Mapiau o Gymru

Mapiau, Darluniadau a Delweddau gwahanol o Gymru / Different Maps, Images and Visualisations of Wales

Mae pob darllenwr y cylchgrawn digidol hwn yn gwybod yn iawn fod Cymru'n llawn hanes, diwylliant a chelf, ac mae'n gwlad ni wedi cael ei chynrychioli mewn llawer o ffurfiau ac arddulliau gwahanol. Rwy wedi casglu llawer o enghreifftiau mewn un lle fel y gall pobl eu mwynhau, ynghylch ag esboniadau gan yr artist neu gan hanesydd. Cliciwch ar y llun yn adran arolwg isod, neu sgroliwch i lawr i weld pob un ohonyn nhw.

All readers of this digital magazine are well aware that Wales is steeped in history, culture and art and that representations of our country have been rendered in different forms and styles. I’ve gathered many into one place for people to enjoy, together with insight from the artist or a historian. Click/press on the image in the overview section below or scroll down to view all of them.


Deyrnasoedd Cymru cynnar / Kingdoms of early Wales

Map o Gymru The Kingdoms of early Wales

Rebecca Thomas, Prifysgol Caergrawnt: Yn y Canol Oesoedd cynnar roedd Cymru wedi ei rhannu’n deyrnasoedd – Gwynedd, Dyfed a Cheredigion, er enghraifft. Roedd y cysylltiadau rhwng y gwahanol deyrnasoedd hyn yn allweddol i wleidyddiaeth frodorol. Er ein bod ni nawr yn labelu’r wlad ganoloesol yn ‘Gymru’, nôl yn y cyfnod hwnnw doedd hi ddim yn bodoli fel uned wleidyddol.

Rebecca Thomas, Cambridge University: In the early middle ages Wales was divided into different kingdoms – Gwynedd, Dyfed and Ceredigion, for example – whose relations with each other formed a central plank of native politics. Even though we now label the medieval country as Wales, back then it didn’t exist as a politically united entity.

Parallel.cymru: Rebecca Thomas: Sut ddaeth pobl Cymru’n Gymry / How the people of Wales became Welsh


Wallia Principatus Vulgo Wales o 1645

Map o Gymru Joan Blaeu 1645

Cafodd y map hardd hwn ei gyhoeddi yn y llyfr gan Guil. et Ioannis Blaeu o'r enw Theatrum Orbis Terrarum, sive Atlas Novus - Rhan IV, Amsterdam, Joan Blaeu, 1645-1646. Y gorau o'r cyhoeddwyr mapiau Iseldiraidd oedd y teulu Blaeu, ac y nhw sy'n dal y teitl o arch-faplunwyr mewn unrhyw gyfnod o hanes cartograffeg.

This attractive map of Wales was published in Guil. et Ioannis Blaeu Theatrum Orbis Terrarum, sive Atlas Novus - Part IV, Amsterdam, Joan Blaeu, 1645-1646. The finest Dutch map publishers were the Blaeu family, and they hold the title of mapmakers supreme for any period of cartographical history.

oldmapsonline.org/en/Wales
jpmaps.co.uk/map/id.39021


Cyfrifiad Southall 1891 / Southall's Census 1891

Map o Gymru Southall's Census 1891

Yr Athro Rhys Jones: Un o’r rhai cyntaf i geisio darlunio daearyddiaeth yr iaith Gymraeg oedd y map hwn gan JE Southall, a oedd yn seiliedig ar ganlyniadau’r cyfrifiad o 1891. Er gwaethaf y ffaith fod hwn yn gyfnod pan oedd nifer absoliwt a chanrannau siaradwyr Cymraeg yn llawer uwch na heddiw, mae’n arwyddocaol – ac efallai yn esbonio – y gall dyn adnabod, hyd yn oed yn 1891, ddosbarthiad gwahaniaethol o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, gyda’r canrannau uwch yn yr hyn a elwir yn ‘y Fro Gymraeg’ neu berfeddwlad Cymru, a’r canrannau is yn ymddangos yn ne a dwyrain y wlad.

Professor Rhys Jones: One of the first to attempt to depict the geography of the Welsh language was this map by JE Southall, which was based on the results of the census of 1891. Despite the fact that this was a period during which the absolute numbers and percentages of Welsh speakers were much higher than today, it is significant – perhaps requires an explanation – that one can recognise, even in 1891, the emergence of a differential distribution of Welsh speakers in Wales, with the higher percentages being located in what has been termed ‘y Fro Gymraeg’ or the Welsh ‘heartland’ and the lower percentages appearing in the south and east of the country.

Parallel.cymru: Rhys Jones: Mapio Cymreictod yn 1891 / Mapping Welshness in 1891


Cyfrifiad 2011: Canlyniadau yn ôl Cymuned / 2011 Census results by Community

Map o Gymru Canran y siaradwyr 2011

Map o Gymru Canran y siaradwyr 2011 allwedd

Mae'r eitem hwn yn dangos y ganran o bobl sy'n honni eu bod nhw'n gallu siarad Cymraeg. Mae map rhyngweithiol ac ystadegau ar wefan Comisiynydd yr Iaith Gymraeg.

This item shows the percentage of people who identified as being able to speak Welsh. There is an interactive map and statistics on the Welsh Language Commissioner's site.

comisiynyddygymraeg.cymru


Y Mabinogion

Map o Gymru Y Mabinogion gan y Lolfa

David Sutton, Bardd: Casgliad o chwedlau rhyddiaith yw'r Mabinogi, wedi'u hysgrifennu'n gyntaf mewn Cymraeg Canol, o bosib yn ystod y 12fed neu'r 13eg ganrif, ond yn ail-ddyddio i draddodiad llafar sy'n hŷn o lawer, ac yn cynnwys sawl elfen o fytholeg a llên gwerin Geltaidd o'r cyfnod cyn-Gristionogol. Hollbwysig i'r casgliad yw pedair chwedl gymhleth o'r enw Y Pedair Cainc. Ceir yma'r chwedlau adnabyddus am Branwen ferch Llŷr a'i chawr o frawd Bendigeidfran, ac am Lleu Llaw Gyffes a'r fenyw a grëwyd ar ei gyfer o flodau, sef Blodeuwedd, a'i bradycha yn y pen draw, a chael ei throi'n dylluan. Hefyd dyma'r stori ymchwil arwrol ardderchog o'r enw ‘Culhwch ac Olwen’, sy'n rhoi cip diddorol iawn ar y Brenin Arthur gan ddangos dyn sy'n dra gwahanol i'r ddelwedd dduwiol mewn rhamantau canoloesol hwyrach. Ar ben hynny mae sawl hanes arall sydd yn llai pwysig, efallai, fel gweithiau llenyddol, ond sydd yn ddiddorol tu hwnt i'r rhai sy'n astudio Cymraeg Cynnar, yn ogystal â diwylliant Cymreig cynnar.

David Sutton, Poet: The Mabinogion is a collection of prose tales first written down in Middle Welsh, probably in the 12th to 13th centuries, but dating back to much older oral traditions and containing many elements of pre-Christian Celtic mythology and folklore. Central to the collection are four complex narratives known as the Four Branches, which include the well-known stories of Branwen daughter of Llŷr and her gigantic brother Bendigeidfran, and of Lleu Llaw Gyffes and the woman created for him from flowers, Blodeuwedd, who ends up betraying him and is turned into an owl. There is also the superb heroic quest story, ‘Culhwch and Olwen’, which gives a fascinating glimpse of a King Arthur very different from the pious figure of later mediaeval romance, and a number of other tales that are perhaps less significant as literary works but all of which hold immense interest for students of early Welsh language and culture.

Poster ar gael o Y Lolfa: ylolfa.com/cynnyrch/1000000000159/poster-y-mabinogion

davidsuttonpoetry.com


 

Llenorion Cymru / Literary Map

Map o Gymru Llenorion Cymru

Geoff Sawers, Arlunydd, The Literary Gift Company: Lluniais i fy Map Llenyddol Prydain yn 2010, ac er ei fod e'n gwerthu'n dda, do'n i ddim yn siŵr o'n i wedi neud chwarae teg o ran Cymru. Mae gormod o enwau pwysig i'w ffitio i mewn i ardal sy'n rhy fach! Felly nes i benderfynu neud map arall, yn cynnwys Cymru'n unig y tro hwn, a rhoddodd fy ffrind Iwan fi mewn cysylltiad gyda Gwyn Davies, oedd yn gweithio i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth bryd hynny. O'r awduron i gyd, ro'n ni'n treio dewis hanner oedd yn sgrifennu yn Gymraeg, a hanner arall oedd yn sgrifennu yn Saesneg, ond gan mwyaf, ro'n ni'n edrych am bobl oedd wedi'u cysylltu'n gryf trwy eu gwaith nhw gydag ardal neilltuol. Mae rhai ardaloedd yn brysur iawn - Caernarfon, Fflint, a'r cymoedd - ond mae tipyn bach o le gwag yn y canolbarth, ym Mhowys. Pan ysgrifennais i at Gwyn roedd y llythyr yn Saesneg, ond dywedais i ar y gwaelod fy mod i'n ddysgwr - o hynny ymlaen doedd e ddim yn siarad yr un gair o Saesneg â fi, ac roedd e'n neud i fi drafod y manylion i gyd yn Gymraeg. Roedd y profiad yn ardderchog o ran fy helpu fi i ddysgu'r iaith!

Geoff Sawers, Artist, The Literary Gift Company: I made my Literary Map of Britain in 2010 and though sales were good, I wasn't sure I'd served Wales that well. Too many important names to fit in too small an area! So I decided to do another just of Wales, and my friend Ieuan put me in touch with Gwyn Davies, then working at Llyfrgell Genedlaethol in Aberystwyth. We tried to select roughly half-and-half Welsh and English-language writers, but mostly we were looking for people whose work connects strongly to a geographic area. Some areas are very busy- but there is a bit of space in the centre, in Powys. When I wrote to Gwyn the letter was in English, but I said at the end that I'm learning Welsh- from that moment he didn't speak a word of English to me and made me discuss every little detail in Welsh. It was good for my learning!

presentindicative.com/products/literary-map-of-wales-map-llenorion-cymru-6377


Mapio Cymru- Rhyngweithiol / Interactive

Mapio Cymru yw'r brosiect i greu map Cymraeg ar-lein. Mae map yn fyw ac mae modd gweld enwau fel Treffynnon, Abertawe ac Aberteifi ar fap.
Mae'r prosiect yn manteisio ar ddata agored sydd eisoes ar gael, sef prosiect torfol o'r enw OpenStreetMap sydd yn debyg i Wicipedia ond ar gyfer mapio'r byd. Mae modd mewnosod map ar eich gwefan chi. Yn dyfodol agos fe fydd lle o wasanaethau mapio eraill. Ewch i https://openstreetmap.cymru i weld y prototeip sydd eisoes yn dangos map o Gymru fel gwlad, ac sydd wrthi'n esblygu.

Mapio Cymru is the project to create a map online in the Welsh language. The map is live and you can now see names like Treffynnon, Abertawe and Aberteifi on a map. The project takes advantage of open data which are already available, namely the crowd-powered project OpenStreetMap which is similar to Wikipedia except for world mapping. You can already embed the map on your own website. In the near future there will be a variety of other mapping services provided. Go to https://openstreetmap.cymru to see the prototype which already shows a map of Wales as a country, and is currently evolving.

openstreetmap.cymru

Parallel.cymru: Carl Morris: Creu Map i Gymru / Creating a Map for Wales


Rhiannon Art: Hen Wlad Fy Nhadau Bywiog

Rhiannon Roberts Hen Wlad Fy Nhadau Bywiog

Rhiannon Roberts, Rhiannon Art: Roeddwn ni wedi creu darlun o fap Cymru o'r blaen ond heb roi dim byd o'i gwmpas- dim ond lliw gwyn. Mae arfordir ein gwlad fach ni mor brydferth felly fe benderfynais greu darlun arall o'r map o’n y tro yma yn dangos ein tonnau, ein llongau, ein pysgod ac ein dolffiniaid ym Mae Ceredigion, ein tir gwyrdd yn camu i mewn i Loegr, ein tractorau, ein lleuad a haul.
Mae cymaint i ddathlu yng Nghymru ac mae'r darlun yma yn dangos y cwbwl. O Gastell hardd Conwy i Bier Aberystwyth, lawr at Canolfan y Mileniwm yn y Brif Ddinas, mae Cymru yn llawn adeiliadau diddorol. Wrth gwrs roedd yn rhaid rhoi y ddraig goch i mewn, ynghyd a chenhin pedr, telyn a'r het Gymreig. Llun lliwgar a bywiog sy'n dangos fy nghariad i tuag at fy Ngwlad ydyw hwn.

Rhiannon Roberts, Rhiannon Art: I had created a map of Wales before without putting anything around it- only white. The coastline of our small country is so beautiful so that I decided to create another illustration of the map but this time showing the waves, boats, fish and dolphins in Cardigan Bay, and our green land stepping into England, our tractors, moon and sun.
There is lots to celebrate about Wales and the illustration shows it all. From the beautiful Conwy castle to Aberystwyth Pier, down to the Millennium Centre in the capital, Wales is full of intresting buildings. Of course the red dragon has to be in it, together with a daffodil, harp and a Welsh hat. This is a colourful and lively image that shows my love for my country.

rhiannonart.co.uk

Parallel.cymru: Rhiannon Roberts: Peintio Cymru Mewn Lliwiau Newydd


Enwau lleoedd Cymreig / Welsh placenames

Map o Gymru mewn enwau llefydd gan Sam Brown

Sam Brown, Arlunydd ac iethydd: Anfonodd ffrind lun ata i o’i grys-t newydd, arno roedd map o’r Unol Daleithiau, ond efo enw pob dalaith mewn ffurf pob dalaith. Mi wnaeth o fy nharo pa mor wych y buasai, tasai rhywbeth tebyg yn bodoli ar ffurf y gwledydd Celtaidd. Felly mi es i ato i chwilio os oedd rai yn bodoli yn barod, ond ffeindies i ddim byd. Mi benderfynes i roi gynnig ar greu map fy hun a dyna beth wnes i.
Er mwyn creu’r map, defnyddies i raglen PC o’r enw Serif PagePlus. Mewnosodes i fap syml o Wicipedia er mwyn cael siâp y wlad ac wedyn, trwy ddefnyddio mapiau Ordnance Survey, Google a’r we, wnes i ddechrau gosod enwa’r llefydd. Y map cyntaf a wnes i oedd Cernyw a gorffennes i hwnnw mewn tua chwech awr. Wedi hynny, dechreues i ar Gymru a wnaeth gymryd tua 18 awr! A dyna bryd sylwes i mai mwy na Chernyw ydy maint Cymru- pwy fasa ‘di meddwl!. Ar hyn o bryd dwi’n gweithio ar Ynys Manaw ac wedyn bydda i’n gwneud map o Werddon, yr Alban a Llydaw- dwi’n bwriadu creu crysau-t a deunydd arall efo’r dyluniadau arnyn nhw.

Sam Brown, Artist and linguist: A friend sent to me a new t-shirt, with a map of the USA, but with the name of every state in the form of every state. It struck me how great it would be is something similar existed in the form of Celtic countries. So I searched to see if any existed already, but I didn't find any. I decided to have a go at creating a map myself and that's what I did.
In order to create the map, I used a PC program called Serif PagePlus. I inserted a simple map from Wicipedia in order to create the shape and then, through using Ordnance Survey maps, Google and the web, I started setting out the place names. The first map I did was Cornwall, and I finished that in about six hours. After that, I started on Wales but it took about 18 hours! And that's when I realised that Cornwall isn't the same size as Wales- who would have thought!. At the moment I'm working on the Isle of Man and then I'll do a map of Ireland, Scotland and Brittany- I'm intending to create t-shirts and other items with the images on them.

gwaskvian.teemill.com/collection/cymraeg / anblogkernowek.blogspot.co.uk  / facebook.com/anblogkernowek


Driftwood Designs: Cestell o Gymru / Castles of Wales

Map o Gymru Cestyll Driftwood Designs

Lizzie Spikes, Arlunydd, Driftwood Designs: Ar arfordir a ffiniau Cymru mae tua 600 o gestyll a chaerau wedi'u gwasgaru yma ac acw, ac roedd fy rhieni'n arfer mynd â ni'n blant i ymweld â llawer iawn ohonyn nhw. Rwy wedi llunio'r map hwn i ddangos ychydig o'r rhai rwy'n eu cofio'n fwya clir - yn ogystal â chryn dipyn rwy'n bwriadu llusgo'r cryts o'u gwmpas nhw. Dyma olion hen ryfeloedd a ffyrdd o fyw hynafol - rwy wastad wedi credu bod y strwythurau 'ma yn gyfareddol ac ysbrydoledig, ac ro'n i eisiau creu delwedd i gyfleu eu hollbresenoldeb a'u pŵer.

Lizzie Spikes, Artist, Driftwood Designs: The coastline and borders of Wales are dotted with around 600 castles and fortresses and my parents took us to visit a great many of them as children. I have made this map illustrating some of those that I remember most clearly- along with a fair few that I intend to drag my own boys around. Remnants of old wars and ways of life- I have always found these structures fascinating and inspiring and wanted to create an image that conveyed their ubiquity and power.

driftwooddesigns.co.uk

Megan Tucker Illustration: Gwlad Gwlad

Megan Tucker Illustration Gwlad Gwlad

Megan Tucker, Darlunydd: Nes i greu'r print o'r enw 'Gwlad' mewn ymateb i'r teimlad mod i eisiau creu delwedd o'r anthem genedlaethol mewn ffordd ffres a modern. O ystyried y gytgan, sy'n dechrau gyda "Gwlad, gwald", nes i benderfynu rhoi'r llythrennau arno â llaw trwy siâp cyfan tirfas Cymru ei hun. Gan ddefnyddio palet naturiol o liwiau blodeuol, ro'n i'n ychwanegu llawer o fanylion blodeuol o gwmpas y geiriad. I ddechrau, gaeth y dyluniad i gyd ei fraslunio â phensil, ac wedyn gaeth e'i incio, ei sganio, a'i ddigidio yn Adobe Illustrator. Fy nyluniad mwya poblogaidd hyd yn hyn yw'r llun hwn, ac mae e ar waliau tai llawer o gwsmeriaid.

Megan Tucker, Illustrator: I created the ‘Gwlad’ print in response to wanting to illustrate the national anthem in a fresh and modern way. Taking the chorus, which translated begins with "Land, Land", I decided to hand letter it throughout the overall shape of the landmass of Wales itself. Using a natural floral colour palette, I added in lots of floral detail around the wording. Initially, the whole design was sketched in pencil, then inked, scanned and digitised in Adobe Illustrator. This illustration is my most popular design to date and is on the walls of many customers homes.

megantuckerillustration.co.uk/products/hen-wlad-fy-nhadau-print


 

Hoffech chi gyfrannu map i'r dudlaen hon? Cysylltwch â fi ar [email protected] / Would you like to contribute a map to this page? Contact me on [email protected].

Y diweddaraf oddi wrth Hwyl

About Wales

About Wales

What are some common symbols used to represent Wales, and why are