Sut all dysgwyr gyfrannu at fywyd Cymry Cymraeg

Gweithgaredd yn Shw’mae Caerdydd: Sut all dysgwyr gyfrannu at fywyd Cymry Cymraeg? / How can learners contribute to Welsh-speaking life?

Yn Dysgwyr/Erthyglau

Weithiau, fel dysgwyr dyn ni’n gallu meddwl ei fod yn anodd cyfrannu i fyd y Cymry Cymraeg. Yma, mae Neil Rowlands a chyfranwyr i’r cylchgrawn digidol parallel.cymru yn siarad am eu gwaith ac yn cynnig awgrymiadau a chyngor.

Sometimes, as learners we can think it is difficult to contribute to the Welsh-speaking world. Here, Neil Rowlands and contributors to the digital magazine parallel.cymru speak about their work and give tips and advice.

Parallel.cymru Shwmae Caerdydd 2018-08-05

Presenting this talk at Shw’mae Caerdydd (Maes D) in the National Eisteddfod August 2018 (Patrick, Peter, Nicky, Sam, Neil & Dani)

Dani Schlick

Aelod o gymuned leol ac wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2017
Sut all dysgwyr Cymraeg gyfrannu at fywyd Cymraeg? – Ymhob ffordd bosibl fel pobl sydd yn cyfrannu at fywyd pobl a chymunedau.How can Welsh learners contribute to Welsh-speaking life? – In any possible way as people who contribute to life in communities.
Beth bynnag sydd yn digwydd yn y Gymraeg mewn unrhyw gyd-destun a dach chi’n rhan o’r digwyddiad – boed yn y gymuned, yn y gwaith neu yn eich amser sbâr – dach chi'n cyfrannu at fywyd Cymraeg.Whatever event in the Welsh language in any context – if you are a part of the event – in the community, at work or in your spare time – you are contributing to Welsh-speaking life.
Enghraifft wych ydy Siân, un o fy ffrindiau o’r dosbarth Cymraeg, sydd yn gweithio fel ffisiotherapydd yn Ysbyty Alltwen Porthmadog. Dechreuodd hi ddysgu’r Gymraeg achos bod hi – yn Gymraes – isio siarad hen iaith ei gwlad a thrin cleifion yn eu hiaith nhw. Yn ei gwaith mae hi’n mynd i gartrefi cleifion yr ardal, sef Porthmadog, Beddgelert a Blaenau Ffestiniog – ardal Gymraeg iawn. Er mwyn i’r cleifion deimlo'n fwy cyfforddus mae hi’n bwysig iawn siarad eu hiaith gyntaf efo nhw. Mae cleifion Siân yn gwerthfawrogi hyn yn fawr. Ac fel bonws bach mae Siân yn dysgu cymaint am iaith yr ardal ac mae hi bellach yn siarad “iaith y brodorion”.A great example is Siân, a friend from my Welsh class, who works as a physiotherarpist in Ysbyty Alltwen in Porthmadog. She started learning Welsh because she – being Welsh – wanted to speak the language of her country and treat patients in their language. In her work she goes to the patients’ homes, in the area around Porthmadog, Beddgelert and Blaenau Ffestiniog – a very Welsh speaking area. To make patients feel more comfortable it is important to speak their first language with them. Siân’s patients appreciate this a lot. And as a little bonus Siân learns a lot about the language of the area. She already speaks the “native language”.
Rydw innau’n siarad Cymraeg ym mhob cyd-destun posibl – efo cydweithwyr yn y gwaith ac wrth gwrs yn fy amser sbâr. Braint a phleser mawr oedd bod yn rhan o gôr yr Eisteddfod yn Ynys Môn 2017 – côr Cymry Cymraeg gan fwyaf. Roedd yna rai pobl yn y côr oedd yn fy nabod i, ond ddudes i ddim gair wrth neb arall mai dysgwraig Gymraeg ydw i – siarad Cymraeg efo pawb wnes i o’r cychwyn cyntaf. Ella bod aelodau’r côr wedi amau nid siaradwraig iaith gyntaf ydw i.And myself, I speak Welsh in any possible context – with colleagues at work and of course in my spare time. It was a great priviledge and pleasure to be part of the Eisteddfod Choir in Anglesey in 2017 – a mostly Welsh-speaking choir. Some people in the choir knew me, but I didn’t mention to the others that I am a Welsh learner – I just spoke Welsh to them from the very beginning. Maybe the choir members suspected that I was not a first language speaker.
Felly am syndod iddyn nhw pan gyrhaeddais rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2017 – braint a phleser arall, gyda llaw. Agoriad llygaid oedd sylweddoli pa mor bwysig ydy cynnwys dysgwyr yn nigwyddiadau Cymraeg a siarad yr iaith efo dysgwyr. Felly, mewn ffordd cyfrannodd hyn at y ffordd maen nhw’n gweld dysgwyr Cymraeg rŵan.What a surprise it was to them when I reached the final of Welsh Learner of the Year 2017 – another priviledge and pleasure, by the way. It really opened their eyes, realising how important it is to include learners in Welsh-speaking events and to speak Welsh with learners. So in a way, this contributed to the way they see Welsh learners now.
Gadewch i mi roi ychydig o gyngor i chi: Peidiwch â sôn mai dysgwr ydach chi – beth bynnag ydy eich lefel. Smaliwch! Bydd pobl yn sylwi wrth i chi siarad. Ond trwy beidio â dweud y gair “dysgwr” bydd y sgwrs yn fwy naturiol o’r dechrau. Ac unwaith dach chi wedi dechrau yn y Gymraeg, mae’n anodd newid yr iaith. A dyna chi!Let me give you one little advice: Don’t say that you are a learner – what ever your level. Pretend! People will notice when you are speaking. But by not saying the word “learner” the conversation start more natural. And once you’ve started in Welsh, it will be difficult to change the language. And there you are!

Ac unwaith dach chi wedi dechrau sgyrsiau yn y Gymraeg, mae’n anodd newid yr iaith. A dyna chi!

Neil Rowlands

Sylfaenedd, parallel.cymru
Mae dysgu unrhyw iaith yn dod â gwobrwyon, heriau a chyfleoedd. Mae dysgu Cymraeg dros y bum mlynedd ddiwethaf wedi agor y drws i fi gwrdd â channoedd o bobl newydd, datblygu cyfeillion newydd, ac i fwynhau’r diwylliant Cymraeg a'i sefydliadau.Learning any language bring rewards, challenges and opportunities. For myself, learning Welsh over the last five years has opened to the door to meeting hundreds of new people, develop friendships and has opened the door to Welsh culture and its institutions.
Sut bynnag, dydy hi ddim wedi bod yn daith syml a syth. Dechreuais fynd i grwpiau siarad â gweithgareddau cymdeithasol yn Nhŷ Tawe chwe mis ar ôl dechrau mynd i ddosbarthiadau, a deall bron dim byd! Ond nid oes siaradwyr Cymraeg yn fy nheulu, nac yn fy swyddfa, ac nid yw llawer o fy ffrindiau yn siarad Cymraeg, felly roeddwn yn gwybod bod angen i fi glywed yr iaith yn y byd go iawn. Wrth gwrs, roedd y gymuned yn Abertawe yn fy annog ac yn groesawgar iawn. Dros amser, dechreuais i ddeall mwy, ac wedyn dechreuais i wneud cyfraniadau bach i sgyrsiau. Nawr, wrth i fi gwrdd â rhywun newydd dydw i ddim yn teimlo bod angen i fi gyflwyno fy hunan gyda'r term dysgwr.However, it has not always been a linear and straightforward journey. I started going to speaking groups and social events in Tŷ Tawe six months after starting classes, and barely understood a word! However, not having Welsh speakers in my family, office or many existing friends, I knew that I had to be hearing Welsh in the real world. Of course, the community in Swansea was very encouraging and welcoming. Over time I began understanding more, and then began small contributions to conversations; now feel that when I meet someone new I don't need to identify myself with the term learner.
Ddwy flynedd yn ôl penderfynais integreiddio Cymraeg yn fy mywyd, felly ceisiais am rai swyddi ble roedd galluoedd Cymraeg yn hanfodol. Yn yr ail o'r cyfweliadau hynny, derbyniais i'r cwestiwn "Beth yw eich cryfderau a’ch gwendidau?", ond nes i ddim deall y geiriau cryfderau a gwendidau. Gofynnais i’r aelod o’r panel ailadroddiad y cwestiwn, ond doeddwn i ddim yn dal i ddeall, felly roedd yn rhaid i fi ofyn am y cwestiwn yn Saesneg! Teimlais fel twpsyn enfawr! Beth bynnag, roedd y broses o sgwennu'r cais yn y Gymraeg a hala amser yn paratoi am y cyfweliad wedi rhoi oriau o amser cyswllt i mi, ac roedd y teimlad fy mod wedi sefyll ar fy nhraed fy hun i gyflwyno cais uchelgeisiol mewn iaith roeddwn i yn dal i’w dysgu wedi rhoi hwb anferth i fi.Two years ago I decided that I wanted to integrate Welsh into my life, so I applied for some jobs where Welsh language abilities was a requirement. In the second of those interviews I was asked the question: "What are your strengths and weaknesses?", but I didn't understand the words cryfderau and gwendidau. I asked the panel member to repeat the question, but I still didn't understand, so had to ask for the question in English! I felt a right wally! However the process of writing the application in Welsh and spending time preparing for the interview gave me hours of contact time, and the feeling that I had stood on my own feet to submitted an ambitious application through a language that I was still learning gave me a tremendous boost.
Yn hydref 2017 sylweddolais i fy mod i mewn sefyllfa ‘catch-22’ – roeddwn i'n moyn integreiddio Cymraeg yn fy mywyd, ond doedd dim cyfleoedd i wneud hynny yn fy swydd. Roedd fy niffyg profiad o ran darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn fy rhoi i dan anfantais wrth gymharu gydag ymgeiswyr eraill, beth bynnag oedd safon fy Nghymraeg.In autumn 2017 I realised that I was in a catch-22 situation- I wanted to integrate Welsh into my life, but was in a job where there were no opportunities to do that. A lack of experience of delivering Welsh-medium services would always put me at a disadvantage compared to other applicants, whatever my standard of Welsh.
Sylweddolais fod gen i benwythnosau a nosweithiau i’w defnyddio, a doedd dim angen ffeindio swydd neu gyllid i wneud rhywbeth - gallen i ddechrau rhywbeth fy hunan. Dw i'n gyfarwydd â chreu gwefannau a dweud wrth bobl amdanyn nhw, ac ro'n i'n ymwybodol bod darllen yn baralel yn cael ei ddefnyddio mewn parau eraill o ieithoedd Ewropeaidd, felly treuliais gwpl o wythnosau yn taflu rhywbeth at ei gilydd. Gofynnais i rai cyfeillion gyfrannu peth cynnwys, dywedais wrth rai pobl eraill amdano fe ac roedden nhw yn ei hoffi, felly gwnes i iteru ac es i yn fyw cwpl o wythnosau ar ôl hynny.I realised that I had weekends and evenings to use, and that I didn't need to find a job or funding to do something - I could just start something myself. I'm familiar with building websites and telling people about them, and I was aware that parallel reading is used in other European language pairs but not English-Welsh, so I spent a couple of weeks chucking something together, asked some friends to contribute some content, told some more people about it, who seemed to like it, so I iterated and then went live a couple of weeks after that.
Mae cyfleoedd anhygoel i bobl ddefnyddio gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg sydd ddim yn bodoli ar hyn o bryd; dyw cyllid a gweledigaeth y llywodraeth ddim yn gallu gwneud popeth, ac mae'n bwysig i'r gymuned arloesi a thrio pethau newydd.There are incredible opportunites for people to deliver services through the medium of Welsh which don't currently exist; government funding and vision only goes so far, and it is up to the community to innovate and try new things from the ground up.
Mae'r prosiect delfrydol yn cyfuno rhywbeth rydych yn gwybod sut i’w wneud gyda rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi. Roeddwn yn gwybod sut i greu a hyrwyddo gwefannau, ac roedd gen i ddiddordeb mewn gwneud i'r Gymraeg fod yn iaith hygyrch.The ideal project is to combine something that you know how to do with something that you are have an interest in. I knew how to make and publicise websites, and had an interest in making Welsh accessible.
Tu ôl y llen, dw i wedi derbyn llawer o gefnogaeth; mae rhai pobl wedi rhoi o’u hamser i wella safon y cynnwys ar parallel.cymru, e.e. Elgan Davies-Jones, David Sutton a Patrick Jemmer (nodyn- os oes unrhyw wallau iaith ar parallel.cymru, fi sy'n gyfrifol, nid nhw). Hefyd, mae'n rhyfeddol gweld pobl fel Dani, Huw Rowlands, Nicky a Peter yn defnyddio eu amser yn hael i rannu eu sgiliau a’u profiad trwy beth maen nhw'n wneud.I've also received a lot of support behind the scenes; some very kind people have granted their time to improve the standard of content on parallel.cymru, such as Elgan Davies-Jones, David Sutton and Patrick Jemmer (note- if there are any language errors on parallel.cymru then I'm responsible, not them). It's wonderful to see people such as Dani, Huw Rowlands, Nicky and Peter use their time freely to share their skills and experience through what they do.
Mae'r byd digidol wedi cael gwared â rhwystrau - os oes syniad gyda chi am rywbeth sydd ar goll o'r byd Cymraeg, pam na wnewch chi lenwi’r bwlch eich hunan?The digital world has removed barriers - if you have an idea for something that is missing from the Welsh-speaking world, why not fill it yourself?

Os oes syniad gyda chi am rywbeth sydd ar goll o’r byd Cymraeg, pam na wnewch chi lenwi’r bwlch eich hunan?

Nicky Roberts

Sylfaenydd useyourwelsh.com & youtube.com/learnwelshwithnicky; wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2018
Bron dwy flynedd yn ôl, oeddwn i mas yn Ffrainc gyda beth oedd yn teimlo fel pawb o Gymru, gan gefnogi ein cenedl with iddyn nhw gystadlu yn erbyn y timau gorau yn Ewrop am y tro gyntaf yn fy mywyd.Almost two years ago, I was in France with what I felt like everyone from Wales, supporting our nation to compete against the best teams in Europe for the first time in my life.
Cymerodd cyfarfod ar hap a damwain gyda hogyn a oedd yn gofyn i fi a oeddwn i angen unrhyw help i ddod â 'mheintiau yn ôl i'm sedd. Doeddwn i ddim yn gwybod ar y pryd, ond mae hogyn yna wedi cael effaith enfawr ar fy mywyd.I had a chance meeting with a guy who asked me if I needed any help to bring my pints back to my seat. I did not know at the moment, but that guy has had a huge impact on my life.
Des i adre ar ôl yr Ewros gyda llawer llai o arian ac ychydig bach mwy o bwys arna i, ond oeddwn i’n gwybod bod rhywbeth wedi newid yn fy mhen. Roeddwn i fynd i ddysgu’r iaith o fy ngwlad, canu’r anthem a ddeall beth oeddwn i wedi bod yn canu ers y tro gyntaf gwelais i gêm pêl-droed tîm Cymru yn 1990.I came home from the Euros with much less money and a bit more pressure on me, but I knew something had changed in my head. I was going to learn the language from my country, sing the anthem and understand what I had been singing since the first time I watched the Wales team football game in 1990.
Dw i’n dod o Gwm Rhondda yn wreiddiol, o dre eithaf bach o’r enw Edmondstown. Pan oeddwn i’n tyfu i fyny yn y Cymoedd, chlywais i mo’r iaith Cymraeg nes i fi fynd ar wyliau yng ngorllewin Cymru gyda 'nheulu. Doedd dim ysgol uwchradd Cymraeg yn y Gymoedd pan oeddwn i’n tyfu i fyny - ac oedd gan yr ysgolion Saesneg yn yr 80s llawer mwy i’w gwneud er mwyn ysbrydoli unrhyw un i ddysgu’r iaith.I'm originally from the Rhondda Valley, from a very small town with the name Edmondstown. When I grew up in the Valleys, I didn't heard the Welsh language until I went on holiday in West Wales with my family. There was no Welsh-medium secondary school when I grew up - and English-speaking schools in the 80s had a lot more to do to inspire anyone to learn the language.
Dim ond wythnos cyn Nadolig 2016, gwnes i chwilio Google am ‘How to learn Welsh quickly’ a ffeindies i'r rhaglen ‘Say Something in Welsh’. Dechreuais i hynny, gan wneud un neu ddwy wers y diwrnod. Ar ôl dwy a hanner wythnos dysgu’r iaith, dechreuais i sianel ar Youtube o’r enw “Learn Welsh with Nicky (www.youtube.com/learnwelshwithnicky)”. Ers hynny fy sianel wedi tyfu a datblygu- mae gen i fwy na 350 tanysgrifwyr a fy sianel wedi cael mwy na 20,000 golygfeydd.Just a week before Christmas 2016, I went to search Google for 'How to learn Welsh quickly' and go to the Say Something in Welsh program. I started to do that, doing one or two lessons a day. After two and a half weeks of learning the language, I started a channel on YouTube with the name "Learn Welsh with Nicky (www.youtube.com/learnwelshwithnicky)". Since then my channel has grown and developed- I have more than 350 subscribers and my channel has more than 20,000 views.
Mae'r peth pwysicach dw i wedi (ei) wneud ers dechrau siarad Cymraeg wedi bod yn helpu i ddenu ac annog pobl eraill i roi cyfle i’r iaith, yn ogystal â rhedeg sesiynau ar gyfer dechreuwyr newydd sbon dros gymunedau ar-lein. Ac yn fywyd go iawn, dw i wedi sefydlu gwefan newydd sbon sydd yn trio help i ddenu ac annog pobl a busnesau i ddefnyddio’r iaith yn fwy aml. Sef, fy wefan newydd www.useyourwelsh.com sydd yn ddwyieithog.The most important thing I've done since starting to speak Welsh has been helping to attract and encourage others to try the language, as well as running sessions for brand new beginners for online communities. And in real life, I have set up a brand new website that helps help attract and encourage people and businesses to use the more frequent language. That is, my new website www.useyourwelsh.com is bilingual.
Beth dw i wastad yn ddweud i ddysgwyr yw “Ewch amdani nawr!” Trwy ddysgu’r iaith, dw i wedi cwrdd â llawer o bobl sydd eisiau bod yn rhugl, heb fynd mas a defnyddio eu Gymraeg. Mae siarad gyda phobl eraill yw’r peth pwysicach byddech wneud! Hyd yn oed tasech yn poeni am wneud camgymeriadau- peidiwch! Oedd hynny yn allweddol i'm llwyddiant dysgu’r iaith - doeddwn i ddim yn ofnus o gwbl. Oeddwn i mas yn y dre'n trio ffeindio siaradwyr Cymraeg go iawn ar ôl un wythnos o'i dysgu hi! Dylwch chi wneud yr un peth hefyd!What I always say to learners is "Go for it now!" By learning the language, I have met many people who want to be fluent, but haven't gone out and used their Welsh. Talking with other people is the most important thing you can do! Even worry about making mistakes- don't! That was crucial to my language learning success - I was not frightened at all. I was out in the town trying to find the real speakers of the language after one week of learning it! You should do the same thing too!
Dyn ni i gyd yn gyfrifol am yr iaith- mae dyfodol yr iaith yn ein dwylo ni. Gallwn ni ddewis beth sydd yn digwydd gyda’r iaith.We are all responsible for the language- the future of the language is in our hands. We can choose what's happening with the language.

Beth dw i wastad yn ddweud i ddysgwyr yw “Ewch amdani nawr!” Mae siarad gyda phobl eraill yw’r peth pwysicach byddech wneud!

Patrick Jemmer

Cyfieithydd Ask Dr Gramadeg, tiwtor a cyfrannwr rheolaidd i parallel.cymru
Dechreuais i ddysgu'r Gymraeg yn Nhŷ Tawe yng nghanol Dinas Abertawe, pan ddes i adref o Newcastle lle ro'n i wedi bod yn gweithio, ac rwy wedi bod wrthi ers chwe blynedd erbyn hyn. Rwy'n dwlu ar yr iaith Gymraeg ac ar y diwylliant Cymreig, ac rwy wastad yn ceisio ymarfer, rhannu syniadau a'm cariad at yr iaith, a dysgu mwy. Ro'n i'n lwcus iawn pan enillais i Dlws Rhyddiaith y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni yn 2016 gyda darn o'r enw ‘Pontydd’.I began to learn Welsh in Tŷ Tawe in Swansea city center when I came back home from Newcastle where I had been working, and I've been working at it now for six years. I love the Welsh language and Welsh culture, and I'm always trying to practise, to share ideas and my love of the language, and to learn more. I was very lucky when I won the Prose Medal for Learners in the National Eisteddfod in Abergavenny in 2016, with a piece entitled 'Bridges'.
Dros y cyfnod 2012 - 2014 ro'n i'n astudio hefyd ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer 'Tystysgrif Addysg Uwch' mewn Ysgrifennu Creadigol a Seicotherapi (yn Saesneg), gan gynnwys llawer o ymarferion wedi'u seilio ar 'Ysgrifennu'r Hunan', a graddiais gyda rhagoriaeth yn 2014. Felly roedd llawer o syniadau 'da fi am bynciau ac awgrymiadau creadigol pan ddechreuais i greu cynnwys ar gyfer Parallel.cymru.Over the period 2012 - 2014 I was also studying in Swansea University for a 'Certificate of Higher Education' in Creative Writing and Psychotherapy (in English), containing lots of exercises based on 'Writing the Self', and I graduated with a distinction in 2014. So I had loads of ideas for topics and creative prompts when I started to create content for Parallel.cymru.
Er bod y gwaith Saesneg eisoes wedi cael ei gywiro gan diwtoriaid (diolch yn fawr iawn i Mr Andrew Hubbard a Dr Catriona Ryan am eu cymorth a'u hadborth i gyd), dwi ddim yn cyfieithu fy ngeiriau o'r Saesneg i'r Gymraeg, fodd bynnag. Erbyn hyn, rwy'n 'sgrifennu'n syth yn Gymraeg. Profiad mor wych yw meddwl a chyfathrebu yn y Gymraeg. A dweud y gwir yn aml mae'n well 'da fi sut mae fy 'llais creadigol' yn swnio yn y Gymraeg. Rwy'n dwlu ar yr iaith! Nawr rwy'n arbrofi gyda darnau ffeithiol, rhai hunanfynegol, tipyn bach o hiwmor (gweler Ffred Phantastig a'i gastiau -- ha ha ha!), a hyd yn oed ychydig ffuglen wyddonol.Although the English-language work had already been corrected by tutors (many thanks to Mr Andrew Hubbard and Dr Catriona Ryan for all their help and feedback), I don't translate my words from English into Welsh, however. By now I write directly in Welsh. It's an excellent experience thinking and communicating in Welsh. And to be honest, often I prefer how my 'creative voice' sounds in Welsh. I love the language! Now I'm experimenting with factual pieces, self-expressive ones, a bit of humour (see Ffred Phantastig and his antics -- ha ha ha!), and even a little science fiction.
Wedyn sefais i'r arholiad Safon Uwch ar gyfer Siaradwyr Ail Iaith fis Mehefin 2017, ac enillais i 'ragoriaeth.' Bellach rwy'n 'neud llawer iawn o waith aruthrol ddymunol i'r wefan Parallel.Cymru, fel awdur, a chan helpu gyda golygu a chyfieithu. Cwrddais i â Neil, reolwr y prosiect yn ystod y dosbarthiadau Cymraeg. Wrth gwrs mae'r proses i gyd yn golygu dysgu drwy'r amser, ac rwy'n gwerthfawrogi ac yn mwynhau derbyn adborth a chyweiriadau, gan nad ydw i'n arbenigwr, a chan fod pob sylwad adeiladol yn helpu fi i ddysgu a gwella, a dyna f'agwedd at ddysgu a defnyddio iaith. Wedi dweud hynny, rwy'n gallu mynd i'r dafarn a chwrdd â phobl newydd gan sgwrsio yn y Gymraeg heb unrhyw broblemau o gwbl! A heb os, mae'r ysgrifennu a phrawf-ddarllen ac yn y blaen wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn hyn o beth.Then, I sat the A-Level exam for Second-Language Speakers in May 2017, and I got a distinction. Now I'm doing a great deal of immensely enjoyable work for Parallel.cymru, as an author, and helping with editing and translating. I met Neil, manager of the project, during the classes. Of course the whole process involves learning all the time, and I appreciate and enjoy receiving feedback and corrections, as I'm not an expert, and all constructive comments help me to learn and improve, and that's my attitude to learning and using a language. Having said that, I can go to the pub and meet new people, chatting in Welsh without any problems at all! And without a doubt, the writing and proof-reading and so on have been very useful in this.
Rwy'n hunangyflogedig ar hyn o bryd. Y peth sy'n f'ymysgogi'n gryfa' yw chwilfrydedd enfawr, ac awydd archwilio pethau newydd, gan ddatblygu a mynegi gallu creadigol. Rwy'n dwlu ar ehangu fy neall a'm dirnadaeth ac ar helpu pobl eraill i 'neud yr un peth ac i fynd â'r maen i'r wal mewn beth bynnag maen nhw eisiau ei 'neud.I'm self-employed at present. My main drive is enormous curiosity and a desire to explore new things, and to develop, and express creativity. I love expanding my understanding and insight; and helping others to do the same and achieve their goals in whatever they want to do.
Rwy'n dysgu gwyddoniaeth, mathemateg, Saesneg i bobl sy'n sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch, a hyd yn oed i rai sy'n fyfyrwyr mewn prifysgolion. Rwy wedi bod yn gweithio gyda sawl myfyriwr sy'n mynd i ysgolion cyfun. Rwy'n gweithio wyneb yn wyneb, gyda grwpiau, a thros y rhyngrwyd. Rwy eisiau defnyddio'r iaith Gymraeg yn fwyfwy gyda myfyrwyr, gan ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a thrwy weithio fel tiwtor iaith Gymraeg i bobl ifanc ac oedolion hefyd.I teach maths, science and English to people who are sitting GCSEs and A-Levels, and even some university students. I've been working with several students who go to Welsh-language secondary schools. I work face-to-face, with groups, and over the internet. I want to use the Welsh language more and more with students by teaching through the medium of Welsh, and by working as a Welsh language tutor for young people and adults too.
Felly, dych chi'n gallu ymarfer y Gymraeg bob amser, o ddweud 'shw mae' yn y siop gornel, y llyfrgell, neu ar y bws, gan ei defnyddio yn y gweithle, trwy wirfoddoli yn y fenter iaith leol, i rannu'ch profiadau neu'ch syniadau ar Parallel.cymru. Mae pobl yma i'ch helpu chi, felly peidiwch bod yn ofnus. Fel ro'n i'n ddweud, er mod i'n dwlu ar ramadeg, rwy wastad yn dysgu rhywbeth newydd, ac rwy'n dweud diolch o'r galon i bawb sy'n helpu fi. Y peth mwya' pwysig yw ein bod ni'n gyfeillgar iawn, yn danbaid dros yr iaith, yn gweithio fel tîm, gan annog ein gilydd wrth hybu'r iaith. Pam na fyddwch roi cynnig arni gan ymuno â ni ar ein taith darganfod i'r iaith a diwylliant Cymraeg? Mae'n anhygoel o werth chweil, a llawn hwyl hefyd!So, you can practise Welsh all the time, from saying 'shw mae' in the corner shop, the library, or on the bus, using it in the workplace, through volunteering in the local Menter Iaith, to sharing your experiences or your ideas on Parallel.cymru. There are people here to help you, so don't be frightened. As I was saying, although I love grammar, I'm always learning something new, and I'm truly grateful to everyone who helps me. The most important thing is that we are all very friendly, passionate about the language, work as a team, encouraging each other whilst promoting the language. Why don't you give it a go and join us on our journey of discovery into Welsh language and culture? It's incredibly worthwhile, and full of fun, too!

Dych chi’n gallu ymarfer y Gymraeg bob amser, o ddweud ‘shw mae’ yn y siop gornel, y llyfrgell, neu ar y bws, gan ei defnyddio yn y gweithle, trwy wirfoddoli yn y fenter iaith leol, i rannu’ch profiadau neu’ch syniadau ar Parallel.cymru.

Peter Mescall

Ysgrifennwr Newyddion i Ddysgwyr Newydd a threfnwr cyrisau i ddysgwyr
Tua dwy flynedd yn ôl, o’n i chwilio am rywbeth i wneud. O’n i wedi siarad efo athro arall yn yr ysgol. Gaeth o ei fagu yn y Gogledd ond yn wreiddiol gaeth o ei eni yn Lerpwl. “Siarad Cymraeg?” meddai. Do’n i ddim yn medru ymateb yn y Gymraeg. Ac wedyn, o’n i’n meddwl: “Pa mor gywilydd- fedra i ddim yn ymateb yn y Gymraeg”.About two years ago, I was looking for something to do. I was speaking with another teacher in the school. He was brought up in North Wales but was originally from Liverpool. "Do you speak Welsh?" he said. I couldn’t answer in Welsh. And then I thought: "How shameful- I can't answer in Welsh".
Felly, mi wnes i benderfynu dysgu’r iaith; yn gyntaf efo Say Something in Welsh. Mae’r cwrs yn wych ond ar y pryd o’n i isio rhywbeth arall. O’n i isio dysgu mwy felly wnes i drio trefnu penwythnosau ar gyfer dysgwyr.So, I decided to learn Welsh; to start with Say Something in Welsh. The course is great but at the time I was looking for something else. I was learning more so I tried to organise weekends for learners.
Wedyn, o’n i’n darllen parallel.cymru. Mi wnes i sylweddoli bod dysgwyr angen pethau er mwyn helpu nhw dysgu geirfa newydd. Wnes i anfon neges at Neil....”Liciwn i drio sgwennu’r newyddion yn y Gymraeg- cyfle i ymarfer darllen a hefyd dysgu geiriau newydd”Then, I was reading parallel.cymru. I realised that learner need something to help them learn new vocabulary. I sent a message to Neil... "I'd like to try writing the news in Welsh- a chance to practice reading and an opportunity to learn new words".
A dyna ni. Dw i’n dal i drefnu penwythnosau a dw i mor falch oherwydd bod pawb yn medru cael y cyfle i ddefnyddio eu Cymraeg dros y penwythnos. Hefyd y newyddion- dw i wedi dysgu cymaint ers i mi ddechrau cyfrannu’r newyddion.And there we are. I still organise weekends and I'm so proud that people have the opportunity to use their Welsh over the weekend. Also the news- I have learnt so much since I started contributing the news.
Gobeithio eich bod chi i gyd yn teimlo eich bod chi’n cael y cyfle i wella hefyd.I hope that you all can feel that you have the opportunity to improve as well.

Sam Brown

Ieithydd a Swyddog Marchnata Digidol i Wasg Gomer
Mi ddechreues i ddysgu Cymraeg tua saith mlynedd yn ôl ar ôl i mi fynd ar wyliau i ogledd Cymru a chlywed yr iaith yn cael ei siarad gan fwyafrif y bobl yr rôn i'n eu gweld ar y stryd. Ar ôl hwn rôn i'n gwybod mod am ddysgu mwy o'r iaith a phan ddôth yr amser i mi ddewis pa brifysgol i fynd iddi, rôn i'n gwybod mai yng Nghymru rôn am astudio er mwyn medru dysgu'r iaith.I started learning Welsh about seven years ago after I went on holidays to north Wales and and heard the language being spoken by the majority of people that I saw on the street. After that I knew that I was going to learn the language, and when the time came to decide which university to go to, I knwe that in Wales I could study the langauge.
Ers wedyn mae'r Gymraeg wedi dŵad yn fwy ac yn fwy pwysig i mi ac i'm bywyd beunyddiol. Mi wnes i astudio pob lefel o gyrsiau Cymraeg i Oedolion, ac ar ôl gorffen fy ngradd BA yn Almaeneg ym Mhrifysgol Bangor mi es i ymlaen i astudio Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, lle astudies i drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Ar ôl gorffen yng Nghaerdydd ces i swydd efo Gwasg Gomer yng Nghaerfyrddin lle dwi wedi bod yn gweithio ers blwyddyn fel y Swyddog Marchnata Digidol.Since then the Welsh language has been more and more important to me and my daily life. I studied every level of Welsh for Adults courses, and after finishing my BA degree in German in Bangor University I went on to study Welsh and Celtic Studies in Cardiff University, where I studied through the medium of Welsh only. After finishing in Cardiff I got a job with Gomer Press in Carmarthen where I've worked for a year as a Digital Marketing Officer.
Weithiau mae’n anodd defnyddio ail iaith (neu, yn fy achos i, trydedd iaith) yn y gweithle ac ym mhob agwedd o‘r bywyd proffesiynol a phersonol. Dwi ddim yn gwybod pob un gair yn Gymraeg ac mae wedi bod yn her imi ddŵad i arfer efo’r holl dafodieithoedd – yn enwedig ar ôl byw yn nhair cornel Cymru.Sometimes it is difficult to use a second language (or, in my case, a third language) in the workplace and in every aspect of professional and personal life. I don't know every word in Welsh and it has been a challenge for me to practice with all dialects - especially after living in three corners of Wales.
Y cyngor gorau dwi’n gallu ei roi ydy- peidiwch ag ofni deud pan nad ydach chi’n dallt rhywbeth. Does dim byd gwaethaf na bod ar y ffôn neu mewn cwarfod a cholli gair neu fethu dallt acen rhywun. Ond, yn enwedig wrth drafod pethau pwysig yn y swyddfa neu yn y brifysgol, weithiau dach chi’n gorfod rhoi eich llaw yn yr awyr a gofyn i rywun esbonio.The best advice I can give is- don't be afraid when you don't understand something. There's nothing worse than being on the phone or in a meeting and losing a word or not understanding someone's accent. But, especially when discussing important things in the office or at university, sometimes you have to put your hand in the air and ask someone to explain.
Dydy hyn ddim wastad yn brofiad da ac mae’n gallu teimlo’n lletchwith iawn, ond yn y diwedd bydd yn eich helpu chi wrth ddŵad yn fwy hyderus a rhugl wrth ddefnyddio’ch Cymraeg. Mi fyddwch chi’n dŵad i arfer wrth glywed gwahanol acenion a thafodieithoedd a bydd sgiliau yn datblygu megis dallt geiriau o’u cyd-destun a chreu geiriau newydd.This is not always a good experience and can feel very awkward, but in the end it will help you to become more confident and fluent in using your Welsh. You'll be able to practice when you hear different accents and dialects and skills will develop such as words and phrases in their context.
Un peth bach arall nad ydwi’n gallu awgrymu’n ddigon ydy defnyddiwch eich Cymraeg pryd bynnag cewch chi gyfle!One other thing that I can't suggest enough is use your Welsh whenever you have an opportunity!

Defnyddiwch eich Cymraeg pryd bynnag cewch chi gyfle!

 

Eisteddfod 2018 logo