Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru
Heddiw, mae gyda tua 50,000 o bobl ym Mhatagonia wreiddiau Cymreig ac mae tua 5,000 yn siarad Cymraeg. Mae’r iaith Gymraeg ar gynnydd ar bob lefel ar draws y dalaith ac mae dros fil o bobl Y Wladfa yn mynd i ddosbarthiadau dysgu Cymraeg bob blwyddyn. Ond, stori hollol wahanol oedd hi ar ddechrau’r 20fed ganrif.
Erbyn dechrau’r 1900au, roedd y Cymry yn y lleiafrif yn y wladfa roedden nhw wedi ei sefydlu. Dechreuodd llywodraeth Yr Ariannin gymryd rheolaeth ar weinyddiaeth yr ardal gan gynnwys y system addysg. Doedd hyn ddim yn newyddion da, yn enwedig i’r iaith Gymraeg. Ers sefydlu’r Wladfa, roedd popeth yn digwydd trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Dros nos felly, trodd y system addysg o fod yn uniaith Gymraeg i uniaith Sbaeneg.
Er gwaethaf hyn, parhaodd yr iaith yn gryf ar yr aelwyd, yn y capeli ac ar lefel gymdeithasol am genhedlaeth neu ddwy. Gwyliwch y clip yma o raglen BBC o 1962 ‘The Desert and the Dream’. Yn y clip, gallwch chi glywed ‘gauchos’ Cymraeg yn siarad yr iaith yn gwbl naturiol: https://www.bbc.co.uk/programmes/p00krkrj
Ond, wrth gwrs, o dan system addysg gwbl Sbaeneg, heb statws swyddogol a rhyngbriodi rhwng y Cymry a phobl o ddiwylliannau eraill, dechreuodd sefyllfa’r iaith ddirywio’n eithaf cyflym. Yr ateb synhwyrol oedd cryfhau’r cysylltiadau rhwng Y Wladfa newydd a’r hen wlad.
Yn 1939, sefydlwyd Cymdeithas Cymru – Ariannin. Dros y blynyddoedd, mae’r gymdeithas wedi gwneud gwaith gwych fel dolen gyswllt rhwng y ddwy wlad.
Dyma rai o gyflawniadau’r gymdeithas:
Cyhoeddwyd llyfryn yn 1989 ‘Cymdeithas Cymry Ariannin 1939-1989’ yn rhoi hanes y Gymdeithas ers ei sefydlu. Hefyd cyhoeddwyd llyfr yn 2014 gan Elvey MacDonald i ddathlu pen blwydd y Gymdeithas yn 75 oed.
Darllenwch ‘Cymdeithas Cymry Ariannin 1939-1989’ yma. Mae’n ddiddorol dros ben: http://www.cymru-ariannin.com/uploads/cymdeithas_cymry_ariannin_19391989.pdf
Daeth yr hwb mawr nesaf i’r iaith yn Y Wladfa yn y 1960au a hynny am ddau reswm yn bennaf – canmlwyddiant y glanio yn 1965 a theithiau awyrennau rhatach. O ganlyniad i’r ddau beth yma, dechreuodd llawer mwy o Gymry ymweld â’r Wladfa. Sylweddolodd yr ymwelwyr bod yr iaith Gymraeg yn yr ardal angen cymorth yn ei hunig gadarnle y tu allan i Gymru.
Teithiodd 73 o Gymry i’r Wladfa yn 1965 i gofio hanes anhygoel yr arloeswyr. Roedd tair wythnos o ddathlu yn Nhalaith Chubut ac ym mhrifddinas Yr Ariannin, Buenos Aires. Dyma ychydig o luniau o’r dathliadau: https://www.casgliadywerin.cymru/items/476421
Fel rhan o’r dathlu, aeth criw o bobl ifainc Y Wladfa i Gymru am dri mis yn yr haf y flwyddyn honno. Dyma ddechrau ail gynnau diddordeb pobl Y Wladfa yn eu gwreiddiau Cymreig a’r Cymry yn hanes eu cyn tadau.
Yn 1996, dechreuodd y Swyddfa Gymreig raglen lle mae athrawon yn treulio cyfnod yn Y Wladfa yn dysgu’r iaith yn yr ysgolion ac i oedolion. Diolch i’r cynllun yma, mae llawer mwy o siaradwyr Cymraeg, nid yn unig ymysg y bobl o dras Gymreig ond hefyd gydag Archentwyr pur a phobl o dras gwledydd eraill.
Heddiw, mae’r prosiect yn cael ei redeg ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Y Cyngor Prydeinig, Prifysgol Caerdydd, Cymdeithas Cymru – Ariannin a Menter Iaith Patagonia.
Oes diddordeb gyda chi ymuno â’r cynllun? Os oes, dilynwch y linc yma i ddarganfod mwy am y cyfleoedd i weithio fel athro neu athrawes Gymraeg yn Y Wladfa: https://wales.britishcouncil.org/en/programmes/education/welsh-language-project
Dilynwch y linc yma hefyd – ‘Angen athrawon Cymraeg i ateb galw ysgolion Patagonia’. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/49722299
Gwyliwch y clip yma o blant ysgolion Cymraeg Y Wladfa yn galw am athrawon i’w dysgu nhw: https://www.facebook.com/watch/?v=936913273325617
Heddiw, mae cannoedd o oedolion a phobl ifanc yn dysgu Cymraeg yn y colegau, yr ysgolion ac mewn dosbarthiadau nos.
Oeddech chi’n gwybod bod Menter Iaith ym Mhatagonia? Cafodd y fenter ei sefydlu yn 2008 gyda help Yr Urdd, Y Cyngor Prydeinig ac ychydig o fusnesau lleol. Mae’r athrawon sy’n gweithio o dan gynllun yr iaith Gymraeg yn treulio tua chwarter o’u hamser gyda’r fenter iaith.
Dyma ychydig o bosteri yn hysbysebu digwyddiadau Menter Iaith Patagonia. Gallwch chi ddilyn hynt a helynt y fenter ar Drydar: https://twitter.com/menterpatagonia
Mae dau bapur bro Cymraeg yn gwasanaethu’r Wladfa – Llais yr Andes a Clecs Camwy. Mae’n bosibl darllen y ddau bapur ar lein.
Fel y dywedwyd eisoes, ar ddechrau’r 20fed ganrif, Sbaeneg oedd unig iaith swyddogol Patagonia. Iaith y cartref a’r capel yn unig oedd Cymraeg. Erbyn heddiw wrth gwrs, mae’r llanw wedi troi ac mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu ar bob lefel dros yr holl dalaith.
Yr ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf oedd Ysgol yr Hendre, Trelew a agorodd ei drysau yn 2006. Cafodd llawer o arian ei godi gan bobl Y Wladfa a Chymru er mwyn agor yr ysgol. Oherwydd y galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, mae dwy ysgol arall wedi agor ers hynny – Ysgol y Gaiman yn 2013 ac Ysgol Trevelin yn 2016.
Mae’r tair ysgol yn llwyddiannus dros ben yn addysgu dros 100 o ddisgyblion yr un un o oedran meithrin hyd at11 oed. Ar ben hyn, mae Cymraeg nawr yn cael ei haddysgu yn yr ysgolion uwchradd cyfrwng Sbaeneg ac mae Coleg Camwy yn cynnig Cymraeg fel pwnc ac fel cyfrwng addysgu i bawb. At ei gilydd, mae dros fil a hanner o bobl Y Wladfa erbyn hyn naill ai’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n mynychu dosbarthiadau Cymraeg.
Mae dyfodiad y we fyd eang hefyd wedi helpu cadw cysylltiadau rhwng Cymru a’r Wladfa’n gryf. Os hoffech chi ddarllen mwy am lwyddiant y Gymraeg yn Y Wladfa dros yr ugain mlynedd diwethaf, ewch i: https://wales.britishcouncil.org/sites/default/files/welsh_language_report_2017_18_english.pdf
Ym mis Gorffennaf 2015, i ddathlu 150 mlynedd ers i’r Mimosa adael dociau Lerpwl, cafodd cofeb ei dadorchuddio yn y ddinas.
Mwy am Batagonia, ei phobl a’i ffordd o fyw y tro nesaf.
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982-3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015-16 a CBAC 2017-18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982-3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015-16 and WJEC 2017-18.
]]>Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru
Tir ar y Gorwel
Ddydd Gwener, 28ain o Orffennaf 1865, glaniodd yr ymfudwyr mewn bae o’r enw Porth Madryn a cherddon nhw ar dir eu cartref newydd am y tro cyntaf.
Roedd dau Gymro – Edwin Cynrig Roberts a Lewis Jones yno yn barod i gwrdd â nhw ar y tir mawr. Daethon nhw ar long arall ym mis Mehefin er mwyn cludo anifeiliaid a stoc o goed i ddechrau ar y gwaith o adeiladau cabanau pren. Cynhaliodd yr ymfudwyr wasanaeth byr ar y traeth er mwyn diolch am gyrraedd yn ddiogel.
Puerto (Porth) Madryn
Yn 1862, dair blynedd yn gynharach, teithiodd dau o drefnwyr y prosiect i Batagonia er mwyn penderfynu a oedd yr ardal yn addas i’r Cymry. Y ddau oedd Lewis Jones (oedd ar ei ail ymweliad – gweler uchod) a Syr Love Jones Parry. Teithion nhw mewn llong fach o’r enw ‘Candelaria’. Cawson nhw eu gyrru gan storm annisgwyl i fae bach. Penderfynon nhw enwi’r bae yn Borth Madryn, ar ôl Castell Madryn, cartref Syr Love Jones-Parry ym Mhenryn Llŷn.
Wel, wel… Yr enw cyfoes ar y dref a dyfodd o gwmpas y bae yw Puerto Madryn. Mae tua 58.000 o bobl yn byw ym Mhuerto Madryn heddiw. Mae’r dref wedi’i gefeillio â phentref Nefyn, Penrhyn Llŷn.
Yr Wythnosau Cyntaf
Roedd llywodraeth Yr Ariannin wedi cynnig can milltir sgwâr o dir ar hyd yr Afon Camwy (Chubut) i’r ymfudwyr o Gymru ond roedd sawl anhawster i’w oresgyn ar y dechrau. Doedd dim llawer o gysgod yn y bae, felly am yr ychydig wythnosau cyntaf, penderfynodd y menywod gysgu ar y llong. Roedd lle i rai gysgu yn y cabanau pren a adeiladwyd ac aeth rhai eraill i fyw mewn ogofâu ar glogwyni traeth Porth Madryn.
Chymerodd e ddim llawer o amser i’r ymfudwyr ddarganfod nad oedd cyflwr y tir yn debyg o gwbl i iseldiroedd Cymru. Yn wir, roedd y tir yn fwy tebyg i anialwch na chaeau gwyrddion Cymru – dim dŵr, prinder ffynonellau bwyd a dim coedwigoedd i ddarparu deunyddiau adeiladau neu gysgod!!
Doedd dim dewis gan yr ymfudwyr felly ond i gerdded ar draws y paith sych tuag at y dŵr agosaf, yn gwthio eu heiddo a’u bwyd mewn whilberi. Buodd rhai farw ar y siwrne ond cafodd merch fach, Mary Humphreys, ei geni ar y daith. Unwaith iddyn nhw gyrraedd dyffryn yr Afon Camwy, sefydlon nhw anheddiad bach a ddatblygodd yn ddiweddarach yn dref o’r enw Rawson.
Yn y llun, mae aelodau o’r grŵp cyntaf o ymfudwyr yn Rawson, Dyffryn Camwy – y dref gyntaf i gael ei sefydlu gan y Cymry, Medi 1865. Aeth y Cymry ymlaen i sefydlu trefi yn Y Gaiman a Threlew.
Oeddech chi’n gwybod? Pan aeth Syr Love Jones Parry a Lewis Jones i Batagonia yn 1862, cynhalion nhw drafodaethau gyda Gweinidog Gwladol yr Ariannin, Guillermo Rawson. Cafodd tref Rawson ei henwi ar ôl y Gweinidog yma.
Wel wel… Yr Addewid a’r Realiti Addawodd Michael D Jones y byddai bywyd gwell i’r ymfudwyr yn Y Wladfa.
Dyma’r poster a ysgrifennwyd gan Michael D. Jones er mwyn denu ymfudwyr i’r Wladfa. Addawodd e ‘Gwlad doreithiog nad yw’n feddiannol gan neb ond ychydig Indiaid. Rhoddir i bob teulu 100 erw o dir, ceffylau, ychain, defaid, gwenith a chelfi. Rhed yr afon drwy y doldir a heidia yr anifeiliaid yn y porfeydd gwelltog‘.
Ond roedd realiti’r sefyllfa’n hollol wahanol. Roedd bywyd yn galed iawn ar y dechrau. Roedd y tywydd yn wahanol iawn i Gymru gyda thymheredd uchel iawn yn ystod y dydd yn yr haf, ac eira a glaw trwm yn ystod y gaeaf. Roedd problemau gyda thir diffaith, diffyg dŵr yfed ac ychydig o gysgod. Ar ben hyn, cafodd y tai cyntaf a’r cnydau o datws ac ŷd eu distrywio gan lifogydd. Adegau eraill, cafwyd llai o law na’r disgwyl a methodd y cnydau. Cofiwch, doedd ond ychydig o ffermwyr profiadol ymhlith yr ymfudwyr cyntaf.
Brodorion y Wlad yn Cynorthwyo
Cafodd y Cymry help mawr gan ffynhonnell annisgwyl – llwythi brodorol y wlad. Daeth y Cymry i gysylltiad â’r llwythi brodorol tua blwyddyn ar ôl cyrraedd. Roedd un llwyth, sef Y Tehuelche’n ffrindiau da i’r Cymry, yn eu dysgu sut i drin y tir sych, marchogaeth, hela anifeiliaid a physgota. Yn wir, roedden nhw’n edrych ar y Cymry fel eu brodyr.
Llun o 1867 – Lewis Jones (1836-1904) gyda chwech o lwyth Y Tehuelche. Edrychwch pa mor dal maen nhw.
Roedd y Cymry yn eu tro yn garedig iawn tuag atyn nhw. Dechreuodd y Cymry fasnachu gyda llwythi’r Mapuches a’r Pampas yn ogystal â’r Tehuelcha. Gwerthodd y Cymry fara a menyn i’r llwythi a rhoddodd y llwythi gig a dillad i’r Cymry. Yn ôl rhai, roedd y llwythi yma yn defnyddio geiriau Cymraeg am nwyddau fel bara!
Os oes copi gyda chi o’r ffilm ‘Patagonia’ (2010), edrychwch eto ar ddechrau’r ffilm er mwyn gweld pa mor bwysig oedd llwyth y Tehuelche i’r Cymry.
Oeddech chi’n gwybod … ?
Roedden y Tehuelche’n hela gyda chŵn ac ar gefn ceffylau. Roedden nhw’n defnyddio bwa a saeth fel arfau hela ac yn byw ar gig gwanaco. Roedden nhw hefyd yn bwyta peth bwyd llysieuol. Cyn y Goncwest Sbaenaidd, roedd tua phedair mil o’r Tehuelche yn byw ym Mhatagonia. Ond erbyn canol ganrif ddiwethaf roedd llai na chant. Heddiw, dim ond ychydig sy’n dal i gynnal eu hen ffordd o fyw.
Trin y Tir
Doedd dim dewis gyda’r Cymry cyntaf felly – dysgu trin y tir neu adael i’r prosiect fethu. Ar ôl symud tuag at Ddyffryn Camwy (Chubut), penderfynodd y Cymry gynllunio system ddyfrhau. Adeiladon nhw gyfres o gamlesi dyfrhau, dair neu bedair milltir bob ochr i’r afon Camwy. Dyma’r system ddyfrhau gyntaf erioed yn yr Ariannin. Roedd y system ddyfrhau mor effeithiol fel bod y Cymry’n cynhyrchu 6 mil o dunelli o wenith y flwyddyn erbyn 1885.
Mae’r cerdyn post hwn yn dangos y drol gyntaf a gafodd ei hadeiladu yn y Wladfa, tua 1866, Defnyddiodd y saer Hugh Hughes bren o longddrylliad yn Afon Camwy.
Erbyn 1874, roedd tua 270 o bobl yn byw yn ardal Dyffryn Camwy (Chubut), a dechreuodd rhwydwaith o ffermydd dyfu. Yn 1875, cafodd y Cymry berchnogaeth swyddogol ar y tir gan lywodraeth Yr Ariannin ac o ganlyniad, daeth llawer mwy o ymfudwyr o’r hen wlad i’r Wladfa newydd rhwng 1880–87 a rhwng 1904-12.
Gwyliwch y clip gwych yma o gyfweliad gyda Nain Maggie am ei phrofiadau yn croesi’r paith gydag ymfudwyr 1891:
https://www.facebook.com/jeremy.wood.5836711/videos/3919161861465/
Y Rheilffordd Gyntaf
Problem arall oedd y ffyrdd garw. Roedd rhaid sefydlu system deithio effeithlon. Hefyd, erbyn canol yr 1880au, roedd llawer o’r tir ffrwythlon yn rhan isaf Dyffryn Camwy wedi’i hawlio. Penderfynodd y Cymry felly ofyn am ganiatâd i archwilio rhan uchaf y dyffryn.
Roedd aber yr Afon Camwy yn fas ac yn anodd ei llywio. Yn 1884 felly, dechreuwyd ar y gwaith o adeiladau Rheilffordd Canolbarth Camwy. Erbyn 1885, cyrhaeddodd y Cymry ardal ffrwythlon a enwyd ganddyn nhw yn Gwm Hyfryd. Wrth i’r boblogaeth dyfu, sefydlwyd dwy dref arall sef Esquel a Threvelin.
Wel wel… Lewis Jones oedd y grym tu ôl i adeiladu’r rheilffordd a chafodd y dref a adeiladwyd ar derfyn y rheilffordd, Trelew, ei henwi ar ei ôl e.
Ond, doedd bywyd ddim yn fêl i gyd. Cafwyd llifogydd mawr yn yr 1890au a’r 1900au a wnaeth difrod mawr i Rawson a Gaiman. Roedd anghytundebau hefyd rhwng llywodraeth Yr Ariannin oherwydd consgripsiwn i fyddin y wlad honno. Gadawodd llawer o’r Cymry am Ganada ac Awstralia, yn ogystal â dychwelyd i Gymru.
Mae clip gwych ar y linc yma o raglen ddogfen o 1961 sy’n portreadu bywyd y Gauchos Cymraeg yn yr 1950au.
Cadw’r Hen Ffordd Gymreig O Fyw
Bwriad y Cymry oedd gwneud Y Wladfa mor debyg â phosibl i’r hen wlad. Y cam cyntaf yn y broses hon oedd adeiladau capeli. Roedd y capeli yn bwysig iawn – fel canolfannau crefyddol ac fel canolfannau cymdeithasol, man cynnal eisteddfodau, ysgolion a hyd yn oed llysoedd barn. Mae capeli’r Wladfa yn ddiddorol dros ben. Mae rhai ond yn gytiau bach pren neu haearn rhychiog a rhai eraill yn fwy tebyg i gapeli Cymru heddiw.
Dyma lun o Gapel Moriah, Dyffryn Camwy. Mae nifer o’r Cymry cyntaf aeth i’r Wladfa yn 1865 wedi’u claddu ym mynwent y capel hwn.
Dyma un ychydig yn llai crand – Capel Glan Alaw, Bethesda
Gallwch chi weld y capeli i gyd heddiw trwy ddilyn llwybr ar ddwy ochr yr afon Chubut. Mae tudalen ddiddorol ar weplyfr o’r enw Capeli Cymraeg y Wladfa fydd yn eich arwain ar hyd llwybr y capeli. https://www.facebook.com/AndesCeltig/photos/a.267731564239.143199.165471514239/267740379239/?type=1. Hefyd, gwyliwch hanes Rhys a Gwen yn y ffilm Patagonia wrth iddyn nhw ddilyn llwybr capeli Cymraeg Y Wladfa.
Yr Eisteddfod
Roedd yr ymfudwyr cyntaf yn ymwybodol iawn o draddodiadau eisteddfodol Cymru. Doedd hi ddim yn syndod felly iddyn nhw benderfynu dathlu’r Eisteddfod yn gynnar iawn yn hanes Y Wladfa. Digwyddodd yr Eisteddfod gyntaf yn Chubut rhwng 1865 ac 1875. Mae’r traddodiad eisteddfodol yn parhau hyd heddiw, ond mwy am hynny yn nes ymlaen yn y gyfres. Beth am ddod yn ffrindiau gydag Eisteddfod Trevelin ar weplyfr? https://www.facebook.com/photo.php?fbid=380227178779911&set=a.380225858780043.1073741826.174948579307773
Ysgolion cynnar y Wladfa
Roedd arweinwyr y prosiect yn credu’n gryf mewn sefydlu ysgolion Cymraeg yn Y Wladfa er mwyn cadw’r iaith yn fyw am genedlaethau i ddod. Ysgol Rawson oedd yr ysgol gyntaf. Roedd yr ysgol mewn adeilad pren. Yr unig werslyfr ar y dechrau oedd y Beibl Cymraeg.
Richard (Berwyn) Jones oedd pennaeth cyntaf yr ysgol. Gwelodd e fod angen deunyddiau darllen gwell ac ysgrifennodd e werslyfr yn arbennig ar gyfer plant Y Wladfa. Yn y llyfr mae geirfa, gwersi, penillion, diarhebion, storïau a rhestr o enwau Cymraeg i blant.
Wel wel… Roedd Richard Berwyn Jones yn mynnu bod plant yr ysgol yn brawddegu‘n gywir ac yn safonol. Roedd rhaid iddyn nhw ddefnyddio geiriau Cymraeg yn unig fel “Bonwr” yn hytrach na “Mr”!
Y Wasg
Roedd cyhoeddi papurau newydd yn hollbwysig er mwyn i’r Cymry fedru darllen newyddion yn eu hiaith eu hunain ac er mwyn cadw cymunedau Cymraeg Y Wladfa mewn cysylltiad â’i gilydd. Fis Ionawr 1865, cyhoeddwyd papur newydd cyntaf y Wladfa sef Y Brut. Dechreuwyd papur arall Ein Breiniad yn 1878.
Y cyhoeddiad mwyaf llwyddiannus beth bynnag oedd Y Dravod, a ddechreuwyd yn 1891.
WEL WEL…. parhaodd Y Dravod mewn cylchrediad tan 1961!
Os hoffech chi ddarllen mwy am hanes y wasg yn Y Wladfa, ewch i: https://docplayer.net/56643841-Welsh-print-culture-in-y-wladfa-the-role-of-ethnic-newspapers-in-welsh-patagonia.html
Cymraeg- Iaith Swyddogol
Am gyfnod hir, Cymraeg oedd iaith swyddogol Y Wladfa – iaith addysg, y gyfraith, crefydd, y wasg a digwyddiadau cymdeithasol. Cafodd yr iaith ei defnyddio mewn llywodraeth ac ysgrifennwyd cofnodion cyfarfodydd yn Gymraeg yn unig. Yn wahanol i’r sefyllfa yng Nghymru, roedd rhyddid i’r iaith Gymraeg ehangu a dylanwadu yn Y Wladfa. Er enghraifft, datblygwyd y system newydd o gyfrif er mwyn hwyluso dysgu mathemateg yn Gymraeg i blant yn Y Wladfa.
Wrth i ymfudwyr o rannau eraill o’r wlad a gwledydd gwahanol ymsefydlu yn Y Wladfa, gwanychodd yr iaith. Yn wir, ar ddechrau’r 20fed ganrif, Sbaeneg oedd unig iaith swyddogol Patagonia. Iaith y cartref a’r capel yn unig oedd Cymraeg.
Erbyn heddiw wrth gwrs, mae’r llanw wedi troi ychydig ac mae Ysgolion Cynradd Cymraeg yn Y Wladfa.
Diwedd y 19eg Ganrif
Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd tua 4 mil o Gymry’n byw yn Y Wladfa gan gynnwys tua mil a gyrhaeddodd rhwng 1886 a 1901. Cyrhaeddodd y grŵp olaf o ymfudwyr ychydig cyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl 1914, o’r Eidal a gwledydd eraill yn ne Ewrop daeth y rhan fwyaf o’r ymfudwyr. Yn 1915, roedd tua 20,000 o bobl yn byw yn Nyffryn Camwy gyda hanner ohonyn nhw’n dod o wledydd heblaw am Gymru.
Oeddech chi’n gwybod…?
Yn 1875, cafodd fersiwn arbennig o Hen Wlad fy Nhadau ei ysgrifennu gan Lewis Evans, un o’r Cymry cyntaf i ymfudo i Batagonia. Y bwriad oedd defnyddio’r fersiwn yma yn lle Anthem Cymru. Roedd y fersiwn yma ar goll am tua 150 o flynyddoedd. Cafodd y fersiwn ei ddarganfod yn y Llyfrgell Genedlaethol mewn taflen o’r enw Adroddiad y Parch. D S Davies am Sefyllfa y Wladfa Gymreig.
Dyma’r geiriau:
Erbyn heddiw, mae Cymry Patagonia yn canu ‘Hen Wlad fy Nhadau’ i ddathlu digwyddiadau arbennig.
Colli cysylltiad â Cymru
Ar ôl 1914, roedd ond ychydig o gysylltiad rhwng Cymru a’r Wladfa. Newidiodd hynny ddim tan 1965 pan ddechreuodd niferoedd mawr o Gymry ymweld â’r Wladfa er mwyn dathlu canmlwyddiant y glanio.
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982-3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015-16 a CBAC 2017-18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982-3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015-16 and WJEC 2017-18.
]]>Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru
Ydych chi’n mynd ar wyliau i wlad dramor eleni? Os ydych chi, sut byddwch chi’n teithio? Hedfan? Llong efallai? Pa mor hir fydd y daith? Pedair neu pum awr ar y mwyaf siŵr o fod.
Sut fasech chi’n teimlo pe basai rhaid i chi dreulio dros bedair wythnos yn aros am long, wedyn, hwylio tua 8,000 o filltiroedd am dros ddau fis ar y môr cyn cyrraedd pen eich taith? Ddim yn hapus o gwbl baswn i’n meddwl.
Wel, dyna oedd hanes dros gant a hanner o Gymry yn y flwyddyn 1865.
Ddiwedd mis Mai 1865, gadawodd tua 160 o Gymry ddociau Lerpwl ar long Y Mimosa ar daith i dde America. Doedden nhw ddim yn mynd ar eu gwyliau. Eu bwriad oedd sefydlu Gwladfa (darn bach o Gymru) dramor a cheisio cadw’r hen ffordd Gymreig o fyw. Talodd y teithwyr £12.00 yr un am y siwrne (tua £1,500 yn arian heddiw), gyda phlant yn talu hanner pris.
Cyrhaeddodd y teithwyr ddinas Lerpwl fis Ebrill 1865 yn barod i adael am Batagonia. Roedden nhw i fod i deithio ar long o’r enw Halton Castle. Yn anffodus, doedd honno ddim yn barod ac roedd rhaid i’r teithwyr aros am un arall. Y Mimosa oedd yr unig long ar gael. Llong gludo nwyddau oedd Y Mimosa. Doedd hi ddim yn addas i gludo pobl.
Ar y 24ain o Fai 1865, ar ôl gwario £2,500 i addasu’r Mimosa, cafodd y teithwyr ganiatâd i fynd ar fwrdd y llong. Am 4.00 o’r gloch ar y 28ain o Fai, pan roedd y gwynt yn ffafriol, cododd y capten yr angor a gadawodd y Mimosa y dociau.
Daeth cannoedd o bobl i ffarwelio â’r ymfudwyr gan gynnwys trefnydd y prosiect, Michael D. Jones a’i wraig Anne. Roedd baner y Ddraig Goch yn hedfan yn uchel a chanodd y dorf anthem arbennig.
Capten y llong oedd dyn ifanc 25 oed o’r enw George Pepperell. Roedd criw o 18 gyda fe gan gynnwys llawfeddyg – Thomas Greene, Gwyddel o Kildare.
Roedd y rhan fwyaf o’r criw yn Saeson o Lerpwl. Pan sylweddolodd Pepperell fod y teithwyr i gyd yn Gymry uniaith, cyflogodd e un o’r teithwyr, Richard Jones (Berwyn), fel pyrser. Gallwch chi ddarllen mwy am y dyn arbennig yma yn nes ymlaen yn y gyfres hon o erthyglau.
Roedd y teithwyr yn dod o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Does neb yn hollol siŵr faint o deithwyr ddechreuodd ar y daith, ond roedd tua:
Roedd y gweddill (52) yn blant neu’n bobl ifanc.
Roedd bron hanner y teithwyr dod o ardaloedd diwydiannol Aberdâr, Aberpennar, Rhosllannerchrugog a Ffestiniog. Roedd y rhan fwyaf o’r dynion felly yn lowyr neu’n chwarelwyr. Roedd crydd, pregethwr, adeiladwr a theiliwr ar y llong hefyd ond dim llawer o bobl o gefndir ffermio.
Dilynwch y linc yma i weld manylion y teithwyr:
http://www.clwydfhs.org.uk/miscellanea/themimosa.htm
Roedd y Cymry ar Y Mimosa am 65 diwrnod. Roedd llawer o broblemau ar fwrdd y llong:
Roedd y tywydd yn ofnadwy ar ôl gadael Afon Merswy gyda gwyntoedd cryf a thonnau anferth yn taro’r llong. Wrth lwc, roedd gweddill y daith ar draws Môr Iwerydd yn eitha tawel.
Roedd y bwyd a’r llety‘n wael. Roedd rhaid i bawb yfed sudd lemwn a leim bob dydd er mwyn osgoi scyrfi!
Roedd llawer o’r teithwyr yn sâl iawn ar y llong. Cornwydydd a chegau’n gwaedu oedd y problemau mwyaf.
Roedd rhaid i’r merched olchi ac eillio‘u gwallt er mwyn rhwystro salwch.
Doedd dim llawer o le ar y dec ac felly doedd dim cyfle i weld llawer ar y siwrne. Roedd rhaid treulio llawer o amser yng nghrombil y llong. Roedd yr arogl yn ofnadwy weithiau, yn enwedig yng ngwres yr haul pan oedd y llong yn croesi’r trofannau.
Yn drist, erbyn i’r llong cyrraedd Patagonia, roedd pump o blant ifanc wedi marw.
Hwyl ar Y Mimosa
Ond doedd y daith ddim yn gwbl ddiflas.
Cafodd y teithwyr dipyn o hwyl weithiau yn adrodd straeon a chanu.
Mae’n bosibl mai ar fwrdd y Mimosa roedd y sialens bwced iâ cyntaf! I ddathlu croesi’r cyhydedd ar 28 Mehefin, 1865, arllwysodd y criw lond bwcedi o ddŵr oer ar bennau ei gilydd a’r teithwyr!
Ar yr 11eg o Fehefin, cafodd mab o’r enw John ei eni i Mary Jones, gwraig John Jones o Aberpennar.
Ar y 15fed o Fehefin, ychydig ddyddiau ar ôl marwolaeth eu mab dwy oed James, cafodd merch o’r enw Rachel ei geni i Aaron a Rachel Jenkins.
Priododd William ac Anne Lewis o Abergynolwyn ar fwrdd y Mimosa gyda’r gweinidog y Parch. Lewis Humphreys yn cynnal y gwasanaeth.
Yn yr erthygl nesaf, cewch chi ddarllen am y glanio a dyddiau cynnar Y Wladfa.
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982-3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015-16 a CBAC 2017-18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982-3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015-16 and WJEC 2017-18.
]]>Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru
Dyma un o ardaloedd harddaf Cymru – traethau euraidd, golygfeydd godidog a digon o bethau i’w gweld ac i’w gwneud. Beth am i ni gymryd cip ar rai ohonyn nhw?
Parc Gwledig Pen-Bre
Heddiw, mae Parc Gwledig Pen-bre ar arfordir Sir Gâr yn un o atyniadau twristaidd mwyaf poblogaidd Cymru, ond dyw’r ardal ddim wedi bod yn barc godidog drwy gydol ei hanes. Adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd e’n safle ar gyfer Ffatri Arfau‘r Goron. Roedd twyni tywod Pen-bre yn ddelfrydol ar gyfer y gwaith peryglus o gynhyrchu ffrwydron!
Wrth i’r ail ryfel byd agosáu, cafodd y ffatri ei hail-agor a’i hailadeiladu o dan yr enw ‘Royal Ordnance Factory’. Er ei bod hi’n bosibl gweld olion o’r hen weithfeydd yn y parc heddiw, mae’r lle wedi newid yn gyfan gwbl. Gyda’i wyth milltir o dywod euraidd, mae traeth baner glas Cefn Sidan yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
Os ydych chi’n hoffi gweithgareddau egnïol, gallwch chi seiclo trwy goedwigoedd y parc neu ar y llwybr arfordirol cyfagos; sgïo ar y llethr sgïo sych neu brofi’r rhedfa tobogan hiraf yng Nghymru. I’r plant bach, mae parc antur, golff gwirion a rheilffordd fach.
Mae rhywbeth i bawb heddiw ym Mharc Gwledig Pen-bre!
Tref Llanelli- Tref y Sosban
Llysenw tref Llanelli yw Tinopolis achos ei hanes hir fel canolfan cynhyrchu tunplat. Yn Llanelli, mae:
Cafodd y plas ei adeiladu gan deulu’r Stepney yn 1714. Un o drigolion enwocaf y plas oedd ŵyr Syr John Stepney, sef John Chambers. Cafodd John ei eni yn y plas yn 1843. Fe oedd yn gyfrifol am ddyfeisio rheolau modern paffio, athletau a rhwyfo.
Ei dad, William Chambers oedd perchennog Crochenwaith Llanelly.
Llwybr y Mileniwm
Mae’r llwybr yn ymestyn am 13 milltir o Bont Llwchwr yn y dwyrain i bentref Pen-bre yn y gorllewin.
Ar y llwybr, mae Canolfan Gwlyptir Penclacwydd (yr unig un o’i math yng Nghymru), Clwb Golff Machynys, Traeth Llanelli, a Marina Porth Tywyn.
Ar bwys pentref Pwll ar Fehefin 18fed, 1928, glaniodd awyren Amelia Earhart – y fenyw gyntaf i hedfan dros Fôr yr Iwerydd.
Pentrefi Glan y Môr- cocos, traethau, cestyll a llawer mwy
Pentywyn
Cartref record cyflymder dros y tir – Malcolm Campbell oedd y person cyntaf i ddefnyddio Traeth Pentywyn i dorri’r record. Ar Fedi 25ain 1924, cyrhaeddodd ei gar ‘Blue Bird’ gyflymder o 146.16 m.y.a. (235.22 km/a). Cafodd y Cymro J.G. Parry Thomas ei ladd yn ceisio torri’r record yn 1927 yn teithio ar gyflymder o 170 m.y.a..
Talacharn
Mae sied ysgrifennu Dylan Thomas ar lan yr afon Taf ar agor i’r cyhoedd.
Mae castell godidog yma hefyd a sawl lle da i gael bwyd a diod fel tafarn ‘Browns’ ble gallwch chi weld lluniau o’r bardd enwog ar waliau’r bar.
Llansteffan
Mae castell nodedig Normanaidd o’r 12fed ganrif yn edrych i lawr dros y pentref hyfryd hwn. Mae’n werth cerdded i’r castell i weld y porthdy enfawr a phrofi’r golygfeydd gwych dros aber yr afon Tywi.
Glanyfferi
Am y tro cyntaf ers dros 60 o flynyddoedd, mae’n bosibl dal fferi er mwyn teithio rhwng Glanyfferi a phentref Llansteffan, ar ochr arall y bae. Mae’r daith ar y cwch modern hwn yn torri’r 16 milltir o daith mewn car i lawr i filltir yn unig.
Yn y 19eg a’r 20fed ganrif, roedd yr hen fferi’n boblogaidd iawn. Roedd twristiaid yn dal y trên i Lanyfferi, yn cerdded i lawr i’r lanfa ac yn mwynhau’r daith fer ar draws y bae er mwyn treulio gwyliau yn Llansteffan. Glanyfferi yw canolfan casglu cocos Bae Caerfyrddin.
Capten y llong Glansteffan: Y capten fu’n achub ffoaduriaid (BBC Cymru Fyw)
Cydweli
Mae Castell Cydweli yn un o berlau’r ardal. Mae e mewn cyflwr arbennig o dda gyda’i borthdy enfawr.
Cafodd y Dywysoges Gwenllian ei lladd yma yn 1136 yn ymladd ar ran ei gŵr Gruffudd ap Rhys yn erbyn y Normaniaid.
Cath ddu ydy arfbais Cydweli – ond pam? Un o’r enwau cynnar ar Gydweli oedd Catwelli a’r gath ddu oedd yr anifail cyntaf i’w weld yn fyw yn dilyn y pla du! Stori ddiddorol – ond hollol ffug!!
Beth am orffen ein golwg ar Fae Caerfyrddin gyda’r pennill enwog hwn? Dwi’n siŵr bod pob un ohonoch chi wedi ei ganu rywbryd neu’i gilydd yn y gorffennol:
Hen fenyw fach Cydweli
Yn gwerthu losin du,
Yn rhifo deg am ddimai Ond un ar ddeg i mi.
O dyna’r newydd gorau ddaeth i mi, i mi
Yn rhifo deg am ddimai
Ond un ar ddeg i mi.
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982-3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015-16 a CBAC 2017-18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982-3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015-16 and WJEC 2017-18.
]]>Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru
Yn gartref i Nawddsant Cymru, Dewi Sant a’r corgi, mae Sir Benfro yn un o siroedd mwyaf diddorol Cymru.
Castell Henllys
Does unman arall tebyg i Gastell Henllys. Mae’n bosibl camu yn ôl dros ddwy fil o flynyddoedd yn y fryngaer Oes Haearn yma.
Mae Castell Henllys yn unigryw. Gallwch chi fynd i mewn i un o’r tai crwn, malu blawd a phobi bara fel roedd y Celtiaid yn arfer ei wneud!
Cromlech Pentre Ifan
Siambr Gladdu Pentre Ifan, ar bwys pentref Nanhyfer ydy’r safle megalithig mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Mae’r heneb yma’n dyddio yn ôl i tua 3,500 Cyn Crist. Mae’r maen capan, sef y garreg ar y pen, yn pwyso dros 16 tunnell. Mae rhai pobl yn dweud ei bod hi’n bosibl gweld Tylwyth Teg o dan y Gromlech.
Cestyll
Mae nifer o gestyll ysblennydd yn y sir er enghraifft Castell Penfro, Castell Caeriw a Castell Maenorbŷr.
Eglwys Sant Gofan
Roedd Sant Gofan yn feudwy. Roedd e’n byw mewn cilfach ar lan y môr ar bwys pentref Bosherston. Cafodd yr eglwys ei adeiladu yn y gilfach yn y 13eg ganrif. Gallwch chi ddringo’r grisiau i lawr i’r eglwys. Mae nifer y grisiau yn wahanol – yn dibynnu ydych chi’n mynd i fyny neu i lawr.
Eglwys Gadeiriol Tyddewi
Dyma le mae bedd Dewi Sant. Sefydlodd Dewi fynachdy ar safle’r eglwys bresennol. Roedd Dewi Sant yn teithio llawer (fel y seintiau i gyd yn y cyfnod hwnnw), yn dysgu pobl am Iesu Grist. Buodd e farw yn y flwyddyn 589.
Mae nifer o eglwysi yng Nghymru (a Lloegr) yn dwyn ei enw.
Dyma rai o eglwysi Dewi yng Nghymru: Llanddewi Felfrey, Capel Dewi, Llan-non, Llenddewy, Llanddewi Fach, Capel Dewi, Llanddewi Rhydderch, Llanddewi Skyrrid, Llanddew, Llanddewi fach, Llanddewibrefi, Llanddewi Aberarth, Ffynnon Dewi.
Llwybr yr Arfordir
Mae’r llwybr yn ymestyn am dros 186 milltir o gwmpas yr arfordir.
Mae’r golygfeydd yn ddigon i dynnu’r gwynt o’ch anadl. Parc Cenedlaethol Sir Benfro ydy’r unig barc cenedlaethol arfordirol ym Mhrydain!!
Mynyddoedd y Preseli
Mae Mynydd y Preseli yn lle delfrydol i gerdded a marchogaeth. Ar ddiwrnod clir, mae’n bosibl gweld Yr Wyddfa, Iwerddon, Bannau Brycheiniog a Lloegr o ben y Preseli.
Roedd y bardd Cymraeg Waldo Williams yn hoffi ysgrifennu am fynyddoedd y Preseli.
Waldo yr athro
Dyma bennill cyntaf ei gerdd enwog, Preseli. Yn y gerdd, mae Waldo’n dangos ei gariad at ei fro. Yn y pennill yma, mae e’n enwi lleoedd pwysig iddo fe yn ardal y Preseli.
Mur fy mebyd, Foel Drigarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd,
Wrth fy nghefn ym mhob annibyniaeth barn.
A’m llawr o’r Witwg i’r Wern ac i lawr i’r Efail
Lle tasgodd y gwreichion sydd yn hŷn na harn.
Dyma ychydig o eiriau i’ch helpu chi i ddeall y pennill:
Mebyd = plentyndod
Annibyniaeth = independence
Tasgu = (to) flare
Gwreichion = sparks
Hŷn na harn = older than iron
Ynys Bŷr
Ynys sy’n gorwedd oddi ar arfordir de Penfro ydy Ynys Bŷr. Mae’n ynys sanctaidd ers oes y Celtiaid. Heddiw, mae’r mynachod Sistersaidd yn byw ar yr ynys. Mae croeso i ymwelwyr.
Traeth Trefdraeth
Mae traethau Sir Benfro yn enwog am eu prydferthwch – er enghraifft Traethau Barafundle, Trefdraeth, Dinbych-y-pysgod, Saundersfoot a Broadhaven.
Dinbych y Pysgod
Cafodd ran o ffilm ‘Harry Potter and the Deathly Hallows’ ei ffilmio ar draeth Freshwater West.
Bae Barafundle
Dydy hi ddim yn bosibl cyrraedd y traeth mewn car – mae’n rhaid i chi gerdded!
Parc Hamdden Oakwood
Mae’r Parc Antur hwn yn gartref i rolercoster mwyaf cyffrous Prydain ac un o’r rhai pren mwyaf yn y byd! – Megaffobia!
Canolfan Twr y Felin, Tyddewi
Mae Cymru’n enwog am gampau dŵr eithafol. Mae canolfan chwaraeon eithafol rhwng Tyddewi a Freshwater East o’r enw Twr y Felin. Yn y ganolfan, mae llawer o weithgareddau cyffrous:
Mae arfordira yn gamp newydd. Rhaid ichi wisgo siwt wlyb, helmed a hen bâr o dreinyrs. Byddwch chi’n dringo a nofio o gwmpas arfordir creigiog Sir Benfro. Gallwch chi neidio oddi ar y clogwyni i’r môr! Gallwch chi archwilio ogofeydd yr arfordir.
Cafodd arfordira ei ddyfeisio gyntaf yma yn Sir Benfro!!
Melin Tregwynt
Mae Melin Tregwynt yn cynhyrchu blancedi, cotiau, sliperi, sanau, hetiau, bagiau, sgarffiau a mwy. Mae’r felin yn newid hen batrymau Cymreig i wneud patrymau newydd, lliwgar.
O ran iaith, mae Sir Benfro mewn dwy ran. Cymraeg yw iaith gogledd y sir. Saesneg yw iaith y de gan amlaf. Mae’r Landsker yn llinell ddychmygol sy’n gwahanu’r de a’r gogledd.
Mae tafodiaith Gymraeg Sir Benfro yn rhyfedd! Mae Cymry Cymraeg Sir Benfro yn dweud ‘wes’ yn lle ‘oes’, ‘cwêd’ yn lle coed a ‘trwêd’ yn lle ‘troed’. Gwrandewch ar y sgwrs yma gyda Mrs Elizabeth John o Ben-caer, Sir Benfro ar wefan Amgueddfa Cymru:
https://amgueddfa.cymru/erthyglau/2011-03-29/Tafodiaith-Pen-caer-Sir-Benfro/
Cafodd Mrs John ei geni yn 1891. Mae’r sgript ar y wefan i’ch helpu chi hefyd.
Sir Benfro – Sir Hudolus!
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.
]]>Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru
Cafodd Penrhyn Gŵyr ei nodi’n Barc Cenedlaethol cyntaf Prydain yn 1956. Ar y Penrhyn, mae 34 milltir o arfordir, 50 o draethau bendigedig, clogwyni ysblennydd, pentrefi deniadol, a chefn gwlad heddychlon. Yn ol pob sôn, dyma’r 7fed man mwyaf poblogaidd yn y byd i dynnu llun y machlud. Pob blwyddyn, mae’r arfordir yn ennill llawer o wobrau er enghraifft Y Faner Las a’r Traethau Gwledig Gorau.
Mae olion bywyd ym Mhenrhyn Gŵyr yn mynd nôl i gyfnod cynhanes ym Mhenrhyn Gŵyr. Mae dros 1,200 o safleoedd archaeoleg- tomenni claddu a siambrau cerrig fel Carreg Arthur ar bwys Cefn Bryn. Mae’r creigiau wedi’i gwneud o gerrig calch felly, mae nifer o ogofeydd yn yr ardal.
Yn 1823, daeth y Parchedig William Buckland o hyd i sgerbwd o ryw 25,000 o flynyddoedd yn ôl yn Ogof Paviland. Mae’r sgerbwd yn cael ei adnabod fel ‘Menyw Goch Paviland’.
Beth bynnag, profodd ymchwil mai sgerbwd dyn nid menyw oedd e. Mae chwe chastell ar y Penrhyn, Caer o’r Oes Haearn a nifer fawr o eglwysi. Ym mhob pentref, mae rhywbeth o ddiddordeb – eglwys, croes, neu gerflun.
Saesneg ydy prif iaith Penrhyn Gŵyr ers amser hir. Dros y canrifoedd, ymsefydlodd Fflemiaid, Normaniaid a Saeson yn ne a gorllewin y Penrhyn achos dyna le oedd y tir ffermio gorau.
Roedd Gŵyr yn ynys o Saesneg mewn môr o Gymraeg ac felly, datblygodd tafodiaith Saesneg arbennig. Mae tafodiaith Saesneg Penrhyn Gŵyr yn unigryw ac mae gwahaniaeth mawr yn yr acen a’r ffordd o siarad. Mae trigolion yr ardal yn dal i ddefnyddio’r dafodiaith Saesneg arbennig. Dyma rai o’r geiriau byddwch chi’n clywed os ewch chi i’r Penrhyn:
• Casn’t – ddim yn gallu
• Dree – tri
• Pill – nant
• Raal – real
• Tacker – person ifanc
• Umman – menyw
• Vather – tad
• Viel/Vile – cae / maes
• Zz’thee knaw – wyt ti’n gwybod
• ‘dowset’ a ‘whitepot’ – prydau bwyd yn cynnwys cig a llaeth
Cymraeg oedd iaith gogledd y Penrhyn. Hyd heddiw byddwch chi’n clywed Cymraeg ar y strydoedd ac yn y siopau yn enwedig ym mhentref Pen-clawdd. Mae enwau Cymraeg a Saesneg ar bentrefi Penrhyn Gŵyr – rhai pentrefi gydag enwau Cymraeg yn unig fel Pen-rhys a Llanrhidian, rhai gydag enwau yn y ddwy iaith er enghraifft Tre-gŵyr (Gowerton) a Llandeilo Ferwallt (Bishopston) a rhai eraill ag enwau Saesneg yn unig er enghraifft Oxwich a Reynoldston.
Heddiw mae Penrhyn Gŵyr yn boblogaidd iawn gyda thwristiaid trwy’r flwyddyn.
Campau Dŵr
Mae’n bosibl gwneud llawer o gampau dŵr ym Mhenrhyn Gŵyr – plymio, pysgota, syrffio dŵr, syrffio barcud, bwrddhwylio, canŵio, sgïo dŵr a hwylio i enwi ond rhai. Un o’r traethau gorau am syrffio ydy traeth Llangennith.
Dechreuodd pobl syrffio ym Mro Gwyr yn 1962. Mae llawer o syrffwyr gwych yn dod o Benrhyn Gŵyr. Yr un mwya enwog ydy Peter Jones. Enillodd Peter bencampwriaeth Cymru wyth gwaith yn y 1970au a’r 1980au. Syrffiodd e dros Gymru a Phrydain ym Mhencampwriaeth Ewrop a’r Byd. Mae Peter yn rhedeg siop syrffio yn Llangennith heddiw.
Cerdded
Mae Penrhyn Gŵyr yn baradwys i gerddwyr. Mae cilgant Bae Rhosili (rhyw 3 milltir o hyd) yn un o’r lleoedd mwyaf delfrydol yn y wlad i gerddwyr.
Mae’n bosib cerdded llwybr yr arfordir o gwmpas y Penrhyn – rhyw 45 milltir. Mae’r mynydd rhwng de a gogledd Gŵyr (Twyn Rhosili) yn codi i dros 600 troedfedd, ac o ben y mynydd, gallwch chi weld mor bell â Chulfor Bryste, Dyfnaint, Penfro, Brycheiniog a Sir Gâr.
Mae llawer o’r Penrhyn yn warchodfa natur bwysig ac gallwch chi weld amrywiaeth o fywyd gwyllt a phlanhigion yno.
Ar ochr ogleddol y Penrhyn, mae nifer o bentrefi deniadol fel Llanmorlais, Llanrhidian a Pen-clawdd. Mae gogledd Bro Gŵyr yn enwog am fwyd môr fel cocos, crancod a bara lawr (math o wymon).
Gallwch chi brynu bwyd ffres o Benrhyn Gŵyr ym marchnad Abertawe.
Cafodd y cyfansoddwr byd-enwog, Karl Jenkins, ei eni a’i fagu ym mhentref Pen-clawdd, Penrhyn Gŵyr. Mae Karl yn enwog am gyfansoddi cerddoriaeth roc, jas a chlasurol. Mae e wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer nifer fawr o hysbysebion gan gynnwys Levi’s a Renault.
Mae Penrhyn Gŵyr yn lle poblogaidd dros ben. Ar ôl “darganfod” y Penrhyn, mae pobl yn dod yn ôl dro ar ol tro i fwynhau’r rhan unigryw yma o Gymru.
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.
]]>Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru
Pryd byddwch chi’n dathlu’r flwyddyn newydd? Cwestiwn twp meddech chi. Wel, ar Ionawr y 1af wrth gwrs!! Ond, nid fel’na mae hi ym mhob rhan o Gymru.
Mewn cornel fach o Sir Benfro, ym mhentrefi Pontfaen a Llanychâr yng Nghwm Gwaun, Sir Benfro, ac yn nhref Llandysul, Sir Aberteifi, Ionawr 13eg yw dechrau’r flwyddyn newydd. Bydd plant yr ardal yn canu caneuon ac yn hel calennig a bydd trigolion hen ac ifanc yn dathlu dechrau’r flwyddyn newydd.
Pam? Wel, dyma’r stori….
O’r flwyddyn 45CC, dilynodd pob rhan o’r byd y calendr Iwlaidd (ar ôl Iwl Cesar). Yn y flwyddyn 1582, cyflwynodd y Pab Gregor XIII y calendr Gregoraidd er mwyn cysoni’r gwahanol wyliau gyda thymhorau’r flwyddyn. Yn y calendr Iwlaidd, roedd tri diwrnod ychwanegol pob pedair canrif. Felly, yn y flwyddyn 1582, collodd mis Hydref un ar ddeg o ddiwrnodau.
Mabwysiadodd Prydain y calendr yn 1752, bron 200 o flynyddoedd ar ôl gweddill Ewrop ac felly, collodd pobl Prydain 13 o ddiwrnodau!! Un o ganlyniadau’r newid yma oedd bod y flwyddyn newydd yn symud o Ionawr y 13eg i Ionawr y 1af.
Roedd llawer o wrthwynebiad i’r newid. Roedd pobl yn credu y bydden nhw’n colli 13 diwrnod o’u bywydau. O ganlyniad, roedd sawl ardal ym Mhrydain yn dal i ddathlu’r flwyddyn newydd ar Ionawr y 13eg.
Erbyn canol y 18fed ganrif, roedd pobl wedi dod i arfer â’r calendr newydd a dechreuodd pobl ddathlu ar Ionawr y 1af – pawb hynny yw heblaw am drigolion Cwm Gwaun a Llandysul. Anwybyddon nhw’r calendr newydd a pharhau i ddathlu’r flwyddyn newydd ar Ionawr 13eg.
Mae plant y cylch heddiw yn parhau’r traddodiad ac ar Ionawr y 13eg. Byddan nhw’n cerdded o dŷ i dŷ yn canu caneuon traddodiadol sy ddim wedi newid ers canrifoedd. Fel gwobr am ganu, bydd y plant yn cael anrhegion y flwyddyn newydd – fferins, losin, arian neu ffrwyth, fel arfer, oddiwrth berchnogion y tai.
Bydd rhai ohonoch chi’n ddigon hen i gofio Fyfe Robertson. Wel, yn ei raglen deledu o fis Ionawr 1966, talodd e ymweliad â Thafarn Y Dyffryn Arms neu i’w galw wrth ei henw pob dydd, Tafarn Bessie, Cwm Gwaun adeg dathlu’r hen Galan.
Gallwch chi wylio’r clip yma – https://www.bbc.co.uk/programmes/p01502yz
Mae tafarn Bessie yn dal i ffynnu – beth am i chi dalu ymweliad â Chwm Gwaun ar noson y 12fed o Ionawr 2019?
Mae’r clip yma’n ddiddorol hefyd:
Cyn ac ar ôl y newid yn y calendr, roedd y traddodiad o Hel Calennig yn boblogaidd dros Gymru gyfan. Ar ddechrau’r flwyddyn newydd, roedd y plant yn edrych ymlaen at gael cyfle i lenwi eu pocedi ag arian ac anrhegion calennig.
Byddai’r plant yn mynd i gasglu calennig yn ystod y bore ar ddiwrnod cynta’r flwyddyn. Bydden nhw’n ymweld â’r ffermydd a’r tai yn yr ardal gan ganu penillion a gofyn am galennig.
Ond byddai’n rhaid gwneud hyn i gyd cyn hanner dydd.
Gwrandewch ar Mair Davies o Gwm Gwaun yn esbonio hanes Yr Hen Galan. Mae hi’n siarad yn nhafodiaith gogledd Sir Benfro: http://www.byw20ganrif.org/detail.php?sID=50893
Dyma’r pennill roedd hi’n ei adrodd:
Mae dydd Calan wedi gwawrio
Dydd tra hynod, dydd i’w gofio
Dydd i roi a dydd i dderbyn
Yw y trydydd dydd ar ddeg o’r flwyddyn
Rhowch yn hael i’r rhai gwael
Pawb sy’n ffyddlon i roi rhoddion
Yw’r rhai hynny sydd yn cael
Byddai’r plant yn cario afal wedi’i addurno gyda nhw o dŷ i dŷ er mwyn dod â lwc dda. Rhan bwysig o ddydd Calan oedd addurno afal.
Bydden nhw’n gosod tri darn o bren ar waelod yr afal i wneud coesau. Byddai darnau o almwnd yn cael eu gosod yn yr afal wedyn a dail bytholwyrdd yn cael eu gosod ar ei ben.
Wedi’r daith o gwmpas yr ardal byddai’r afal yn cael ei arddangos yn y cartref neu’n cael ei roi’n anrheg i ffrindiau fel arwydd o lwc dda.
Mewn rhai ardaloedd o’r de ‘perllan’, oedd yr enw am yr afal calennig yma. Roedd yr afal yn cael ei addurno â gwahanol blanhigion am wahanol resymau, e.e. llawryf er gogoniant; celyn ar gyfer rhagweld; rhosmari er mwyn cofio; bocs er mwyn dewrder a lafant i sicrhau digonedd dros y flwyddyn.
Beth am i chi droi eich llaw at wneud eich ‘perllan’ eich hun:
Dyma’r rhigwm calennig mwyaf poblogaidd:
Blwyddyn Newydd dda i chi
Ac i bawb sydd yn y tŷ
Dyma fy nymuniad i
Blwyddyn Newydd dda i chi
Dilynwch y geiriau a’r alaw yma:
Dyma bennillion eraill o wahanol rannau o Gymru:
Sir Aberteifi a Sir Benfro:
Mi godais heddiw ma’s o’m tŷ
A’m cwd a’m pastwn gyda mi,
A dyma’m neges ar eich traws,
Sef llanw‘m cwd â bara a chaws.
Cwm Tawe:
Calennig wyf yn ‘mofyn
Ddydd Calan, ddechrau’r flwyddyn,
A bendith fyth fo ar eich tŷ
Os tycia im’ gael tocyn
Llangadfan:
Calennig i mi, Calennig i’r ffon,
Calennig i fwyta’r noswaith hon
Calennig i’m tad am glytio’m sgidie
Calennig i mam am drwsio’m sane
Blaenau Ffestiniog:
Rhowch galennig yn galonnog,
I blant bach sydd heb un geiniog,
Gymaint rhoddwch, rhowch yn ddiddig,
Peidiwch grwgnach am ryw ‘chydig.
Tal-y-bont, Ceredigion:
Blwyddyn Newydd Dda i chi, bob un drwy’r tyˆ,
Rhowch galenning yn galonnog i blant bach sydd heb un geiniog,
Ceiniog ne’ ddima p’run a fynno chithe,
Ceiniog sy’ ore,
Blwyddyn Newydd Dda i chi
Talgarreg:
Fe godais yn fore
Fe gynnais y tân
Fe redes i’r ffynnon i mofyn dŵr glan
Diling, diling,
Ma pwdin yn brin
Ma pawb yn cael tamed
A finne’n cael dim.
Roedd yr hen galan yn ddiwrnod o hwyl a gŵyl ac roedd bwyta’n rhan hanfodol o’r dathlu. Hyd at 1833 roedd pobl yn arfer dathlu’r calan yn Llandysul drwy gêm gicio pêl – gyda phorth eglwys Llanwenog yn un gôl a phorth eglwys Llanwenog y llall. Ar doriad y wawr – a chyn hynny’n aml – roedd gwledd fawr, neu ‘frecwast’, ac erbyn dechrau’r gêm am naw o’r gloch y bore, roedd llawer o’r bechgyn yn feddw gaib. Roedd y gêm yn esgus da iddyn nhw lambastio‘i gilydd – gyda thorri esgyrn yn rhan o’r hwyl. Ceisiodd y Parchedig Evan James stop i’r holl giamocs yn 1833 gan ddweud y dylai’r plwyfolion ddod i’r capel i adrodd o’r Beibl a chanu emynau yn lle. Erbyn heddiw, mae ‘Gŵyl Cicio’r Bêl’ wedi diflannu o Landysul a phob tref arall oedd yn arfer ei chwarae.
Coel arall yn ymwneud â’r Calan oedd bod ysbrydion y meirw yn crwydro‘r wlad ar ddiwrnod ola’r flwyddyn er mwyn ffarwelio â’r flwyddyn honno.
Dyma pam mae’n debyg fod pobl yn closio at ei gilydd ar y noson arbennig hon gan adrodd straeon a chynnal noson lawen.
Ers talwm hefyd byddai pobl yn croesawu’r flwyddyn newydd drwy adeiladu coelcerth fawr. Byddai pobl yn codi’r goelcerth yng nghanol y dref neu’r pentref a byddai pawb yn sefyll o’i chwmpas. Byddai’r trigolion wedyn yn gadael i’r tanau oedd yn eu cartrefi ddiffodd. Byddai hyn yn rhoi diwedd ar yr hen flwyddyn. Byddai’r goelcerth yn rhoi croeso gwresog i’r flwyddyn newydd.
Roedd pobl yn credu byddai eich gweithredoedd ar ddydd Calan yn penderfynu beth fyddech chi’n ei wneud weddill y flwyddyn.
Dylech chi felly wneud yn siŵr i beidio â benthyg arian i neb na benthyg arian eich hun ar ddydd Calan.
Hefyd roedd hi’n bwysig gwneud yn siŵr bod pob dyled wedi ei thalu cyn hanner nos ar nos Galan neu fe fyddech mewn dyled am flwyddyn gyfan.
Mae’r bobl sy’n dod i ymweld â chi gyntaf ar ddydd Calan yn bwysig.
Yn draddodiadol dim ond dynion â gwallt tywyll sy’n derbyn croeso yng nghartrefi Cymru ar fore Calan. Bydd gŵr tywyll sy’n troedio dros y trothwy yn dod â lwc dda i’r cartref drwy’r flwyddyn.
Ond er mwyn i chi gael lwc wirioneddol dda fe ddylai’r dyn yma gario darn o lo, tafell o fara a darn o arian. Byddai hyn yn sicrhau cynhesrwydd, bwyd a chyfoeth i chi drwy’r flwyddyn.
Ers talwm roedd yr arferiad hwn yn amrywio ar hyd a lled Cymru.
Mewn rhannau o Geredigion roedd hi’n lwcus i ferch weld dyn yn gyntaf ond yn anlwcus i ddyn weld merch gyntaf.
Yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro roedd hi’n anlwcus i ferch weld merch yn gyntaf. Mewn rhai ardaloedd wedyn roedd hi’n anlwcus i weld dyn â gwallt coch yn gyntaf.
Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru roedd hi’n arferiad i gludo dŵr i gartrefi cyfagos.
Byddai grwpiau o fechgyn yn ymweld â chartrefi’r ardal yn gynnar yn y bore gan gludo dŵr ffres o’r ffynnon a changen o ddail bytholwyrdd.
Fe fydden nhw wedyn yn cael eu gadael i bob ystafell ac fe fydden nhw’n gwasgaru‘r dŵr yn ysgafn ar ddwylo a wynebau’r teulu gan adrodd pennill.
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.
]]>Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru
Mae rhai o draddodiadau Gŵyl y Nadolig yng Nghymru wedi gorffen, ond mae eraill yn dal eu tir o hyd. Un o’r rhain yw gwasanaeth y Plygain sy’n gwbl unigryw i Gymru ac dal i gael ei gynnal mewn rhai rhannau o Gymru.
Gwasanaeth cwbl Gymreig yw’r Plygain sy’n cael ei gynnal mewn capel neu eglwys yn gynnar ar fore’r Nadolig neu ar noswyl Nadolig. Bydd dynion a merched yn canu carolau hynafol, digyfeiliant fel arfer ac mewn tri neu bedwar llais. Er mai dathlu geni a hanes Crist mae’r geiriau, mae gwreiddiau cerddorol carolau’r Plygain yn ddwfn yn nhraddodiad gwerin Cymru.
Amser maith yn ôl, roedd Y Plygain yn cael eu cynnal mewn gwahanol lefydd yn y plwyf dros gyfnod y Nadolig a hyd at yr Hen Galan, Ionawr 13eg. Roedd gwahaniaeth yn y mathau o garolau mewn plygeiniau dros Nadolig yn dibynnu pryd bydden nhw’n cael eu cynnal. Amser y Nadolig, Rhagfyr 25ain, genedigaeth Crist oedd pwnc y carolau. Yn nes at yr hen Nadolig ar Ionawr 6ed (Gŵyl Ystwyll), byddai’n carolau yn son am ddyfodiad y doethion a’r seren ŵyl.
Yn draddodiadol, byddai gwasanaeth y plygain rhwng tri a chwech o’r gloch y bore. Felly byddai’r gwasanaeth yn dechrau mewn tywyllwch ac yn gorffen yng ngolau dydd. Byddai’r eglwys neu’r capel yn cael ei addurno â chanhwyllau.
Roedd gwreiddiau gwasanaeth y plygain yn yr eglwys. Mae’r gair Plygain yn dod o’r gair Lladin pullicantio sy’n golygu ‘caniad y ceiliog’. Cafodd y traddodiad ei fabwysiadu gan y capel yn ddiweddarach.
Yn yr hen amser, tua’r 17eg ganrif, dim ond y dynion oedd yn mynd i’r capel i ganu tra byddai’r merched yn aros gartref i goginio a gwneud cyflaith (taffi triog). Ond erbyn y 19eg ganrif byddai’r merched a’r plant yn cael mynd i’r Plygain hefyd.
Er bod y Plygain yn draddodiad sy’n perthyn i Gymru gyfan, mae’r traddodiad yn para’n gryfaf yn ardal Sir Drefaldwyn, mewn pentrefi a threfi fel Mallwyd, Llanerfyl, Llansilin, Pontrobert, Llanllyfni, Llanymawddwy, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Lloc, Llangynog, Llanfihangel yng Ngwynfa ac hyd yn oed dros y ffin yn Swydd Amwythig yn nhref Croesoswallt a phentrefi Cefnyblodwel a Llanyblodwel.
Y newyddion da yw bod y plygain yn mwynhau adfywiad mewn ardaloedd eraill yn yr unfed ganrif ar hugain. Gwyliwch y clip yma o hanes y traddodiad:
Geiriau un o’r carolau Plygain mwya adnabyddus – Ar gyfer heddiw’r bore
Ar gyfer heddiw’r bore’n faban bach, faban bach,
Y ganwyd gwreiddyn Iesse’n faban bach;
Y Cadarn ddaeth o Bosra,
Y Deddfwr gynt ar Seina,
Yr Iawn gaed ar Galfaria ‘n faban bach, faban bach,
Yn sugno bron Maria’n faban bach.
Caed bywiol ddŵfr Eseciel, ar lin Mair, ar lin Mair,
A gwir Feseia Daniel, ar lin Mair;
Caed bachgen doeth Eseia,
‘R addewid roed i Adda,
Yr Alffa a’r Omega, ar lin Mair, ar lin Mair;
Mewn côr ym Meth’lem Jiwda,ar lin Mair.
Diosgodd Crist o’i goron,o’i wirfodd, o’i wirfodd,
Er mwyn coroni Seion,o’i wirfodd;
I blygu’i ben dihalog
O dan y goron ddreiniog
I ddioddef dirmyg llidiog, o’i wirfodd, o’i wirfodd,
Er codi pen yr euog, o’i wirfodd.
Am hyn, bechadur, brysia, fel yr wyt, fel yr wyt,
I ‘mofyn am dy Noddfa, fel yr wyt
I ti’r agorwyd ffynnon
A ylch dy glwyfau duon
Fel eira gwyn yn Salmon,fel yr wyt, fel yr wyt,
Gan hynny, tyrd yn brydlon, fel yr wyt.
Byddai nosweithiau gwneud cyflaith yn achlysur cymdeithasol gyda’r taffi weithiau’n cael ei wneud ar garreg yr aelwyd ac yn cael ei ‘dynnu’ i’w siâp nodweddiadol.
Yn draddodiadol roedd gwneud cyflaith yn digwydd ar noswyl Nadolig cyn y gwasanaeth Plygain.
Traddodiad arall oedd rhagweld pwy fyddai rhywun yn ei briodi drwy ollwng darnau o’r taffi i mewn i ddŵr oer a gweld pa lythyren fyddai’n cael ei ffurfio.
Mae’r clip yma o Mrs Greta Jones a’i brawd Herbert Jones, Y Parc, Y Bala, yn gwneud cyflaith adeg y Nadolig yn wych:
Arferiad hynod o ryfedd sy’n cael ei gysylltu â’r Calan a chyfnod y Nadolig yw’r Fari Lwyd.
Penglog ceffyl wedi’i orchuddio â lliain a rhubanau oedd y Fari. Byddai’r penglog yn cael ei roi ar bolyn ac felly, byddai’r person oedd o dan y lliain yn gallu agor a chau’r geg.
Byddai grŵp o ddynion yn arwain y Fari Lwyd ac yn ymweld â phob tŷ neu dafarn yn yr ardal gan ganu penillion hwyliog yn gofyn am wahoddiad i ddod i mewn. Byddai perchennog y tŷ yn ateb y penillion cyn penderfynu gadael y grŵp i mewn. Gallai’r canu (neu’r pwnco) yma barhau am dipyn o amser a byddai’n anlwcus gwrthod mynediad i’r Fari Lwyd.
Yn y tŷ wedyn byddai’r grŵp yn diddanu‘r teulu ac yn derbyn bwyd a diod fel anrheg. Yn anffodus, dirywiodd yn yr arferiad erbyn diwedd y 19eg ganrif. Er bod traddodiadau’r Fari yn digwydd dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, mae’n cael ei chysylltu’n arbennig â Nos Ystwyll, Ionawr 6ed.
Ond o ble mae’r traddodiad yn dod? Wel, mae gwreiddiau’r Fari, sy’n gyffredin i wledydd eraill hefyd, yn ddwfn mewn arferion hynafol o’r cyfnod cyn-Gristnogol pan ddaeth y ceffyl yn anifail mor werthfawr i ddyn. Mae’n bosibl hefyd bod y traddodiad yn gysylltiedig â chwedl Rhiannon (Duwies y Ceffylau) yn y Mabinogi neu’n gysylltiedig â seremonïau ffrwythlondeb.
Roedd penglog y ceffyl yn cael ei baratoi yn ofalus at yr achlysur drwy gael ei gladdu mewn calch am dri mis cyn cael ei sgwrio‘n lân. Wedi hynny, byddai’n cael ei wisgo a’i addurno.
Mae pentref Llangynwyd yng Nghwm Llynfi yn cael ei gysylltu’n arbennig â’r Fari Lwyd. Yn nhafarn Yr hendy, Llangynwyd, mae penglog Y Fari Lwyd wreiddiol ar wal y dafarn. Yn anffodus, mae tafarn Yr Hendy, y dafarn ail hynaf yng Nghymru, wedi cau ers dwy flynedd ac mae’r adeilad ar werth.
Gwyliwch y ffilm yma o dri o ddynion lleol, un wedi ei wisgo fel y Fari Lwyd, yn ymweld â ffermdy yn yr ardal. Maen nhw’n canu penillion ac yna mae’r ffermwr yn ateb, cyn cael eu gadael i mewn i fwynhau bwyd a diod. Ar ddiwedd y ffilm mae un o’r dynion yn adrodd ychydig o hanes traddodiad y Fari yn yr ardal yn nhafodiaith hyfryd Llangynwyd.
Parti tu allan
1) Wel dyma ni’n dwad, gyfeillion diniwad, x2
I ofyn am gennad x3
I ganu
2) Os na chawn ni gennad, Cewch glywed ar ganiad x2
Beth fydd ein dymuniad x3
Nos heno
3) Mae Mari Lwyd yma, a sêr a ribanau x2
Yn werth i roi golau x3
Nos heno
Parti tu fewn
4) O, cerwch ar gered, mae’ch ffordd yn agored x2
Mae’r ffordd yn agoredx3
Nos heno
Tu allan
5) Nid ewn ni ar gered, heb dorri ein syched, x2
Heb dorri ein sychedx3
Nos heno
Tu fewn
6) Rhowch glywad, wyr doethion, pa faint y’ch o ddynion x2
A beth yn wych union x3
Yw’ch enwau
Tu allan
7) Rhyw griw o wyr hawddgar, rhai gorau y ddaear x2
Yn canu mewn gwir air x3
Am gwrw
Tu fewn
8) Rhowch glywad, wyr difrad, o ble rych chi’n dwad x2
A beth yw’ch gofyniad x3
Gaf enwi
Tu allan
9) Mi ddown ni o Lundain, ‘fo Mari yn arwain, x2
Mi ganwn yn unsain x3
Am gwrw
Tu fewn
10) O, cenwch eich nodau, Ac felly wnawn ninnau x2
A’r sawl a fo orau x3
Gaiff gwrw
Tu allan
11) Mi ganwn am wythnos, ac hefyd bythefnos x2
A mis os bydd achos x3
Baidd i chwi.
Tu fewn
12) Mi ganwn am flwyddyn, os cawn Dduw i’n canlyn x2
Heb ofni un gelyn x3
Y gwyliau
Tu allan
13) O tynnwch y bollta, agorwch y drysa, x2
I fois y cwrseila x3
Rhowch groeso
Tu fewn
14) Mi dynnwn y bollta, agorwn y drysa, x2
I fois y cwrseila x3
Mae croeso
Mae rhai o benglogau Y Fari Lwyd yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.
Gwyliwch atgyfodiad o’r traddodiad yn nhafarn y Brit, Cwmafan
Mae gŵyl y Nadolig yn dod i ben ar Nos Ystwyll, Ionawr 6ed, ddeuddeng niwrnod ar ôl dydd Nadolig. Ar y diwrnod hwn ers talwm byddai pobl yn arfer hela’r dryw, aderyn bach, cyflym â chân uchel. Mae’r dryw yn mesur tua phedair modfedd mewn hyd ac yn pwyso yr un peth â darn punt. Byddai dryw yn cael ei ladd, ei addurno a’i roi mewn tŷ bychan.
Byddai grŵp o ddynion wedyn yn cludo‘r tŷ o gwmpas y pentref. Byddai trigolion y pentref yn rhoi arian iddyn nhw am y fraint o gael cipolwg ar yr aderyn bach.
Wrth gwrs mae’r arferiad hwn wedi dod i ben ers tro a does dim llawer o arwyddocâd i Nos Ystwyll yng Nghymru y dyddiau yma.
Yn ôl traddodiad hefyd, mae’n rhaid sicrhau eich bod chi’n tynnu’r goeden Nadolig a’r holl addurniadau ar y diwrnod hwn neu fe fydd anlwc yn dod i chi weddill y flwyddyn.
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.
]]>Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres o erthyglau misol, pob un gyda thema wahanol, fydd yn addas i ddysgwyr sy’n neud cyrsiau lefel Uwch. Maen nhw wedi eu sgrifennu yn Gymraeg yn unig, ac maen nhw’n cynnwys geiriau wedi’u tanlinellu, fel y byddwch chi’n gallu hofran drostyn nhw, neu wasgu botwm y llygoden i ddatgelu ystyr y geiriau hyn yn Saesneg.
This article is a part of a monthly series of themed articles for learners at the Uwch (Higher) level. They are in Welsh only, with underlined vocabulary that you can hover over or press to reveal the English word.
Dafydd is interviewed (in English) by the website Americymru here: https://americymru.net/ceri-shaw/blog/4960/darllen-a-deall-an-interview-with-dafydd-roberts-of-parallelcymru
Ble arall yng Nghymru cewch chi:
Wel, Casnewydd ydy’r ateb wrth gwrs.
Mae’n siŵr bod pawb yn gyfarwydd â dinas Casnewydd, yn enwedig yn dilyn y gân ‘Newport Ymerodraeth State of Mind’ yn 2010. Aeth y fideo yn feiral erbyn Awst 2010 ar YouTube. Cafodd YouTube wared â’r fideo achos problemau hawlfraint.
Mae’r grŵp rap o’r ddinas Goldie Lookin’ Chain wedi recordio parodi gwych o’r gân:
https://www.youtube.com/watch?v=Eijc2tGe-zM
Aeth yr actores Josie D’Arby i ysgol Llysweri yng Nghasnewydd.
Cafodd yr actor Desmond Llewelyn (Q yn ffilmiau James Bond) ei eni yn y ddinas.
Mae aelodau’r grwpiau enwog ‘GLC’ (Goldie Lookin’ Chain), ‘60ft Dolls’ a ‘Bullet for My Valentine’ yn dod o Gasnewydd.
O’r byd chwaraeon, Casnewydd yw man geni’r athletwyr Christian Malcom a Darren Campbell yn ogystal â llu o chwaraewyr rygbi o fri. Y person mwyaf enwog i ddod o’r ddinas efallai ydy’r bardd W.H. Davies (1871-1940). Gallwch chi glywed llinellau o’i gerdd fwyaf enwog ar hysbysebion ‘Center Parcs’ ar y teledu.
Mae pont gludo Casnewydd yn un o ddwy yn unig ym Mhrydain (mae’r llall yn Middlesbrough yng ngogledd-ddwyrain Lloegr) ac wyth yn y byd. Mae’n bosibl i geir a phobl deithio ar y gondola crog bron bob dydd. Gallwch chi hefyd gerdded ar ben y fframwaith dur. Roedd y bont yn nodwedd amlwg yn y ffilm ‘Tiger Bay’, 1959 gyda John Mills a’i ferch Hayley Mills yn serennu.
Ar Dachwedd 4, 1839, arweiniodd John Frost orymdaith o 3,000 o siartwyr i ganol Casnewydd. Roedd y Siartwyr yn ymladd dros hawliau pleidleisio cyfartal i bawb. Taniodd milwyr oedd yn amddiffyn gwesty’r Westgate ar y siartwyr. Lladdon nhw dros 20 ac anafu 50 arall. Gallwch chi weld y tyllau bwled ym mhrif ddrws y gwesty hyd heddiw.
Tan 2013, roedd murlun i gofio’r siartwyr mewn tanffordd yng nghanol y ddinas.
Mae’r tŷ yn enghraifft wych o blasty o’r 17eg ganrif. Roedd y plasty’n gartref i deulu’r Morgan am dros 500 mlynedd tan 1951. Un aelod o’r teulu oedd y môr-leidr enwog Henry Morgan. Mae’r tŷ wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer y rhaglenni teledu ‘The Hairy Bikers’ a ‘Doctor Who’.
Canolfan golff, spa a gwesty. Yn y ganolfan mae dau westy, tafarn wledig, dau spa, chwe thŷ bwyta, cwrs rhaffau uchel, tag laser, saethyddiaeth a chanolfan gynadledda. Canolfan wyliau’r ‘Celtic Manor’ oedd cartref Pencampwriaeth Golff Ryder yn 2010.
Syr Terry Matthews, miliynydd cyntaf Cymru, sy’n berchen ar y ganolfan. Cafodd Syr Terry ei eni yn yr adeilad yn 1943 pan oedd e’n ysbyty (Ysbyty Lydia Beynon).
Yn 2002, yn ystod adeiladau’r ganolfan gelfyddydau newydd, cafodd llong fawr ei darganfod ar lannau’r afon Wysg. Mae’r llong yn dyddio o’r cyfnod 1445-1469 a dyma’r unig un o’i math yn y byd.
Rygbi – Clwb rygbi Casnewydd ydy un o’r ychydig dimau i guro pob un o dimau mawr hemisffer y de – Y Crysau Duon, De Affrica ac Awstralia.
Pêl-droed – Mae’r tîm pêl-droed wedi cyrraedd rownd yr 16 olaf Cwpan F.A. Lloegr a Chwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop. Mae’r ‘Alltudion’ (llysewn’r tîm) yn ôl yn y Gynghrair Bêl-droed ers ennill y gêm ail-gyfle yn erbyn tîm Wrecsam yn Wembley yn 2013.
Seiclo – Mae Casnewydd yn gartref i felodrôm cenedlaethol Cymru ac yn bencadlys Seiclo Cymru.
Pel-fâs – Dim ond mewn tair dinas ym Mhrydain mae pêl-fâs yn cael ei chwarae – Caerdydd, Lerpwl a Chasnewydd. Mae dinas Casnewydd yn gartref i gêm ryngwladol rhwng timau Cymru a Lloegr pob pedair blynedd.
Gwyliwch uchafbwyntiau gêm 1980 yma –
Ie, mae Casnewydd yn ddinas unigryw!
Mae Dafydd yn gyn-Bennaeth yr Adran Gymraeg Ysgol y Llysweri Casnewydd, Ysgol y Graig ac Ysgol Bryngwyn, Llanelli, ac arbenigwr pwnc gyda’r Swyddfa Gymreig 1982/3, Llywodraeth y Cynulliad 2012-14, Cymwysterau Cymru 2015/16 a CBAC 2017/18.
Dafydd is a former Head of Welsh at Ysgol y Llysweri, Ysgol y Graig and Ysgol Bryngwyn of Llanelli, and specialist in the subject for the Welsh Office 1982/3, Assembly Government 2012-4, Qualifications Wales 2015/16 and WJEC 2017/18.
]]>