Actorion o Gymru

Actorion o Gymru / Actors from Wales: Top 10

Mae nifer o actorion talentog sy’n dod o Gymru, sydd wedi ymddangos mewn amrywiaeth o raglenni a ffilmiau poblogaidd. Maen nhw yn Saesneg ac yn Gymraeg a ffilmiwyd yn America ac yn y Deyrnas Unedig.

There are a number of talented actors who come from Wales who appeared in a variety of popular programmes and films. They are in English and in Welsh and they were filmed in America and in the United Kingdom.

Gan / By Lydia Hobbs

 Sir Anthony Hopkins CBE

Actor o Fargam yw Anthony Hopkins. Mae e’n enwog am iddo chwarae Dr. Hannibal Lecter yn y ffilm The Silence of the Lambs yn 1991. Yn 2001, ymddangosodd e fel Hannibal Lecter eto, y prif gymeriad yn y ffilm Hannibal. Hefyd, chwaraeodd Anthony Hopkins Burt Munro yn y ffilm The World’s Fastest Indian. Yn ogystal â hyn, portreadodd e Alfred Hitchcock yn y ffilm Hitchcock yn 2012. Mae e wedi ymddangos mewn llawer o ffilmau a rhaglenni eraill hefyd. Mae e wedi cael nifer o enwebiadau a gwobrau yn ei yrfa. Hefyd, derbyniodd e CBE yn 1987 a fe'i gwnaed yn ‘Syr’ yn 1993 am ei wasanaethau i’r celfyddydau.

Anthony Hopkins

Anthony Hopkins is an actor from Margam. He is famous for playing Dr. Hannibal Lecter in the film The Silence of the Lambs in 1991. In 2001 he appeared as Hannibal Lecter again, the main character in the film Hannibal. Also, Anthony Hopkins played Burt Munro in the film The World’s Fastest Indian. In addition to this, he portrayed Alfred Hitchcock in the film Hitchcock in 2012. He has also appeared in many other films and programmes. He has had a number of nominations and awards in his career. Also, he received a CBE in 1987 and he was made a ‘Sir’ in 1993 for his services to the arts.


Christian Bale

Actor o Hwlffordd yn Sir Benfro yw Christian Bale. Mae e’n chwarae Bruce Wayne/Batman yn y ffilm Batman Begins. Mae e’n ymddangos fel Bruce Wayne eto yn y ffilm The Dark Knight. Yn 2010, chwaraeodd Christian Bale y rhan o Dicky Eklund yn y ffilm o’r enw The Fighter. Yn 2013, ymddangosodd Christian Bale fel y prif gymeriad, sef Irving Rosenfeld, yn y ffilm American Hustle. Mae e wedi cael gyrfa actio lwyddiannus dros ben hyd yn hyn ac mae e wedi ennill sawl gwobr wahanol dros y blynyddoedd.

Christian Bale

Christian Bale is an actor from Haverfordwest in Pembrokeshire. He plays Bruce Wayne/Batman in the film Batman Begins. He appears as Bruce Wayne again in the film The Dark Knight. In 2010, Christian Bale played the part of Dicky Eklund in the film called The Fighter. In 2013, Christian Bale appeared as the main character, Irving Rosenfeld, in the film American Hustle. He has had an extremely successful acting career so far and he has won many different awards over the years.


Ioan Gruffudd

Actor o Gymru yw Ioan Gruffudd, sydd yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Mae e wedi ymddangos mewn llawer iawn o raglenni a ffilmiau gwahanol dros y blynyddoedd. Er enghraifft, yn ddiweddar mae e’n serennu yn y gyfres deledu Liar fel un o’r prif gymeriadau, Andrew Earlham. Mae e hefyd yn chwarae un o’r prif rannau yn y gyfres Harrow am ei fod yn portreadu Dr. Daniel Harrow. Yn 2014 a 2015, chwaraeodd e Henry Morgan yn y gyfres o’r enw Forever. Yn ogystal â hyn i gyd, gwelwyd Ioan Gruffudd ar y sgrin sawl gwaith arall yn ystod ei yrfa lwyddiannus dros ben.

Ioan Gruffudd

Ioan Gruffudd is an actor from Wales, who speaks Welsh as his first language. He has appeared in loads of different programmes and films over the years. For example, recently he is starring in the television series Liar as one of the main characters, Andrew Earlham. He also plays one of the main parts in the series Harrow because he portrays Dr. Daniel Harrow. In 2014 and 2015 he played Henry Morgan in the series called Forever. In addition to all of this, Ioan Gruffudd has been seen on the screen many other times during his extremely successful career.


Mark Lewis Jones

Actor Cymraeg o Rosllannerchrugog yw Mark Lewis Jones. Mae e wedi gyrfa prysur iawn hyd yn hyn a ddechreuodd yn 1985. Mae Mark Lewis Jones yn enwog iawn am chwarae Rob Morgan yn Stella ar Sky One. Mae llawer o bobl yn hoff iawn o’i gymeriad yn y gyfres hon. Rhwng 2016 a 2018, ymddangosodd yn nrama wleidyddol S4C Byw Celwydd fel Dylan Williams, un o’r cymeriadau rheolaidd. Hefyd, mae e’n chwarae Steve Baldini yn y gyfres Keeping Faith/Un Bore Mercher. Mae rhai o’i waith arall yn cynnwys Apostle, Star Wars: Episode VIII – The Last Jedi, National Treasure, Game of Thrones a llawer mwy.

Mark Lewis Jones

Mark Lewis Jones is a Welsh speaking actor from Rhosllannerchrugog. He has had a very busy career so far which started in 1985. Mark Lewis Jones is very famous for playing Rob Morgan in Stella on Sky One. Lots of people are very fond of his character in this series. Between 2016 and 2018 he appeared in S4C’s political drama Byw Celwydd as Dylan Williams, one of the regular characters. Also, he plays Steve Baldini in the series Keeping Faith/Un Bore Mercher. Some of his other work includes Apostle, Star Wars: Episode VIII – The Last Jedi, National Treasure, Games of Thrones and lots more.


Matthew Gravelle

Actor o Borthcawl yw Matthew Gravelle, ac mae e’n briod â’r actores Mali Harries. Chwaraeodd e Rhys yn y ffilm Patagonia yn 2010. Yn 2014, ymddangosodd e fel Patricia yn y gyfres gyntaf o ddrama S4C 35 Diwrnod. Mae e’n enwog am chwarae’r rhan o Joe Miller, gŵr cymeriad Olivia Coleman, ar y rhaglen boblogaidd Broadchurch. Mae Matthew Gravelle hefyd wedi portreadu Harri James yn y ddrama wleidyddol Byw Celwydd ar S4C.  Mae e’n chwarae Terry Price yn y gyfres boblogaidd iawn Keeping Faith/Un Bore Mercher. Gwelwyd Matthew Gravelle mewn sawl rhaglen arall hefyd.

Matthew Gravelle

Matthew Gravelle is an actor from Porthcawl, and he is married to the actress Mali Harries. He played Rhys in the film Patagonia in 2010. In 2014 he appeared as Patricia in the first series of S4C’s drama 35 Diwrnod. He is famous for playing the part of Joe Miller, the husband of Olivia Coleman’s character, on the famous programme Broadchurch. Matthew Gravelle also portrays Harri James in the political drama Byw Celwydd on S4C. He plays Terry Price in the very popular series Keeping Faith/Un Bore Mercher. Matthew Gravelle has been seen in many other programmes too.


Matthew Rhys

Actor yw Matthew Rhys a ganwyd yng Nghaerdydd. Rhwng 2006 a 2011, ymddangosodd e fel Kevin Walker yn y gyfres deledu Brothers & Sisters. Mae e’n enwog achos ei fod wedi bod yn chwarae Philip Jennings yn y gyfres The Americans ers 2013. Ymddangosodd e yn y ffilm o’r enw Burnt yn 2015. Mae e hefyd yn chwarae rhan yn y ffilm The Post a ddaeth mas yn 2017. Mae llawer o waith arall ganddo fe hefyd. Yn ystod ei yrfa, mae e wedi’i enwebu am sawl wobr. Y llynedd, enillodd e Wobr Emmy am Brif Actor Eithriadol mewn Cyfres Ddrama am ei rôl yn The Americans.

Matthew Rhys

Matthew Rhys is an actor who was born in Cardiff. Between 2006 and 2011, he appeared as Kevin Walker in the television series Brothers & Sisters. He is famous because he has been playing Phillip Jennings in the series The Americans since 2013. He appeared in the film called Burnt in 2015. He also plays a part in the film The Post which came out in 2017. There is a lot of other work by him too. During his career, he has been nominated for several awards. Last year, he won an Emmy Award for Outstanding Actor in a Drama Series for his role in The Americans.


Michael Sheen OBE

Actor o Gasnewydd yw Michael Sheen OBE. Mae e wedi ymddangos mewn nifer o raglenni a ffilmiau hyd yn hyn yn ei yrfa. Er enghraifft, yn 2006, chwaraeodd e Tony Blair yn y ffilm The Queen. Mae e hefyd yn enwog am serenu fel David Frost, un o’r prif gymeriadau, yn y ffilm Frost/Nixon. Ymddangosodd e yn y ffilm Midnight in Paris fel y cymeriad Paul a ddaeth mas yn 2011. Roedd e hefyd yn chwarae’r rhan o Dr. Williams Masters yn y gyfres deledu Masters of Sex rhwng 2013 a 2016. Yn 2018, ymddangosodd e yn y ffilm To Provide All People er mwyn dathlu penblwydd y NHS yn 70. Mae e wedi ymddangos m ewn sawl rhaglen a ffilm arall hefyd.

Michael Sheen

Michael Sheen OBE is an actor from Newport. He has appeared in a number of programmes and films so far in his career. For example, in 2006, he played Tony Blair in the film The Queen. He is also famous for starring as David Frost, one of the main characters, in the film Frost/Nixon. He appeared in the film Midnight in Paris as the character Paul which came out in 2011. He also played the part of Dr. Williams Masters in the television series Masters of Sex between 2013 and 2016. In 2018, he appeared in the film To Provide All People in order to celebrate the NHS’ 70th birthday. He has appeared in several other films and programmes too.


Richard Burton CBE

Actor o Bontrhydyfen ger Port Talbot oedd Richard Burton. Gwelwyd Richard Burton mewn llawer iawn o ffilmiau yn ystod ei yrfa, tan ei farwolaeth yn 1984. Er enghraifft, ym 1964 chwaraeodd y prif gymeriad yn y ffilm Becket. Chwaraeodd Richard Burton y prif rôl yn y ffilm The Spy Who Came in from the Cold a ddaeth mas yn 1965. Yn 1966, ymddangosodd e yn y ffilm Who’s Afraid of Virginia Woolf? fel Alec Leamas. Yn 1984, roedd e yn y ffilm 1984 yn chwarae O’Brien. Roedd e wedi’i enwebu am lawer o wobrau dros y blynyddoedd ac roedd e wedi ennill nifer ohonyn nhw hefyd.

Richard Burton

Richard Burton was an actor from Pontrhydyfen near Port Talbort. Richard Burton was seen in many films during his career, until his death in 1984. For example, in 1964 he played the main character in the film Becket. Richard Burton played the main role in the film The Spy Who Came in from the Cold which came out in 1965. In 1966, he appeared in the film Who’s Afraid of Virginia Woolf? as Alec Leamas. In 1984, he was in the film 1984 playing O’Brien. He had been nominated for lots of awards over the years and he won a number of them too.


Richard Harrington

Actor o Ferthyr Tudful yw Richard Harrington. Mae Richard wedi dysgu Cymraeg fel ail iaith, mae e’n dod o deulu di-gymraeg ond aeth e i ysgol gyfrwng Gymraeg. Rhwng 2013 a 2016 ymddangosodd fel DCI Tom Mathias, y prif rôl, yn Y Gwyll/Hinterland. Yn 2015, enillodd e wobr BAFTA Cymru am ei rôl fel DCI Mathias. Mae Richard Harrington wedi ymddangos mewn sawl rhaglen arall yn ystod ei yrfa hefyd, gan gynnwys Silent Witness, Holby Blue, Lark Rise to Candleford, Poldark a Requiem. Ym mis Ebrill 2017, cyflwynodd e raglen ar BBC Two Wales o’r enw Richard Harrington: My Grandfather’s War. Dilynodd y daith a wnaeth ei dad-cu trwy Sbaen yn 1937 er mwyn ymladd yn erbyn ffasgiaeth yn Rhyfel Cartref Sbaen.

Richard Harrington

Richard Harrington is an actor from Merthyr Tydfil. Richard has learnt Welsh as a second language, he comes from a non-Welsh speaking family, but he went to a Welsh medium school. Between 2013 and 2016, he appeared as DCI Tom Mathias, the main role, in Y Gwyll/Hinterland. In 2015 he won a BAFTA Cymru award for his role as DCI Mathias. Richard Harrington has appeared in many other programmes during his career too, including Silent Witness, Holby Blue, Lark Rise to Candleford, Poldark and Requiem. In April 2017, he presented a programme on BBC Two Wales called Richard Harrington: My Grandfather’s War. He followed the journey that his grandfather made through Spain in 1937 in order to fight against fascism in the Spanish Civil War.


Rob Brydon MBE

Actor, digrifwr a chyflwynydd teledu o Faglan, Sir Forgannwg yw Rob Brydon. Mae Rob Brydon yn enwog iawn am chwarae Uncle Bryn mewn tair cyfres o’r comedi gan y BBC, Gavin & Stacey rhwng 2007 a 2010. Mae e wedi ymddangos ar lawer o raglenni eraill hefyd. Er enghraifft, yn 2005 chwaraeodd e Dr Paul Hamilton yn y gyfres Supernova. Hefyd, ymddangosodd yn Marion & Geoff yn 2000. A Cock and Bull Story yn 2005 a The Trip yn 2010.  Ers 2009, mae e wedi cyflwyno’r sioe Would I Lie to You? Ar BBC One.

Rob Brydon

Rob Brydon is an actor, comedian and television presenter from Baglan, Glamorgan. Rob Brydon is very famous for playing Uncle Bryn in three series of the comedy by the BBC, Gavin & Stacey between 2007 and 2010. He has also appeared on lots of other programmes too. For example, in 2005 he played Dr Paul Hamilton in the series Supernova. Also, he appeared in Marion & Geoff in 2000, A Cock and Bull Story in 2005 and The Trip in 2010. Since 2009, he has presented the show Would I Lie to You? On BBC One.

Y diweddaraf oddi wrth Hwyl

About Wales

About Wales

What are some common symbols used to represent Wales, and why are