Top 10 Arwyr Chwaraeon

Arwyr Chwaraeon o Gymru / Sporting Heroes from Wales: Top 10

Mae Cymru wedi cynhyrchu llawer o chwaraewyr sy’n adnabyddus yn rhyngwladol mewn amrywiaeth o chwaraeon gwahanol; maen nhw i gyd wedi bod yn llwyddiannus dros ben.

Wales has produced many sports stars who are known internationally in a variety of different sports; they have all been extremely successful.

Gan / By Lydia Hobbs

Colin Jackson CBE

Rhedwr pellter byr yw Colin Ray Jackson. Cafodd e ei eni yng Nghaerdydd ar 18 Chwefror 1967. Mae e’n enwog am fod yn neidiwr clwydi 110m. Cynrychiolai e Gymru a Phrydain Fawr a chafodd e yrfa lwyddiannus dros ben. Yn ystod ei yrfa, roedd e’n bencampwr dwbl y byd, pencampwr Ewropeaidd pedair gwaith, bencampwr y Gymanwlad dwywaith ac enillodd e fedal arian yng Ngemau’r Olympaidd. Hefyd, roedd ei record byd yn sefyll am dair blynedd ar ddeg. Ymddeolodd e yn 2003 a nawr mae e’n gweithio fel sylwebydd chwaraeon a chyflwynydd teledu.

Colin Jackson

Colin Ray Jackson is a short distance runner. He was born in Cardiff on February 18th 1967. He is famous for being a 110m hurdler. He represented Wales and Great Britain and he had an extremely successful career. During his career, he was a double world champion, a four-time European champion, Commonwealth champion twice and he won a silver medal at the Olympic games. Also, his world record stood for thirteen years. He retired in 2003 and now he is working as a sports commentator and television presenter.


Elinor Barker MBE

Seiclwraig broffesiynol yw Elinor Jane Barker. Cafodd hi ei geni ar 7 Medi 1994 yng Nghaerdydd. Ar hyn o bryd, mae hi’n seiclo ar y trac dros ‘Feicio Cymru’ a Phrydain Fawr. Hefyd, mae hi’n seiclo ar y ffordd dros Wiggle High5. Mae Elinor Barker yn bencampwraig Olympaidd, pencampwraig ddwbl y byd a phencampwraig Ewropeaidd tair gwaith yn y ras ymlid tîm. Yn ogystal â hyn, mae hi wedi bod yn bencampwraig y byd a phencampwraig y Gymanwlad yn y ras bwyntiau.

Elinor Barker

Elinor Jane Barker is a professional cyclist. She was born on 7th September 1994 in Cardiff. Currently, she cycles on the track for ‘Welsh Cycling’ and Great Britain. Also, she cycles on the road for Wiggle High5. Elinor Barker is an Olympic champion, double world champion and three-time European champion in the team pursuit race. In addition to this, she has also been world champion and Commonwealth champion in the points race.


Gareth Bale

Pêl-droediwr proffesiynol yw Gareth Frank Bale. Cafodd e ei eni ar 16 Gorffennaf 1989 yng Nghaerdydd. Mae e nawr yn enwog iawn ar draws y byd i gyd. Fe yw’r chwaraewr pêl-droed drutaf erioed. Yn 2013, trosglwyddodd Gareth Bale i Real Madrid am ffi trosglwyddo record byd o ychydig dros €100 miliwn. Mae e hefyd yn chwarae dros Gymru yn rhyngwladol. Roedd e’n rhan o dîm Cymru yn UEFA Euro 2016 a chyrhaeddon nhw’r rownd derfynol. Fe yw’r chwaraewr sydd wedi sgorio’r nifer uchaf o goliau dros Gymru. Hefyd, mae e wedi sgorio’r gôl fuddugol ddwywaith yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr.

Gareth Bale

Gareth Frank Bale is a professional footballer. He was born on the 16th July 1989 in Cardiff. He is now very famous across the whole world. He is the most expensive football player ever. In 2013, Gareth Bale transferred to Real Madrid for a world record transfer fee of a little over €100 million. He also plays internationally for Wales. He was part of the Welsh team at UEFA Euro 2016 and they reached the semi-final. He is the player who has scored the most goals for Wales. Also, he has scored the winning goal at the Champions League final twice.


Geraint Thomas MBE

Seiclwr proffesiynol yw Geraint Howell Thomas. Cafodd ei eni ar 25 Mai 1986 yng Nghaerdydd. Roedd e’n arfer gwneud trac seiclo cyn symud i seiclo ar y ffordd. Mae e nawr yn seiclo dros ‘Tîm Sky’, Cymru a Phrydain Fawr. Mae e wedi bod yn llwyddiannus dros ben hyd yn hyn yn ei yrfa. Mae Geraint Thomas wedi ennill Pencampwriaethau’r Byd tair gwaith ac mae e wedi ennill dwy fedal aur yng ngemau’r Olympaidd hefyd. Yn ystod haf 2018, daeth Geraint y Cymro cyntaf i ennill y Tour de France, hyn yw un o gyflawniadau mwyaf ac anoddaf mewn chwaraeon.

Geraint Thomas

Geraint Howell Thomas is a professional cyclist. He was born on 25th May 1986 in Cardiff. He used to do track cycling before moving to road cycling. He now cycles for ‘Team Sky’, Wales and Great Britain. He has been extremely successful so far in his career. Geraint Thomas has won the World Championships three times and he has also won two Olympic gold medals. During the summer of 2018, Geraint Thomas became the first Welshman to win the Tour de France, which is one of the greatest and toughest achievements in sport.


Helen Jenkins

Triathletwraig lwyddiannus iawn yw Helen Rebecca Jenkins (nee Tucker). Cafodd hi ei geni ar 8 Mawrth 1984 yn Yr Alban, ond cafodd hi ei magu ym Mhen-Y-Bont, Cymru. Dadleuir taw hi yw’r triathletwraig orau erioed o Brydain Fawr! Mae Helen Jenkins wedi ennill Pencampwriaethau’r Byd tair gwaith yn ystod ei gyrfa. Cynrychiolodd hi Brydain Fawr yng ngemau’r Olympaidd 2008 yn Beijing ac eto yng ngemau’r Olympaidd yn 2012 yn Llundain. Daeth yn bumed yn Llundain. Mae hi hefyd wedi ennill neu fod yn agos iawn i ennill mewn nifer o ddigwyddiadau elitaidd eraill dros y blynyddoedd.

Helen Jenkins

Helen Rebecca Jenkins (nee Tucker) is a very successful triathlete. She was born on 8th March 1984 in Scotland, but she was raised in Bridgend, Wales. It is argued that she is the best ever female triathlete from Great Britain. Helen Jenkins has won the World Championships three times during her career. She represented Great Britain at the 2008 Olympic games in Beijing and again at the Olympic games in 2012 in London. She came fifth in London. She has also won or been very close to winning in a number of other elite events over the years.


Jade Jones MBE

Athletwraig daekwondo yw Jade Louise Jones. Cafodd hi ei geni ar 21 Mawrth 1993 ym Moleddwyddan yng Ngogledd Cymru. Pan oedd hi’n 19 oed, gwnaeth Jade Jones hanes trwy ddod yn yr athletwr Taekwondo cyntaf erioed o Brydain Fawr i ennill aur yng Ngemau’r Olympaidd 2012 yn Llundain. Enillodd hi fedal aur eto yng Ngemau’r Olympaidd yn 2016. Yn ogystal â hyn, mae hi wedi ennill teitl y Gymanwlad ac aur ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd.

Jade Jones

Jade Louise Jones is a taekwondo athlete. She was born on 21st March 1993 in Boleddwyddan in North Wales. When she was 19 years old, she made history when she became the the first ever Taekwondo athlete from Great Britain to win gold at the 2012 Olympic Games in London. She won a gold medal again at the Olympic Games in 2016. In addition to this, she has also won a Commonwealth title and a European Championship gold.


Mark Williams MBE

Chwaraewr snwcer proffesiynol yw Mark James Williams. Cafodd e ei eni yn Ebbw Vale ar 21 Mawrth 1975. Mae e wedi bod yn bencampwr y byd tair gwaith. Enillodd Bencampwriaeth y Byd yn 2018 yn 43 oed, trwy gynhyrchu’r snwcer gorau o'i yrfa. Mae fe hefyd wedi bod rhif un yn y byd am dri thymor yn ystod ei yrfa. Hefyd, mae e wedi ennill y Goron Driphlyg o dlysau snwcer yn yr un flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys Pencampwriaeth y Byd, Pencampwriaeth y DU a'r Meistr. Dim ond dau chwaraewr arall sydd wedi llwyddo i wneud hyn erioed.

Mark WIlliams

Mark James Williams is a professional snooker player. He was born in Ebbw Vale on 21st March 1975. He has been world champion three times. He won the World Championship in 2018 at 43 years old, producing the best snooker of his career. He has also been number one in the world for three seasons during his career. Also, he has won the Triple Crown of snooker trophies in the same year. This includes the World Championship, the UK Championship and the Masters. Only two other players have ever succeeded to do this.


Nicole Cooke MBE

Seiclwraig broffesiynol yw Nicole Denise Cooke. Cafodd hi ei geni ar 13 Ebrill 1983 yn Abertawe a chafodd hi ei magu ym Mro Morgannwg. Enillodd Nicole Cooke fedal aur yng Ngemau’r Olympaidd yn 2008 yn Beijing. Chwe wythnos ar ôl hynny, enillodd hi bencampwriaeth y byd. Hwn oedd y tro cyntaf i rywun ennill y ras ffordd Pencampwriaeth Olympaidd a Byd yn yr un flwyddyn. Mae hi wedi mynd ymlaen i ennill llawer o rasys eraill hefyd. Cyhoeddodd Nicole Cooke ei hymddeoliad o seiclo ar 14 Ionawr 2013, yn 29 oed.

Nicole Cooke

Nicole Denise Cooke is a professional cyclist. She was born on 13th April 1983 in Swansea and she grew up in the Vale of Glamorgan. Nicole Cooke won a gold medal at the Olympic games in 2008 in Beijing. Six weeks after that, she won the world championships. This was the first time that someone had won the Olympic and World championships in the same year. She went on to win lots of other races too. Nicole Cooke announced her retirement from cycling on 14th January 2013, aged 29.


Sam Warburton OBE

Chwaraewr rygbi rhyngwladol dros Gymru yw Sam Kennedy-Warburton. Cafodd e ei eni yng Nghaerdydd ar 5 Hydref 1988. Aeth e i’r un ysgol â Gareth Bale a Geraint Thomas, sef Ysgol Uwchradd Yr Eglwys Newydd, Caerdydd. Enillodd Sam Warburton ei gap uwch gyntaf dros Gymru yn 2009. Aeth e ymlaen i fod yn gapten Cymru a gwnaeth e fwy na 90 o ymddangosiadau dros Gymru yn ystod ei yrfa. Yn 2013 a 2017, roedd Sam Warburton yn gapten ar deithiau Llewod Prydain ac Iwerddon. Cyhoeddwyd ei ymddeoliad o rygbi ym mis Gorffennaf 2018.

Sam Warburton

Sam Kennedy-Warburton is a Welsh international rugby player. He was born in Cardiff on 5th October 1988. He went to the same school as Gareth Bale and Geraint Thomas, namely Whitchurch High School, Cardiff. Sam Warburton gained his fist senior cap for Wales in 2009. He went on to be Welsh captain and he made more than 90 appearances for Wales during his career. In 2013 and 2017, Sam Warburton was captain for the British and Irish Lions tours. His retirement from rugby was announced in July 2018.


Baroness Tanni Grey-Thompson DBE

Athletwraig gadair olwyn yw Carys Davina Grey-Thompson (Tanni Grey-Thompson). Cafodd hi ei geni ar 26 Gorffennaf 1969 yng Nghaerdydd. Hi yw un o’r athletwyr Paralympaidd mwyaf llwyddiannus yn y byd. Enillodd Tanni Grey-Thompson 16 o fedalau yng ngemau’r Paralympaidd rhwng 1988 a 2004 am ddigwyddiadau trac cadeiriau olwyn, gan gynnwys 10 medal aur. Hefyd, enillodd hi bencampwriaethau’r byd ddwywaith. Yn ogystal â hyn, mae hi hefyd wedi ennill Marathon Llundain chwe gwaith. Ers iddi ymddeol yn 2007, mae hi wedi bod yn cyflwyno rhaglenni chwaraeon ar y teledu.

Tanni Grey-Thompson

Carys Davina Grey-Thompson (Tanni Grey-Thompson) is a wheelchair athlete. She was born on 26th July 1969 in Cardiff. She is one of the most successful Paralympic athletes in the world. Tanni Grey-Thompson won 16 medals at the Paralympic games between 1988 and 2004 for wheelchair track events, including 10 gold medals. Also, she won the world championships twice. In addition to this, she has also won the London Marathon six times. Since she retired in 2007, she has been presenting sports programmes on the television.

Y diweddaraf oddi wrth Hwyl

About Wales

About Wales

What are some common symbols used to represent Wales, and why are