Nia Pollard- Brocer Yswiriant Tarian

Sut Rydym yn Defnyddio’r Gymraeg: Nia Pollard o’r Frocer Yswiriant Tarian, Caernarfon / How We Use Welsh: Nia Pollard of the Insurance Broker Tarian

Mae Tarian yn frocer yswiriant annibynnol wedi ei leoli yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru, sydd yn darparu polisïau yswiriant i unigolion a busnesau ledled y wlad. Yn y dechrau o gyfres newydd, Sut Rydym yn Defnyddio’r Gymraeg, mae Nia Pollard yn esbonio sut maen nhw’n gweithio yn y ddwy iaith mewn maes cymhleth…

Tarian is an independent insurance broker based in Caernarfon, North Wales, who provide insurance packages to individuals and businesses across the country. In the first of a new series, How We Use Welsh, Nia Pollard explains how they work in both languages in a complex field…

Pryd ydym ni’n defnyddio’r Gymraeg?
Gan ein bod yn gwmni gwbl ddwyieithog, rydym yn falch o’n hiaith ac rydym yn cynnig ein gwasanaethau yn Gymraeg i unrhyw un sy’n dymuno ei dderbyn, ac mae llawer o’n cwsmeriaid eisiau derbyn gwasanaeth Cymraeg.

Rydym yn gweld llawer o fanteision o ddefnyddio’r Gymraeg yn ein gweithle, megis sut mae’n gwella ansawdd ein gwasanaeth a sut y mae’n adlewyrchu gwasanaeth lleol gan fod siaradwyr Cymraeg yn gwerthfawrogi cael y cyfle i drefnu eu polisïau yswiriant yn eu hiaith ddewisol. Rydym hefyd wedi canfod fod cyfathrebu gyda’n cwsmeriaid yn yr iaith y maent yn teimlo’n fwy cyffyrddus siarad yn creu ymgysylltiad gwell rhyngom ni a nhw.

Rydym yn darparu ein dyfynbrisiau yn Gymraeg a Saesneg a chaiff ein cwsmeriaid dderbyn eu dogfennau ym mha bynnag iaith sydd yn well ganddynt. Mae llawer o’n cwsmeriaid yn hoffi derbyn eu llythyrau yn Gymraeg, ond mae yna hefyd nifer o bobl sydd yn teimlo’n gyfforddus yn cyfathrebu ar lafar gyda ni yn Gymraeg ond mae’n well ganddynt dderbyn eu dogfennau yn Saesneg gan eu bod yn teimlo’n fwy cyfarwydd â thelerau’r polisïau yn Saesneg. Rydym yn gwbl hyblyg ac rydym yn gweithio o gwmpas anghenion ein cwsmeriaid ac yn trin y ddwy iaith yn gyfartal.

Rydym wedi bod o gwmpas ers dros 30 mlynedd ac mae’r Gymraeg yn fwy amlwg nag erioed yn ein busnes heddiw. Gyda phresenoldeb gwefannau cymharu ar-lein yn tyfu, nid yw’r diwydiant broceriaeth mor bresennol ar ein strydoedd mawr heddiw. Ond mae cynnig gwasanaeth Cymraeg yn rhywbeth yr ydym yn ei gynnig nad yw gwefannau ar-lein yn ei wneud. Gan fod yswiriant yn fater mor bwysig ym mywyd bob dydd, mae pobl yn ddiolchgar o allu cyfathrebu yn eu hiaith ddewisol. Er enghraifft, os mae rhywun yn profi digwyddiad megis damwain modur, neu os mae llifogydd yn difrodi eiddo rhywun, mae’n haws iddynt gysylltu â pherson cyfarwydd ac egluro beth sydd wedi digwydd ym mha bynnag iaith y maent yn teimlo’n fwyaf cyfforddus ei siarad.

Pryd ydym ni’n defnyddio Saesneg?
Rydym yn defnyddio Saesneg gyda’n cwsmeriaid pryd bynnag y maent yn dymuno ei ddefnyddio; mae gennym nifer o gwsmeriaid Saesneg yn ogystal â chwsmeriaid Cymraeg.

Rydym hefyd yn defnyddio Saesneg wrth ddelio â chwmnïau yswiriant. Prin byddwn yn defnyddio’r Gymraeg wrth ddelio â nhw gan mai yn anaml iawn byddwn yn dod ar draws siaradwyr Cymraeg sydd yn gweithio i’r cwmnïau mawr hyn. Mae hyn yn golygu ein bod yn gorfod cyfieithu’r wybodaeth yr ydym yn ei dderbyn gan ein cwsmeriaid a’r cwmnïau yswiriant. Wrth wneud hyn, mae’n rhaid i ni sicrhau na chaiff unrhyw ystyr ei newid mewn cyfieithiad ac ein bod yn cyfieithu’n gywir. Gan ein bod yn rhugl yn y Gymraeg a Saesneg, rydym yn gallu gwneud hyn yn effeithiol ac yn gallu newid o un iaith i’r llall yn rhwydd ac mae’n rhan o fywyd dydd i ddydd ein swyddfa.

Nid ydym wedi cael unrhyw anawsterau cyfreithiol ynglŷn â defnyddio’r Gymraeg yn ein busnes gan ein bod yn darparu dogfennau a gwasanaeth Cymraeg i’r bobl sy’n dymuno ei dderbyn o yn unig. Pan fyddwn yn darparu dogfennau Cymraeg, rydym yn sicrhau bod pob term yn cael ei gyfieithu yn gywir drwy roi sylw manwl i’r broses.

Mae cynnig gwasanaeth Cymraeg yn rhywbeth yr ydym yn ei gynnig nad yw gwefannau cymharu ar-lein yn ei wneud.

Fersiwn Dwyieithog / Bilingual version

Pryd ydym ni'n defnyddio'r Gymraeg?
Gan ein bod yn gwmni gwbl ddwyieithog, rydym yn falch o’n hiaith ac rydym yn cynnig ein gwasanaethau yn Gymraeg i unrhyw un sy’n dymuno ei dderbyn, ac mae llawer o’n cwsmeriaid eisiau derbyn gwasanaeth Cymraeg.
When do we use Welsh?
Being a completely bilingual company, we are proud of our language and we offer our services in Welsh for anyone that wishes to receive it, and most of our customers do.
Rydym yn gweld llawer o fanteision o ddefnyddio’r Gymraeg yn ein gweithle, megis sut mae’n gwella ansawdd ein gwasanaeth a sut y mae’n adlewyrchu gwasanaeth lleol gan fod siaradwyr Cymraeg yn gwerthfawrogi cael y cyfle i drefnu eu polisïau yswiriant yn eu hiaith ddewisol. Rydym hefyd wedi canfod fod cyfathrebu gyda’n cwsmeriaid yn yr iaith y maent yn teimlo’n fwy cyffyrddus siarad yn creu ymgysylltiad gwell rhyngom ni a nhw.We have seen many benefits of using Welsh at the workplace, such as how it improves the quality of our customer service and how it reflects a local service since that Welsh speakers value being able to arrange their insurance policies in their preferred language. We have also discovered that communicating with our customers in the language they feel most comfortable speaking creates a better rapport between us and them
Rydym yn darparu ein dyfynbrisiau yn Gymraeg a Saesneg a chaiff ein cwsmeriaid dderbyn eu dogfennau ym mha bynnag iaith sydd yn well ganddynt. Mae llawer o’n cwsmeriaid yn hoffi derbyn eu llythyrau yn Gymraeg, ond mae yna hefyd nifer o bobl sydd yn teimlo’n gyfforddus yn cyfathrebu ar lafar gyda ni yn Gymraeg ond mae’n well ganddynt dderbyn eu dogfennau yn Saesneg gan eu bod yn teimlo’n fwy cyfarwydd â thelerau'r polisïau yn Saesneg. Rydym yn gwbl hyblyg ac rydym yn gweithio o gwmpas anghenion ein cwsmeriaid ac yn trin y ddwy iaith yn gyfartal.We provide our quotes in Welsh and English and our customers can receive whichever they prefer. Many of our customers prefer to receive their letters in Welsh, but there are also many people who may feel comfortable communicating conversationally with us in Welsh but would rather receive their documents in English since they feel that they would be more familiar with the terms of the policies. We are completely flexible and we work around our customers’ needs and treat both languages equally.
Rydym wedi bod o gwmpas ers dros 30 mlynedd ac mae’r Gymraeg yn fwy amlwg nag erioed yn ein busnes heddiw. Gyda phresenoldeb gwefannau cymharu ar-lein yn tyfu, nid yw’r diwydiant broceriaeth mor bresennol ar ein strydoedd mawr heddiw. Ond mae cynnig gwasanaeth Cymraeg yn rhywbeth yr ydym yn ei gynnig nad yw gwefannau ar-lein yn ei wneud. Gan fod yswiriant yn fater mor bwysig ym mywyd bob dydd, mae pobl yn ddiolchgar o allu cyfathrebu yn eu hiaith ddewisol. Er enghraifft, os mae rhywun yn profi digwyddiad megis damwain modur, neu os mae llifogydd yn difrodi eiddo rhywun, mae’n haws iddynt gysylltu â pherson cyfarwydd ac egluro beth sydd wedi digwydd ym mha bynnag iaith y maent yn teimlo’n fwyaf cyfforddus ei siarad.We have been around for over 30 years and we find that today, the Welsh language is more prominent than ever in our business. With the ever-growing presence of online comparison sites, the brokerage industry isn’t as present in our high streets as it once was. But offering a Welsh service is something that we offer that online sites don’t. Since insurance is such an important matter in everyday life people like being able to communicate in their preferred language and find it easier. For example, if someone is involved in a motor incident, or if their house has been flooded, it is much easier for them to be able to call us and being able to talk to a familiar person and explain what has happened in whatever language they feel most comfortable speaking.
Pryd ydym ni'n defnyddio Saesneg?
Rydym yn defnyddio Saesneg gyda’n cwsmeriaid pryd bynnag y maent yn dymuno ei ddefnyddio; mae gennym nifer o gwsmeriaid Saesneg yn ogystal â chwsmeriaid Cymraeg.
When do we use English?
We use English with our customers whenever they want to use it; we have many English-speaking customers as well as Welsh speaking customers.
Rydym hefyd yn defnyddio Saesneg wrth ddelio â chwmnïau yswiriant. Prin byddwn yn defnyddio’r Gymraeg wrth ddelio â nhw gan mai yn anaml iawn byddwn yn dod ar draws siaradwyr Cymraeg sydd yn gweithio i’r cwmnïau mawr hyn. Mae hyn yn golygu ein bod yn gorfod cyfieithu'r wybodaeth yr ydym yn ei dderbyn gan ein cwsmeriaid a’r cwmnïau yswiriant. Wrth wneud hyn, mae’n rhaid i ni sicrhau na chaiff unrhyw ystyr ei newid mewn cyfieithiad ac ein bod yn cyfieithu’n gywir. Gan ein bod yn rhugl yn y Gymraeg a Saesneg, rydym yn gallu gwneud hyn yn effeithiol ac yn gallu newid o un iaith i’r llall yn rhwydd ac mae’n rhan o fywyd dydd i ddydd ein swyddfa.We also use English when conversing with insurance companies. We barely ever use Welsh when speaking with insurance companies since most of the people that work at these large companies that we come across don’t speak Welsh. This means that when we are provided information from our customers in Welsh we must translate it before informing the insurance companies and vice versa from the companies to the customers. When doing this we must ensure that nothing is lost in translation and that we do it accurately. Since we are all fluent in Welsh and English, we can do this effectively, freely moving from one language to the other, and this is part of the day-to-day life of our office.
Nid ydym wedi cael unrhyw anawsterau cyfreithiol ynglŷn â defnyddio’r Gymraeg yn ein busnes gan ein bod yn darparu dogfennau a gwasanaeth Cymraeg i’r bobl sy’n dymuno ei dderbyn o yn unig. Pan fyddwn yn darparu dogfennau Cymraeg, rydym yn sicrhau bod pob term yn cael ei gyfieithu yn gywir drwy roi sylw manwl i’r broses.We have had no legal difficulties relating to the use of Welsh in our business, since we provide Welsh services and documents only to those who wish to receive them. When we do provide Welsh documents we ensure that all terms are translated correctly by paying close attention to detail.

Felly, os ydych chi eisiau gwasanaeth dwyieithog o ansawdd uchel o brocer stryd fawr gyda phresenoldeb cadarn ar-lein, cysylltwch â Tarian ar 01286 677 787 neu [email protected] a chawn weld sut y gallwn dawelu eich meddwl chi gydag yswiriant dibynadwy. Gyda chymorth rhwydwaith eang o yswirwyr sefydledig, mae modd i’n tîm cyfeillgar a phrofiadol yn Tarian greu polisïau dibynadwy, sy’n addas i’ch gofynion chi gyda phremiymau cystadleuol.

So, if you want a high quality, bilingual service from a high street broker with strong online presence, get in touch with Tarian on 01286 677 787 or [email protected] and we’ll see how we can reassure you with reliable insurance. With the support of a wide network of established insurers, our friendly and experienced team at Tarian are able to create reliable policies at competitive prices.

Nia Pollard- Tarian swyddfa

Llwytho i Lawr fel PDF

 

Y diweddaraf oddi wrth Erthyglau