Rhea Seren Phillips How the Welsh Developed Their Own Form of Poetry

Rhea Seren Phillips: Sut y Datblygai’r Cymry Eu Ffurf o Farddoniaeth Eu Hunain / How the Welsh Developed Their Own Form of Poetry

Mae Rhea Seren Phillips yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe sy’n ymchwilio i sut y gellir defnyddio ffurfiau a mesurydd barddonol Cymraeg i ailystyried hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig gyfoes ac i ennyn diddordeb yn hon. Yma, mae hi’n cyflywno 24 o ffurfiau barddonol a phedawr mesur Cymraeg…

Rhea Seren Phillips is a PhD student at Swansea University, who is investigating how the Welsh poetic forms and meter can be used to reconsider and engage with contemporary Welsh cultural identity. Here, she introduces the Welsh 24 poetic forms and four metres…

Ymddangosodd y fersiwn Saesneg o’r erthygl hon yn wreiddiol yn The Conversation, gyda chyfres o erthyglau sydd yn cynnwys Cymru yma.
The English version of this article originally appeared in The Conversation, with a series of articles that feature Wales here.

Fe fyddai byd heb farddoniaeth yn lle enbyd yn wir. O’r gerdd Fy Ngwlad gan Gerallt Lloyd Owen am arwisgiad Charles fel Tywysog Cymru i Trafferth mewn Tafarn gan Dafydd ap Gwilym, mae ffurf y fath ysgrifennu, yn ogystal â’r geiriau a’r ymadroddion ynddo, wedi dod yn rhan fawr o’n hanes a diwylliant llenyddol ni.A world without poetry would be a dire thing indeed. From Dylan Thomas’s famous villanelle Do not go gentle into that good night to Shakespeare’s famous love sonnet parody, Sonnet 130, the forms of these writings, just as much as the words and phrases, have become a large part of literary history and culture.
Er mai adnabyddus yng Nghymru oedd arddulliau cymhleth cerddi Saesneg, dros y canrifoedd datblygai gwerin Cymru set unigryw o batrymau barddonol oedd yn perthyn dim ond i’w hiaith eu hunain. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o ffurfiau Saesneg, mae’r rhai Cymraeg yn pwysleisio seiniau oddi mewn i linell, a’r adleisiau wedi’u gadael ar eu holau, yn hytrach na chanolbwyntio ar y geiriau’n unig.As well-known as these intricate styles may be, over many centuries the people of Wales developed a unique set of patterns all of their own. Unlike most English language forms, these focus on the sounds produced within a line and the echoes left after, rather than just on the words themselves.
Mae cyfanswm o 24 o ffurfiau barddonol Cymraeg, ynghyd â phedwar mesur. Mae’r ffurfiau’n tueddu i fod yn eithaf byr – er enghraifft, roedd milwyr yn arfer defnyddio Englyn Milwr i afon negesau byrion adref yn ystod y Rhyfel Mawr. Rywbryd cyfeirir ato fel haicw Prydeinig, ac mae i bob pennill dair llinell, pob un ohonynt sydd yn cynnwys saith sillaf, ac maent i gyd yn odli gyda’i gilydd. O ganlyniad i’r llinellau mynegol ymddengys yr Englyn braidd yn debyg i’r dull Japaneeg, ond wedi dweud hynny, mae i’r englyn hunaniaeth dra Chymraeg. Mae odli’n agwedd hanfodol o ffurfiau barddonol Cymraeg. Felly yn wahanol i’r haicw, pob un o’r tair llinell mewn pennill sydd ar un odl.In total, there are 24 Welsh poetic forms and four metres. The forms have a tendency to be quite short – an Englyn Milwr, for example, was a form used by soldiers to send short messages home during World War I. Sometimes referred to as a British haiku, every verse is composed of three lines, each seven syllables long, all of which rhyme with each other. Though the expressive lines do lend it certain similarities to the Japanese style, the Englyn has a very Welsh identity. Rhyme is an integral aspect of Welsh poetic forms and so, unlike the haiku, each of a verse’s three lines is monorhymed, that is they end in the same rhyme.
Llinellau persain
Er mwyn creu a chadw cytgord oddi mewn i linell, ffurfiau o farddoniaeth gaeth Gymraeg, sef ‘cynghanedd’, a ddefnyddir. Mae cynghanedd yn fwy tebyg i gerddoriaeth nag i farddoniaeth draddodiadol Saesneg, ac yr un fath â chyfansoddiad cerddorol maent yn cynnwys mwy nag yr un nodyn. A dweud y gwir, er mwyn gwerthfawrogi llinell cynghanedd yn llwyr, rhaid i chi’i darllen hi’n uchel a gwrando ar yr haenau o sain sy’n llifo o’r tafod.
Harmonious lines
To create and maintain harmony within a line, strict Welsh metres, known as “cynghanedd”, are used. The cynghanedd have more in common with music than traditional poetry, and like a piece of music it is made up of more than just one note. In fact, in order to fully appreciate a line of cynghanedd you should read it aloud and listen to the layers of sounds that roll off the tongue.
Mae cynghanedd mor bersain gan ei bod yn arfer ‘cyseinedd’, hynny yw, cysondeb rhwng y cytseiniaid.
Unigryw i Gymru yw’r ffurf hon o gyseinedd am fod yr iaith yn defnyddio cynghanedd yn ddiymdrech mewn bywyd pob dydd: mae cyseinedd yn rhan o dirwedd yr iaith Gymraeg.
They achieve this lyrical metre by practising something called “consonantal harmony”. This is unique to Wales because the language effortlessly uses cynghanedd in everyday life: consonantal repetition is part of the landscape of the Welsh language.
Ysgrifennir llinell o gynghanedd gyda thoriad anweladwy neu want yn ei chanol sy’n rhannu’r llinell, er enghraifft, ceir: X X X | X X X X. Yn draddodiadol mae saith sillaf mewn llinell o gynghanedd, ac yma mae ‘X’ yn cynrychioli pob un ohonynt.A line of cynghanedd is written with an invisible break or caesura in the middle that divides the line, for instance: X X X | X X X X. The cynghanedd is traditionally made up of seven syllables, so here “X” represents each syllable in a line.
Yn y Gymraeg mae ar bob gair acen sillafog gref, fel arfer ar y goben, hynny yw, y sillaf olaf ond un. Ystyrier y llinell ganlynol o englyn gan R Williams Parry, er enghraifft:
“Rhowch wedd wen dan orchudd iâ.”
Welsh is a heavily syllabic language with the stress usually falling on the penultimate syllable. Consider the following line from an englyn by R Williams Parry, for example:
“Rhowch wedd wen dan orchudd iâ.”
Rydym yn gallu cymharu hon gyda’r llinell Saesneg o’r gerdd Fern Hill gan Dylan Thomas, lle mae’r seiniau ‘th’ ac ‘s’ yn creu’r cysondeb:We can compare this with the line in English from the poem Fern Hill by Dylan Thomas, where the sounds ‘th’ and ‘s’ make up the harmony:
Though I sang in my chains like the sea.”
Wrth gwrs mae’r Gymraeg yn gallu bod yn iaith anodd ei meistroli. Serch hynny, rwy wedi cynnwys yr enghraifft hon er gwaethaf nad ydym yn gwybod heb amheuaeth fod Thomas yn deall na’n defnyddio cynghanedd. Eto i gyd, mae’r llinell yn enghraifft gref o’r ffurf hyd yn oed os un anfwriadol ydy. Dyma enghraifft arall o gynghanedd go iawn yn Gymraeg, o’r gerdd Cefn Gwlad gan Dic Jones:As Welsh can be a tricky language to master, this example is included despite the fact that Thomas’s knowledge of the cynghanedd is debatable. Still, the line is a strong if unintentional example of the metre. A true Welsh language cynghanedd example for comparison would be the following, from Dic Jones’s poem Cefn Gwlad:
“I fyw yn glos wrth gefn gwlad.”
Gadwech inni nodi nad yw’r fersiwn Saesneg llythrennol, sef, “To live close to nature”, yn cynhyrchu’r un effaith o gwbl.Translated into English, the line reads, “To live close to nature”, which doesn’t have quite the same effect.
Mae pedwar math o gynghanedd, sef cynghanedd lusg, cynghanedd draws, cynghanedd sain, a chynghanedd groes. Maent i gyd yn gweithio’n wahanol i’w gilydd, ond yn y bôn mae’r egwyddor yr un peth mewn pob achos: rhaid i’r cytseiniaid yn rhan gyntaf y llinell ymddangos yn yr un drefn yn ail ran y llinell (gweler uchod).There are four types of cynghanedd or metres: cynghanedd lusg (echoing harmony), cynghanedd draws (bridging harmony), cynghanedd sain (sonorous harmony) and cynghanedd groes (criss-cross harmony). Although they achieve the metre in different ways, their principles are basically the same: the consonants that appear in the first part of the line must appear in the same order in the second, as shown above.
Hanes trwy gerddi
Mae’r ffurfiau barddonol hyn yn aros yn boblogaidd iawn yng Nghymru, ond i ddeall pam mae rhaid defnyddio’r fath gymhlethdod, pwysig ydy deall beth yw eu tarddiad: maent yn perthyn yn annatod i’r iaith Gymraeg. Tra oedd y Gymraeg yn datblygu, fe ddatblygent hwythau gyda hi, gan ddechrau cael eu haeddiant yn y 12fed ganrif yn enwedig.
History through verse
These forms remain widely popular in Wales, but to understand why such complexity is necessary, it is important to understand where the poetic forms and metres originate from: they are intrinsically intertwined with the Welsh language. As Welsh developed so did they, coming into their own particularly during the 12th century.
‘Penceirddiaid’ oedd yr enw arbennig ar feirdd oedd wedi meistroli cynghanedd yn ystod y ganrif hon. Byddent yn treulio tua naw mlynedd i feistroli’r ffurfiau a’r mesurau angenrheidiol. Er mwyn dynodi ei statws, rhoddid i’r pencerdd gadair neilltuol yn y llys. Roedd hefyd swyddi eraill i feirdd yn y cartref brenhinol, megis ‘bardd teulu’ – swyddog y llys a fyddai’n perfformio ei waith i’r frenhines. Cerddor oedd enw ar y safle isaf.Poets who had mastered the cynghanedd during this century were hailed as “pencerdds”, chiefs-of- song. It would take approximately nine years to master the forms and metres required. In recognition of his position, the pencerdd was granted a special chair in the royal court. There were other poetic positions within the royal household, too, such as bardd teulu – poet to the household – an officer of the court tasked with the duty of performing his work to the queen. The lowest position was that of the musician, the cerddor.
Roedd un brif ddyletswydd ar ddalwyr y swyddi hyn i gyd: croniclwyr ac archifwyr oeddent. Eu cyfrifoldeb nhw oedd gwneud yn siŵr y cofid gorchestion y brenin, a’i frwydrau oll, ac y’u hailadroddid am amser maith ar ôl iddo farw. Dim ond yr ychydig breintiedig a fwynhâi ddarllen ac ysgrifennu, ac felly roedd rhoddi straeon i lawr yn alwedigaeth anodd. Roedd ailadrodd seiniau’r gynghanedd yn sicrhau bod y cerddi’n gofiadwy.All of these roles had one very important function: they were chroniclers and archivists. It was their responsibility to ensure that the great feats of the king and all his battles were remembered and recited long after he had passed. Reading and writing were enjoyed by a privileged few which made passing down stories a tricky profession. The repetition of sounds in the cynghanedd ensured the poetry was memorable.
Mynd ymlaen â chynghanedd
Bron yn unigryw i’r Gymraeg yw’r modd y mae cynghanedd yn gweithredu i lunio cerdd. Fe fyddai’n eithriadol o anodd ail-greu yn union yr un cysondeb rhwng y cytseiniaid mewn llinell o farddoniaeth naill ai yn Saesneg, neu ynteu mewn unrhyw iaith arall.
Continuing cynghanedd
The way that the metre forms each poem connects it almost exclusively to the Welsh language: it would be very difficult to recreate the same harmony and balance between a line’s consonants in English or any other language in exactly the same way.
Mae ffurfiau a mesurau barddonol Cymraeg yn rhwysgfawr, beiddgar, a dwys; a dyna nodweddion ardderchog ar gyfer canu clod brenin ac adrodd hanesion. Mae barddoniaeth fodern wedi symud y tu hwnt i’r fath hon o gyfansoddi wedi’i seilio ar strwythurau ffurfiol a bellach yn defnyddio arddull fwy agored. Wedi’r cwbl, nid llawer o bobl sy’n dymuno darllen cerdd lle y gallant ddyfalu’r odl nesaf. Serch hynny, mae lle o hyd i’r ffurfiau a mesurau barddonol hyn yn y wlad. Bob blwyddyn yn y Brifwyl, sy’n dal i fod yn rhan bwysig o ddiwylliant Cymraeg, fe fydd beirdd yn anadlu bywyd i gerddi wedi’u hysgrifennu’n draddodiadol.Welsh poetic forms and metres are grandiloquent, challenging and dense, which is great for praising a king and narrating stories. Modern poetry has moved beyond this form-led poetry to a more open style – after all, not many want to read a poem where they can guess the next rhyme – but these poetic forms and metre still have their place in the country. Each year, the words and lines of these poems are brought to life at the National Eisteddfod music and poetry festival, which remains a large part of Welsh culture.
Mae disgwyliadau’r oes fodern ynghylch barddoniaeth Saesneg wedi newid, ond mae’r cerddi Cymraeg sy’n bodoli ers canrifoedd yn pwysleisio pa mor hynafol yw crefft eu cyfansoddi. Fe allant fywiogi chwedlau am ddyddiau a fu, lle na allai unrhyw dafod arall byth lwyddo i ddwyn y maen i'r wal.The modern expectations of English poetry have changed, but the centuries-old Welsh poems emphasise that their writing is an ancient craft, and can bring life to the tales of times long ago in a way no other tongue ever could.

Mae’r cerddi Cymraeg sy’n bodoli ers canrifoedd yn pwysleisio pa mor hynafol yw crefft eu cyfansoddi. Fe allant fywiogi chwedlau am ddyddiau a fu, lle na allai unrhyw dafod arall byth lwyddo i ddwyn y maen i’r wal.

Rhea Seren on Patreon

The Lonely Crowd Magazine

Previously In Molly Bloom Magazine

rhea_seren

Mae Patrick Jemmer wedi creu’r fersiwn Cymraeg i parallel.cymru / Patrick Jemmer has created the Welsh version for parallel.cymru

 

Llwytho i Lawr fel PDF