Huw Marshall- Lansio Melin Drafod

Dyfodol digidol i’r Gymraeg / The digital future in Welsh: Lansio Melin Drafod “Think Tank” newydd gan Huw Marshall

In Informal/Articles

Mae’r gair digidol yn cael ei ddefnyddio’n aml y dyddiau hyn, ond beth yn union yw digidol? Yma mae Huw Marshall yn cyflwyno mwy am y maes a’i fentur newydd, y ‘think tank’ Melin Drafod.

The word digital gets used frequently these days, but what exactly is digital? Here Huw Marshall introduces more about the field and his new venture, the think tank Melin Drafod.

Mae nifer yn credu taw technoleg yw digidol neu ffordd o gyfathrebu. I fi ffordd o weithredu yw digidol, nid yw ddigidol yn rhywbeth ychwanegol neu ar wahân. Nid peth yw digidol ond ffordd o neud pethau.Some believe that digital means technology or a way of communicating. To me digital is a way of working, it is not something additional or different. Digital is not a thing but a way of doing things.
Mae’r newidiadau yn ein ffyrdd o fyw dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn syfrdanol, mae’n anodd credu fod gwasanaethau a theclynnau yr ydym yn cymryd yn ganiataol heddiw yn ddyfodiadau diweddar, Netflix (2007), YouTube (2005), iPhone (2007), BBC iPlayer (2007), Amazon Alexa (2014). Y newid mwyaf yw sut yr ydym yn ymwneud a chyfathrebu a thechnoleg, ag efallai taw’r cam o reoli drwy fysellfwrdd i siarad â’n dyfeisiadau yw’r datblygiad sydd wedi datblygu’n gynt na’r disgwyl, ag o’r herwydd hyn, yn bennaf, mae wedi amlygu’r heriau sy’n wynebu iaith cymharol fach fel y Gymraeg mewn byd sy’n gwbl ddigidol erbyn hyn.The changes in our way of life over the last years have been astounding. It is hard to believe that the services and tools we take for granted today are such recent arrivals: Netflix (2007), YouTube (2005), iPhone (2007), BBC iPLayer (2007), Amazon Alexa (2014). The greatest change is in how we relate to and communicate with technology, and perhaps the step from control by computer keyboard to talking to our devices is the development which has taken place sooner than expected, and it is chiefly this that has highlighted the challenges facing a comparatively small language like Welsh in a world which is now entirely digital.
Ond nid dyma’r unig her, mae technoleg AI (Artificial Intelligence) yn dod yn rhan o’n bywydau bob dydd, bydd robotiaid yn ymgymryd â nifer o’r dyletswyddau yr ydym yn eu neud heddiw. Mae dylanwad digidol ym meysydd addysg, iechyd, adloniant a’n Diwylliant yn cynyddu fesul dydd.But this is not the only challenge: AI (Artificial Intelligence) technology is becoming a part of everyday life, robots will be taking on a number of duties that we do today. The digital influence in the fields of education, health, entertainment and culture is increasing day by day.
Fel rhiant i ddau o blant dwi’n oed cynradd dwi’n gweld hyn yn ddyddiol. Mae plant heddiw, boed yn Gymru neu’n di Gymraeg, yn ymwneud a thechnoleg ddigidol mewn ffordd gwbl naturiol. Mae eu bywydau yn ddigidol, dyma’r hyn maen nhw wedi arfer ag ef ar hyd eu hoes. Dwi’n gweld yn fy mhlant fy hun sut maen nhw’n ymwneud a thechnoleg a chynnwys, ond mae eu lefel o ymwneud a hyn drwy gyfrwng y Gymraeg yn brin, ddim oherwydd unrhyw wrthwynebiad, ond oherwydd y ffaith nad yw’r cynnwys o reidrwydd ar gael, o safon, ar y llwyfannau lle maen nhw’n trigo.As a parent of two children of primary school age I see this daily. Children today, whether Welsh-speaking or non-Welsh-speaking, relate to digital technology in an entirely natural way. Their lives are digital, it's something they have been accustomed to all their days. I myself see in my children how they relate to technology and digital content, but the degree to which they relate to these through the medium of Welsh is limited, not on account of any resistance, but because of the fact that of necessity content of a good standard is not available on the platforms that they inhabit.
Pwy sy’n gyfrifol am sicrhau a datblygu lle i’r Gymraeg yn y byd digidol hwn? Yr her fawr sy’n wynebu ieithoedd fel y Gymraeg yw maint y farchnad, mae’r nifer o 'ddefnyddwyr' a’r canran o rain sy’n hyderus yn eu defnydd o dechnoleg drwy gyfrwng y Gymraeg yn golygu fod y cwmnïau technoleg fawr, ar y cyfan, ddim yn gweld gwerth masnachol i fuddsoddi yn ddarpariaeth o’i llwyfannau yn y Gymraeg.Who is responsible for securing and developing a place for Welsh in this digital world? The great challenge that languages like Welsh are facing is the size of the market: the number of 'users' and the percentage of those who are confident in their use of technology through the medium of Welsh means that the big technology companies do not on the whole see any market value in investing in the provision of platforms in Welsh.
Felly pwy sy’n gallu gwneud yr achos digidol dros y Gymraeg? Yn amlwg mae gan lywodraeth rhan flaenllaw yn hyn oll, bydd datblygu deddfwriaeth a buddsoddi mewn technoleg ym maes y Gymraeg yn ddigidol yn hynod bwysig. Ond mae yna angen am leisiau eraill, lleisiau annibynnol o fyd busnes a’r drydedd sector, unigolion a sefydliadau sydd ag arbenigedd a phrofiad yn y maes.So who can make the digital case for Welsh? Obviously the government has a prominent part in all this; the development of legislation and investment in technology in the field of digital Welsh will be extremely important. But there is a need for other voices, independent voices from the world of business and the third sector, individuals and institutions with expertise and experience in the field.
Dyw’r datrysiad ddim yn un syml, ond mae’n sicr yn fater ni all gael ei ddatrys gan un garfan neu unigolion sy’n gweithredu’n annibynnol yn unig. Dyma felly nod sefydlu Melin Drafod, “Think Tank” annibynnol cyntaf o’i bath fydd yn dod a nifer o arbenigwyr dan un to i awgrymu a llunio syniadau polisi ag i herio a chwestiynau blaenoriaethau yn gyd-destun y Gymraeg yn ddigidol.The solution is not a simple one, and certainly it is not a matter that can be resolved by one faction or individuals working independently on their own. That is why there is a need first for an independent Think Tank of the kind that will bring together a number of specialists under one roof to suggest and draw up policy ideas and to put challenging questions to the authorities concerning the matter of digital Welsh.
Bydd Melin Drafod yn cynnig cefnogaeth bositif i ddatblygiadau yn y maes, yn cynnig llais i’r sector ddigidol Gymraeg a chynorthwyo yn natblygiad economaidd.Melin Drafod will offer positive support to developments in the field, offer a voice to the Welsh digital sector and assist in economic development.

Lansiad: Dydd Llun 6ed Awst, 17:30-19:00
Indycube Bae Caerdydd, Trade Street CF10 5DQ
Croeso cynnes i gyd
A warm welcome to all; simultaneous translation will be available

Melin Drafod Gwahoddiad

melin.cymru / melindrafod


Huw Marshall

Mae gan Huw brofiad sylweddol yn y maes, Huw naeth ddatblygu gwasanaeth tywydd S4C fel un wirioneddol 360, yn cynnig Ap tywydd a phresenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol. Yna am bron i bedwar blynedd bu’n gyfrifol am ddatblygu strategaeth a gweithgaredd digidol S4C, yn ail lansio llwyfan gwylio a gwefan y sianel yn ogystal â datblygu gweithgaredd cynnwys y sianel ar Facebook a YouTube trwy rannu cynnwys o raglenni’r brif amserlen y sianel a chynnwys newydd i gynulleidfaoedd iau gyda 5pump. Oedd Huw hefyd yn gyfrifol am y buddsoddiad yn Enaid Coll, y gêm consol cyntaf yn yr iaith Gymraeg. Erbyn heddiw mae’n ymgynghorydd a strategydd digidol yn gweithio gydag unigolion, busnesau a sefydliadau i ddatblygu eu gweithgaredd digidol. Mae hefyd yn gadeirydd Gemau Cymru y corff sy’n cynrychioli’r diwydiant gemau cyfrifiadurol yng Nghymru.

Huw has considerable experience in the field: he developed the S4C weather-forecasting service as a true 360-degree panorama, offering a weather app and presence on social media. Then for nearly four years he was responsible for the development of S4C’s digital strategy and activities, relaunching the channel’s broadcast and digital platforms as well as developing the channel’s content on Facebook and YouTube by sharing peak-time program content with new content for younger audiences with 5pump. Huw was also responsible for investment in Enaid Coll (Lost Soul), the first computer game in the Welsh language. Today he is a consultant and digital strategist working with individuals, businesses and institutions to develop their digital activities. He is also the chairman of Gemau Cymru (Welsh Games), the body representing the computer games industry in Wales.

marshall.cymru / huwmar / yrawrgymraeg