Llenyddiaeth Cymru logo

Cynllun Strategol Llenyddiaeth Cymru (2019-2022) / Literature Wales Strategic Plan (2019-2022)

In Updates by key organisations in Wales/Formal

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi lansio Cynllun Strategol tair blynedd y sefydliad, gydag ymrwymiad i gefnogi egin awduron a mynd i’r afael â diffyg cynrychiolaeth yn y sector lenyddol.

Literature Wales has launched a new three-year Strategic Plan with a commitment to supporting early career writers and tackling under-representation in the literature sector.

Lansiwyd y Cynllun Strategol ar gyfer 2019-2022 ym mhabell Awduron wrth eu Gwaith yng Ngŵyl y Gelli ddydd Mercher 29 Mai. Gweledigaeth y sefydliad yw Cymru sydd yn sydd yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth.Literature Wales launched its new Strategic Plan for 2019-2022 in the Writers at Work tent at Hay Festival on Wednesday 29 May. The National Company’s vision is a Wales where literature empowers, improves and brightens lives.
Cyflwynodd Cadeirydd Llenyddiaeth Cymru, Kate North a’r Prif Weithredwr, Lleucu Siencyn y cynllun, sydd wedi ei ddatblygu yn dilyn proses ymgynghori eang gyda chefnogaeth Rhaglen Wytnwch Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae ymrwymiad Llenyddiaeth Cymru i fynd i’r afael â diffyg cynrychiolaeth o fewn y sector a’i gefnogaeth parhaol i egin awduron yn ganolog i’r strategaeth am y dair blynedd nesaf.Chair of Literature Wales Kate North, and CEO Lleucu Siencyn, introduced the new plan, which has been created following a wide consultation process and with support from the Arts Council of Wales’ Resilience Programme. Literature Wales’ commitment to tackling under-representation within the sector and its ongoing support for early career writers is at the forefront of the strategy for the next three years.
Mae ein cylch gorchwyl wedi ei fireinio er mwyn canolbwyntio ar fuddsoddi ar yr amser iawn er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau. Rydym wedi adnabod tri prif faes a elwir yn Golofnau Gweithgaredd, a thri Blaenoriaeth Dactegol lle byddwn yn canolbwyntio ein egni a’n gweithgaredd yn ystod cyfnod y Cynllun Strategol (2019-2022). Mae’r tair colofn yn gorgyffwrdd, a rhan helaeth o’n gwaith yn llifo o un i’r llall. Ni chaiff prosiectau eu datblygu heb edrych ar y darlun cyfan. Byddant yn ategu ei gilydd, a bydd i’n holl weithgarwch dros y tair blynedd ddilyniant a datblygiad clir.The plan also introduces a more refined model of working with a focus on investment at the right time, in order to maximise impact. Literature Wales has identified three main areas of work (Our Pillars) and three Tactical Priorities, where it will focus its energy and activity during the period of the Strategic Plan (2019-2022). All of the pillars are inter-linked and projects will not be developed in isolation, but will complement and enhance each other, with clear progression and development during the three years.
Ein Colofnau Gweithgaredd yw:
• Cyfranogi – ysbrydoli rhai o’n hunigolion a’n cymunedau mwyaf ymylol drwy eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgaredd llenyddol.
• Datblygu Awduron – datblygu potensial creadigol a phroffesiynol egin awduron.
• Diwylliant Llenyddol Cymru – dathlu ein hawduron cyfoes a threftadaeth lenyddol Cymru.
Our three Activity Pillars are:
• Participation – inspiring some of our most marginalised individuals and communities through active participation in literature.
• Writer Development – developing the creative and professional potential of early career writers.
• Wales’ Literary Culture – celebrating our contemporary writers and the literary heritage of Wales.
Ein Blaenoriaethau Tactegol yw:
• Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb
• Iechyd a Llesiant
• Plant a Phobl Ifanc.
The Tactical Priorities are:
• Representation & Equality
• Health & Well-being
• Children & Young People.
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae gan bob un ohonom ein straeon i’w hadrodd, ac rydym oll yn rhannu’r angen greddfol hwnnw i wrando ar ac i ddysgu oddi wrth ein gilydd. Mae awduron yn dal drych i wyneb cymdeithas, a dylem edrych yn graff ar yr adlewyrchiad. Pwy a ŵyr beth ddaw’r dyfodol i’n rhan, ond bydd Llenyddiaeth Cymru yno i rymuso, i wella ac i gyfoethogi ein bywydau.”Lleucu Siencyn, Chief Executive of Literature Wales, said: "We all have stories to tell, and we all share the basic human need to listen and learn from each other. Writers help to hold a mirror to society, and we should always look at what’s reflected there. Who knows what the future holds, but Literature Wales will be there to empower, improve and brighten our lives.”
Datblygu Awduron
Mae awduron yn ganolog i waith Llenyddiaeth Cymru; maent yn defnyddio ein gwasanaethau neu’n cyflawni ein prosiectau, ac yn randdeiliaid hollbwysig. Bwriadwn i’r gefnogaeth a’r ymyraethau yr ydym yn eu cynnig fod yn rai datblygiadol hir-dymor, gan ganolbwyntio ar fuddsoddi ar yr amser iawn er mwyn gwneud y mwyaf o ddatblygiad celfyddydol a phroffesiynol yr unigolyn.
Writer Development
Writers are central to the work of Literature Wales; they are our service-users, project deliverers, and stakeholders. We aim to have a more long-term developmental approach to the support and interventions we offer, focusing on investment at the right time to maximise artistic and professional development.
Bydd prosiectau sydd wedi hen ennill eu plwyf, megis Ysgoloriaethau i Awduron a’r Cynllun Mentora yn parhau i gael eu rheoli gan Llenyddiaeth Cymru, ar y cyd â chynhigion datblygiad pellach. Mae rhain yn cynnwys Rhaglen Hyfforddi Awduron mwy cydlynol; Cyfleoedd Cysgodi rheolaidd i awduron sy’n awyddus i weithio mewn lleoliadau cyfranogi; rhaglenni sy’n mynd i’r afael â diffyg cynrychiolaeth yn y sector lenyddol; a chynllun nawdd sy’n cynnig cefnogaeth a hyfforddiant i awduron gyflawni prosiectau sy’n hyrwyddo ymdeimlad o berthyn a llesiant; a Nant, bwthyn rhestredig Gradd II* ar safle Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, wedi ei adnewyddu’n ddiweddar a hynny’n arbennig ar gyfer encilion.Established projects, such as the invaluable Writers’ Bursaries and Mentoring Scheme, will continue to be run by Literature Wales, alongside new Writer Development offers. These include a more cohesive Writer Training programme; regular Shadowing Opportunities for writers looking to work in participatory settings; programmes to address under-representation within the literature sector; a funding scheme offering financial support and training for writers to deliver projects which encourage wider engagement and inclusion; and Nant, a historical Grade II* listed cottage located at Tŷ Newydd Writing Centre which has been newly renovated specifically for writing retreats.

llenyddiaethcymru.org/amdanom-ni/cynllun-strategol-2019-2022
literaturewales.org/about/strategic-plan-2019-2022

Cynllun Strategol


 

Llyfr y Flwyddyn

Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019 / Wales Book of the Year Short List 2019

Wedi misoedd lawer o ddarllen ac ystyried degau o gyfrolau, mae dau banel o feirniaid wedi cyhoeddi pa gyfrolau sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019 yn Gymraeg ac yn Saesneg.

After many months reading through Wales’ literary offerings from 2018, two independent judging panels have chosen their Short Lists for both the English and Welsh-language Wales Book of the Year Awards 2019.

Dyfernir y Gwobrau i’r gweithiau gorau ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol o fewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol.The Award is presented annually to the best works in the fields of creative writing and literary criticism in three categories: Poetry, Fiction and Creative Non-Fiction.
Mae’r rhestrau byrion Cymraeg a Saesneg eleni yn cynnwys rhai o awduron amlycaf Cymru. Yn eu mysg mae Prifeirdd, Prif Lenorion, a Phrif Ddramodydd; enillwyr gwobrau megis y Somerset Maugham Award, y Sunday Times Business Book of the Year, yr Orange Prize a’r Costa Poetry Award, ymysg eraill. Yn mynd benben â’r cewri llenyddol hyn mae awduron ar ddechrau eu gyrfaoedd, gan gynnwys rhai sy’n cyhoeddi gwaith am y tro cyntaf.This year’s Short Lists include some of Wales’ leading writers. Collectively they have won a range of literary prizes including: the Somerset Maugham Award, Sunday Times Business Book of the Year, the Orange Prize, Terry Hetherington Young Writers Award, the Costa Poetry Award, the Branford Boase Award, National Eisteddfod Chairs, Crowns and Medals for poetry, prose and drama, and last but not least, the Wales Book of the Year Award. Going head-to-head with established literary giants are some of Wales’ most exciting debut writers.
Y teitlau sydd wedi eu dethol ar gyfer Rhestr Fer Gymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019 yw:Titles selected for the Welsh Language Book of the Year Award 2019 are:
Gwobr Farddoniaeth
Twt Lol, Emyr Lewis (Gwasg Carreg Gwalch)
Cyrraedd a cherddi eraill, Alan Llwyd (Cyhoeddiadau Barddas)
Stafell fy Haul, Manon Rhys (Cyhoeddiadau Barddas)

Gwobr Ffuglen Prifysgol Aberystwyth
Ynys Fadog, Jerry Hunter (Y Lolfa)
Llyfr Glas Nebo, Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
Esgyrn, Heiddwen Thomas (Y Lolfa)

Gwobr Ffeithiol- Greadigol
Cymru mewn 100 Gwrthrych, Andrew Green (Gwasg Gomer)
Y Gymru ‘Ddu’ a’r Ddalen ‘Wen’: Aralledd ac Amlddiwylliannedd mewn Ffuglen Gymreig, er 1990, Lisa Sheppard (Gwasg Prifysgol Cymru)
Rhyddhau’r Cranc, Malan Wilkinson (Y Lolfa)
Ar y panel beirniadu Cymraeg eleni mae’r darlledwr adnabyddus ac awdur chwaraeon, Dylan Ebenezer; Pennaeth Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, Cathryn Charnell-White; a’r bardd ac awdur Idris Reynolds, cyn-enillydd Llyfr y Flwyddyn 2017 am ei gofiant i Dic Jones, Cofio Dic (Gwasg Gomer).The Welsh-language judging panel for Wales Book of the Year 2019 are: poet and 2017 Wales Book of the Year winner, Idris Reynolds for his memoir of Dic Jones, Darn o Haul Draw yn Rhywle: Cofio Dic (Gwasg Gomer); popular broadcaster and sports author, Dylan Ebenezer; and the Aberystwyth University’s Head of Welsh and Celtic Studies Cathryn Charnell-White.
Ar y Rhestr Fer Saesneg mae:The English-language Short List 2019 titles are:
Roland Mathias Poetry Award
Insistence, Ailbhe Darcy (Bloodaxe Books Ltd.)
Salacia, Mari Ellis Dunning (Parthian Books)
Gen, Jonathan Edwards (Seren)

Aberystwyth University Fiction Award
Arrest Me, for I Have Run Away, Stevie Davies (Parthian Books)
West, Carys Davies (Granta Publications)
Sal, Mick Kitson (Canongate Books)

Creative Non-Fiction Award
Moneyland, Oliver Bullough (Profile Books)
The light in the dark: A winter journal, Horatio Clare (Elliott & Thompson)
Having a go at the Kaiser: A Welsh family at war, Gethin Matthews (University of Wales Press)
Mae’r panel beirniadu Saesneg yn cynnwys y bardd ac Athro Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Lerpwl, Sandeep Parmar; Pennaeth Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth, Louise Holmwood-Marshall; a’r nofelydd ac Athro Emeritws Ysgrifennu Creadigol Coleg Birbeck, Prifysgol Llundain, Russell Celyn Jones.The English-language judges are: Sandeep Parmar, poet and Professor of English Literature at Liverpool University; Louise Holmwood Marshall, Head of the English and Creative Writing Department of Aberystwyth University; and novelist and Emeritus Professor of Creative Writing at Birkbeck College, University of London Russell Celyn Jones.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Dyma gyfrolau sy’n annog darllenwyr i ystyried rhai o themâu mawr bywyd. Mae iechyd meddwl a hunaniaeth – boed yn bersonol neu’n genedlaethol – yn linyn cyswllt drwy’r cyfan. Mae Rhestr Fer 2019 yn cynrychioli amrywiaeth anhygoel llenyddiaeth gyfoes o Gymru.”

On behalf of the judging panel, Louise Holmwood-Marshall said: “The range and quality of the entries demonstrates, yet again, the incredible talent of Welsh writers and the cultural contribution that authors from and of Wales make to the country’s long-established literary heritage. The 2019 shortlist illustrates not only an incredible breadth and variety of writing but also the significance of the stories of Wales to a global readership.”

Caiff enillwyr y gwobrau eu cyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar nos Iau 20 Mehefin, lle bydd cyfanswm o £12,000 yn cael ei rannu rhwng yr awduron llwyddiannus. Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £1,000, ac fe gyflwynir gwobr ychwanegol o £3,000 i brif enillydd y wobr yn y ddwy iaith. Bydd yr enillwyr hefyd yn derbyn tlws sydd wedi’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones. Mae tocynnau i’r Seremoni Wobrwyo yn £7.50 (gostyngiadau yn £5), a gellir eu prynu ar-lein o wefan Canolfan y Celfyddydau.The winners of this prestigious award will be announced at an Award Ceremony held at Aberystwyth Arts Centre on Thursday 20 June, where a total prize fund of £12,000 will be distributed to the winning writers. Each category winner will receive a prize of £1,000, and the main award winners in each language will receive an additional £3,000. Each winner will also receive a specially commissioned trophy created by the artist Angharad Pearce Jones. Tickets for the Award Ceremony are £7.50 (£5 concessions) and can be purchased via the Aberystwyth Arts Centre website.

llenyddiaethcymru.org/llyfr-y-flwyddyn
literaturewales.org/wales-book-year