd Dad, oedd â chof fel rasel, wedi bod yn ‘cuddio’r’ dirywiad drwy atgoffa Mam am ben blwyddi, rhifau ffôn, apwyntiadau, a’r holl bethau bychain o ddydd i ddydd.
Beth sy’n bod ar anghofio ambell ben blwydd a rhyw apwyntiad bob hyn a hyn, meddech chi? Dim byd o gwbl. Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n gwneud hynny o bryd i’w gilydd. Ond dim ond y dechrau oedd hyn. Roedd lot gwaeth i ddod. Yr hyn oedd yn frawychus am sefyllfa Mam oedd bod y dirywiad mor sylweddol, mor sydyn.
Ond dwi ddim am godi ofn ar neb, a rhaid i fi bwysleisio bod sawl un yn credu, o edrych yn ôl ar y cyfnod hwnnw, nad y dementia oedd yn llwyr gyfrifol am ymddygiad Mam. Neu, o’i roi mewn ffordd arall, roedd ‘na brofiadau personol penodol wedi cyflymu’r symptomau. Mewn cyfnod o ddwy flynedd roedd Mam wedi colli ei chwaer, ei gŵr, a’i merch. Bu farw fy chwaer, Beth, o ganser yn 51 mlwydd oed. Alla i ddim dychmygu ergyd fwy creulon na cholli plentyn.
Yn ystod y cyfnod rhwng haf 2016 a gwanwyn 2017, cyn y diagnosis a’r feddyginiaeth, byddai Mam weithiau yn ffonio aelodau o’r teulu agos sawl gwaith y dydd, yn aml wedi drysu; byddai’n ceisio defnydddio’r teclyn rheoli’r teledu i ateb y ffôn, a’r ffôn i ddiffodd y teledu; byddai’n codi a gwisgo erbyn saith y bore yn ystod yr wythnos yn barod i fynd i’r capel. Roedd hi hefyd yn ofni diffodd y teledu- fe ddywedodd wrtha i ar y ffôn ryw fore ei bod hi wedi mynd i’r gwely’r noson cynt a gadael y teledu ymlaen, oherwydd byddai ei ddiffodd yn gorfodi’r côr ar y llwyfan yng nghystadleuaeth Côr Cymru i stopio canu. Roedd hi’n meddwl weithiau wrth wylio rhaglenni fel ‘Noson Lawen’ bod y cyngerdd yn digwydd yn y tŷ, a bod y lolfa’n llawn pobl.
Fel nifer o bobl sydd â dementia, roedd Mam yn waeth ar ôl iddi nosi. Mae’n debyg mai sundown syndrom yw’r term Saesneg. Wedi dweud hynny, roedd Mam, hyd yn oed yn y cyfnod pan oedd hi ar ei gwaethaf, yn mwynhau mynd am dro i lan y môr neu gaffi, neu i weld perthnasau, a gan amlaf roedd hi’n gwmni da ac yn hoffi ychydig o ddireidi.
Beth bynnag, ym mis Ionawr 2017, fe es i â Mam at y meddyg. Fe wnaeth e roi prawf cof o ryw 20 o gwestiynau iddi. Roedd ei hatebion i gwestiynau fel ‘Pa flwyddyn yw hi eleni?’ a ‘Pa fis yw hi nawr? i gyd yn anghywir, ond pan ofynnwyd iddi i enwi ei hathro neu athrawes gyntaf yn yr ysgol gynradd fe atebodd Mam y cwestiwn yn gywir fel shot- ac ymhelaethu ar ei hateb!
Yn dilyn hynny, cafodd Mam sgan ar ei hymennydd. Dangosodd hwnnw fod ganddi vascular dementia, sef problemau yn ymwneud â diffyg llif gwaed i’r ymennydd ar adegau. Ar ôl apwyntiad gydag ymgynghorydd, cafodd wedyn ddiagnosis o Alzheimers. Doedd y tabledi gafodd hi gyntaf ddim yn cytuno â hi, ond ar ôl newid y rheiny, gwellodd y symptomau yn eithaf cyflym. Eto, dwi’n credu bod y galar dwys wedi dechrau cilio erbyn hynny.
Mae Mam erbyn hyn yn dda iawn ar y cyfan. Ydy, mae’n cymysgu pa ddiwrnod yw hi; ydy, mae hi’n rhoi’r llaeth yn y cwpwrdd bwyd a’r clwtyn golchi llestri yn yr oergell; ydy, mae’n anghofio pwy sydd wedi galw i mewn i’w gweld hi, ond mae hi’n dal i gael pleser o’r pethau bychain. Darllen yw un o’r rheiny.
Roedd Mam, fel finnau, bob amser yn mwynhau darllen a thrafod llyfrau. Roedd hi’n aelod brwd o’r gymdeithas lenyddol leol. Roedd hi hefyd yn ysgrifennu rhywfaint ei hun, ac enillodd fwy nag un wobr am ysgrifennu stori fer. Dwi’n meddwl mai ei hoffter o ddarllen ac ysgrifennu, yn ogystal â’i ffydd, oedd wedi ei harwain i ddilyn cwrs mewn diwinyddiaeth a chael ei hordeinio yn weinidog yn 1995, ar ôl blynyddoedd o fod yn wraig fferm a magu pump o blant.
Yn drist, dyw Mam ddim yn gallu darllen nofelau nawr. Hynny yw, mae’n gallu eu darllen, ond dyw hi ddim yn gallu eu deall, gan ei bod yn anghofio beth yw’r stori a phwy yw’r cymeriadau. Ond mae hi’n parhau i fwynhau darllen straeon byrion, barddoniaeth, a rhyw bytiau o lenyddiaeth, a hynny yn Gymraeg yn bennaf.
Dyna pam roeddwn i mor falch mai CAA Cymru, y cwmni cyhoeddi yn Aberystwyth rydw i’n gyfarwyddwr arno, gafodd y gwaith yn ddiweddar o gyhoeddi’r tri llyfr Cymraeg cyntaf ym maes dementia. Rhan o gynllun ‘Darllen yn well: Llyfrau ar brescripsiwn’ i ddarparu llyfrau yn arbennig ar gyfer pobl sydd â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr, yw hwn. Yn wreiddiol, llyfrau Saesneg yn unig y bwriadwyd eu cyhoeddi dan y cynllun, ond diolch i Gyngor Llyfrau Cymru, a lwyddodd i gael nawdd gan Lywodraeth Cymru, mae llyfrau Cymraeg hefyd yn rhan ohono erbyn hyn.
Bydd y llyfrau hyn ar gael am ddim ‘ar bresgripsiwn’ drwy’r llyfrgelloedd. Bydd y llyfrau hefyd ar werth i’r rheiny sydd ddim wedi cael presgripiswn. Er mai dim ond tri llyfr Cymraeg sydd ar gael ar hyn o bryd, y bwriad yw cynhyrchu degau yn rhagor dros y flwyddyn neu ddwy nesaf.
Mae astudiaethau diweddar yn amcangyfrif bod rhwng 33,444 a 55,829 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae arbenigwyr yn amcangyfrif y bydd nifer y bobl yng Nghymru sydd â dementia yn cynyddu 31% erbyn 2021. O ystyried y bydd nifer o’r bobl hynny, eu teuluoedd, eu gofalwyr a’u ffrindiau yn Gymry Cymraeg, mae’n hanfodol bod deunydd darllen pwrpasol ar gael yn eu mamiaith.
Bydd y llyfrau hyn ar gael am ddim ‘ar bresgripsiwn’ drwy’r llyfrgelloedd; y bwriad yw cynhyrchu degau yn rhagor dros y flwyddyn neu ddwy nesaf.
Doeddwn i ddim wedi meddwl rhyw lawer am dementia tan ryw ddwy flynedd yn ôl. Wrth gwrs, roeddwn i wedi clywed yr adroddiadau yn y cyfryngau am y nifer gynyddol o bobl oedd yn dioddef o’r cyflwr, ond doeddwn i ddim wedi ei ystyried o ddifrif. Newidiodd hynny’n llwyr yn 2016. Roedd y teulu agos i gyd yn ymwybodol cyn i fy nhad farw bod fy mam wedi dechrau mynd ychydig bach yn anghofus dros y flwyddyn flaenorol. Dim byd mawr, dim ond tueddi i holi’r un cwestiwn fwy nag unwaith, anghofio enwau ac ambell ddyddiad. | I had not thought very much about dementia until some two years ago. Of course, I had heard the reports in the media about the increasing number of people who where suffering from the condition, but I had never given them serious consideration. That changed completely in 2016. My immediate family were all aware before my father died that my mother had begun to be a little forgetful during the preceding year. Nothing very much, just a tendency to ask the same question more than once, to forget names and occasional dates. |
Ond wedyn, pan fu farw Dad ym mis Rhagfyr 2015, bu’n rhaid i Mam ddechrau dygymod â byw ar ei phen ei hun am y tro cyntaf erioed - roedd fy rhieni wedi priodi’n ifanc iawn ac wedi bod yn briod am 54 o flynyddoedd. Bryd hynny ddechreuon ni weld yr arwyddion cynnar o ddementia. Fwy na thebyg roedd Dad, oedd â chof fel rasel, wedi bod yn ‘cuddio’r’ dirywiad drwy atgoffa Mam am ben blwyddi, rhifau ffôn, apwyntiadau, a’r holl bethau bychain o ddydd i ddydd. | But then, when my father died in December 2015, Mum had to begin coming to terms with living on her own for the first time ever – my parents had got married very young and had been married for 54 years. At that time we began to see the early signs of dementia. It is more than likely that Dad, who had a memory like a razor, had been 'hiding' the deterioration by reminding Mum of birthdays, phone numbers, appointments and all the little day-to-day things. |
Beth sy’n bod ar anghofio ambell ben blwydd a rhyw apwyntiad bob hyn a hyn, meddech chi? Dim byd o gwbl. Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n gwneud hynny o bryd i’w gilydd. Ond dim ond y dechrau oedd hyn. Roedd lot gwaeth i ddod. Yr hyn oedd yn frawychus am sefyllfa Mam oedd bod y dirywiad mor sylweddol, mor sydyn. | What's wrong with forgetting the occasional birthdays and some appointments every now and then, are you thinking? Nothing at all. Most of us do this from time to time. But this was just the beginning. A lot worse was to come. What was frightening about Mum's condition was that the deterioration was so substantial, so quick. |
Ond dwi ddim am godi ofn ar neb, a rhaid i fi bwysleisio bod sawl un yn credu, o edrych yn ôl ar y cyfnod hwnnw, nad y dementia oedd yn llwyr gyfrifol am ymddygiad Mam. Neu, o’i roi mewn ffordd arall, roedd ‘na brofiadau personol penodol wedi cyflymu’r symptomau. Mewn cyfnod o ddwy flynedd roedd Mam wedi colli ei chwaer, ei gŵr, a’i merch. Bu farw fy chwaer, Beth, o ganser yn 51 mlwydd oed. Alla i ddim dychmygu ergyd fwy creulon na cholli plentyn. | But I don’t want to scare anyone, and I must emphasise that many believe, looking back on that period, that it was not the dementia that was entirely responsible for Mum's behaviour. Or, to put it another way, there were particular personal experiences that accelerated the symptoms. Within a period of two years Mum had lost her sister, her husband and her daughter. My sister, Beth, died of cancer at the age of 51. I cannot imagine a crueller blow than losing a child. |
Yn ystod y cyfnod rhwng haf 2016 a gwanwyn 2017, cyn y diagnosis a’r feddyginiaeth, byddai Mam weithiau yn ffonio aelodau o’r teulu agos sawl gwaith y dydd, yn aml wedi drysu; byddai’n ceisio defnydddio’r teclyn rheoli’r teledu i ateb y ffôn, a’r ffôn i ddiffodd y teledu; byddai’n codi a gwisgo erbyn saith y bore yn ystod yr wythnos yn barod i fynd i’r capel. Roedd hi hefyd yn ofni diffodd y teledu- fe ddywedodd wrtha i ar y ffôn ryw fore ei bod hi wedi mynd i’r gwely’r noson cynt a gadael y teledu ymlaen, oherwydd byddai ei ddiffodd yn gorfodi’r côr ar y llwyfan yng nghystadleuaeth Côr Cymru i stopio canu. Roedd hi’n meddwl weithiau wrth wylio rhaglenni fel ‘Noson Lawen’ bod y cyngerdd yn digwydd yn y tŷ, a bod y lolfa’n llawn pobl. | In the period between summer 2016 and spring 2017, before the diagnosis and the medication, Mum would sometimes phone family members many times a day, often in a state of confusion; she would try to use the television remote to answer the phone, and the phone to switch off the television; during the week she would be up and dressed by seven in the morning ready to go to chapel. She was also afraid to switch off the television- she told me on the phone one morning that she had gone to bed the night before leaving the television on, because turning it off would cause the choir on the stage in the Welsh Choir Competition to stop singing. Sometimes while watching programs like 'Noson Lawen' she thought that the concert was taking place in the house, and that the sitting-room was full of people. |
Fel nifer o bobl sydd â dementia, roedd Mam yn waeth ar ôl iddi nosi. Mae’n debyg mai sundown syndrom yw’r term Saesneg. Wedi dweud hynny, roedd Mam, hyd yn oed yn y cyfnod pan oedd hi ar ei gwaethaf, yn mwynhau mynd am dro i lan y môr neu gaffi, neu i weld perthnasau, a gan amlaf roedd hi’n gwmni da ac yn hoffi ychydig o ddireidi. | Like many people with dementia, Mum was worse after nightfall. They call this the 'sundown syndrome'. Having said that, even during the period when Mum was at her worst, she enjoyed going for a walk by the sea or to a café, or to see relatives, and often she was good company and fond of a bit of mischief. |
Beth bynnag, ym mis Ionawr 2017, fe es i â Mam at y meddyg. Fe wnaeth e roi prawf cof o ryw 20 o gwestiynau iddi. Roedd ei hatebion i gwestiynau fel ‘Pa flwyddyn yw hi eleni?’ a ‘Pa fis yw hi nawr? i gyd yn anghywir, ond pan ofynnwyd iddi i enwi ei hathro neu athrawes gyntaf yn yr ysgol gynradd fe atebodd Mam y cwestiwn yn gywir fel shot- ac ymhelaethu ar ei hateb! | However, in January 2017 I took Mum to the doctor. He gave her a memory test of some 20 questions. Her answers to questions like 'In which year are we now?' and 'What month is it now?' were all wrong, but when she was asked to name her first teacher in primary school Mum answered the question correctly like a shot- and elaborated on the answer! |
Yn dilyn hynny, cafodd Mam sgan ar ei hymennydd. Dangosodd hwnnw fod ganddi vascular dementia, sef problemau yn ymwneud â diffyg llif gwaed i’r ymennydd ar adegau. Ar ôl apwyntiad gydag ymgynghorydd, cafodd wedyn ddiagnosis o Alzheimers. Doedd y tabledi gafodd hi gyntaf ddim yn cytuno â hi, ond ar ôl newid y rheiny, gwellodd y symptomau yn eithaf cyflym. Eto, dwi’n credu bod y galar dwys wedi dechrau cilio erbyn hynny. | Following this, Mum had a brain scan. This showed that she had vascular dementia, that is to say, problems relating to a deficiency in the flow of blood to the brain at times. After an appointment with a consultant, she was then diagnosed with Alzheimer's. The tablets that she was given at first did not agree with her, but after changing those, the symptoms improved quite rapidly. Still, I believe that her deep grief had begun to recede by that time. |
Mae Mam erbyn hyn yn dda iawn ar y cyfan. Ydy, mae’n cymysgu pa ddiwrnod yw hi; ydy, mae hi’n rhoi’r llaeth yn y cwpwrdd bwyd a’r clwtyn golchi llestri yn yr oergell; ydy, mae’n anghofio pwy sydd wedi galw i mewn i’w gweld hi, ond mae hi’n dal i gael pleser o’r pethau bychain. Darllen yw un o’r rheiny. | At present Mum is very good on the whole. Yes, she gets confused over what day it is; yes, she puts the milk in the food cupboard and the dishcloth in the fridge; yes, she forgets who it was called in to see her, but she still takes pleasure in little things. Reading is one of them. |
Roedd Mam, fel finnau, bob amser yn mwynhau darllen a thrafod llyfrau. Roedd hi’n aelod brwd o’r gymdeithas lenyddol leol. Roedd hi hefyd yn ysgrifennu rhywfaint ei hun, ac enillodd fwy nag un wobr am ysgrifennu stori fer. Dwi’n meddwl mai ei hoffter o ddarllen ac ysgrifennu, yn ogystal â’i ffydd, oedd wedi ei harwain i ddilyn cwrs mewn diwinyddiaeth a chael ei hordeinio yn weinidog yn 1995, ar ôl blynyddoedd o fod yn wraig fferm a magu pump o blant. | Mum, like me, always enjoyed reading and discussing books. She was a keen member of the local literary society. She also wrote a certain amount herself, and won more than one prize for short story writing. I think that it was her fondness for reading and writing, as well as her faith, that led her to follow a course in divinity and become ordained as a minister in 1995, after years of being a farmer's wife and bringing up five children. |
Yn drist, dyw Mam ddim yn gallu darllen nofelau nawr. Hynny yw, mae’n gallu eu darllen, ond dyw hi ddim yn gallu eu deall, gan ei bod yn anghofio beth yw’r stori a phwy yw’r cymeriadau. Ond mae hi’n parhau i fwynhau darllen straeon byrion, barddoniaeth, a rhyw bytiau o lenyddiaeth, a hynny yn Gymraeg yn bennaf. | Sadly, Mum cannot read novels now. That is, she can read them, but she cannot understand them, because she forgets what the story is and who the characters are. But she continues to enjoy reading short stories, poetry, and some short literary pieces, and that mainly in Welsh. |
Dyna pam roeddwn i mor falch mai CAA Cymru, y cwmni cyhoeddi yn Aberystwyth rydw i’n gyfarwyddwr arno, gafodd y gwaith yn ddiweddar o gyhoeddi’r tri llyfr Cymraeg cyntaf ym maes dementia. Rhan o gynllun ‘Darllen yn well: Llyfrau ar brescripsiwn’ i ddarparu llyfrau yn arbennig ar gyfer pobl sydd â dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr, yw hwn. Yn wreiddiol, llyfrau Saesneg yn unig y bwriadwyd eu cyhoeddi dan y cynllun, ond diolch i Gyngor Llyfrau Cymru, a lwyddodd i gael nawdd gan Lywodraeth Cymru, mae llyfrau Cymraeg hefyd yn rhan ohono erbyn hyn. | That is why I am so glad that CAA Cymru, the publishing company in Aberystwyth of which I am a director, took on the job recently of publishing the first three books in Welsh in the field of dementia. This is part of the ‘Reading Well: Books on Prescription’ scheme to provide books for those with dementia, their families and carers. Originally, the intention was to publish only English books under the plan, but thanks to the Welsh Books Council, who managed to get sponsorship from the Welsh Government, Welsh books also are now a part of it. |
Bydd y llyfrau hyn ar gael am ddim ‘ar bresgripsiwn’ drwy’r llyfrgelloedd. Bydd y llyfrau hefyd ar werth i’r rheiny sydd ddim wedi cael presgripiswn. Er mai dim ond tri llyfr Cymraeg sydd ar gael ar hyn o bryd, y bwriad yw cynhyrchu degau yn rhagor dros y flwyddyn neu ddwy nesaf. | The books will be available free of charge 'on prescription' from libraries. The books will also be on sale to those who have not got a prescription. Although only three Welsh books are available at the present time, the intention is to produce tens of them over the next year or two. |
Mae astudiaethau diweddar yn amcangyfrif bod rhwng 33,444 a 55,829 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae arbenigwyr yn amcangyfrif y bydd nifer y bobl yng Nghymru sydd â dementia yn cynyddu 31% erbyn 2021. O ystyried y bydd nifer o’r bobl hynny, eu teuluoedd, eu gofalwyr a’u ffrindiau yn Gymry Cymraeg, mae’n hanfodol bod deunydd darllen pwrpasol ar gael yn eu mamiaith. | The latest studies estimate that between 33,444 and 55,829 people in Wales are currently living with dementia. Specialists estimate that the number of people in Wales will increase by 31% by 2021. Considering that a number of these people, their families, their carers and friends are Welsh-speaking Welsh, it is vital that there should be suitable reading material available in their mother tongue. |
Y tri llyfr Cymraeg ar ddementia wedi’u cyhoeddi gan CAA Cymru: Mam-gu & Fi, Ynghylch Dementia & Annwyl Dementia – Y Chwerthin a’r Dagrau
]]>