Veronica Calarco - Stiwdio Maelor

Veronica Calarco a Stiwdio Maelor: Ffeindio fy hunan yn dwy iaith: y Gymraeg a Kurnai, iaith Aboriginal o Awstralia / Finding myself in two languages: Welsh and Kurnai, an Aboriginal language from Australia

Yn Aprendices/Artículos

Artist o Awstralia ydy Veronica Calarco. Mi ddaeth hi gyntaf i Gymru yn 2004 am ddau fis gwyliau. Ar ôl bron i ddeng mlynedd byw rhwng Awstralia a Chymru, mae hi wedi llwyddo i ddod yn breswyl Prydeinig. Yn 2014, sefydlododd hi Stiwdio Maelor, rhaglen gelf breswyl yng Nghorris, ger Machynlleth. Yn 2015, dechreuodd ddoethdiriaeth, edrych ar ieithoedd mewn perygl ac ieithoedd lleiafrifol drwy i’r syniad o wlad. Ei llwyddiant mwyaf balch ydy ennill Lefel A yn y Gymraeg er ei bod yn ‘anobeithiol wrth ddysgu ieithoedd’.

Veronica Calarco is an Australian artist who first came to Wales in 2004 for a two month holiday. After nearly ten years of living between Australia and Wales, she managed to become a UK resident. In 2014 she established Stiwdio Maelor, an artist residency program in Corris, near Machynlleth, and in 2015 started a PhD looking at endangered and minority languages through the notion of country. Her proudest accomplishment is gaining an A Level in Welsh even though she is ‘hopeless at learning languages’.

Wunman njinde. Ngetal maktar Veronica Calarco

Dw i newydd eich cyfarch yn Kurnai, iaith Aboriginal o Awstralia.I have just greeted you in Kurnai, an Aboriginal language from Australia.
Yn anffodus, ddeng mlynedd yn ôl, do’n i ddim yn gwybod sut i ddweud y frawddeg fwyaf sylfaenol hon mewn iaith y dylwn i fod wedi dysgu fel plentyn. Mi ges i fy magu fel siaradwr Saesneg uniaith, yn East Gippsland, Victoria. Dros ddeng mlynedd yn ôl mi ddechreues i ddysgu Gymraeg, iaith nad oes gen i gysylltiad â hi. Doedd neb yn fy nheulu'n siarad Cymraeg, neu mae’n debyg ei fod hyd yn oed yn gwybod ei fod yn iaith fyw o hyd.Sadly, ten years ago I didn’t know how to say this most basic sentence in a language I should have learnt as a child. I grew up a monolingual English speaker, in East Gippsland, Victoria. Over 10 years ago I started learning Welsh, a language to which I have no connection. No one in my family spoke or speaks Welsh or probably even knew it was still a living language.
Ond dw i’n byw yng Nghymru rŵan, felly ro’n i’n meddwl dylwn i geisio dysgu mamiath y wlad ble dw i'n byw. Dw i wedi astudio ieithoedd o’r blaen ond Cymraeg oedd yr iaith gyntaf i mi barhau â hi, ac yn y pen draw, llwyddes i i ennill lefel A.But I live in Wales now so I thought I should attempt to learn the language of the country I am living in. I had studied languages before, but Welsh was the first language I continued with, finally gaining an A level.
Ond beth wnes i ei ddarganfod wrth ddysgu Cymraeg ydy nad dim ond cofio geiriau a gramadeg ydy dysgu iaith – byddwch hefyd yn dysgu hanes a diwylliant yr iaith honno, ffordd wahanol o feddwl a chyfathrebu. Efo Cymraeg dysges i hanes ymgais i gadw iaith yn fyw. Darllennes i am y grwpiau o bobl yn protestio, oedd yn barod i fynd i’r carchar am eu hiaith. Dyna oedd pobl yn siarad am eu synnwyr o hiraeth – hiraeth am eu diwylliant, eu hiaith, eu cartref efo synnwyr o frwdfrydedd cenedlaethol nad oes gan y rhan fwyaf ohonom sy’n dioddef hiraeth.But what I discovered in learning Welsh is that learning a language doesn’t only teach you words and grammar - you also learn the history and culture of that language, a different way of thinking and communicating. With Welsh I learnt the history of an attempt to keep a language alive. Of groups of people protesting, being willing to go to jail for their language. Of people speaking of their sense of hiraeth – a longing for their culture, their language, their home with a sense of national fervour that most of us who suffer homesickness don’t have.
Yr artist o Gymru, Tim Davies, ydy’r plentyn cyntaf yn ei deulu i beidio â siarad Cymraeg ac mae’r artist o Awstralia Judy Watson yn honni bod hi’n gallu siarad darnau o sawl iaith Ewropeaidd ond nad ydy’n gwybod ei hiaith ei hun – yr iaith a siaradodd ei rhieni a’u rhieni. Iaith ei gwlad.Welsh artist Tim Davies is the first child in his family to not speak Welsh and Australian artist Judy Watson laments that though she can speak bits of several European languages but she doesn’t know her own language - the language that her parents and their parents spoke. The language of her country.
Dw i, hefyd, yn yr un sefyllfa. Dwi ddim yn gallu siarad iaith gwlad fy ngeni. Fel cyfran fawr o Awstraliaid yn tyfu lan yn y saithdegau a’r wythdegau, ro’n i’n diodde’ o amnesia gwyn. Does ‘na ddim cysylltiad bellach â’r tir lle ces i fy ngeni, â’r bobl a oedd wedi llunio’r tir, ag iaith y tir hwnnw. Mi benderfynes i y dylwn i ddysgu Kurnai.I, too, am in the same position. I cannot speak the language of the country of my birth. Like a big proportion of Australians growing up in the seventies and the eighties I suffered white amnesia. There was no longer a connection to the land where I was born, to the people who had shaped the land, to the language of that land. I decided I should learn Kurnai.
Ond i ddysgu Kurnai, allwn i ddim mynd i ddosbarthiadau. Allwn i ddim prynu llyfrau ‘sut i ddysgu’,' 'chwaith. Dydyn nhw ddim yn bodoli ar gyfer ieithoedd sydd ar fin diflannu. Fellyyn hytrach na dysgu iaith yn unig roedd rhaid i mi ddod o hyd i’r iaith. Roedd rhaid i mi fynd i lyfrgell talaith Victoria, i chwilota am dyddiaduron a llyfrau a allai gynnwys ychydig o eiriau.But to learn Kurnai I couldn’t go to classes, or buy how-to-learn books. They don’t exist for languages that are on the verge of extinction. So instead of just learning a language I had to find the language. I had to go to the Victorian State library, dig out obscure diaries and books that might contain a few words.
Ond unwaith y gweles y geiriau, fe sylweddoles mai dim ond llythyrau ar ddudalen oedden nhw. Roedd arna i angen 'neud rhywbeth efo’r geiriau tu hwnt i’w dysgu. Felly dechreues i’r broses o gyfieithu’r geiriau i’r Gymraeg a’u delweddu. Sail y gwaith ar gyfer fy noethuriaeth yw'r broses hon, fydd yn y pen draw yn arwain at arddangosfa yn yr Ysgol Celf yn Aberystwyth yn 2020.But once I found the words I realised they were just letters on a page. I needed to do something with the words beyond just learning them. So began the process of translating the words into Welsh and visualising them. This process forms the basis of my PhD work and will eventually result in an exhibition to be held at the School of Art in Aberystwyth in 2020.
Mae’r prosiect wedi’i rannu’n bedair adran – Enwi, Geiriau, Chwedlau a Sain. Mae pob adran yn golygu cyfieithu geiriau o’r Gymraeg i Kurnai a rhoi’r geiriau mewn cyd-destun. Fel gwneuthurwraig printiau’r dewis amlwg oedd creu print ar gyfer pob gair, i wneud i’r geiriau ddod yn fyw fel y gallen nhw ddod yn fwy na grŵp o lythyrau yn cynrychioli synau anghyfarwydd yn unig. Yn araf wrth i mi greu delwedd ar gyfer pob gair, mae’r gair yn dod yn rhan o’m geirfa, rhan ohonof.The project has been divided into four sections – Naming, Words, Myths and Sound. Each section involves translating words from Welsh to Kurnai and putting the words into a context. As a printmaker the obvious choice was to create a print for each word, to make the words come alive so that they were no longer just a group of letters representing unfamiliar sounds. Slowly as I create an image for each word, the word becomes part of my lexicon, part of me.
Dw i'n defnyddio y broses argraffu o'r enw lithograffeg i greu'r delweddau hyn. Mae lithograffeg yn dechneg gwneud printiau sy'n cymryd llawer o amser ac sy'n dasg anodd iawn o ran gwaith corfforol am ei bod yn golygu tynnu ar garreg drwm iawn. Fel arfer yn y Gymraeg, dyn ni'n dweud 'tynnu llun' ar gyfer 'to draw,' ymadrodd sy'n cyfateb i 'to pull a picture' yn Saesneg. Gyda phob un o'r delweddau a wna i drwy greu print lithograffeg, mae'n teimlo fel 'swn i'n ‘tynnu llun’ yn llythrennol!I use the printing process lithography to create these images. Lithography is a time-consuming and very physically challenging printmaking technique which works by drawing on a very heavy stone. Usually in Welsh, we say "tynnu llun" for "to draw," that is, "to pull a picture.", which literally translated is ‘pulling a picture’. Each image I make through creating a lithographic print feels like I’m literally ‘pulling a picture’.

Beth wnes i ei ddarganfod wrth ddysgu Cymraeg ydy nad dim ond cofio geiriau a gramadeg ydy dysgu iaith – byddwch hefyd yn dysgu hanes a diwylliant yr iaith honno, ffordd wahanol o feddwl a chyfathrebu