Jema Pullen- Outsourcing Welsh translation work

Jemma Pullen: Sut i allanoli gwaith cyfieithu Cymraeg / How to outsource Welsh translation work

Yn debyg i bob diwydiant, mae gan gyfieithu ei jargon a’i brosesau ei hunan – mae’n gallu bod yn anodd i’r anghyfarwydd wybod lle i ddechrau. Yma mae’r cyfieithydd proffesiynol Jemma Pullen yn amlinellu 10 cwestiwn ac ateb helpgar…

Like every industry, translation has its own jargon and processes – it can be hard for the uninitiated to know where to start. Here the professional translator Jemma Pullen outlines 10 helpful questions and answers…

Mae cyfieithwyr yn gweithio ar brosiectau ysgrifenedig i drosi ystyr testun wedi’i ysgrifennu mewn un iaith i iaith arall (yn wahanol i gyfieithwyr llafar, sy’n cyflenwi tasgau ar lafar yn y cnawd neu dros y ffôn).Translators work on written projects to seamlessly render the meaning of a text written in one language in another language (unlike interpreters, who do spoken assignments in person or over the phone).
Mae’n bwysig i fusnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, neu rai sy’n gweithio gyda chwsmeriaid a chleientiaid yno, ddarparu cynnwys dwyieithog – ac mewn rhai achosion mae hyn yn ofyniad cyfreithiol, o ganlyniad i strategaeth a pholisïau iaith Llywodraeth Cymru.It is important for businesses based in, or working with customers and clients in Wales, to provide bilingual content – and in some cases this is a legal requirement thanks to Welsh Government language strategy and policies.
Os oes angen i chi gyfieithu rhywbeth ar gyfer eich busnes neu ar eich cyfer eich hunan, dyma 10 cwestiwn cyffredin wedi’u hateb i’ch helpu chi.If you’ve been tasked with getting a translation done for your business or personal use, here are 10 common questions answered to help you out.
1 I bwy ydw i’n gofyn?1 Who do I ask?
Yn gyffredinol, mae dewis yma rhwng defnyddio asiantaeth a mynd yn union at gyfieithydd llawrydd. Mae asiantaethau’n defnyddio cyfieithwyr llawrydd beth bynnag, felly yn amlach na pheidio syniad da yw osgoi’r dyn yn y canol. Ond, bydd yn dibynnu ar faint y prosiect ac ar eich gallu i reoli prosiectau.Generally speaking, the choice here is between using an agency or going direct to a freelance translator. Agencies use freelancers anyway, so in many cases it can be good to cut out the middle man. But it depends on the scale of the project and your project management capacity.
Byddwch yn ofalus gydag asiantaethau byd-eang enfawr (DGI – neu Darparwyr Gwasanaeth Iaith), sy’n cynnig prisiau cyfieithu sy’n rhy dda i fod yn wir. Ni fyddwch yn gwybod lleoliad eich cyfieithydd, ei sgiliau, ei brofiad, na’i gymwysterau neilltuol. Bydd hyn yn broblem, yn enwedig o ran cyfieithu elfennau diwylliannol, gan y gallech ddod o hyd i gyfieithydd nad yw wedi ymweld â Chymru na’r DU erioed, ac sydd felly’n gweithio’n ddall, heb unrhyw gyd-destun. Dyma erthygl ardderchog am weithio gyda DGI os fyddwch yn dewis dilyn y llwybr hwnnw:
https://www.grtome.com/single-post/3-Questions-you-need-to-ask-your-LSP.
Be wary of huge global translation agencies (LSPs – or Language Service Providers) offering too-good-to-be true prices for translation. You won’t know where your translator is based or their individual skills, experience or credentials. This is particularly a problem with the translation of cultural elements as you may end up with a translator who has never even been to the Wales or UK, and who is therefore working blind with no context. Here is a great article about working with LSPs if you choose to go down that route: https://www.grtome.com/single-post/3-Questions-you-need-to-ask-your-LSP.
2 Am faint fydd y broses yn parhau?2 How long will it take?
Mae’r rhan fwyaf o gyfieithwyr proffesiynol yn gallu cyfieithu 2,000 – 2,500 o eiriau y dydd. Ond, cadwch mewn cof yr angen posibl am amser ychwanegol i fformatio, ymchwilio, sicrhau ansawdd, ac i drefnu tasgau o ran prosiectau eraill.Most professional translators can translate 2,000-2,500 words per day. But bear in mind extra time may be needed for formatting, research, quality assurance and workload scheduling with other projects.
3 Oes rhaid bod y cyfieithydd yn siaradwr brodorol?3 Does a translator have to be a native speaker?
Fel arfer, bydd cyfieithydd proffesiynol yn cyfieithu dim ond i’w famiaith (ei iaith gyntaf / iaith ei addysg gynradd). Mae hyn yn sicrhau ansawdd a thestun sy’n swnio’n naturiol. A professional translator usually only translates into their mother tongue (first language/language of primary education). This ensures quality and natural sounding text.
Mae’n gyffredin iawn i gyfieithwyr Cymraeg fod yn wir ddwyieithog, sy’n golygu iddynt gael eu magu’n siarad Saesneg a Chymraeg ill dwy o oedran ifanc iawn, a’u bod yr un mor fedrus yn y ddwy. Mae hon yn ddawn brin ac eithriadol, gan fod rhan fwyaf o gyfieithwyr y DU yn dysgu’u hail iaith yn hwyrach mewn bywyd. Felly, mae’n bosibl y gwelwch fod cyfieithwyr yn gweithio’r ddwy ffordd, hynny yw, Cymraeg i Saesneg a Saesneg i’r Gymraeg.It is very common for Welsh translators to be truly bilingual, which means they grew up speaking both English and Welsh from a very young age and are equally competent in both. This is a rare and exceptional talent, as in the UK most translators learn their second language much later. So, you may find that Welsh translators work in both directions, i.e. Welsh into English and English into Welsh.
O ran cyfieithu i’r Gymraeg, pwysig yw ystyried lleoliad y gynulleidfa, ac o ran cyfieithu i Saesneg o’r Gymraeg, o ba ardal yng Nghymru mae’r cyfieithydd yn hanu. Mae llawer o dafodieithoedd Cymraeg o Fôn i Fynwy, gyda’r gwahaniaeth mwyaf rhwng Cymraeg y gogledd a Chymraeg y de.With translation into Welsh it is also important to consider where the audience is based, and for translation into English from Welsh which part of Wales the translator is from. There are many different dialects of Welsh across the whole country, with the most marked difference being between North Walian and South Walian Welsh.
4 Beth yw iaith ffynhonnell ac iaith darged?4 What is source and target?
O ran cyfieithu, yr enw ar yr iaith wreiddiol gychwynnol yw’r iaith ffynhonnell, ac enw’r iaith y byddwch yn cyfieithu iddi yw’r iaith darged. Er enghraifft, os bydd gennych ddogfen Gymraeg i’w chyfieithu i Saesneg, Cymraeg yw’r iaith ffynhonnell, a Saesneg yw’r iaith darged. Cymraeg i Saesneg yw’r pâr o ieithoedd.In translation the original starting language is called the source language and the language that you want the end text in is the target. For example, if you have a document in Welsh and you want it translated into English, Welsh is the source and English is the target. Welsh into English is the language pair.
5 Beth fydd y gost fel arfer?5 How much does it usually cost?
Fel arfer, seilir y prisiau ar:
• Prinder yr ieithoedd
• Pwnc/arbenigedd
• Fformat ffeil (PDF, testun ar ffurf delwedd, llawysgrifen, ayb)
• Hyd (nifer o eiriau)
• Lleoliad/angen addasiad ffeithiol
• Brys
• Cymwysterau
• Profiad
Cofiwch: Peidiwch â thalu cyflog mwnci rhag i chi gael ond cnau wedi’u torri!
Quotes are usually based on:
• Language rarity
• Topic/specialism
• File format (PDF, text as an image, handwriting, etc.)
• Length (word count)
• Localisation/need for factual adaptation
• Urgency
• Qualifications
• Experience
Remember: don’t pay peanuts, or you’ll get monkeys!
6 Ble dof fi o hyd i gyfieithwyr sydd â chymwysterau?6 Where do I find qualified translators?
Gall bod yn aelod o gorff swyddogol fod yn arwydd da. Er enghraifft, gallwch gael hyd i ieithyddion yn y DU ar y gwefannau canlynol: Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Sefydliad Siartredig Ieithyddion (SSI) neu Sefydliad y Cyfieithwyr (SyC).Hefyd, mae gwefannau rhestru, fel Busnes Cymru Cyfarwyddiadur Busnesau Cymru a Proz. Neu ewch yn syth at wefan cyfieithydd llawrydd, neu drwy LinkedIn.A good indication can be being a member of an official body. For example, you can find linguists in the UK on the websites of the Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru (the Association of Welsh Translators and Interpreters), Chartered Institute of Linguists (CIOL) or Institute of Translators or Interpreters (ITI). There are also listings sites, such as the Business Wales Directory of Welsh Businesses and Proz. Or why not go direct via a freelancer’s website or LinkedIn?
Mae’r rhan fwyaf o gyfieithwyr yn arbenigo mewn maes neilltuol fel cyfieithu meddygol, cyfreithiol, masnachol ac ati. Mae hyn yn gofyn am fedr arbenigol yn y maes a gwybodaeth o derminoleg briodol. Felly, cofiwch wirio addasrwydd y person cyn rhoi prosiect yn ei ofal.Most translators specialise in a particular field like medical, legal, commercial etc. This requires subject-area expertise and knowledge of specific terminology. So be sure to check they are the right person for your job before handing over a project.
7 Beth fydd yn rhaid i fi ei ddarparu?7 What do I need to provide?
Ffeil heb wallau yn cynnwys fersiwn terfynol y testun yn yr iaith ffynhonnell, yn ogystal ag unrhyw ddeunydd cyfeiriol defnyddiol sydd gennych o bosibl, gyda chi.
Er enghraifft:
• Manylebau / cyfarwyddyd
• Arddulliadur
• Canllawiau ar Lais a Thôn y Brand
• Prosiectau tebyg o’r gorffennol
• Geirfa yn cynnwys unrhyw derminoleg arbenigol nad yw mewn geiriadur safonol.
An error-free final version source file plus any helpful reference material you may have.
For example:
• Specifications / brief
• Style guide
• Brand Voice and Tone Guidelines
• Similar past projects
• Glossary of any specialised terminology not available in a normal dictionary.
8 Oni allaf ddefnyddio cyfieithu ar-lein sydd ar gael drwy fy mhorwr gwe?8 Can’t I just use the free online translation in my browser?
Na allwch. Yn gyntaf, mae problemau o ran cyfrinachedd a diogelwch gwybodaeth pan brosesir eich testun drwy weinyddion trydydd person a’i gadw arnynt. Ac yn ail, nid yw’r cyfieithiad wastad yn fanwl gywir, ac os na fedrwch yr iaith, mae’n bosibl na fyddwch yn sylwi ar gamgymeriadau. Mae cyfieithu peirianyddol yn eithaf ifanc ac annatblygedig o hyd o ran y Gymraeg. Mae llawer o enghreifftiau o raglenni cyfieithu peirianyddol ar y we’n gwneud camgymeriadau enbyd. Felly, nid yw’n werth y risg.No. Firstly, there are confidentiality and information security issues with your text being processed through and saved on third-party servers. And secondly, it is not always accurate, and if you don’t speak the language you may not spot any errors. Machine translation is still relatively young and underdeveloped for the Welsh language. There are many examples out there of when web machine translation engines have got it critically wrong. So, it’s not worth the risk.
9 Mae fy nghymydog/athro fy mhlentyn/fy nghyfyrder/fy mêt pêl droed yn siarad Saesneg a Chymraeg. Oni allaf ofyn iddyn nhw?9 My neighbour/kid’s teacher/second cousin/mate from football speaks English and Welsh. Can’t I just ask them?
Na allwch. Mae’n rhaid i gyfieithu gael ei wneud gan gyfieithydd proffesiynol sydd â chymwysterau ac sydd wedi derbyn hyfforddiant yn y maes. Nid yw’n dasg y gall unrhyw un ei chyflawni.No. Translation needs to be done by a qualified professional who has undergone training in this discipline. It’s not something anyone can do.
Nid yw’n bosibl i ni i gyd fod yn dda yn gwneud popeth, felly, dyma’r adeg i ddefnyddio arbenigwr. Yn y diwydiant cyfieithu mae hyn yn golygu siaradwr brodorol yr iaith darged sydd â chymhwyster cyfieithu wedi’i gydnabod gan y proffesiwn. Ni fydd defnyddio myfyriwr iaith, athro, hyfforddai, cymydog, neu rywun a fu ar wyliau unwaith i’r wlad honno yn cynhyrchu canlyniadau digon da.We can’t all be good at all things, so that’s when it’s important to bring in an expert. In the translation industry that means a native speaker of the target language who has a professionally-recognised translation qualification. Using a language student, teacher, intern, neighbour, or someone who once went on holiday to that country just won’t produce good enough results.
Fel arfer ni fydd cyfieithwyr nad ydynt yn broffesiynol yn gyfarwydd â theori cyfieithu nac arferion gorau’r diwydiant. Gall fod ofn ar gyfieithydd heb gymwysterau nad yw’n deall yr iaith ffynhonnell fentro’n rhy bell oddi wrth y geiriad gwreiddiol. O ganlyniad, bydd yn cynhyrchu testun sy’n swnio’n annaturiol ac yn herciog, ac sy’n cynnwys gwallau iaith hyd yn oed. Yn y pen draw, y cleient fydd yn dioddef o ganlyniad i ddefnyddio amatur.Non-professional translators are usually not familiar with translation theory and industry best practices. A non-qualified translator who does not fully understand the source language can be afraid to venture too far from the original wording and this results in an unnatural sounding text with poor flow, and perhaps even mistakes. Ultimately, it is the end translation client who suffers by using an amateur.
Yn yr un ffordd yn union na fyddech yn ymddiried yn 'Dai’r Potsiwr' i atgyweirio’ch boeler nwy a’ch gwres gartref, ni ddylech roi cynnwys eich busnes yng ngofal rhywun rywun. Fel arfer, eich gair ysgrifenedig fydd y cysylltiad cyntaf a gaiff llawer o gwsmeriaid â’ch busnes – felly mae’n hollbwysig bod yn gywir a gwneud yr argraff orau bosibl. Dim ond saer geiriau proffesiynol sy’n gallu cyflawni hyn.Just as you wouldn’t trust 'DIY Dave' to fix your gas boiler and heating at home, you shouldn’t entrust your business’s content to just anyone. Your written word is usually the first contact many customers have with your business – so it’s important to get this right and give the best impression you can. Only a professional wordsmith can deliver this.
10 Beth fydd yn digwydd os fydd problem gyda’r cyfieithiad?10 What happens if there is a problem with the translation?
Mae’r rhan fwyaf o gyfieithwyr proffesiynol yn falch o dderbyn cwestiynau ac adborth ar eu gwaith. Rhowch wybod iddynt cyn gynted ag y bo modd os bydd yn rhaid cael eglurhad ar unrhyw beth. Sylwch y gellir dosbarthu rhai newidiadau fel rhai “dewisol” ac na ddylai’r cyfieithydd gael ei gosbi yn y fath achosion. Gall cyfarwyddyd clir o’r cychwyn cyntaf helpu i osgoi unrhyw broblemau. Gallwch ddod o hyd i dempled byr, rhad ac am ddim yma.Most professional translators are happy to receive questions and feedback on their work. Let them know as soon as possible if you need anything clarified. Be aware that some changes may be classed as “preferential” and the translator should not be penalised in such cases. A clear brief from the start can help avoid any issues. You can find a free brief template here.
Lawrlwythwch ganllaw ddefnyddiol un dudalen yn Saesneg ar sut i allanoli gwaith cyfieithu.Download a useful one-page guide on how to outsource translation in English.

Mae rhaid i broffesiynol â chymwysterau sy wedi cael ei hyfforddi yn y ddisgyblaeth hon wneud y cyfieithu. Nid yw’n dasg y gall unrhyw un ei chyflawni.

languagejem.com

Gallwch ddilyn Language JEM: / You can follow Language JEM:

Twitter     Facebook     Instagram

Llwytho i Lawr fel PDF

 

Y diweddaraf oddi wrth Erthyglau