Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol logo

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: Adroddiad Blynyddol 2018 / The National Centre for Learning Welsh: Annual Report 2018

Yn Dysgwyr/Erthyglau

Mae mwy o bobl wedi dilyn cyrsiau dysgu Cymraeg dros y 12 mis diwethaf, diolch i gyfleoedd newydd a gyflwynwyd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r Ganolfan, sy’n cydweithio ag 11 darparwr ledled Cymru, yn adrodd ar gynnydd y flwyddyn academaidd 2017-2018 yn yr Adroddiad Blynyddol, cyflwynir trosolwg ohoni isod.

More people have followed Welsh learning courses over the past 12 months, thanks to new opportunities created by the National Centre for Learning Welsh. The Centre, which works with 11 providers across Wales, outlines its progress for the 2017-2018 academic year in its Annual Report, an overview of which is presented below.

Trosolwg / Overview

Gwnaeth dros 5,000 o bobl gymryd rhan yn rhaglen arloesol newydd y Ganolfan, ‘Cymraeg Gwaith’, a gyflwynwyd i gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae’r rhaglen yn cynnwys cyrsiau dwys, cyrsiau preswyl a chyrsiau ar-lein.Over 5,000 people took part in an innovative learning programme called ‘Work Welsh’, introduced by the Centre to strengthen Welsh language skills in the workplace. The programme features intensive, residential and online courses.
Gwnaeth oddeutu 600 o bobl gymryd rhan yn y ‘Clwb Cwtsh’, cynllun newydd sbon ar y cyd â Mudiad Meithrin i gyflwyno’r Gymraeg i deuluoedd gyda phlant ifanc.Around 600 people took part in the ‘Clwb Cwtsh’ scheme, a series of eight-week taster courses for families of young children, developed in partnership with the Welsh-medium Early Years specialists, Mudiad Meithrin.
Yn ogystal â hyn, fe weithredodd y Ganolfan gynllun Grantiau Arloesi i ymgysylltu â chynulleidfaoedd anodd eu cyrraedd. Cyflwynwyd cyrsiau amrywiol fel rhan o’r cynllun, gan gynnwys cwrs ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd a rhaglen ddwys integredig i deuluoedd yng Ngheredigion.The Centre also implemented an Innovation Grant scheme, to engage with difficult-to-reach audiences. New courses developed as a result of the scheme include a course for refugees and asylum seekers in Cardiff and an integrated Welsh learning programme for families in Ceredigion.
Mae’r niferoedd hyn yn ychwanegol i brif darged y sector Dysgu Cymraeg ar gyfer 2017-2018, sef darparu cyfleoedd dysgu prif ffrwd (cyrsiau sy’n isafswm o 50 awr y flwyddyn) a dysgu atodol (e.e. cyrsiau penwythnos a chyrsiau adolygu) i 17,660 o ddysgwyr. Bydd y Ganolfan yn adrodd ar y ffigwr yma yn hwyrach yn y flwyddyn, ond disgwylir y bydd y targed yn cael ei gyflawni.These figures are in addition to the Learn Welsh sector’s main target for 2017-2018, which was to provide mainstream learning opportunities (a minimum of 50 hours per year) and supplementary learning opportunities (e.g. weekend and revision courses) for 17,660 learners. The Centre will report on this figure later this year, but expects to meet the target.
Cadarnhaodd y Ganolfan ei bod wedi cyrraedd targedau’r flwyddyn academaidd 2016-2017 hefyd, sef darparu cyfleoedd dysgu prif ffrwd a dysgu atodol i 16,845 o ddysgwyr.The Centre confirmed it had met its target for the 2016-2017 academic year, which was to provide mainstream and supplementary learning opportunities for 16,845 learners.
Bydd cynlluniau ‘Cymraeg Gwaith’ a’r ‘Clwb Cwtsh’ yn parhau yn ystod 2018-2019. Bydd cyrsiau newydd ar-lein, wedi’u teilwra ar gyfer gwahanol sectorau, gan gynnwys Iechyd, Gofal a Lletygarwch/Twristiaeth, yn cael eu cyflwyno fel rhan o ‘Cymraeg Gwaith’.The ‘Work Welsh’ and ‘Clwb Cwtsh’ schemes will continue during 2018-2019, with new online courses tailored for different sectors – including Health, Social Care and Hospitality/Tourism – introduced as part of ‘Work Welsh’.
Cyflwynwyd Safle Rhyngweithiol newydd gan y Ganolfan yn ystod 2017-2018, sef dysgucymraeg.cymru. Am y tro cyntaf erioed, dyma un safle cenedlaethol ar gyfer y sector Dysgu Cymraeg. Mae modd chwilio 2,000 o gyrsiau, cofrestru a thalu ar-lein am gwrs; mae’r safle hefyd yn cynnwys adnoddau digidol i gefnogi’r dysgu.A new, national Interactive Site, dysgucymraeg.cymru – was introduced during the year, in a first for the Learn Welsh sector. Prospective learners can search 2,000 courses, register and pay online; digital resources are also available on the site.
Lluniwyd dau gwrs Dysgu Cymraeg newydd yn ystod y flwyddyn, sef cwrs Mynediad ar gyfer dechreuwyr a chwrs Uwch ar gyfer dysgwyr profiadol. Bydd y cyrsiau yn cael eu cyflwyno ledled Cymru o fis Medi 2018.Two new Learn Welsh courses were developed during the year, one for beginners at Mynediad/Entry level and one for more experienced learners at Uwch/Advanced level. These courses will be rolled out across Wales from September 2018 onwards.
Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae wedi bod yn flwyddyn brysur a chyffrous i’r Ganolfan wrth i’n cynlluniau gael eu gwireddu’n brosiectau ymarferol sy’n cynnig cyfleoedd newydd a hyblyg i bobl o bob cefndir ac ym mhob rhan o’r wlad i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.Efa Gruffudd Jones, Chief Executive of the National Centre for Learning Welsh, said: “It’s been an exciting and busy year for the Centre. We’ve introduced innovative programmes which offer new and flexible learning opportunities for people of all backgrounds and in all parts of the country to learn and use the Welsh language.
“Drwy ei holl waith, amcan y Ganolfan yw cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. ’Dyn ni eisiau gwneud hynny drwy sicrhau bod modd i bawb gael y cyfle a’r gefnogaeth i ddysgu Cymraeg. Dw i’n ddiolchgar i’n darparwyr a’n partneriaid am eu cydweithio creadigol ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio’n adeiladol er mwyn rhoi ein cynlluniau ar waith a chynnig profiadau arbennig i’n dysgwyr.”“Driving the Centre’s work is our aim to support the Welsh Government’s ambition to create a million Welsh speakers by 2050. We want to achieve this by ensuring people get the opportunities and support they need to learn the language. I’m grateful to our providers and partners for their creative co-operation and we look forward to continuing to work constructively to implement our plans and offer outstanding experiences to our learners.”

Drwy ei holl waith, amcan y Ganolfan yw cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Stori ddysgwr: Mae dysgu Cymraeg yn helpu Damien Downes ail-gysylltu â’i wreiddiau
Learner’s story: Learning Welsh helps Damien Downes reconnect with his roots

Mae’r Gymraeg bob amser wedi bod yn bwysig i Damien Downes.For Damien Downes, the Welsh language has always played an important role in his life.
Roedd ei dad yn siarad yr iaith yn rhugl a phan oedd Damien yn fachgen, byddai’n siarad Cymraeg gydag ef, ac felly roedd gan Damien rywfaint o ddealltwriaeth. Ond doedd dim llawer o gyfleoedd i ymarfer y Gymraeg yn ei ysgol yng Nghasnewydd a chafodd Damien fawr o gyfle i ddatblygu ei sgiliau.His father was fluent and often spoke to Damien in Welsh as a child, so Damien gained a basic understanding from a young age. But opportunities to practise Welsh were limited at his school in Newport and Damien never had a chance to develop his understanding.
Mae gwraig Damien, Kate, yn siarad Cymraeg a phan oedd eu mab hynaf ar fin dechrau yn yr ysgol Gymraeg ym Medi 2016, bachodd Damien ar y cyfle i ddysgu’r iaith, gan ymuno â dosbarth yn y gwaith. Bu farw tad Damien yn hydref 2016. Roedd yn falch iawn o benderfyniad Damien i ddysgu Cymraeg ac mae hynny wedi bod yn sbardun i Damien ddod yn rhugl yn yr iaith.Damien’s wife, Kate, speaks Welsh and when their eldest son was due to start Welsh-medium primary school in September 2016, he took up the opportunity to learn Welsh, joining a class in his workplace. Damien’s father passed away in the autumn of 2016, and his pride in Damien’s decision to learn Welsh has been a driving force in his ambition to become fluent.
Fe basiodd Damien ei arholiad lefel Mynediad yn 2017 ac ar ôl sefyll arholiad lefel Sylfaen yn yr haf, bydd yn dechrau cwrs Canolradd ym mis Medi.Damien passed his Entry level exam in 2017 and after taking the Foundation level exam this summer, he will start a Intermediate course in September.
Meddai Damien: “Mae’r Gymraeg yn rhan fawr o hunaniaeth fy ngwraig – mae ei theulu cyfan yn rhugl – ac felly mae’n bwysig bod ein plant yn cael eu magu’n ddwyieithog ac yn mynd i Meddai Damien: “Mae’r Gymraeg yn rhan fawr o hunaniaeth fy ngwraig – mae ei theulu cyfan yn rhugl – ac felly mae’n bwysig bod ein plant yn cael eu magu’n ddwyieithog ac yn mynd i ysgolion Cymraeg. Pan oedd fy mab hynaf ar fin dechrau yn yr ysgol, ces i fy sbarduno i ymuno â dosbarth. Roedd fy nhad yn dod i ddiwedd ei fywyd, ac roedd mor falch pan ddywedais i mod i’n dechrau dysgu - dw i’n dysgu gymaint er ei fwyn ef ag ydw i dros fy hun.Damien says: “The Welsh language is a big part of my wife’s identity - her whole family is fluent - so it’s important for our children to be brought up bilingually and attend a Welsh-medium school. When my eldest son was due to start school, I was spurred on to join a class. My father was coming towards the end of his life, and when I told him I was starting to learn Welsh, he was so proud - I’m learning as much for him as I am for me.”
Mae gan gyflogwr Damien, Cyfoeth Naturiol Cymru, bolisi Cymraeg. Mae’r sefydliad yn gwbl ddwyieithog yn ei holl gyfathrebu ac yn annog staff i fachu ar y cyfle i ddysgu’r iaith.Damien’s employer, Natural Resources Wales, has a Welsh language policy. The organisation is fully bilingual in all its communications, and actively encourages its staff to take up the opportunity to learn Welsh.
Ychwanega Damien: “Mae’n hanfodol i fy rôl yn y gwaith i gael rhywfaint o hyfedredd yn y Gymraeg, fel mod i’n gallu cynnal sgwrs broffesiynol. Mae fy ngwaith yn gefnogol dros ben; dw i’n mynychu dwy awr o ddosbarthiadau’r wythnos yn ystod y diwrnod gwaith ac yn cael fy nghefnogi yn ystod fy arholiadau.Damien continues: “It’s essential to my role to have some proficiency in the Welsh language, so I can hold a professional conversation. My work is incredibly supportive; I attend two hours of classes a week during the working day and I’m supported through any exams.
“Mae dysgu’r iaith yn ymrwymiad gydol oes i mi; fy mwriad yw parhau i ddatblygu fy sgiliau gyda’r nod o ddod yn rhugl.”“This is a lifelong learning commitment for me; my plan is to continue working on my Welsh with the aim of becoming fluent.”

Stori ddysgwr: Mae dysgu’r iaith yn helpu Ailinor Evans deimlo’n rhan o’r gymuned
Learner’s story: Learning Welsh helps Ailinor Evans feel more integrated with her local community

Fe ddechreuodd Ailinor Evans, o Gilgerran, Sir Benfro, ddysgu’r Gymraeg dair blynedd ôl gan ei bod hi eisiau teimlo’n rhan o’r gymuned leol.Ailinor Evans, from Cilgerran in Pembrokeshire, started learning Welsh three years ago as she wanted to feel a part of her local community.
Magwyd Ali ar aelwyd ddi-Gymraeg yn yr ardal, a symudodd i ffwrdd yn 16 oed a cholli unrhyw Gymraeg roedd hi wedi dysgu fel plentyn. Pan symudodd yn ôl, ddeng mlynedd yn ddiweddarach, fe deimlodd ei bod hi eisiau ail-gydio yn yr iaith.Ali, who grew up in the area in a non-Welsh speaking family, moved away when she was 16 and lost any Welsh she had learnt when she was younger. It wasn’t until she moved back 10 years later that she felt the need to pick the language back up again.
Fodd bynnag, fel mam brysur, yn gweithio, doedd dim amser. Yn 2015 fe ddechreuodd weithio i’r Grŵp ateb (Cymdeithas Tai Sir Benfro gynt). Roedd y sefydliad yn cynnig gwersi Cymraeg rhad ac am ddim yn ystod yr awr ginio, ac fe ymunodd Ali â’r dosbarth.However, as a busy, working mother, the time never felt right. In 2015 she started working at the Pembrokeshire Housing Association, now called the ateb Group. The organisation offered free lunchtime Welsh classes, which Ali joined.
Cafodd Ali flas ar y dysgu a phenderfynodd ymuno â dosbarth nos er mwyn dysgu’n gynt. Safodd arholiad Canolradd yn yr haf, gyda’r bwriad o ddechrau cwrs Uwch, sydd ar gyfer dysgwyr profiadol.Ali soon found she wanted to progress more quickly and so began an evening class. She is taking her Canolradd/Intermediate exam this summer, with a view to following an Uwch/Advanced course, which is for experienced Welsh learners.
Meddai Ali: “Dw i bob amser wedi eisiau siarad Cymraeg yn rhugl ond ro’n i’n teimlo nad oedd gen i’r amser i wneud hynny. Pan ddechreuodd fy nghyflogwr gynnal gwersi Cymraeg yn yr ystafell drws nesaf i’m swyddfa, doedd dim esgus gen i.Ali says: “I have always wanted to be fluent in Welsh but felt I didn’t have the time to commit to it. When my employer introduced Welsh lessons held in the room next door to my office, I didn’t have an excuse any more.
“Dw i’n byw mewn cymuned wledig ble mae tua 60% o’r bobl yn siarad Cymraeg yn rhugl. Dw i bob amser wedi cael croeso, ond ro’n i’n awyddus i ddysgu cymaint o Gymraeg ag o’n i’n gallu er mwyn integreiddio yn llawn yn y gymuned. Mae’r mwyafrif o’n busnesau lleol, siopau, tafarndai a chaffis yn defnyddio’r Gymraeg a dw i wedi bod wrth fy modd yn cynnal sgwrs ac yn gwneud fy negeseuon pob dydd gyda’r hyder mod i’n gallu siarad Cymraeg.“I live in a rural community where about 60% of people speak fluent Welsh. I have never been made to feel unwelcome, but I was keen to learn as much Welsh as I could to be fully integrated in the community. The majority of our local businesses, shops, pubs and cafés operate in Welsh so I have loved being able to hold a conversation and go about my daily tasks with the confidence that I can speak in Welsh.
“Mae dysgu Cymraeg wedi bod o fudd yn y gwaith. Dw i’n ymwneud â thenantiaid ac mae’n dda eu bod nhw’n gallu siarad â fi yn Gymraeg os ydyn nhw’n teimlo’n fwy cyfforddus. Mae fy nghyflogwr wedi bod yn gefnogol o’m siwrne i ddysgu’r iaith ac yn rhoi amser i mi astudio a sefyll arholiadau.“Learning Welsh has also benefitted me at work. My role involves speaking to tenants and it’s nice that they can speak to me in Welsh if they feel more comfortable. My employer has been really supportive of my learning journey and allows me time to study and take exams.
“Baswn i’n annog unrhyw un sy’n ystyried dysgu Cymraeg i wneud hynny. Os nad dych chi eisiau ymroi i gwrs gyda’r nos, mae opsiynau eraill. Mae nifer o gymunedau lleol yn cynnal boreau coffi neu byddan nhw’n eich paru gyda mentor lleol i chi gwrdd a sgwrsio yn Gymraeg gyda’ch gilydd. Mae’r gymuned Gymraeg yn gefnogol dros ben ac yn annog dysgwyr gymaint ag sy’n bosibl.”“I would encourage anyone thinking about learning Welsh to do so. If you don’t want to commit to an evening course, there are other options to try. Many local communities hold coffee mornings or will team you up with a local mentor where you can meet up and chat in Welsh together. The Welsh language community is very supportive and will encourage learners as much as they can.”

dysgucymraeg.cymru / learncymraeg

https://learnwelsh.cymru/media/3303/final-nclw-annual-report-2017-18_web.pdf

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol- Adroddiad Blynyddol 2018